Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
13 articles on this Page
ADGOFION!
ADGOFION .I Gan T. J. L Yn fy nodiadau blaenorol, gwnes gry- bwylliad am Treharris, Mynwent y Crynwyr. Feallai mai dyddorol i am- ryw o ddarllenwyr y "Drych" fydd ychydig o hanes dechreuad y dref a fu am rai blynyddoedd yn enwog, o her- wydd y pyllau dyfnion a agorwyd yno, pa rai sydd yn agos i 800 o latheni o ddyfnder, ac yn amser eu hagoriad, y rhai dyfnaf yn Nghymru. Fel arwydd o barch i Mr. Harris, un o brif aelod- au'r cwmni, enwyd hwy "The Harris Deep Navigation Colliery"; ac am yr un rheswm enwyd y lie yn Treharris; a chan ei fod yntau o linach hen deulu o Grynwyr, dewisodd enwi rai o'i brif heolydd mewn parchus goffadwriaeth am rai o enwogion y sect hono, set Fox St., Penn St., Fell St., &c. Nis gwn yn sicr pa bryd y dechreuwyd suddo y pyllau hyn, ond yn y flwyddyn 1879 y dechreuwyd codi glo. Yr oedd dydd yr agoriad yn un a hir gofir gan y rhai oedd yn dystion i'r olygfa, pan aeth Mrs. Robert Beith, priod Mr. Beith, y chief engineer, yn nghyd ag amryw o'r swyddogion, i lawr, a chanddynt doraeth o flodau amryw- iog, pa rai a osodwyd gan Mrs. Beith yn addurniad drefnus ar ben y dram lawn ag oedd i hysbysu agoriad y pyllau en- wog. Heblaw aelodau'r cwmni ag oedd- ynt yn bresenol, daeth amryw o gyfeill- ion Mr. Harris gydag ef o Lundain i fod yn dystion i'r amgylchiad, a mawr y syndod a amlygwyd ganddynt yn yr hyn a welsant. Profodd Mr. Harris ei hun yn fon- eddwr yn mhob ystyr, o herwydd ni chollodd olwg ar angenion y gweithwyr tuag at eu cysuron, tu allan i'w oruch- wylion; felly trefnwyd iddynt fwynhau eu horiau hamddenol mewn modd ad- loniadol ac adeiladol, trwy agor coffi- tavern, lie yr ymgasglai'r dynion, ieu- ainc yn oriau'r hwyr, lie y gallesid cael coffi ac amrywiaeth o bethau bwytadwy am ychydig geiniogau, neu fyned i'r reading room, lie yr oedd digonedd o lyfrau ar wahanol bynciau; neu os myn- ent, i chwareu chess, checkers neu dominoes. Yr oedd yno hefyd ddigon o dalent gerddorol, offerynol ac adrodd- iadol i gynal cwrdd llenyddol bron bob ns Sadwrn yn yr assembly room, a hir y. cofia y rhai a fwynhawyd y cyrddau hyn yr amser da gafwyd yn nglyn a'r coffi-tafarn. Yr oedd hefyd wr a'i wraig ag oedd Mr. Harris wedi eu cyflogi i ymdroi yn mhlith y trigolion fel math o genadon, neu "Christian comforters," i ymweled a'r cleifion a'r rhai oedd yn dyoddef effeithiau y damweiniau a ddygwyddai yn ami, ond gan mai Season o Lundain oedd y bobl barchus hyn, ac yn ddyeithr i arferion y bobl oeddynt yn dyfod i gyffyrddiad a hwy, ni ddangoswyd idd- ynt y parch a gawsant pe yn Gymry; ond edmygwyd teimlad caredig Mr. Harris tuag at y teuluoedd, y rhai oedd yn ei wasanaeth. Mr. Thomas J. Evans, neu, yn wir, y Parch. T. J. Evans, gan iddo gael ei ordeinio yn weinidog ar eglwys y Brith- dir, tra yn oruchwyliwr ar byllau y Fochriw, oedd yn oruchwyliwr yn Nhre- harris, ac er mai Bedyddiwr oedd, casglwyd o'i amgylch ddynion profiadol perthynol i bob enwad, a'r Methodist- laid.oedd y cyntaf i godi capel yn y Ile. Trwy garedigrwydd y frawdoliaeth yma, cynaliwyd cyfarfodydd neillduol gan amryw o'r enwadau yn y capel hwn, fel y lie mwyaf cyfleus. Yma am yr unig tro y gwelais ac y clywais yr enwog Robyn Ddu Eryri yn traddodi darlith. Cofiaf ei fod yn ymddangos yn fethedig gan henaint. Y Bedyddwyr Seisnig oedd y nesaf i agor capel yno, ac yr oedd ganddynt eglwys weithgar a llewyrchus; y bobl ieuainc yn enwog am eu cyfarfodydd adroddiadol a llen- yddol o bob math. Tua'r un adeg, agorwyd vestri gan yr Annibynwyr yn DreLewis, lie yr oedd y boblogaeth yn cynyddu yn gyf- lym, ac yn fuan ar ol hyn, agorwyd ves- tri hefyd yn Dreharris, ond er's blyn- yddoedd mae ganddynt gapel hardd yn dwyn yr enw Bethania. Cydaddolai'i- Bedyddwyr Cymreig am dymor a'r frawdoliaeth yn hen eglwys, enwog y Berthlwyd, ac yr oedd ar y pryd o dan weimtdogaeth y Parch. E. Jones (Ior- werth Ddu), Maesteg yn awr, ond nid hir y buont cyn awyddu am sefydlu achos yn Nhreharris. Felly y bu, a chynaliwyd eu cyfar- fodydd yn y "long room" perthynol i'r gwest^ar Fox Street, ac er fod tua deugai? mlynedd wedi myned heibio wedi y mudiad hwn, nis gallaf bender- fynu achos y fath frys ar ran y brodyr da hyny i ymadael a'r hen eglwys nod- edig yn Mherthlwyd, a'i gweinidog, yr hwn oedd eisoes wedi enwogi ei hunan fel meistr y gynulleidfa. Edrydd hanes amryw o hen eglwysi Cymru gydag anwyldeb tuag at ryw hen ysgubor neu dy anedd fel y lie y'u ganwyd, ac er fod Pen Mawr yr Eglwys wedi addaw bod "lie bynag fyddo ond dau neu dri," ymddengys fel tro an- ngharedig i'w gwahodd i'r ystafell He yr oedd arogl y diodydd meddwol yn gwrthryfela yn fynych yn erbyn yr arogl-darth peraidd" yn ngweddiau yr addolwyr. Ond nid -hir fu'r brawdol- iaeth hon cyn codi vestri gyfforddus, ond cyn gorphen yr adeilad, ymwelwyd a'r gymydogaeth gan ystorm erchyll, a chwythwyd y to yn gorfforol i'r pant wrth ochr y rheilffordd ger Haw, ond yn mhen ychydig amser gorphenwyd y vestri, a chafwyd cyfarfodydd agoriadol hwylus. Pregethwyd ar yr achlysur gan y Parc'hn. Mona Jones (Plymouth, Pa., yn awr), yr hwn oedd ar y pryd yn new- ydd olynydd i Mathetes yn Rhymni, a'r hen batriarch, Benjamin Evans, Cas tellnedd; tebyg fod yno eraill yn pre- gethu, ond ni chlywais ond y ddau a enwyd. Yn mhen ychydig amser, cod- wyd capel hardd sydd yn anrhydedd i'r eglwys a'r dref, yn dwyn yr enw Bryn* hyfryd, a'r eglwys yn hynod o lwydd- ianus dan weinidogaeth y Parch. W. Jones. Bum yn bresenol yn un o'i gyf- arfodydd agoriadol, pan oedd y diwedd- ar Barch. Gomer Lewis, Abertawe, a'r Parch. Winkes, olynydd Dr. Griffiths yn Bethania, y Bedyddwyr Seisneg yn Nghaerdydd, yn pregethu. Dr. Winkes oedd gweinidog y cyn- Faer Jones, yr hwn hefyd oedd yn un o gwmni yr "Harris Navigation," a thrwy hyny, mae yn debyg, y gwahoddwyd y Doctor i roddi pregeth Seisneg. Testyn Dr. Winkes oedd, "Dirgelwch yr Ar- glwydd sydd gyda y rhai a'i hofnant Ef." Cafwyd pregeth rhagorol o ddy- lanwadol, gallem feddwl, a chofiaf yn dda rai o'i sylwadau, yn dangos y gyf- rinach rhwng y credadyn a'i Dad nefol sydd yn peri iddo fod yn llawen mewn gorthrymderau, yr hyn sydd yn anes- boniadwy ond i'r rhai a'i hofnant Ef. Ymadawodd y Doctor yn union wedi y bregeth, yr hon, mae yn debyg, oedd rhy faith i foddio Gomer, yr hwn oedd i'w ddylyn, o herwydd pan esgynodd i'r areithfa, dywedodd yn o sarug, "Oni bae fod y Sais yna yn gorfod dala'r tren, cheswn i ddim pnegethu o gwbl"; yr hyn a barodd chwerthiniad cyffredin- ol yn mhlith y Cymry. 1
I LANSFORD, PA. ,
LANSFORD, PA. Bu y Parchn. Griffith Evans a A. L. Rowe, y ddau o Nanticoke, yn gwas- anaethu yr hen eglwys Gymreig yn ddi- weddar. -1 Claddwyd yn ddiweddar yn Mahanoy City, Pa., y Gymraes dalentog, Mrs. Thomas, priod y diweddar Seneddwr Dan Thomas, goruchwyliwr glofaol y Morea Colliery. Yr oedd y chwaer yn hysbys iawn yn mysg y brodyr gwein- idogaethol perthynol i Gymanfa Gym- reig (A.) Dwyreinbarth Pennsylvania, gan y byddai yn dylyn ac yn rhoddi ei phresenoldeb yn yr oil o'r Cymanfa- oedd. Bu farw pan ar ymweliad a'i merch yn Ebensburg, Pa. Gwasanaeth- wyd yn ei hangladd gan y Parch. T. C. Edwards (Cynonfardd), Kingston, Pa., pa un a enfyn air am dani i'r "Drych." Mae yr hen gymeriad Cymreig, Lewis Hughes, Coaldale, wedi cael ei gaeth- iwo yn nghartref ei ferch, Mrs. Chas. Edwards, o'r dref uchod; ei,briod, Mrs. Hughes, wedi dod yn ol wedi bod dan ofal meddygol yn nhref Binghamton, N. Y., lie y mae y ferch, briod y Parch. Mr. Luke, yn. trigianu ar hyn o bryd. Bu y trio o'r Welsh Prize Singers yn cynal cyngerdd yma yn ddiweddar, a dywedir mai cymedrol oedd y canu. Qs bydd y Parch. Richard Thomas, Delta gynt, yr hwn sydd ar daith bre- gethwrol yn Pennsylvania, ag eisieu Sul, bydded iddo anfon at yr ysgrifen- ydd, Ben Thomas, Coaldale, os carai gael Sul i wasanaethu hen eglwys AnI" nibynol Gymreig y dref uchod, pa un sydd yn byw ar supplies, ag s,ydd yn anhawdd eu cael ar hyn o bryd. Bu Ben Thomas, Coaldale, ar ymwel- iad a Slatington yn ddiweddar, yn Nghymanfa y Methodistiaid Cymreig, pa un a fwynhaodd yn arbenig. Mae'r cerddor a'r dadganwr, Jesse Williams, o'r dref uchod, ac arweinydd y canu yn addoldy y Bedyddwyr am rai blynyddau, wedi ei gyflogi fel ar- weinydd corawl yn eglwys y Luther- iaid yn Tamaqua, Pa., a chlywais gan- moliaeth uchel iddo gan un o'r aelod- au yn Tamaqua. Mae efe yn nai i'r gohebydd, John T. Richards, Philadel- phia.
[No title]
I Y Diweddar John Evan Thomas a'i Br iod
IY DIWEDDAR JOHN EVAN THOMAS,I…
Y DIWEDDAR JOHN EVAN THOMAS, SOUTH WILKES-BARRE, PA. Blin genym fynegi am farwolaeth y I brawd anwyl, John Evan Thomas, Grove St., South Wilkes-Barre, Fa. Y gauaf diweddaf, cafodd ymosodiad o'r "fflu," a gadawodd hwnw ei golyn mar- wol yn ei gyfansoddiad, a dechreuodd ei babell ddadfeilio yn gyflym iawn, a chafodd ymosodiad ddechreu Tachwedd o'r pneumonia. Ar y llfed o Tachwedd, machludodd ei haul yn yr oedran o 50 mlwydd oed, gan adael priod a phump o blant i alaru ar ei ol; dau fab a thair merch. Y meibion yw Zaccheus ac ac Evan; a'r merched: Mrs. Watkin Owens, Jennie Thomas ac Ellen Tho- mas; y plant i gyd gartref gyda'r fam. Enw ei dad oedd Evan Thomas; a'i fam, Jane Thomas; ac mae y ddau wedi gadael y fuchedd hon; ac y mae tair chwaer iddo eto yn aros yn yr Hen Wlad, sef Sarah, Mary Jane a Cath- rin. Man ei enedigaeth oedd Half Way Terrace, Creigiau Mawr, Talysarn, Dyff- ryn Nantle. Adnabyddid ef wrth yr enw Jack Dre yn yr Hen Wlad. Yr oedd iddo lawer o gyfeillion yn Utica ac ardaloedd y chwarelau. Ymfudodd efe a'i deulu i'r wlad hon yn y flwyddyn 1906, gan ymsefydlu yn South Wilkes-Barre, Pa., yn y glofeydd. Claddwyd yr hyn oedd farwol o hono yn Mount Greenwood, ddydd Sul, y 16fed. Gwasanaethwyd yn y ty gan y Parch. John R. Williams, Kingston, a chanwyd yn dra effeithiol gan bedwar brawd o eglwys South Wilkes-Barre, ei hoff emynau. Yr oedd y gwasanaeth i gyd yn rhagorol. Yr archgludwyr oedd- ynt ei gyfeiilion boreu oes, sef Hugh Ed. Roberts ac Enoch R. Jones, Taly- sarn; William. Jones Williams a Nath- aniel Roberts, Penygroes; Robert Wil- liams, Cilgwyn; a William Williams, Beddgelert g/nt. Yr oedd yn ddyn tawel a charedig, yn dad gofalus, ac yn glynu wrth ei gartref bob amser. Yr oedd yn hollol ddifalais, ac yn weithiwr caled a hoff- us gan ei gydweithwyr, fel yr oedd hyny yn cae; ei ddangos trwy y blodau prydferth a dderbyniodd ganddynt fel arwydd o barch iddo; ac yr oedd yn dangos ei foi yn uchel yn eu golwg. Yr oedd yn wrandawr ffyddlon o'r Efengyl, ond fel llawer eraill, rywbeth yn ei ddal yn ol rhag rhwddi ei hunan' i'r Iesu, ond i'm golwg i, yr oedd wedi costio gormod i'w Waredwr i fyned ar goll, a phan ar ei glaf wely, fe glywodd yr lesu yn sibrwd yn dawel wrtho, "A fyni di dy wneuthur yn iach?" Cod- odd ochenaii yn ei galon megys, a gwaeddodd, 'Mynaf, Arglwydd," ac efe a hunodd yn yr Arglwydd, ni a obeith- iwn. Mi glywais lais yr lesu yn dweyd, Goleun1 Vyd wyf fi; Dy wyneb tro, drallodus un, Daw boreu clir i ti; Mi droais at yr lesu cu, Daeth haul 'rol noson faith, A rodiaf yn ngoleuni Hwn Nes dod i ben fy nhaith. "A mi a gaf edrych-ar ei wyneb mewn cyfiawnder." "Digonir fi pan ddihun- wyf a'th ddelw di." Hyn fydd ei ran. Heddwch i'w lwch.-Un o'i hen gyfeill- ion boreu oes, Hugh Edward Roberts, Plymouth, Pa.
[No title]
Leonard Jones Owen O. Jones I
Y DIWEDDAR OWEN O. JONES,…
Y DIWEDDAR OWEN O. JONES, GRANVILLE, N. Y. Foreu Sadwrn, Tachwedd 22, 1919, bu farw y Cymro ieuanc, ag efe ond 32 mlwydd oed. Er cael ei dori i lawr yn ieuanc mewn bywyd, cafodd brofiad cynar o beth ydoedd cyfranogi yn hel- aeth o ddyoddefiadau corfforol. Cyd- rhwng y gwahanol anhwylderau. a'i blina, bu rhaid iddo fyned dan lawfedd- ygaeth bedair gwaith. Dygwyd tyst- iolaeth gan feddygon goreu Albany; N. Y.. wedi ymchwiliau manwl i'w af- iechyd, ei fod yn gyfryw ag a brofai yn angeuol iddo o fewn amser byr iawn. Wedi diffoddi o bob gobaith am adfer- iad, cyrchwyd ef yn ol yn ngofal dwy weinyddes broffesedig i gartref ei chwaer, Mrs. Frank L. Jones (ieuanc), Washington Street. Yn ystod y tair wythnos y bu efe byw wedi dychwelyd o'r ysbyty, gwnaed pob ymdrech allai cyfoeth ei sScrhau, a chafodd bob gofal fedrai cariad ei estyn, ond er y cyfan, hawdd canfod fod ei haul yn tynu tua'r gorwel, a bod ei adeg noswylio wedi dod. Bu farw yn dawel yn mreichiau cwsg, wedi dyoddef o hono boenau ar- teithiol am saith wythnos o amser. Ddydd Mawrth, y 25ain, talwyd i'w weddillion y gymwynas olaf. Gwasan- aethwyd gan ei weinidog, y Parch. J. C. Simons (M. E.), yn cael ei gynorthwyp gan y Parch. W.. 0. Williams, Peniel. Wedi cynal gwasanaeth byr yn y tjy, eymerwyd ef i gapel yr M. E., lie y caf- wyd fod tyrfa fawr iawn wedi ymg-asglu i roddi eu teyrnged olaf o barch iddo. Dygodd ei weinidog dystiolaeth uchel iddo am ei ffyddlondeb a'i ewyllysgar- wch yn cynorthwyo gyda chaniadaeth y cysegr. Cafwyd gair amserol iawn gan y Parch. W. 0. Williams yn ystod y gwasanaeth. Cafwyd dadganiad tra effeithiol gan gor yr eglwys, o'r hwn yr oedd yr ymadawedig yn aelod. Hefyd, bu y cor meibion Cymreig yn ffyddlawn iddo hyd nes ei osod yn ei wely pridd, er mai gorchwyl anhawdd ydoedd idd- ynt ganu uwch ben corff marw eu cyf- aill hoff; un fu yn aelod ffyddlawn gyda hwy am nifer o flynyddau; eto i gyd, canasant yn effeithiol iawn. Dewiswyd mangre ei orweddfan yn rhan o gladdfa ei ewythr, Mr. Robert O. Roberts (Half Way).. Gorphwysa yn dawel wrth ochr ei frawd, Leonard, yr hwn a fu farw yn Herkimer, N. Y., oddeutu tri mis-ar-ddeg yn ol, trwy ym- osodiad o'r "fflu." Cymerwyd gofal o'r angladd gan Gyfrinfa yr Odyddion, yr hyn a wnaed mewn modd teilwng, yn arbenig y llith angladdol gan y cap- lan, Mr. Robert E. Jones. Mab ydoedd yr ymadawedig i'r di- weddariaid, Mr. a Mrs. Owen Jones, Creigiau Mawr, Penygroes, Arfon, G. C. Ymfudodd i'r wlad hon oddeutu un mlynedd-ar-ddeg yn ol, gan wneyd ei gartref gyda'i ewythr, Mr. Robert O. Roberts (Half Way), yr hwn fu yn nodded iddynt fel plant, er pan gollas- ant eu rhieni. Mae yn aros i alaru ar ei ol, dair o chwiorydd. Erys un yn Llundain; un yn Nghymru, a Mrs. Frank L. Jones (ieuanc), yn yr ardal hon. Un o nodweddion amlycaf ein cyfaill ydoedd ei dalent gerddorol. Yr oedd yn ddadganwr swynol iawn; a bob am- ser yn gymeradwy gan y cynulliadau a'i gwrandawai. Yr oedd hefyd bob amser yn ewyllysgar i gyflwyno el dalent at wasanaeth y cyhoedd.. Bu yn hynod frwdfrydig gyda'r gwahanol gron- feydd a wneid gan y llywodraeth yn ystod yrhyfel, yn nghyd a lluaws o bethau eraill yn y gymydogaeth. Ond O! mor rhyfedd meddwl na chlywir mwy mi lais peraidd "Now bach, Half Way." Mae ei delyn wedi ei thori, a'i gan wedi dystewi; ond hyderwn ar sail ei dystiolaeth bersonol, ac ar addewid ddigyfnewid yr uchel lor Fod iddo ran yn nghor y Wynfa lan Lie na ddystewir byth ei gan. HeddwCh fyddo i'w lwch. Cydymdeimlir yn fawr a'r chwiorydd a'r perthynasau oil yn eu hunigrwydd a'u profedigaeth lem. Bydded i'r Ar- glwydd fod yn gysur iddynt a pheri eu bod yn ymostwng yn Gristionogol i'w ewyllys ddigyfeiliorni. "Trwy ddirgel ffyrdd mae'r uchel lor yn dwyn ei waith i ben." Yr archgludwyr oeddynt: Wil- liam Phillips, Ellis Thomas, Griffith Da- vies, John L. Jones, Richard G. Rob- erts, a Griffith Roberts, West Pawlet I cannot think of them as dead, Who walk with me no more; Along the path of life I tread- They have but gone gefore..
I BRISTOL, MINN.
I BRISTOL, MINN. I Gan William Morris Yr wyf heb anfon dim oddiyma i'r "Drych" er's cryn amser, ac y mae llawer o bethau wedi cymeryd lie. Bu yn dywydd gwlyb yn nechreu'r haf, ac wedi'n cawsom wres ddigon i dyfu y corn, y crop mwyaf yn y Dalaeth hon o gwbl; yr yd man hefyd yn dda. Yr oeddwn yn cael difyrwch wrth ddarllen y dernyn o Patagonia yn mis Awst, wedi ei ddyddio Mehefin 15, yn dweyd ei bod yn auaf gwlyb yr amser hwnw, er fy mod- wedi clywed hyny pan oedd Michael Jones yn myned yno o Gymru. Dro yn ol, cyfarfyddais a'r Anrh. W. W. Williams, o Minneapolis, brawd y Dr., a chawsom ymgom ddifyr am ych- ydig o amser. Da iawn oedd 'genyf ei weled. Y mae colled am dano yn y sefydliad hwn. Y mae yn selog dros waharddiaeth, ac y mae yn teilyngu swydd. Os y bydd yn rhedeg am un, gobeithio y gwna y Cymry fod o'i blaid. Y mae gwell trefn ar bobl heb y fas,- nach feddwol. Da oedd genyf glywed y Seneddwr R. E. Thompson yn tystio fel yr oeddynt wedi cario y ffair eleni yn Preston; dim un meddw, a dim un yn y carchar- dy! Drwg oedd genyf ddeall am brofedig- aeth Wm. R. Jones, Ottawa, Minn., o golli ei fab trwy angeu. Hefyd, Mr. a Mrs. Hughes, o Ponoka, Canada. Yr wyf yn cofio tad Mrs. Hughes, sef y Parch. E. F. Jones, yn Blue Mounds, Wis. Ei destlyn oedd am yr aner goch berffaith gwbl. Dro yn ol, cawsom Gyfarfod Ysgol dan lywyddiaeth y Parch. David R. Jones, cyn iddo gychwyn i Gymru. 0 herwydd gwlaw yn y boreu, ni chawsom ond un cyfarfod. Yr oedd y cyfeillion o Lime Springs wedi llafurio ar ei gy- fer; yr holi yn well na'r ateb. Holwyd y plant gan D. I. Da vies; yr ieuenctyd gan Mrs. John Price; a'r Ysgol gan Edward T. Jones. Nos Sabboth, yr ail o'r mis, cawsom gyfarfod dirwestol, canu ac adrodd, ac yr oedd y gweinidog mewn hwyl yn adrodd ei hanes gyda theulu meddw, ond cafodd oruchafiaeth arnynt er gwell, nes eu cael i ddod i'r moddion; papyr gan Mrs. Levi Jones yn dda iawn. Y mae Mrs. Jones yn ddynes uwchraddol mewn dysg a dawn. Gresyn na chai fwy o ddylanwad yn y teulu. Yn y "Cyfaill," yr haf diweddaf, gwel- ais hanes a darlun o Mrs. Roberts a'i phriod, un o fintai y Jamestown, a ddaeth o Gymru yn 1849. Yr oedd fy nhaid a fy nain a fy nhad a'r plant eraill yno. Clywais fy nain yn son am y fordaith a barhaodd am saith wythnos. Y mae yn debyg mai ychydig o honynt sydd ar dir y byw heddyw. Yr wyf yn gwybod am bedwar, sef fy modryb, Mrs. John Owens, BarneveTd, ger Blue Mounds, Wis.; a fy ewythr, R. W. Morris, Los Angeles, Calif.; Hugh J. Jones, Ty'nllwyn, Bristol, Grove, Minn.; a Mrs. Gershom Morris, Lime Springs, Iowa. Y mae fy modryb wedi bod yn wael y tymor hwn, ond clywais oddiyno yn ddiweddar ei bod beth yn well; Mrs. Morris wedi bod yn wael, ond y mae hithau yn well, wedi bod dan ofal Dr. Thomas, Minneapolis. Y mae y tymor hwn yn hynod mewn llawer ystyr, a llawer o gyfnewidiadau wedi cymeryd lie, ac yn mhlith y llu- aws, yr ydym ninau wedi gwerthu ein fferm ac yn meddwl syrnud i'r dref.
Advertising
I YMOFYNIAD Byddai yn dda gan ei berthynasau a ffryndiau yn America ddyfod i gyffyrdd- iad a rhywun a allai roi ychydig o hanes bywyd a marwolaeth y Parch. William Thomas, yr hwn a aeth tua'r Gorllewin pan ond llencyn. Yr oedd dros ganol oed, ac yn ddi-briod pan y bu farw ar y tren ar ei ffordd i Mil- waukee, Wis., tuag wyth mlynedd yn ol. Gadawodd beth eiddo ar ei ol. Y mae y perthynasau yn awyddus iawn am ddod i wybodaeth o rywun a wyr. Ys- grifener i'r SWyddfa, neu at JOHN J. THOMAS, Thomas Bros., 506 North Main St. NILES, OHIO
PWLPUD Y DRYCH
PWLPUD Y DRYCH GOSTYNGEIDDRWYDD CREFYDDOL Gan y Parch. A. L. Rowe, Nanticoke, Pa I "Ymdrwsiwch oddifewn a gostyngeidd-I rwydd" (1 Pedr 5 5) Gostyngeiddrwydd sydd linell amlwg yn mywyd pob Cristion egwyddorol. Nis gellir rhwystro yr haul i dywynu ar y tlawd amgen y cyfoethog; felly y gras o ostyngeiddrwydd. Lie bynag y bydd, nis gall fod yn guddiedig. Mae sobrwydd, geirwiredd ac amynedd yn rhinweddau canmoladwy, ac yn deilwng o ymarweddiad a bywyd pob dyn; ond am wir ostyngeiddrwydd, gellir dweyd, "Ti a ragoraist arnynt oil." Mae engreifftiau Ysgrythyrol i'w cael o rai yn meddu ffug-ostyngeiddrwydd, megys yr oedd Absalom gynt; "A phan nesai neb i ymgrymu iddo ef, efe a/es- tynai ei law ac a ymaflai ynddo ef ac a'i cusana ef." Dywedir fod y Pab o Rufain yn cyfenwi ei hun fel, "gwas y gweision," am ei fod pan yn cael ei urddfreinio i'w swydd santaidd yn golchi traed y tlodion; eto, nid yw hyn ond gweithred gyfrwys o eiddo yr hen lane er cael gwell mantaisl i dra-ar- glwyddiaethu ar y miloedd pobl hyny sydd mor benwan a'i haner addoli. Gall fod ymddangosiad allanol o os- tyngeiddrwydd, ac ar yr un pryd y galon mor falch a Lucifer; ond a gos- tyngeiddrwydd crefyddol mae a fynom yn bresenol. Gellir galw hwn yn ostyngeiddrwydd gwirioneddol, yr hwn sydd yn rhinwedd hanfodol angenrheidiol i'w feddianu er gwneyd i fyny yn gyflawn wir gymer- iad Cristionogol. Gellir meddu yn hel- aethach ar y rhinweddau a nodwyd, sef geirwiredd, sobrwydd ac amynedd, eto heb fod yn wir Gristion, a hyny o her- wydd ein hamddifadrwydd o wir os- tyngeiddrwydd. Hyn oedd diffyg mawr y gwr ieuanc yn yr Efengyl; a hyn oedd ar ffordd Agrippa gynt i ddyfod yn Gristion cyflawn. Gostyngeiddrwydd sydd arwyddnod d eiddo Duw ar ei saint, er dangos i'r byd annuwiol eu bod yn ceisio "gwlad well, a hono yn un nefol." Dywedodd lesu Grist, "Oddieithr eich gwneyd fel plant bychain, nid ewch i mewn i deyrnas Dduw." Ond nid fel y plant hyny sydd yn ffromi am bob trosedd bach a wneir yn eu herbyn, a hyny yn anfwriadol gan y troseddwr, ond megys y plant hyny sydd yn addfwyn ac yn hawdd eu trin. Yr Apostol Pedr a'n -gorchymyna ni i "ymdrwsio oddifewn a gostyngeidd- rwydd," neu ymwisgwch, neu ymwre- gyswch oddimewn o ran eich meddyl- iau, neu ddyn y galon. Yr ydym i glymu gostyngeiddrwydd am danom fel ag i nodweddu ein holl ymddygiadau tuag at ein gilydd. Yn gyffelyb, fel y dywed Paul, "Gwisgwch am danoch yr Arglwydd lesu Grist." Yr ydym i ym- ddwyn yn dyner ac addfwyn tuag at ein gilydd, a chyd-ddwyn a'n gilydd, ac ys- tyried y naill a'r llall fel brodyr a chwi- orydd yn yr Arglwydd, heb wneyd un ymhoniad i uwchafiaeth a rhagoriaeth mewn dim. "Pwy bynag a fyno fod yn fawr yn eich plith'chwi, bydded was i bawb." Mae egwyddorion mewnol y dyn yn sicr o ddadblygu eu hunain yn yr iaith ac yn yr ymarweddiad allanol; os eg- wyddor gybyddlyd fyddo ynddo, hawdd gwybod hyny wrth ei iaith a'r gor- awydd sydd ynddo i dynu y cwbl tuag ato; felly, os byddwn yn meddu ar os- tyngeiddrwydd mewnol, bydd yn sicr o amlygu ei hun yn yr allanol. t I 1. Gostyngeiddrwydd creiyadoi o ran ei natur. Pa beth ydyw? (a) Nid meddwl y gwaethaf am dan- om ein hunain. Nid yw yn gofyn i ddyn dysgedig gydmaru ei hun a'r an- nysgedig, yn fwy na'r dyn iach i gymer- yd arno ei fod yn afiach. Os na wna y dyn sylw dyladwy o hono ei hun, pa fodd y gall fyw bywyd diolchgar i Dduw; yr hwn yw Awdwr pob daioni a pherffeithrwydd ? Hefyd, os bydd i ni yn barhaus feddu syniadau isel a by- chanus am danom ein hunain, gwna hyny ni yn annghyfaddas i fod o un- rhyw wasanaeth daionus i Dduw a dyn- ion. (b) Nid gostyngeiddrwydd yw credu pobpeth ag mae eraill yn ei gredu. Mae tuedd mewn rhai i ddylyn y Ilu- aws mewn credo fel pobpeth arall; ac y mae eraill yn anfoddlawn os na fydd- wn o'r un farn a hwy am wahanol bync- iau crefydd. Ond nid oes rhwymau ar neb i gredu fel eraill, ond mor belled ag y mae a fyno a'r gwirioneod yn Nghrist Iesu; a'r unig ffordd i gyraedd y nod yna yw bod yn gyfarwydd a Gair Duw, yr hwn yw rheol ein ffydd a'n hymarweddiad. "Chwiliwch yr Ysgry- thyrau." (c) Nid gostyngeiddrwydd yw dyodd- ef pob cam ac annghyfiawnder. Tybia rhai mai gostyngeiddrwydd yw bod fel llawrlen (carpet), er cael ein sangu gan ddynion heb amcan gwell ganddynt na bod yn ben ar bawb mewn byd ac eglwys, gan adael i egwyddorion pwys- ig crefydd gymeryd ei siawns, ac am ogoniant Duw a llesad eneidiau. Mae hyny allan o'r cwestiwn yn hollol Gwir na ddylem fel Cristionogion ym- ddial. "Nac ymddialwch, rai anwyl." Ond credwn fod genym hawl i amddi- ffyn ein hunain. Tybed fod yn rhaid i Gristion fod yn ffolach na rhywun arall? (d) Nid bod yn wyneb drist. ac yn bruddaidd yw gostyngeiddrwydd cre- fyddol. Mae hyn yn groes hollol i n.a- tur ac amcan gwir grefydd. "Pan ym- prydiweh, na fyddwch fel y rhagrith- wyr yn wynebdrist." Nid yw bod yn wynebdrist y prawf lleiaf o fywyd duw- iol. Gellir meddwl wrth wynebau pruddaidd ac ocheneidiau fod pwysau euogrwydd holl bechodau y byd arnynt, ac os, teimlant fel canu weithiau, emyn a thon leddf genir. Y fath gamsyniad, onite? Credwn fel y diweddar efengyl- ydd enwog, Sam P. Jones, fod cymaint o grefydd mewn chwerthin weithiau ag sydd mewn wylo. Carwn g-ael gwybod gan rywun all ateb yn.ddiragfarn, gan fod cystal sail i fod yn llawen ag sydd g.an y Cristion. Y mae efe yn blentyn i Dduw; cariad Duw wedi ei ledu yn ei galon; heddwch Duw yn ei fynwes; addewid o amddiffyniad Duw drosto tra yn y byd, a'i fywyd wedi ei guddio gyda Christ yn Nuw. Dywedodd Crist ei hun, "Byddwch lawen a hyfryd, canys mawr yw eich gwobr yn y nef- oedd." Mae gostyngeiddrwydd mewn rhan yn gynwysedig yn y pethau canlynol: (i) Mewn peidio meddwl ein bod yn rhagori mewn unrhyw beth pan nad ydym. Mae perygl i ambell i genadwr hedd, os dygwydd iddo fod ychydig yn fwy llwyddianus na'i frodyr, iddo briod- oli hyny i'w ragoriaeth ar eraill, mewn gwreiddioldeb, syniadau, coethder iaith,, rhwyddineb ymadrodd, a melusder dawn. Mae perygl i'r bardd, y lienor, a'r cerddor syrthio i'r unrhyw amryfus- edd. Gyfeillion, cofiwn faint bynag yw ein galluoedd, fod eraill yr un mor ra- gorol, os nad mwy. "There's room at the top." (ii) Mewn peidio rhoddi mwy o werth nag a ddylem ar unrhyw beth a gyflawn- ir genym. Mae pob gweithred dda o eiddo eraill yr un mor werthfawr yn ngolwg Duw a'r eiddom ni. Hefyd, nid ar faint y weithred y mae Duw yn syl- wi, ond ar yr egwyddor achosodd y weithred. Yr oedd symiau llawer mwy wedi eu bwrw i'r drysorfa wrth borth y deml nag a fwriwyd gan y weddw dlawd hono, ond ei dwy hatling hi enill- odd sylw Duw fwyaf, am ei fod yn gwerthfawrogi yr egwyddor yn fwy na'r rhodd. (iii) Mewn peidio ymhyfrydu ynom ein hunain. Mae gan ddyn hawl i ym- hyfrydu ynddo ei hun, ond mewn cy- medroldeb. Mae yn gyfrifol i Dduw am bob meddwl, gair a gweithred; a thra- chefn y mae yn dal perthynas a'r byd mawr dyfodol, oblegid y mae "ysbryd mewn dyn." 0 ganlyniad, y mae iddo seiliau anwadadwy iddo ymhyfrydu yn- ddo ei hun; ond y drwg yw fod tuedd ynddo i ymhyfrydu i ormodedd ynddo ei hun, ac felly syrthio yn fyr o amcan ei fodolaeth, sef gogoneddu Duw. (iv) Mewn ystyriaeth o'n haml bech- odau yn erbyn Duw, fel Dafydd, "Canys yr wyf yn cydnabod fy nghamweddau a'm pechod sydd wastad ger fy mron. Yn dy erbyn di dy hunan y pechais ac y gwnaethym y drwg hwn yn dy ohvg." Ceisio cyfiawnhau eu hunain y mae dynion yn gyffredin, ond yma mae y Salmydd yn tystio yn erbyn ei hun.. (v) Mewn priodoli yr holl a feddwn ac ydym i ras Duw, fel Paul, yr hwn a ddywedodd, "Eithr trwy ras Duw yr ydwyf yr hyn ydwyf, a'i ras ef, yr hwn a roddwyd i mi, ni bu yn ofer, ond mi a lafuriais yn helaethach na hwynt oil, ac nid myfi ychwaith, ond graa Duw, yr hwn oedd gyda mi." Ie, beth fyddai llawer o honom ninau oni bae gras Duw? 2. Fod gostyngeiddrwydd crefyddol yn fuddiol. (a) Mae Duw yn hoffi y gostyngedig. "Ar hwn yr edrychaf, sef ar y truan a'r gostyngedig o ysbryd, yr hwn sydd yn cry-nu wrth fy ngair." (b) Mae yn cadw yr enaid mewn tawelwch; yn ymostyngol mewn af- iechyd, adfyd a thrallod, a rydd fodd i ganu yn nghanol siomiant. (c) Mae gostyngeiddrwydd yn fudefr iol er ein cymedroli yn mhob peth, Mae tuedd yn y natur ddynol i fod yn eithafol gyda phobpeth, ac y mae gos- tyngeiddrwydd crefyddol fel llyw i'n cadw yn ein tymer briodol. Iaith y gostyngedig yw, "Arglwydd, cadw fi yn nghanol llwybr cyfiawnder er mwyn dy enw." 3. Paham y dylem fod yn ostyng- edig. (a) Y ffordd i ddyrchafiad ydyw. Nis gall yr holl fyd ddarostwng y gos- tyngedig, oblegid y mae Duw yn ei ddyrchafu, ac nis gall yr holl fyd ddyr- chafu y dyn balch, oblegid y mae Duw yn ei erbyn. "Gwobr gostyngeidd- rwydd ac ofn yr Arglwydd yw cyfoeth, anrhydedd a bywyd." (b) Gostyngeiddrwydd yw y tir mwy- af ffrwythlawn a dyogel. Ychydig iawn o wir ddaioni a wnaeth dynion balch ac hunanol mewn byd nac eglwys yn unrhyw oes, ac iselaf i gyd y byddom lleiaf i gyd y niwed a dderbyniom os dygwydd i ni syrthio. (c) Heb wir ostyngeiddrwydd, nis gellir bod yn wir Gristion. Cristion balch sydd wrthddywediad hollol; cys- tal a dweyd haul tywyll, dwfr sych, lleidr gonest, meddwyn sobr, sant an- nuwiol. "Os myn neb ddyfod ar fy ol i, ymwaded ag ef ei hun, a chyfoded ei groes beunydd, a dylyned fi," medd Crist.t (d) Yr oedd bywyd Iesu Grist yn fy- wyd o ostyngeiddrwydd. "Yr hwn a roddes i ni esiampl fel y canlynem ei 01 ef." "Ni ddaeth i'w wasanaethu, ond i wasanaethu." "Canys chwi a adwaen- och ras ein Harglwydd lesu Grist, iddo ef, ac yntau yn gyfoethog, fyned er ein mwyn ni yn dlawd, fel y'n cyfoethogid ni trwy ei dlodi ef." Bydded i'r Ar- glwydd ein cadw yn ostyngedig. Amen. —-—— 8.8
NESQUEHONING, PA.
NESQUEHONING, PA. Pan ar ymweliad a'r lie uchod yn ddiweddar, da oedd genyf gyfarfod a Mrs. John Watkins a'i gwr, a'i brawd, Robert, wedi symud yn ol o Bethlehem. Llawer o gyrchu i Bethlehem sydd wedi bod yn ystod y rhyfel, ond cyrchu oddi- yno y maent yn awr i'r glofeydd a lle- oedd eraill. Bydd dyfodiad Mrs. Wat- kins' yn gaffaeliad mawr i'r dref uchod, gan ei bod yn adroddes a chantores, o radd uchel, ac yn hwylus yn y ddwy iaith, wedi cael ei haddysgu gan ei thad, sef y diweddar Evan Parry, a hefyd eg- lwys Slatington, Pa., lie y cafodd ddyg- iad i fyny. Mae Mrs. Hughes, priod John O. Hughes, clochydd, o Poultney, Vt., yn nghyd a'i dwy ferch, Jane ac Ethel, ar ymweliad a'i mab, Samuel Jones, a'i deulu, a'i chwiorydd, sef Mrs. Rocks a'i phriod, gof, gynt o Poultney; ai hefyd ei chwiorydd, Mrs. Lewis, o'r dref uchod, a chwaer arall, Mrs. Rea- bold, Lansford. Merched ydyw y pedair i Mrs. William Samuel ag sydd yn aelod yn eglwys Gymreig Philadelphia ar hyn o bryd. Gobeithio y bydd. i Mrs. Hughes a'i dwy ferch gael amser da a dychweliad dyogel i fynwes ei theulu yn Poultney. Mae y cerddor a'r dadganwr, John E. Lewis (Bermo), o'r dref uchod, yn son am fyned a pharti i Eisteddfod Phila- delphia, ddydd Calan nesaf. Mae John yn hen Eisteddfodwr, wedi cael llawer o broflad yn Bermo. G. C., a hefyd yn Shenandoah, lie y bu. am rai blynydd- au.—Goh.
[No title]
—Wedi gwasanaethu fel athraw ysgol Glahypwll, Blaenau Ffestiniog, am 37 mlynedd, mae Edward Griffith wedi ym- ddiswyddo. Mab iddo yw Mr. Idwal Owen Griffith, M. A., sy'n darlithio yn Rhydychain.
Advertising
YMOFYNIAD J. P. Davies, Brynmill, Abertawe, D. C., ddynpuna gael rhyw wybodaeth am Wm. R¡ Jones. Yr oedd yn ynad mewn rhywle yn Pennsylvania. Clyw- wyd iddo farw tua 10 mis yn ol, ac fod hanes yn y "Drych" am hyny. Anfoner i Swyddfa y "Drych."
rPAUL YN OL E. P. D.
cael cipolwg ar gyrau'r wlad, ac yn canfod fod tir lawer i'w feddianu. Yr un modd, y sawl ag sydd wedi canfod harddwch a glendid digydmar cymeriad yr lesu, ac wedi profi o ddylanwadau ei ysbryd, yw yr un tebycaf o deimlo ei annigonolrwydd a'i bechadurusrwydd ei hun. Un felly, mi gredwn, ydoedd yr Apostol Paul. Uchelgais fawr Paul ydoedd ym- debygoli i Grist, ac anmhosibl i ddyn o'r fath lochesu hunanoldeb yn hir. Mae'n hysbys fod llawer o dduwinydd- ion wedi ceisio angori llawer damcan- iaeth dra thramgwyddus wrth d'dysgeid- iaeth Paul. Meddylier, er engraifft, am yr ystyr roddir i'r gair "ffydd" gan rai. Ni olyga nemawr mwy, yn ol esboniad rhai, na chydsyniad deallol (anneallol yn ami) a nifer o ddadganiadau neu gredo arbenig. Hefyd, ceisir sylfaenu y ddamcaniaeth fasnachol am yr "iawn" ar ddysgeidiaeth Paul, ond credwn nad oes sail i'r damCaniaethau anfoesegol hyn yn nuwinyddiaeth Paul. Nid rhyw- beth "technical" ydyw crefydd, yn ol Paul, eithr rhywbeth personol, profiad- ol, bywiol.. Pe buasai genyf amser, buaswn yn hoffi ymdroi gyda'r pwnc, a cheis,io dangos fod y brawd amryddawn E. P. D. yn dra brysiog y tro hwn yn ei feirniadaeth ar Paul. Ar hyn o bryd, y mae genyf gryn lawer o heiyrn yn y *an. Hoffaf y pwyslais a rydd E. P. D. ar foeseg, ond rhaid cael athrawiaeth i angori moesddysg wrthi. Dylid cofio hefyd fod y rhan fwyaf o honom mor gloff yn ysbrydol nes bod mewn angen am ffyn baglau credo nes i ni ddysgu cerdded. Sonir am y ddedf fel ein hathraw at Grist. Mae perygl mewn bod yn rhy ddelfrydol, yn ogystal a bod yn rhy ddeddfol, mewn ibyd fel hwn. 8.8