Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
11 articles on this Page
[No title]
Tywydd Oer Oeri yn annaearol-yr ydoedd Er adwyth dinystriol; Her ias y rhew oesol, Yn ei far ddaeth ar fy ol. O  Mona May Lloyd Gwyryr yn llawn rhagorion—yw Mona Ddymunol o galon; Tystia'i gwedd fod hedd i hon, Ac iechyd bochau cochion. —o— Anerchiad Priodasol Ar ol gorchfygu'r Kaiser,— Yr adyn drwg ei lun; Bendithion anmhrisiadwy Sy'n dod i ami i un; Mi glywais am un bachgen Rhagorol iawn, yn siwr, Sydd wedi penderfynu I Annie Maud gael gwr. Afonydd gloewon Cymru Gydunant yn yr aig, Ac felly ffrydiau cariad Yn mynwes gwr a gwraig; Ein dymuniadau goreu O'r gorllewinol fyd! Chwareuant fel eryrod 0 gylch eich anedd glyd! EDWARD JONES, Cambria, Wis. -:0:- Hyder y Credadyn o Iesu trugarog, Fy Arglwydd a'm Duw, Rho i'm dy fenditfiion, I'm cadw yn fyw; Hwy lonant fy nghalon, Hwy ddaliant fy mhen Yn wyneb pob adfyd A gyfyd is nen.. Pan gasglo y cymyl Nes duo y nen, Heb haul yn yr entrych, Na seren uwchben, Daw goleu o'r orsedd I loni fy mron, A llaw fawr drugarog I'm dal uwchlaw'r don. k Y PARCH. THEO. DA VIES. Or Niwi ilr Nef 'Rwy'n myn'd, fy nhad a mam, I. wlad na ddof yn ol, 'Rol teithio Ilawer cam Dros lawer bryn a ddol; 'Rwy'f wedi blino'n lan, Fy nerth sydd yn gwanhau; Mae afon o fy mlaen, A niwl o'm cylch yn cau! Tu hwnt i'r Mynydd Du 'Rwy'n gwel'd rhyw hyfryd wlad, A thuag ati hi 'Rwy'n myn'd, fy mam a 'nhad, 'Rwy'f wedi colli'r ffordd, Fy ffryndiau sydd ar goll; A minau yn y nos Yn chwilio am danynt oil. Ond nid oes un a ddaw I'm cwrdd yr ochr hyn, Ond mae yr ochr draw Yn llawn o engyl gwyn; Ac fel yn gwneyd i gyd Na chaf fi unrhyw gam; 'Rwy'n myn'd i'r bythol fyd- Ffarwel, fy nhad a mam! Mae afon o fy mlaen, 'Rwy'n clywed swn y don; 'Rwy'n gwel'd y rhai sy'n byw Tu hwnt i ffrydiau hon; Mae melus hun yn dod, 'Rol dydd o dudded maith, A minau'n teimlo fod Gorphwysfa ar ben y daith. I groesi i'r ochr draw Nid OQS ond megys cam; 'Rwy'n myn'd i'r byd a ddaw- Ffarwel, ffarwel, fy mam! WATCYN WYN. (0 "Gerddi'r Mynydd Du") Profiad Shoni'r Halier yn Ffrainc I (Yn nhafodiaith Cwm Rhondda) 'Roedd pawb yn adnabod Shoni— Mab Betsan a Shams Ty Fry- Ar gyfrif ei sel dros anrhydedd y cor Anfarwolodd y Gilfach Ddu. Pan y dychwelodd am dro o Ffrainc, v I'w gwrdd yr aeth modur y plas, A llanwyd Neuadd y Gilfach Ddu Gan fechgyn y creithiau glas. Pan alwyd ar Shoni i siarad, Cododd y dorf ar ei thraed, A chroeso teilyngach ni chafodd neb Ddychwelodd o faes y gwaed. "On i ddim weti bryddwyto," Meddai Shoni gan edrych yn syn, "Am gal shwd bresant bach net gita chi, A hed shwd reception a hyn. "W i ddim rhw lawar o spowtwr, Cheso i ddim o'r gift of the gab, Ishta cas rhai 6n cyd-withwrs, Ac ishta cas Dai, pwr dab. "Fe Hewn pe ta fa yma, Fe weta fe'r stori'n boleit, Odd Dai, i chi'n gwpod, yn scolar da, A spowtan odd i unig ddeleit. "Ishta. i chi gyd yn gwpod Fe liston ni'n dou ar y start, A fuo ni ddim shiffad cyn lando yn Ffrainc, Ma John Bull amball dro yn lied smart. "Os gita chi ddim dirnatath Am y picil sy ar y wlad, Ma'r cwbwl ishta twll rwbesh, A phopath mor hyllad a brad. "Lica chi tast ar uffarn Saith twymach na'r Dardanels? Croeswch y Shannal i wlad y French I ganol y slwdj a'r shells. "Un creulon ofnatw yw rhyfal, A ma'r hewl sha Berlin yn un hir, Ond cretwch chi fi, fe fydd raid i Fritz Yn y diwedd ddodi 'drad yn y tir. "Fe startws i ffordd acha gallop, Ond fe stagws yn waff yn y ffos, Ma fa'n stablan shew, on q yn mwdjid dim, Ma fa ishta hen iar yn y tos. "Odd a'n ddicon gwell gwr na'r French- man On' bai am John Bull, os dim dowt; Y fe ddotws sprag yn i wheel a, A fe ddotith iddo'r knockout.. "Fe welws shew o'r bois yr angyllon Fu'n wmladd yn Mons gita ni, A fe welas inna angylion hed,- Angylion y Red Cross walas t "A diolch i Dduw am danyn' nhw i gyd, Ma nhw'n dynar, dewr a dinam, Ond y ffeina a'r biwra gwrddas i- Odd hi'n whilia r'un iaith a mam. "Annghofia i byth mo honi, 'Rwy'n i gweled hi'r fynyd hon, A'r bachan listws 'r un dwetydd a fi Yn marw a'i ben ar 'i bron. "Weta i ddim llawar yn rhacor— Pan gwrddas i weti'n a hi, Odd hi'n planu biota ar feddrod Dai, A bedd sowldiwr y gatar ddu. "Bois, pidwchiwhilia am gwpla Cyn cwmpla'r Kisar a'i griw, Ond pitshwn miwn nes cal whara teg I bawb ishta'i giddyl i fyw." I Pentre. Rhondda. MILWYN. I Pentre, Rhondda. MILV%ryN.
I Y DIWEDDAR RUSSEL JONES,…
I Y DIWEDDAR RUSSEL JONES, BANGOR, PA. Aeth Russel trwy faith waeledd—i'r bedd, Er ei barch a'i rinwedd; Daw eilwaith uwch dialedd I ail fyw o'i dawel fedd. Dyma ddarlun o'r diweddar Russel Jones, mab i Mr. a Mrs. Win. Jones, 4th Street, Bangor, Pa. 0 ochr ei fam, yr oedd yn orwyr i'r Hybarch. John Williams, Bangor; ac o ochr ei dad, dis- gynai o hen deulu Caermoel. Dyma delyn dorwyd yn gynar, dim ond dwy- ar-bymtheg oed; eto wedi gosod i lawr sylfaen i fywyd maith, a neillduolion oedd yn proffwydo oes o wasanaeth mawr. Ac i bawb oedd yn ei adnabod ac wedi deall teithi ei feddwl, nid oedd ei golli ond colled ddigymysg i fyd ac eglwys. Un sail dros feddwl felly oedd ei fod yn reddfol wedi ei neillduo i fywyd 0 ymgysegriad. Yr oedd yn llawn hoen ac asbri, fel pob dyn ieu- anc, ond nid oedd mewn un modd dan ddylanwad y nwyd o chwareu sydd mor niweidiol o dinystriol i fywyd yr oes. Tra yr oedd asbri chwareu yn Ilons;d ei natur, eto yr oedd wedi gosod ter- fynau fel na chae y chwareu ddim tres pasu ar derfynau diwylliant a moes, er cymaint oedd swyn y chwareu. Yr oedd llais hawliau tasgau yr ysgol yn seinio yn uwch na swyn pob chwareu, fel yr oedd, er ond wedi myned heibio ei ddwy flwydd-ar-bumtheg o'i oedran, eto yr oedd ar ei flwyddyn olaf, a'i lygaid yn ddiysgog ar ddiwrnod y graddio, ac yr oedd tynu diwrnod y graddio allan o'i broblem yn groes an- hawdd ei dwyn. Y Diweddar Russel Jones I Yr oedd seiliau ei fywyd cymdeithas- ol yn addawol iawn, a llawer o honom wedi gosod dysgwyliadau uchel wrtho. Yn un peth, meddai ddawn gyfoethog at gerddoriaeth, a daliai ar bob cyf- leusdra i'w dadblygu. Yr oedd yn ddi- droi-yn-ol yn ei benderfyniad i lwyddo yn mha beth bynag y gosodai ei fryd arno. Syrthiodd mewn cariad yn foreu a'r .crwth, ac hwyrach y gallai rhai sydd yn gwybod pa mor anhawdd ydyw meis- troli y crwth, ei fod mor ieuanc wedi goresgyn yr anhawsderau, ac wedi ei ddwyn yn offeryn lied ufudd heb yr help lleiaf ond a gafodd mewn un Ilyfr. Meddai ar chwaeth uchel a choeth yn mhob peth a ganai. Chwareua yn swynol ar y crwth yr alaw brydferth hono, "It's the road that leads home. Peth arall, a choron pob peth, yr oedd crefydd yshrydol wedi cymeryd medd- iant o hono. Er mai amser byr gafodd, profodd uwchlaw pob ameuaeth mai dyna oedd ei brif drysor. Nid oes un yn yr eglwys wedi hunanymroddi mor llwyr i waith crefydd ag oedd Russel Jones. Fe ddaeth i Bethel tra medrodd ymlwybro. Bob blwyddyn, yr oedd yn enill y brif wobr am ffyddlondeb i'r Ysgol Sul. Yr oedd mor ami ei fedals ag archdder- wydd Cymru. Daliodd ei ddyddordeb yn mhethau crefydd i'r diwedd. Ed- rychai at amser dyfodiad y gweinidog gyda. syched ac archwaith angerddol, a mynyd dedwyddaf y diwrnod fyddai y mynydau hyny pan fyddai y Beibl yn cael ei ddarllen, a'r weddi yn cael ei hoffrymu. Diangenrhaid ydyw dweyd iddo ddal ei gystudd gydag urddas. Nid oedd cwyno a grwgnach yn adnabod ei galon. Dywedai lawer gwaith y buasai yn hoffi cael mendio. Foreu Sadwrn, Tachwedd 8, hedodd ei ysbryd pan oedd gwawr y dydd yn tori, i ganol gogoniant gan adael pob llesgedd ar ol. Ddydd Mawrth dylynol, talwyd iddo y gymwynas olaf. Wedi gwasanaeth byr yn y ty, symudwyd i'r capel, lie yr oedd torf fawr wedi ymgynull. Hawdd deall fod rhywun ag y teiml-ai y gymyd- ogaeth yn serchog tuag ato yn ymadael. Gwisgwyd y pwlpud gan bobi ieuainc yr eglwys yn addas a phrydferth. Gwasanaethwyd yn y ty, yn y capel, ac ar lan y bedd gan y Parch. Abram Jones, ei weinidog, yn cael ei gynorth- wyo gan y Parchn. J. T. Williams (W), a J. W. Matthews, (M. C.). Canwyd yn swynol gan Miss Ceridwen Davies, "It's the road that leads home," ei hoff emyn. Mae cydymdeimlad yr ardal yn rhed- eg at y teulu, ac yn gweddio am yr aden fawr fod yn daenedig drostynt.
Advertising
YMOFYNIAD Am William Williams, sef brawd i Morris Williams, a mab i'r diweddar Evan Williams, gynt o Dodwarren, Caergybi, Sir Fon. Yr oeddynt yn byw ar fferm Edward R. Jones, ger Haw Judson, Minnesota, tua 14 o flwyddi yn ol, pan yr aeth oddicartref. Y gair diweddaf a glywyd am dano oedd ei fod yn Montrose, S. D., tua 6 mlynedd! yn ol, pan gladdwyd ei dad. CJarai yr hen wraig, Mrs. Williams, a'i frawd, cael gwybod a ydyw ar dir y byw. Os oes rhywun a'i adwaena, bydded mor garedig ag anfon ei gyfeiriad i— MORRIS WILLIAMS, R. 4, B. 57, LAKE CRYSTAL, MINN.
[No title]
Y Parch. John R. Williams; Humphrey, ei Fab; Merch Fechan Humphrey; I Mrs. M. Williams Jones
Y DDIWEDDAR MRS. MARGARET…
Y DDIWEDDAR MRS. MARGARET WILLIAMS JONES, SLATING- I TON, PA. Nos Sul, Tachwedd 16eg, bu farw yr hen fam anwyl, Mrs. Margaret Wil- liams Jones (y Rhiwen), yn ei chartref ar Washington Street, Slatington, Pa., o nychdod a henaint, yn agos i 81 oed. Genedigol ydoedd o Sir Fon, G. C. Pan yn eneth ieuantS, symudodd i blwyf Llanddeiniolen, ac yno yr ymbriododd a John Williams (y Rhiwen), a ben- dithiwyd yr undeb a chwech o blant: y Parch. J. Rhiwen Williams, Kingston, Pa.; Ellen a Margaret Williams, Ler- pwl; Thomas Williams, Slatington; y ddiweddar Elizabeth Parry, Pen Argyl, Pa.; a Jennie O. Jones, York, Pa. Rhagflaenodd ei phriod hi yn yr angeu yn y flwyddyn 1879. Ymfudodd hi i'r wl-ad hon yn y flwyddyn 1891, gan ym- sefydlu yn y dref hon. Yn y flwyddyn 1899, ymbriododd eil- waith a John Jones (Tan y Bwlch), Danielsville, Pa., a bu yn cartrefu yn y pentref uchod am rai blynyddau, hyd nes y bu ei phriod farw. Yn mhen am- ser ar ol hyny, symudodd yn ol i Sla- tington, gan wneyd ei chartref gyda'i mab, Thomas. Cymerodd ei hangladd le ar yr 20fed am ddau o'r gloch, gyda gwasanaeth byr yn y ty, ac yna yn nghapel Salem (T. C.), pryd y gwasanaethwyd yn deimladwy gan y Parch. Thomas O. Hughes, ei gweinidog, a'r Parch. R. L. Williams (A.), a rhoddwyd ei gweddill- ion i orphwys yn ol ei dymuniad yn mynwent Fairview. Gadawa i alaru eu colled o fam anwyl a duwiol: y Parch. John Rhiwen Williams, Kingston, Pa.; Ellen a Margaret Williams, Lerpwl; Thomas J. Williams, Slatington, Pa.; a Jennie O. Jones, York, Pa; un-ar- bymtheg o wyrion, ac un orwyres. Cafodd angladd parchus iawn, ac yr oedd y perthynasau canlynol yn bre- senol: y Parch. John R. Williams a'i briod, a'r ddau fab, Gomer ac Albert, Kingston, Pa.; y Parch. Richard J. Wil- liams a'i briod, a'r ferch fach fabwys- iedig, Ethel, o Venedocia, Ohio; Griffith O. Jones a'i briod, a'r ferch, Margaret, o York, Pa.; Hugh Parry a'r plant can- lynol, John, Margaret, Elizabeth a Florence, o Pen Argyl, Pa. Thomas H. Williams, Rome, N. Y.; Mrs. John Pugh, Kingston, Pa., yn nghyd ag am- ryw o Philadelphia a, Bethlehem, Pa. Yr oedd yr arch wedi ei orchuddio a blodau hardd a drudfawr, rhoddedig gan y teulu, y perthynasau, a chyfeill- ion yr ymadawedig. Hefyd, anfonodd Ladies Aid Society o eglwys y T. C. yn Kingston, Pa., flodeuglwm hardd fel ar- ddangosiad o'u cydymdeimlad a'u parchus weinidog yn marwolaeth ei an- wyl fam. Yr oedd yr hen chwaer yn aelod parchus yn eglwys Salem, ond yr oedd wedi ei hanalluogi gan henaint i fod yn bresenol yn ddiweddar, yr hyn oedd yn ofid blin iddi. Cafodd, fel eraill, yfed o ddyfroedd Mara yn ei thaith trwy yr hen fyd yma. Cafodd ei gadael yn weddw gyda llon'd ty o blant, ond llwyddodd i'w dwyn i fyny yn "ofn yr Arglwydd." Yr oedd ei ffydd yn gref yn rhagluniaeth fawr y nef, ac yn nghanol ei hymdrechion, ymfoddlonodd i drefn ei Duw, a bu yn dawel a dirwgnach o dan bob am- gyl.chiad. Yr oedd addewidion Duw yn ei Air yn sylweddau iddi hi. Yr oedd er's blynyddau yn' addfedu yn llawn i fyned i mewn i'r trigfanau nefol, ac yr oedd yn bleser bod yn ei chymdeithas, canys pethau crefydd oedd ei phethau hi. Yr oedd perarogl y nefoedd ar ei holl ymddyddanion. Er y teimla y plant yn chwith o golli eu m-am, eto y mae y golled wedi troi yn enill tragwyddol iddi hi, canys y mae gartref gyda'r Gwaredwr y son- iodd gymaint am dano tra yma ar y llawr. Dymunir ar i bapyrau Cymru godi yr uchod.—Cyfaill.
PRIODAS YN TORONTO, CANADAI
PRIODAS YN TORONTO, CANADA I Tachwedd 6, 1919, yn y capel Cym- reig yn Toronto, Canada, unwyd Miss Margaret Ellen Hughes a Mr. Henry Bertram Arnold mewn glan briodas, a gweinyddwyd ar yr achlysur gan eu gweinidog, y Parch. John R. Evans. Y ddwy forwyn briodas oeddynt: Miss Gwladys a Miss Bloldwen Hughes, chwiorydd y briodferch, a'r gwas priod- as ydoedd Mr. William McFayden. Rhoddwyd y ferch ieuanc ymaith gan ei thad, Mr. Hugh Hughes, a chwareu- wyd y gan briodasol gan Mrs. Fred Wood, a Lily Muriel Owen oedd yt. enetheg oedd yn dwyn y blodau. Ar ol y gwasanaeth, aeth y cwmni priodasol mewn moduron i 317 Lauder Avenue, cartref clyd rhieni y briodfercn, a llan- wyd y ty gan berthynasau a llu o gyf- eillion. Bu yno wledd a derbyniad serchog i'r ddau, a derbyniasant luaws o anrhegion gwerthaJVr. Ganwyd y wraig ieuanc yn Mhorth- aethwy, Mon, a'r gwr ieuanc yn St. Davids, Penfro. Yn fuan wedi i'r rhyfel dori allan, ymunodd efe a'r fyddin, ac yn mhen ysbaid wedi cyraedd Ffrainc, cymerwyd ef yn garcharor gan yr Ell- mynwyr, ac wedi bod yn y carchar tan driniaeth galed am oddeutu dwy flyn- cdd, gwnaeth ymgais i ddianc, a llwydd- odd y trydydd tro, er peryglu ei fywyd wrth hyny. Bu ei frawd, Sidney Ar- nold, hefyd, am amser yn y rhyfel, yr hwn yntau sydd wedi dychwel erbyn hyn. Y mae y par dedwydd yn aelodau o'r eglwys Gymreig,. ac, hefyd, o gym- delthas, Dewi Sant. Aeth y ddau am ysbaid i Guelph, On- tario, ond y maent yn ol erbyn hyn, a gwnant eu cartref yn y ddinas. Eiddun- wn iddynt Dduw yn rhwydd yn eu sef- yllfa newydd.—Gohebydd. + • » A
IY DDIWEDDAR MRS. DAVID R.…
Y DDIWEDDAR MRS. DAVID R. JONES, LAKE EMILY, WIS.. Daeth cryn dristyd i galonau llawer D'èll glyw.sant am farwolaeth ddisyfyd y chwaer uchod, yr hyn a gymerodd le, Tachwedd 9fed. Aeth allan yn blygein- iol y boreu hwnw, a phan na welai y merched hi yn dod yn ol o fewn amser rhesymol, aethant i chwilio am dani. Er eu braw, a'u mawr ofid, cawsant hi wedi boddi mewn tanc o ddwfr yn ymyl y ty. Y dybiaeth yw, -gan y byddai yn cael ymosodiadau llewygol. iddi deimlo un o honynt yn dod drosti. ac eistedd ar ymyl y tanc, a'i gorchfygu yn llwyr gan yr ymosodiad, nes syrthio i mewn a boddi. Ganed Mrs. Jones yn Randolph, Me- hefin 11, 1865. a hi yn ferch i John ac Elin Roberts. Ei thad ydoedd yr enwog John Roberts, Bontnewydd, ac yn nod- edig ar gyfrif ei weddiau. Ymbriododd a David R. Jones. Mawrth 13, 1889, ac o'r undeb hwn, ganed iddynt dair o Perched, sef Nellie, Margaret a Mamie. Oedv hefyd, mewn dwfn alar, ddwy chwaer, Mrs. John R. Jones, Lake Em- ;ly; a Mrs. Ellis G. Jones. Fox Lake; yn osTvstal a dwy fodryb, Mrs. Kate Strauch a Miss Ellen Roberts, Ran- dolph. Yr oedd yr ymadawedig yn aelod ffyddlon a defnyddiol yn hen eglwys Blaenycae. Arnynt hwy, fel teulu y dis- tgynai gofal y canu. Dynes garedig. hy- naws a diabsen iawn ydoedd. yn fawr ei pharch gan bawb, ac iddi air da ganddynt, a chan y gwirionedd ei hun. Dyddaned Duw y priod a'r merched trallodus yn y brofedigaeth lem a'i goddiweddodd.—F. T. R.
Advertising
Y N E I S I E U Gwr a gwraig i ofalu am y capel Cymreig, 11th Street, New York. Am y manylion, goheber a EDWARD JONES, 135 East 31st Street, New York City
[No title]
-Da genym glywed fod Dr. Hugh Jones, Y. H., Dolgellau, wedi ei ddewis ,an ei gydfeddygon i'w cynrychioli ar Bwyllgor y Ddeddf Yswiriol dan y British Medical Association.
I"Rhydd i Bob Meddwl ei Farn…
I "Rhydd i Bob Meddwl ei Farn ac i Bob Barn ei Llafar." Dyn fel Rheolwr. Mri. Gol.: Aeth y Dr. Morien Mon dro yn ol allan o dymer at PIas Gwyn o herwydd y geiriad uchod. Y mae yn syn yr ameua neb mai dyn sydd yn rheoli yn ein byd. Y ffordd feallai, i daflu ychydig oleu ar y pwnc yw crybwyll mai "goruwch- reoli" y mae Duw. Gwna hyn yn iawn a'r ddwy ochr. Cymerer y gyffelybiaeth a ganlyn: Yr Arlywydd Wilson sydd yn "goruwch- reoli" y Talaethau, ond wedi'n ,y medd- wyn sydd yn rheoli yn ei dy; y dyn an- onest sydd yn rheoli ei fusnes; y pro- ffitiwr sydd yn rheoli ei drafodaeth; y gwr creulon sydd yn rheoli ei wraig a'i blant; a'r boss diegwyddor sydd yn rheoli y llafurwyr o dano. Cyfrifa hyn am y drwg, a'r annghyf- iawnder, a'r creiilondeb ac annibendod sydd yn y byd, a theifl hyn oleuni ar yr ymadrodd, "Gwneler dy ewyllys, megys yn y nef, felly hefyd ar y ddaear"; ac hefyd, "Deled dy deyrnas." Os mai Duw sydd yn rheoli eisoes, y mae Ei deyrnas genym, a ffolineb fyddai gweddio, "Deled dy deyrnas." UN YN SEFYLL. I Ystyriaeth Sam Ellis. Mri. Gol.: Dymunir cyflwyno yr ych- ydig sylwadau isod i sylw Mr. Ellis. Gofyna, "Ai tybed nad ydyw ysbryd %yn rhywbeth amgen nag ysgogiad?" Beth yw ysbryd, Sam, os nad ysgogiad? Rhowch ateb gwyddorol, gan gynwys prawf, ac nid dyfynu Ysgrythyr. "Dysg ymwybyddiaeth a sylwadaeth fod dwy ffordd," i ni gael ein dewis. Nid yw fy ymwybyddiaeth a'm sylwad- aeth i yn dysgu hyny. Beth yw y rhes- wm fod dau anifail o'r un rhywogaeth fel ag yw Sam a finau (mae yn debyg) yn gweled pethau mor wahanol? "Maentumia L. G." Ceir L. G. mewn llawer o ystumiau o'r adeg y deffry yn y boreu hyd yr hwyr, ond nis gwyr pa bryd y bydd yn "maentumio." Os yw Sam Ellis am brofi fod ewyllysiad yn beth heb achos iddo, dylai ddod a gwyddoriaeth yn mlaen, ac nid Beibl; mae gormod o wahanol farnau gyda golwg ar beth a ddy&ga y Beibl i'w gy- meryd i brofi un peth. Ymddengys mai cyfrifoldeb ydyw y swmbwl brocia S. E. i fyw yn dda (os gwna hyny), ond y mae gan L. G. res- wm-a hwnw yn un oadarn iawn hefyd —dros i bawb fyw yn dda. LEWIS GABRIEL. Darllen Seisneg yn Gymraeg y Wlad Oreu. Mri. Gol.: Yn ystod y dyddiau hyn, yr ydym wedi cael tywydd gwlyb iawn, a hyny yn achosi llawer o goll amser i ni fel gweithwyr. Un diwrnod, pen- derfynais dalu ymweliad a hen gyfaill, ac wedi cyraedd ei fwthyn, canfyddais ef yn darllen newyddiadur. "Darllen y 'Drych' wyt ti?" "Nage! Mae'r hen gyfaill heb gyraedd." "Beth ydyw'r newyddion Seisneg heddyw?" "Dim ond rhyw lob scows fel, arfer; ond dyma i ti farddoniaeth Seisneg ddoniol iawn." "Wel, waeth i ti heb na'i darllen i mi, achos ddealla i yr un gair o honi." "Wel," ebai yntau, "mi darllena' hi yn Gymraeg i ti." "Ar i hoi hi 'r hen gyf- aill." Pe bawn i'n gwybod lie mae gwlad, Lie gallwn brynu nwyddau'n rhad; Cael cyflog mawr, ychydig waith, A phej-dio gweithio:amser maith, Yn fuan iawn buaswn i Yn llwytho'r gist, a ffwrdd a fi Am dren neu long i'm cludo'n mhell Fr wlad lie gallwn wneyd yn well. Ond pan y gwelaf estron wr Yn dyfod yma dros y dwr, Ei obaith ef a'i deulu sydd Am fywyd gwell mewn gwlad sy'n rhydd. A rhyddid sydd i bawb a ddel T'r wlad sy'n llawn o laeth a mel. Gwlad lie gellir gwneyd bywoliaeth Heb lyfethair caethwasanaeth. Dyma'r wlad lie gall y Cymry Gael gwell bwyd na uwd a llymru; Ymddadblygu mewn gwybodaeth, A chael swydd dan y llywodraeth. Yma daw trigolion Rhufain Am ddyfodol fywyd dysglain, Enill cyfoeth trwy lafurio, A myn'd adref wnant i'w wario. Gwlad yn llawn o bob manteision Ywlr Amerig i'r trigolion, Nid oes gwlad dan hawl y nefoedd Tebyg iddi, meddai'r bobloedd. Ond wrth wrandaw ar fy salach Ag sydd beunydd wrthi'n grwgnach, Beio'r wlad a chreu drygioni- Dyma'r dosbarth ddylem foddi. Baner sidan, ser a rhesi, Ar ei choryn claer 'rwyn rhoddi Hyn yn arwydd cenedlaethol I'r Amerig yn dragwyddol. G. Dylyn y Peiriant. Mri. Gol.: Nid yw A. H. Williams yn amgyffred beth yw rhyddid. Ei ryddid ef yw "rhyddni." Fel hyn: Y mae am i weithred neu fywyd dyn fod yn hollol rhydd oddiwrth ei synwyr a'i ddeall, ac felly o ddim gwasanaeth o gwbl i ddyn. Rhoddwyd yr ewyllys i ddyn i'w am- canion personol ef. Pa les fyddai ewyllys i ddyn fyddai yn rhydd hollol oddiwrtho? Ni fyddai dyn yn gyfrifol. am ewyllys o'r fath. Ystyr rhyddewyllysiaeth yw ei bod yn eiddo y dyn, ac yn eiddo neb na dim arall. Ewyllys rydd yw ewyllys yn feddiant personol i'r dyn a'i medda. Ewyllys gath yw ewyllys yn rhwym i rywun arall neu rywbeth anmhersonol. Gan fod yr ewyllys yn eiddo y dyn ei hun, efe sydd yn gyfrifol am dani. Pe bae yr ewyllys yn rhydd, yn ol dymun- iad Mr. W., ni fyddai yn deg i ddal dyn yn gyfrifol am a wnai! Dyma engraifft arall: Dyma fraich dyn; y mae yn rhwym wrth ei gorff i'w wasanaethu ef yn bersonol; y mae yn gallu (o'r herwydd) ei symud yn mhob ffordd i'w amcanion ei hun. Y mae el fraich yn rhydd yn ei wasanaeth ef. Yn awr, meddylier. yn ol dymuniad Mr. W., ei bod yn myned yn rhydd oddi- wrth ei gorff; ni fyddai o un gwasan- aeth iddo; ni fyddai yn eiddo y dyn mwyach, am ei bod yn rhydd, yn ol golygiad Mr. W.! A phe deuai rhywun yn mlaen gan rwymo ei fraich a chortyn, byddai yn gaeth, am na allai ei defnyddio i'w am- can ei hun, ac yn ei wasanaeth ei hun. Byddai y caethiwed hwn yn difodi cyf- rifoldeb y dyn yn nglyn a'i fraich yn yr un modd ag y byddai ei fraich wedi ei rhyddhau oddiwrth ei gorff (yn ol syn- iad Mr. W.). Arweiniai rhyddid Mr. W. i'r un annghyfrifoldeb a'r caethiwed arall! Ysgrifenais yr uchod er i Mr. W. efrydu ei "ryddid" yn mhellach, gan ddangos iddo na wyr, hyd yma, beth yw rhyddid "gwirioneddol." SHON Y DYRNWR. Pris y "Drych" a Llyfrau Cymraeg. Mri.. Gol.: Mae yn debyg y bydd rhai o'r Cymry yn dychryn wrth ddar- lien am y "Drych" yn codi ei bris. Syn- dod i mi ei fod wedi dal mor hir heb godi, pan gofiwn fod pob papyr wedi codi; ond, wrth gwrs, byw ar fenthyca ydi hanes Iluaws o Gymry yn nglyn a'r "Drych." Ychydig sydd yn sylwedd- oli mai y "Drych" yw yr unig gyfrwng Cymreig sydd genym yn y wlad yma, a dylai mwy o Gymry ei gymeryd; ond rywfodd, math o "failure" ydyw pethau Cymreig i'r Cymro oddicartref. Nid yw llyfr Cymraeg o un gwerth yma, boed o dda neu wael, a gwell gan lawer gam- farnu yr awdwr na churo ei gefn yn ei ymgais i gadw yr hen iaith yn fyw. Fe ddylem fel Cymry fawrygu awdwr o radd Index, a'i gefnogi, ac nid ei flan- gellu, a hyny yn ami gan weinidogion y Gair, fel mae mwyaf gwrthun. Rhy flaenfynedpl yw Index. Mae i lyfrau Index eu neges yn y byd, ond nid yr amser presenol hwyrach. Rhaid cael bardd a lienor i fwynhau ei waith; ie, ac ieithwr go dda hefyd. Pechod mawr Cymro talentog yn er- byn ei gydgenedl ydyw tori tir newydd mewn llenyddiaeth, a rhaid felly alw Index yn bechadur mawr. Druan o broffwyd yn nghanol ei genedl ei hun, ynte? Ond mae dwy ochr i bobpeth. Gwyr yr awdwr galluog fod hyd yn nod yn mysg ei genedl rai sydd yn mwynhau ffrwyth ei lafur, ac yn sychedu am fwy o'i gyfoeth meddyliol, a'r gwybodaeth o hyn sydd wedi ei argyhoeddi i ddal ati heb laesu dwylaw.. Teithia ar ei ben ei hun yn myd meddwl, a gall fyned i gyfrinch a "chist yr ardal," "ac am dro i erstalwm," a dod yn ol gyda'r "Ddau Adda." GLANOGWEN. Cedwch y "Drych" yn Gymraeg. 0, cedwch y "Drych" yn Gymraeg, Can's Cymro di Iwgr yw ef; Mae'n gwasgar newyddion Cymraeg Wythnosol i bob gwlad a thref; Mae'r Cymro yn gwybod yn glir Am angen holl Gymry y byd; Rydd iddynt yr hyn a wna les I'w cadw yn foddlawn o hyd. 0, cedwch y "Drych" yn Gymraeg, Mae'n Gymro di dwyll hyd y earn; Bydd peidio'i gyhoeddi'n Gymraeg Yn chwalu'i Gynireigaeth yn sarn Gan ddwyn penchwibendod yn ol Ac ansefydlowgrwydd di les; Cyhoeddwch y "Drych" yn Gymraeg- Mae'r iaith yn gyfoethog o wres'! Cyhoeddwch y "Drych" yn Gymraeg; Parhewch i'w gyhoeddi o hyd; Na lygrwch ei wedd a'r iaith fain Ond gwelwch mor lion yw ei fryd; Mae'r "Drych" wedi'n arwain ni oil Fel Cymry Cymreig yn ddi sen Drwy gyfrwng ein hen iaith heb goll Dros faesydd gwybodaeth a lien. Cyhoeddwch y "Drych" yn Gymraeg- Cymraeg yw—a'i cadwodd yn gry'; Cymraeg sydd hanfodol er llwydd; Plant Garner o'r gwraidd ydym ni; 0, rhowch i mi "Ddrych" sydd yn fyw 0 bethau Cymreig llawn o dan; A d'wedwch am nefoedd a Duw- Gwna hyny fy nerthu yn mla'n. JOHN B. LODWICK. Yr Ewyllys a'r Llyw. Mri. Gol.: Mewn ysgrif ddoniol yn rhifyn Tachwedd 20, fe wna Plas Gwyn gyffelybiaeth o'r ewyllys i lyw llong, a daw i'r cas,gliad fod y caethewyllyswyr yn dysgu mai y llong sydd yn llywio y llyw. yn lie y llyw yn llywio y Hong. Mae cyffelybiaeth o'r fath yn ddefnydd- iol iawn yn ami fel dangoseg i egluro rhyw egwyddor, ond fel prawf rhesymol i brofi pwnc neu ddadl, nid ydyw fawr o werth. Ar yr un pryd, os yw P. G. yn foddlawn i sefyll tu ol i'w gyfatebiaeth, yr wyf finau yn hollol barod i sefyll neu syrthio ar yr un ystanc. Felly cymerwn y llyw fel yn cynrych- ioli yr ewyllys; ac, wrth gwrs, y corff fyddai y llong; yna ein cymeriad (sef ein naturiaeth, ein haddysg, a'n harfer- ion) a gynrychiolid gan y Ilyw-olwyn, a'r dyn sydd yn gafael ynddo.. Yna daw y gwynt, yr ystorm a'r cefnfor i gyn- rychioli yr amgylchedd. Mae y gyfateb- iaeth yn un hapus, ac yn cydredeg yn ei holl fanylion.. Yn awr, ynte, y cwestiwn yw, a ydyw y llyw yn rhydd i lywodraethu y llong o hono ei hunan, fel y dywedir ganddynt hwy fod yr ewyllys, neu ynte a ydyw yn gaeth i'r llyw-olwyn a'r dyn sydd yn gafael ynddo? Mae P. G. yn ryw hintio na welodd Dr. W. a minau erioed long; am danaf fy hun, gallaf ddweyd fy mod wedi bod ar fwrdd llong filoedd o weith- iau, a gwn yn eithaf da fod y llyw yn rhwymedig wrth y llyw-olwyn, gyda dwy gadwen neu rhywbeth gyffelyb, a phan droir yr olwyn i "port" fe a y llong ar yr aswy, a phan droir ef i "starboard," fe a ar y dde; ond os bydd y llyw yn rhydd oddiwrth yr olwyn, fel y dywedir fod yr ewyllys yn rhydd oddiwrth y cymeriad, yna ni cha effaith o gwbl ar y llong. Mae hynyna yn cadarnhau yr hyn a ddywedais, fod yr ewyllys yn dibynu ar y cyneddfau, sef y rheswm, y teimladau a'r gydwybod i'w hyfforddi pa fodd i weithredu yn ddeallus ac yn ddynol; os byddai yn rhydd oddiwrthynt, byddai fel llyw allan o whac. Yr wyf yn diolch i P. G. am gyffelyb- iaeth y llyw; y mae yn un da, ac yn egluro y pwnc yn ardderchog. A. H. WILLIAMS. Eugene V. Debs, &c. Mri. GoL: Mae enw Eugene Debs wedi ymddangos lawer gwaith ar du- dalenau y "Drych," am fel y mae yn hysbys, y mae dros haner blwyddyn er pan anfonwyd ef i garchar, ac am ei fod yn bergon cyhoeddus ger bron y wlad, ac wedi llafurio yn galed drwy ei oes werthfawr o blaid plant llafur, y mae hyn yn fy symbvlu i anfon. yn fyr ac afler, y llinellau hyn, fel un o'i edmyg- wyr. Er ei fod yn berson cyhoeddus, y mae y bobl i gyd heb ei ddeall eto; nid oes gan y dynion hyny sydd yn creu y farn gyhoeddus yn y wlad hon eisieu iddynt ei ddeall, gan y bydd perygl wedi hyny iddynt hwy gael eu deall. Yr wyf yn credu fod Debs yn cael ei gadw mewn carchar o herwydd ei ddrwg; y drwg o ddwyn i gyhoeddus- rwydd anonestrwydd, creulondeb a gor- thrwm cyfalaf ladronllyd a beiddgar y wlad, ac am iddo wneyd llawer i acenu angenion llafurwyr yr oes. Y mae Debs, fel llawer, yn gweled lie mae yr esgid yn gwasgu, ac yn dweyd ei farn ar hyn, ac nid yw yn syndod ei 1 weled mewn carchar, oblegid mewn car- char y mae meddylwyr annibynol a'r caredigion y byd wedi bod ar hyd yr oesoedd; yr Apostol Paul yn ysgrifenu ei epistolau mewn carchar; Galileo, y seryddwr, a Bruno, yr athronydd, yn cael eu taflu i garchar. Mewn carchar yr ysgrifenodd John Bunyan, "Taith y Pererin"; mewn car- char y Bastille, bu Voltaire, yr hwn a wnaeth fwy dros ryddid na dim dyn a fu byw, ac mewn carchar yr ysgrifen- wyd y llyfr duwinyddol goreu a welais i fy hun erioed, gan yr ymfudwr mwy- af gwerthfawr a ddaeth i'r wlad hon, sef Thomas Paine.. Mewn carchar y bu Tasso, y bardd mwyaf prydferth a welodd Itali, a Columbus, un o gymer- iadau mwyaf dyddorol hanesiaeth. Gallwn enwi miloedd o garedigion goreu y byd sydd wedi cael eu taflu i garchar, fel Cervantes, Saint Simon, Joan of Arc, Lafayette, Thoreau, Kro- potkin, Ferrer, John Brown, Karl Lieb- knect a Rosa Luxemburg. Mae rhyw ysbryd yn cerdded drwy fy modolaeth ac yn cynyrfu gwaelodion fy enaid wrth feddwl fod lin o gymwynaswyr goreu y gweithwyr mewn carchar. Ond mae dydd i ddod, ond i ni aros yn mhorth amynedd, pan fydd plant llafur yn gosod penddelw o Debs ger bron y byd, gan ddweyd, "Efe a geis- iodd gael yr etifeddiaeth a gollwyd( sef y ddaear) yn ol i ni." GREEN liORN ARALL. Plas Gwyn a'i Odium Theologicum. Mri. Gol.: Yn "Nrych" Hydref 30, ceir ysgrif gan P. G. am y dadleuon duwin- yddol sydd yn bod ac wedi bod yn y byd. Deil P. G. fod y dadleuwyr wedi arfer geiriau na ddylent. Mae hyny yn ddigon tebyg. Nid oes llyfr nac ysgrif berffaith wedi ymddangos er amser loan y duwinydd, yr hwn ysgrifenai o dan ddwyfol ysbrydoliaeth. Mae rhai dadleuwyr yn mhob oes, mae yn ddiau, wedi arfer geiriau rhy gryfion; a cheis- ia P. G. wneyd bwgan o hyn drwy ddyrnu yn yr ysgrif hon ar hen air o bac yr anffyddwyr, "Casineb duwin- yddol" (odium theologicum). Cas gan galon yr anffyddiwr yn mhob oes weled dadleu ar bynciau duwinydd- ol. Pa reswm, meddai, myned i ddad- leu am bethau dibwys a diwerth? Dyma gan y diweddar Ingersoll; a hefyd un Twm Paine o'i flaen; ac mae eu dysg- ybjion ar ^u hoi wedi dysgu y don. Mae y geiriau gan Twm, a'r don gan Bob, ac mae anffyddiwr pob oes yn siwr o'i dysgu. Anfonais i ysgrif i'r "Drych," Awst 27, 1914, o dan y penawd, "A ydyw Plas Gwyn yn Anffyddiwr. Gofyn y cwestiwn yr oeddwn y pryd hwnw. Mae clywed y solo sydd yn rhedeg drwy yr ysgrif hon yn fy nhueddu yn gryf i ateb y cwestiwn yn gadarnhaol. Am y cas- ineb duwinyddol, cas gan y dyn duwiol bob amser, yn mhob oes a gwlad, weled cyfeiliornad mewn addysg neu mewn buchedd. Nid yw y "casineb duwinydd- ol" y sonia yr anffyddiwr am dano i'w weled yn un man mor gryf eg yn ym- ddygiadau yr Arglwydd Iesu ei hunan. "Gwae chwi, ysgrifenyddion a Pharis- eaid, rhagrithwyr." Yr oedd dysgeid- iaeth gyfeiliornus y Phariseaid wedi esgor ar gyfeiliornadau mewn buchedd, ac felly aeth yr Athraw mawr i'r deml un diwrnod, ac fe wnaeth fflangell o fan reffynau, ac a yrodd y rhai oeddynt yn halogi y deml allan. Ni welwyd erioed y "casineb duwinyddol" ag v mae yr anffyddiwr mor hoff o'i droi fel saig o dan ei dafod yn dangos ei hun mor blaen ag yn ymddygiad yr Iesu ar yr amgylchiad hwn. Mae P. G. yn yr ysgrif hon yn ceisio taflu parddu ar Luther, Calfin, Jonathan Edwards, ac eraill o ddynion blaenaf yr eglwys. Yn awr, pa effaith mae hyn yn gael ar Gymry y wlad? Meiddiaf ddyweyd fod y rhan fwyaf o lawer o ddarllenwyr y "Drych" yn bobl gre- fyddol, yn mynychu y capelydd o Sab- both i Sabboth. A yw ysgrif fel hon yn disgyn yn ddymunol ar eu llygaid? Mae pum ysgrif yn gyffredin ar dudalen y "Drych," ac yr wyf wedi sylwi amryw weithiau bod tair, weithiau bedair, o'r rhai hyny wedi eu hysgrifenu gan bre- gethwyr. Yn awr, pa gysur sydd i bre- gethwr fyned-i'r capel ddydd Sul i geis- io dysgu crefydd Crist i'r bobl. a gwel- ed unig bapyr Cymraeg y wlad yn dy- fod i'r ty yn yr wythnos, ac yn ceisio tynu y rhai hyny i lawr, a dysgu yr eg- wyddorion gwrthwynebus iddynt? Go- fynais i bregethwr dro yn ol, Cymro trwyadi, a oedd yn derbyn y "Drych"? Nac oedd. Yr oedd wedi ei roddi i fyny dro cyn hyny, a dywedodd fod erthyglau ynddo nad oedd yn hoffi eu darllen na'u derbyn i'w dy, ac enwodd amryw. Ond mae rhyw un yn gofyn, onid teg yw cael y ddwy ochr? Gellir ateb yn hawdd; mae digon o erthyglau anffydd- 01 i'w gweled yn y papyrau a'r cylch- gronau Seisneg heb fyned i ddifwyno gwyneb y "Drych" 3- hwvnt. Os a y "Drych" i geisio tynu i lawr grefydd a moesau Cymry y wlad. bendith i'r wlad fyddai iddo dynu ei draed i'r gwely a marw. DANIEL WILLIAMS.
Advertising
$100 Reward, $100 The readers of this paper will be pleased to learn that there is at least one dreaded disease that science has been able to cure in all its stages, and that is catarrh. Catarrh being greatly influenced by constitutional conditions requires constitutional treatment. Hall's Catarrh Medicine is taken Intern- ally and acts through the Blood on the Mucous Surfaces of the System, thereby destroying the foundation ot the disease, giving the patient strength by building up the constitution and assisting nature in doing Its work. The proprietors have so much faith in the curative powers of Hall's Catarrh Medi- cine that they offer One Hundred Dol- lars for any case that it falls to core. Send for list of testimonials, Address P. J. CHENEY ft CO., To- ledo, Ohio. Sold by all Druggists, 75c. T .'¡/