Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

Bethesda, Ton Pentre.

[No title]

Advertising

r Heol Undeb, Caerfyrddin.I

News
Cite
Share

r Heol Undeb, Caerfyrddin. I ORDEINIO CENHADWR. Dydd l'au, Gorffennaf 6ed, cynhaliwyd cyfarfodydd ordeinio un o aelodau yr eglwys uchod, sef Mr David Rees Phillips, i'r Maes Cenhadol. Bu tad yr ordein- iedig yn ddiacon parchus yng Nghapel Mair, St. Clears, am flynyddoedd, ac un o'i ddymuniadau olaf cyn iddo farw ym Mhembre, naw mlynedd yn 01, ydoedd am i'w fab gael drws wedi ei agor i fynd i'r Maes Cenhadol. Gwyddai ef ogwydd ei fywyd y pryd hwnnw. Wele bennill a gyfansoddwyd ganddo sydd yn ddiddorol heddyw am fod ei ddymuniad wedi ei sylweddoli:— Arglwydd grasol, 'rym yn gofyn, Anfon yr Efengyl fwyn Draw i Affrig bell a thywell At anwariaid du eu crwyn. Cofia am y Malagasiaid, China fawr a'i delwau'n llu; Buan delont i foliannu Duw am aberth Calfari.' Y mae mam y cenhadwr ieuanc, yr J1011 sydd yn un o'r aelodau fliyddlonaf yn Heol Undeb, yn chwaer i'r Parch D. M. Rees, Madagascar, ac fel olynydd iddo y dechreua Mr Phillips ar ei waith ym Madagascar. Dechreuodd Mr Phillips bregethu dan weinidogaeth ei ewythr, y Parch J. H. Rees, ym Mhembre- Ar ol cwrs llwyddiannus yng Ngboleg Caerfyrddin, treul- iodd dair blynedd arall yng Ngholeg Cheshunt, Caergrawnt. Yr oedd yn bresennol yn y cyfarfodydd ordeinio dri o genhadon Madagascar, sef y Parchn W. Evans, Robert Griffith, a T. Rowlands ynghyda Mrs Rowlands. Cafwyd anerchiad gan Mr F. H. Hawkins, LL.B., Ysgrifennydd Tramor y Gymdeithas, ar y Maes lie y bwriada Mr Phillips lafurio. Holwyd y gofyniadau gan y Parch W. Evans. Offrymwyd yr urdd-weddi. gan y Parch Athro E. W. Johnson, M.A., Caergrawnt, a thraddodwyd siars i'r ordeiniedig gan y Parch J. H. Rees, Pembre Cafwyd auerchiadau hefyd gan Mri Vincent Williams a W. J. Pate o Goleg Cheshunt yr Athro E. W. Johnson a'r Parchn Cadfwlch Davies, St. Clears T. Rowlands, Madagascar; a J. J. Jones, B.A., Carvan. Cyflwynodd Mr J. Harrison Evans, ar ran ei gydaelodau yn Heol Undeb, gyfres gyflawu o'r Hastings' Bible Dictionary' i Mr Phillips Gorffen- nwyd trwy weddi gan y Parch D. G. Williams, St. Clears. Dechreuwyd odfa'r hwyr gan y Parch J. T. Gregory, Peniel, a chafwyd pregethau grymus gan y Parchn Robert Griffith, a B. Davies, D.D., Castellnewydd Emlyn. Yr oedd y cyfarfodydd dan lywyddiaeth gweinidog parchus y lie, yr Athro J. Oliver Stephens. Cafwyd cynulliadau lluosog, ac yr oedd yr ysbryd Cenhadol yn amlwg iawn. Cyfarfodydd rhagorol ydoedd y rhai hyn, ac erys eu dylanwad yn hir yn yr eglwys a'r dref. Bwriada Mr Phillips fyned allan i Ffrainc yn fuan i gael ymarferiad yn yr iaith, ac ynihen tua blwyddyn bydd ef a'i gydfyfyriwr, Mr W. J. Pate, B.A., yr hwn a ordeiniwyd trannoeth yn Tall Pentre, yn mynd allan gyda'u gilydd i flurfio dolen gydiol arall rhwng Cymru I a Madagascar- E.D. I

I Hermon, Ptasmarl.I