Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
12 articles on this Page
NODIADAU YR WYTHNOS.1
NODIADAU YR WYTHNOS. 1 Nos Wener diweddaf anerchwyd cyfarfod cy- hoeddm yn neuadd y Corn Exchange yn Caer- grawnt gan y Prif Weinidog. Daeth tyrfadedd yng nghyd criau cyni'r drysau gael eu hagor. Tua dwy awr cyn dechreu y cyfarfod, llanwyd yr ystafell eang, o'r Ilawr i'r nenfwd, gan dros dair mil o botel. Gan nad oedd lie i gannoddd ereill oedd wedi ymgyunull, penderfynodd y pwyllgor drefnu ail gyfarfod yn llys y dref, a llanwyd yr adeilad hwn hefyd yn orlawn. Cafodd Arglwydd Salisbury dderbyniad mwyaf unfrydol, a nod- weddwyd y cyfarfodydd gyda'r brwdfrydedd eithaf. Grwrandawyd ar ei araith feistrolgar gyda manylrwydd a dyfalwch neillduol. Gorchwyl cyntaf y Prif Weinidog, fel pob gwladweinydd Ceidwadol y dyddiau presennol, ydoedd dynoethi ffugchwedlau Radicalaidd, pa rai a wna' ein gwrthwynebwyr drotian allan ar bob llwyfan fel ffeithiau pur a gwiriuneddol. Cyflawnodd ei dask yn hynod effeithiol. Erfyniai ei Arglwyddiaeth ar i bob Undebwr gymmeryd rhybudd nad oedd Mesur Llywodraeth Gartrefol i'r Iwerddon wedi hollol farw eto, er fe ddichon idd" fod yn ei anadliad diweddaf, ac ef allai, yn prysur adfeilo. Yr oedd hyder gurmodol yn niweidio) iawn yn ei ganlyniadau, a dylent, felly fod yn wyliadurus iawn rhagofny buasai i'r niesliritdfywio drachefn. Galwodd sylw arbenigol ei wrandawyr at allu peryglus ac eithafol offeiriaid Pabaidd y wlad hono. Yr oedd eu gallu a'u dylanwad gymmaint fel i'w galluogi yn dliweddar i orchfyu arch- deyrn yr Yuys Werdd yn etholiad Kilkenny. Nid oedd yn bosibl iddynt hwy, fel Protestaniaid, drosglwyddo en brodyr yn yr Iwerddon i senedd yn cael ei chyfansoddi a'i llywodraethu yn hollol gan offeiriaid Pabaidd neu eucaethweision. Yroedd y Parneliaid a r gwrth-Barneliaid yn awr yn ymdrechu rhagori ar eu gilydd yn eu digasedd a'u gelyniaeth tuag at y wlad yma. Yr oeddynt wedi dangos eu hunain yn eu brwydrau diweddaf yn hollol anghyinhwys i lywodraethu gwlad. Fe ddylasai anailu y persjnau yma, hyd yn nod reoleiddio eu hymddygiadau eu hunain, agor llygaid holl Ysga- wyr y wlad i'r ffaith eglur nas gallant byth ly.vodr^ethu yr Iwerddon mewn modd priodol. Credai Arglwydd Salisbury mai yr ulng ddatodiad gwirioneddol o'r cwestiwn Gwyddelig ydoedd penderfyniad boddhaol- ewestiwn y tir. Byddai i'r cwestiwn yma dderbyn sylw mallwl a pharhaus y llywodraeth bresennol, ahyderai y byddai iddynt yn y diwedd ei benderfynu a dwyn ei chwaer ynys yn ol i'w llonyddwch a'i llwyddiant cyntefig. Ail-agorwyd y Senedd, ar ol gwyliau Nadolig, nos lati yn yr wythnos ddiweddaf, heb anerchiad oddi wrth y Frenines, gan mai yr un senedd- dymmor ydoedd a'r un a ragflaenai y gwyliau. Ni ddaeth rhyw lawer iawn o'r aelodau yng nghyd hyd yr wythnos bresennol. Dadganodd y Llyw- odraeth ei phenderfyniad o wthio ym mlaen Fesur y Degwm a Mesur Pryniad Tir yn yr Iwerddon mor gyflym ag y medrent. Ychydig o ganlynwyr Mr. Parnell oedd yno, gan eu bod yn fisi yn parotoi erbyn yr Etholiad Cyffredinol yn eu gwlad. Yr oedd Parnell ei litiii yno, a gwnaeth ymddwyn fel arweinydd yr aelodau Gwyddelig, yn ol ei ddull atferol. Rhoddudd (Mr. Parnell) rybudd i'r Llywodraeth y byddai iddo alw sylw y Ty at y modd y mae Mr. Balfour yn llywodraethu yr Iwerddon, a gofynai i Arweinydd y Ty am noson i drin ei bwnc.—Dywedir fod Mr. Glad- stone ar roddi fyny ei fywyd cyhoeddus, acy bydd iddo ddadgan ei benderfyniad yn ystod y diwr- nodau nesaf. Cyrhaedda newydd i ni o swydd Dorset, deheu- barth Lloegr, fod brain, yn ystod y tywydd caled diweddaf, wedi ymruthro ar adar drudwy, a'u bwyta oil ond eu plu. Cipiasai y brain y drudwy yn bur gyflym, gan eu traflyncu yn rheibus. 11 y Deallwn fod yr un peth wedi cymmeryd He mewn rhanau arall o'r wlad. V Parha y byd yn gyffredinol roddi dyddordeb mawr ym meddyginiaeth rhyfeddol Dr. Koch at wella y darfodedigaeth. Mae cannoedd o drueiniaid y clefyd hwn yn ymdyru dydd ar 01 dydd i brif ddinas yr Almaen er mwyn derbyn triniaeth llwyddiannus y meddygwr byd-enwog. Yn ystod y dyddiau diweddaf, aeth un claf o dan yr operation gan Brofieswr Sonneoburg (un o ddysgyblion Dr. Koch). Yr oedd y dyn yma wedi myned mor bell i afael y clefyd fel nad oedd yr un tebygolrwydd y gellid byth ei adferyd. Gan nas gellid gwoinyddu y cyfferi arno yn y modd cyffredinol, peuderfynwyd ei agor er mwyn cymhwyso y feddyginiaeth at ei ys.-yfaint yn uniongyrchol. Gyda'r medrusrwydd mwyaf agorwyd corff y claf, a gwelwyd fod rhanau helaeth o'i ysgyfaint wedi eu bwyta i fyny yn llwyr. Dodwyd yr hylif nerthol i mewn yn yr hyn oedd yn ol o honynt, a bu y gweithrediad yn hollol Ivvyddiannus Gwellhaodd y dyn tl1 hwnt i'r dysgwyliadau mwyaf hyderus. Profa yr arbrawf hyn y gwna meddyg- iniaeth Dr. Koch gyrhaedd yr achosion hyny a ystyrid wedi myned tu hwnt i feddygin- iaeth. Ni ddyagwyliai Dr. Koch i'w ddargan- fyddiad wella trueiniaid wedi myned mor bell a'r dyn hwn yng ngafael y darfodedigaeth. Dydd Mawrth diweddaf, yng nghyfarfod Bwrdd y Gwarcheidwaid yn Kidderminster, dywedodd y cadeirydd fod chwech dyn ac un benyw perthynol i dlotty yr Undeb wedi bod dan feddyginiaeth Dr. Kocfo yn yspytty y dref. Yr oeddynt oil wedi gwella i raddau pell, ac wedi ennill mewn pwysau. Yr oedd un o honynt-y wraig-wedi myned ym mhell i afael y clefyd, ond yr oedd hithau hefyd lawer yn well yn ei chyflwr cyffre- dinol wedilderbyn y feddyginiaeth. Dydd Sadwrn, cymmerodd dygwyddiad pur anghyffredin le yng Nghapel Palas esgobawl Llandaff, pryd y cafodd y Parch. Thomas Christopher Phillips, gweinidog gan y Methodist- nid, ei dderbyn yn gyhoeddus i gymmundeb Eglwys Loegr gan yr Esgob ac ar yr un amser I conftirmiodd yr Esgob Mrs Phillips, gwraig yr un boneddwr, ar ei hymuniad a'r Eglwys. Bydd i Mr Phillips lafurio gyda'r Parch. E. lI. Hyslop, ficer yr Eglwys Gymreig yng Nghaerdydd. Y mae Nir Phillips yii bregeth wr da, ac o gymmeriad uchel a difrycheulyd, a gadawa y Methodistiaid yn wirfoddol i ymuno a'r Eglwys. lair blynedd yo ol, nid oedd oud naw o gymmunwyr yn Eglwys Gymreig Caerdydd ond erbyn heddyw y maent yn rhifo 120 ac mae Eglwys newydd yn awr yn cael ei lii-deiladu i'r Cyrury gwerth £ 5,000. 0 fewn y tair blynedd, adeiladwyd Eglwys Genadol Dewi Sant, a chostiodd £800. Cafodd y Cymry lawer o gam am ugain mlyuedd nid oedd ganddynt un eglwys eu hunain. Brodor o Bentyrch yw Mr Phillips, a bu am flynyddoedd yn gweinidogaethu yn Eglwys Bresbyteraidd Arglwyddes Llanofer yn Abercarn. v Mae yn dda genym weled fod ysgolion ereill yn canlyn esampl Ystradyfodwg i gyfranu addysg grefyddol yn ysgolion y Byrddau. Yr wythnos ddiweddaf rhanwyd gwoljrau i blant ysgol Bedling am eu gwybodaeth ysgrythyrol. Darfu i holl geiliogod y wlad ganu am fuddug- oliaeth Hartlepool, a bu llawer o bapyrau yr Ysgarwyr yn bloeddio fod barn y cyhoedd wedi troi yn erbyn yr Undebwyr. Dim o'r fath beth. Sedd Radicalaidd oedd Hartlepool, a sedd Radicalaidd yw eto ac y mae yn debyg o barhau felly, am amser o leiaf. Yr oedd yr aelod diweddar, Mr Richardson, yn hynod o boblog- aidd yn y lie. Trodd yn Undebwr yn 1886. Dywedir fod mil o'r etholwyr yn ganlynwyr idd", ac yr oeddynt yn barod i roddi eu pleidleisian Ily I iddo, nid ar gyfrif ei olygiadau, ond am eu bod yn ei hoiti fel dyn. Nis gpllir dweyd felly i'r aelod diweddar ennill ei fuddugoliaeth fel Undebwr. Yr oedd ef yn ddyledus am y fuddug- oliaeth iddo ei hun fel person poblogaidd. Mae yr etholiad yn profi i'r Gladstoniaid golli llawer o'r tir yr oeddynt yn sefyll arno yn 1885. Yr oedd yr etholiaeth yn arfer bod yn un hollol Radicalaidd, ac yn meddu mwyafrif mawr. Yn awr y mae y Rhyddfrydwyr yn cael eu rhanu yn gyfartal. Dywedir i'r Undebwyr adael i'w trefniadau rydu trwy esgeulusdra. Dywedodd y Doily Neivs pe buasai i Syr William Gray ennill, buasai iddo ennill trwy ei boblogrwydd personol ond os ennillai y Gladstoniaid, buasai iddo gael ei ethol ar gyfrif ei egwyddorion. Yr oedd preill yn dywedyd fod Syr William yn ammhoblogaidd ym mhhth ei weithwyr, ac iddynt bleidleisio yn ei erbyn, yr hyn sydd lolyddiaeth droednoeth. Poblogrwydd dyn oedd wedi dal y sedd hon dros yr Undeb hyd yn hyn, ac nid egwyddorion plaid. i # Mewn cyfarfod o'r pwyllgor sydd wedi ei ben- odi er codi coffadwriaeth i'r diweddar Archesgob Caerefrog, penderfynwyd fod monumental effigy o'r diweddar brelad i'w osod yn York Minster.
[DIOGELIR POB HAWLFRAINT.]…
[DIOGELIR POB HAWLFRAINT.] PWNC YR EGLWYS SEFYDLEDIG PA FODD I YMDRIN AG EF. PENNon LIU. "NiD YVYW ESGOBION AC OFJFBIKIAID YR EGLWY8 SEFYDLEDIG YN SIARAD ALLAN AC YN CKISIO ARWAIN Y GENEDL MEWN PERTHYNAS I BRIF gWESTIYNAU POLITICAIDD Y DYDO." Y fteithial1 ydynt, gati fod yr Eglwys yn gweinidogaethu i bobl o bob credo wleidyddol, ystyria ef yn ddoethineb i gyfyngu ei hymdrechion mor bell ag sydd bosibl o fewn cylch pendant maes ei gwaith ysbrydol, er hyrwyddo ei chenadaeth uwchaf o dangnefedd ac ewyllys da, ym mysg dynion o wahanol olygiadau. Nid ei chenadaeth hi ydyw beirniadu a chondemnio ymddygiad unrhyw Weinyddiaeth ar ryw bynciau cenedlaethol tywyll a dyryslyd, nac i daflu ei dylanwad i chwareule teifysg a dadl o blald unrhyw barti gwleidyddol yng nghylch unrhyw fesur fydd yn effeithio ar ddeddfwriaeth wladol neu dramor. Nid oes angen am i'w hesgobion a'i hoffeiriaid i fyned me.vn i'r fath ymrysonau sydd yn amgylchynedig ag awyrgylch rhagfarn, nwyd, a chwerwder yshryd. Gall (ac mae) aelodau lleygol yr Eglwys gynnrychioli yr Eglwys ar bob pwnc gwleidyddol. Oddi eithr mewn cwestiynau mewn petthynas i'r hyn sydd yn iawn neu ddim yn iawn yn cyffwrdd a eiirefydd ac a'r Eglwys, ystyria yr esgobion a'r offeiriaid yn gallineb i ymwrthod a chynnwrf ymryonau gwleidyddol ar fateion gwleidyddol cyffredinol. Fel na byddo iddynt yn ddiachos rwy-tro gwaith Crist a'i Eglwys, trwy wneyd tangnefedd ym mysg dynion yn beth estronol gyda gwahanol olygiadau a nwydau gwyllt, eu nerth o barthed cynhyrfiadau gwleidyddol, ydyw eistedd yn llonydd." Pan fo dynion yn beio yr esgobion a'r offeiriaid am beidio taflu eu hunain i ymrysonfeydd politicaidd, yr hyn y beir hwynt yn wirioneddol am dano ydyw,—uid am eu bod hwy, yr esgobion a'r offeiriaid ddim yn siarad allan ar bynciau gwleidyddol, ond am nad ydynt yn siarad o blaid ac er hyrwyddiad eu golygiadau neillduol hwy. Yn wir, pe gwnai esgobion ac offeiriaid gymmeryd rhan mewn cynhyrfiadau ywleidyddol, ddim yn unol a golygiadau y rhai a'i beiant, hwynt-hwy fyddai'r rhai cyntaf i'w condemnio am adael cylch ei gwaith ysbrydol, ac am wthio eu hunain i arena cynhwrf gwleidyddnl. Y mae yn eithaf gwybyddus hyd yn oed yn awr trwy yr holl wlad, os a esgob neu offeiriad, allan oÏ ffordd fel dinesydd i gymmeryd rhan briodol mewn dadl ar unrhyw bwnc gwleidyddol, y bydd gwrthwynebwyr yr Eglwys, cs digwydd iddo beidto cydweled a'u golygiadau, yn siwr o'i fygylu a i fraudio fel esgob neu offeiriad gwleid- yddol, a gwnant eu goreu i'w grochlefain i lawr, a dileu ei ddylanwad. PENNOD LIV. Y MAE YR EGLWYS YN SEFYLL YN ERBYN POB AMCANIONMAWR ER DLWYGIADAU CESEDLAETOOL (NATIONAL REFORM)."—Y gwirionedd yw, mae gelynion yr Eglwys yn cymmeryd arnynt maent hwy yn unig ydyw y gwir ddiwygwyr—fod y symmudiadau maent hwy yn arwain yn symmud- iadau er gwir ddiwygiad cenedlaethol, ac fod y mesurau maent hwy yn gefuogi yn wirioneddol er gwir gynnydd a dyrchafiad y werin Nid oes ganddynt amynedd at, na g«>ddefgarwch i bobl feddyliant yn wahanol. Mac gelynion yr Eglwys bob amser yn defiinio gwrthwynebrwydd yr Eglwys iddynt felgwrthwynebrwydd i fuddiannau y werin. Cymmerant arnynt i siarad yn enw pobl Lloegr a Chymru, ond mae eu gelyniaeth at yr Eglwys pymmaint fel o'r braidd y callia- tant iddi siarad yn enw ei haelodau ei hun, sydd yn gwneyd i fyny fwy na dwy ran o dair o hyd yn oed Gristionoion proffesedig Lloegr a Chymru. Fel y tystiolaetha hanesiaeth, mae yr Eelwys yn wastad wedi bod o blaid gwir ddiwygiad y genedl a gwir lesiant y werin. Uymmerer er enghraifft ei hymddygiad yn achos derbyniad Mr Bradlaugh yr Atheist i'r senedd, a'r cynnygiad i gyfreithioni priodas a chwaer gwraig y trancedig—gwrth- wynebodd yr Eglwys hyn, ond gwnaeth hyny er mwyn crefydd a chadwraeth purdeb, a dedwydd- wch cymdeithasol, ac felly, er gwir les y werin. Er hyny, mae gelynion yr Eglwys yn honi ei bod hi yn y pethau hyn yn sefyll yn erbyn diwygiad cenedlaethul. (h ydyw gwrthwynebwyr yr Eglwys yn dioddef oddi wrth unrhyw ddiffygion, gwyddant o leiaf pa fodd i wneyd rhyw ffug- ymhoniadau uchel, ac wrth siarad o'u plaid i arfer geiriau mawrion chwyddedig. PENNOD LV. "DYLAI YR EGLWYS GAEL EI DADSEFYDLU 0 HERWYDD EI BOD YN EUOG 0 ERLID YN YR AMSER A RTH HEIDW V ffoit.hiau ytay-rit, ui wnacui. j. Eglwys erioed erlid neb; y Wladwriaeth sydd wedi b td yn erlid. Ond hyd yn oed pe byddai yr Eglwys wedi bod yn erlid, rhyw reswm rhyfedd fyddai dweyd hynyna fel achos i ddad- sefydlu a dadwaddoli Eglwys y presennol. Gellid yr un mor uyfiawii gosbi dyn am gam weithred- oedd honedig rhyw ddynion sydd yn awr er ya llawer o amser wedi ymadael i roddi eu cyfrif olaf o fiaeii yr Hwn a'u barna a dedfryd uniawn, ac a rydd i bob dyn yn ol ei. weithredoedil. Yr un mor gyfiawn y gellid dal yr Anghydffurfwyr, t,Y I Crynwyr, ac ereill, yn gyfrifol am rysedd, erledigaethau a chreulonderal1 eu blaeuafiaid, ag ydyw dal y bresennol Eglwys Loegr yn gyfrifol am ddiffygion a gwallau y rhai oeddynt yn ei chorlan. Y mae yn destyn syudod a gufid fod dynion cyhoeedus a blaenllaw fel llawer sydd genym yn awr mewn golw, yn eu >g o wneyd haeriadau mor anghywir pC o gymmeryd golwg mor gyfyngedigar hanesiaeth Eglwysig ar y pwnc yma, fel pan yn siarad am y gweinidogion drowd allan 1862, ymddangosant fel pe yn anwybodus o'r amgylchiadau dan ba rai y daethant i'w bywioliaethau, ac o fodolaeth offeiriaid uniawn- gred (orthodox), y rhai a ddifeddianwyd ganddynt mor greulawn. Hefyd, mae gelynion yr Eglwys pan yn ei chyhuddo o hod ag ysbryd er'idgar, ddim yn gwybod neu yn anwybyddu o bwrpas pa mor greulawn a dialgar oedd ymddygiad yr Annibynwyr yn nydd eu neith, na pha fodd oedd eu hannoddefgarwch yn cael ei ddaugos nid yn ,uiiig i'r EIwy. on(i y mae y refinements neill- duol o greulondeb sydd yn cael eu harfer yn awr wedi ei cadw yn ol i bleidwyr y sect yna a sectau ereill, o ba rai y mae rhai o'r cynhyrfwyr dadgy.-sylltol yn ornaments penaf sydd yn fyw yn awr. Pan mae y fath anwybodaeth, anghof- rwydd, neu hleidgarwch yn cael ei ddangos gan arweinwyr y bobl, y mae yr angcnrheidrwydd am gylchdaenu ffeithiau hanesyddiaeth Eglwysig yn dyfod yn fwy a mwy pwysig.* (I'w barhau.) Crugybar. A. S. THOMAS (11 Ancilydd "). Gwel "Report of the Church Defence Institu- tion," 1883.
EISTEDDFOD GENEDLAETHOL 1893.
EISTEDDFOD GENEDLAETHOL 1893. Dymunem awgrymu i eisteddfodwyr yr holl fyd Cymreig, y dylai eisteddfod fawr y genedl yn flwyddyn 1893 gael ei chynnal yn y lie y cynnelir Ffair y Byd. Bydd holl genedloedd y ddaiar yn dyfod yno a'u pethau penaf i arddangos eu rhagoriaethau a' hurddas cenedlaethol. A fydd y Cymry yno gyda rhyvvbeth i ddangos eu bod 11 el hwythau hefyd yn genedl ? A pha beth y deuant ? A pha beth hefyd ond eu heisteddfod. Nid ydym yn gwybod am ddim arall y gallwn wneyd ar- ddangosiad neillduol o hono. Coder yno bavilion ardderchog dan warchaediaeth y Ddraig Goch gweler yno ddarluniau enwogion y genedl, heb anghofio glaniad darganfyddwr Cymreig y Cyfandir gorlletvinol. Ffair bedwarcantnlwyddol darganfyddiad Colombns o'r Cyfandir fydd Ffair Fawr y Byd yn Chicago yn 1893. Gosoder yn yr adeilad enfawr bethau eraill daiaregol, celfydd- ydol, hanesyddol a dullweddiadol o ddyddiau Derwyddiaeth i lawr, a chyflawner gwasanaeth y babell gan feibion a merched gwrolwedd, gwridgoch, glan, wedi ymwisgo yn niwyg nod- weddiadol preswylwyr Gwlad y Gan. Rhodder allan destynau barddol, lien a cherdd, yng nghyd a gwrthddrychau ceingelfawl y gall yr 0 holl genedloedd gystadiu arnynt yn iaith y Cymry ac ym mhrif iaith y byd—y Seisneg. Ar ddyddiau arbenig yr wyl, Uywyddir gan Arlywydd y Talaethau Unedig, gan Frenines Roumania, gan H. M. Stanley a thywysogion a mawrion ereill. Addurnir y llwyfan gan bresennoldeh aelodau dros Gymru, ac enwogion penaf y genedl yng Nghymru, America a'r holl fyd. Pan ii cenedloedd ereill heibio a gweled y pavilion hwn ac ymhoii, yna y daw yn wybyddus i bawb fod yr hen gangeu lion o'r teulu Celtaidd eto yn genedl, a bod iddi ei He ym mhlith y canedloeJd byw. Beth, ai breuddwydio yr ydym A ydyw y fath eisteddfod yn ddichonadwy ? Mae yn berftaith ddichonadwy. Nid oes yn angenrheidiol 'w dwyn yn fiaith ond arian a chydweithrediad. Viae arian yn ddigonol gan y cyfoethogion, acond :ael cynllun cyfundrefnol i weithredu ceir cefnog- 0 aeth ndd yn unig gan Gymry arianog, ond hefyd gan garedigion o fysg cenedloedd ereill. Nid ydym ni ond taflu allan awgrymiadau. Rhaid i'r cychwyniadddyfodtrwy Gymry rhagorol Chicago, Racini, Miiwankee ac ereill o breswylwyr glanau y Michigan. Nid oes dadl yn ein meddwl na cheid cydweithrediad parod gan Gymry yr holl wlad. Pe felly, oni byddai cystal i chwithau Gymry Cymrn roddi heibio y meddwl o gynnal eistedd- fod fawr genedlaethol y flwyddyn hono, fel y gellid cydgrynhoi holl adnoddau y genedl at wneyd eisteddfod deilwng i'w gweled gan yr holl fyd am unwaith ? Gallech wneyd hyn o garedig- rwydd a ni yr ochr hon i'r Werydd. Dywedir nad oes yma lai na thri chan mil o honom yn awr yn siarad Cymraeg, a fod yma bedwar can mil drachefn yn Gymry o waed dilwgr. Niae genym deimlad parchus at hen wlad ein genedigaeth a'i phobl, ac oni ddylai ein hymdrech i gadw mewn bri yr hen sefydliad cenedlaethol mewn gwlad estronol gael ei ystyried yn garedig aenychi Daw cannoedd lawer o honoch drosodd y flwyddyn hono. Bydd rhadlonrwydd y cludiad yn annog- aethol i hyny ac wedi i chwi weled rhyfeddodau maw rion y wlad hon, a thrachefn brif ryfeddodau y byd yn y Ffair fawr yn Chicago, onid bendi- gedig o beth fyddai i ni gael cydgyfarfyddtad .,Y dedwydd mewn gwyl eisteddfod fawr?—CoJitmbia.
G E I F R.
G E I F R. (Parhad.) Ni a ddeuwn yn awr at ail ran ein testyn, Pa fodd i wneyd iddynt dalu ] Y mae'r cysgod a roddir iddynt., fel y dywed wyd yn barod, yn nn o'r prif ystyriaethau, yn gymmaint ag y rhaid iddo f"d yn rhydd oddi wrth rediad gwynt, ac yn sycli. Os i-hyw dair neu bedair yn unig o eifr a gedwir, gwell eu cylymu y uos, yn yr un modd ag y cylymir gwartheg, a gellir gwneyd hyn drwy stcrhau cadwyn fer, dyweder o daeuddeg neu bedair modfedd ar ddeg o hyd, wrth y wal, a bachyn wrth y pen arall i'w sicrhau yn hwylus wrth goler yr anifail. Os cedwir nifer mawr gwell eu cadw yn rhyddion, mewn rhyw beuty, neu adeilad cynhes, o gylch ochrau yr hwn, ac mown uchder o ryw bedair troedfedd a hanner o'r llawr y mae rhastalau gwair, barau y rhai ydynt mor agos i'w gilydd fel nas gellir tynu mwy o wair nag a fwyteir yn y man a'r He. Os gosodir y rhastalau yn is, fe wastreftir cryn swm o'r gwair. Y sarn goreit i'w osod ar y llawr yw mwswgl; lie nad yw hwn i'w gael, peth da i'w roddi o dan wellt yw haenen ysgafn o flawd llif gan y llynca'r gwlybaniaeth, a dyga ymaith gryn lawer o'r arogl anhyfryd. Gellir rhoddi dognau bychain o lafur, a cheir fod gwreidd-lysian yn rhai da i gynnyrchu llaeth. Y rhai goreu fel y cyfryw yw pytatws, a phan y gellir cael rhai man na ddefnyddir at amcanion y teulu, hwy a wnant fwyd iachus a rhad i eifr, ac nas gellir cael ei well i gynnyrchu llaeth. Mae llaeth bob atnser yn brin yn y gauaf, ac y mae yn beth doeth felly trefnu i'r geifr fwrw mynod yn yr hydref. Nid I- gwaith rhwydd bob amser yw hyn, ond fe ellir ei gyflawnu yn fynych drwy arfer doethineb yng nglyn ag ef. Ni wna geifr gwylltion ond dwyn un myn yn y flwyddyn—yn y a xtij wyii-ond wedi ei dofi, ac yn neillduol os porthir hwy yn dda, hwy a ddygant fynod ar amcanion ereill. Mae rhai o honynt yn hwrw myn o ddeutu bob wyth mis, a gwyddys am rai hefyd wedi bwrw unarddeg o fynod (naw o ba rai a fagasant) mewn dwy flynedd a mis ond peth eithriadol iawn yw hyn. Os na bydd y niynod o ft-id da, y ff.rdd oreu tuag at iddynt dalu yw eu lladd pan yn bythefnos neu dair wythnos oed, ond os ceir eu bod yn werth eu magu, dylid eu gollwng gyda'r fam am wyth neu naw wythnos ac os niynir cael anifeiliaid gweddus iawn, gwell eu gollwng am beth amser yn chwaneg. Nis gellir gwncyd hyn lie byddir am gael y llaeth, os na fwydir y mynod a llaeth gwartheg o law, ac y mae y dull nlaf hwn yn un lied drafferthus, ac yn trethu gormod ar amynedd y rhan fwyaf. Nis gellir gwneyd ymenyn o'r fath oreu o laeth geifr, ond o'r ochr arall, mae'r caws a wneir o hono yn dra rhagorol. Rhoddwyd gwybodaeth sut i'w wneyd gan wahanol bapyrau newyddion o bryd i bryd, a phwy bynag a fynai ddefnyddio y llaeth sydd ganddo dros ben yn y ffordd hon, a gaiff ddigon o hyiforddiant mewn llyfr Seisnig adnabyddus a elwir The Booh of the Goat." Lie ni cheir cae cyfaddas, rhaid porthi yr afr yn y ty, ac ystyria llawer fod y dull hwn o borthi yu well na'r un arall. Yn sicr fe gedwir llawer o iSi'lft1 nemawr byth yn gweled dim ar r>h hwn, hw"y a"roddait&S ?",wn»o ansawdd gwell a mwy maefehlawn, na'r llawth a geir gan rai a fwydir a bwyd glas. Rhaid i'r I Z!1 6 geifr a borthir yn y ty gael llawer mwy o ddwfr 11 na'r rhai a gant fyned allan i'r cae, a cheir taw mwyaf oil o laeth a rydd gafr po fwyaf o ddwfr a roddir iddi. Dylidcadw yffaith hon mewn cof, a chynnyg dwfr fires o leiaf dair gwaich y dydd, cyn gynted ag y bo'r anifail wedi bwyta'r lIafur neu'r gwair, gan y ceir Ile yn fynych y gwrthodir y dwfr cyn neu yn ystod cyyiiiiieryd y bwyd, y traflyncir ef yn awchus cyn gynted ag y gorphenir a'r ymborth sych. Wrth fwyda yn y t1, fel ym mhob dull arall, rhaid cyfnewid y bwyd yn fynych, a'r ffordd oreu yw drwy roddi weithiau fwy weithiau llai o hono, ac amrywio y nathau o yd a ddefnyddir, Peth cymmeradwy iawn yw bwyd anifeiliaid Thorley wedi ei yyuwiysgu a'r ogor, ac y mae dernyn o halen wedi ei Nddi yn y rhastal yn hynod ddefnyddiol i'w cadw yn iach, ac hefyd yn foddion i greu syched yrddynt, ac felly, yn anuniongyrchol, achosi cynnpdd yn y swm o laeth a roddant. Mewn manau lie ceir divonedd o fes, fe geir en bod yn ymb>rth rhad a derbyniol iawn gan eifr, ond ni ddyid rhoddi gormodedd o hono, gan ei fod yn effeithi) i raddau ar y coluddion. Maent yn dra hoff hefrd c soeg, a cheir ei fod yn Hasol iawn os cymmyjgir ef ag ychydig o geirch neu flawd barlys. Net yw yn ddoeth i dori gwair yn fan i'w gymtiysgu a'r bwyd sych, gan y bydd i'r geifr bron yr ddieithr- iad droi a throsi y cymmysgedd wrth ge3io cael o hyd i'r llafur a fo ynddo, tra y gadawan y gwair man heb ei gyffwrdd, ac wrth wneyi hyn, fe wastreffir cryn swm o'r ddan gwell c lawer yw rhoddi y llafur a fo wedi ei falu trvyddo, neu cymmysgedd o lafur, yn bur ac ar ei bei ei hun, a phan y bwyteir hwn, gosod y gwair hb ei dori yn y rhastal Gellir dweyd gair neu ddau cyn tiynu ar y pwnc o arddangosfeydd geifr, Yn y blynyddau diweddaf mae diwygiad mawr i'w janfod yn ansawdd y geifr a ddangosir, a gtl}r gwneyd llawer yn ychwaneg pe byddai i bwyfgorau Ileol gymmeryd y mater mewn llaw. Matv- Gymdei- thas Eifr Frytanaidd wedi gwneyd R)wer yn y cyfeiriad yma, ac y mae llawer S-. aros i'w gyflawnu eto, a'r unig ffordd am dani Tv drwy i gyfeillion rod ii help llaw. A edrych ar y mater o safle arianol.fe geir y prawf dospeirth o eifr yn fwy llwydduinus, na llawer a welir yn awr ar restrau ein cymhithasau, tra fel mater o attyniad ychydig, os diirc bethau a dynaut fwy o ymwelwyr. Os caiateir y tanysyrifiadau dylid rhoi dospeirth i eifisbychod a mynod (hyny yw, geifr uwch law deidieg mis ac o dan ddwy flynedd heb erioed fwn myn), mynod gwryw » menyw, ond os gweh hyu yn ormod i ddechreu gellid gadael y d)spei,h i eifr bychain, a rhoddi un dosparth yn unig: fynod gwryw a menyw. Dylid cynnyg gwbrwyon gwerth ymgeisio am danynt, os amgen oycid i'r annogaeth i ddanfon anifail i'r arddauisfa yn ami gael ei gorbwyso gan yr ystyriaet fod y treuliau yn rhy diymion gyfcrbyn a':arian a gynnygir fel gwobrau, nid yw deg swlltt hugain fel gwobr gyntaf, a phymtheg fel ail yly ddau ddospeirth blaenaf yn ormod, tra os cnnygir gwobrwyon gwell fe geir y bydd i niftrr ym- geiswyr ddangos cynnydd cyfatebol.
DYFFRYN CLETTWR.
DYFFRYN CLETTWR. Clywais yn fy oes lawer o son am ctyffryn Clettwr, ond yn ddiweddar iawn y cefs gyfle i'w weled. "Clywais a'm clustiau law o son am dano, ondyr awr hon fy Ilygaid a'i gilodd." DyffVyn bach tlws ydyw, saif tua chail Cere- digion. Trwyddo rhed afon y Clettwr ftllinell arian, ac ymarllwysa i'r dyfnder du yn'r hen Deifi ychydig yn is i lawr na Llaniangel. Ar ei ffordd hyd yuo, gwnaeth wasanaethwerth- fawr—trodd lawer o felinati a ffWi'oedd, dioiodd lawer o anifeiliaid mawr a tnz^tii bu yn chwareule dymunol i lawer o bys:.{ j ar ei glanau mae'r adar man yn gan i gyd, ji pyncio eu dawn am rawn yr yd." Mae DyffH Clettwr fel Dyffryn Sodom gynt, yn enwog amii .nuuw- ioldeb. Mne yma wahanol ffyrdd o clori y Sabbath, megys gweithio ar y cyauf, yn arbenig felly ar dywydd cyfartal. )Y"ed y Beibl am Gofio cadw yn sanctaidd y dydd Sabbath." Mae cadw y Sabbath yn benodol bwysig yng ngulwg Duw, cyn ei fod yn ysgrifenu i lawr yn y (xyf rol Sanctaidd Cofia gadw yn sanctaidd y dydd Sabbath." Mae y Sabbath yn ddydd i addoli, ac yn ddydd i orphwys oddi with bob gwaith daiarol. Yr hyn oedd Jerusalem ym mhlith y dinasoedd—Benjamin ym mysg y llwythau-a'r hyn ywyr haul ym mysg y planedau yw y Sabbath ym mhlith y dyddiau ac oddi wrth y gair Lladm (sol) haul y mae y gair Sul wedi tarddu. Ac mae son am drigolion Dyffryn (Jlettwr fel pen torwyr y Sabbath. Digwygier, diwygier ar frys frodyr. Gadawed y drygionus ei ffordd." Mae moesau da mor brinion yn y dyffryn hwn a llaeth gafr hesp-liawddach fyddai tynu gravy allan o bost llidiart na chael y trigolion hyn i fyw yn grefyddol ar y Sabbath. ° Mae arferiad anfad arall yma mewn grym hefyd, sef rhegi a chablu. Yr wyf wedi bod drwy holl 1 siroedd Cymru, ond ni chlywais gymmaint o regn yn un man a Dytfryn Clettwr. Mae yr arferiad yma y tfieiddiaf ac annnwiolflf sydd yn bod. Ocli I ffei o'r fath waith. Carwn gyhoeddi can' gwae uwch ben y fath ddrwg anaele. Yr oedd Louis IX. o Ffrainc yn serio gwefus pob un a regai o dan ei deyrnasiad. Beth pe serid gwefus pob rhegwr yn y dyffryn hwn, dyna lnoedd o wefusJiu ufnadwy o lipa a welid ym mh ,b man drwy y fro. Mae yn ddigon i yru calon crai4 i wylo i glywed merched a gwragedd yn cabin y Duw sydd yn eu cynnal mor ofalus, ac yn talw ar yr ellyllon wrth yr ugeiniau. Mae gweision a bechgynach o gymmydogaeth Eglwys y Ram pin i fyny i New Inn, Llwynrhydowen, ac i fyny meddir at y "Tafarn bach" neu "Tafarn bara ceirch," ar ol cyfranogi o ffrwyth John Barley- corn, yn rhegu nes rhwygo yr awyr bur mae Duw wedi roddi iddynt i'w ha'iadlu. Rhyfedd fel y mae pob tair troedfedd o grwt yn chwyddo ar ol yfed peirit -mae rhai yn meddwi yn wir wrth weled y cwrw, a rhaid wedi hyny cael pibell yn y geneu. rhêg dros y wefus, ar gest allan nes bron hollti. Ond os rhaid i fechgyn y cyminydngaeth- au tichod gael glasied o ddiod yn y 'Tafarn bach,' neu y New Inn, peidient a rhegu ar ei ol. Clywais am hen wraig yn y gogledd oedd yn hyn »d hoff o'r pth yfed. Rhyw noson, yr oedd wedi yfed yn bur uchel (chwedl yr yfwyr), a galwodd gwr parchus yn ei thy. Yr oedd yr hen chwaer yn ofni yr adnabyddai yr ymwelydd ei bod yn Hawn bach. Dywedodd wrtho, "Mai rhai Mr J bach yn myned yn gas iawn ar ol dyferyn o beth yfed, yn pigo cynen a phawb, ac yn cweryla a'u cysgod ereill meddai yn rhe^u yn anghyffredin, ond yn wir myn'd yn dduwiol iawn fydda i bob amser ar ol cael dyferyn go lew, meddai yr hen wraig. Yn wir, byddai yn well i fechgynach Dyffryn Clettwr fod yn ychydig yn Ily fwy duwiol, ac i regu Ilai o hyn allan, neu fe anfonaf eu henwau bob c Ipa walltog o honynt i'r wasg, ar ol i mi en clywed ytio nesaf. Mae rhegu yn arferiad niweidiol ar y do ieuaitic sydd yn codi. Y mae ymadroddion drwg yn llygru moesau da." "Na chymmer enw yr Arglwydd y z, dy Dduw yn ofer." "Naddevied un ymadrodd llygredig allan o'ch geneuau chwi o hyn allan, neu mi cewch hi yn ddidrugaredd. Fy amcan yn ysgrifenu y Ilinellau hyn yw lladd yr arferiad warthus sydd mor flodeuog yn y lie. Ie, dyma yn onest yw yr amcan nid i ddangos noethder y wlad, ond i geisio puro awyr gymdeithasol y cwm poblog. Credwn er ein cysur, fod ambell i ddyn da yn byw yn y dyffryn, a hyny sydd yn cadw barn Duw i ffwrdd oddi-wrth y lluaws rhe^wyr ofnadwy sydd yn y lie. Oni buasai i Arglwydd y lluoeid adael i ni ychydig iawn o weddill, fel Sodom y buasem, a chyffelyb fuasem i Gomorrah." Geiriau gwirionedd a sobrwydd ydwyf yn ysgrifenu. Y gwirionedd sydd yn lladd, a'r gwirionedd sydd yn cadw yn fyw. Dywedodd un unwaith wAh hen gymmeriad Clywais eich bod wedi marw." "Clywais innau hyny hefyd, ond gwyddwn, mor gynted ag y clywais, mai anwiredd noeth ydoedd," oedd ei ateb. Ié, y gwir sydd yn ein lladd. Nid oes eisieu fawr ofni yr ystori a daenir am ddyn os na fydd hi yn wir ni wnaiff fawr o ddrwg. Nis gall neb ddrygu dyn ond efe ei hun Y gwirion- edd yw. fod yr hen arferiad adgas a ftiaidd o regu yn nyffryn Clettwr yn wir a dyna sydd yn ei gwneyd yn ddifrifol. Gwell ydyw edrych ar ffeithiau o'r natur yma yn eu gwyneb, a dyfod a hwynt bellach i oleu dydd. Pa fodd y diengi di, regwr, rhag barn nffern? Nid oes dim dir- gel ar nas dadguddir y pethau a wneir yn y dirgel a gyhoeddir ar benau tai. Oni chlyw yr Hwn a blanodd y glust? ac oni wel yr Hwn a luniodd y llygad ? Yr un fath yw goleuni a thy- wyllwch i Dduw. Dyma wae Duw uwch ben v rhegwyr: "Mi a'u lladdaf hwynt a'r cleddyf; ni fly ymaith o honynt ar ffo ac ni ddianc o lion- yttl it I,- h;rcl 1l' fy llnm a'u tynai hwynt oddi yno a phe dringent i'r nef- oedd, mi a'u disgynwn hwynt oddi yno a phe Ilechent ar bell Carmel, ch wili wn a chymmerwn hwynt oddi yno a phe ymguddieut o'm golwg yng ngwaelod y mor, oddi yno y gorchymmynaf i'r sarff eu bratbu hwynt." "Os creffi ar anwir- edd, Arglwydd, pwy a saif ? Ond mae genyt Ti faddeuaiitfel y'th ofner." I lawr wrth draedtru- garedd, chwi, regwyr anfad, a llefwch, Peco pecavi, pecatum, pecare. Cyffeswch eich pechod, a gadewch ef ar unwaith ac am byth. Y neb a gyffeso ei bechodac a'i gadawo, a gaifffaddeuant." Yn grefyddol, y mae y cwm yn cael ei wneyd i fyny o Undodiaid, Eglwyswyr, canlynwyr John Wesley, ac ychydig u Annibynwyr yn Carmel, capel "Jeffreys Bob." Oni byddai yn ddymunol i'r gwahanol gyrff crefyddol sydd yn y dyffryn i ffurfio yn rhyw undeb cryf i oflod yr arferiad ddrwg, fondigrybwyil i lawr ? Cynnaliwyd dwy gynnadledd yn ddiweddar—un yn yr Amwythig, a r llall y" Llanidloea, i siarad undeb." Mae hyny yn dangos nad oes undeb yn dod. Digrifol yw gweted y gwyr hyn yn rhedeg i'r peilderoedd i siarad undeb ac edrycher ar y cyfryw yu eu hardaloedd eu hunain-llid oes dim undeb rhynw- ddyut a'r enwadau ereill. Oni fyddai yn ddoniol gweled deuddeg cadnaw yn myned i ryw fan i gadw cynnadledd ar beidio lladd gwyddau, a hwythau yn eu lladd cyn cychwyn ac ar ol dych- welyd ? Myner undeb, ac nid ei siarad dail crinioii yw geiriau, ond ffrwythau yw gweithred- wcuu, au yinnuiea yr unaeo nwnw yr holl reg- feydd sydd yn hagru y cwm uchod yn ol i wlad yr ellyllon, o'r lie y daethant. Dywedir fod y gweision ffermydd yn myned yn waeth-waeth yn ddiaros. A ydyw y cyflogau mawrion yn en pur'ooethi ? Tra gwahanol ydynt i'r gwas hwnw yn air Fon. Yr oedd ei feistr a'i feistres yn rhegu yn enbyd pan aeth yno, ond dywedodd y gwas da hwnw wrthynt, os nad oeddynt yn gadael yr hen arferiad frwnt ac anfad hono ar ol, ei fod ef yn gwneyd peth na wnaeth Satan erioed a hwynt, sef en gadael. Ac yr oedd y gwas yu fachgen mor dda a gofalus, a chymmaiut o ofn ei golli ar y ddau hen bartner rhegyddol, fel na daywedasant byth mwyach eiriau cableddus yn ei glyw. Dyna esampl deilwng i fechgyn Dyffryn Clettwr. Darfyddwch bechaduriaid o'r tir, ac na fyddwch yn annuwiolion mwy. Pa synwyr sydd i ddyn troednoeth i hau draen ar ei ffordd, i ddyn noeth i alw am fellt digofaint i syrthio ar ei groen, ac i bryfyn gwael gablu yr Hollalluog ? Fwy galeclodd yn erbyn yr Arglwydd ac a Iwyddodd 1 Neb. Trysori digofaint erbyn dydd digofaint yr ydych. Hau gwynt, a medi corwynt. Sefwch, ystyriwch, seliad IIwch ben eich tynged. Gobeithio yr edifarhewch ar unwaith mewn sachliain a lludw. Pe cawn chwi i'r fan hono, cyrhaeddwn fy amcan drwy hyn o ysgrif. Darllenwch, a myfyriwch hi er mwyn eich hunain. Os dygwydd i chwi gael eich blino gan y gofyniad dibwys, Pwy ydwyfi Nid ydwyf fi iiamyn un yn Ilefain yn y diffaethweh, "Edifar- hewch, parotowch ffordd yr Arglwydd, gwnewch yn uniawn ei lwybrau Ef." Enfawr ydyw eich jyfrifoldeb felly, anaele fydd eich cosb. Gan iyny, diwygiwch ar frys, rhaid i'r trafeilwr I gychwyn i ddal y tren pedwar yn Liandyssil. COMMERCIAL TRAVELLER.
LLANDEILO. I'
LLANDEILO. I ETHOLIAD Y BWRDD YSGoL.-Wele un rhyfel etholiadol wedi pasio eto, a mawr y awn a'r dWll- dwr sydd yng nglyn a'r etholiadau yma yn bresen- nol. Gallasem feddwl fod cyflog dda yng nglyn a r swyddi hyn wrth weled yr ymdrech a'r egni sydd yn cael ei arddangos er sicrhau sedd ar.rai o'r byrddau hyn, a dichon fod rhywbeth fel hyn mewn golwg. Gwir yw nad oes cyflog union- gyrchol yng nglyn a hwy, ond eto gallwlI ganfod, fod rhai o'r aelodau yn gwthio eu plant i fewn i swyddau sydd yng nglyn a'r byrddau hyn. Di- I U ra^^a,;i i gyfrif am yr ymdrech sydd yn cael ei arddangos er cael sedd ar y bwrdd. Mae yn rhaid hefyd cae! rhywun o'u capel ni' i lanw poh swydd. Y mae yr ysbryd secfyddol mor uchel ei ben fel mae y da a'r cymmeradwy Vl1 myned mor ddiwerth os na fydd o'n sect nL' Ond at etholiad y Bwrdd Ysgol yr wythnos ddi- weddaf. Yr oedd yma foneddigion, masnachwyr, ffermwyr, pregethwyr, adeiladwyr, &c., yn ceisio am le ar y bwrdd. Amrywiaeth da, onid e ? Ond fel y crybwyllasom yn barod, y mae'r da a'r cym- meradwy yn myned o'r gnlwg ym nihoethder y frwydr sectyddol y dyddiau hyn. Cyfaddefir yn gyffredin fod yn drueni fod yr haelionus a'r twymgalon foneddwr o Dreib allan, yr hwn sydd wedi profi yn ddibetrus ei fod yn haeddu cefnog- aeth. Pwy sydd i'w feio am hyn, tybied ? Y mae yr yswain o Dregib wedi cefnogi ac wedi aberthu llawer er mwyn y blaid Radicalaidd, a naturiol iawn fuasai gweled yr hwn sydd wedi en cefnogi gymmaint, a hwythau gymmaint yn y mwyafrif yn sir Gaerfyrddin, yn d'od allan ar beu uchaf y res. 0 na; gwell ganddynt hwy droi eu cefnau arno a chefnogi y crwtyn dibrofiad, am fod ei dad wedi eistedd ar y bwrdd. Mawr y crio sydd wedi bod gan y blaid hon yn erbyn cynllun Ty- yr Aglwyddi, ond gwelwn eu bod hwy yn mabwysiadu yr un cynllun eu hunain drwy osod personau ar y bwrdd yn unig am fod en tadau wedi bod arnynt. Wel, wel, dyma gys- sondeb. Gallem feddwl fod hyn yn ddigon o achos i'r boneddwr o Dregib i beidio rhoddi gor- mod o ymddiriedaeth yn y blaid Radicalaidd o hyn allan. Gresyn na fyddai y bobl yn cael llonydd i ddewis fel y mynont, ac nid cymmeryd eu perswadioiddewisedigy gweinidogion. Gresyn hefyd na welai y gweinidogion fod gwaith mwy pwysig ganddynt na myned o dy i dy i berswadio dynion yng nghjlch pwy i osod ar y gwahanol j fyrddSu. Dywedant o'r pulpud, "Ceisiwchyn gyntaf deyrnas Dduw ï." ond yn eu hymddyg- iadau, dywedant "CelSlwch yn gyntaf sedd ar y bwrdd ysgol neu ar y cynghor airol." Mae yn rhaid myned o amgylch a pherswadio dynion yn bersonol am yr etholiadau ond am fater yr enaid, taflant ef o'r pulpudau. Dyma gyssondeb eto, onid e I BOANF.ITGES.
LLANYMDDYFRI.
LLANYMDDYFRI. ÐYNION CAREDIG.-Y mae llawer yn barod i ddweyd fod caredigrwydd bron ymadael o'r byd ond camsynied mawr yw dweyd hyny. Ionawr 7fed, bu farw yr hen batriarch duwiolfrydig, David Price, Rhandirmwyn, yn lletty yr undeb a mawr erfyniai, tra yn fyw, am yw gorff gael ei gymmeryd i fynwent Ystradffin i gael ei gladdu, lie hefyd yr oedd ei ddwy wraig wedi cael eu claddu yn flaenorol. Gwnaeth meistr yr undeb hyny yn hysbys i'w gyfeillion yn Rhandirmwyn, ac yn enwedig i Mr. Williams, White Lion, Llán- ymddyfri, yr hwn sydd bob amser yn barod i wneyd cymmwynas a'r tlawd fel y cyfoethog a sicrhaodd Mr. Williams iddo y cawsai ei ddymun- iad a phan yr bysbyswyd ef a'r cyfeillion yn Rhandirmwyn ei fod (Price) wedi huno y boreu uchod, cytunwyd am elorgerbyd, a chasglwyd digon o arian i dalu yr holl dreuliau i'w gladdu yn anrhydeddus. Gwnaeth meistr y ty hyny yn hysbys yn y bwrdd diweddaf, a phasiwvd pleid- lais o ddiolchgarwch i Mr. Williams a'r cyfeillion ereill am eu caredigrwydd yn cario allan ddymun- iad olaf yr hen gyfaill ymadawedig. A chyda Jlaw, derbynied y cyfeillion caredig hyny fu a l'aw yn cynnorthwyo er cario dyrnuniad olaf yr hen Gristion dysglaer, ein diolchgarwch gwres- ocaf; a chawsom ein hargyhoeddi fod caredig- rwydd yn uchel ei ben, ac hefyd fod y tlawd duw- iol yn gyfoethog yn ei farwolaeth mewn mwy nag un ystyr.—AB BRUTUS.
| CYFARFOD CYSTADLEUOL YSTRAD.
CYFARFOD CYSTADLEUOL YSTRAD. At Olygydd Y J'OURNAL. SYR, -Drwg genyf fod eich parchus ohebydd Mr Davies, Llanybyther, ar 01 ysgrifenu llythyr mor faith wedi syrthio mor fyr o ateb fy ngofyniadau yn y llythyr cyntaf, er hyny, yr wyf yn barod i addef fod Mr D. yn trin rhai o'i faterion i foddlonrwydd ond yr wyf yn dweyd eto nad yw yn cyffwrdd a chymmaint ag un pwynt ag yr oeddwn yn galw ei sylw ato. Ni ddywedais i fod y boneddwr gafudd y wobr am y solo bariton yn annheilwng, ond mai nid efe ddylasai ei chael yn ol y feirniadaeth, yr hyn yr ydwyf yn barod i sefyll wrtho heddyw eto ac unwaith yn chwaneg er mwyn adgofio Mr D rhoddwyd y feirniadaeth yma. Gwaith hawdd yw penderfynu y goreu yn y gystadleuaeth hon, ,,y pedwar wedi cynnyg a thri o honynt yn denorion, felly, dim ond un bariton sydd wedi cynuyg ac iddo ef y dyfernir y wobr." A t hra. y mae M r D. yn gwybod iddo roddi gwobr i'r un boneddwr am ganu tenor mewn denawd yn y gystadleuaeth nesaf, pa fodd y mae yn gallu cyssoni a choll- farnu tenor am gynnyg ar y bariton solo, a gwobrwyo bariton am ganu tenor ? Sylwer, nid am ei fod wedi rhoddi gwell datgani-id yn ol y feirniadaeth, ond am mai efe oedd yr unig bariton a gynnygiodd y cafodd y wobr. Gwyr Mr D. yn eithaf da mai rhoddi gwobr am y datganiad goreu a ddylasai wiieyu, una nid felly 3 Y mae Mr D. am i ni ddeall nad yw yn siarad am berffeithrwydd am nad oedd perffeithrwydd i'w gael y noson hono Wrth son am y parti o wrywod, dywed Mr D. fod yn hawdd iawn ateb fy ligofyniad am ei fod wedi cymmeryd notes o'r holl gystadlenaethau, ac ef allai, Mr B. meddai, pe gwnawn nod. allan yroll o'r ddiffygion, y byddech fel y bachgen hwnw a ofynodd i phrenulogist a wnelai ddarllen ei ben, a'r atebiad oedd y gwnelai, ac ar ei waith yn gosod ei law ar ei beu, dywedodd fod yn well ganddo beidio rhoddi gwybod beth oedd cynnwysiad y coryn. A ydyw yn bosibl fod Mr D. yn ymwybodol fod ei ben yntau o dan law phrenologist yn awr, ac mai ond efe yn unig gaiff wybod ei gynnwys. Er dangos sicrwydd iddo fy mod wrth y gorchwyl, craffed ar yr hyn wyf yn myned yw ddweyd am yr anghyssonderau yn<* nglyn a l feirniadaeth ar ganu corau y plant a'r hyn a ddywed efe ei hun am ganu corau meib'ion Fel y dywedais yn fy Hylhyr cynta? fod y beirniaid wedi cymmeryd gofal neillduol i <rvd- mnaiu y darnau a'u gllydd, ac fy mod yn gweled hyny yn berffaith deg, ond nad oeddwn yn deall pa ham na fuasai y boneddigion yn mabwysiadu yr un egwyddor i feirniadu yn y gystadleuaeth nesaf, set cystadleuaeth y corau meibion. Yn awr, yii Ile fy ateb, y mae Mr D. yn myned ym mlaen i ddwrdio y ddau barti cyntaf am na fuasent wedi dewis darnau i daro eu lleisiau yn well, ac nad oeddynt wedi arfer cydleisio y„ ddigon da. ^JaWr'J°S,yW Mr D" yn teiml° fod ganddo hawl Ii ddweyd hyn am y partis, sef y dylasent fod wedi dewis darnau i daro eu lleisiau yn well, pa fodd y mae yn gallu cyfiawnhau ei hun am <^yd- mharu y ddau ddarn yng nghystadleuaeth cornu y plant; o blcgid nid wyf yn gweled yn well na hyn, os oedd cydmariaeth o'r darnau yn deg me«n un gystadleuaeth, pa 1mm nad oedd yr un peth ym mhob cystadleuaeth 1 ai tybed fod gan y ffaith fechan hon rywbeth i wneyd a'r peth fod cor plant Cribbm yn colli os na fabwysiedid rhyw gynllun gan y beirniaid ac ar y llaw arall, fod y parti yn colh os gwnelai yrun peth, neu fod cor plant Cnbbin yn colli os na fuasent yn cydmharu y darnau a n gilydd, ac fod Parti Cribbin yn colli os y cydmerir y darnau. Dyma un peth eto y carwn alw ei sylw ato, pa fodd y mae ef yn cysoni dywediadau fel hyn am y partis, fod gormod o frychau ar y datganiadau, fel mai gwell oedd ganddo beidio eu dweyd, ac yn y fan dywed fod y datganiadau yn Ilawer mwy o werth na'r arian A ym mlaen wedyn i ofyn a ydyw yn bosibi peidio gwneyd cam a'r harmoni wrt h godi hanner ton neu don 1 Dywedaf fod yn bosibl gwneyd llai wrth godi na gostwng cymmaint a hyny, yr hyn, sef codi hanner ton, sydd becliod anfaddeuol medd efe, ac y mae ganddo yr anrhydedd o fod y cyntaf a glywais crioed yn dweyd hyny, ond clywais lawer o gondemnio ar ostwng hanner tôn, ac y mae Mr D. o bosibl yn edrych mwy ar gadw y cywair nil. gwneyd chwareu teg a meddwl y geiriau fyddo yn cael eu canu ac onid yw codiad o hanner ton yn ddangoseg eglur fod y cantorion yn ymestyn at ysbryd y darn fyddont yn ei ganu'? Ond, fel y dywedodd y diweddar Mynyddog, Qs cregin gwag fydd yn y sach I cregin aaaw allan, bobl fach." Gair yn fyr eto ar y prif ddarn. Y mae yr hyn I a ddywed Mr D. yn y fan hon eto yn hollol allan o'r pwynt, ac yn dangos ei fod yn hollol anwyb- odus o'r darn, fel y mae wecli ei gynghaneddu gan yr awdwr. Yn awr, gan mai ton Dr. Parry oedd y pwyllgor yn ofyn, pa ham na fuasai Mr D. wedi mynu gweled y gwreiddiol, ac nid ym- foddloni ar ryw imitation Undodaidd o honi wrth ba un yr oedd yn barnu y dadganiadau ? Eto am y geiriau, ni soma air yn ei arawd ac yn y fan hon, yr wyf yn gofyn i Mr D. aros ac ystyried yn bwyllog, a oedd gwneyd cyfiawnder yn beth posibl dan yr amgylchiadau canlynol •—Yn gyntaf, anwybodaeth hollol 0 gynghaneddiad y gwreiddiol y don. Yn ail, anwybodaeth hollol ar ba eiriau yr oedd y don i gael ei chanu. Yr wyf yn seilio y cyntaf oddi ar ymdrech Mr D. i osgoi z, fy nghwestiwn, ac yr wyf yn seilio yr ail oddi°ar ffaith mai i mi yn bersonol y gofynwyd am I fenthyg y llyfr er cael gweled ar ba eiriau yr oedd y don I gael ei chanu. Yn awr, wrth derfynu, yr wyf yn cael dau anghyssondeb mawr yn Ilythyr fy nghyfaill. Yn y lie cyntaf, gallwn gasglu mai dim ond ymgais deg i osod allan feddwl a theimlad y teiriau a boddloni. Yn yr ail le, y mae yn condemnio codi hanner ton. yr hyn lawer pryd tydd bron yn ammhosibl heb gymhorth harmon- ium, ac fod yn well ganddo wneyd cam a'r mynegiant nag a'r harmoni. Beth bynag am y c Ls,liadati hyn, yr wyf yn gobeithio, er i Mr D. e'Hiw fy anwybodaeth i mi, ei fod ef yn Ilwyr alluog i osod goleuni gwell a chymmeriad dys- gleiriach iddo ei hun ger bron darllenwyr llluosoc y JOUR.NAL. Yr eiddoch, BARITONE. °
IN MEMORIAM.
IN MEMORIAM. "There is no flock, however watched and tended, But one dead lamb is there There is no fireside, howso'er defended, But has one vacant chair Mae profiad chwerw yn dysgu pawb mai gwir ydyw y geiriau osodir allan mor brydferth yn y pennill uchod t) waith y bardd Longfellow, ond y waith hon mae genym y gorchwyl prudd o gofnodi marwolaeth dau oeniy fach—sef dwy ferch fechan i Mr a LMrs Dan Rees, Penrock, Crugybar, y rhai a fuont feirw o fewn wythnos i'w oilydd-Wiiiifred, yr henaf ar y 6fed o'r mis hwn (Ionawr). yn chwech mlwydd oed. Claddwyd hi ar y 9fed (anlynol ym mynwent Caio. Margaret Anne yn ei dwy flwydd a hanner oed ahedodd at yr Hwn a'i rhoes ar nos Fercher y 14eg, ac a gladdwyd yn ochr ei chwaer dydd Gwener ar ol hyny, y naill o'r croxip a'r llall o'r Dvptheric Crottp Cydymdeimlir yn fawr a'r rhieni yn y brofedigaeth lem hon, ond bydded iddyut sugno cysns o'r ffaith fod y ddwy lili dyner fu yma am dymhor yng n^ardd y ddaiar yn blaguro yn ogoneddus yng ngardd y Baradwys nefol, dan ofal ein Iesu bendigedig, lie ni ddaw awel groes byth i'w niweidio. Ceisiwch esgyn rieni anwyl atynt i'r lie nad oes galar, poen na chur, byth yu blino trigolion Salem lan.—ANELLYDD.
A WELWCH CHWI "FI 1"
A WELWCH CHWI "FI 1" Fi ydyw syndod mwya'r oes, j Fi ydyw'r dyn am ddysg a moes, 1 Fi sydd yn llawn o ddawn | Fi sydd yn deilwng o bob swydd, Fi lanwai gant neu fil yn rhwydd, Fi sydd o all u'n llawn. i Fi yn yr Ysgol Sul sydd goeth, Fi ddywed pawb yw'r mwyaf doeth, Fi'n athraw heb fy ail Fi wna esbonio pob rhyw ran, Fi sydd yn gallu dysgu'r gwan, Fi fawr fy hun yw'r. sail. Fi yn y seiat sydd yn gawr, Fi sydd yn ben yn y set fawr, I Fi drefna waith pob un f ydyw'r blaenaf yn y gan, i Fi sydd yn arwain yn y blaen, Fi fyn y clod fy hun. Fi sydd yn dotio am gael clod, Fi sydd ag enw iddo'n bod, Fi raid gael enw mawr Fi sydd athronydd, fi sydd fardd, Fi sydd yn lienor, pwy na chwardd? Fi fydd yn ben ryw awr. Fi sydd yn Radical i'r pen, Fi wyr pa fodd i draethu'm lien, Fi bia'r clod yn glir Fi yn y Senedd ddylai fod, Fi yw'r cymhwysaf dan y rhod, j Fi ddylai fod yn wir. | Fi ddadgyssylltai'r Eglwys Lan, Fi fynai ran o'r degwm man, Fi ddadwaddolai hon Fi fynai Gymrll wen yn rhydd, t Fi lonai lawer calon brudd, 5 Fi wellai'r byd o'r bron. Cynghori 'rwyf ei wraig ar g'odd I 'mofyn rhaff ar werth neu'n rhodd, A'i rhwymo am y gwr, Rhag iddo yn ei ymffrost balch 1 I chwyddo fel y gareg galch Ar ol ei thaflu i'r dw'r. GLAN PERIS.
MOELFRE.
MOELFRE. [BUDDUGOL YN EISTEDDFOD SARON, LLANGELER, CALAN 1891.] Uwch byd-enwog Gwm Treale,1 Ddim mor bell ag Eden chwaith, 1 x mae safle ddaiaryddol, | A rhyfeddol Moelfre faith Rhyd, a Phenbryncoch yn ymyl, Bwlchydomen dinas hardd, Wrfch ci odrou tyvryaogaidd, Dyma faes i awen bardd. Lie nodedig yw Pen Moelfre j I awenydd gael mwynhad, I Ceir meddylial1 o frig eithin, ] Ac o'r grug sydd dan ein tra'd, Yn y mawn, a'r cerig gwynion Ceir barddoniaeth bur ddi-len, Ambell ddafad yma ac acw j Yn farddonol godi'i phen. f Ysbryd pob ymwelydd egwan Yma yn y fan a gwyd— Hut ardderchog am refreshment i Ar ei goryn yw Waunlwyd § Ceir golygfa fendigedig | Ar ddiwrnod clir o'i ben, I Gweled prydferth Balas Charlie, Gwel'd Cwmceri, a Threwen. Gweled Cnwc-y-Fforest enwog, j Gweled Castell Emlyn dre',°' Gweled coedydd, gweled dolydd, Gwel'd i'r gogledd, gwel'd i'r de'; Gwel'd barddonol afon Teifi Fel rhyw neidr droellog fawr, Gweled salmons yn d'od fyny s Braidd cyn rhoi y bait i lawr. I Gweled Foel Cwmcerwyn anferth, Freni fawr, Carningli draw, Pa raid crwydro, geUir enwi Bryniau uchel sydd ger llaw Mae'r hen Lwydgoed mewn gwyleidd-dra Ger ei fron yn plygu lawr, Domen Seba fel 'stol dair-troed Fach yn ymyl Moelfre mawr. Mae'n hwyrhau -mae'n dechreu oeri- Cyfyd niwl a tharth i'w frig, Rhaid prysuro tuag adref, Trwy Blaenbran, a thrwy Bencrug Dyma fi'n dystewi bellach, ° Ar fy nhafod rhoddwyd stop, Carwn ganu tUwy-ond rhewodd Fy holl awen ar ei dop.-ADDA JONES.
ANERCHIAD
ANERCHIAD Ar briodl.ts Mr Macfie a Miss Mary Lloyd, Bontlwni, Rhagfyr 31am, 1890. Bro Teifi anwylgu Mae'th lygaid yn llyn, Wrth golli Miss Mary Anwylem mor dyn Mae Tyssul a Gwenog Yn gwneuthur gwep hir, Am fod un mor enwog Yn gadael ein tir. Yn euro mae calon Llanllwni yn grwn, Amddifaid a gweddwon Gyd-deimlanfc y pwn Yn curo wrth ddorau Y claf byddai hi, Ei hael gymwynasau Arosant mewn bri. Rhaid sychu y deigryn Ar ol y fath ffrynd. 'Pan gofiom yn sydyn- O'i bodd mae hi'n mya'd Miss Mary'r Bontlwni Mae calon y wlad Am iddi briodi Yn llawn o foddhad, Mac Fie hael foneddwr 0 'Scotland a ddaeth, I'w 'mofyn heb ddwndwr Er gwell ac er gwaeth Mae mil o weddiau Yn esgyn i'r Ian, Byd ddedwydd yn ddiau Fo mwyach i'w rhan. Os collwyd Miss Mary Na wylwn yn ffol, Nid gwag yw'r Bontlwni, Miss Lloyd sydd yn ol Mae 'Scotland yn canu Croesawiad i dre', Ac uno mae Cymru I waeddi, llwre