Hide Articles List

7 articles on this Page

Advertising

[No title]

BARN IANCI AM LLOYD GEORGE_I

NODION 0 NEW YORK, N. Y. I

[No title]

[No title]

NOBION PERSONOL I :

News
Cite
Share

NOBION PERSONOL I Cofled pobl Canada, Cymru, a'r holl wledydd tramor, y bydd y "Drych" yn $3.50 yn dechreu Ionawr ltaf, 1920, a $3.00 yn yr Unol Dalaethau. Bydded i'r holl ol-ddyledwyr ofalu am gael dalen lan i ddechreu'r flwyddyn newydd, neu mae genym ofn na fydd i'r "Drych" ym- weled a hwy. Y Proff. George Marks Evans, Shamo- kin, Pa., sydd wedi ei benodi yn feirn- iad y gerddoriaeth yn Eisteddfod New York, ddydd geni Lincoln, 1920. Llusern fad i gredadyn-yw adnod Annghydnaws a'r cyndyn; A thyst i haul ei thestyn, Goreu Duw i garu dyn. âDavid D. Jones, Red Granite, Wis. Business address R. J. Williams, Van- couver, B. C., yw 309 Crown Bldg., Pen- der St. Bydd yn dda ganddo i'w gyfeill- ion goflo hyn. Ni chredwn fod yr englyn a ganlyn yn iawn yn ngolwg y beirniaid, ond sicr yw genym ei fod yn talu yn well i ni na llawer o honynt: Wele fi eto yn anfon tri dolar-am y "Drych," Rhy drech yw bod hebddo; Pe bau'n ddau dri doler am dro Fe dalwn doed a ddelo. âMrs. Eliz. T. Evans, Jackson, 0. A ganlyn a geir yn y "Cymro": Er gwaethaf y colledion, y mae perchenog y "Drych" am gario'r papyr yn mlaen, ond am godi ei bris a'i wneyd yn ddwy- ieithog. Mae yn debyg y bydd y "Cam- brian" yn myned i ffordd yr holl ddaear, a rhai o'i nodweddion yn cael eu cadw yn y "Drych." (Nid y bwriad yw ei wneyd yn llawer o ddwyieithog. Feallai y rhoddwn dipyn o Seisneg, fel "hufen rhew," i'r plant.âGol.). Y mae yn llawen iawn genym gael y fraint a'r cyfleusdra o roi i'n darllen- wyr y tro hwn, ddarlun o'n gohebydd doniol ac Ysgrythyrol, D. P. Price, El- gin, 111. Cymerwyd y darlun dro yn ol, pan yr oedd yn 90 a chwe diwrnod oed; a hyderwn y cawn ei gymorth i lanw y "Drych" eto am flynyddau. Y mae efe o dras y patriarchiaid. Am haner dydd Sadwrn, Tachwedd 29, yn nghartref rhieni y briodferch, Mr. a Mrs. Dan O. Evans, Venedocia, Ohio, y Parch. R. -4. Williams, M. A., yn gweinyddu, unwyd mewn glan briodas, Miss Cora Lee Evans a Mr. Abner C. Jones, Chicago, 111. Gwnant eu cartref yn y dyfodol yn 2859 Warren Ave., Chi- cago. Derbyniasant anrhegion gwerth- fawr, a dechreuant eu gyrfa briodasol gyda dymuniadau goreu eu lluaws cyf- eillion. Ddechreu 1920, yr ydym am ddechreu o'r newydd eto gyda Phwlpud y "Drych." Di-lewyrch ac anniben. fu drwy 1919, o herwydd anewyllysgarwch y brodyr i gynorthwyo gydag ef. Ych- ydig o gyhoeddiadau gawsom, a hyny drwy lawer o gymell. T. J. a deimla fel llongyfarch y cyf- aill Talnedd ar ei gyfaddefiad yn y "Drych" diweddaf. Llonder meddwl i'r rhai a'i adwaena yn y blynyddoedd gynt oedd gair oddiwrtho, a dymuna T. J. bob cysur iddo ef a'i deulu. Y cyfaill goreu gawsom i'r Pwlpud yn ystod y flwyddyn sydd ar fyned heibio yw y Parch. A. L. Rowe, Nanti- coke, Pa. Daeth efe amryw droiau heb ei gymell, ac y mae y "Drych" yn ddi- olchgar iddo, ac yn ei osod i fyny fel siampl i eraill. Gogleisiwyd ni gan gerdyn hardd oddiwrth Gor Glyndwr, y Mountain Ash Welsh Male Concert Choir, yn dymuno i ni Nadolig LlaweD a Blwyddyn New- ydd Dda. Dymunwn ninau Nadolig Llawen i bawb o'n darllenwyr, a ben- thycwyr y "Drych." Yr ydym yn parhau o hyd i gael cwynion o hen Gymry a hen Gymraesau yn ymadael a'n byd heb air o gofiant, a hyny o ardgioedd lie y mae defnydd- iau gohebu. Nid yw hyn yn deilwng. Y mae y Gol. yn brysur iawn bob dydd a thrwy y dydd, ac eto gwna gryn lawer o hyn o garedigrwydd dros bobl eraill. Carem gael mwy o Gymraeg yn y Gymraeg. Y mae cryn lawer o Seisneg yn ymlusgo i fewn i ohebiaethau rhai go selog dros yr hen iaith. Ohebwyr, myn- wch eiriaduron Seisneg a Chymraeg. Ni chostiant ond ychydig; a bydd yn arbediad llafur i ni yma. Yn ystod ei absenoldeb yn Slating- ton, Pa., yn angladd ei nain, Mrs. Wil- liams Jones, y gwelwyd ei darlun a rhai o aelodau y teulu yn y "Drych," aeth ei eglwys yn Venedocia, Ohio, ati i godi cyflog ei gweinidog, y Parch. R. J. Wil- liams, i $2000, yn nghyd a'r persondy yn rhad. Y mae yn mryd Mr. E. Parry, 8 More- ton Road, Caergybi, G. C., i roi tro drwy y Talaethau, o New York i San Francis- co, gan ddarlithio yn Gymraeg a Seis- neg. A oes rhywun neu rywrai ar yr ochr hon yn trefnu teithiau o'r fath? A illai rhyw Gymro ei gyfarwyddo a'i gynorthwyo? Ysgrifena un o'n gohebwyr atom gan amgau gohebiaeth ddyddorol. Gan ei fod wedi ei gau gan dipyn o anhwyl- der, aeth ati i helpu i ddifyru darllen- wvr v "Drych." Dyna y bechgyn wna y byd yn lie gwerth i fyw ynddo. Sal neu iach, y maent o ryw wasanaeth. Diolch iddo. Pan aeth y son allan ar led fod y "Drych" yn gwla, cyffrodd ei gyfeillion yn mhob parth o'r byd, ac yn eu plith, y Parch. M. B. Morris, 212 Daisy St., Clarksburg, W. Va., yr hwn a ddywed ei fod yn ffrynd iddo er's 52 o flynydd- au, ac amgaua $3 am 1920. Byddai yn drychineb, ebe efe, iddo farw! Dymuna iddo flwyddyn newydd dda. Cor Glyndwr Parhau i enill clod a bri y mae Cor Glyndwr ar eu taith drwy Dalaethau y Dwyrain, ac yn fynych cant ddwy noson yn yr un ardal. Fel hyn y ceir yn y "Lewiston Evening Journal" am ei gampau cerddol yn y Lewiston City Hall; a dechrua drwy ddweyd fod pawb na chlywsant y cor, wedi colli y wledd oreu gawsant erioed. Ca yr arweinydd, Glyndwr Richards, air arbenig, fel tad gyda'i blant, o her- wydd ei sirioldeb a'i hynawsedd. Efe, yw adeiladydd y cor, a'i waith ef ydynt, ac y maent yn gynyrch ei ofal a'i allu. Dywed fod pob un o'r cor yn unawdydd, a chanant yn unawdau, yn ddeuawdau, triawdau, ac yn y cor. Rhodda ganmol- iaeth odidog iddynt fel cor, fel cyfan- gorff o leisiau dan berffaith reolaeth. Y mae eu dull o ganu yn gelfydd i raddau uchel iawn. Y mae y modd y gweithiant allan y cymeriadau,ây cres- cendos a'r diminuendos,âyn rhoddi y boddlonrwydd uchaf, ac y mae y gymer- adwyaeth yn gydnabyddiaeth o'u camp- au goruchel. Glowyr ydynt; y maent wedi bod yn filwyr, ac yn ngwasanaeth eu gwlad, a nifer wedi bod yn y ffrynt; rhal gyda'r Welsh Fusileers, ac eraill gyda'r Welsh Guards. Ymladdodd rhai o honynt ochr yn ochr a'r bechgyn Americanaidd. Cofiwch Gymry, dyma gyfle eich by- wyd i wrando ar ganu mor berffaith ag a glywch byth ar yr ochr hon i'r bedd. Y mae ganddynt amrywiaeth mawr o gerddi a chorawdau, a chanigau, ac un- awdau i foddio pob cenedl. Cor Mountain Ash ynl Granville, N. Y. Noson a hir gofir ar ddyffryn y Met- towee ydoedd nos Sadwrn, y 13 cyf., pryd y cafwyd yn y Pember Opera House wledd uwchraddol mewn cerddor- iaeth gan y meibion cerddgar uchod, yn cael eu harwain gan y Proff. T. Glyn- dwr Richards. Mawr oedd ein dysgwyl- iad am wyr Morganwg i'n plith, o her- wydd da y gwyddwn am eu clodydd a'u cariad at gerddoriaeth; rhai o honom wedi cael y fraint o fyw am flynyddau yn eu plith, ac yn hiraethu am gael eto am unwaith weled gwynebau hawddgar "Marchogion y Fandrel," a phair hyf- rydwch nid bychan i ni i'w cymeradwyo i'r holl Dalaethau ar eu hymweliad eto a'n gwlad, fel y cyfuniad perffeithiaf o leisiau gwrywaidd, ac un o'r esiamplau dysgleiriaf o'r hyn all dysgyblaeth ddi- wyro arweinydd medrus ei ddwyn oddi- amgylch. Fel y sylwyd, arweinid hwy gan y Proff. T. Glyndwr Richards, gwr ag y gellir dweyd gyda llawer o briod- oldeb, sydd a'i enw. yn enw teuluaidd. ac anwyl ar bob aelwyd Gymreig drwy Brydain, a hyny ar gyfrif ei gynieriad llachar, yn nghyd a'i allu a'i lwyddiant fel cerddor ac arweinydd corawl; ac ni phetruswn ei gyflwyno i sylw y wlad fel un a ddeil i'w gydmaru yn foddhaol a goreuon arweinwyr cerddorol y byd, a dywed ein profiad mai "yr hyn a wydd- om yr ydym yn ei dystiolaethu." Cyf- eiliwyd yn dra medrus gan y Proff. Wm. Evans, L. R. A. M., L. L. R. C. M., yn- tau yn engraifft odidog o'r perffeith- rwydd a'r safle uchel y gellir ei chyr- aedd drwy ymdrech a dyfalbarhad. Agorwyd y cyngerdd drwy i'r cor roddi dadganiad meistrolgar o'r "Des- truction of Gaza," a chawsant y gymer- adwyaeth fwyaf byddarol, a bu raid iddynt ail-ganu. Yr unawdwyr hefyd. yn nghyd a'r oil, heb enwi neb, a wnaent eu gwaith mor ragorol fel y bu raid iddynt oil ail-ganu; a dygwyd y cyng- erdd i derfyn drwy i'r cor ei goroni a dadganiad o'r cydgan desgrifiadol, "Ty- rol," ac ymunodd y gynulleidfa ar y di- wedd i ganu yr anthemau cenedlaethol, Cymreig ac Americanaidd. Hefyd, y nos Sabboth dylynol, cynal- iodd y cor uchod gyngerdd cysegredig yn nghapel y Methodistiaid Calfinaidd, lie yr oedd cynulleidfa orlifol yn gwran- daw, a gwnaeth y bechgyn eu rhan yno hefyd yn fendigedig; ie, yn fendigedig a ddywedwn, o herwydd nis gallem lai na theimlo fod rhyw naws ysbrydol yn gorphwys yn esmwyth ar y gweithred- iadau, ac yr oedd eu dadganiad o'r "Delyn Aur" yn codi rhyw hiraeth yn ein calon, ac yn peri i'n hysbryd ateb yn ngeiriau Tanymarian: Os rhaid canu, gadewch i mi Daro tant eu telyn hwy, Yna ffarwel i bob canu Ond y canu hwnw mwy. Terfynwyd y cyngerdd hwn eto drwy i'r cor roddi dadganiad tra effeithiol o'r cydgan, "Martyrs of the Arena"; dad- ganiad eto a roddodd y boddlonrwydd Ilwyraf i bawb oedd yn gwrando, a chof- ier mai canu yr oeddynt i rai na wydd- ent am y dernyn, o herwydd yr oedd yn y gynulleidfa lawer o hen aelodau y cor hwnw a gurasant o dan arweiniad y Proff. Bob Roberts brif gorau y Talaeth- au mewn cystadleuaeth ar y dernyn hwn flynyddau yn ol yn Cleveland, Ohio. âGwlithyn. I Follansbee, W. Va. Bu farw John Matthews ar ol tri di- wrnod o gystudd caled. Nos Sadwrn, cafodd ei daro. ag ergyd o'r parlys, ac ni ddaeth ato ei hun, ac angeu a'i goddi- weddodd. Daeth i Follansbee pan gych- wynodd y gwaith. Genedigol oedd o Pontardulais, ac y mae ganddo frawd a chwaer yn Scranton, Pa.: Isaac Mat- thews a Mrs. Margaret Thomas. Gedy dri o blant, dwy ferch ac un bachgen: Mrs. Robert Russell, Rayland, Ohio, a Mrs. Robert Campbell, Shroudsville, 0.; hefyd un ferch yn yr Hen Wlad. Caw- som wylnos cyn yr angladd, pan y daeth ychydig yno i dalu y deyrnged olaf iddo fel yr arfer yn yr Hen Wlad, pan y darlienwyd rhan o Air Duw ac y can- wyd emynau Cymreig, ac yr aeth dau frawd i weddi. Aed a'r gweddillion i Shroudsville, lie y mae claddfa y teulu. Fy ngweddi yw am i'r Arglwydd fod yn gymorth i'r plant, y brawd a'r chwaer. -J. D. W.