Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

9 articles on this Page

MATHETESI

News
Cite
Share

MATHETES Gan y Parch. Evan Mona Jones Beth amser yn 01, Igwelais gais yn Y "Drych" am ychydig o hanes nifer o enwogion Cymru, ac yn eu plith enwid Mathetes, set y Parch. John Jones, yr hwn a gyraeddodd safle anrhydeddus yn mhlith tywysogion meddyliol ein cen- edl, gan adael ar ei ol gynyrchion tor- eithiog ei feddwl ymchwilgar, ei ben- derfyniad di-ildio, a'i egni diorphwys, yn gofgolofn anfarwol i ymgysegriad el dalentau dysglaer a'i fywyd Ilafurfawr er lies eraill a gogoniant Duw. Yn gymaint ag i mi gael yr anrhyd- edd o fod yn olynydd iddo yn Peniel, Rhymni, ac yn gymaint nad oes neb arall wedi ateb y cais, penderfynais y buaswn yn gwneyd ymgais i roddi bras- linelliad o hanes ei fywyd diwyd ac eithriadol o lwyddianus. Clywais ef yn preigethu, ymwelais ag ef ychydig am- ser cyn yr ymddatodiad, ac yr oeddwn yn bresenol yn ei angladd yn mynwent y Pant, Dowlais. Rhydd hyn ychydig o gymwysder ynwyf i draethu yn fyr am dano. Ganwyd Mathetes yn un o ardaloedd prydferthaf Cymru, set o fewn milldir. i Gastell Newydd Emlyn, yn swn mur- mur afon enwog Teifi. Cymerodd hyn le yn y flwyddyn 1821, felly cydoesai a rhai o ddynion mwyaf athrylithgar ein cenedl. Mab ydoedd i Roger a Mary Jones, a'r cyntafanedig o bedwar o blant. Honir mai i'r mamau yr ydym ddyledus am blant athrylith a thalent, ac y mae hyn yn wir yn ei berthynas a Mathetes, o herwydd yr oedd ei fam yn wraig o gyneddfau cryfion; gwybod- aeth Ysgrythyrol helaeth; ac yr oedd yn meddu ar farn annibynol a syniadau crefyddol o'r un nodwedd a'i mab en- wog, tra mai dyn digon cyffredin ei gyraeddiadau oedd ei dad, ond eto hy- nod ddiwyd i wneyd y tyddyn bychan a phlanigfa (nursery) yn foddion cynal- iaeth i'r teulu. Ar wahan i'r hyn a dderbyniodd ar yr aelwyd, ac yn yr Ysgol Sabbothol, yr oedd addysg foreuol Mathetes yn hynod gyfyngedig. Yr adgof mwyaf dwfn oedd ganddo am ei ysgolfeistr cyntaf yn Castellnewydd Emlyn ydoedd yr ergyd rhoddwyd iddo yn ei iglust gyda "ruler," yr hyn effeithiodd ar ei glyw am rai blynyddau. Trefn lied arw oedd trefn y "ruler" i guro addysg i'r pen, a da lawn fod trefn fwy rhesymol ac effeithiol wedi cymeryd ei lie. Pan y terfynodd tymor byr ei ysgol, daeth i gynorthwyo ei dad ar y tyddyn hyd nes y cyraeddodd ei 16 oed, pryd T penderfynodd, gyda chydsyniad ei rieni, fyned i Dowlais i chwilio am waith mwy enillgar nas- gallai gael yn ardal bryd- ferth afon Teift. Cychwynodd yn wrol a'i becyn ar ei gefn a haner coron yn ei logell, gan gerdded bob cam, ac heb wario dimai o'r haner coron rhag ofn na buasai yn llwyddo i gael gwaith a gorfod dychwelyd mewn siomedigaeth. Bu rhagluniaeth o'i du. Cafodd waith yn uniongyrchol fel mwnwr yn y gwaith glo, ac er ei fod yn ieuanc ac yn fychan o gorff, yr oedd metel da yn- ddo. Yh Dowlais angorodd ei hun yn Ysgol Sul eglwys Fedyddiedig Caersalem, a daeth y gweinidog, y Parch. W. R. Da- vies, i deimlo dyddordeb yn y llanc < llwyd a theneu, ond cyflym ei ysgog- iadau, ei ymchwiliaeth, a'i feddylgar- wch. Bendith eithriadol werthfawr i fechgen mewn lie dyeithr ydyw cyfeill- garwch proffwyd Duw. Mae llawer un heblaw Mathetes wedi parhau trwy yrfa bywyd i ddiolch am gyffelyb fendith. Fel aelod o'r Ystgol Sul, amlygai ys- bryd Bereaidd anorchfygol, ac annibyn- iaeth meddwl cryf, ac nis gallai ei :athraw ei berswadio i dderbyn yr un syniad o ddehongliad os heb reswm da drosto. Bu yn Dowlais am gryn amser cyn ufuddhau i alwad yr Efengyl. Cy- merodd hyn le ar nos Sul cymundeb fyth-gofladwy. Yr oedd wedi myned allan ar ol y bregeth, ac wrth y drws, meddyliodd y dylasai fod wedi aros yn y capel nes buasai y cymundeb dros- odd. Dychwelodd gan gymeryd sedd yn y galeri, a phrofodd ddylanwadau a'i dygodd i'r penderfyniad i ymuno a chanlynwyr y Gwaredwr. Ychydig o ddyddiau wedi iddo aros yn y gyfeillach, cymerodd ymgom le rhyngddo ef a hen wr crefyddol oedd yn flaenor yn un o'r addoldai yn Dow- lais, ac yn gweithio yn yr un talcen glo a'r llanc o Castellnewydd Emlyn. Wedi amlygu boddhad a llawenydd, oblegid yr hyn a glywodd, dadganodd, "Gob- eithio, John bach, dy fod ti yn teimlo dy hun yn un a'r penaf o bechaduriaid." "Y fi," ebe yntau, "yn un a'r penaf o bechaduriaid! Nac ydw'i yn wir. Dyna lanto Glatshen, yn hen bechadur deu- gain oed, yn tyngu a rhegu a meddwi ac ymladd ar hyd ei oes. Nid ydw'i er- ioed wedi tyngu a rhegu a meddwi ac ymladd. Ac a ydych chwi yn meddwl y dylwn deimlo fy hun yn fwy o bechadur na hwnw? Lol i tgyd! Darllenwch eich Beibl y dyn!" Mae yr atebiad yna yn dangos' yn amlwg fod Mathetes pan yn ieuanc yn ymhyfrydu yn y gwaith o geisio profi y pethau sydd a gwahan* iaeth rhyngddynt. Yn fuan wedi iddo aros yn y gyfeill- ach, gorfu iddo gymeryd seibiant yn awyrgylch iachusol Glanau Teifi er mwyn nertholi ei iechyd. Yn ystod y seibiant hwn, bedyddiwyd ef yn Nghas- tellnewydd Emlyn gan yr Hybarch Timothy Thomas, yr hwn a gaffai wedi hyny iddo gael yr anrhydedd o fedydd- io un o ddynion mwyaf Cymru. Ym- ddengys i hyn ddygwydd tua'r flwyddyn 1839. Adferwyd ei iechyd, dychwelodd i Dowlais, ymaelododd ag eglwys Caer- salem, ac yno y dechreuodd bregethu. Yn gyffelyb i eraill ddaeth yn enwog yn y pwlpud Cymreig, felly yntau; bu ei ymgais gyhoeddus gyntaf bron yn fethiant, ond ymwrolodd a chaaglodd nerth digonol i gyfiawnhau anogaeth ei weinidog iddo i fyned i'r Grammar School yn Aberteifi i barotoi am fyned- iad i Athrofa Hwlffordd, lie y treul- iodd dair blynedd mewn ymdrech ddi- flino i gymwyso ei hun ar gyfer gwaith ei fywyd. Yn ystod ei flwyddyn olaf yn r Ath- rofa: ymddangosodd rhai vsgrifau o'i eiddo yn "Seren Gomer." Mewn un dadganai: "Mae yn angenrheidiol cael dyn i feddwl ac ystyried cyn y gallo fod yn grefyddol; a meddwl llawer cyn y 'byddwn yn grefyddwyr da; a'r rhai fyddo yn meddwl fwyaf ac yn ym- Iwybro yn ol y cyfarwydda eu gwybod- aeth hwy i wneyd, yw y crefyddwyr goreu, o herwydd peth yw crefydd sydd yn ymwneyd a'r Aeddwl; a'r achos nad ydym yn crefydda yn well yw n.ad ydym yn meddwl mwy." Yn Mai, 1846, ordeiniwyd ef yn wein- idog Bethlehem, Porthrhyd, Sir Gaer- fyrddin, lie y coronwyd ei lafur a llwyddiant nodedig a helaeth. Prof- odd ei hun yn ddiwygiwr dewr yn ogys- tal a phregethwr galluog a bugail ym- roddedig, a bu ei wasanaeth o werth an- mhrisiadwy yn nyrchafiad moesoldeb a sobrwydd y igymydogaeth. Ei eglwys nesaf oedd Caersalem Newydd, yn agos i Abertawe. Pan sef- ydlodd yn weinidog yr eglwys hon, nod- weddid yr ardal ag amryw arferion lly- gredig ac anfoesol, megys cwrw bach, pastiod ac ymladdfeydd, ac o herwydd el ddynoethiad gwrol o'r arferion hyn, cafodd ei wawdio, ei ddifenwi, a'i erlid, ond dygodd ei lafur ffrwyth mawr mewn arferion gwell ac awyrgylch foesol mwy pur, dymunol a hyfryd. Fel y dywedodd un tra yn traethu am ei waith yn Caersalem Newydd: "Efe a ymladdodd, efe a ddyddefodd, efe a lwyddodd." Nid oedd Mathetes yn credu mewn "etholedigaeth ddiamodol, dragwyddol a phersonol," a dygwydd- iad lied hynod oedd iddo gael galwad i'r Demi, Casnewydd, eglwys uchel- Galfinaidd o'i chychwyniad hyd ddyfod- iad Mathetes yn weinidog arni. Un tro mewn cyfeillach yn y Demi, dangosodd ei hun yn elyn i hen ddywediadau ys- trydebol a disynwyr. Dadganodd hen frawd duwiol ei brofiad gan dynu dar- luniau gwrthun o'i gymeriad moesol. Cyn bron i'r hen frawd gymeryd ei sedd, cododd Mathetes yn bybyr a dy- wedai wrtho: "Thomas Lewis, gwran- dewch; pe gallwn ddarbwyllo fy hun, ac eraill sydd yn bresenol, i gredu am danoch chwi y peth a ddywedwch am danoch eich hun, mi a'ch diarddelwn yn y man." Yr eglwys y bu ynddi hwyaf ydoedd Peniel, Rhymni. Credwyf iddo laftfrio yno am 14 mlynedd, a chyda llwydd- iant mawr, ac mae effeithiau ei weinid- ogaeth yn parhau yno hyd yr awr hon. Tra yn Peniel y cyfansoddodd y rhan helaethaf o'r "Geiriadur Beiblaidd," cyn- wysedig o dair gyfrol drwehus. Dyma ddywedodd y Prifathraw Edwards, D. D., am y gwaith: "Un o'r geiriadur- Cystadleuaeth Saethu yn Bisley, Lloegr. Lieut. A. E. Martin, R. A. S. C., mewn cydymdrech a Mr. Blood am y wobr yn nghystadleuaeth Bass. Lieut. Martin yn enli II —Copyright Western Newspaper Union .———————————— — on goreu. Hynodir ef gan lawnder, cy- wirdeb, amrywiaeth, helaethder ac eg- lurdeb." Una eraill o brif ddysgediig- ion ein cenedl yn eu tystiolaeth uchel am dano. Fel y tystiolaethodd Mathetes ei hun, symbylwyd ef i ymaflyd yn y gwaith gan ddau gyfaill yn ardal Caer- salem Newydd. Credent y gallai or- phen y gwaith mewn chwech neu saith mlynedd, and cymerodd dros ugain mlyned'd iddo gyraedd ei ysgrif ar y gair "ysbryd." Dyna yr ysgrif olaf all- odd barotoi o'r gwaith llafurfawr a igor- cheStol. Bu yn rhaid i eraill ysgrifenu ugain tudalen i'w wneyd yn orphenedig. Yn ei flynyddau diweddaraf, ym- ddangosodd ei "Areithfa," cyfrol gyf- oethog o bregethau gafodd gylchrediad tra helaeth, a gwerthfawrogiad mawr. Pan yn cyfeirio at orchestwaith Math- etes, dywedodd y Parch. D. Powell, Ler- pwl: "Cofigolofn can mil gwell na'r mar- mor caboledig a cherfiedig i allu, llafur a phenderfyniad Mathetes yw y 'Geir- iadur.' Ar un adeg, yr oedd yn Eisteddfodwr selog, a pharhaodd i ysgrifenu i'r gwa- hanol newyddiaduron ar bynciau y dydd tra y caniatodd nerth, ond yr hyn a wna ei goffadwriaeth yn fythol-wyrdd yw y "Geiriadur Beiblaidd," yr hwn sydd yn- werth ei bwysau o aur, ac yn ilyfrgell ynddo ei hun.

ISAAC LEWIS, KNOXVILLE, TENN.

[No title]

DYFODOL Y "DRYCH"

PICATONICA, WIS. .:rI

[No title]

Y PARCH. JAMES A. JENKINS,…

IMINNEAPOLIS, MINN. I

DYLEDSWYDD YR EGLWYS YN YR…