Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

-- - - - -CYFUNDEB GORULEWIN…

CVFUNDBB ARFON.I

GAIR ODDiWRTH DYFNALLT.

News
Cite
Share

GAIR ODDiWRTH DYFNALLT. SEIADAU'R YSTAEEEE E>AWEE- I Ni ddaeth dychymyg mwy hapns erioed i galon neb a garo les y milwr oddicartref, ac yn arbennig yn y ffrynt, na'r dychymyg o godi Ystafell Dawel ynglyn a Phebyll y Y.M.C.A. Y funud y daw'r milwr i gyffiniau'r tan, cynefin iddo yw tymhestloedd bwledi a phelenni o bob math. Ni thawa'r gynnau ddydd na nos yn wastad. Mae twrf y taranau'u torri'n ddidor ar ei glyw-kiss y belen, si y bwled, clindarddach pentrefi'n cael eu dryllio, a diaspedain gwallgof gwn yn galw ar wn, a gwn yn ateb gwn. Y fath fendith i'r milwr ar ambell awr yw osgoi hyd yn oed ei babell ei him, yn arbennig pan y 'byddo hwyl ar ganu neu chware offeryn cerdd, ac yntau ei hun yn y dymer fyfyriol. Am dymor byr ynglyn a'r Babell lion yn unig ym maes y Fyddin Gyntaf y bu ystafell o'r fath ond bellach ni chodir pabell hebddi, ac ychwanegir hi at y mwyafrif o'r hen bebyll lie y bo hynny. Diddorol i'r eithaf y dydd yr aethpwyd ati i roi ffurf a llun i'r ystafell. Nicl oedd gennym i gychwyn namyn planciau a pharwydydd llwm ar lUll ystafell yng nghefn y Babell. Camsom hwyl heb ei bath wrth gyflogi paentwyr o Ffrancod na welent fawr ystyr i Ystafell Dawel. I siaradwr a chlebrwr fel y Ffrancwr, prin y mae ystyr o gwbl mewn tawelwch. Onid ei berygl ef heddyw yw byw ar ben y drws ac yn y cafe ? Ac oni ddysgir yn groyw gan ysgol gref o ddramodwyr a nofelwyr yn ein gwlad ni mai'r cam nesaf mewn gwareiddiad fydd chwaluJr cartref fel sefydliad dwyfol ? Chwelir cartrefi wrth y fil gan yr alanas ofnadwy yn Ewrop. Ai tybed y ceisir diwreiddio'r meddylrych o gartref o'r galon ddynol ? Penderfynwyd ar wneud yr ystafell yn gyf- uniad o gapel ac eglwys. Dewiswyd lliwiau ar y parwydydd a fyddai'n gydnaws a'r dymer fyfyriol a chrefyddol heb fod dim yn groes i'r graen. Ar gefn y drws a arweiniai o'r ystafell i'r babell rhoed lliw derw mal y gwelai'r addolwr a'r myfyrgar liw y paent. Yn y gornel lwyd- oleu y mae'r allor, a llun y groes yn hongian o l ett 31 oddiwrth fwrdd yr allor wedi'i weithio mewn edafedd melyn. Gwnaed yr oil o'r gwniadwaith a'r plethwaith gan ffoadures o Pfrances a feddai law fedrus a chelfgar at y math yma o waith. 'Roedd ystori bywyd y wraig hon, ei thrueni mewn adfyd, ac ymddygiad caled, creulou yr Eglwys Babaidd, yn rcsynus i'r eithaf. Wedi trin a thrafod, gwneud a dadwneud, agorwyd yr ystafell at wasanaeth y neb y byddai hoff ganddo fyfyr a gweddi. Gwnaed yr awyrgylch o'r math mwyaf catholig, inodd y gallai apelio at bob math o dymer grefyddol, boed Brotestant neu Babydd, boed Eglwyswr neu Ymneilltuwr. Gall y neb a fynno fynd yno pryd y mYll i weddio, darllen a myfyrio. Ar y parwydydd y mae rhybudd yn. erbyn siarad ac ysmocio. Aincenir yn unig at greu awyrgylch o dangnefedd i'r ysbryd blinderog a llwythog. Un hwyr, wedi agoryd yr ystafell, cil-agorodd un ohonom y drws cefn-derw, a disgynnodd y llygaid ar un o'r golygfeydd mwyaf tyner a defosiynol a ddaw i ran dyn yn ei oes. Ar ei liiiiau ger bron yr allor yr oedd milwr ieuanc, gyda'i fidog llym wrth ei ochr, mewn gweddi ddwys. O'r foment honno aeth y lie yn sanct- aidd yn ein golwg. Cysegrwyd y lie drwy weddi v milwr addolgar. Ond at y seiadau yn yr Ystafell Dawel. ODFA GYDA'R MAB AERADEON. A mi at neges yn y dref un prynliawn, tarewais ar iilwr ieuanc. Prin y'r oeddym wedi cyfnewid dwsin o eiriau nag y dywedodd fod apel a wnaed yn y babell mewn odfa neilltuol ar i'r bechgyn ysgrifennu gartref wedi'i gyffwrdd i'r byw. Gwahoddais ef i'r Ystafell Dawel ar awr ben- odedig prynliawn trannoeth, a phan ddaeth yr awr yr oedd yno i'r funud. Mab ydoedd i gler- igwr parchus yn Hglwys Loegr. Edrychai'n swil a phryderus, ac er niwyn agor pyrth ei leferydd caeais y ffenestr a'r drws. Canfum yn fuan grwydro llawer ohono yn yr anialwch moesol ac yn y coedwigoedd tywyll lie y trig y bwystfilod rheibus. Yr oedd delw hynny ar ei wyneb ugain oed. Unig blentyn ei dad a'i fam ydoedd. Cawsai'r addysg oreu a allai gwr o urddau roi i'w fab, a char y gwr hwnnw wir addysg yn gymaint a neb byw. Yng nghyflawnder yr amser aeth i un o brifysgolion Dloegr, gan ennill yrsgoloriaeth dda; ond fel llawer un o'i flaeii ac ar ei ol, daeth temtasiwn ar ei warthaf. Syrthiodd yntau i'w gafael yn ddiymdroi: collodd ei le yn y brifysgol, collodd ffafr ei fam a'i dad, ac aeth allan i'r byd yn gystal patrDn o fab afradlon ag a addolodd dduwies pleser a chwant yn yr oes hon. Llitlirodd i'r fyddin yn haf 1914. Daeth yr alwad i'r Armageddon fawr, croesodd y nior i Ffrainc heb gymaint a chwen- nych ohono ymadael na gweld ei rieni a chyn ei fod yn ugain oed yr oedd wedi cerdded trwy dan a brwmstan y brwydrau gwaedlyd. Yr oedd bellach yn tynnu am dair blynedd er y dydd y bu dim rhyngddo a chartref. Gyda'r apel yn y babell daeth ing meddwl drosto. Cynghorais ef i anfon gartref at ei dad, gan addaw anfou fy hun os y doi gair anffafriol. Ofnai wneud, ac eto yr oedd awch angherddol arno. Cododd gwr y lien oddiar ei iywyd yr oedd yn ddu iawn, ac ni ddymunwn droi'r goleu arno. Daeth anwyldeb mab at ei fam yn ol i'w galon, ac ar darawiad ufuddhaodd i'r reddf ddigyfeiliorn honno. Wedi ychydig ddyddiau daeth yn ei ol i'r ystafell a gwen ar ei wyneb, a'r llythyr serchocaf oddiwrth ei dad yn ei boced. Yr un dydd. gofyhnodd am ganiatad i fynd tua thref, ond yr oedd, yn rhy ddiweddar yr oedd yr ymosodiad mawr yn y de wedi cychwvn. Y dydd o'r blaen galwodd i ffarr welio a mi cyn troi ohono ei wyne b i barth arall o'r maes. Beth fydd ei hynt mwy, nis gwn. Buan iawn y collwn olwg ar ein gilydd ond cysegrwyd yr ystafell drachefn a dychweliad mab afradlon arall.

Advertising