Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

11 articles on this Page

R I AN GYLES NOSJ ,)-'1.J..'I"..'

News
Cite
Share

R I AN GYLES NOSJ ,) -'1. J. I Cliwedl Ramentus. jV.'EEI SI CLIT3"BB]FT)0 GAS ElIDIEFAB." PENOD IV. AHuog Dduw, dy lygad Di A ciraidd dywell nos Ae c'n gweithredoedd dirgel ni, O'th oiwg un nid oes. Eryron G. Walia. Dim un gair o eglurhad—dim un llygedyn o oleum nis goilmgai Llewelyn ar y dirgelwch du. Yr oedd efe yn ystyfiiig a distaw. Cwestiynodd Argiwvdu Prysor d, ac felly hefyd y gwnaeth ei dad, ond yr oedd yn ofer, ar ol cael ei arwain braidd i gyfaddef ei fod wedi derbyn y gadwen gan dry dydd person, mewn atcb i gwestiwn a roddwvd yn gvirwys gan Arglwydd Prysor, efe a gauodd ei enau. plethodd ei freichiau ar ei fyn- svj-s, a chvda'r mynegiad. o benderfyniad mwyaf sarag ar ei wyneb, efe a wrthododd draethu yr un gair peliaeh. a gadawsant ef mewn anobaith. Gwelodd Helen ei wefusau yn crynu, tra y troai ei thad ei gefn mewn cywilydd ar y bachgen y bu cm hvn mor falch o hono. Ar ol i'r bonedd- wyr s fraud i'r fyfyrgeU, hi a gerddodd yn ddis- taw i ystafell Llew, lie yr oedd ef yn nghanol ei flinderau wedi cilio. o hyd iddo ef yn eis- todd ar y gweiv, yn welw ei rudd ac yn llawn cyffro. vr oil o'i sarngrwydd a'i vrrthnysigrwydd wedi ei ad. Yr oedd efe yn dirgrynu drosto gan fains arteithiau ei galon brudd. Hi a eis- teddodd ar v gwely wrth ei ymyl, a gafaelodd yn ei lAw. "01 fv mrawd anwyl," medclai, ar dagrau yn bwrlvmu dros ei grudd, ";Ü nid allaf eich helpu chwi n ae mewn moment yr oedd breichiau y bachgen am ei gwddf, a. chyd-w vlodd y ddau am envd. 'Helen—Helen!" meddai ef. "nid ydych chwi yn ei gredu—nid ydych yn credu i mi ei lladratta. Alii1 yr angKentil Nid rhyfedd i mi ei gashau or cyehwyn—eto eiddo gadwen— efe a greda fv mod yn euog, ehllai." IJew, eglurweh.—siaredwch! Pahsm na amddifTvnwch chwi eich hun? dolefodd Helen. "Dvwed.wch y cwbl wrthyf. anwylyd. Mae yn sicr eich bod yn gwybod y gellwch chwi fy nhrystio i T "Gwn, fy anwyl chwaer, y gallaf eich trystio, end nis g&ilaf siarad, atebodd y bachgen. "Nis gellwch Ond Nid ydyw hyny ond ffoledd, Llew." hi a atebodd, yn ddifrif a chervddol. "Nid vdvw yn ffoledd," efe a atebodd, yn wresog. ""Yr—yr vdwyf yn rhwym—nis gallaf siarad—'byddai yn ddianrhydeddus. Helen, peidiwch a gwasgu arnaf—peidiwch treio gwn- euthur i mi faglu fy hurt, fel ag y gwnaeth efe. Dywedais o'r blaen fy mod o dan ei grafangau, ac y mac vn debyg y byddaf yn ngharchar wedi fr Tiifetha am byth yn union. Nis gallaf ei helpu—nis gallaf siarad. O! fy nhad druan, y mae ef vn ei wedn, ond, Helen, yn sicr nid ydych chwi?'a chyfododd ei wyneb gwelw i fyny ac edrychodd and yn bryderus. "Sid ydwyf, Llew; gallaf byth," hi a ateb- odd, gan ei gusanu. "Diolch i'r Nefoedd am y geiriau yna! Ni fydd i chwi fy nghasau—fy nirmygu fel hwynt- hwy. Gall—gall pobpeth ddyfod yn dda etü," efe a ddvwedodd. "Yr vdych yn ineddwl hyny," hi a ddolefodd, yn ll&wen. "Llew anwyl, nis gallaf byth gredu eich bod yn Ueidr; nid ydwyf yn meddwl fod fy nhad yn ei grcdu mewn gwirionedd chwaith. Am eich gym i garchar, nid ydwyf yn tybied fod Ar- glwydd Prysor yn meddwl myned mor bell a hynv. Nis dywedodd hyny eto." "Naddo," aiedd.ii Idew. "Y mae hyny yn fwy nag a ddLsgwyliais. "A ddywedodd efe hyny?" -fe vmaetiy. Dywedodd: 'Nid wyf yn meddwl myned yn mlaen yn erbyn eich bachgen, ond yn unig "Os beth i" gofynodd Llew. "Nid ydwyf yn gwybod ni ddywedodd ef. O! anwyl Llew, erfyniaf bidio: mi a wnaf yr oil a allaf drosoch mi a ddywedaf wrtho ef mor sicr yr ydwyf o'ch diniweidrwydd," meddai hi, gan ymollwng i wylq. "Ond; O pe y gwnelech pe y gallech chwi ond siarad eich hun." "Anmhosibl!" mcddai Llew, yn ftin, a chyfod- odd i fyny a ch erddodd at y ffenestr ac edrychodd allan m awyddus. "Diolch i'r Nefoedd eich bod chwi yn bur i mi, Helen. O! y mae fy ffydd mewn dynolryw yn prysur ddiflanu. Y mae fy nghalon bron ar dori. Ai tybed fy mod yn caei fy nhwylie—fy mod Tawodd ya ddisymwt'u, a. llifodd ei wacd poeth i'w ruddiui. Yr rhywbeth tu 01 i'r cyfan, gallasai Helen weled yn liawdd ond yn gwybod am ei brawd moud y gwnai, hi a deimlai braidd yn sicr v gdlent ddisgwyl yn ofer wrtho ef am ddatgudcliad o'r dirgelwch. Yn y cvfamser yr oedd Mr Davies Arglwydd Prysor yn ddwfn mown ymddiddan gyda'u gil- ydd. c Y mJM; yn beth tra rhyfedd, yr wyf yn cania- lau—rhyfedd neillduol, Davies," meddai'r iarll; "ac v mac eich mab y poison olaf o bawb y bu- aswn yn ei amhen o'r peth. Fel y dywedasoch, rhaid fod y bachgen wooi syrthio i gwmn: drwg —dyna'r pethi yn sior i chwi, ac yr ydym oil yn gwybod beth a ddilyna hyny"—dirgrytiai y rheithor wrth feddwl yr hyn a awgrymai r honeddwr. "Rhyw synLid cyfeiliornus am y gair \anrhydeddns' sydd yn peri iddo ef fod yn fudan. Y mae ei wibiadau y nos, wrth oleuni'r lloer, yn prod eich bod yn a'i fod ef wedi taro wrth gwmpeini drwg yn rhywle." "Ydvw—vdyw y gruddfanodd y rheith- cr. "Y bachgen druaa. Yr ydwyf yn crhuddo fy hun o hyn, Prysor: yr ydwyf wedi ei drystio gormod o lawer: meddyliwn na fyddai yn bosibl bvth ei dlku i ifyrdd pechadurus. Ac yn awr daw'r cwcstiwn-beth sydd i'w wneut.hur V Adyrchafodd y tyl dman ei wyneb gofidus i fynv. ac a edry'diodd yn brvderus ar y dyn a ddaliai dynged ei fab yn ei ddwylaw. Oedodd Arglwydd Prysor, ac edrychodd arno yn chwili&dol, a chydJ, peth golwg o drechedd cyn iddo ateb "Yr ydyeh yn gwybod, Davies," meddai ef. o'r diwedd" dan siarad yn araf, "mor fawr y teimlaf drosoch bob amser." ydych wedi hod yn bur dirion. yn our gyteillgaT\" atebodd Mr Pavies, yn bryderus. wyf yn vmddiried y bydd i chwi ymddwvn yn dyner wrch y bachgen camarweiniedig." "Yr ydwyf yn caei fy nliueddu i hyny," ateb- odd yr larli. "Gadewch i ni siarad y mater, Mr .1)[-" its. Y mae genyf gryu lawer i siarad n eu oylch oni buasai i'r digwyddiad anffortunus Hla gyuieryd lie, buaswn yn nghwrs ychydiir wjth- i!(,sau yJl agoryd fy ngwefasau ac yn traethu wrth- yell am i -»roi ag sydd—a fu am bryd maict- yn yr aiiiser a basiodd yn dra agos i fy nghaliia. Yn awr '•y—yr 1r'¡¡f yn meddwl fy mod yn deall," meddai Mr DaT."ieH, yn atlirist. "Ya awr. wrth cmvr, r hvny allan o'r cwestiwn. Chwi-" "Allan o'r .cw<iwn!" atebodd yr iarll, yn bryrfur. "Dim beth. Nid ydych am feddwl fod gwiriondeb y bachgen ffol hwn yn cyf- newid mewn unrhyw hdd fy nneimladau tuagat ci chwaer—eich merch T "Yr ydych. yn dra Oliristionogol!" dechreuodd Mr Davies, gyda theimlad o n-ddhad meddwl. "Ydwvf os oes cariad mewn Cristionogaeth— yr ydwyf yn can eich merch," dywedodd Ar- glwydd Prysor. "Nis gwnawn ddim om bodd i'w niweidio hi na cliwithau. Buaswn wedi er- fyn ar Helen ddyf jKi yn wraig i mi ers talm, ond ofnwn ofyn yn rhy faan. Nis gallwn fod yn sicr a dderbyniri hi fy £ —yn fyr, meddyliwn v pryd liwnvv, pan yr oeddym yn Florence, fod—ond gadawer i limy b-vsio. Nid ydwyf yn meddwl y byddai i Helen fy cgwrthod pe y cynvgiwn fv hun iddi'n awr. Pa beth ydych vn el feddwl, Davies ?" v "0: o'r braidd yr wyf gwybod," atebodd v rheithor, Y11 ddyrv.-tedig. "Nid ydwyf yn sicr fod gan Helen ddim—ei bod hi yn gwybod "Yr ydwyf yn meddwl fod Miss Davies yn gwybod am fy nheimladan tuag ati," atebodd ir- glwydd Piysor, yn afieithus yn wir, yr oedd efe wedi dyweuyd Uawer mwy na hyn wrth Helen yn yr amser a basiodd, as wedi dangos iddi yn llawer mwy nag y tybiodd y rheithor erioed ei fod ef yn ei cliaru hi. "Yr ydwyf yn meddwl mai'r ffaith rdyw y gwyr hi nahazu y deuais yn ol i Gymru, a betli a'm dygodd i'r Faenor. Pa fodd bynag, y mao genyf eich cydsyniad chwi Mr Davies—yr ydych yn ewyllysgar i Helen fod yn wraig i mi." "RoHol hddhwn-mwy na boddlawn," ateb- odd y rheithor, yn frysiog: Prysor, es- gusodweh n"—meddai. rra y gafaelodd Arglwydd Piysor yn ei law.—"beth am fy machgen druan ? Yn mha wedd gwna—y bvdd i hyn elfeithio arno E- f 1" "Fy anwyl Syr—fy snwyl Mr Davies." ateb- odd yr iarll, gyda chwerthiniad a seiniai braidd yn ddivstyrllyd. "nis geDwch ddychmygu y dy- munwn ddwyn gweithrediadau yn erbyn brawd fy ngwraig ddyfodol, yn sicr. Na, na! Gad- awer i'r bachgen ffarwelio a'i wlad ei hun 3 myned i wlad arall—dvna fyddai'r peth goreu iddo ef. Ni a'i gwahanwn ef oddiwrth ei gwmni drwg, a rhoddaf iddo gychwyn mewn bywyd gwell. Ed- rychaf i hynyna, a gadewch chwi lonydd i mi drafod y busnes liwn. Anghofiwch yr oil o hono —na, peidiwch a diolch i mi wrth gwrs bydd ei lwvddiant o dan fy ngofal i yn y dyfodol—hyny ydyw, os bydd Helen yn dyfod yn wraig i mi. Y mae'r cwbl yn dibynu ar hyny, Mr Davits. Yr ydych chwi yn deall hyny, wrth gwrs." Ymsuddodd calon Mr Davies wrth y geiriau a'r don y llefarid hwynt. Yr oedd Arglwydd Prysor wedi traethu ei feddwl yn hollol glir—os y byddai i Helen dderbyn ei gynyg. achubid Llew—na mwv na hyny, yr oedd ei ddyfodol i gael ei ddarparu iddo os na wnai Helen, yna, nid oedd ganddynt ddim i'w obeithio na'i ddis- gwyl oddiar law Arglwydd Prysor—ond pobpeth ¡ tu allan i drugaredd. "Bryd y bydd i chwi siarad hefo Helen?" efe a ofynodd yn mhen ychvdig ar ol hyn. "Yn dra buan. Yr wyf yn ewvllysio i'r mater gael ei setlo yn ddiatreg," atebodd Arglwydd Prysor. "Yn y cyfamser, Mr Davies, gellwch siarad gydag Helen, a—a rhwyddhau y ffordd ychvdig—os ydych chwi'n meddwl fod hyny'n ani/cnrheidiol—-iywcdwch wrthi vi hyn a dtim- lwch ac a feddyliwch ar y mater, a'r hyn yr wyf finau newydd ei ddywedyd wrthych. Yr wyf yn teimlo yn sicr y caf eich cymhorth a'ch plaid yn hyn o fusnes, ac v mae Miss Helen yn ferch rhy dda., yn chwaer rhy serchiadol i wrthwynebu ein dymuniadau, a niweidio rhagolygon ei brawd heblaw hyny, yr ydwyf yn gobeithio a chredu nad ydwyf yn hollol ddibris o honi, ac na fydd iddi edrych ar fy nghynyg yn anffafriol." "Yn wir, yr wyf yn gobeithio ac yn credu hyny," atebodd Mr Davies, yn nerfus. "Yr yd- ych wedi bihafio yn garedig a nobl, Prysor. Dylai fy merch deimlo yn falch o honoch. Pa beth bynag sydd i ddisgwyl, credwch fi, gwnaf fy ngor- eu i chwi." "Da. Wei, y mae'r cwbl yn dibynu ar ei phen- derfyniad hi. Mi a'ch gadawaf chwi yn awr, Mr Davies, a goreu po gyntaf i'r mater gael ei setlo." Siaradai yn feistrolaidd, fel pe yn sicr o'i fwr- iad i'r pen, ac wedi ysgwyd Haw gyda'r rheithor, efe a. farchogodd ymaith tua Maenor Iestyn. "Yr ydwyf wedi cael y chwareu i fy llaw fy hun," meddyliai, tra y galpiai y march o dano. By Jove y mae lwc wedi bod gyda mi; onid am hyn buaswn wedi cael byd o drafferth gydag Helen. Y mae hi yn falch, ao yr ydwyf yn credu fod gan y Gwyddelyn Power hwnw ryw gymaint o ddylanwad ami. Pw rhyw garu gwirion bach- gen a lodes oedd hwnw ond y mae hi yn ystyf- nig, fel ei brawd—mor ystyfnig ag ydyw hi o brydferth a deniadol. Nid ydyw hi yn debyg i lodesi eraill o gwbl. By Jove mor ychydig o ferched a ddywedant Na wrthyf fi. Yr ydwyf yn ei hoffi yn well yn herwydd ei hoerineb ataf. Hi a griitf ddysgu fy ngharu eto, yr wyf yn tyngu os J nad cyn iddi fod yn wraig i mi, hi a gaiff fy ngharu ar ol hyny, neu A aeth ef, fy nhad?" gofynodd Helen awr yn ddiweddarach, tra y cerddai yn ddistaw i'r fyfyr- gelllle yr eisteddai ei thad o hyd. 0! fy nhad, nid ydych yn credu hyn am Llew, yn sicr?" "Y Nefoedd a'n helpo oil! Nis gwn yn iawn beth i'w gredu, Helen," meddai'r rheithor. Y mae Llew yn gwneud pethau gan waethed ag y gall trwy ei ddistawrwydd. Nis gwn pa beth i'w feddwl; ond Helen Beth, fy nhad ? M—mae genych rywbeth i'w ddywedyd wrthyf fi ? Beth ydyw ?" A dechreuai ei chalon guro yn wyllt. Oes. Y mae Arglwydd Prysor wedi bihafio yn llawer gwell na'm disgwyliad. Bydd i Llew, yr wyf yn gobeithio—yr wyf yn meddwl—gael ei waredu o ganlyniadau ei ffoledd, ac efallai mewn pryd y bydd iddo ef esbonio yr oil, a chlirio ei hun. Na, ni fydd iddo—ni fydd i Arglwydd Prvsor ——— A ydych yn meddwl dywedyd na fydd i Ar- glwydd Prysor ei erlyn, fy nhad ?" dolefodd Helen yn llawen. Ni fydd iddo ef y mae efe wedi ymddwyn yn hynod fawrfrydig a thrugarog, Helen, fel y dywedais o'r blaen. Eisteddwch i lawr, blentyn. Yr ydych yn edrych yn syn! Ond—ond chwi a wyddoch, fy anwylyd, fod Arglwydd Prysor yn eich hoffi." Fy hoffi—efallai. Ond beth sydd a fyno hyny a'r digwyddiad hwn ?" gofynodd, gan was- gu ei dwylaw yn nghyd, ac yr oedd trem fraw- ychus yn dechreu meddianu ei llygaid gleision clysion. Wei, wrth gwrs, nid yw ef yn ewyllysio tynu gwaradwydd ar deulu y ferch y mae ef yn awydd- us i'w phriodi," meddai y rheithor. Erglywch, 0 1 erglywch, y mae'r oil yn dibynu arnoch chwi. Ond i chwi ei briodi, dropia y mater, a bydd iddo ef ofalu am Llew-ei anfon i ffwrdd, ac —— I "Ac os y gwrthodaf ti ef," gofynodd Helen, a'i llais yn crvnu. 0: fy nhad, os bydd i mi wrthod Ni ddywedodd efe, Helen, ond rhoddodd ar ddeall i mi yn ddigon plaen. 0! Helen, rhaid i j mi ddywedyd fod yr achos yn dibynu yn gyfan. gwbl arnoch chwi—ein anrhydedd—Llew allan o 1 garchar—ei ddyfodol i gyd yn gorphwys ar eich flaw chwi—anrhydedd y teulu, ein henw henafol —pobpeth mae fy mywyd fy hunan yn eich dwylaw," dolefodd y rheithor mewn angerddol- deb. "Yn sicr, ni fyddai i chwi wrthod—ni fydd i chwi ein difetha i gyd ?" Yr oedd Helen yn ddistaw, wedi cael ei tliaraw yn fud o ddychmi a syndod. Edrychai ar ei thad, a chlywai ei eiriau. A allai fod mai ef. mewn gwirionedd, oedd yn siarad gyda hi ? A allai yr hyn a ddywedai fod yn wirionedd ?—a oedd tynged yr holl deulu yn ei llaw hi ? A oedd hi wedi ei thynghedu i briodi Arglwydd Prysor, neu ynte ddifetha y ddau a garai oreu yn yr holl fvd ? Darfu i lais Mr Davies, ar ol rhai momentau o ddistawrwydd, ei hadalw yn ol ati ei hun. Wei, Helen?" meddai ef mewn ton o bryder. R-rhaid i mi gael meddwl am y peth. Rhaid i mi gael amser nis gallaf wneuthur fy meddwl i fyny ar unwaith," hi a ddywedodd. "O! fy nhad anwyl, nid ydwyf yn ei garu yr ydwyf yn ei gashau. ac yn ei ofni; y mae ef yn gwybod hynv. Rhaid ei fod yn ddyn pur ddrwg—yn ddvn pur greulawn i dreio fy fforsio i ddyfod vn wraig iddo ef wraig iddo ef I" A dechreuai ei dagrau ddisgyn i lawr yn ddafn- au mawrion fel dafnau cawodydd Ebrill. "Nis gellais erioed ddeall eich gwrthwynebiad iddo ef," meddai y rheithor, yn flin. "Y mae'n galed fod yn rhaid i mi, Llew—pawb o honom— gael ein difetha yn herwydd eich whim o anhoff- der ffol o hono. Ond, Helen, peidiwch a wylo fel yna, os na. ellwch ei briodi cf, rhaid i ni gym- eryd y canlyniadau, ond bydd i fy nghalon dori. Nis byddaf fyw yn hir wedi i fy enw gael ei stam- pio mewn gwarth, a fy mab wedi cael ei alltudio i benydfa. Y foment yr agorir dor y carchar iddo ef, agorweh chwithau ddor y bedd i minau yn yr hen fynwent yna, lie— "Mae nghyfeillion wedi myned Draw yn lluoedd o fy mlaen." Yno caf Iechu- "0 swn y boen sy' yn y byd." Efe a orchuddiodd ei wyneb a'i ddwvlaw, a disgynodd ei ben llwyd ar ei fynwes, tra yr ID- godai ochenadd ddofn o honi. Yn union wele law fechan grynedig ar ei ysgwydd. "Fy nhad öjIlwyl, na t^hristewch 1" dolefodd Helen. "B—bydd i mi feddwl am eich cáis. Myfi a dreiaf wneuthur fel yr ydych yn ewyllysio." "Clnvi a wnewch? A allaf fi ddywedyd hynv wrtho ef 1 Helen, bydd i'r Nefoedd eich gwobrwyo. Bydd i chwi ein gwaredu ni o warth- rudd. Ac—ac, fy mhlentyn, credwch fi, nid yd- yw Arglwydd Prysor y dyn y dychmygwch ei fod bydd iddo ef wneud gwr da i chwi." Ysgydwodd Helen ei phen. "Nis gwn i. Ond hyn a wn, nis gallaf ei garu ef, ac nis gwnaf byth ond mi a dreiaf wneuthur fy nyledswydd i fy nheulu, fy nhad dim ond un peth a ofynaf—na fydded i chwi ddywedyd wrth Llew, rhaid iddo ef beidio cael gwybod hyn." Gwybod beth, fy mhlentyn ?" gofynodd y rheithor. "Fy mod yn gwneuthur yr aberth yma er ei fwyn," meddai Helen, gydag ochenaid dagedig. "Rhaid peidio dywedyd hyn wrtho ef cyn y bydd iddo ein gadael ni." (I'w barhau.)

------------------------------Celu…

. A yw Tybaco yn Niweidiol?

Advertising

-----------Magwraeth Gwartlieg

__-------__-- -----------------Cymdeithas…

PREGETHU. AR YR HEOL.

AT DDIRWESTWYR LLANGEFNI A…

ESIAMPLAU LLANERCHY-i-DD.

;Meusydd Aur Klondike.

Advertising