Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

10 articles on this Page

- -------.--.----NODIADAU…

News
Cite
Share

NODIADAU YR WYTHNOS. j 'Cymmerodd etholiad gyffredinol le yn Canada yn ystod yr wythnos a aeth heibio. Llywodraeth Geidwadol oedd mewn swydd yno hyd yn hyn dan brif weinidogaeth Syr John Macdonald. Perwyd J llawer iawn o gyffro trwy'r holl drefedigaeth gan i'r Rhyddfrydwyr benderfynu cefnogi cyssylltiad neu at-ddodiad Canada a'r Uuol Dalaethau, a thrwy hyny dori ymaith ei chyssylltiad a'r wlad yma. Profodd y Ceidwadwyr eu hunain yn hollol ffyddlawn i'w brenines ac i'w gwlad, a gwynebont y frwydr gyda phenderfyniad, yni a gwladgarwch teil wng o clraddodiad goreu eu plaid. Effeithiodd cyfraith M'Kinley yn uniongyrchol ar yr etholwyr a drigant ar ffin y ddwy wlad, gan fod y mesur hwn wedi gosod treth ar holl anifeil- iaid a nwyddauaddanfoniri farchnadoedd yr Unol Dalaethau o bob man tu allan i'w chyffiniau. Byddai amaethwyr Canada yn arfer magu ceffylau ac anifeiliaid ereill, yng nghyda gwa- hanol gynnyrchion amaethyddiaeth er eu danfon i farchnadoedd yr Unol Dalaethau. Felly pan y cauwyd y drws yn en herbyn yma heb dalu toll pur uchel, amlwg yw i'n gwrthblaid yn Canada gael election cry pur ddylanwadol. Ond yr oedd y Ceidwadwyr hefyd lawn cymmainfc dros ysgubo ymaith y baich hwn. Anghytunent yn nnig yng nghylch y modd goreu yw effeithio. Rhaid oedd i'r Rhyddfrydwyr annog yr eithafol yma fel gartref a dywedent nad oedd modd gwella y aefyllfa ond trwy ymuno a'r Unol Dalaethau a gwadu eu hen fam. Cyfyngwyd y prif-weinidog i'w ystafell gan annwyd trwm. Er mwyn ei hyabyau o ganlyniad yr etboliad gyda'r cyflymdra mwyaf, cyssylltwyd brysebyr (telegraph) wrth ei dy, ac felly cludwyd hines pob etholiad iddo. Jbtholwyd efyr John ei nun dros Jvmgston gycta mwyafrif o 464. Mae yn Nhy Cyffredin Canada 215 o aelodau. Etholwyd yn awr 120 o Geid- wadwyr a 95 o Ryddfrydwyr, felly gwelir fod Syr John Macdonald wedi ei ddychwelyd i awdurdod unwaith eto gyda mwyafrif o 25. Wrlh ysgrifnu ar ganlyniadau yr etholiad cyfFredinol hwn, dywed un newyddiadur :Nfae y Hywodraeth Geid- wadol wedi ei chytiawnhau yn orfoleddus yn Ilygaid y byd, ac y mae llywodraethyddiaeth at- ddodiad neu gydgyfnewidioldeb wedi derbyn ergyd marwol. Mae'r etholiadau diweddaf wedi penderfynu cwrs dyfodol Canada am yr hanner canrif nesaf. Gwna barhau fyned rhag ei blaen yn ei llwybr ei hun, gan ddadblygu ei diwyd- rwydd, sefydlu ei mauteisiun gwladwriaethol a masnachol, a dal yn dyn wrth ein hymerodraeth fawr, seiliau pa un ydynt rhyddid, cyfiawnder, a gwirionedd." Well done, Canada. •V Cynnaliodd Cymdeithas Prifysgol Rhydychain, y er Amddiffyniad yr Eglwys yng Nghymru, ei chyfarfod miaol yn ystafell Mr T. E. P. Daviea, Coleg Wadham, nos Fawrth wythnoa i'r diweddaf. Yr oedd yn bresennol 21 o aelodau. Ar ol dewis awyddogicn, &c., am y cwarter dyfodol, deuwyd at brif atdyniad y cyfarfod, sef papyr Mr T. L. S. Hatton, Coleg Hertford, ar Ein Dyledswydd yng ngwyneb Dadgyssylltiad." Cafwyd gwledd o'r fath oreu ganddo, a llefarai yn gryf am i'r aelodau weithredu mwy a aiarad llai Dywedai y dylai yr aelodau hefyd siarad yn gyhoeddua ar lwyfanau o blaid yr hen Fam, a rhoddi eu hys- gwyddau dan y beichiau trymion a ddygir yn awr gan ambell i arwr yma a thraw. Darllenwyd llythyrau oddi wrth yr Esgobion Lloyd ac Ed- wards, Deon Owen, Parchedigion J. Morgan, Llandudno, a W. Williams, Dolgellau, yn cym- meradwyo y cynllun o draddodi areithiau cy- hoeddus o blaid yr Eglwya. Ar ol gorphen o Mr Hatton ei araith, cafwyd ymdrafodaeth ar y cyn Hun a enwyd, ac ar y priodoldeb o gael archesgob Cymreig. Yn y diwedd, penderfynwyd fod i'r pwyllgor am y cwarter dyfodol gymmeryd y cwrs priodol i gario y cynllun i weithrediad, ac i dder- byn enwau aelodau a gyflwynent eu hunain i'r gwaith. Ar ol talu y diolchiadau arferol, ymwa- hanwyd, wedi mwynhau cyfarfod hynod adeiladol. —Nos Fercher diweddaf, anerchodd Syr J. T. D. Llewelyn, Penllergare, gyfarfod cyhoeddus yng Ngholeg yr Iesu, dan nawdd yr un gymdeithas. # Gohebydd, yn ysgrifenu oEfrog Newydd ddydd Llun, a ddywed :-Boriu heddyw cyinnieroddl cyflafan erchyll le yn y rhan Italaidd o'r ddinas, agsy'n hollol nodweddiatlol o'r rhan hono, eithr o natur tra anghyffredin. Yr oedd Nicolo Piero, Italiad ieuanc, yn myned ar hyd Spring street, ger Broadway, pryd y cyfarfyddwyd ef gan Pasqualine* Robertelli, teilwres dlos, o ddeutu ugain mlwydd oed. Yr oedd hi wedi ymguddio tu ol i rhyw fwndeli ar ochr yr heol pan y gwelodd ef, a daeth yntau heibio'r llecyn hwnw heb y drwg-dybiaeth lleiaf o berygl. Pan y cyrhaedd- odd, hi a neidiodd o'i hymguddfan a chan dynu allan lawddryll saith ergyd, hi a ddechreuodd danio arno. Wedi iddi ollwng pedair ergyd ac i Piero gael ei gwympo i'r llawr, darfu i rywun o'r dyrfa daraw yr arf o law yr eneth. Treiddiodd dwy o'r bwledi i gorph Pieio, ac un o honynt trwy'r fron yn agos i'r galon. Daliwyd yr eneth yn unien, yr hon ni .wnaeth un ymgais i ddianc, ac nid ymddangosai yn gynhyrfus ychwaith. Wedi ei chymmeryd i swyddfa'r heddgeidwaid, hi a eglurodd pa ham y ceisiodd ladd Piero. Dywedodd ddarfod i Piero, bed war mis yn el, ei llithio o dan yr addewid o'i phriodi. A meddai yn mhellach Yna rhoddodd i mi y llawddryll, a dywedodd wrthyf, os na wnai fy mhriodi yn mhen wyth niwrnod, fy mod i i'w saethu lie bynag y gwelwn ef. Aeth wyth niwrnod heibio ond heb y briodas. Wedi hyny addawodd fy mhriodi ar yr 211 o Fawrth, gan erfyn arnaf ei saethu os profai yn anffyddlawn. Dyddd Sul cefais allan fod Piero wedi gwneyd trefniadau i ddychwelyd i Itali. Yr oedd yn amlwg y bwriadai gael myned yn glir a mi. Ar hyny penderfynais ei saethu. Gwyliais drwy y nos ger ei lety, ond nid aeth i'r ty yr holl amser Ylla. Chwech o'r gloch boreu heddyw aethum i fyny i Spring-street ac aro-ais am dano. Gwyddwm fod yn rhaid iddo basio drwy yr heol hono rywbryd, ac yr oeddwm wedi gwneud fy meddwl i fyny i beidio bwytta na chysyu hyd nes cyflawni yr hyn yr oedd wedi dweyd wrtbyf am wneud. Yrachoa i mi ymguddio ar ol ei weled oedd am fod arnaf ofn ei fod wedi newid ei feddwl yn nghylch eisiau cael ei saethu, gan ei fod yn puotoi i fyned yn ol i Itali ond wnes i ddim ond yr hyn y rhoddodd efe ganiatad i mi i'w wneyd. Ni, allant fy niweidio am hyny, a hiawnderau." Gafodd Paaqualini ei remandio. Nid oedd Piero yn abl i ddweyd ei ochr ef o'r amglychiad. -Y *#* Yn ei barhad o erthyglau ar "Hen Ynys y Derwyddon," yn y Gwalia, ysgrifena Mr W. H. Evans yr wythnos hon ar blwyf Llansadwrn. Credwn y bydd yn dda gan nifer o'n darllenwyr yn ardal Llansadwrn weled yr ysgrif alluog a dyddorol hon ar dudalenau y JOURNAL. Dyfyn- wn yr hyn a ganlyn :—Yn y plwyf hwn (Llansad- wrn) y mae y ffermydd Bryn Eryr a Rhos Owen, y rhai a adawyd gan Dr. Rowlands er cynnal ei elusendai ym Mangor. Yn 171o, darfu i un Rowland Jones adael yn ei ewyllys dyddyn o'r enw Goralaa, ardreth pa un a ranir yn gyfartal rhwng y plwyf hwn a phlwyf Pentraeth tuag at gynnal y tlodion. Yn 1756, gadawodd un Mrs. Roberts zEI50 yn ei hewyllys, Hog yr unrhyw a orchymmynwyd ganddi i'w ranu yn gyfartal rhwng y tair house-keeper tlotaf a mwyaf haedd- iannol yn y plwyf. Y mae y swm hwn wedi ei roddi allan ar brif-ffordd Caergybi, a cheir llog blynyddol oddi wrtho o t7 10s. Rhenir y cym- mynroddion hyn y Pasc a'r Nadolig bob blwydd- yn. Perthyn i'r plwyf laweroedd o elusenau ereill, yn gwneyd i fyny y cyfanswm o E41. Prif gyfranwyr at y swm hwn oeddynt :—Humphrey Williams, yn 1741, a Gryffdd Williams, yn 1765, y rhai a roddasant £10 bob un. Rhoddwyd tir gan Arglwydd Bulkeley i adeiladu annedd-dai bychain aroHo, y rhai a rentir am El Is. yu flyn- ycldol. Yn y plwyf lnvn y mae y preswylfod hynafol Hafodty Rhydderch, perthjMiol, mae yn debyg, i ryw aelod o deulu Bulkeley. Trigiannir y lie yn awr gan amaethwr. Y brif ystafell a erys ymddengys oedd y neuadd. Eir iddo trwy ddwy fynedfa, y rhai ydynt o benau pwyntiog, eithr heb unrhyw addurniadau. Y prif o'r nen henafol a erys eto. Yn y lie tan ceir arddangos- ad godidog o gysuron yr amser gynt. Y mae yn ffurf bwa pwyntiog, naw troedfedd chwe modfedd o led wrth bum troedfedd chwe modfedd o uchder hyd at grib y bwa. Yr arwyddair arno ydyw Se Deua nobia-cuin quia contro noa." 0 barthed i Castellior, dywedir gan Rowlands I mai un o gastellau Rhufeinig ydyw. Ar ol i'r Rhufeinwyr adfeddiannu yr ynys darfu iddynt wneuthur pob dyfais er sicrhau meddiant o'u goresgyniad. Ym mliob tebygoJrwydd y Cad- fridog Rhufeinig a draws-ymdeithiaiacaarolygaiy fridog Rhufeinig a draws-ymdeithiaiacaarolygaiy wlad, ac ond odid a adawai gof-golofn o'i ym- weliad ar ei ol; ac adeiladai gastellau neu am- ddiffynfeydd, ac un o'r rhai hyny ydyw Castell- jor-Ior, yr hen Frythonaeg air am yr un Uchelaf. Dywed yr un hynafiaethydd mai Rhufeinig yw y rhan gyntaf o'r gair Castellior, tarddedig o'r gair Caatra, sef Caer Rhufeinig. ENWOGION Y PLWYF. 1. Sant Sadwrn oedd Santa flodeuodd tua chanol y chweched ganrif. Enw ei dad oedd Bicanua, genedigol o Lydaw. Ei frawd oedd Sant Illtyd, ac yr oedd yn gefnder i Emyr Llydaw. Ymbriododd a Canna, merch Tewdwr ap Emyr Llydaw. Cydoesai a Sant Cadvan. Sylfaenodd Eglwys Llansadwrn tua'r flwyddyn 603. 2. Thomas Williams, gsnedigol o'r Cefn Coch, yn y plwyf hwn, oedd fab i Owen Williams. Daeth i yfoeth anferth trwy ei gyssylltiad a mwngloddiau Efydd mynyddau Paris a Mona, ger Amlwch. Efe ydoedd symbylydd gwreiddiol yr ariandy a adnabyddir wrth yr enw Williams, yr Hen Fane." John Williams, Ysw., o Dreffos, ydoedd fon- eddwr o gryn ddylanwad yn Mon. Yr oedd yn fab i'r Parch- John Williams, o Dreffos, ac Elinor, merch i'r Parch James Vincent, ebrwyad Bangor. Gauwyd ef yn y fl. 1784, a bu farw yn 1876, wedi cyrhaedd yr oedran mawro 92 mlwydd. 3 Parch Maurice Glynn, Ll.D., ydoedd hynaf fab Robert ap Meredydd, Glynllifon, swydd Arfon. Penod- wyd yn 1502 yn Archddiacon Bangor. Ar yr un pryd yr oedd yn dal bywoliaeth Llansadwrn. 4. Parch William Thomas ydoedd ail fab i Hugh Thomas, Ysw., o Hendrefor, a Margaret, ei wraig. Addysgwyd ef yn Ngholeg St. I^an, Caergrawnt, lie y derbyniodd y gradd o A.C. Peuod wyd ef i ficeriaeth Arleston, swydd Kent, wedy'n i bersonoliaeth Llansadwrn, a thrigianai yn Trefor Bias, sef ei breswylfod ei hun, yr hwn le sydd yn awr ym meddiant ei fab hynaf, yr Uchgadben W. H. Thomas, Prif- gwnstabl Mon.

CEI NEWYDD.I

CYNNADLEDD FFERMWYR GLAN TEIFI.

LLANDEILO-FAWR.

LLANDYSSIL.

ABERGWILI.

BWRDD YSGOL UNDEDOL LLANEGWAD…

GWENLLI, GER CEINEWYDD.

LLANGELEU.

[No title]