Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
3 articles on this Page
Hide Articles List
3 articles on this Page
__n__-_.,- '-.-_u - -..- -…
Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share
__n_ 'u BETH ESDA, AR FON. Cynhaliwyd Cymanfa Ysgolion >Sabathol Bangor a Bethesda eleni yng nghapel Bethesda, a chafwyd cymanfa lwyddiannus iawn ymheb ystyr. I,lywyddion—Mr. Richard Thomas, Chwarelgoch, a'r Parch. John Evans, Beulah. Arweinydd y eaim—-Mr. Griffith Parry, Trefiys. Cyfeilydd-Mr. R. O. Hughes, organydd Beth- esda. Arweinydd y ddau gyfarfod—Deiniol Fychan. Holwyd y plant gan Mr. John Parry, B.A., Bethesda. Profodd y gymanfa fod gwaith rhagorol yn cael ei wneud yn yr eglwysi, a dyg- odd yr arholwyr yn y gwahanol ddosiaarthiaciau dystiolaeth uchel i waith yr ymgeiswyr, a rhodd- asant gymeradwyaeth arbennig i rai o'r eglwysi a'r.gweinidogion a'r athrawon fu yn eu hydorddi. Enillwyd y gwobrwyon gan y rhai canl),-liol: ARHOUAD AR LAFAR. Safou L,Plallt dan 6 oed.—Ymgeiswyr, 30. Arliolwyd gan Miss M. J. Griffith, Penygraig, Bethesda. 1 J. JI. Williams, Peniel, Pentir. 2 M. Joseph, Treflys. 3 Nesta Jones, Salem, Bethesda. 4 Nora Griiffths, eto. 5 Mair Davies, Oarmel. 6 W. O. Williams, Peniel, Pentir, 5 H. Davies, Chwarelgoch. 6 Erarys Davies, Salem, Bethesda. 7 O. Roberts, Treftys. 8 J. B. Williams, Bethlehem. 9 T. M. Williams, eto. 10 Alwyn Jones, eto, 11 Elizabeth Hughes, Peniel, Pentir. 12 John Pritchard, Salem, Bethesda. 13 Idris Williams, eto. 14 M. J. Evans, Treflys. Safon II.-Plant dan 8 oed.—Ymgeiswyr 41. Arholwvd. gan Miss Morfudd Huws, B.A., Ysgol Sir, Bangor. ] Bita Williams, Bethesda. 2 Glenys Jones, Salem, Bethesda. Elsie Lee, Beuteh. 4 W. Roberts, Treflys. 4 J. 0. Roberts, Bethesda. J 5 Enid Williams, Salem, Bethesda. 5 Bmyr Williams, Bethesda. (i L. A.. C,riffiths, Carmel. 7 Belina Williams, Salem, Bethesda. 7 M. L. Jones, Betlimaca. 8 Eluned Hughes, Salem, Bethesda. 9 M. T. Charters, Bethmaca. 9 Katie Price, Peniel, Pentir. 10 GVyn. Williams, Ebenezer, Bangor. 10 M. Xi. Ifugl-Les, Peniel, Pentir. 10 Goronwy Williams, Pendref, Bangor. Safon III.—Plant dan 10 oed.- Ymgeiswyr 69. Arholwyd gan Mr. Thomas Rowlands, Salem, Bangor. 1 Dilys Davies, Oarmel. 2 Alwen Evans, Bethania. 3 Evan E. Griffiths, Salem, Bethesda. 4: Annie L. Roberts, eto. 5 Ceridwen Williams, eto. 6 Eluned Thomas, Treflys. 7 J. Williams, Peniel, Pentir. 7 Winnie Williams, Ebenezer, Bangor. 8 Maggie Griffiths, Peniel, Pentir. 9 Liliali Williams, Salem, Bangor. 10 J ennie Evans, Pendref, Bangor. 10 Buddug Williams, Salem, Bangor. A RHOLIADATT YSGRIKENEDie. Dosbarth I. Safou TV.-Rhai dan 12 oed. Ymgeiswyr, 51. Arholwr—Parch. J. Albert Morgan, Ebenezer, Arfon. i Aainie Lewis, Salem, Bethesda. 2 Emlyn Jones, eto. "> William Idris Griffiths, eto. .1 Gertrude Thomas, eto. 5 Mary Grace Griffiths, eto. Trefor Hughes, eto. 7 Phyllis Jones, Treflys. 8 W. Stanley Tyrer, Tvnymaes. 9 Now-Ie Hughes, Salem, Bethesda. Dosbarth II. Safon. IV-Rhai dan 14 oed. Ymgeiswyr, 40. Arholwr-Mr. G. R. Hughes., Ysgol y Cvngor, Bethel, Arfon. 1 Elizabeth Ann Griffiths, Salem, Bethesda. 2 R. Emrys Hughes eto. 3 J. 1,1. Roberts, Bethlehem. *1 Herbert Evans, Salem, Bethesda. 5 W. T. Williams, Peniel, Pentir. 6 Arfon Williams, Bethesda. 7 xlnnie A. Parry. Treflys. 8 E. O. Jones, Pendref, Bangor. 9 Idwal Davies, Oarmel. Dosbarth III.—' Hanes yr Eglwys Foreol.' Rhai dan 16 oed. Ymgeiswyr, 20. Arholwr-Parch. Thomas Lloyd, Rhostryfan. 1 .J enniQ Griffiths, Salem, Bethesda. 2 J. Ifor ;ones, Pendref, Bangor. 3 Mary Lizzie Jones, Salem, Bethesda. 4 Maggie. Jones, Treflys. 5 Jennie Hughes, Nant-y-Benglog, 6 John Buckland, Bethlehem. 7 Myfanwy Hughes, Treflys. 8 Gwladys Jones, Bethesda. Dosbarth IV. — Dan 21 oed Efengyl Matthew,' (b) Y Proffwyd a Chrefydd yr Iddewon.' Ymgeiswyr, (a), 2 (b), i. Arholwr-Parch. R. J. Pritchard, B.A., Cas- newydd. 1. Jennie E. Jones, Treflys (a). 2 G-wynetli Davies, Oarmel (a). Jennie Williams, Bethesda (b). Dosbarth V.—I bob oed. Maes Llafur, Hfengyl Matthew.' Ymgeiswyr, 2. Arholwr—Parch. Henry Jones, Trefriw. 1 Mrs. M. A. Roberts, Bethesda. 2 Miss Blodwen Thomas, eto. Cyfansoddi Ton i blant. Beirniad, Mr. D. W. Lewis, Brynaman. Ymgeiswyr, 5. Blldd\1go: :J\.fr. W. Jones, A.T.S., Bangor. j Cyfansoddi tri phennill cyfaddas i blant at wasanaeth y Gymanfa. Beirriiad--Parch. R. j Gwylfa"Roberts, D.Litt., Llanelli. Ymgeiswvr, 4. Buddugol Mr. H. T. Jones, Salem, Bangor. R.
I1■' I Rhiwmatic ac Anhwylder…
News
Cite
Share
I ■' Rhiwmatic ac Anhwylder y Kidney. Y mae Rhiwmatic yn ganlyniad ■uric avid crystals yn y llywethau a'r cymalau, effaith gormod oiiyic acid yn y cyfansoddiad y methodd yr elwlod (kidneys) ei symud fel y bwriadodd natur gyda hyn y cytuna pob meddyg gradd- edig. A'r acid hwn yw'r achos o boen yn y cefn, lumbago, sciatica, gout, anhwyldeb y dwr, carreg, grafel a dropsi. Mae llwyddiant Tabledi Estora at drin Rhiw- niatic a ffurfiau eraill o anhwyldeb yr elwlod i'w briodoli i'r flaith eu bod yn adferu'r elwlod i weithredu'n iiati-Lriol, a thrwy hynny symudir achos yr anhwyldeb, yr hyn o angenrheidrwydd a symuda'r effaith drwg a ddeillia ohono ac mac wedi iachau achosion dirifedi wedi meth- iant meddyginiaethau eraill, yr hyn sy'n cyfrif am danynt yn prysur gymryd lle'r meddyginiaethau hen ffasiwn a werthir am brisiau sydd allan o gyrraedd pawb ond y cyfoethog. Mae Tabledi Estora yn llawn deilyngu'r dis- grifiad oholiyiit-meddygiiiiaeth onest am bris gonest—■ 1/3 y blwch o 40 dabledi, neu chwe blychaid am 6/9. Ar werth gan Fferyllwyr ymhob man, lleu'n rhad trwy'r post am y prisiau hyn oddiwrth Estora Co., 132 Charing Cross- road, London, W.C. MERCHED. Dioddefa Merched yn fynych oddiwrth saldra, cur a phoen, o dan yr argrafi eu bod yn ebyrth i afiechydon sy'n gyffredin i'r ystlen deg ond yn amlach nag i'r gwrthwyneb y mae i'w briodoli i'r elwlod (kidneys), ac mewn achosion o'r fath fe fydd i flychaid neu ddau o ESTORA TABIjttS eu llwyr adferu 0 leiaf, mae'r prawf yn werth ei wneud, gan fod dedwyddweh a llwyddiant merch ar hyd ei hoes yn dibynnu'n hollol ar ei hiechyd. Y Gwerthwyr ym Merthyr-Boots, Cash Chemists.
Y G Y MAN FAY M MEIRION. i
News
Cite
Share
Y G Y MAN FAY M MEIRION. Gwawriodd mis y Cymanfaoedd unwaitk eto. Prin y gallwn ddweyd am dano eleni, yng ngeiriau'r prifardd Eifiou \Vyn Pa fis ddifyrred A mis McIh-Iiu ? Hyd yn hyn mwy priodol am dano ydyw ei gwpled am fis Rhagfyr- Casgl y nifwl, chwal y nifwl Hi lywethau uwch y dref.' Ac eto, cafwyd rhai dyddiau heulog a hyfryd rhwng ei gymyl a'i gawodydd. Yn bryderus yr edrychem ymlaen at yr ail wythnos ynddo, am mai dyna'r adeg benodedig i gynnal Cymanfa Meirion, a mawr obeithiem y byddai'r tywydd yn ffafriol er mwyn i'r uchelwyl eleni eto fod yng ngwisgoedd ei gogoniant. Llamai ein calon o lawenydd a di- Ichgarwcli bore dydd Mercher wrth weled tevrii y dydd yn ei lifrai, gan wasgaru ei belydrau cynnes lies yr oedd y bryn- iau a'r dolydd yn edrycli hawddgared ag erioed. Yn ysgafn ein bron yr hwyliasom am yr orsaf agosaf i fyned I Artliog enwog annwyl.' Anodd fuasai i'r Gymanfa fyned i ardal brydferthach yng Nghymru. Y mae'r golygfeydd yn ysbleu- nydd ac eang. Mor gywir y dywediad Mai Duw wnaeth y wlad, ac mai (lyn ivilaeth y dref.' Ein teimlad ynghanol ei swynion a'i chyfaredd ydoedd. 1 Mawr yw y mwyniant mewn mor a mvnydd.' Er 7inor gref y demtasiwn, rhaid peidio ymdroi yng nghwmni prvdferthion natur, gan fod adeg y Gynhadledd yn agoshau. Ar ein cyrhaeddiad yng Nghyffordd yr Abermaw, croesawyd llu ohonom gan y Parch. J. Williams Davies, gwein- idog llafurus a chymeradwy Horeb, yr eglwys oedd wedi anturio rhoddi gwahoddiad i'r Gy- manfa yno. Arweiniwyd ni i Ysgol y Cyngor, oedd yn ymyl maes y Gymanfa. Wedi cyfranogi o'r ymborth rhagorol oedd wedi ei ddarparu yno, am yr hwn y diolchwyd yn nodedig o hapus gan y Parchn. Z. Mather, Abermaw, a H. Gwion Jones, Bethel, aethom i gael golwg ar y babell: a phabell ardderchog ydoedd, wedi ei chodi ar le hvnod o fanteisiol i wrando o bob rhan ohoni. Am 2 o'r gloch y cynhelid y Gynhadledd yn Horeb, a daeth tyrfa luosog yughyd o wahanol fannau yn y sir. Llawenychem wrth weled y fath gynhulliad, a buasai'n ysbrydiaeth i gan- fod hyn yn cael ei ail-adrodd yng nghynadledclau y Cyfarfod Chwarterol yn ystod y flwyddyn. Dechreuwyd yn ddwys a phriodol iawn gan y Parch. D. Roberts, Llandrillo (gynt Llanuwch- llyn). Dyma'r Gynhadledd ddiweddaf yn ystod blwyddyn ei weinidogaeth fel Cadeirydd i Mr. Walter Davies, a hapus oedd fod tymor ei was- anaeth yn gorffen yn yr eglwys y mae yn aelod gweithgar a defnyddiol ohoni. Aeth "drwy • ei waith yn hynod fedrus, a phasiwyd pleidlais o ddiolchgarwch iddo am ei wasanaeth gwerth- fawr ar hyd y flwyddyn. Cafwyd Cynhadledd llawn brwdfrydedd. Rhoddwyd sylw arbenrdg i'r Drysorfa Gynorthwyol, a chafwyd anerchiad byw ac apeliadol gan Mr. J. R. Jordan, Bala, Siaradwyd ymliellach gan y Parchn. W. Pari Huws, B.D., Dolgellau, a J. Hughes, Jerusalem. Da oedd gennym glywed fod y gwahanol cldos- barthiadau yn gwneud eu rhan mor rhagorol, a haeddiannol ydoedd y Parch. R. Evans, Aber- llefenni, o'r warogaeth uchel dalodd y Parch. W. Pari Huws, B.D., iddo am ei wasanaeth mawr ynglyn a'r Drysorfa yn Nosbarth Towyn. Prof- odd ei hun yn gasglwr tan gamp,' ac ni fu'r Gynhadledd yn fyr o gymeradwyo sylwadau Mr. Huws am dano. Diddorol ydoedd yr pu- driniaeth ar y penderfyniadau ynglyn ar Rhyfel, ac yr oedd yr hen vetemns, y Parchn. Mather, W. Pari Huws, J. Rhydwen Parry, J. Hughes, Evan T. Davies a Mr. J. R. Jordan yn eu hNv3-1- iau gofeu. Traddododd Mr. Walter Davies anerchiad gwir amserol wrth adael y Gadair. Llongyfarchwyd y Parch. Rhys Davies, Corris, ar ei ddewisiad yn Gadeirydd am y flwyddyn ddyfodol. Y mae ef yn un o aelodau ffyddlonaf y Cwrdd Chwarter. Hapus ydoedd cyfeiriad caredig y Cacleirydd at bresenoldeb y Parch. J. Pritchard, yr hwn a fu yn Ysgrifermydd y Cyfarfod Chwarterol am gyfnod maith, ac a lanwodd y swydd gyda'r fath ddeheurwydd. Diolchwyd yn gynnes i'r Parchn. George Davies, B.A., ac R. Talfor Phillips, a Mri. J. R. Jordan, a T.O. Pritchard, swyddogion y Cyfarfod Chwart- erol, am wneud eu gwaith mor drylwvr ac effeith- iol yn ystod y flwyddyn. Gofidiem fod amgylch- iadau anorfod wedi analluogi'r Parch. T. Talwyn Phillips, B.D., Bala, i fod yn bresennol yn y Gynhadledd. Methodd Mr. L. J Davies, Llan- uwclillyn, a chyrraedd mewn pryd i gael yr oil ohoni. Y maent hwy eu dau yn rhai yr hoffir eu clywed yn cymryd rhan yng ngweithrccliadau y Gynhadledd. Cafwyd Cynhadledd wir ragorol. Yn yr hwyr cynhaliwyd yr odfa ar v maes. a daeth cynulleidfa fawr ynghyd. Yll wahanol i'r Cymanfaoedd blaetiorol y buom ynddynt, awd drwy y rhannau arweiniol gan y pregethwr cyntaf, y Prifathro T. Ree. M.A., Bangor, a chadwyd at y drefn honno ar hyd y Gymanfa. Cafwyd odfa ardderchog, a'r Prifathro a'r Parch. /1 R. Gwylfa Roberts, D.Litt., yn amlwg yn Haw eu Duw. Am 8.30 bore drannoeth cynhaliwyd cyfarfod gweddi yn Horeb, ac yr oedd eneiniad ar y gwas anaeth. C Fel y dynesai adeg yr odfa ddeg, gwelid can- noedd yn dylifo o bob cyfeiriad, a bua.11 y llan- wyd y babell eang hyd yr ymylon. Cafodd y ddau uchod, yughyda'r Parchn. Peter Price, B.A., D.D., a D. Stanley Jones odfeuon neilltuol o rymus, ac yr oedd min ar eu gweinidogaeth. Diau mai Cymanfa i'w chofio ydoedd Cymanfa Arthog—y gyntaf gynhaliwyd yn y lie. l4on- gyfarchwn y gweinidog a'r eglwys ar eu gweith- II garwch diball, a llawenydd i ni ydoedd gweled eu hymdrechion wedi eu coroni a llwyddiant mawr. Yr oedd y tywydd yn bopeth ellid ei ddymuno, a throai y cannoedd yn ol i'w gwa- hanol fannau wedi mwynhau gwleddoedd breis- ion yr Efengyl. G.