Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

I Utica, Maentwrog.

News
Cite
Share

I Utica, Maentwrog. I Pi-iodas.-Dydd Sadwru, Awst 5ed, trwy weinydd- iad y Parchn D. Williams a D. Egwys Jones (W), unwyd mewn gliii briodas y Pioneer Moses R. Jones, mab ieuengaf Mrs Jones a'r diweddar W. Jones, White Lion, Trawsfynydd, a Miss Lizzie Jones, merch hynaf Mrs Jones a'r diweddar Robert Jones, Goedyglyn, Gellilydan-athrawes yn Ysgol y Cyngor, Trawsfynydd. Y gwas ydoedd Mr W. E. Jones, C.M., brawd y priodfab, a'r forwyn Miss Kate Jones, 23, Storeton-road, Oxton, Birkenhead, chwaer y briodferch. Addurnwyd y capel yn brydferth a, blodau amryliw gan chwiorydd eglwys Utica, lie yr oedd Miss Jones yn aelod defnyddiol a gweithgar. Y mae Mr M. R. Jones hefyd yn wr ieuanc dichlynaidd a gweithgar o'r eglwys Wesleaidd yn Nhrawsfynydd. Wedi'r gwasanaeth, mwynhawyd gwledd yng nghartref y briodasferch gan nifer dda o wahoddedigion. Treuliwyd gweddill y dydd mewn gwibdaith fodur i Bwllheli. Lluosog a gwerthfawr oedd yr anrhegion. Boed bendith yn dilyn yr undeb drwy'ch oes; Ac os daw ystormydd, cewch nerth dan y groes.

AT FY NGHYDENWADWYR. 1

I Tair Blynedd o Brawf gan…