Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

8 articles on this Page

MORIAH, BEDLINOG.

ITELERAU RHESYMOL HE DOW CH.

I Bryn Seion, Pencoed.

I CASTELLNEDD A'R CYLCH.

[No title]

Family Notices

Advertising

ILLYTHYRAU AT FY NGHYDiWLADWYR.

News
Cite
Share

yet another generation and France will no longer be a Christian state (tudal. 127). O'm rhan fy hun, fe fyddai yn well gennyf i'm mab fod yn dlawd byth nag iddo orfod wynebu'r peryglon hyn yn ei ieuenctid. Feallai eich bod yn meddwl gwneud athrawes o Olwen. Ond oni welwch chwi, heb i mi ddweyd, fod eisieu cannoedd lawer o athrawon Cymraeg am bob un o athrawon y Ffrangeg ? Fe ddaw amser pan y disgwylir i bob athraw yng Nghymru allu dysgu'r Gymraeg i blant yn drwyadl, ac ni fydd eisieu ond ambell athraw Ffrangeg mewn ysgol ganolraddol. Cofiwch, hefyd, y bydd yn rhaid i Olwen, os am gael lie fel athrawes Ffrang- eg, fyw yn Ffrainc am flwyddyn neu ddwy, ac ni fydd hithau yn rhydd o demtasiynau lawer. filOnd efallai mai am i'ch plant gymryd diddor- deb yn llenyddiaeth Ffrainc yr ydych os felly darllenwch The object of the French novelist usually appears to be to crowd into his book as many suggestive scenes and details as possible The commoner type of novel deals as a matter of course with adultery (tudal. 360). Ydych chwi'n cofio'r helynt fu rai blynyddau yn ol ynghylch rhai o'r llyfrau Ffrangeg ddar- llenid yn yr ysgolion sirol ? Dywedir i'r diweddar Syr Edward Annwyl byth oddiar hynny fynnu darllen yn fanwl pob llyfr cyn ei osod fel llyfr darllen i'r ysgolion, rhag bod ynddynt rhyw duedd at yr aflan a'r anfoesol. Ond y mae y gwron hwnnw yn ei fedd, ac nis gwn pa sicr- wydd sydd ynglyn a'r mater hwn yn y dyfodol. Efallai eich bod am i'ch plant ymhyfrydu yn nrama Ffrainc ? Wel, darllenwch eto Impure as the French novel may be, it finds its equal in the French drama the lighter side of drama is nothing but a perpetual incitement to moral laxity. More ofter still, the writer of light French plays shows us a complete little world engaged in gratifying its passions every one illicit, in an absolutely unscrupulous manner (tudal. 361 a 362). Neu eto, efallai mai am i'ch plant astudio arluniaeth Ffrainc yr ydych Not only does the French artist revel in the nude, but he indulges in the suggestive modern French art seems to rely as much upon the suggestive as upon the beautiful' (363). Fe allwn ddifynnu llawer iawn yn rhagor i'r un cyfeiriad, ond ymataliaf. 'Rwy'n credu i mi ddweyd digon i'ch argyhoeddi mai y Gymraeg ddylki eich plant ei hastudio yn hytrach na'r Firangeg. Nid oes llyfr yn y Gymraeg nad allwch ei roddi yn ddiogel i'ch plant i'w ddarllen ni chant ddim aflan ynddo, ond lies ac ysbryd- iaeth i fywyd gwell. Da chwi, felly, pan a'ch plant yn ol i'r ysgol ar ol y gwyliau, mynnwch weld eu bod yn astudio'r Gymraeg. Os ydych am ragor o symbyliad i wneud hynny, prynnwch y llyfr, Dysgu'r Gymraeg (6c), gyhoeddwyd yn ddiweddar gan Undeb y Cymdeithasau Cymreig. Gellir ei gael am saith a dimai drwy'r post oddi- wrth yr ysgrifennydd, Mr. D. Arthen Evans, 15, Somerset-road, Barry. Dywed y beirniaid nad oes dim pwysicach ar y mater wedi ei gy- hoeddi erioed, ac y dylai fod yn Haw pob pen- teulu a phob athraw. I mi, y mae yn herald o ddechreu cyfnod newydd a rhagorach yn hanes ein hauuwyl wlad. Yr eiddoch yn wladgar, ATWEBYD.