Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

NEW YORK A VERMONT,

Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share

NEW YORK A VERMONT, UTICA, N. Y., Rhagfyr 10, 1919.- Mrs. John Griffiths, 130 Gold Street, sydd wedi dod yn ol o'r ysbyty, ac yn gwella yn rhagorol. —Dymuna J. Roosevelt Jones, 1125 Steuben Street, wneyd yn hysbys y bydd gartref o 5 o'r gloch hyd wyth bob dydd, a bydd cyfle i unrhyw un ag sydd yn parotoi gogyfer a'r Eisteddfod ei weled, os yr hoffant. —Deallwn fod amryw yn anhwylus yn ein dinas, ac nid oes neb yn anfon 'gair yn eu cylch. Yr ydym wedi cry- bwyll droion y byddai hyn yn wasan- aeth cariadus, pe yr ymgymerai y cy- mydogion ag anfon gair i'r Swyddfa. Ymddengys fod y Cymry yn colli eu dyddordeb yn eu gilydd. -Griffith Williams, Park Avenue, fu yn anhwylus yn ddiweddar, a pharha- odd am rai dyddiau, ond ymddengys ei fod eto yn enill tir. Yr oedd Mrs. Wil- liams yn cryfhau yn amlwg yn ddiwedd- ar, ond cafodd ymosodiad o salwch y dydd o'r blaen a'i taflodd yn ol, ond hyderwn fod adferiad buan yn ei haros eto. —Nos Wener egyr y Y. M. C. A. eu cyfres o ddarlithiau y gauaf yn y Cen- tury Auditorium ag un gan y Dr. John Burrford Parry, a'i destyn fydd "Lloyd George a'r Rhyfel Mawr." Brodor o'r Wyddgrug yw Mr. Parry, ac yn gydna- byddus a'r Prifweinidog. -John D. Jones, Eagle Street, sydd wedi bod yn dyoddef am gryn amser, ac nid oedd yn gwella, a'r dydd o'r blaen, gorfu iddo fyned dan driniaeth lawfeddygol, ac y mae argoelion da am ei adferiad. Edrycha yn chwith heb wyneb John yn Bethesda. Y mae iddo ddymuniadau da llawer o'r frawdol- iaeth. —Mrs. Richard Evans, Dudley Ave., sydd eto yn Ysbyty Faxton, wedi bod dan driniaeth, ac argoelion da am ei hadferiad hithau. Dyma yr ail waith iddi fod yno; ac y mae iddi deulu bach dymunol, ac y mae Richard yn dysgwyl am ei phresenoldeb gartref. Hyderwn gael ei gweled gartref yn fuan. —Brydnawn dydd Llun, yn ei char- tref, 1309 Seymour Avenue, bu farw Mary E. Jones, priod David M. Davies. Ganwyd hi yn Washington Mills, Tach- wedd 26, 1870, yn ferch i'r diweddariaid John E. a Margaret Evans Jones. Priodwyd hi a Mr. Davies 23 mlynedd yn ol. Treuliodd y rhan fwyaf o'i bywyd priodasol yn Utica. Yr oedd yn aelod o eglwys yr Immanuel (B.). Ge'dy ddau o blant: Milton E. a Margaret Elizabeth; dwy chwaer, Mrs. Walter L. Thomas a Mrs. Bertha Lapham; hefyd neiaint a nithoedd.. —William Jones, a wnai ei gartref gyda Mr. a Mrs. W. L. Roberts, 905 South Street, sydd wedi myned am New York i gymeryd Hong i'r Hen Wlad, ac i Penrhyndeudraeth, G. C., a theimlir yn chwith ar ei ol.. Sibrydir yn dawel fach ei fod a'i fryd ar ddod a chydmar yn ol gydag ef. Dymunir Hwyddiant iddo. -Cofier am yr wyl gerddorol a gy- nelir yn Nghapel Coffa Thorn, eglwys y Tabernacl (B.), nos Nadolig, pan y perfformir y Cantawd, "Santa Claus at Miss Prim's." Gwneir y cor i fyny o blant ac aelodau "Band of Hope," Mor- iah, dan arweiniad William R. Griffith a David Jones. Dysgwylir noson ddydd- orol, a chynulliad mawr i gefnogi y plant a mwynhau yr wyl. —Nos Sul, cynelir cyfarfod dadlenu y daflen goffa i'r rhai fuont yn gwasan. aethu yn amser y rhyfel o eglwys Beth- esda (A.). Bydd 57 o enwau ar y daflen. Yn y gwasanaeth nos Sul, pasiwyd fod enw y gweinidog i fod ami, fel cydna- byddiaeth o'i wasanaeth yn nglyn a'r bechgyn. Bydd y gwasanaeth nos Sul yn un o gydnabyddiaeth o wladgarwch y bechgyn. Gwnaeth dau yr aberth penaf. Bwriedir cael llyfryn bychan allan yn rhoi hanes gwasanaeth yr eg- lwys yn nglyn a'r rhyfel. —Humphrey Griffiths a gyraeddodd adref nos Sul wedi mordaith arw ar fwrdd y "Lapland," a rhoes tipyn o'i hanes yn nghymdeithas y Cymreigydd- ion, nos Lun. Ymwelodd a'r Prifwein- idog Lloyd George, yn ol ei addewid; ac ar ran y Cymreigyddion, rhoddodd iddo wahoddiad i Utica ryw bryd yn y dyfodol. Rhoes hefyd adroddiad o gyf- lwr Cymru a'r Hen Wlad, gan fynegi fod y ddwy yn dwyn beichiau trymion. Traethodd am gyflwr llafur, cyflogau, prisiau bwyd, ac amrywiol drafferthion y trigolion. Dywedai y rhoddid siwgr allan yn symiau bychain fel moddion i glaf. Cafodd fod yno bleidiau yn gwrth- wynebu Lloyd George, ond fod y dewin bach yn dal ei dir, ac yn waredwr ei wlad. Ymdrech fawr sydd yno i ddy- chwelyd i hen bolitics y pleidiau cyn y rhyfel, yr hyn fydd yn berygl penaf y wlad. Ni chredai Griffiths y gallai y Prifweinidog ddod i America hyd nes y rhyddheid ef o'i swydd a'i ofalon. Ar I y diwedd, cafodd Mr. Griffiths groesaw cynes gan y gymdeithas. I Diolchgarwch Dymunaf drwy hyn o linellau gyf- Iwyno ein diolchgarwch puraf fel teulu i'n lluaws cyfeillion a -chymydogion am eu caredigrwydd a'u gwasanaeth yn ys- tod gwaeledd a marwolaeth fy anwyl briod, Catherine Williams, 1508 Steuben Street, Utica, N. Y.; yn neillduol felly, Mr. a Mrs. Hugh H. Jones a Mrs. Owen E. Williams, Steuben St.. Mrs. John T. Roberts a Mrs. Richard Williams, Square St., am eu ffyddlondeb gyda hi yn ei hir gystudd. Hefyd, y Parch. Dr. John Davies am ei eiriau caredig, a'i. ymdrech neillduol i fod yn bresenol yn yr angladd. Hefyd, am y blodau oddi- wrth y Band of Hope a Ladies Aid eg- lwys Moriah, Mrs. a Mrs. John M. Jones, Taylor Ave., a'r cyfeillion ar hyd a lied y wlad gyda'u llythyrau caredig. —Thomas L. Williams a'r teulu. I Cyfarfod y Cymreigyddion Cyfarfu y Cymreigyddion, nos Lun, a bu mater y Cartref Newydd dan sylw, ac yr oedd y pensaer, Thomas H. Wil- liams, yno mewn atebiad i ddymuniad yr ymddiriedolwyr gyda'i gynlluniau a'i gyfarwyddiadau ar gyfer y gwelliantau a fwriedir eu rhoi yn yr hdeilad. Rhodd- ir cyfundrefn gynesu hollol newydd o'i fewn, yn nghyd a chyfleusderau amryw- iol eraill; ystafelloedd i ddarllen ac ym- ddyddan; yr ail lawr i fod yn neuadd i eistedd 500 o gynulleidfa; ac amcan gyfrifir y bydd y draul yn $10,000. Bwr- iedir hefyd baentio a dodrefnu y cyfan, gan wneyd yr adeilad yn gartref cyf- lawn, ac i fyny a'r oes. Darllenwyd llythyr oddiwrth y Barn- ydd H. M. Edwards, Scranton, Pa., yn llongyfarch y Cymreigyddion gyda rhodd o $10. Ni synem weled y Car- tref yn troi hefyd yn Amgueddfa ddydd- orol. Daeth llythyr i law oddiwrth y Parch. D. Talog Williams, Fort Wayne, Ind., yn cynyg hen Feibl ei fam, ac un o'r rhai hynaf a brintiwyd yn y Gymraeg, gyda darluniau, yn anrheg. Charles H. Bushinger, Utica, hefyd, a gynygiodd anrheg o ddarlun y diweddar Ellis H. Roberts, cyn-Drysorydd y Talaethau; un o Gymry Utica. Derbyniwyd y cynyg- ion hyn yn ddiolchgar. Derbyniwyd saith o aelodau newydd- ion, a chwech o enwau ymgeiswyr am aelodaeth. Bu yr Eisteddfod dan sylw hefyd, ac argoelir y ceir gwyl lwydd- ianus. I I Cyfarfod Dosbarth y M. C. I Cynaliwyd Cyfarfod Dosbarth Sir Oneida ddiwedd yr wythnos a'r Sab- both. Agorwyd y gyfres nos Wener. Cynaliwyd y gynadledd brydnawn Sad- wrn, ac arweiniwyd y gwasanaeth gan John S. Williams, Rome. Penodwyd y Parch. John Davies a Wm. G. Jones, Rome, i ymweled a'r diacon, Richard T. Davies, Nant, yr hwn sydd ar ymweliad a'i ferch, Mrs. Frank Owens, Square St.; hefyd a Dafydd P. Salisbury, un o ddiaconiaid Moriah, gyda dymuniadau goreu yr eglwys. Estynwyd pleidlais o gydymdeimlad hefyd a Mrs. Roy Hughes, Mrs. Robert J. Hughes,. Peny- graig; Rees Thomas, o'r ddinas hon, a Mr. Parry, Nelson. Rhoddwyd croesaw cynes i'r Parchn. David Edwards ac Ed- ward Roberts, oedd wedi eu gwahodd i'r cyfarfodydd i wasanaethu. Cafwyd ad- roddiad arbenig yn nglyn a chyflwr yr Ysgolion Sul yn y Sir, a phenderfyn- wyd i anfon anogaeth i swyddogion yr Ysgolion yn mhob ardal. Gofynodd y pwyllgor a benodwyd i gasglu hanes y gwahanol eglwysi yn y rhanbarth am estyniad amser, a chaniatawyd 12 mis. Cafwyd adroddiad ac ysfryriaeth o gyf- lwr yr eglwysi yn Nelson ac Enlli; a phendrefynwyd fod cyfarfodydd adfyw- iol yn cael eu cynal yno. Penodwyd Daniel 1. Jones yn oruchwyliwr y "Cyf- aill," misolyn swyddogol yr enwad. Cynelir y Cyfarfod Dosbarth nesaf yn Remsen, Ebrill 17-18, 1920. DSwiswyd y swyddogion a ganlyn: Llywydd, y Parch. John Davies, D. D.; ysgrifenydd, Richard T. Williams, Rome; trysorydd, Richard T. Davies, Steuben; arholwr ymgeiswyr am y weinidogaeth, y Parch. W. H. Davies, Ilion. Dewiswyd y pwyllgor cenadol a ganlyn: Parch. John Davies, D. D., a William R. Thomas, Utica; Richard T. Williams a'r Parch. R. T. Roberts, D. D., Rome; George W. Jones, Remsen; R. Morris Williams, Utica; Enoch Morris, New Hartford. Penodwyd Thomas H. Jones, o'r ddi- nas hon, yn gynrychiolydd y Dosbarth yn y 'Gymanfa. Galwyd ar y Parch. David Edwards i wrando ar adroddiad o waith eglwys Moriah a gyflwynwyd gan Elias Ellis, yr hwn a ddangosai fod cynvdd vn mhob cangen o'r eglwys, a chadarnhawyd hyn gan flaenoriaid yr eglwys, yr hyn a foddlonodd y cynull- iad yn fawr. Y pregethwyr dyeithr a wasanaethent yno oeddynt, y Parchn. David Edwards, Lime Springs, Iowa, ac Edward Roberts, Madison, Wis.. Pregethid nos Sadwrn gan y Parch. David Edwards; y Sabboth ( y boreu), gan y Parchn. Hugh Rowlands, Rem- sen, a Dr. R. T. Roberts, Rome; y pryd- nawn, seiat gyffredinol, "Crefydd y 15fed Salm," a agorwyd gan y Parch. W. H. Davies, lliop; yr hwyr, y Parchn. David Edwardft ao Edward Roberts.. Angladd y Ddiweddar Thomas L. Wil-I liams, Utica, N. Y. Cymerodd angladd y ddiweddar chwaer uchod ag yr ymddangosodd ei darlun a'i chofiant yn y "Drych" di- weddaf, le am 11 o'r gloch foreu ddydd Iau, Rhagfyr 4ydd. Angladd annghy- oedd ydoedd. Gwasanaethwyd yn hy- nod effeithiol gan ei gweinidog, y Parch. John Davies, D. D. Dyoddefodd ein chwaer gystudd poen- us am gyfnod maith o ddeunaw mlyn- edd yn hynod o dawel a siriol. Un o'l hoff emynau allan o luaws eraill oedd: Mae arnaf eisieu sel A chariad at dy waith, &c., ac fel y sylwodd ei gweinidog, yn ddi- ameu mai un rhan arbenig o'i gwaith hi yn nglyn a'r deyrnas oedd dyoddef; ie, a gallodd ymgymeryd a'r rhan or- deiniwyd fddi. Nid rhag ofn y goat a ddel Nac am y wobr chwaith, lond er gogoniant i'r Hwn a'i prynodd ac a'i dodes ei hun drosti. Bron na ddywedwn mai y gras tawel a dystaw hwn, dyoddefgarwch, oedd yn ein taro fwyaf amlwg yn ei chystudd. Fel y dywedwyd o'r blaen, cafodd ei geni a'i magu yn ardal Ebenezer, Ar- fon, ar lechweddau Waen Cynfl; hen ardal a ddyoddefodd erledigaeth a goT- thrwm gwladol a chrefyddol-am genedl- aethau. Y mae y gallu naturiol i ddy- oddef ynddo ei hun yn hardd; ond pan y mae y gallu naturiol hwnw wedi ei santeiddio a gras, ac ag argyhoeddiad- au moesol dyfnion yn yr enaid, y mae yn rhywbeth dwyfol. Y geiriau olaf ddiferodd dros ei gwefus oedd: Dysgwyl 'rwyf ar hyd yr hir-nos, Dysgwyl am y boreu ddydd; Dysgwyl clywed pyrth yn agor, a phan oedd dorau Rhagfyr yn agor megys, yr oedd ei henaid hithau yn cael ei ollwng o'r babell fregus o glai ac yn myned i fewn i'r lie nad oes na phoen, nac ochain, na galar, a lie nis dywed y preswylwyr, "claf ydwyf." Yr ydym yn teimlo fel dweyd yn ngeiriau Dewi Arfon: Delw Iesu yn dlyswaith-yma wisgodd Yn mysg rhai anmherff aith; Llwch haul llewyrcha eilwaith Yn berl Crist hel arliw craith. Rhoed ei gweddillion i orwedd yn mynwent Forest Hill. Yr archgludwyr oeddynt: J. R. Jones, Ellis H. Williams, Hugh H. Jones a David Jones. Dymuna y teulu gydnabod yn wir ddiolchgar yr amlygiadau neillduol o gydymdeimlad ddangoswyd tuag atynt o bell ac agos, yn nghyd a'r blodeudyrch heirdd anfonwyd.—Cyfaill. Cymdeithas Rydd y Cymry, New York I Mills, N. Y. Nos Fercher, Rhagfyr 6ed, cynaliodd Cymdeithas Rydd y Cymry eu cyfarfod rheolaidd yn yr Arcanum Hall. Nid rhyw lawer o'r aelodau ddaeth yn nghyd, mae'n wir, am ei bod yn noson oer ac ystormus. Cafwyd noson ddifyr dros ben, a'r trysorydd wedi gofalu am foes o sigars. Y rhan fwyaf bwysig o waith y cyfarfod oedd derbyn 9 o ael- odau newyddion, yr hyn sydd yn brawf fod yma ryw ddeffroad yn mysg yr ael- odau. Diolch am hyny. Yr ydym wedi derbyn yn nghorff y tri mis diweddaf un-ar-bymtheg o aelodau newyddion, ac y mae yma ddigon o le eto. Dowch i mewn, mae croesaw i chwi. Darllen- wyd papyr ar y diwedd gan W. R. Wil- liams ar "Hanes Teithiau yr Apostol Paul." Yr oedd yn bapyr da a dyddorol iawn. Mae William yn feistr ar ei waith; un o Cerrigydrudion, G. C., yw. Cydymdeimlwn fel cymdeithas a'n parchus lywydd, sef R. T. Edwards, yn ei waeledd; a dymunwn am adferiad buan iddo.—Gohebydd. Nodion o New York Mills, N. Y. I Yr wythnos o'r blaen, syrthiodd Mrs. Charles Healey ryw fodd neu gilydd, ac fe dorodd ei choes, a gorfu myned a hi i Faxton Hospital, a hi fu yno am tua phum diwrnod, ond adref y mae hi ar hyn o bryd, ac yn orweddog; ond mae hi yn bur esmwyth, ac yn dod yn mlaen yn araf, ac y mae yma gydymdeimlad mawr a hi. Nos Sadwrn, wythnos i'r diweddaf, pan yn dychwelyd o Syracuse, wedi bod yn treulio dydd Diolchgarwch gyda y plant, syrthiodd Mrs. David Williams, Yorkville, a derbyniodd niweidiau i'w chorff, eto nid yn ddrwg; ac y mae hithau yn gwella yn araf. Merch yw Mrs. Williams i'r diweddar Mr. a Mrs. Robert Williams, hen iglochydd eglwys Nant Peris, G. C. Maent yn adnabydd- us i bawb o'r Llanberisiaid. Maent yn y wlad hon er's tua 30 mlynedd. Yn ddiweddar, aeth Cymdeithas Rydd y Cymry i gartref Robert W. Davies, Yorkville, i ddathlu ei ben blwydd. Nid wyf yn gwybod pa mor hen yw Bob, ond ei fod yn dod at y 30 yma, ac yr oedd wedi dychryn yn fawr, ac fe gaf- odd anrheg deilwng, sef modrwy hardd, a diolchodd yn gynes iddynt am y teim- lad da oedd y bechgyn yn ei ddangos tuag ato. Cafwyd canu, adrodd ac ar- eithio o'r fath oreu, ac yr oedd Mrs. Davies wedi darparu yn helaeth ar gy- fer y corff, a chafodd bawb amser o'r fath oreu, ac ymadawodd pawb am gar- tref ar ol canu yn iach i Bob, a dymuno iddo weled llawer o flynyddoedd yn rhagor. Yr wyf yn deall fod Owen H. Jones, mab Mr. a Mrs. Hugh Jones,, Steuben St., Utica, yn gwella y dyddiau hyn. Cafodd eu merch, Laura, ei tharo gan auto y noson o'r blaen, a diangfa gyf- yng; ond mae hi wedi dod yn well na'r dysgwyliad. Mae yma gydymdeimlad mawr a Thomas L. Williams yn ei alar a'i bro- fedigaeth ar ol ei anwyl briod. Mae tipyn o waeledd yn yr ardal y dyddiau hyn. Mae Robert Hughes, Mill Place, wedi cael gofid mawr gyda'i ly- gaid, ond yn gwella yn araf. Mr. a Mrs. Robert Salisbury sydd ddim yn dda. Jennie Thomas, hithau yn gwella, ac yn ofidus ei bod hi ddim yn bresen- ol yn "Gwenfron" nos Wener diweddaf. Teulu Mr. a Mrs. Hugh S. Jones ydynt oil o dan anwyd trwm. Clywsom fod Mrs. Hugh Humphreys, Bryngir-Farm, New Hartford, yn gweled ei mam, Mrs. John B. Jones. Mae yma barotoi mawr ar gyfer cy- farfod y Nadolig, a bod Mrs. William Roberts wrthi yn galed; ac y mae yn ddrwg genym fod William Roberts wedi bod yn bur wael, ond yn gwella.—R. W. Thomas. Helyntion Holland Patent, N. Y. II Rhagfyr 8, 1919.-Y mae yn dda iawn genym allu dweyd fod y parti gynaliwyd yn mghartref ein hanwyl weinidog, Dr. a Mrs. Hughes, nos Wener diweddaf, wedi troi allan. yn llawer gwell na'n dysgwyliad. Yr oedd y ty yn llawn, eV fod y tywydd yn ddrwg, eto daeth yn well ftt yr hwyr. Yr oedd y pwyllgor wedi "gofalu a gwneyd eu gwaith yn ffyddlon. Yr oedd y Dr. a Mrs. Hughe^ wedi trefnu eu cartref cysurus yn hardu a hapus, a blodau ar y byrddau yn j gwahanol ystafelloedd. Llywyddwyd y cyfarfod gan John D Lloyd; ton cynylleidfaol, "Crugybar"; araeth -gan y llywydd; deuawd, cornet a'r organ, gan Mrs. Hughes a'i brawd oreorge W. Owen; adroddiad, Doris Owens; can gan y llywydd, John D. Lloyd; adroddiad, Hugh Roberts; ad- roddiad gan Elizabeth Owens; deuawd, Wm. J. a Rachel Jones; adroddiad. Evelyn Owens; cornet o'r organ, Mrs. Hughes a Mr. Owens; can, Glenyt Jones; adroddiad, Robert Hughes; ad- roddiad, Glenys Jones; can, R. W. Tho- mas, New York Mills; deuawd, Wil- liam J. a Rachel Jones; ac i ddiweddu, "Ton y Botel," Wm. J. Jones yn ar- wain. Y mae yn dda genym allu dweyd fod pawb wedi gwneyd eu 'goreu i wneyd y cyfarfod yn hapus Yna galwyd ar bawb i eistedd wrth y byrddau oedd yn llawn danteithion o bob math; a sicr yw, 'nid golwg amser caled oedd ar ddim oedd arnynt, a gwnaeth pawb gyfiawnder a phob peth, a chael eu digoni. Ar ol swpera, llawer iawn o ganu cynulleid- faol. Yr oedd ein teuluoedd newydd sydd yma, Mr. a Mrs. Richard Ed- wards, yn bresenol. Y maent oil yn gantorion. Hefyd, yr oedd Mrs. Hugh Parry wedi dyfod o Utica, ein hanwyl Kitty May Gittins gynt, a chanwyd llawer iawn o donau oedd yn adnabydd- us i bawb, yn hen a'r ieuainc; a bu R. W. Thomas, New York Mills, yn cyf- eilio iddynt ar yr organ. Diolch yn fawr iddo am ddyfod. Pe igofod yn caniatau, buasai yn dda genym enwi pobpeth oedd yn ddyddorol genym, ond hyn a ddywedwn, y mae yn dda iawn genyf fod pobpeth wedi cael ei gario yn mlaen yn foddhaol, mor bell ag y gwyddom. Hyn allwn ddweyd, yr ydym yn ddiolchgar iawn am y cyf- arfyddiad, ac yn ddiolchgar iawn. Y peth cyntaf a wnaeth ein Ilywydd, Mr. Llolyd, oedd estyn amlen i 'Mrs. Hughes yn cynwys $25, am ei gwaith yn cyfeil- io gyda'r canu yn yr eglwys; a'n gweddi yw am i'r Arglwydd fod yn ein plith yn ein bendithio, yn weinidog a phraidd, a'n gwneyd yn wir blant iddo. Ni fu erioed gymaint o angen gweddio ag sydd yn bresenol. Ni adawn y nodion hyd yr wythnos nesaf.—R. I Ilion, N. Y. I Drwg genym na fuasem wedi clywed yn igynt am y ffaith fod un o fechgyn Cymreig Ilion, sef Thomas E. Williams, wedi pasio y "civil service examina- tion" am y swydd o assistant superin- tendent yn y State Industrial Commis- sion. Mae hwn yn beth go uchel i fach- gen o Gymro sydd ddim ond gweithio wrth ei gefn. Wel, da iawn, wir; y mae llawer o dalentau yn guddiedig mewn llawer i fachgen o Gymro. Ffaith bwysig arall sydd genym i gof- nodi yw, sef genedigaeth merch, y cyn- tafanedig, i David John ac Elizabeth Hughes, Spring St., yn yr Ilion Hospi- tal, nos Sadwrn. Nid yn ami y cawn y fraint o ddweyd am beth fel hyn yn hanes Cymry Ilion, ond y mae y ddau hyn yn adnabyddus i lawer yn Utica a Granville. Wedi troi am gartref y mae Mrs. Hal- sey a'r ferch, Dorothy, wedi bod yn treulio rhai wythnosau gyda'i rhieni, Mr. a Mrs. David Ffestin Williams, a bydd hiraeth ar eu hoi, am fod y ferch fach yn un bert iawn. Da iawn genym weled y dyddan a'r bydenwog Robert O. Jones, Granville, wedi cyraedd yma i edrych am ei frawd, J. O. Jones, North St., a'r teulu. Yr oedd R. O. wedi bod yno yn ystod ty- mor Diolchgarwch, ac y mae llawer o hen ffryndiau boreu oes i R. O. yn Utica ac Ilion. Da iawn genym groes- awu y .dyeithriaid i gyd sydd yn dod yma, ac yn enwedig y rhai sydd am gartrefu yma. Y mae David O. Owens a'r teulu yn teimlo yn reit gartrefol yma.—Gymraes o Ilion. Marwolaeth yn Remsen, N. Y. I Yn ei gartref, ddydd Llun diweddaf, bu farw Hugh W. Hughes, Remsen, yn 79 oed. Ganwyd ef ar fferm Reed yn y plwyf, yn fab i Mr. a Mrs. William J. Hughes; ac efe yn olaf o'r teulu. Yr oedd yn aelod ffyddlawn o'r eglwys Fed- yddiedig, yn ddyn caredig, cymwynas- gar, a chymydog da. Tua 30 mlynedd yn ol, ymbriododd a Kate Pugh, a thua chwe mlynedd yn ol y symudasant o'r fferm i'w cartref presenol. Tua blwydd- yn a haner yn ol, cafodd ergyd o'r par- lys, ac un arall yr wythnos ddiweddaf. Gedy weddw, Mrs. Kate Hughes;, dau nai, W. D. Jones, Remsen, a Clarence Hughes, Florida; ac un nith, Mrs. Wil- liam Davies, Remsen. Claddwyd ddydd Morcher o'r eglwys Fedyddiedig.

Advertising

|CAMBRIA, WIS. I

[No title]

Advertising