Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

Bethesda, Ton Pentre.

News
Cite
Share

Bethesda, Ton Pentre. Cynhaliwyd cyfarfcdydd yn y capel uchod ddydd Gwener, Gorffennaf ifed, i ordeinio Mr. W. J. Pate, B.A., o Goleg Cheshunt, Caergrawnt, yn genhadwr i Madagascar dan nawdd Cym- deithas Genhadol Llundain. Cymerodd yr urdd- i iad le yn y prynhawn am 2.30. Llywyddwyd gan y Parch. J. Oldfield Davies, B.A. Dechreuwyd gan y Parch. J. H. Hughes, Abertawe. Wedi ychydig eiriau gan y Tlywydd, galwyd ar y Parch. T. D. Jones, Bodringallt, i roddi nifer o ofyniadau i Mr. Pate, a chafwyd ganddo atebion clir a chryno. Wedi hynny offrymwyd yr urdd-weddi gan Proff. E. W. Johnson, M.A., Cheshunt. Ar ol canu einyn cawsom anerchiad rhagorol gan Mr. F. H. Hawkins, LIV.B., Ysgrifennydd Tramor y Gym- deithas, yn disgrifio'r maes yr apwyntir ein cyfaill iddo, sef talaith Imerina, gyda Tananarive fel canolbwynt. Yna cyflwynwyd nifer o gyfrolau gvverthfawr a cheque i Mr. Pate dros eglwys Bethesda-lle y magwyd ef ac y dechreuodd bregethu-gan y Parch. J. W. Thomas, a gwnaed y gorchwyl yma yn dyner ac effeitliiol iawn. Wedi hynny cafwyd anerchiad campus gan y Parch. Robert Griffith o safle'r cenhadwr, ac yn dilyn yr araith hon cyflwynwyd Mr. D. R. Phillips i'r cyfarfod-cydfyfyriwr a Mr. Pate yn Cheshunt, ac a ordeiniwyd y dydd blaenorol yn Heol Undeb, Caeri-vrddiii-yiltau hefyd yn mynd yn genhadwr i Madagascar, ac i lafurio yn Betsileo. Yr oedd yn gyd-ddigwyddiad haptic. dros ben. Cyflwynwyd Mr. Pate yr un niodd yn ei gyfarfod yntau y dydd cynt. Yna siaradodd Proff. E. W. Johnson dros y Coleg, a dygodcl dystiolaeth uchel i Mr. Tate fel dyn ieuanc ardderchog a myfyriwr gwir lwydd- iannus. Hefyd siaradodd Mr. Vincent Williams, Barry (myfyriwr). dros fyfyrwyr Cheshunt. Hyfrydwch mawr oedd gweld y Parch, a Mrs. T. Rowlands, Madagascar, yn bresennol. lid- mygwn eu dewrder a'u hunanaberth yn dych- welyd i'r ynys bell wedi bod yno eisoes am 37 mlynedd. Cafwyd ychydig eiriau gan Mr. Rowlands, ac hefyd gan eu hannwyl fab, y Parch. E. Rowlands, B.A., B.D., cenhadwr i China, sydd gartref ar hyn o bryd. ■] Ni chaniata gofod i mi ond crybwyll am areithiau gwerthfawr y brodyr da i gyd. Gwel- wyd yn bresennol hefyd liaws mawr 0 weinid- ogion a myfyrwyr a chyfeillion eraill o bell ac agos, a derbyniwyd nifer mawr o lythyrau oddi- wrth frodyr fethodd fod yn bresennol—llawer ohonynt yn gyfeillion mynwesol i Mr. Pate. Diweddwyd trwy weddi gan y Parch. T. G. Jenkyn, Elwynypia. Yn yr hwyr am 6.30 dechreuwyd gan y Parch. M. H. Jones, B.A., Jerusalem, Ton, a phregeth- wyd gan y Parch. Joseph Jones, B.A., Llan- dysilio (siars i Mr. Pate), a'r Proff. J. Oliver Stephens, B.A., B.D., Caerfyrddin. Cafwyd odfa hyfryd iawn. Bu'x cyfarfodydd yn hynod lwyddiannus, a gwnaeth chwiorydd yr eglwys eu rhan yn wir deilwng mewn darparu ar gyfer y dieithriaid. Ac nid rhyfedd hynny, gan fod ein cyfaill ieuanc yn ffafryn gan yr holl eglwys, fel y gellid yn hawdd deimlo ar ddydd ei urddiad. Yr oedd rhyw naws hyfryd ar y cwbl. Mae Mr. Pate yn ddyn ieuanc o gymeriad dilychwin, ac wedi ymroi yn drwyadl i'w waith pwysig. Mae ei yrfa hefyd wedi bod yn llwydd- iannus iawn—yn yr Ysgol ym Mliontypvidd, wedi liynny yng Nghaerfyrddin, ac yn ddiw- cddaf yng Nghaergrawnt, lie y graddiodd gydag aurhvdedd yn y Theological Tripos. Efe vw'r cenhadwr cyntaf i godi o Fethesda, ac o'r Ton gydag unrhyw enwad, ac yr oedd y ffaith yna yn ychwanegu at ddiddordeb y cyfarfodydd. Ond mae'r cylch yma wedi rhoi cenhadwr ardderchog arall i Fadagascar, sef y Parch. D. M. Rees, goclwyd yn Siloh, Pentre. Blin gennym am waeledd ei iechyd ef ar hyn o bryd, a gwedd- iwn am ei adferiad buan. Dymunwn bob bendith a nerth i'n cyfaill ieuanc i ddilyn y Cymry enwog a da sydd wedi gwneud gwasanaeth mawr ym Madagascar, o'r arwyr anfarwcl cyntaf hyd at y cenhadon teilwng a llwyddiannus sydd ar y maes yn awr. Bydd ef yn mynd am chwe mis i Ffrainc i gyfarwyddo gyda'r iairh Ffrangeg, gan y bydd hynny yn angenrheidiol iddo yn ei waith yn yr ysgolion. Mae'n wynebu ar y maes pell ynghanol swn y rhyfel ofnadwy yma sydd yn rhwym o ychwan- egu'n ddirfawr at anawsterau'r cenhadon ymhob maes, er y gobeithiwn y gall o hyn i gyd ddod rhvw evfle newvcld i erenadaethu Heddwch v Groes. W J.O.D.

[No title]

Advertising

r Heol Undeb, Caerfyrddin.I

I Hermon, Ptasmarl.I