Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

12 articles on this Page

NODIADAU YR WYTHNOS.1

News
Cite
Share

NODIADAU YR WYTHNOS. 1 Nos Wener diweddaf anerchwyd cyfarfod cy- hoeddm yn neuadd y Corn Exchange yn Caer- grawnt gan y Prif Weinidog. Daeth tyrfadedd yng nghyd criau cyni'r drysau gael eu hagor. Tua dwy awr cyn dechreu y cyfarfod, llanwyd yr ystafell eang, o'r Ilawr i'r nenfwd, gan dros dair mil o botel. Gan nad oedd lie i gannoddd ereill oedd wedi ymgyunull, penderfynodd y pwyllgor drefnu ail gyfarfod yn llys y dref, a llanwyd yr adeilad hwn hefyd yn orlawn. Cafodd Arglwydd Salisbury dderbyniad mwyaf unfrydol, a nod- weddwyd y cyfarfodydd gyda'r brwdfrydedd eithaf. Grwrandawyd ar ei araith feistrolgar gyda manylrwydd a dyfalwch neillduol. Gorchwyl cyntaf y Prif Weinidog, fel pob gwladweinydd Ceidwadol y dyddiau presennol, ydoedd dynoethi ffugchwedlau Radicalaidd, pa rai a wna' ein gwrthwynebwyr drotian allan ar bob llwyfan fel ffeithiau pur a gwiriuneddol. Cyflawnodd ei dask yn hynod effeithiol. Erfyniai ei Arglwyddiaeth ar i bob Undebwr gymmeryd rhybudd nad oedd Mesur Llywodraeth Gartrefol i'r Iwerddon wedi hollol farw eto, er fe ddichon idd" fod yn ei anadliad diweddaf, ac ef allai, yn prysur adfeilo. Yr oedd hyder gurmodol yn niweidio) iawn yn ei ganlyniadau, a dylent, felly fod yn wyliadurus iawn rhagofny buasai i'r niesliritdfywio drachefn. Galwodd sylw arbenigol ei wrandawyr at allu peryglus ac eithafol offeiriaid Pabaidd y wlad hono. Yr oedd eu gallu a'u dylanwad gymmaint fel i'w galluogi yn dliweddar i orchfyu arch- deyrn yr Yuys Werdd yn etholiad Kilkenny. Nid oedd yn bosibl iddynt hwy, fel Protestaniaid, drosglwyddo en brodyr yn yr Iwerddon i senedd yn cael ei chyfansoddi a'i llywodraethu yn hollol gan offeiriaid Pabaidd neu eucaethweision. Yroedd y Parneliaid a r gwrth-Barneliaid yn awr yn ymdrechu rhagori ar eu gilydd yn eu digasedd a'u gelyniaeth tuag at y wlad yma. Yr oeddynt wedi dangos eu hunain yn eu brwydrau diweddaf yn hollol anghyinhwys i lywodraethu gwlad. Fe ddylasai anailu y persjnau yma, hyd yn nod reoleiddio eu hymddygiadau eu hunain, agor llygaid holl Ysga- wyr y wlad i'r ffaith eglur nas gallant byth ly.vodr^ethu yr Iwerddon mewn modd priodol. Credai Arglwydd Salisbury mai yr ulng ddatodiad gwirioneddol o'r cwestiwn Gwyddelig ydoedd penderfyniad boddhaol- ewestiwn y tir. Byddai i'r cwestiwn yma dderbyn sylw mallwl a pharhaus y llywodraeth bresennol, ahyderai y byddai iddynt yn y diwedd ei benderfynu a dwyn ei chwaer ynys yn ol i'w llonyddwch a'i llwyddiant cyntefig. Ail-agorwyd y Senedd, ar ol gwyliau Nadolig, nos lati yn yr wythnos ddiweddaf, heb anerchiad oddi wrth y Frenines, gan mai yr un senedd- dymmor ydoedd a'r un a ragflaenai y gwyliau. Ni ddaeth rhyw lawer iawn o'r aelodau yng nghyd hyd yr wythnos bresennol. Dadganodd y Llyw- odraeth ei phenderfyniad o wthio ym mlaen Fesur y Degwm a Mesur Pryniad Tir yn yr Iwerddon mor gyflym ag y medrent. Ychydig o ganlynwyr Mr. Parnell oedd yno, gan eu bod yn fisi yn parotoi erbyn yr Etholiad Cyffredinol yn eu gwlad. Yr oedd Parnell ei litiii yno, a gwnaeth ymddwyn fel arweinydd yr aelodau Gwyddelig, yn ol ei ddull atferol. Rhoddudd (Mr. Parnell) rybudd i'r Llywodraeth y byddai iddo alw sylw y Ty at y modd y mae Mr. Balfour yn llywodraethu yr Iwerddon, a gofynai i Arweinydd y Ty am noson i drin ei bwnc.—Dywedir fod Mr. Glad- stone ar roddi fyny ei fywyd cyhoeddus, acy bydd iddo ddadgan ei benderfyniad yn ystod y diwr- nodau nesaf. Cyrhaedda newydd i ni o swydd Dorset, deheu- barth Lloegr, fod brain, yn ystod y tywydd caled diweddaf, wedi ymruthro ar adar drudwy, a'u bwyta oil ond eu plu. Cipiasai y brain y drudwy yn bur gyflym, gan eu traflyncu yn rheibus. 11 y Deallwn fod yr un peth wedi cymmeryd He mewn rhanau arall o'r wlad. V Parha y byd yn gyffredinol roddi dyddordeb mawr ym meddyginiaeth rhyfeddol Dr. Koch at wella y darfodedigaeth. Mae cannoedd o drueiniaid y clefyd hwn yn ymdyru dydd ar 01 dydd i brif ddinas yr Almaen er mwyn derbyn triniaeth llwyddiannus y meddygwr byd-enwog. Yn ystod y dyddiau diweddaf, aeth un claf o dan yr operation gan Brofieswr Sonneoburg (un o ddysgyblion Dr. Koch). Yr oedd y dyn yma wedi myned mor bell i afael y clefyd fel nad oedd yr un tebygolrwydd y gellid byth ei adferyd. Gan nas gellid gwoinyddu y cyfferi arno yn y modd cyffredinol, peuderfynwyd ei agor er mwyn cymhwyso y feddyginiaeth at ei ys.-yfaint yn uniongyrchol. Gyda'r medrusrwydd mwyaf agorwyd corff y claf, a gwelwyd fod rhanau helaeth o'i ysgyfaint wedi eu bwyta i fyny yn llwyr. Dodwyd yr hylif nerthol i mewn yn yr hyn oedd yn ol o honynt, a bu y gweithrediad yn hollol Ivvyddiannus Gwellhaodd y dyn tl1 hwnt i'r dysgwyliadau mwyaf hyderus. Profa yr arbrawf hyn y gwna meddyg- iniaeth Dr. Koch gyrhaedd yr achosion hyny a ystyrid wedi myned tu hwnt i feddygin- iaeth. Ni ddyagwyliai Dr. Koch i'w ddargan- fyddiad wella trueiniaid wedi myned mor bell a'r dyn hwn yng ngafael y darfodedigaeth. Dydd Mawrth diweddaf, yng nghyfarfod Bwrdd y Gwarcheidwaid yn Kidderminster, dywedodd y cadeirydd fod chwech dyn ac un benyw perthynol i dlotty yr Undeb wedi bod dan feddyginiaeth Dr. Kocfo yn yspytty y dref. Yr oeddynt oil wedi gwella i raddau pell, ac wedi ennill mewn pwysau. Yr oedd un o honynt-y wraig-wedi myned ym mhell i afael y clefyd, ond yr oedd hithau hefyd lawer yn well yn ei chyflwr cyffre- dinol wedilderbyn y feddyginiaeth. Dydd Sadwrn, cymmerodd dygwyddiad pur anghyffredin le yng Nghapel Palas esgobawl Llandaff, pryd y cafodd y Parch. Thomas Christopher Phillips, gweinidog gan y Methodist- nid, ei dderbyn yn gyhoeddus i gymmundeb Eglwys Loegr gan yr Esgob ac ar yr un amser I conftirmiodd yr Esgob Mrs Phillips, gwraig yr un boneddwr, ar ei hymuniad a'r Eglwys. Bydd i Mr Phillips lafurio gyda'r Parch. E. lI. Hyslop, ficer yr Eglwys Gymreig yng Nghaerdydd. Y mae Nir Phillips yii bregeth wr da, ac o gymmeriad uchel a difrycheulyd, a gadawa y Methodistiaid yn wirfoddol i ymuno a'r Eglwys. lair blynedd yo ol, nid oedd oud naw o gymmunwyr yn Eglwys Gymreig Caerdydd ond erbyn heddyw y maent yn rhifo 120 ac mae Eglwys newydd yn awr yn cael ei lii-deiladu i'r Cyrury gwerth £ 5,000. 0 fewn y tair blynedd, adeiladwyd Eglwys Genadol Dewi Sant, a chostiodd £800. Cafodd y Cymry lawer o gam am ugain mlyuedd nid oedd ganddynt un eglwys eu hunain. Brodor o Bentyrch yw Mr Phillips, a bu am flynyddoedd yn gweinidogaethu yn Eglwys Bresbyteraidd Arglwyddes Llanofer yn Abercarn. v Mae yn dda genym weled fod ysgolion ereill yn canlyn esampl Ystradyfodwg i gyfranu addysg grefyddol yn ysgolion y Byrddau. Yr wythnos ddiweddaf rhanwyd gwoljrau i blant ysgol Bedling am eu gwybodaeth ysgrythyrol. Darfu i holl geiliogod y wlad ganu am fuddug- oliaeth Hartlepool, a bu llawer o bapyrau yr Ysgarwyr yn bloeddio fod barn y cyhoedd wedi troi yn erbyn yr Undebwyr. Dim o'r fath beth. Sedd Radicalaidd oedd Hartlepool, a sedd Radicalaidd yw eto ac y mae yn debyg o barhau felly, am amser o leiaf. Yr oedd yr aelod diweddar, Mr Richardson, yn hynod o boblog- aidd yn y lie. Trodd yn Undebwr yn 1886. Dywedir fod mil o'r etholwyr yn ganlynwyr idd", ac yr oeddynt yn barod i roddi eu pleidleisian Ily I iddo, nid ar gyfrif ei olygiadau, ond am eu bod yn ei hoiti fel dyn. Nis gpllir dweyd felly i'r aelod diweddar ennill ei fuddugoliaeth fel Undebwr. Yr oedd ef yn ddyledus am y fuddug- oliaeth iddo ei hun fel person poblogaidd. Mae yr etholiad yn profi i'r Gladstoniaid golli llawer o'r tir yr oeddynt yn sefyll arno yn 1885. Yr oedd yr etholiaeth yn arfer bod yn un hollol Radicalaidd, ac yn meddu mwyafrif mawr. Yn awr y mae y Rhyddfrydwyr yn cael eu rhanu yn gyfartal. Dywedir i'r Undebwyr adael i'w trefniadau rydu trwy esgeulusdra. Dywedodd y Doily Neivs pe buasai i Syr William Gray ennill, buasai iddo ennill trwy ei boblogrwydd personol ond os ennillai y Gladstoniaid, buasai iddo gael ei ethol ar gyfrif ei egwyddorion. Yr oedd preill yn dywedyd fod Syr William yn ammhoblogaidd ym mhhth ei weithwyr, ac iddynt bleidleisio yn ei erbyn, yr hyn sydd lolyddiaeth droednoeth. Poblogrwydd dyn oedd wedi dal y sedd hon dros yr Undeb hyd yn hyn, ac nid egwyddorion plaid. i # Mewn cyfarfod o'r pwyllgor sydd wedi ei ben- odi er codi coffadwriaeth i'r diweddar Archesgob Caerefrog, penderfynwyd fod monumental effigy o'r diweddar brelad i'w osod yn York Minster.

[DIOGELIR POB HAWLFRAINT.]…

EISTEDDFOD GENEDLAETHOL 1893.

G E I F R.

DYFFRYN CLETTWR.

LLANDEILO. I'

LLANYMDDYFRI.

| CYFARFOD CYSTADLEUOL YSTRAD.

IN MEMORIAM.

A WELWCH CHWI "FI 1"

MOELFRE.

ANERCHIAD