Hide Articles List

3 articles on this Page

__n__-_.,- '-.-_u - -..- -…

I1■' I Rhiwmatic ac Anhwylder…

Y G Y MAN FAY M MEIRION. i

News
Cite
Share

Y G Y MAN FAY M MEIRION. Gwawriodd mis y Cymanfaoedd unwaitk eto. Prin y gallwn ddweyd am dano eleni, yng ngeiriau'r prifardd Eifiou \Vyn Pa fis ddifyrred A mis McIh-Iiu ? Hyd yn hyn mwy priodol am dano ydyw ei gwpled am fis Rhagfyr- Casgl y nifwl, chwal y nifwl Hi lywethau uwch y dref.' Ac eto, cafwyd rhai dyddiau heulog a hyfryd rhwng ei gymyl a'i gawodydd. Yn bryderus yr edrychem ymlaen at yr ail wythnos ynddo, am mai dyna'r adeg benodedig i gynnal Cymanfa Meirion, a mawr obeithiem y byddai'r tywydd yn ffafriol er mwyn i'r uchelwyl eleni eto fod yng ngwisgoedd ei gogoniant. Llamai ein calon o lawenydd a di- Ichgarwcli bore dydd Mercher wrth weled tevrii y dydd yn ei lifrai, gan wasgaru ei belydrau cynnes lies yr oedd y bryn- iau a'r dolydd yn edrycli hawddgared ag erioed. Yn ysgafn ein bron yr hwyliasom am yr orsaf agosaf i fyned I Artliog enwog annwyl.' Anodd fuasai i'r Gymanfa fyned i ardal brydferthach yng Nghymru. Y mae'r golygfeydd yn ysbleu- nydd ac eang. Mor gywir y dywediad Mai Duw wnaeth y wlad, ac mai (lyn ivilaeth y dref.' Ein teimlad ynghanol ei swynion a'i chyfaredd ydoedd. 1 Mawr yw y mwyniant mewn mor a mvnydd.' Er 7inor gref y demtasiwn, rhaid peidio ymdroi yng nghwmni prvdferthion natur, gan fod adeg y Gynhadledd yn agoshau. Ar ein cyrhaeddiad yng Nghyffordd yr Abermaw, croesawyd llu ohonom gan y Parch. J. Williams Davies, gwein- idog llafurus a chymeradwy Horeb, yr eglwys oedd wedi anturio rhoddi gwahoddiad i'r Gy- manfa yno. Arweiniwyd ni i Ysgol y Cyngor, oedd yn ymyl maes y Gymanfa. Wedi cyfranogi o'r ymborth rhagorol oedd wedi ei ddarparu yno, am yr hwn y diolchwyd yn nodedig o hapus gan y Parchn. Z. Mather, Abermaw, a H. Gwion Jones, Bethel, aethom i gael golwg ar y babell: a phabell ardderchog ydoedd, wedi ei chodi ar le hvnod o fanteisiol i wrando o bob rhan ohoni. Am 2 o'r gloch y cynhelid y Gynhadledd yn Horeb, a daeth tyrfa luosog yughyd o wahanol fannau yn y sir. Llawenychem wrth weled y fath gynhulliad, a buasai'n ysbrydiaeth i gan- fod hyn yn cael ei ail-adrodd yng nghynadledclau y Cyfarfod Chwarterol yn ystod y flwyddyn. Dechreuwyd yn ddwys a phriodol iawn gan y Parch. D. Roberts, Llandrillo (gynt Llanuwch- llyn). Dyma'r Gynhadledd ddiweddaf yn ystod blwyddyn ei weinidogaeth fel Cadeirydd i Mr. Walter Davies, a hapus oedd fod tymor ei was- anaeth yn gorffen yn yr eglwys y mae yn aelod gweithgar a defnyddiol ohoni. Aeth "drwy ⢠ei waith yn hynod fedrus, a phasiwyd pleidlais o ddiolchgarwch iddo am ei wasanaeth gwerth- fawr ar hyd y flwyddyn. Cafwyd Cynhadledd llawn brwdfrydedd. Rhoddwyd sylw arbenrdg i'r Drysorfa Gynorthwyol, a chafwyd anerchiad byw ac apeliadol gan Mr. J. R. Jordan, Bala, Siaradwyd ymliellach gan y Parchn. W. Pari Huws, B.D., Dolgellau, a J. Hughes, Jerusalem. Da oedd gennym glywed fod y gwahanol cldos- barthiadau yn gwneud eu rhan mor rhagorol, a haeddiannol ydoedd y Parch. R. Evans, Aber- llefenni, o'r warogaeth uchel dalodd y Parch. W. Pari Huws, B.D., iddo am ei wasanaeth mawr ynglyn a'r Drysorfa yn Nosbarth Towyn. Prof- odd ei hun yn gasglwr tan gamp,' ac ni fu'r Gynhadledd yn fyr o gymeradwyo sylwadau Mr. Huws am dano. Diddorol ydoedd yr pu- driniaeth ar y penderfyniadau ynglyn ar Rhyfel, ac yr oedd yr hen vetemns, y Parchn. Mather, W. Pari Huws, J. Rhydwen Parry, J. Hughes, Evan T. Davies a Mr. J. R. Jordan yn eu hNv3-1- iau gofeu. Traddododd Mr. Walter Davies anerchiad gwir amserol wrth adael y Gadair. Llongyfarchwyd y Parch. Rhys Davies, Corris, ar ei ddewisiad yn Gadeirydd am y flwyddyn ddyfodol. Y mae ef yn un o aelodau ffyddlonaf y Cwrdd Chwarter. Hapus ydoedd cyfeiriad caredig y Cacleirydd at bresenoldeb y Parch. J. Pritchard, yr hwn a fu yn Ysgrifermydd y Cyfarfod Chwarterol am gyfnod maith, ac a lanwodd y swydd gyda'r fath ddeheurwydd. Diolchwyd yn gynnes i'r Parchn. George Davies, B.A., ac R. Talfor Phillips, a Mri. J. R. Jordan, a T.O. Pritchard, swyddogion y Cyfarfod Chwart- erol, am wneud eu gwaith mor drylwvr ac effeith- iol yn ystod y flwyddyn. Gofidiem fod amgylch- iadau anorfod wedi analluogi'r Parch. T. Talwyn Phillips, B.D., Bala, i fod yn bresennol yn y Gynhadledd. Methodd Mr. L. J Davies, Llan- uwclillyn, a chyrraedd mewn pryd i gael yr oil ohoni. Y maent hwy eu dau yn rhai yr hoffir eu clywed yn cymryd rhan yng ngweithrccliadau y Gynhadledd. Cafwyd Cynhadledd wir ragorol. Yn yr hwyr cynhaliwyd yr odfa ar v maes. a daeth cynulleidfa fawr ynghyd. Yll wahanol i'r Cymanfaoedd blaetiorol y buom ynddynt, awd drwy y rhannau arweiniol gan y pregethwr cyntaf, y Prifathro T. Ree. M.A., Bangor, a chadwyd at y drefn honno ar hyd y Gymanfa. Cafwyd odfa ardderchog, a'r Prifathro a'r Parch. /1 R. Gwylfa Roberts, D.Litt., yn amlwg yn Haw eu Duw. Am 8.30 bore drannoeth cynhaliwyd cyfarfod gweddi yn Horeb, ac yr oedd eneiniad ar y gwas anaeth. C Fel y dynesai adeg yr odfa ddeg, gwelid can- noedd yn dylifo o bob cyfeiriad, a bua.11 y llan- wyd y babell eang hyd yr ymylon. Cafodd y ddau uchod, yughyda'r Parchn. Peter Price, B.A., D.D., a D. Stanley Jones odfeuon neilltuol o rymus, ac yr oedd min ar eu gweinidogaeth. Diau mai Cymanfa i'w chofio ydoedd Cymanfa Arthogây gyntaf gynhaliwyd yn y lie. l4on- gyfarchwn y gweinidog a'r eglwys ar eu gweith- II garwch diball, a llawenydd i ni ydoedd gweled eu hymdrechion wedi eu coroni a llwyddiant mawr. Yr oedd y tywydd yn bopeth ellid ei ddymuno, a throai y cannoedd yn ol i'w gwa- hanol fannau wedi mwynhau gwleddoedd breis- ion yr Efengyl. G.