Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
8 articles on this Page
Advertising
m 3Driecb, A WELSH WEEKLY ESTABLISHED 1851. Issued Every Thursday Morning Thomas J. Griffiths & SODS. UTICA, N. Y. IMPORTANT TO ADVERTISERS.—The Attention at business men in general 18 called 18 Y DRTCH as a superior adver- tising medium, being read by thousands who cannot be reached by any other pub- lication. It has a large circulation, with •ubseribem In every State and Territory at the Union, in Great Britain and the British Pppeadeneles. It Is the rwognliwl National Organ of the Welsh People.
WRTH FYNED HEIBIO I
WRTH FYNED HEIBIO I Gan Dr. Morien Mon Huws Ar daer gymelliad, gwelaf y dymun- ir i mi barhau gyda fy meddwl arlun- iau o genadon hedd Cymru a adwaen- wn ac a glywais pan ar ymweliadau ag yno. Yn y dyfodol, gan hyny, dyna gair genyf mewn amryw o rifynau, yn ol y drefnlen a ganlyn: Pregeth wyr daion- us; Sasiynau Llanerchymedd, Mon a Ffestiniog; Gwibdeithiau gydag Evan Roberts, y Diwygiwr; Cyfarfod rhyfedd yn Llangefni; Cyfarfod a "hoelion wyth" y Cyfundeb yn Aberdulais, yn Nghymdeithasfa y De; Y penau gwyn- ion; Dr. Thomas Rees, Cefn, Merthyr (cefnder ein Golygydd, Index); Dr. Thomas Levi; William Jones, Trefor- ris; Phillip Jones ac R. Salmon, Llan- sadwrn, &e. Mae IY rhan fwyaf o hon- ynt wedi eu coroni erbyn hyn. Dibynaf ar fy nodion helaeth a gymerais yn fy nyddlyfr ar y pryd, a chymorth cof cryf, wedi ei drwytho er yn foreu a'ricyfryw bethau. Yn gyntaf, dyna i chwi ar screen y "movies" meddyliol ac adgofiol hyn, Sassiwn yr Hen Gorff yn Llanerchy- medd, Sir Fon, tua phymtheg mlynedd yn ol. Gwelwch y pregethwr mwyaf poblogaidd oedd yno, a pharha felly. Onid yw yn ddyn ieuanc prydferth? Nid mynych y gwelir ei brydferthach o gorff, a phen "lovely" gyda'i fodrwyog wallt. Pwy yw? Y Parch. Thomas Charles Williams, gweinidog presenol y M. C. yn Menai Bridge; genedigol o Walchmai, Mon. Mae mor boblogaidd heddyw fel yr oedd cynulleidfa Dr. Jow- ett, yn Llundain, hen weinidog Fifth Avenue, New York, ag eisieu dau Sul ganddo. Rhoddodd iddynt un, a chad- wodd ei addewid gyda'r llall i fyned i fan gwledig yn ei Gymru Wen! Mae yn nai, yn fab chwaer i'r diwedd- ar Charlesiaid enwog o Walchmai. Bu ei dad, y Parch. Hugh Williams, Gwalch- mai, yn weinidog poblogaidd yn yr ynys am ddeugain mlynedd. Yr oedd yn heinyf hyd yn ddiweddar (mae wedi ei wobrwyo yn y nefoedd), a phregethai yn nghymydogaeth pedwar ugain bob Sabboth. Yr oeddym yn lletya yr un fan ag ef un nos Sadwrn, y pryd hwnw, gyda theulu caredig yn Uanfair-y-Borth. Cysgem gyda'n gilydd, a chydbregeth- asom y boreu Sabboth hwnw. Cefais y fraint o wrando arno, ac efe yn bregeth- wr fy maboed, a phregethodd yn wir ddyddorol fel arfer. Daliai afael fel gynt mewn pensil blwm fach yn nghil ei law, fel pe buasai eisieu marcio yr adnodau yn y Beibl arno wrth fyned yn mlaen gyda'i esbonio llithrig ac addysgiadol. Yr hen bregethwyr am dani i esbonio, onide? Gwnelai hyn pan oeddwn yn fachgen, ac yr oedd yn ychwanegiad lied bwysig at ei bresenoldeb pwlpud- ol i mi, ac edrych arno drwy lygaid bachgen. Yr oedd y Charlesiaid yn dipyn o berthynas i mi, sef brodyr ei wraig, a meibion yr enwog John Charles, ac yr oedd hyny yn peri i mi gymeryd mwy o sylw o hono. Dyna i chwi dad pregethwr mwyaf dawnus Cymru heddyw, set Thomas Charles Williams. Yr oedd yn ddigon poblogaidd i bregethu dair gwaith yn Sassiwn ei Sir ei hun, ac mewn ychydig filldiroedd o fan ei enedigaeth. Son am anrhydedd proffwyd yn ei wlad ei hun, yn wir! Y mae pobpeth sydd ganddo yn fanteisiol i'w bregethu; llais rhagor- ol (musical), person gwir hardd, addysg drwyadl, ymadroddwr hollol hwylus, fel I dwfr yn dyfod i lawr o bistyll; pregeth ffresh a gwir ddyddorol o ran mater; cyffelybiaethau cartrftfol, gwladol, ac hawdd eu gweled wrth droed dyn; iaith werinol i raddau, er llwyddo i gael gwell derbyniad i'w bregeth (plan rha- gorol), er ei fod yn M. A. o Elinburgh, ac yn ieithyddwr campus. Ganddo hefyd, ceir brwdfrydedd pregethwrol, neu "enthusiasm," chwedl Sionyn y Sais, er mai ychydig wyr efe am hyn, druan! Mewn gair, dyma bregethwr yn ngwir ystyr y gair yn yr oes berffeith- iedig hon. Ni chlywais ei gystal er dyddiau Owen Thomas, David Saunders, Edward Matthews, Henry Rees, John Thomas, Herber Evans, &c. Dyna res o gewri y pwlpud Cymreig! Clywch un o honynt yn rhoddi allan yr hen emyn efengylaidd: Deuwch hil syrthiedig Adda, Daeth y Jiwbil fawr o hedd; 'Rym yn galw pawb o'r enw I fwynhau tragwyddol wledd.. Bwrdd yn llawn, yma gawn, 0 foreuddydd hyd brydnawn. Mae T. C. W. yn ddigon tebyg o ran ei ddull o draddodi i'r diweddar Dr. John Thomas, Lerpwl, ond nid mor dan- baid, efallai, a'r cawr wr oedd tu cefn i'r Cyfansoddiad Newydd gynt, a "rival" penderfynol Michael Jones y Bala. Mynwch glywed T. Charles Williams os byth y croeswch y don. Cewch eich gwbl dal. Erbyn heddyw, y mae pregethwr pob- logaidd arall y Sassiwn hon wedi ehed- eg o ran ei ysbryd i'r Sassiwn nefol yn nhy ei Dad. Cyfeirio yr ydym at David Lloyd Jones, Llandinam, mab yr anfar- wol John Jones, Talsarn. Dacw efe yn codi yn mhwlpud pren yr. esgynlawr mawr, a'i wedd fel angel Duw, ac yn cymeryd stoc o'r gynulleidfa anferth. Yr oedd yr ysgrifenydd wedi cael yr an- rhydedd o ddarllen a gweddio o'i flaen. Y tlws a'r tyner efengylaidd bregeth- wr yw efe. Y mae ganddo lais melod- aidd, ac ymddangosiad urddasol; bon- eddwr o bregethwr oedd efe-math o "gentleman preacher," fel y dywedir weithiau, wrth ddesgrifio ambell i ffarmwr, a'i alw yn "gentleman farmer." Byddaf yn meddwl ei fod o ran ysbryd a gwedd a'i ddull a'i leferydd yn debyg i loan, y dysgybl anwyl. Hwyrach mai dychymyg yw, ae, efallai, fy mod yn agos i fy lie. Nid oedd ei edrychiad yn Gymroaidd; lied Seisnigaidd oedd ei ymddangosiad. Cyfyd i nodau grymus ac enaid-gynyrfiol yn ei bregeth dlos. Ei destyn oedd oddiar y geiriau hyn: "A ar dy Dafydd a phreswylwyr Jeru- salem, ysbryd gras a gweddiau." Pre- geth ardderchog. Clywch ei lais treidd- iol yn awr yn cyraedd i fanau pellaf cae y Sassiwn, ac yn peri i chwi feddwl weithiau am lais seraphaidd Owen Tho- mas yn llefain, "Yr hwn sydd yn credu yn y Mab, y mae ganddo fywyd! Awn ato i 'mofyn am dano, ddynion. 0 her- wydd eich bod yn feibion, y danfonodd Duw ei Fab i'ch calonau i lefain Abba Dad. Y sawl a arweinir gan ysbryd Duw, y rhai hyny a elwir yn blant i Dduw. Y mae ein mabwysiad yn sicr- wydd am yr etifeddiaeth. Os plant, eti- feddion hefyd a chydetifeddion a Christ. Wrandawyr hoff, cymerwch bob profiad santeiddiol yn ddadl yn erbyn Satan dros eich mabwysiad, ac yn sicrwydd tragwyddol i chwi eich hunain am y nefoedd." Yn sicr, yr oedd "ring" hen udgyrn arian Cymru yn ei bregethau ef. Caf- odd daear Cymru golled fawr pan dawelodd, ac enillodd y nef aelod peni- gamp i oriel pregethwyr yr aur ardal- oedd. Pregethu i achub eneidiau wnai D. Lloyd Jones.. Clywais ddweyd fod gweinidogaeth Dafydd Morris, un o hen bregethwyr nerthol y Methodistiaid, yn gyffredin yn debyg i fellt a tharanau. Satai dynion anystyriol yn syn gan fraw; delid hwy gan ddychrynfeydd; fel pe bai y Barnwr yn ymddangos, ac ai y rhuthr heibio gyda chawodydd ben- dithiol o'r gwlaw graslawn. Mawr y son sydd hyd heddyw am bregeth o'i eiddo yn Sir Fon, yn agos i Bont Rip- pont, yr hon a elwir hyd y dydd hon, "Pregeth y golled fawr." Ei destyn oedd, "p. lesad i ddyn os enill efe yr holl fyd a cholli ei enaid ei hun, a pha beth a rydd dyn yn gyfnewid am ei' enaid?" Torai y pregethwr allan mewn gwaedd groch a dolefus: "0, bobl, y golled fawr," nes oedd y bobl yn plygu o'i flaen, fel y gwna y gorsen gan nerth y gwynt. Ychwanegwyd liawer iawn at yr eglwysi yn y canlyniad, a hir a hyfryd fu y son am y bregeth gan yr hen bobl tra y buont byw. Gweddus yw gofyn y dyddiau di-Dduw hyn: "Y tadau, pa le y maent hwy?" Mae colled en- fawr ar eu hoi.
IRHYDDEWYLLYSIAETH A CHYFRIF-I…
RHYDDEWYLLYSIAETH A CHYFRIF- I OLDEB Gan E. L. Griffith I. 0 herwydd fy mod dro yn ol wedi dweyd mewn ysgrif yn y "Drych," "nad oes y fath beth a rhyddid ewyllys i'r Crist-ddylynwr," y mae yr erthyglau a ymddengys yn ami ar fwrdd dadleuol yr hen bapyr clodwiw o gryn ddyddor- deb i mi, ac er nad oes cyfeiriad wedi ei wneyd yn yr un o honynt at y gosod- iad uchod, y mae yn fwy na thebyg fy mod, "by default," fel pe tai, yn cael fy ystyried fel un yn pleidio caethewyllys- iaeth; a rhaid i mi gydnabod fod yr ystyriaeth yno yn gywir yn y dull cyff- redin y siaredir am gaethewyllysiaeth, a hyny am resymau ag sydd yn gor- bwyso, fel yr ymddengys i mi, bobpeth wyf wedi ddarllen ar ochr rhyddewyllys- iaeth, ac ymdrechaf roddi ger bron y darllenwyr mor eglur ag y mae ynwyf y gwrthwynebiadau a ymgodant i'm golwg yn ysgrifeniadau pleidwyr yr ath- rawiaeth hon, a fy rhesymau dros gaethewyllysiaeth. Un o brif anhebgorion dadleuaeth yw gosod allan y termau cysylltiedig a phwnc y ddadl mewn iaith eglur a di-, amwys, ond yn eu hysgrifau, y mae pleidwyr rhyddewyllysiaeth yn hynod o brin yn eu deffiniad o'r ewyllys, yn ei natur, ei swyddogaeth, a'i chysylltiad a swyddogaethau eraill y meddwl. Yr un modd gyda chyfrifoldeb; nid oes gair o son am egwyddor sylfaenol cyfrifol- deb, neu feallai yr hyn a alwai Ar- glwydd Shaftesbury yn "moral sense," dim gair am y pa fodd a'r paham y mae dyn yn gyfrifol yn ei gysylltiad neu ynte yn annibynol ar ei ewyllys. Dro yn ol, yr oedd gan Plas Gwyn ddwy ysgrif ar "Ddyn a'i Gyfrifoldeb," ond ar ol eu darllen, nid oedd yno ond John Calfin, a Jonathan Edwards, a'r Dr., ac arfaeth, a thynged, a duwmydd- iaeth, ac "odium theologicum," &c. Beth sydd gan y rhai yna a wnelont a phrofi athrawiaeth? A dyna'r cyfaill dyddan, Sam Ellis, gyda dwy ysgrif, ac yn son am Hume, a Hobbes, a Mill, a Huxley,, a Spencer, ac eto heb na gosod- iad nac ymresymiad o'u heiddynt ar y testyn; a pha beth bynag a ddywedir am y rhai hyn, rhaid cydnabod eu bod yn gewri meddyliol. Ymddengys hefyd fod y teulu wedi ymranu, oblegid dywed Plas Gwyn fod athronwyr a gwyddon- wyr wedi profi a chywiro liawer ar dduwinyddiaeth, tra y gofidir enaid car- edig Sam Ellis wrth weled y Dr. o dan yr un gwrthban a'r enwogion a nodwyd. Pan y deuwn at fater o gyffelybiaeth neu engraifft fel yn cadarnhau ymres- ymiad, canfyddwn yn mhleidwyr rhydd- id ewyllys ryw ddull hynod iawn o feddwl. Dyfynaf a ganlyn o eiddo Shon y Dyrnwr yn y "Drych," Hydref 2, fel ei gynllun o setlo y pwnc o gyfrifol- deb: "Meddylier am un o'r otomobiliau yma a redir gan shoffar. Ni ddysgwylir iddo fyned na sefyll heb ymyriad y shoffar. Ni feir ef am beidio myned a throi y gongl yn iawn am mai gwaith y shoffar ydyw. Efe sydd yn gyfrifol am y peiriant gerbyd; o fewn yr otomobil dynol yr ewyllys yw'r sho- ffar, a dyma'r unig gyfrif ellir roi o'i gyfrifoldeb." Wei, gadewch weled; dyma'r dyn (yr otomobil) yn cael ei redeg gan yr ewyllys (y shoffar), a thrwy ryw anlwc yn "methu troi y gongl yn iawn," a thrwy hyny yn sfrrthio i drybini; pa- ham yn enw pob rheswm na ddelid yr ewyllys (y shpffar) yn gyfrifol a gadael y dyn (yr oto) fyned yn rhydd? Onid fel arall ysywaeth y mae, Shon? Dyma un eto gan Plas Gwyn, Awst 21, i'r un perwyl. Y mae yn tybio am "gapten ar fwrdd Hong a'i llyw yn rhwym! Ni byddai rhyddweithrediaeth y Hong yn un cysur iddo," ac yna gof- yna, "Pa wahaniaeth sydd rhwng Hong heb lyw, a Hong a'i llyw yn rhwym?" 0, forwr!" bydd fyw byth! Y mae -byd o wahaniaeth. Oni wyr Plas Gwyn fod y llyw, mewn dull o siarad, yn rhwym wrth ddwylaw cyhyrog y llywiwr, a bod dwylaw y llywiwr yn rhwym wrth ei ymwybyddiaeth? Ac nid dyna'r oil, oblegid ni byddai ymwybyddiaeth y llywiwr yn werth draenen ar y cefnfor mawr oni bae am y cwmpawd sydd o flaen ei wyneb; ac ni byddai hwnw drachefn yn werth dim oni bae fod deddf ddiamodol a phenarglwyddiaeth- 01 yn tynu ei nodwydd yn barhaus tua'r gogledd. Gwelwn felly, yn lie llyw rhydd, bedivar o fosses arno, set dwylaw materol, ymwybyddiaeth feddyliol, off- erynoliaeth briodol, a deddf ddiamodol. A dyma Sam Ellis eto yn ein gwahodd am dro i Ardd Eden, ac yn dangos i ni "ein cyndad Adda yn rhodio yno mewn amgylchiadau hynod ffafriol, ac yn ber- chen natur berffaith. (Gyda llaw, car- wn ofyn a yw y natur ddynol yn ber- ffaith os yn amddifad o broflad a syl- wadaeth?) Ac yna gofyna, "Paham, atoiwg, na buasai yn aros yn ei burdeb cynenid, os mai natur ac amgylchiadau benderfynent ei weithredoedd?" Gan nad yw S. E. yn rhoddi fnrhyw atebiad i'w ofyniad, gofynaf finau hefyd, Pa- ham? Nid yw yr hanes yn rhoddi un- rhyw sail i'r dybiaeth mai gweithred ryddewyllysiol ragfyfyrifcdig (premedi- tated) oedd gwaith Adda yn bwyta ffrwyth y pren gwaharddedig. Tystiol- aeth y wraig oedd mai y sarff a'i twyll- odd, a chadarnheir hi drwy y gb-sb osod- wyd ar y sarff. "Am wneuthur o honot hyn," &c. Gwelwn hefyd effaith dylan- wad y twyllwr yn yr ameuaeth, an- nghrediniaeth ac anuf-dd-dod cydfyned- ol a'r cyflawniad o'r gweithred oedd. Ond a chaniatau mai e-i ewyllys a ar- welniodd Adda i'r pechod, dywed Sam Ellis ("Drych," Hydref 24) nas gall "fod cymeriad moesol i weithred os yn eff- aith gallu noeth," a chan ei fod yn cyd- nabod yr ewyllys fel un alluoedd pen- af dyn, y mae yn dylyn ya ol yr ymres- ymiad yna nas gallai tod cymeriad moesol ychwaith i weithred Adda yn bwyta y ffrwyth gwaharddedig, ac felly nid oedd yno na phechod na chyfrifol- deb. Rhaid iddo gydnabod gallu allan- ol y sarff, neu allu mewnol yr ewyllys; ac yn ol yr ymresymiad, y mae y naill fel y llal yn diddymu cymeriad moesol y weithred. Yn nglyn a'r pwnc o gyfrifoldeb, y mae yn anmhosibl i mi ganfod yn ys- grifau y rhyddewyllyswyr pa fodd y mae dyn yn gyfrifol o gwbl. Y mae E. P. Davies ar "record" yn y "Drych" fel yn dweyd nad oes na moes nac an- foes yn natur; dywed yn mhellach, mae cynyrch natur yw dyn; y mae yn ym- wrthod a'r "gorchymynol' Wr "awdur- dodol," ac nid yw,yn rhoddi "mymryn o bwys ar benarglwyddiaeth Duw," ac felly y casgliad anocheladwy allaf dynu yw mai unig gyfrifoldeb dyn yw byw i fyny i'w ddelfryd a'i foeseg ef ei hun —pob dyn yn ddeddf iddo ei hun. Sonia Plas Gwyn yn barhaus am ryw anifail-ddyn, ac am ryw daith ryfeddol dyn yn ei gymdeithas yn ngherbyd "dadblygiad," o'r milyn i'w sefyllfa bre- senol, a'r unig gasgliad ymddengys yn rhesymol i mi yw fod pobpeth a fedd dyn, yn gorfforol ac yn feddyliol, wedi dyfod iddo naill ai drwy etifeddiaeth neu drwy gaffaeliad (inherited or ac- uired). Yn nglyn a'r gyntaf, afresym- ol yw dal dyn yn gyfrifol am yr hyn a etifedda, ac am yr ail, os yw dyn yn gyf- rifol o gwbl, iddo ei hun, ac nid i neb arall y mae yn gyfrifol-pob dyn yn ddeddf iddo ei hun eto, ac yn rhyfedd iawn, dyna yn gymwys yw athrawiaeth y Bolsheflciaid hefyd; eu cas bethau yw Duw, llywodraeth, awdurdod, a'u harwyddarr yw ewyllys rydd; "trechaf treisied, gwanaf gwinged," a'u hunig gyfrifoldeb yw gwneuthur o honynt eu "getaway" yn ddyogel. Wrth gwrs, am athrawiaeth yr wyf yn son, ac nid am bersonau; ond os yw Sam Ellis yn gofidio gweled y Dr. o dan yr un gwrthban a'r dosbarth a enwodd, yr wyf finau hefyd yn gofidio gweled neb ar ddalenau yr hen "Ddrych," hyd yn nod yn ymylu at fod o dan yr un gwrthbau athrawiaethol a'r Bolsheflc- iaid. Gyda llaw, yr wyf wedi sylwi fod ami un yn rhoi rhyw "left-handed compli- ment" i'r Dr., ond er fy mod yn mhell iawn o allu gweled lygad yn llygad ag ef yn ei dduwinyddiaeth, eto, "play the game fair," campus o beth yw coflo stori'r tai gwydr; gall fod athrawiaeth- au eraill hefyd ag sydd yn mhell iawn o fod yn ddyogel. (I'w Barhau) ———— <— rI
[No title]
—Mae'r Parch. E. Pugh Thomas, M. A., Dirprwy Archdderwydd a threfn- ydd yr Orsedd yn yr America, ar ym- weliad a Chymru. Bu, yn pregethu y Sul o'r blaen yn Ne Cymru, ac yn siarad mewn amryw gyfarfodydd ar Gyngrair y Cenedloedd. Yn ystod y rhyfel yr oedd yn gadeirydd comisiwn rhyfel yn Pittsburgh.
[No title]
—Y mae tai yn brin? Oh, ydynt, ac nid oes olwg am ragor ychwaith. Y mae costau byw yn codi? Ydynt, y maent bump y cant yn uwch heddyw nag oeddynt yn mis Hydref diweddaf. Y mae glo yn P-2 12s. y dunell? Ydyw siwr, ac y mae llefrith 1 blant bach tlodion y trefi mawr yn swllt y chwart. I' Ond pa waeth? Cawn ychwaneg o wis- ci a brandi!
IANFFYDDIAETH Y RHYDDEWYLL-YSYDD
ANFFYDDIAETH Y RHYDDEWYLL- YSYDD Gan Dr. Daniel Williams I Yn "Nrych," Tachwedd ,7, ysgrifena Cobyn: "Fel un o'n gohebwyr mwyaf dyddorol, carwn i'r Dr. gymeryd at y gwaith hwn, sef nodi allan yn eglur a digamsyniol, beth sydd yn gwneyd i fyny y creadur adgas hwnw a elwir yn 'anffyddiwr' Mae y cwestiwn yn blaen a'r ateb, goeliaf fi, yn hawdd. Dyn yw yr anffyddiwr nad oes ganddo ffydd (infidel in fides, without faith). Ffydd yn mhwy? Ffydd yn Nghrist, ac yn nhrefn y cadw trwy Grist. Mae y crediniwr (the believer) yn credu fod yn rhaid iddo ef gael Crist i sefyll drosto. "Onid ydych chwi yn ddyn da," medd rhywun wrtho, "yn onest, yn eir- wir, ac yn gymwynasgar?" Ydwyf, yn ystyr gyffredin y geiriau yna, ond mae hyny yn rhy fyr o lawer. Ni allaf fi byth gyraedd y nefoedd y ffordd yna; anmhosibl ydyw dyfod i fyny yn ngwyneb y ddeddf. Mae cadw y ddeddf yn berffaith yn beth anmhosibl i mi. Os na chaf fi Grist i ymddangos yn fy lie, ac ateb gofynion y ddeddf, nid oes obaith i mi mwy nag i'r dyn gwaethaf yn y dref. "Drwy weithredoedd y ddeddf, ni chyflawnheir un cnawd. Melldigedig yw pob un nad yw yn aros yn. yr holl bethau a ysgrifenwyd yn llyfr y ddeddf i'w gwneuthur hwynt." Gan nad wyf fi wedi cadw y ddeddf yn berffaith, a dim tebyg i berffaith, nid oes gobaith i mi ond trwy ffydd fyw yn Nghrist. Ond mae yr anffyddiwr yn gwadu hyn oil. Mae yr Iesu yn rhoddi cyngorion ac addysgiadau da yn y Beibl, a dylem geisio dylyn y rhai hyny; ond am gyf- addef ei fod ef yn bechadur, yn dro- seddwr o'r ddeddf, a bod yn rhaid cael un arall i sefyll yn ei le, nid yw yr an- ffyddiwr byth yn gwneyd hyn. Nid oes ganddo ffydd yn y drefn o gadw trwy Grist. Mae y dyn moesol sydd yn ym- ddiried yn ei foesau yn anffyddiwr bob amser. Onid yw hyn yn blaen? Rhyddweithrediaeth a rhyddewyllys- iaeth. Dywed Sam Ellis yn "Nrych," Tachwedd 13: "Enwaf Dr. Williams am mai efe yw pencadben y tyngedfenwyr ar faes y 'Drych' Dywed Trefor yn "Nrych" Tachwedd 27: "Mae dull y Dr. o drin yr ewyllys yn ddyddorol iawn a chwithig iawn i mi. Carwn iddo ddef- nyddio rhyw gyffelybiaeth i roi i ni syn- iad pa fodd y gall dyn fod yn rhydd- weithredydd a'i ewyYys yn gaeth, a chadw ei bersonoliaeth." Da iawn, Tre- for. Hawdd iawn, .tybiaf fi, yw dweyd beth yw rhyddweithrediaeth. Mae pob dyn yn rhyddweithredydd; gall wneyd fel y myn (ond y milwr; rhaid iddo ef wneyd yr hyn orchymyn y cadben iddo; a'r caethwas, rhaid iddo ufuddhau i'w feistr). Ond am bob dyn cyffredin, mae yn rhydd ac yn gyfrifol. Nid peiriant yw; gall wneyd fel y myn. Gallaf ar foreu Sul fyned i'r capel, i'r billiard hall, neu i ryw le arall; ie, gallaf gy- meryd llawddryll a saethu y dyn cyn- taf welaf ar yr heol; yr wyf yn rhydd- weithredydd; freemoral agent. Nid peiriant yw dyn. Onid yw hyn yn blaen i bawb? Mae pwnc yr ewyllys yn dipyn an- hawdd ei ddeall. Y gair gwrthgyfer- byniol i ryddewyllysiaeth mewn duwin- yddiaeth yw anallu. Rhaid coflo am allu ac anallu o hyd wrth drin y pwnc hwn. Gofyna P. G. yn "Nrych" Tach- wedd 20, os mai y cymeriad sydd yn rhedeg yr ewyllys, pa fodd y bu i'r di- afol ac Adda ac Efe syrthio? Mae yr ateb yn hawdd. Yr oedd ewyllys Adda, Efa a'r diafol yn rhydd. Yr oedd gan- ddynt allu i garu Duw, i ufuddhau i Dduw, neu i anufuddhau iddo. Yn un- ion fel gallu y plentyn ar gongl yr heol. "Dywedodd fy mam wrthyf am gych- wyn adref bump o'r gloch; mae hi yn bump yn awr, ond yr wyf am aros hyd chwech." Mae y plentyn yn hollol rydd. Gall wneyd fel y myn. Felly yn hollol Adda, Efa a'r diafol. Ond wedi iddynt anufuddhau collasant bresenol- deb Duw; anmharwyd eu cymeriad moesol; cawsant y "fflu," neu rywbeth lawer gwaith, a gweithiodd hwnw trwy eu holl gyfansoddiad moesol. Anmhar- wyd y corff a'r enaid. Aeth yr holl ddyn, gorff ac enaid, fel corff y medd- wyn. Mae y ddiod wedi trwytho holl gorff y meddwyn, fel mae yn gwaeddi o hyd, "0, am ddiod; 0, am ddiod." Mae pechod wedi anmharu dyn, gorff ac enaid; yr holl ddyn. 0 wadn ei droed hyd ei goryn, total depravity, hollol ly- gredigaeth y natur. A yw y deall wedi ei drwytho? Ydyw, a'r holl serch, a'r holl ewyllys. Mae yr holl enaid yn caru pechod ac yn cashau Duw. Syniad y cnawd sydd elyniaeth yn erbyn Duw. Nid y corff feddylir, ond y dyn cnawdol, y dyn sydd heb ei ail-eni. Yr hyn a aned o'r cnawd sydd gnawd. Yn awr, pa fodd mae yn bosibl i'r ewyllys yna garu Duw? Oni wel y dar- llenydd fod yr ewyllys yna yn gaeth i bechod? Pa fodd y gall yr ewyllys yna garu Duw a'r holl enaid ewyllys, ac oil yn elynol i Dduw? Onid yw yr ewyllys yn gaeth i gymeriad y dyn yna? Dyma yr "anallu" y sonir am dano. Am yr anallu yma y cyfeiria yr Iesu yn loan 6 44: "Ni ddichon neb ddyfod ataf fi oddieithr i'r Tad, yr Hwn a'm hanfonodd i, ei dynu ef." (Ni ddi- chon (oudeis dunatai), no one is able). Dyma yr anallu mae yr eglwys wedi ddal ar hyd yr oesoedd, ac yn y fan yma mae prif gyfeiliornad yr Armin- iaid, trwy ddal "gallu dyn," ac felly yn gwadu yr angenrheidrwydd am ail- enedigaeth. Nid oes ond gallu Ysbryd Duw all newid calon ae ewyllys dyn. "Dy bobl fyddant ewyllysgar (pa bryd?) yn nydd dy nerth." Rhaid cofio wrth drin y pwnc o ryddewyllysiaeth mai pwnc crefyddol yw. Nid oes dim wnelo yr athronydd ag ef. Ymwneyd a dyn fel dyn mae yr athronydd, nid a dyn fel pechadur.
NODIADAU CERDDOROL I
NODIADAU CERDDOROL Gan y Parch. Pedr Edwards, Mus. Bac., Monango, North Dakota Cyfeiriad. Dodir fy nghyfeiriad uchod er hwylusdod i ohebwyr. Dywed Dr. Protheroe mewn llythyr i law y dydd o'r blaen na wyddai pa le yr oedd- wn ar ol gadael South Dakota. Diolchaf am fanylion cerddorol i'r golofn hon- sydd am fyw, fel y "Drych"! Eisteddfod Corwen. Ceir erthygl dda o waith Mr. J. O. Francis yn y "Welsh Outlook" ar hon. Geilw sylw at yr Or- sedd. Dywed mai "ceremonial" ydyw. Ni chynelir hi yr un fath ag yn yr hen amser gynt; ac nid oes galw am hyn. Yr ydym yn byw mewn cyfnod gwahan- ol, ac y mae Ifurf pethau yn newid. Wele ddyfyniad o'r ysgrif: "What the Gorsedd has to reveal is not the truth of history, but the truth of pageantry. It must express a universal spirit rather than chase the archaic letter." I Mr. Francis, collai yr Orsedd mewn urddas. Dywed: "Externally a pageant and a ceremony, it is in truth nothing more than another of our unending public meetings. At Corwen, it struggled out slowly with a painful air of hazard. It was very much like a formal Anglican service given over to Nonconformist divines, who made it a point of honor to say anything and every- thing rather than look at the book." Nodweddid y gweithrediadau gan afler- wch. Yn yr orymdaith, cariwyd y Corn Hirlas ar ffram gan ddau ddyn mewn gwisgoedd swyddogol, ond yr oedd y corn wedi ei ddyogelu wrth y ffram gyda llinyn! "Any man of the thea- tre," medd Mr.. Francis, "could tell the Bards that the value of the procession is in its effect on the minds of those who walk in it and of those who watch." Ystyria Mr. Francis fod yr Orsedd yn rhy hael gyda'i ffugenwau, ac y mae hyn yn sicr o fod yn wir. Anrhydeddir liawer o wyr a gwragedd, nid am yr hyn a wnaethant dros farddoniaeth, llenyddiaeth a chelf, eithr am eu bod yn noddwyr i'r Eisteddfod. Ond gellid dwyn yr un gwyn yn erbyn y PrifysgoJ- ion! Weithiau darllenwn am rai, hyd yn nod yn Nghymru, yn cael y teitl o M. A.; nad oes lie i gredu en bod erioed wedi astudio y celfau; a gwneir rhai yn Mus. Docs. nad allant byth enill y teitl o ran gwybodaeth gerddorol gyflawn! Credaf fod barn Mr. Francis am yr Orsedd, &c., yn un onest a chywir. Ryw gymysgedd ryfedd gefais i yn yr orymdaith, a fawr o drefn yn y cerdd- ediad. Yr wyf bob amser yn edmygu barddoniaeth yr archdderwydd, ond nid yw yn edrych fel y cyfryw. Pwy a wel- odd Hwfa Mon yn ngorymdaith yr Or- sedd, neu ar lwyfan yr Eisteddfod, na thybiai ei fod yn llenwi ei swydd i'r ym- ylon? A digon afler y cetais i y sere- moni o gadeirio, ond hwyrach ei bod yn fwy trefnus er pan y cefnais i a'r Hen Wlad. Dywed Mr. Francis y dylid cael can arall yn lie "See, the Conquer- ing Hero Comes," pan yn arwain y bardd buddugol i'r llwyfan; ac, yn Wir, mae yn ei le. Nid i bwrpas heddychol yr Eisteddfod y cyfansoddwyd y darn hon! Johm Morgan, Garfield. Gwelaf fod y Cymro twymgalon hwn bellach yn cael ei adnabod fel "Ap Rambler." Os oedd ei dad yn fwy o Rambler na John yn myd y gan, yr oedd yn un mawr! Y mae adgofion cerddorol John Morgan yn ddarllenadwy iawn. Diolch am dan- ynt. Yn un o'i erthyglau, dywed yr ys- tyrid Harry Evans yn brif arweinydd corawl y bydi Y Parch. W. Cynon Evans. Yn ei erthygl i'r "Cerddor" ar "Wasanaeth Amrywiol Cerddoriaeth," yn mhlith pethau da eraill, ceir a ganlyn: "Edrydd un Mr. Stephens, Maesteg, wrthyf am dano ef, ac eraill, newydd ddyfod allan o'r ffosydd yn mrwydr fawr Arras, ar Llun y Pasg, 1917, yn canu o'u cof, ac o'u calon hefyd, "Mae arnaf eisieu lesu," ar y don "Gellilenor" (S. Davies). Haws yw dychymygu eu profiad ar y pryd na'i ddarlunio. Gwel- ais gofnodiad am adran Gymreig o tua 250 o rif yn canu "The Destruction of Gaza," yn Ne Gwlad Canaan, cyn taro ar Gaza. Ni safai-dim o'u blaen, aeth- ant o fuddugoliaeth i fuddugoliaeth, nes llwyr enill Canaan oil. "A pha beth mwy a ddywedaf am wasanaeth cerddoriaeth i glwyfedigion rhyfel yn yr ysbytai, lie y swynwyd eu meddyliau, y lleddfwyd eu poenau, ac y dyddanwyd eu heneidiau? Bu Madam Gunter Williams yn canu mewn dros 300 o gyngerddau; a Madam Piteh- ford, Penarth, gollodd ei bywyd, yn nghyd a dadganydd arall, ar ol canu mewn cyngerdd yn Ffraine; a bu yr Apollo Glee Singers, Bargoed, dan ar- weiniad Mr. T. R. W. Lewis, yn cynal 134 o gyngerddau yn ystod y rhyfel, gan wneyd y swm o'. £ 3,500 tu.ag at ddiben- ion dyngarol. Dim ond engreifftiau yw hyn o ganoedd o gantorion ein gwlad yn trethu eu talentau yn rhad er gwas- anaeth eu cyd-ddynion." "Cerddoriaeth Americanaidd" ydyw testyn Dr. Protheroe yn y "Cerddor." Dywed fod yn sicr fod dyfodol gwych i'r gerdd yn y wlad hon, mewn ystyr greadigol a deongliadoL Oddiar ddydd- iau Lowell Mason, y mae enwau rhai o gerddorion y wlad hon wedi cyraedd enwogrwydd rhwng-genedlaethol, ac, feaHai, neb mwy na'r pedwar-Dudley Buck, Edward MacDowell, Chadwick a Horatio Parker.
CYNGRAIR Y CENEDLOEDD
CYNGRAIR Y CENEDLOEDD Gan W. W. Williams u. I Ond nid yw engreifftiau fel hyn yn mysg cenedloedd ond yn unig yn profi fod rheswm a synwyr yn llywodraethu i raddau mwy neu lai, yn achlysurol beth bynag, yn eu hymwneyd a'u gil- ydd. Y diffyg ydyw fod pob cenedl at ei dewisiad i ymddwyn yn wahanol i hyn pan y. teimla ar ei chalon. Yr af- lwydd ydyw fod pob cenedl at ei rhydd- id i ymddwyn yn deg neu yn annheg. i fyw yn heddychol neu i gychwyn rhyfel, yn ol ei mympwy ei hun, ac nad oes yr un awdurdod uwch ei phen rw galw i gyfrif. Yn yr hen amser, nid oedd perthynas agos rhwng cenedloedd y byd a'u gil- ydd. Yr oeddynt yn mhell iawn oddi- wrth eu gilydd y pryd hwnw. Ychydig oeddynt yn weled o'u gilydd, nac yn ymwneyd a'u gilydd, ac ychydig ac an- mherffaith oedd y deddfau rhwngwlad- al. Nid oedd eu hangen. Ond erbyn hyn, mai dyfais agos wedi difodi pell- der ac amser, ac mae cenedloedd y byd yn gymydogion agos, a'u cysylltiadau wedi amlhau a newid Ilawer. Ond ych- ydig ac anmherffaith yw y deddfau rhwngwladol eto. Dywedir fod yr "in- ternational laws" mor anmherffaith yn awr ag oedd y "civil laws" yn y ddeu- ddegfed ganrif. Mae y cysylltiad sydd yn bodoli rhwng cenedloedd y byd heddyw yn parhau yn rhy debyg i'r cys- ylltiad sydd rhwng personau unigol mewn gwlad anwaraidd, yn lie bod yn debyg i'r cysylltiad sydd rhwng trigol- ion gwlad waraidd. Mae hyn yn neill- duol o wir, yn un peth, yn y modd y maent yn setlo eu cwerylon. Yr angen mawr yn awr yw cael deddf rhwng- wladol, cael cyngrair rhwng cenedl- oedd wna ddadgan pa fodd y mae cen- edloedd y ddaear i setlo eu cwerylon, ac fod awdurdod yn cael ei sefydlu i roi y dadganiad mewn grym. Yr ydym yn clywed yn ami fod dyn yn llygredig, ac na ellir byth gael gan- ddo beidio myned i ryfel. Ydyw, y mae pawb yn llygredig, ond nid yw yn can- lyn fod yn rhaid goddef i ddyn, na chenedl ychwaith, ymddwyn yn llyg- redig am fod llygredd yn ei galon. Ychydig mewn cydmariaeth sydd o lof- ruddio mewn gwledydd gwaraidd. Beth sydd yn rhoi cyfrit am byn, ai am fod y trigolion yn foesol? Ie, mewn rhan, ond rheswm pwysig arall yw y ffaith