Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
8 articles on this Page
[No title]
Cwrdd Gweddi ■"Rwy'n hiraethu am gwrdd gweddi, Cyfrwng goreu i addoli; Lie teyrnasa cydraddoldeb Heb un matih o hunanoldeb. Cwrdd heb falchder na defodau, Chwerw ddadleu na ffol bethau; Ni mid iddo wrth athrofa Na sych nwyddau yr areithfa. Cwrdd i ddiolch a molianu, A lie iawn i orfoleddu; Allwedd yw yn llaw yr ysbryd I drysorau hefol wynfyd. Cwrdd a Duw yn enw'r lesu, A chael nerth ei ras i'w ganu; Ac wrth orsedd gras ei fawredd Ceir tragwyddol rad trugaredd. Hanes diwygiadau ddengys Canlyniadau ogoneddus, A bydd melus fythol gofio Am y cyrddau taer weddio. Dywed hanes hardd Gwaredwr Ei fod Ef yn Arch-weddiwr; Oni ddylem ninau felly Efelychu'r hawddgar lesu? Gair fy Nuw sydd yn eyhoeddi "Ty fy Nhad" sydd yn dy gweddi; Felly boed i bawb anwylo A ohroesawu cwrdd gweddio. Gweddi ffydd sy'n gallu denu Deddfau anian hardd i blygu; A'r holl rwystrau wna'm garneddau I dragwyddol heirdd drigfanau. Cyfrwng goreu ac unionaf 0 beryglon storom waethaf; Ac yn ebrwydd gael diangfa Fel yr euog ar Galfaria. Ei fer weddi, yn grogedig, Fu yn llwyddiant fendigedig; Pan ar frig uffernol diffwys Aeth fel saeth i hardd paradwys! Megys llong heb lyw nac angor Mewn ystorom ar y cefnfor; Felly Seion sydd ar weiLgi Suddo wna heb un cwrdd gweddi. Aeth blynyddau lawer heibio Heb i'r Cymry San Francisco Gael ysywaeth un cwrdd gweddi; Onid ydyw yn drueni? Pa'm mae plant y breintiau mwyaf Yn dirmygu cwrdd rhagoraf? Mae'r dirywiad yn ddirmygiad Ar ddoeth drefn anfeidrol gariad. EDWARD R. JONES, (Manllwyd) San Francisco, Calif. A Song of Welcome Sung at a Reception to Returned Soldiers in the Second Presbyterian Church, Emporia, Kansas, Wednesday Evening, November 12th, 1918. We welcome you tonight, Because you won the figiht Against the foe; "Old Glory" was unfurl'd In time to save the world, And Germany was hurl'd To shame and woe. You answered to the call, Not knowing who would fall On the battle field; But this we all knew well, You cared not if you fell; In spite of shot and shell You would not yield. In you we take much pride, Because you turned the tide Back, whence it came; You helped to save mankind, The armistice was signed, Because you stood behind Your country's name. God bless you every one, And may He lead you on Through every strife; To the Old Flag be true, The Red, the White, and Blue; And may the Lord give you Eternal life. H. P. M. -:0:- Y Ddiweddar Mrs..Robert H. Edwards, Denver, Colo. "Ei haul a fachludodd a hi eto yn ddydd," Ac hiraeth angerddol am dani y sydd; Gw-ag ydyw yr aelwyd, yr eglwys a'r dref Er pan yr ehedodd ei hysbryd i'r nef. Bu fyw a bu farw mewn undeb a Christ; Paham y galarwn? Pahain byddwn drist ? Ei bywyd rhinweddol edmygwn i gyd, Ac yn ol ei chamrau ymdeithiwn o hyd. Ei phrofiad crefyddol oedd bendant a chlir, A'i gogwydd ysbrydol a gofiwn yn hir; Bu fyw mewn llawenydd ac hunodd mewn hedd, Heb ofni hen afon marwolaeth na'r bedd. Gadawodd ofidiau, cystuddiau a phoen, Am fythol orfoledd yn nghwmni yr Oen; Ymgollodd ei henaid mewn dwyfol fwynhad, Ac aeth mewn tangnefedd ac afiaeth i'w gwlad. Mae'r delyn a'r palmwydd yn awr yn e1 llaw; Ni flinir hi mwyach gan bryder na braw; Esgynodd mewn hawddfyd tu arall i'r Hen, I dderbyn aur goron y nef ar ei phen. Ymdrechodd ei goreu hardd ymdrech y ffydd, Nes gwawriodd y boreu esgorodd ar ddydd; Dydd bythol digwmwl, dysgleiriach na'r haul, Dydd drefnwyd i'w bobl gan Adda yr Ail. I Salem, yn Sychnant, yn blentyn di' nam, Yr elai YTI, gyson yn nghwmni ei mam; Gweithredodd gyngorion crefyddol ei thad, Nes enill edmygedd teuluoedd y wlad. Un dawel, ddigynwrf, ddiabsen oedd hi, A rhoddodd esiampl ragorol i ni; Ffurfafen el bywyd oedd wyrddlas a thlos, Llewyrchai fel seren yn nghanol y nos. Ei chalon oedd dyner, a'i ihysbryd oedd ddwys, Ar bethau sylweddol y rhoddai fawr bwys; Mewn cylchoedd ysbrydol y mynai hi fyw, Yn nghymni yr Iesu, yr Ysbryd a Duw. I Tra'n teithio yranial el meddwl a gaed 0 hyd yn myfyrio ar Iesu a'i waed; Mewn cariad digymysg ymgollai yn llwyr, A'r nef oedd ei thynfa o foreu hyd hwyr. Y Gair oedd fel Uusern i'w thraed yn y byd, I A llewyrch i'w llwybrau addurnol o hyd; Y Llyfr fyfyriodd droes iddi yn wledd, A'i Awdwr a lanwodd ei henaid a hedd. Er chwilio am iechyd, afiechyd a ddaeth, Llesghaodd yn gyflym ac ymaith aeth- I wlad lie ni theimlir un domr ua chur, Y wlad lie mae'r awel yn dyner a phur. I lanau'r Tawelfor daeth angel o'r nef I'w igalw hi adref, ac aeth gydag ef 0 ganol trallodion i ganol mwynhad, Mewn gwynfyd trag'wyddol yn mhalas ei Thad. Na wylwn o'i phlegid, mae'n ddedwydd yn awr; Cawn eilwaith ei gweled ar doriad y wawr,— Y wawrddydd ysbrydol yn Nghanaan y saint,, Lie nad oes damweiniau, cystuddiau na haint. H. P. M. os- I
[NODION 0 NANTICOKE, PA.I
NODION 0 NANTICOKE, PA. Gan y Parch. A. L. Rowe I Tachwedd 3, 191$, yn ei gartref ar East Church St., bu farw Thomas G. Howells, ac efe yn 59 mlwydd oed. Nid oedd wedi bod yn iach er's blynydd- oedd, ond achos uniopgyrchol ei farwol- aeth oedd, cafodd ergyd o'r parlys, ac ni bu fyw ond ychydig dyddiau ar 01 hyny. Ganwyd ef yn Glynnos, Abersych- an, Sir Fynwy, ac enwau ei rieni oedd- ynt William a Harriet Howells. Vr oedd brawd i'w dad yn berchenog gwaith glo yn y lie uchod. Ymfudodd yr ymadawedig i'r wlad hon flynydd- oedd meithion yn ol, ac ymsefydlodd yn Nanticoke, lie y, gorphenodd ei yrfa ddaearol. Yr oedd Mr. Howells yn ddyn tawel, diniwed a charedig iawn, ac wedi byw bywyd moesol, ac iddo air da gan bawb. Derbyniwyd ef yn aelod yn eglwys Moriah, Sul y Pasc diweddaf, a mawr hyderwn ei fod wedi cael derbyniad helaeth i'r Eglwys or- foleddus fry. Heblaw ei weddw alarus, gadawodd i alaru ar ei ol, un brawd a chwaer, sef Alfred Howells a Mrs. Buckley, pa rai sydd yn byw yn Penybont, D. C. Ddydd Gwener canlynol, claddwyd ei weddill- ion yn mynwelnt gyhoeddus y dret. Cafodd angladd lluosog a pharchus, y Parch. Griffith Evans yn gweinyddu. Dyddaned yr Arglwydd y perthynasau oil. Ddydd Iau, Tachwedd 6, yn ei char- tref clyd ar gongl Church a Market Sts., yn ddisymwth iawn, bu farw Mrs. Harry Jones, a hi yn 48 mlwydd oed. Nid oedd wedi bod yn rhyw iach iawn am rai misoedd, ond ni feddyliodd neb fod ei hoes mor agos i'r terfyn. Yr oedd gydag eraill o'r teulu am chwech o'r gloch y prydnawn yn bwyta swper, ac yn ymddangos yn Ilawen ac yn ddi-' boen, ond yn miien yr awr, set saith o'r gloeh, ehedodd ei rhan anfarwol i fyd yr ysbrydion. Mor wir y gwirion- edd hwnw: "Yn nghanol ein bywyd yr ydym mewn angeu." Deallwn fod ein chwaer wedi treulio y rhan fwyaf o'i hoes yn Nanticoke, ac felly yr oedd yn adnabyddus iawn yn y cylchoedd hyn, ac yn fawr ei pharch. Yr oedd yn aelod ffyddlawn yn yr eglwys Fedyddiedig Seisnig. Bydd ei lie yn wag iawn yn ei chartref, y gym- ydogaeth, a'r eglwys. Heblaw ei phriod, gadawodd mewn galar mawr ar ei hoi, un ferch a thri o fechgyn; tri o frodyr a dwy chwaer. Y Sabboth can- lynol, set Tachwedd 9, daeth torf luos- og yn nghyd i hebrwng ei gweddillion i dy ei hir gartref yn mynwent gy- hoeddus y dref, pan y gweinyddwyd yn grefyddol gan ei gweinidog, y Parch. Vellines. Cysured yr Arglwydd y per- thynasau oil. Brydnawn dydd Gwener, Tachwedd 14, yn ei chartref ar West Broad St., wedi bod yn gystuddiol am hir amser, bu farw Mrs. Gower, gweddw y diwedd- ar Ifor Gower, a hi yn 48 mlwydd oed. Ganwyd hi yn Caerdydd, D. C., a daeth i'r wlad hon amryw o flynyddoedd yn ol, ac ymsefydlodd yn Nanticoke, ac yma y bu byw nes Igorphen ei gyrfa ddaearol. Gwelodd a dhafodd brofiad o'r byd hwn yn ei wen a'i wg fel llawer eraill o hon- om. Claddodd ei phriod pan oedd ei phlant ond bych-ain iawn, a gweithiodd yn galed i'w codi. Yr oedd yn wraig dawel, caredig a chymwynasgar, ac iddi lawer iawn o gyfeillion. Gadawodd mewn galar mawr ar ei hoi, bump o ferched, ac un mab, yn nghyd a lluaws o berthynasau eraill. Ddydd Llun can- lynol, claddwyd y rhan farwol o honi mewn modd parchus yn mynwent gy- hoeddus y dref, a gweinyddwyd ar yr achlysur yn fyr ac yn dyner gan y Parch. Griffith Evans. Ymgysured y perthynasau yn Nuw. Mae y gweithfeydd yn gweithio yn bur gyson yma ar hyn o bryd, a deall- wn fod digon o waith i'w gael i bawb a fyddo yn ewyllysio gweit'hio. Er cael gwaith cyson a chyflogau, ac er cynllun- io fel hyn ac fel arall, anhawdd yw dwyn y ddau ben i'r llinyn i gwrdd, o herwydd y crogbris sydd ar angenrheid- iau bywyd, yn enwedig lie byddo y teulu yn fawr, ac efalfei dim ond un yn enill. Mae y si ar led fod yma lawer o deulu- oedd mewn tlodi mawr. Y dydd' o'r blaen, clywais am eneth fechan yn un o'r ysgolion yma, iddi syrthio i'r llawr mewn llewyg gan wendid o eisieu bwyd. Yr oedd y druanes fechan wedi dyfod i'r ysgol y boreu hwnw heb gael boreu- fwyd, a dywedodd wrth ei athrawes nad oeddynt fel teulu yn gallu cael ond dau bryd o fwyd y dydd, ac yn ami ond un. Dyna yr hanes fel y rhoddwyd ef 1 mi, ac nid oes neb ond yr Hwn sydd yn gwybod pobpetih a wyr faint o blant sydd yn brofladdl o'r un angen a'r eneth uchod, a hyny o herwydd trais ac an- nghyfiawnder rhai pobl hunangar, balch, dideimlad a diegwyd-dor, ond yr egwyddor hono sydd yn gynenid yn, eu tad diafol. Pa ryfedd fod y fath an- esmwythder yn y byd? Ein cysur yw mai yr Arglwydd sydd yn teyrnasu, ac fe ddaw pethau i drefn yn fuan, ac er lleied ydyw yr arwydd, fe ddaw yr am- ser gwell.
[No title]
I William M. Jones William M. Davies William J. John
DAU A GYMERWYD AC UN A ADAWYD
DAU A GYMERWYD AC UN A ADAWYD Gan Wm. M. Jones Pedair blynedd-ar-ddeg i'r 28fed o'r mis hwn (Rhagfyr), yr yrnddangosodd y darlun uchod ar wyneb llachar y "Drych" o'r blaen, ac mae yn ddiameu genym ei fod yn gofus gan lawer o ddarllenwyr y "Drych" am yr ysgrif a ymddangosodd yn nglyn a'r darlun yn dwyn y penawd, "Cyfarfyddiad y Tri William," sef William M. Jones, Mar- tin's Ferry, ar yr aswy; William M. Davies, Philadelphia, yn eistedd, a Wil- lam J. John, Youngstown, ar y dde. Cyfarfyddasom a'n gilydd trwy gytun-1 deb yn ein cartret yn Martin's Ferry, ac yma y trefnwyd ar i ni gael darlun o honom gyda'n gilydd y pryd hwnw. Yr oeddem ein tri yn iach a bywiog, a'r darlun a ninau yn cydweddu yn weddol dda. Mae'n gof genym fel doe am yr ym- ddadleu a fu rhyngom, pwy oedd i fod yn wr canol y darlun. Yr oedd William M. Davies a minau yn unfarn mai i Wm. J. John y perthynai y rhagorfraint ar gyfrif ei urddas fel milwr dewr a ym- laddodd yn rhai o frwydrau poethaf y weriniaeth, dros wlad a phobl rhydd i'r Talaethau; ac hefyd ar gyfrif ei oed; ond gwrthodai yn bendant; tybiai na fuasai fawr o hono yn yr amlwg am ei fod o'r un corfforaeth a Zaccheus; a dyna oedd i gyfrif am i William Da- vies gymeryd y gadair. Cafwyd y darlun cyn i'r ddau Wil- liam ymadael am eu cartrefi, ac'wrth swpera un noson, pwnc yr ymddyddan oedd rhagoriaeth gwrthryohau y dar- luniau, a'm hanwyl ddiweddar briod oedd i gael mynegu i bwy y perthynai y clod o fod yn oreu, a'i barn i fod yn derfynol; a dyna fynegai: "Yr ydych chwi eich dau," gan gyfeirio tuag at William John a William Davies, "wedi dod allan yn eich darlun yn well na William ni, ond y goreu yw William John," meddai. "Good for you, Mrs. Jones," meddai Cyrnel William John. Dyna fel y cyfarchai William Davies William John bob amser mewn cwmni difyr. Ond cyn gorphen swpera, gofynodd un o honom ofyniad na allai yr un o honom ei ateb y pryd \hwnw, sef pwy fydd y cyntaf o honom i groesi terfyn- au gwlad y ddaear ac encilio o gym- deithas ein gilydd, neu pa un o honom fyddai yr olaf i sefyll ar y mur, a chael mynegi i'r hen gyfoedion rhan o'r pleser a'r mwynhad a gawsom ar ein hym- daith y rhan olaf o'n blynyddau ar yrfa bywyd. Dystawrwydd a weddai i ni y pryd hwnw gyda golwg ar bosibilrwydd ein dyfodol, a thewi a wnaethom. Ond heddyw, mae'r ffaith hon yn rhy hysbys yn mysg eu hen gyfoed- ion a'u hanwyliaid, mae fy hen gyfeill- ion hoff, William M. Davies, Philadel- phia, a William J. John, Youngstown, groesodd derfynau y ddaear am y byd mawr ysbrydol gyntaf, ac i ryw ddyben anhysbys i ni, wele'r llwch gwael hwn wedi ei adael i fynegi ychydig o'n cys- ylltiadau a'u gilydd. Bum mlynedd i'r gwanwyn diweddaf y gosodwyd llwch fy hen gyfaill Wil- liam Davies i orphwys yn naear dinas Philadelphia, Pa., ac nid gormod oedd genyf deithio 500 o filldiroedd er bod yn dyst o guddio ei wedd o wydd y ddaear am y tro olaf, a phleser enaid i mi oedd cael dwyn tystiolaeth o'i deyrngarwch i'r Gwr a arddelodd mewn modd cyhoeddus yn Bethania, Llanelli. Mynai fynegi hyd ei farw mai y llwch hwn fu yn foddion i gyfnewid ei lwybr o fod yn feddwyn i fod yn ddyn sobr, ac yn ganlynwr ffyddlawn i Iesu o Na- zareth. Hydref yr 2ail, 1919, y tynodd fy hen gyfaill cywir, William J. Johns, ei an- adliad olaf, a dydd Llun, y 6ed, igosod- wyd ei esgyrn yntau i orphwys yn naear Youngstown, Ohio. Blin iawn oedd genyf nad oedd pethau yn hwylus genyf i fod yn nghynhebrwng fy hen gyfaill hoff. Nid oes eisieu ail-adrodd yr hyn a fynegwyd am ein hen gyfaill g-an eich gohebydd amryddawn o Youngstown, John M.; mae ei fynegiad ef o arbenigrwydd cymeriad William John yn berffaith gywir yn ol fy mhrof- iad o dros ugain mlynedd o adnabydd- iaeth agos o hono. Yn Llanelli y daethom i adnabydd- iaeth gyntaf a'n gilydd. Cafodd Wil- liam John ei gyfarwyddo i alw yn ein cartref gan fy hen gyfaill William Da- vies; efe yr byw yn Youngstown y pryd hwnw, ac yn addoli yn yr un capel, Walnut Street, ac yn cartrefi yn ymyl eu gilydd. Wedi codi un boreu a rhoi tro o igylch glanau y Dock Newydd, yn sydyn ebai William John, "Mae getfyf gais oddiwrth William Davies atoch; mae am gael ffon o waith cartref home- made" Collen neu draenen ddu yw'r pren i fod, ac fel oedd y lwc, yr oedd vn fy meddiant ar y pryd bren y ddraenen ddu ag oedd wedi ei dori er's blynyddau o glawdd ein hen gartref yn Mhontarddulais, ac wedi ei chaboli yn hardd a destlus. Cyraeddodd y ffon yn ddyogel, a chafodd roesaw mawr gan ei pherchenog newydd. Yr oedd i'r ffon hon hanes nodedig. Wedi marrw o'm hen gyfaill Wil- liam Davies, ceisiodd Mrs. Davies, ei weddw, yr hon sydd yn fyw, ac yn byw yn ei hen gartref yn Philadelphia, ar- naf gymeryd y ffon genyf gartref; mai dyna oedd dymuniad ei phriod cyn el farw, a dychwelwyd y ffon i'w hen ber- chenog. Ar fy ymweliad a Youngstown, l.'idair blynedd i fis Mai diweddaf, a William John yn bur sal ar y pryd, ac yn teimlo gwendid mawr, gofynodd yn sydyn, fel yr arferai efe ofyn, "sharp to the point," "Beth ddaeth o'r ffon a ddaethym i allan i ail Davies." Dynai y modd yr arferai gyfarch fy hen gyf- aill pan yn siarad a mi yn ei gylch. "Mae yn fy meddiant i yn awr," medd- wn; "dyna ddymuniad William Davies i Mrs. Davies fod y ffon i ddychwelyd i mi oe byw fuaswn ar ei ol." "Wel," meddai, "a oes dim posibl i mi gael y ffon ar yr un telerau?" "Certainly," meddwn. "Wel, anfonwch y ffon gyda John B. Lodwick y tro cyntaf y daw ar ei dro i Martins Ferry"; ac felly y bu; anfonwyd y ffon, ac. fel fy hen gyfaill William Davies, dyna William John wedi myned, a'r ffon ar ol, ac hyd yn hyn yn meddiant Mrs. John. Mawr yw treigliadau y ffon a dorwyd o glawdd yr ardd ar fryn y Gopa. Yr oedd yr Esgob R. C. Morgan, Pitts- burgh, Pa., a'n diweddar hen gyfaill yn ffryndiau ymddiriedol, ac yn ymwelydd cyson a'i hen gyfaill yn ei ami gystudd- iau y blynyddau diweddaf, a chefais y mwynhad o'i gyfarfod yn nghartref y diweddar William John fwy nag un- waith, ac ar un achlysur clywais ein hen gyfaill yn rhybuddio R. C. mewn modd difrifol iawn, gan fy ngalw i yn dyst ei fod wedi gorchymyn ar fod yr Esgob i fod yn ei angladd a llefaru a gweddio yn y gwasanaeth, a thrwy ddaioni-y Duw mawr yn arbed einioes a iechyd y Parch. R. C. MorgaTi. Caf- odd ei ddymuniad ei gyflawni yn llyth- yrenol, ac yn ol a glywais, cafodd ein diweddar hen gyfaill gladdedigaeth ty- wysogaidd, dros 300, yn hen ac yn ieu- ainc, o filwyr yn ei angladd. Yn marwolaeth William Davies a Wil- liam John, collais^ddau gyfaill cywir, diragrith a ffyddlon, ac ar eu hoi teim- laf rhyw unigedd a hiraeth yn nyfnder- oedd fy natur. Bellach, fy hen ffrynd- iau, gorphwyswch, ac na aflonydded neb fangre eich gorweddle hyd foreu mawr y codi! 0 galon y dymunaf i Mrs. Davies a Mrs. John ffafr dynion a gwedd gwyneb Barnwr y weddw. ♦»»
VANCOUVER, B. C. I
VANCOUVER, B. C. I Gan Glanogwen ( Nid gynt yr aeth y rhwysg tywysogol drosodd nag y cawsom y fraint o prroesawu un o wroniaid mwyaf y llyng- es Brydeinig, yn mherson y llyngesydd Jellicoe. Cyraeddodd yma o Awstra- lia ar ei daith gylch y byd ar y Hong enwog, "New Zealand," a gymerodd ran mor amlwg yn mrwydr Jutland. Wrth edrych arni yn gorphwys yn y bau fel brenines y tonau, daeth i fy meddwl, beth tybed fuasai ein tynged pe buasai un o'r llongau rhyfel yma yn ei Ile4 ond achos diolch sydd genym, a llawen- hau wrth feddwl fod y "New Zealand" wedi bod yn foddion i'w cadw draw. Mae canoedd o ymwelwyr yn myned ar ei bwrdd yn ddyddiol. Gwelsom yn eu mysg y brawd Joseph Jones a Miss Roberts. Yr oedd y bad mor lawn a'r gwynt dipyn yn ystormus nes gwneyd i'r cwch bychan siglo, a dysgwyliwn bob mynyd weled ei gynwys yn cael ei daflu i'r mor, ond ni ddygwyddodd yr un anffawd. Diolch am hyny. 0 herwydd cynydd yn rhif aelodau y Ciwb Cymreig, y maent yn symud i le newydd, lIe bydd ganddynt dair ystaf- eil yn lie un; smoking room, reading and writing room, a'r ystafell fwyaf i gynal cyfarfodydd. Bydd cyfarfod agor- iadol yn eu cartref newydd yn un o bethau goreu y tymor. Ceir mahylion eto am dano. Cawsom "surprise party" yn nhy Tom Jones y nos o'r blaen; un o'r "boys" wedi cyraedd gartref o faes y rhyfel. Fu y fath hwyl erioed! Digon o ganu a hwyl, a rhaid dod i Vancouver i glyw- ed canu Cymreig; lleisiau da gan am- ryw, ond rhy ychydig o ddefnydd yn cael ei wneyd o honynt. Dyna ddrwg y Cymry; dim yn manteisio ar eu tal- ent au; ac eraill heb tedru canu yn meddwl eu bod yn feddianol ar ryw lais godidog, nes peri i ddyn deimlo yn an- esmwyth wrth wrando arnynt. ,,d1 i iyned yn mlaen mae pwyllgor yr Eisteddfod, a dim golwg llaesu dwy- Ictw, fel llawer lie. Mae yma ddigon o "backbone" yn ogystal a "wishbone"; ond mewn llawer lie, ceir y "wishbone" lie dylai y "backbone" fod. Mae y t3Tivydd yma yn dal yn hafaidd o hyd, ac nid yw y tipyn gwlaw a gawn ond yn tymeru yr hin. Nos Fercher, cynelir "whisit drive" yn y Clwb Cymreig, a dysgwylir lluaws yno fel arfer. Drwg genym ddeall nad yw y brawd Jenkins, ysgrifenydd y Clwb, yn iach, o herwydd effeithiau y rhyfel. Nid yw wedi -bod yn dda ei iechyd, a gorfu iddo fyned i'r ysbyty yn ami. Hyderwn y ea adferiad bilan. Mae cydymdeimlad llwyraf y Clwb tuag ato. Mae ei ab senoldeb yn fwlch amlwg, a theimlir chwithdod am ei wasanaeth.
"Rhydd i Bob Meddwl ei Farn…
"Rhydd i Bob Meddwl ei Farn ac i Bob I Barn ei Llafar." Sagus, Lewis Gabriel a Sam Ellis. Mri. Gol.: Dyddorol iawn i mi oedd gweled J. Coslett Thomas gryn amser yn ol yn canmol Sagus fel dyn mewn cymdeithas (ar wahan i gymdeithas grefyddol; nid yw yn aelod o hono), a chredaf ei fod yn dweyd y gwir bob gair. Dywedai Coslett mai materolwr oedd ei gyfaill Sagus, ond yn ddiweddar gwelais Lewis Gabriel yn amddiffyn Sagus gan ddweyd nad materolwr yw; a gwna Sam Ellis sylw o arnddiffyniad L. G. a Sagus yn "Nrych," Tachwedd 13, fel pe bae L. G. a Sagus yn ddau fod :gwahanol. Wel, os ydynt, maent yn gwisgo yr un dillad, Sul gwyl a gwaith! SHANCO. R. S. O. a Dr. Williams. Mri. Gol.: Yn "Nrych," Tachwedd 13, gwelais fod R. S. O. am barhau i anfon i'r "Drych" ei gwestiynau difudd hyd nes y ca atebiad iddynt gan y Dr., ac awgryma fod y Dr. am osgoi ateb ei gwestiynau-celyd. Pe bae R. S. O. yn wr cyfarwydd yn ei Feibl, gwybyddai nad oes dim yn Ex. 14 26 yn rhoddi cefnogaeth i yfed diodydd meddwol. Nid oes yno air ar y mater, nac ychwaith air am amlwreic- iaeth yn 2 Sam. 12 7. Nid yw tafarn- wyr yn rhai dyo:gel i'w dylyn, R. S. O. Gwell i chwi astudio Gair Duw yn fwy dyfal, a gweddio am arweiniad yr Ys bryd Glan, yna sicrhaf i chwi na fydd genych flas ar gwestiynau o'r fath a roddweh. Y mae genyf dros driugain mlynedd o brofiad ar hyn bellach. Ond, er eich gwasanaeth, rhoddaf i chwi gyfieithiad Farrar Fenton o Deut. 14 25-26, fel ag y mae yn y gwreidd- iol, a phredaf mai at yr uchod y cyfeir- iwch, er na wyddoch lie y mae. Wele y cyfieithiad: "Then you shall bless your everliving God, and convert it into money, and take the money in your hand, and go to the place that your everliving God has chosen for himself, .and expend that money in all that your life requires-in oxen, and sheep, and wine, and flesh, and in all that your life demands, and eat them there be- fore your ever living God, and enjoy yourself with your family." "Yain" yw y gair Hebraeg am win yn yr uchod; yr un a "wain" yr Arab, ac "oinos" y Groegwr. Yr hyn a ddeall- id ganddynt hwy wrth y geiriau uchod oedd grawnwin addfed, neu ffrwyth y winwydden, ac nid diod feddwol. "Yain thareleh" y galwent hwy hwnw. Gres- yn fod yr hen gyfieithwyr Groeg a Llad- in yn ddieithriad wedi cyfieithu "yain" fel diod feddwol, ac y mae cyfieithwyr diweddar wedi eu dylyn yn ddiymchwil yn hyn o beth, er gwyrdroad o ddysg- eidiaeth yr Ysgrythyr, a llygriad moes- oldeb cenedlaethol, er heb y bwriad lleiaf i wneyd hyny. Rhoddaf i chwi eto gyfieithiad F. F. o 2 Sam. 12 8, gan y tybiaf mai at yr wythfed adnod y cyfeiriwch, ac nid at y seithfed, fel y dywedwch: "And I g.ave you the palace of your prince, and the wives of your prince to your bosom, and I gave you the houses of Israel and Judah, and I added portions to you from here and from there." Ysgrifen- ais yr uchod rhag i'r ieuainc gael eu camarwain. NID DR. WILLIAMS. Atebiad i Sam Ellis. Mri. Gol.: Teimlaf y dylwn ateb rai o sylwadau Sam Ellis a welir yn ei ys grif, Tachwedd 13, ar, "Ewyllysiad a Chyfrifoldeb," y rhai sydd yn y rhan hono o honi lie y cyfeiria ataf fi. Mae efe yn ymresymwr cadarn, a buasai yn ddigalon genyf ei wrthwynebu oni bae ei fod yn amlwg ar yr ochr waeiaf i'r pwnc. Ceisia greu rhagfarn yn erbyn caethewyllysiaeth trwy enwi Hume a Hobbes, Bob Iagersoll a Comte yn mysg ei phleidwyr. Ond rheswm gwael yw hwnyna. Yr oedd yr enwogion yna oil hefyd yn credu fod y ddaear yn gron, ond a ddylem ni felly gredu ei bod yn ysgwar? Annighoflodd hefyd enwi Martin Luther, Dr. Edwards y Bala, a llu o'r enwogion Calfinaidd, heblaw ni- fer luosog, os nad y mwyafrif, o wydd- onwyr yr oes hon, yn mysg ei phleid- wyr. Yr wyf yn cyduno ag ef pan ddywed y gellir dosbarthu galluoedd y meddwl dynol i dri dosbarth, sef "dealldwriaeth, teimlad ac ewyllys; ac hefyd ni ellir synied am weithredoedd moesol ar wa- han i ddeall, teimlo ac ewyllysio." Ond yn mhelklCh yn mlaen, ceir y frawddeg yma ganddo: "Dylanwadir ar yr ewyll- ys gan gymellion, ond nid oes rheid- rwydd arni i ufuddhau i unrhyw gymell- ion neillduol." Ai nid oes? Dyna yn wir yw cnewyllyn yr holl ddadl. Cred un ochr fod rheidrwydd arni i ufudd- hau i'r cymellion cryfaf, mor sicr ag y mae dau bwys yn gorbwysa un. Ond gadewch i ni weled. Yn mhell- ach yn mlaen fe ddywed fel hyn: "Pan safwn ar groesffordd bywyd, yr ewyllys a benderfyna pa ffordd drafaelir." Wel, tybier fod y dealldwriaeth neu y rhes- wm yn dweyd un ffordd, a rhai b'r teimladau yn dweyd ffordd arall. Beth sydd gan yr ewyllys i'w galluogi i farnu rhyngddynt, ond ufuddhau i'r un fyddo gryfaf ar y pryd? Fel y dywedais o'r blaen, nid oes gan yr ewyllys ond y cyneddfau i'w hyff- orddi pa fodd i weithredu o gwbl. Pe gweithredai yn annibynol ar y cynedd- fau, byddai ei gweithredoedd yn ddi- amcan, yn afresymol, ac yn annynol. Gallwn feddwl ar y rhyddewyllyswyr fod gan ddyn feddwl bach tu cefn i'r Hall yn gwrando beth ddywed yr olaf ond yn gwneyd fel y dewis ef ei hun. I'r eneidegydd, nid yw yr ewyllys ond enw ar ffurf neillduol o weithrediad y meddwl, sef pan y byddis yn rhag- weled ac yn deisyfu i ganlyniadau neill- duol ddylyn ein gweithredoedd. Ond dywedir, os yw y meddwl fel yna yn ddarostyngeditg i ddeddf achos ac effaith, nid ydyw dyn yn ddim amgen na pheiriant, neu megys pren yn cael ei siglo gan yr awel. Syniad anmrwd ac anystyriol yw hyn yna, oblegid nid leddfau materol yw deddfau y meddwl. Yr unig gyfatebiaeth rhyngddynt sydd yn eu cysondeb. Pa beth atolwg sydd mewn peiriant yn gyfatebol i reswm ffydd a chariad? A oes trefn a rheol i fod vn mhob rhan o'r greadigaeth ond yn y meddwl dynol? Mae deddfau yn y meddwl yn gosod gwerth ac urddas arno, a phe hebddynt fe deyrnasai yr annhrefn mwyaf ofnad- wy yn mysg dynoLryw; byddem oil yn ffolach na gwallgofiaid, ac yn beryglus- ach nag ellyllon. A. H. WILLIAMS. Pwy yw y Rheolwr? 0 Mri. Gol.: Mae amrywiol syniadau yn nghylch rheoli wedi ymddangos yn y "Drych" o dro i dro. Awst 14, daeth P. G. allan ar y testyn, "Dyn fel Rheol- wr." Medi 18, daeth ysgrif arall allan gan un, "Wrth Fyned Heibio," wedi "cynyrfu ei ymys.garoedd," fel y dywed, "gan beniad haerllug P. G., sef "Dyn fel Rheolwr." Myn hwn mae y "Duw byw a'i drefniadau santaidd ac un- iawn sydd yn rheoli plant dynion a'u pethau." Yn ei natur ddrwg a chynyrf- iad ei ymysgaroedd, y mae y brawd hwn yn annghofio ei safon uchel fel Dr. duwinyddol, dysgawdwr Cristionogol, a phregethwr Efengyl yr Arglwydd Iesu Grist, ac yn arfer iaith isel a hollol an- addas i'w safon. Yn siwr ddigon, "ni ddylai gwas yr Arglwydd ymryson, ond bod yn dirion wrth bawb, yn athrawus, yn ddyoddefgar, mewn addfwynder yn dysgu y rhai gwrthwynebus; i edrych a roddo Duw iddynt hwy ryw amser edi- feirwch i gydnabod y gwirionedd" (2 Tim. 2 24-25). Dengys y ddwy ys- grif yn eglur inai nid y Rheolwr oedd yn rheoli y naill berson oedd yn rheoli y llall; un yn ysgrifenu mewn iaith syml a boneddigaidd, a'r Ilall-Well, Y cwestiwn yw, "Pwy yw y Rheol- wr?" Os awn yn ol at hanes y cread, cawn maj un diben, os nad y penaf, o greu dyn oedd cael un i arglwyddiaethu ar bob peth. Os dyn oedd i arglwydd- iaethu, pwy oedd i reoli y dyn? Dy- wed un o'r ddau, y Duw byw sydd yn rheoli dynion a'u pethau. Edrychwn i Eden, nid oedd ond dau i'w rheoli, ond aeth eu rheolaeth yn fethiant difrifol. Pwy oedd y rheolwr? Ychydig yn mlaen, ceir efe yn rheoli un rhan o bed- air o'r trigolion i godi yn erbyn un rhan arall o Ibedair; dyna ddechreu Kaiseriaeth yn y byd. Os Duw oedd y rheolwr, pa reswm oedd iddo fod mor llym wrth Cain: "Melldigedig," meddai, "wyt ti o'r ddaear, yr hon a agorodd ei safn i dderbyn gwaed dy frawd o'th law di" (Gen. 4 11). Pwy oedd y rheolwr? Yn ddiweddarach,* gwelodd Duw mai "ami oedd drygioni dyn ar y ddaear, a bod holl fwriad meddylfryd ei galon yn unig yn ddrygionus bob am- ser"; a Duw a edifarhaodd iddo wneuthur dyn, ac a ddywedodd, "Dileaf ddyn, yr hwn a greais oddiar wyneb y ddaear, o ddyn hyd anifail, canys y mae yn edifar genyf eu gwneuthur hwynt" (Gen. 6 5-7). Dyna deimlad rhyfedd gan un oedd yn rheoli plant dynion a'u pethau! Pwy oedd y rheol- wr? Daeth diluw a boddwyd pawb ond Noah a'i deulu. Wedi y diluw, ceir gweled cychwyniad newydd ar fyd gyda phedwar dyn a'u gwragedd; beth a wel- ir? Y cyfle cyntaf a gafodd, gwelir pen teulu yn myned ar ei derm a meddwi yn chwil ulw, a cholli ei synwyr mor llwyr nes iddo ymnoethi a dangos ei hun yn ysgerbwd meddw noeth yn ei babell! Pwy oedd y rheolwT? Wrth droed mynydd Sinai, fe welir y bobl oedd ar eu ffordd o gaethwasiaeth i dir rhyddid yn addoli llo, a hwnw ond Illo marw; rheolaeth yn fethiant eto. Pwy bynag oedd yn "rheoli plant dyn- ion a'u pethau" yn y pethau a nodwyd, aeth yn fethiant truenus bob cynyg. Wrth ddiweddu, nid oes i mi ond rhoddi geiriau y testyn: Pwy yw y rheolwr? D. P. PRICE, Elgin, 111. "Ar y Rhai y Daeth Terfynau yr Oes- oedd." Mri. Gol.: Dan y penawd uchod, cawn ysgrif faith gan y Parch. R. Maw- ddwy Jones. Dengys Mawddwy anwy- bodaeth dybryd o reolau undebau Ilafur, ac yn enwedig rheolau Undeb y Glo- wyr; ysbryd cas, cyfeiliornus a rhag- farnllyd gawn yn ei ysgrif. Nid teg a darllenwyr y "Drych" fyddai gadael ei ddywediadau camarweiniol yn ddisylw. Cyhudda y glowyr o dori eu cytundeb fel "scrap of paper," ac mai Bolshefic- iaid yw arweinwyr y glowyr, na chaws- ant gyfle i bleidleisio ar y mater, ac na chafodd y glowyr, y meistri na'r cy- hoedd gyfle i gyfiafareddu y mater. Syn meddwl bod dyn o safle Mawddwy yn credu y fath ffwlbri. Nid Bolshefic na 1. W.1 W. yw John L. Lewis, llywydd undeb y glowyr, ond Americanwr trwy- adl o gyff y Brython, ac ysbryd rhydd- id a chyfiawnder Glyndwr yn ei galon. Nid detholion swyddogion yr undeKb oedd yn cynrychioli y glowyr yn eu cynadledd gynaliwyd yn Cleveland, 0., mis Medi diweddaf. Etholir y cynrych- iolwyr gan y glowyr eu ihunain; naill yn y lofa, neu mewn cyfarfod neillduol i'r pwrpas. Rhoddir trwydded i'r cyn- rychiolydd wedi ei arwyddo gan lywydd ac ysgrifenydd y lofa, a stamp y "Lo- cal" y perthyn iddi. Yr oedd dwy fil pedwar cant o lowyr yn y gynadledd yn Cleveland; darllenwyd y penderfyniad- au, a derbyniwyd hwy yn unfrydol gan aelodau'r Undeb. Yn union ar ol hyn, cyfarfyddodd swyddogion yr Undeb a'r meistri yn Buffalo, N. Y. Gwrthododd y meistri hawliau'r glowyr, ond i gwrdd eilwaith yn Washington, D..C. W. B. Wilson (aelod o'r Cabinet) oedd y cadeirydd. Y peth cyntaf ddywedodd y meistri wrth swyddogion y glowyr oedd, "Os na ataliwch y streic, Tachwedd y cyntaf, nid ydym am siarad a chwi yn mhellach." Awgrymodd y cadeirydd amryw delerau y gallai y ddwy blaid cytuno, ond gwrthodwyd y cyfan gan y meistri. Dranoeth, cyhoeddwyd bod streic y glowyr yn dor cyfraith, am nad oedd y rhyfel drosodd eto. Cyfyngodd y llywodraeth ar swyddogion y glowyr nad oeddynt i. siarad na chyfarwyddo nelod-iu yr Undeb, na gwario dimai o drysorfa'r Undeb er cynorthwyo y glo- wyr i gael bara i'w gwragedd a'u plant.' Dadleuwyd y "restraining order" o flaen y Barnwr Anderson. Dywedodd y Barnwr bod yn rhaid i John L. Lewis, llywydd yr Undeb, yn ddioed hysbysu y glowyr bod y streic ar ben, a bod i'r hysbysiad fod yn llaw y Barnwr dran- oeth i'w chwilio cyn ei gyhoeddi drwy y wasg. Derbyniodd Mr. Lewis y ddedfryd fel dyn gwrol a dinesydd da, ac atebodd y Barnwr fel hyn: "I cannot but feel that your decision is unjust. I am an Ameri- can; never shall I rise my hand or voice against my country nor disobey its laws. While I accept your verdict under protest, I shall obey the man- dates of this court to the very letter." A wel Mawddwy Jones yn ymddygiad Mr. Lewis rith o ysbryd y Bolshefic a'r < I. W. W.? Yr un egwyddor lywod- raetha naw o bob deg o aelodau Undeb y Glowyr. Mae yn wir i'r glowyr, tua dwy flyn- edd yn ol, gytuno a'r meistri a'r llywod- raeth ar delerau gweithio i barhau hyd ddiwedd y rhyfel. Gwir hefyd i'r meistri gytuno a'r llywodraeth i werthu glo am bris penodol hyd derfyn y rhy- fel; crewyd swydd i Dr. Garfield i ed- rych bod y meistri yn cadw at y cytun- deb. Yn fuan wedi llawnodi y cadoed- iad, diswyddwyd Garfield am fod y rhy- fel ar ben. Marwaidd fu masnach y glo am tua chwe mis; adfywiodd y fas- nach yn Gorphenaf diweddaf, a coddodd y meistri bris y glo o $2.25 i $4.50 y dunell, ond gweithiodd y glowyr ar yr hen bris hyd ddiwedd mis Hydref. Y meistri yn rhydd i godi pris' y glo, ond y glowyr yn gaeth i'r llywodraetth hyd nes cyhoeddi'r heddwch yn swyddogol! Gobteithio y teimla Mawddwy iddo yn ei fyrbwylldra wneyd cam a'r glowyr tlawd. Cofiwch Mawddwy, yr hwn gyd- afdefa ei fai ac a'i gadawo gaiff dru- garedd. I J. H. TAYLOR, New Straitsville, Ohio.
IGLASGOED, ARFON
I GLASGOED, ARFON I Gan Coedglas Daeth David Solomon Williams, Llan- rug, adref o Ffrainc, wedi bod yno yn hir gyda'r Labour Batt.; hefyd, gwel- som Emrys Owen, Shop, Arthur Ter- race yn ein plith, wedi taith hirfaith ar donau Dafydd Jos. Bu y cyfaill hoff tuag Awstralia. Y mae Stanifor, Llan- rug, wedi ei ddewis gan gwmni o Loegr i wneyd adroddiad ar lech chwarel yn Cornwall, Lloegr. Y mae pwyllgor Elusen Dr. Morris wedi rhoddi £ 10 i Mr. Gwilym Williams, Tynywinllan, i'w sirioli i fyned i'r Coleg yn Bangor. Y mae Miss Maggie Williams, Caregy- gran, yn gwella yn foddhaol wedi ei gwaeledd diweddar.; Da oedd genym ddeall fod Mrs. Roberts, mam y Parch. Hugh Roberts, Capel Curig, wedi dod yn ol o Affrica, wedi treulio wyth mlyn- edd yno. Llongyfarchwn Mr. W. D. Wil- liams, Wardner, ar ei Iwydd yn dringo i gadair uchaf Urdd y "Red Men." Un o hogia'r Cwm yw Willie,yn ogystal a'r gohebydd, Dewi, o Los Angeles. Cof cu at y ddau a'u teuluoedd oil. Cafodd Edwin Williams, Glyndwr gynt, ddod adref am seibiant byr o Ger- mani, lie y mae gyda'r fyddin warch- eidiol. Gan na ddaeth digon yn nghyd i'r gyfeillach yn y Cwm, Medi 27, meth- wyd a dewis rhagor o flaenoriaid. Yn 01 yr arfaeth, yr oedd y Parch. John Pritchard, Llanberis, a Mr. T. D. Wil- liams, Dysgwylfa, yno ar ran y Cwrdd Misol. Talodd Mrs. Lloyd George ymweliad a phen y Wyddfa rai dyddiau yn ol. Mr. Ariander Hughes oedd yn trefnu ei thaith. Anffafriol iawn oedd y tywydd ddiwrnod ffair y Nant a dywedodd hyny lawer arni. Wedi gostwng yn eu pris- iau yr oedd y gwartheg a'r defaid. Cyn- aliwyd dwy ocsiwn yn y Nant hefyd ar ddefaid yr un dydd, a dwy i lawT yn Llanberis ar eiddo'r Helfa ac Adwy'r Waen. Y mae teulu Adwy'r Waen yn gadael y lie. Bu eglwys Preswylfa, Llanberis, yn dewis blaenoriaid, a syrthiodd y fantell ar y Mri. Thomas Hughes, Hafod, a Griffith oJnes, Ty'n- twll, Nant Peris; y ddau yn aelodau o'r lie er's tro. Mae Master John Peris Jones, mab Mr. a Mrs.. John T. Jones, Tanrhiw, Ebenezer, wedi gorfod myned i'r ysbyty yn Bangor, er cael gorchwyl llawfedd- ygol ar ei wyneb. Medi 14, yr oedd y Parch. J. M. Pritchard, Wilkes-Barre, Pa., yn pregethu yn maes y dref a Boz- rah; canmolir ef fel prfegethwr syl- weddol. Dysgwylir tua 5000 o filwyr i dref Caernarfon, Medi 29; yr oedd y prif weinidog i fod yn bresenol, ond o her- wydd amgvlchiadau terfysgol y wlad, yr oedd yn anmhosibl iddo gyflawni ei ym- rwymiad. Y mae cyfeillion ieuainc y Glasgoed am gyngerdd er budd yr achos yn y lie, a bwriadant apelio am gym- orth y plant sydd ar wasgar. Os teim- la un o'r plant ar eu calon anfon rhodd fechan at y ddyled y maent ynddi, bydd yn dda gan eich gohebydd, Coedglas, eu derbyn gyda llawer o ddiolch. Y mae Mrs. Griffith, priod gweinidog Bethania, Felinheli, wedi ei phenodi yn olygyddes y cylchgrawn a elwir "Y Gymraes"—ei henw "llenyddol yw Mair Ogwen. Wedi absenoldeb o dair blynedd o'r ardal, daeth Mr. Boaz Jones, Siloh Cot- tage, yn ol o wlad yr Aifft. TJnwyd Miss Howard, Tynlon, mewn priodas a Mr. Roberts, Lleiniau gynt. Talodd Nyrs Hughes, merch Mr. a Mrs. Edward J. Hughes, Augusta Place, ymweliad a'i cartref. Mae hi wedi bod am ddwy flynedd yn ysbyty filwrol Caerlleon; collodd ei brawd, Lieut. J. Edwin Hughes, ei fywyd ar faes y frwydr tua thair blynedd yn ol. Cafodd aelodau eglwys St. Mair wledd o ddanteithion rhagorol, a chaf- wyd cwrdd canu ac adrodd rhagorol yno wed'yn. Y Nadolig, y mae dysgwyliad am wledd ragorol mewn canu ac ad- rodd a dadleu yn Brynmenai. Ceir gan- ddynt raglen ragorol, a beirniaid peni- gamp. Un peth yn unig sydd yn angen- rheidiol, sef ymgeiswyr. A hi yn tynu at derfyn Medi, dyma ninau yn tawelu. Y mae'r hin yn ddrwg ddifrifol, gwlaw dyddiol, a'r yd heb yn agos ei gael i mewn. Hyderwn y try pethau yn well ar fyrder.
Advertising
t. $100 Reward, $100 The readers of this paper will be pleased to learn that there is at least one dreaded disease that science has been able to cure in all its stages, and that is catarrh. Catarrh being greatly influenced by constitutional conditions requires constitutional treatment. Hall's Catarrh Medicine Is taken intern- ally and acts through the Blood on the Mucous Surfaces of the System, thereby destroying the foundation ot the disease, giving the patient strength by building up the constitution and assisting nature In doing Its work. The proprietors have so much* faith In the curative powers of Hall's Catarrh Medi- cine that they offer One Hundred Dol- lars for any case that It tails to cure. Send for list of testimonials. Address P. J. CHENEY & CO., To- ledo, Ohio. Sold by all Druggists, 75c.