Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

14 articles on this Page

ADGOFION AM HYN AC ARALL I

News
Cite
Share

ADGOFION AM HYN AC ARALL Gan Glanymor II. Fel yr addewais yn y benod flaenorol, ceisiaf ddarlunio ychydig o'm proflad yn y ddinas fawr, Chicago. Crybwyll- ais yn barod am John Pierce Jones a gyfarfyddais pan gyraeddais y. ddinas hono; ac efe ddaw yn gyntaf i'r llwy- fan. Da oedd genyf ei gyfarfod, gan mai efe oedd y Cymro cyntaf i mi ei weled ar ol cyraedd pen y daith, ac efe lwyddodd i roddi y gwaith cyntaf i mi yn y wlad hon, sef gweithio mewn "smelter" yn ei le ef am ychydig ddydd- iau. Fy ngwaith oedd hwylio berfa yn llawn o blwm toddedig. Yr oedd hyn tua diwedd Mehefin; yr ninsawdd tua cant o raddau yn y cysgod, a'r plwm toddedig tua mil o raddau yn y ferfa. Nid wyf yn cofio pa sawl siwrne oedd- wn yn wneyd mewn diwrnod, ond yr wyf yn coflo fod pibell ddwr wrth law, a mentraf ddweyd na fu gan yr hen bi- bell ddwr erioed well cwsmer; ac os gwir y dywediad fod gan y newydd- ddyfodiad bedwar corn, credaf i mi golli un o honynt yr wythnos hono yn ngwres yr haul a'r plwm toddedig. Y nos Sul cyntaf, aethym i'r capel Cym- reig. Y Parch. Dafydd Harris oedd y gweinidog, a'r cerddor galluog, John P. Jones, yn arweinydd y gan. Yno cef- ais adnabyddiaeth ag un o Gymry mwy- af adnabyddus Chicago yr adeg hono, sef John H. Jones, yr hwn oedd un o brif oruchwylwyr y gwaith dur newydd oedd yn cael ei adeiladu yn South Chi- cago, deuddeg milldir o ganol y dref. Bu Mr. Jones mor garedig a'm gwa- hodd i ddod yno i weithio, os dymun- wn, a'r dydd canlynol, troais fy ngwy- neb tuag yno, a chefais dderbyniad croesawus yn nhy ei frawd, Mr. David H. Jones a'r teulu, gyda'r rhai y gwnaethym fy nghartref am tua blwydd- yn. Yr oedd yno amryw o Gymry yn lletya, sef David Ricket, Watertown; Hugh Jones, Randolph; Richard Parry, Chicago; John Jones, brawd i'r diwedd- ar Thomas Jerman Jones, y cenadwr; Robert Williams, Llanrwst; Owen Owens, Lerpwl, a William Roberts, Col- wyn Bay; yr oil o'r rhai yna yn seiri meini; Wm. Price Jones, R. H. Jones, Richard Jones a'r ysgrifenydd yn dylyn gwahanol oruchwylion. Feallai nad allan o le yn y fan hon fyddai gwibio yn ol am ychydig amser i'r hen ardal lie fy magwyd, er galluogi y darllenydd i ddirnad sefyllfa un o'n bath yn gwynabu ar waith hollol an- nghynefin, a dipyg ystyriaeth, os nad hefyd diffyg cydymdeimlad, rhai swydd- ogion tuag at rai felly. Ychydig o brofiad gefais fel gweith- iwr cyn gadael cartref.. Meddyliodd fy nhad wneuthur teiliwr o honof, ac yr oeddwn inau yn eithaf boddlon iddo gynyg. Gosododd fl yn llaw William Roberts, teiliwr; ond nid oedd fy aelod- au wedi eu bwriadu i blethu fel edau gyfrodedd, a rhai o'r merched yn fy nychryn trwy ddweyd y buasai fy nghoesau yn siwr o fyned yn geimion. Leining llawes cot oedd y darn cyn- taf i mi gael ymosod arno gyda'r nod- wydd a'r edau, a leining llawes cot oedd y i darn diweddaf i mi spoilio wedi bod yn deiliwr am fi.s O'r diwedd, dy- wedodd Wm. Roberts (ieuanc) wrthyf am fyned i gythgam, chwedl Inufex. Ar ddiwedd streic 1874, bum yn llwyddianus i gael myned i'r chwarel i ddysgu gwaith chwarelwr; ond rhaid i mi gyfaddef nad oedd fy ffydd yn gret y deuwn byth yn chwarelwr mednis. Feallai mai diffyg sel at y gwaith hwnw barodd i mi feddwl felly. Wedi rhyw dair blynedd o chwareu chwarel- wr, daeth cyfle i mi gael gwared o hono. Daeth yn amser gwan yn y chwarel, ac amddifadwyd canoedd o fechgyn o 20ain i 22ain oed o'u gwaith. Yr oeddwn yn islaw yr oed, ac felly yn gadwedig, ond yr oedd fy mrawd, Tom, yn un o'r anffodusion; aethym at Mor- ris Davies i ofyn iddo fod mor garedig q fy nhroi i ffwrdd yn lie Tom; a chan fod Morris Davies yn meddwl yn fawr o honof bob amser, cefais fy nymun- iad. Mae ambell un yn cael clod am rywbeth ymddengys yn debyg i aberth, ond sicrhaf y darllenydd nad oeddwn i yn haeddu clod am yr aberth hono Wedi ychydig seibiant gorfodol, gadew. ais yr hen ardal, a daw fy ad'gof yn ol i South Chicago i ymberffeithio fel gweithiwr gyda'r ychydig broflad gefais fel teiliwr a chwarelwr. Y gwaith cyntaf gefais gan Dafydd H. Jones, yr hwn oedd yn swyddog o dan ei frawd, J. H. Jones, oedd helpu Gwyddel i gymysgu mortar, a phan wel- odd y boss fy mod yn dod yn mln yn lied dda gyda'r gwaith hwnw, meddyl- iodd roddi dyrchafiad i mi, sef cario yr hod i fyny yr ysgol (tua pump Hath o ddyrchafiad). Dywedais yn wylaidd wrtho nad oeddwn yn teimlo y gallwn lanw y swydd hono. "Wel," meddai D. H., "rhaid i chi ddysgu pob peth yn y wlad yma"; ac ychwanegai, "Peidiwch a rhoi gormod o fortar yn yr hod ar y dechreu." Meddyliais, feallai ei fod yn bwriadu gwneyd saer maen o honof cyn y diwedd. Dichon i mi lanw yr hod yn ormodol, a chefais dipyn o drafferth i gyraedd at waelod yr ysgol, o herwydd fod y pen uchaf i mi yn rhy drwm i'r rhan isaf o'm corff. Dygwyddai fod dau Swede mawr wrth waelod yr ysgol yn symud ceryg. Cych- wynais i fyny yr ysgol, yn benderfynol o gyraedd y pen, a llwyddais i wneuth- ur hyny, ond nid felly yr hod a'i llwyth o fortar; aeth hono dros fy ysgwydd, a chwympodd oddiwrth "ris" yn ymyl buddug-oliaeth, ac nid fy mai i oedd fod y ddau Swede mawr yn dygwydd bod yn sefyll yn union lie y disgynodd y llwyth mortar. Fy nghosb am fy afler- wch oedd cael fy narostwng bum llath, am dymor o leiaf. Yr oedd amryw o Gymry yn swyddog- ion yn y gwaith, heblaw y rhai a enwais. Yr oedd Wm. U. Jones, brawd J. H.; John H. (ieuanc), a John Hughes; yr oil o Sir Fon. 0 dan eu gofal hwynt yr oedd y gwaith maen a'r priddfeini. Mr. Beynan, o Dde CyCmru, oedd y prif oruchwyliwr ar adran yr haiarn; dich- on fod eraill o Gymry yn swyddogion o dano nad wyf yn cofio. Gweithiais o dan yr oil o enwais, oddigerth Mr. Beynon; ond nid oes genyf gof i mi gael yr un ffafr yn y gwaith a dweyd y lleiaf; ac oni bae am bethau o'r tu allan i'r gwaith, ni fuaswn yn colli am- ser i son am South Chicago. Dygwyddodd un amgylchiad difrifol yn y gwaith pan oeddwn yn gweithio yno. Yr oedd wedi gwneyd storm fawr un noson nes didoi rhanau o'r adeilad- au, a'r dydd canlynol, yr oedd nifer o ddynion gyda rhaffau a pholion yn cêis- io cadw y muriau rhag cwymp, ond yr oedd y gwynt yn drech na hwynt. Daeth y muriau i lawr am eu penau a chladdwyd rhai o'r dynion o danynt, ac er mawr ofid i'r Cymry, y prif oruch- wyliwr, John H. Jones, oedd un o hon- ynt. Cludwyd ef yn anwybodol i dy ei frawd, Dafydd H., lie y bu farw yn mhen ychydig ddyddiau. Ni annghof- iwyf y dygwyddiad hwnw, gan mai John Hughes a minau oedd y rhai cyntaf i ddadorchuddio ei gorff briwedig o ganol y galanasdra. +»»

NODION 0 WLAD Y PALMWYDD I

Advertising

LONG CREEK, IOWAI

Advertising

[No title]

YMOFYNIAD I

Y M 0 F Y N I A DI

Y N E IS I E U .. I

YMOFYNIAD I

Advertising

YMOFYNIAD

PHOENIX, ARIZONAI

Advertising