Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

8 articles on this Page

CYMDEITHAS Y-GWRAGEDD CYMREIG

News
Cite
Share

CYMDEITHAS Y-GWRAGEDD CYM- REIG Erbyn hyn, y mae Cymdeithas Gwrag- edd y Cymry, yr hon a gychwynwyd yn Cleveland, Ohio, yn 19 1 wedi cyr- aedd sylw mawr, ac y fle yn debygol y bydd yn gychwyniad mudiad a fydd o fendith fawr i ni fel cenedl yn y wlad hon. Ychydig o fudiadau Cymreig lles- 01 a chynorthwyol sydd yn ein plith, a chymeradwywn y mudiad hwn o eiddo y Gwragedd hyn. Cyfeiriant eu hym- drech at sefydliad ymgelyddol i bobl yn deilwng o hyny. Dechreuodd y mudiad, hwn, fel pob mudiad da arall, fel yr hedyn mwstard, ac y mae yn addaw tyfu yn bren mawr, a'i gangau i ledu dros y Talaethau. Rhoddir ymgom dwy foneddiges yn Cleveland, Ohio, fel cychwyniad y mud- iad, sef Mrs. Ison a Mrs. Hasenpflug; y ddwy a roisant fodolaeth i'r gym- deithas gyntaf. "Oni fyddai yn beth godidog," ebe un, "pe y gellid cych- wyn Cymdeithas o Wragedd Cymreig yn y ddinas?" A dyna ddechreuodd y mudiad ag sydd erbyn hyn wedi tyfu yn sefydliad byw a gweithgar. Yn ddiweddarach, cynaliwyd cyfar- fod yn nghartref un Mrs. Webb i roi hwb yn mlaen i'r achos, a'r canlyn- iad fu i Mrs. Ison, Mrs. ThomasFvang, Mrs. Webb, Mrs. Hasenpflug, Mrs. Har- ry Leighton a Mrs. George Wallace gynyg $25 i gychwyn yr achos. Cyfarfu nifer yn swyddogol. Medi 6, 1911, yn nghartref Mrs. Hlsenpflug, East 55th a Cedar, a phenderfynwyd fod y Gymdeithas yn cael ei chychwyn, a phenodwyd pump i gyfarfod a Mr. Davies a Mr. Blythin yn Neuadd y Ddi- nas, Medi 8, a Medi 13, etholwyd y swyddogion a ganlyn i wasanaethu y Gymdeithas (y Welsh Women's Club): Llywyddes, Mrs. M. W. Hasenpflug; is-lywyddes gyntaf, Mrs. J. H. Freder- ick; ail is-lywyddes, Mrs. Sadie Vail; ysgrifenyddes gofnodol, Mrs. George Wallace; ysgrifenyddes arianol, Mrs. Ernest Ison; trysoryddes, Mrs. Harry Leighton; caplanes, Mrs. Mary Larkin. Penodwyd y pwyllgor canlynol, yni nghyd a'r swyddogion, i dynu alla,n gyf- ansoddiad a rheolau: Mrs. James Hicks, Mrs. Thomas Jones a Mrs. Dan Phil- lips. Y Swyddogion Prest,nol: O'r Aswy i'r Dde-Mrs. M. J. Hasenpflug, llywyddes; Mrs. Gwen Wassem, is-lywyddes, Mrs. J. L. Vopalecky, ysgrifenyddes; Mrs. J. D. Price, trysoryddes; Mrs. Charles Bertsch, trefnyddes.

CARTREF Y CYMRY, UTICA, N.…

Advertising

[No title]

[No title]

-000 MARTINS FERRY, OHIO I

I. MARWOLAETH RHYFEDD CYMRO…

[No title]