Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

NEW YORK A VERMONT. I

Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share

NEW YORK A VERMONT. UTICA, N. Y., Rhagfyr 17, 1919.— Peidier ag annghofio ar un cyfrif mai y Parch. John Isaac Hughes yw goruch- wyliwr y "Drych" a'r "Cyfaill" yn Utica. -Derbyniwyd $10 o rodd at Gartref Newydd y Cymry yn Utica oddiwrth Thomas Llewelyn Owen, Irvington-on- Hudson, a dymunwn gymell Cymry er- aill ar hyd y wlad i gynortnwyo yr achos da. —Cynelir cyfarfod blynyddol Cym- deithas Gynorthwyol Gwragedd Moriah, nos Fercher, lonawr 14, iy20. Etholir swyddogion, a thrinir trafodaethau er- aill. -Blin genym ddeall fod Mr. William H. Jones, 13 Clarke Place, yn yr Homeo- pathic Hospital er's yn agos i bythef- nos, ond mae yn gysur i'w deulu ac i ninau ei fod yn gwella yn foddhaol. —Derbyniodd Mr. Thomas H. Jones, 1531 Neilson St., y newydd galarus am farwolaeth ei anwyl chwaer yn Con- nah's Quay, Sir Fliint, G. C., ac njae iddo gydymdeimlad yn y brofedigaeth. —Bydd cyfarfod nos Sul nesaf yn Moriah o dan nawdd y Gymdeithas Ym- drechol, a dan arweiniad y llywydd, Owen Gwilym Jones. Ceir anerchiadau ganddo ef a'r gweinidog ar genadwri Nadolig, ac ysbryd Nadolig. Ceir cerddoriaeth gyfaddas. Dymunir ar i aelodau y Gymdeithas gyfarfod yn yr is-ystafell am 7:20, fel ag i fyned i mewn gyda'u gilydd i seddau cadw. —Cynaliodd swyddogion y Cymreig- yddion gyfarfod nos Sadwrn i drill. tra- fodaeth yr Eisteddfod Calan, a hysbysid fod yr argoelion yn addawol am gyfar- fodydd llwyddianus. Bydd yno gystad- leuaeth dda yn yr adranau cerddorol a llenyddol, a dysgwylir y cedwir i fyny y safon gerddorol. Bydd cadeirio y bardd yn newyddbeth eleni. Y Parch. W. Surdival, yr Archdderwydd Ameri- canaidd, fydd yn cyflawni y ddefod. Y mae pwyllgor wrthi yn prynu y gadair. —Yr wythnos ddiweddaf, gwnaed apel at Gymry yr ardal yn y wlad hon am danysgrifiad o'r "Drych" i lyfrfa Ebenezer, Cwmyglo, G. C., sef $3.50, ac yn ddioed dyma $3.50 i law Humphrey Griffiths, 1301 Seymour Avenue, Utica, N. Y., i dalu am dano am flwyddyn oddi- wrth y Parch. John Rhiwen Williams, Kingston, Pa. Dyna dro gwerth ei gan- mol, a diolchwn i Mr. Williams yn gynes ar ran y "Drych," y Llyfrfa, a Humphrey Griffiths. Y mae yma le i bobl o foddion i helpu Cymry cyfyng arnynt. Y Diweddar John D. Jones I Nos Fercher, Rhagfyr 10, bu farw John D. Jones, 128 Eagle Street, ar ol cystudd maith dan anhwylder y chwy- sigen. Ni aeth yn ddrwg hyd o fewn 10 niwrnod i'w farwolaeth, pan y sy- mudwyd ef i ysbyty i fyned dan drin- iaeth, lie y bu farw. Treuliodd lawer Y Diweddar John D. Jones I o flynyddoedd ar y mor, ac ymwelodd a phob rhan o'r byd. Genwyd ef yn Towyn, G. C., Medi 13, 1848, yn fab i Dafydd ac Elizabeth Jones. Cyn ei fod yn 12 oed, yr oedd yn gadanwr ar fwrdd Hong; ac yn ystod yr amser y bu yn forwr, cafodd brofiad amrywiol. Yn 1867, gadawodd y mor, a dychwelodd i Gymru, lie y dysgodd yr alwedigaeth o baentiwr gan ei ewythr, Ifan M. Jones, yn Mhontfaen, D. C. Oddiyno aeth i Loegr am beth amser, ac yn ddiweddaf, croesodd i'r wlad hon. Daeth i America yn Mai 10, 1871, ac ar ol aros yn New York a Scranton, Pa., am flwyddyn neu ddwy, cyraeddodd Utica, lie yr aeth i weithio i George Bullock, ac yn mhen dwy flynedd, aeth i San Francisco, lie y gweithiodd am saith mis ar y Pilace .Hotel. Yna dy- chwelodd i Utica. Yr oedd Mr. Jones yn weithiwr medr- us a gonest, a gofynai pobl am dano yn arbenig pan am waith da. Cafodd gryn brofiad mewn paentio clochdai eglwysi, a phaentiodd glochdy Westminster, a chynorthwyodd i godi y groes ar bigdwr eglwys Grace. Hefyd, paentiodd gloch- dy eglwys Tabernacl droion, ac eg1- lwysi eraill. Yr oedd yn aelod o un- deb y paentwyr, Lleol, Rhif 89. Mewn gwleidyddiaeth, Gwerinwr yd- oedd. Yn 1875, ymunodd a Chymdeith- as yr Iforiaid, a gwasanaethodd fel llywydd ac is-swyddau eraill. Yn 1873, daeth yn aelod o eglwys Bethesda (A); ac oddiar 1890, yr oedd yn un o'r ym- ddiriedolwyr. Nid oedd neb yn mhlith Cymry Utica yn fwy adnabyddus na John D. Jones. Aeth yn ol i Gymru ar ymweliad yn 1881, ac eto yn 1891. Rhagfyr 3, 1873, ymbriododd ag Eliza- beth Ann Ellis, yr hon a adewir. Ei frawd oedd Wm. Hughes Jones, o gwm- ni argraffu y Cymric, yr hwn a fu farw flynyddau yn ol. Cyfarfod y Daflen Cyfarfod hynod ddyddorol oedd yn eg- Iwys Bethesda (A.), nos Sul, i'r hwn y daeth tyrfa nes llanw y lle. Yr achlys- ur oedd dadlenu y daflen er cof ac an- rhydedd i'r 60 o'r glewion fuont yn ngwasanaeth y wlad hon a'r Hen; en- wau y rhai sydd arni er coffa sylwedd- ol am danynt, ac yn eu plith un ferch, Miss Jennie E. Jones, nyrs berthynol i'r Groes Goch. Gwasanaethodd 37 o dan faner y Ser a'r Brithresi, a 22 dan faner Prydain Fawr; ac yr oedd llumanau y ddwy wlad yn amlwg iawn drwy'r adeil- ad. Rhoed enw y gweinidog hefyd ar y daflen, y Parch. J. Vincent Jones, D. D., fel cydnabyddiaeth o'r dyddordeb mawr a ^harhaus a gymerai yn y bechgyn ar yr ochr draw, ac ar ol eu dychweliad. Yr oedd rhaglen daclus wedi ei pharo- toi erbyn y cyfarfod, a rhagymadrodd yn rhoi bras hanes o gysylltiad yr eg- lwys a rhyfeloedd blaenorol-1812, 1861, 1898, yn ogystal a 1914. Yr oedd y gerddoriaeth dan ofal John Howell Rees a Mrs. Florence Pierce Jones yn cyfeilio i'r oil. Yn nghanol y gweithrediadau gwnaeth Mr. Jones sylwadau addas i'r amgylchiad, a mwyn- hawyd yr oil o'r cyfarfod yn fawr gan y cynulliad. Yr oedd y rhaglen fel y canlyn: Rhag-gerdd ar yr organ; mawlgan; emyn, "Onward, Christian Soldiers"; darlleniad o'r Ysgrythyr; emyn, "Our Country"; emyn, "House of Brother- hood"; unawd, Miss Edith Jones; ad- roddiad, Miss Olwen Evans; can (ar eiriau o'i waith ei hun i'r amgylchiad), W. S. Roberts; anerchiad gan y gwein- idog; emyn, "Er Cof am Danynt" (In- dex) dadleniad y daflen, Miss Jennie E. Jones (y nyrs); emyn, "America"; cydnabyddiaeth ar ran y bechgyn, Jos- eph G. Williams; pedwarawd dwbl: Miss Nellie Williams, Mrs. A. L. Kim- ball, Miss Blodwen Roberts, Miss Kate Williams, Thoipes G. Jones, Owen D. Jones, Arthur Jones, R. J. Lewis; unt, awd, Ted Lloyd; emyn; y fendith. Y mae y daflen yn ddarn coffa hardd, ac yn waith celfydd, ac yn ychwaneg- iad at brydferthwch y tu mewn i'r capel. Costiodd $300, a thalwyd am dani drwy gasgliad a chyfraniadau. Remsen, N. Y. I Derbyniwyd y newydd am farwolaeth l Edwin Thomas, un o ddinasyddion par- chus Remsen, yn 84 oed, yr hwn a fu f farw, Rhagfyr 14. Ganwyd ef yn 1835. yn y rhan o'r plwyf a elwir yn Ninety- Six. Gweithiodd ar dyddyn ei dad hyd yn 26 oed, ac yna gyda'i ewythr, Didym- us Thomas. Yn 1861, ymunodd a'r fydd- in, ac aeth i'r De, a dyrchafwyd ef yn "sergeant." Ar ol bod yn y rhyfel am chwe mis, cafodd niweidiau difrifol, yr hyn a barodd ei ddychweliad adref. Cymerodd rhan yn mrwydr Fredericks- burg. Ar ol dychwelyd, bu yn analluog i ddylyn ei alwedigaeth am dros flwydd- yn a haner. Treuliodd beth amser yn Michigan a Chaliffornia, a tua dechreu y ganrif hon, cymerodd fferm yn Bard- well, ger Remsen, lie yr arosodd am saith mlynedd. Hydref, 1911. symudodd i Remsen. Democrat oedd hyd i Bryan ddechreu ei arian rhydd, pan y trodd yn Werin- wr, ac arosodd yn y blaid. Yr oedd yn ddarllenwr mawr, a chymerai ddyddor- deb annghyffredin yn y rhyfel a Ger- mani. Yr oedd yn ddyn o allu mwy na'r cyffredin. Gedy un ferch, Mrs. George H. Milgate, Remsen. Mawrth, 1875, ym- briododd a Miss Mary Ann Wilkins, yr hon a fu farw, lonawr 8, 1889. New Hartford, N. Y. I Cafwyd pregeth hwyliog gan Dr. Da- vies yn Seion nawn Sabboth. Pasiwyd yn yr Ysgol Sul i gael pren Nadolig nos Lun cyn Nadolig, pryd y dysgwylir cael cyfarfod hwyliog mewn canu ac adrodd. Gwnawd elw da oddiwrth y "min- strels concert" a gynaliwyd yn Butler Hall. Yr oedd yn wir dda; talentau lleol oeddynt, megys Robert Jones, mab y diweddar Benjamin Jones, Frankfort, ac eraill, a diolch i'r cyfeillion am roddi eu gwasanaeth yn rhad. Collodd eglwys Seion un aelod yn marwolaeth Robert Edwards, Oxford Rd., Rhagfyr 9, ar ol ond dau ddiwrnod o gystudd, yn nghartref J. V. H. Sco- ville, yr hwn y bu yn ei wasanaeth am 43 mlynedd. Dyna amser maith wrth edrych yn mlaen, ond yr oedd yr hen frawd, Scoville, yn teimlo fod yr amser wedi myned yn gyflym wrth edrych yn ol. Ganwyd Robert Edwards, Mehefln 4, 1840, yn agos i Llangerniw, G. C. Ymfudodd i'r wlad hon, Mai, 1872, ac aeth i Wisconsin, lie y bu am ddwy flynedd; yna daeth yn ol i Paris Hill i wasanaeth Mr. Scoville, yr^ hwn oedd yn byw ar yr Hill y pryd hwnw. Cladd- wyd Mr. Edwards brydnawn ddydd Gwener yn Forest Hill Cemetery, yn nghladdle y teulu. Gweinyddwyd yn y ty ac wrth y bedd gan Dr. John Davies. Brydnawn Sabboth nesaf, bydd cyfar- fod neillduol y Gymdeithas Ymdrechol, pryd y bydd canu ac anerchiadau ar y testyn gosodedig. Gadewch i ni roddi cefnogaeth i'r Gymdeithas hon trwy roddi ein presenoldeb.—E. W. Morris. PLANT "BAND OF HOPE" EGLWYS MORIAH I Darlun ydyw yr uchod o blant "Band of Hope" eglwys Moriah, yn nghyd a'u hathrawon, yn-Nghoed y De, yn mwyn- hau eu hunain ar derfyn tymor o lafur caled y gauaf a'r gwanwyn diweddaf. Mae y plant anwyl hyn wedi ein dydd- ori droiau gyda'u canu swynol, ac mewn adrodd ac actio; wedi perfformio rhai o'r cantatau mwyaf prydferth a chlas- urol; ac nid annghofiwn yn fuan eu per- fformiad o'r "Heirs of Liberty," ddech- reu yr haf diweddaf, pan yr oedd pob gwlad yn cael ei chynrychioli, ac yn dadgan eu llawenydd am fod heddwch wedi dod i'w gwledydd, a Mrs. D. Mor- gan Richards, fel "Brenines Rhyddid," yn eu gwahodd oil i ymrestru o dan ei baner hi. Gwnaeth y chwaer anwyl hon waith anmhrisiadwy gyda'r plant hyn, a choll- ed fawr oedd ei cholli o Moriah. Eidd- unwn iddi yr un llwyddiant gyda phlant New York. Mae yn mryd yr athrawon a'r plant hyn gynal cyngerdd nos Nadolig yn Thorn Memorial Chapel (Tabernacle Church).Clarke" Place a King streets, pryd y perfformir cantata amserol, sef "Santa Claus at Miss Prim's," a haedd ant ein cefnogaeth lwyraf, oblegid maent wedi rhoddi eu gwasanaeth yn rhad i ni hyd yn hyn; a dyma y waith gyntaf iddynt godi tal, ac nid ydyw end haner doler. Hyderaf y gwnawn ni fel cenedl ddangos ein gwerthfawrogiad o'u Ilafur drwy roddi ein presenoldeb yn y cyngerdd hwn, afctfeeimlaf yn hyderus y cawn dal da am fyned yno. Ffortunus iawn ydyw y cor eu bod wedi sicrhau gwasanaeth Miss Olwen Williams i lanw y bwlch adawodd Mrs. Richards ar ei hoi, ac y mae yn galon- did ei gweled yn taflu ei hun i'r gwaith mor ddeheuig. Arweinyddion y cor ydynt David Jones a William R. Griffiths, y ddau yn cydweithio er llwyddiant y Gymdeithas. David Jones fydd yn arwaiif y plant yn y cantata nos Nadolig, a bydd William R. Griffith yn ceisio efelychu "Santa Claus"; Miss Anna Lloyd Davies fydd Miss Prim, yr ysgolfeistres; a'r cymer- iadau eraill yn cael eu hactio gan aelod- au y Gymdeithas, tua 80 mewn nifer. Gellir desgrifio cynllun y cantata yn debyg i hyn: Mae Miss Prim, yr ysgol- teistres, yn erbyn y drvchfeddwl o San- ta Claus, ac ar nos cyn y Nadolig, mae y pontydd wedi eu chwythu i lawr fel nad allai y plant fyned at eu rhieni i dreulio y Gwyliau; o ganlyniad, maent ar ddwylaw Miss Prim. Mae yn gwa- hardd yr ysgoleigion hynaf rhag son am Santa Claus. Mae yr ysgoleigion yn cyfarfod yn yr ysgoldy i brotestio yn erbyn difodi yr Hen Santa, ac i erfyn am ei ddychweliad. Dygir i mewn i'r ysgol fachgen bach carpiog (John Haydfti Jones) sydd yn gwerthu newydd- iaduron. Canfydda yn mhen amser fod Miss Prim yn fodryb iddo. Mae y "Spirit of Love" (Dilys Jones) yn dy- lanwadu ar serchiadau Miss Prim fel y mae hi yn methu yn lan ag egluro ffugioldeb Santa Claus. Yn ei dyryswch, y mae Santa Claus yn ymddangos iddi, ac yn ei ffordd ei hun yn egluro pobpeth i'w llwyr fodd- lonrwydd; yna llawenydd a hoewder sydd yn teyrnasu. Mae Miss Prim yn hysbysu y plant fod y pontydd wedi eu hadgyweirio, ac y cant fyned i'w car- trefi foreu tranoeth; ac wedi i Santa gyngori y rhieni a'r plant, daw yr h i derfyn. Mae y cantata yn un amserol a c orol i bob oed; ac nid oes gwell fi i dreulio nos Nadolig na thrwy f i glywed y cantata dan sylw. Helyntion Holland Patent, N. x Rhagfyr 15, 1919.-Dyma y flwy 1919 ar derfynu, a miliynau lawer cael eu cario ymaith gyda hi, a 1L o gyfeillion anwyl iawn genym y plith; a ninau wedi ein gadael hy hyn, a gallwn dystio fod Haw dyne Duw wedi bod yn gofalu am danom cam o'r ffordd, ac yr ydym, er wedi yn wanaidd o ran iechyd, eto ge dystio ei bod yn oleu ddydd "lie b byddo yr Iesu." Y mae Efe wedi a( bod gyda y rhai sydd a'u holl oi ynddo Ef. Nid oes arnom ofn m i lawr i'r glyn gydag Ef. Y Sabboth, yr oedd y Parch. I Hughes, New York Mills, yma yn gethu. Yn eglwys yr M. E. yn York Mills y mae yn aelod er's yddoedd, ond yn achlysurol byd( pregethu yn Gymraeg. Nid oe( wedi ei weled er's amser maith, a < oedd genym fethu bod yn breseno. mae yma lawer yn wael. ac eraill myned ymaith. Bychan oedd y gy eidfa, eto cawsant gyfarfodydd da. wodd Mr. Hughes i'n gweled, a da oedd genym ysgwyd Haw yn gyn< dymunwn i fendith Duw fod gyda yn ei waith, a hyderwn gael ei gl: eto, pan ddaw y tro nesaf. Yr oedd yn dda genym gyfarf Mrs. John D. Jones, Waterville, parti fu yma. Cyfeilles anwyl gc yw Mrs. Jones, pan oeddem yn by y bryn yn agos i Whitesboro. Bj yn talu ymweUad a ni yn ami. Yr hithau yn aros yn Whitesboro. Y yn chwaer i Mrs. Henry Evans a Evan R. Evans sydd yn byw Hefyd yn chwaer i'r cerddor, Wn Edwards, Marcy. Yr oedd wedi dy weled ei brawd, Wm. O. Edwards. genym ddeall fod ein hanwyl gy Mr. Edwards, yn gwella. Bu ein bachgen anwyl, R. D. Spe Utica, yma i'n gweled un prydnaw llongyfarch ar ein 82fed birtl Diolch yn fawr iddo am ei ofal a'i iad tuag atom. Y mae ein hanwyl ffrynd, Mrs. 1 Ann Williams, Kemble St., Utica, myned adref ar ol bod yn aros am v. nosau gyda ein hanwyl chwaer, ] Mary Davies. Yr oedd yn ddrw:* i: genym ei bod mor gloff, yn methu n (Parhad ar Tudalen 8"

Advertising