Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
12 articles on this Page
Advertising
Prisiau Isei am Dymor Byr Y COR-DRYSOR—Emynau a Thonau, $1. POPULAR EVANGELICAL HYMNS. Containing all English Hymns, and selection Welsh Hymns of above book and some chapters of the Welsh Bible. Paper covers, 10 cts; cloth bound, 25 cts. DYLANWAD CYMDEITHASOL CRISTIONOGAETH, sef traethawd buddugol am yr hwn y dywedodd y beirniad dysgedig y diweddar Barch. M. H. Ellis, M. A. "Carem yn fawr weled y gwaith penigamp hwn wedi el argraffu. Mae yr oes mewn angen am dano," &c. 30 cts. YR ORIEL LENYDDOL. < Hanes yr Enwadan o'u dechrenad, 40 cts. EYE SALVE FOR CHURCH-GOERS, set hanes yr enwadau yn Saesneg, 75 cts. Rev. D. 8. THOMAS, D. D., 2310 River Ave.. Camden. N. J.
PICNIC BLYNYDDOL CYMDEITHAS]…
PICNIC BLYNYDDOL CYMDEITHAS ] ELUSENGAR CHICAGO. Dydd Sadwrn, Gorphenaf 8fed, cyn- elir picnic blynyddol Cymdeithas Elus- engar Chicago yn Northwestern Park. Mae chwareuon a chatnpau dyddorol wedi eu trefnu ar gyfer y dydd. Bydd y tren yn gadael o'r Northwestern Depot am 9:30 A. M., a 2:00 P. M., ac yn dychwelyd 6:30 ac 8:00 P. M. Tocynau, 50 cts; Plant o 5 i 12eg, 25 cts.
Advertising
UNDERTAKING JJARVEJY KEHLBAiCJH— UNDERTAKER, 5U Columbia Street, UtlLca, N. T. Phone MM. ROBERT BATLEY, 'MILTON D. COE H. F. Slawson Funeral Co. Merloni < Sc. 6 Blandlma, Wfiliams 1"4. Open day and night. PboÐe 179. T ANKTON, WHITE & CROCKHR—- ?? UNDERTAKERS. Mr. White formerly with H. F. Slaw- son; Mr. Crocker formerly of F. A. Cassidy Co. 12 Steuben Park. Open day and night. Telephone No. 4. Auto Ambulance Service. F. A- OAsom co- VmSRfASER, 41 GMMM 8T.. UTICA, N. I Tn scored ddfdd a dm. Tologhme M. VilliainsFieralPailors Burial and Cremation ArranpmMts 1115 WEST ST. Near South St. Utica. N. Y. TELEPHONE 2600 J. llllllllllllllllllllEIIIIIIIIIIIMIIIIIIMMIIirilllll H. D. SHELDON 1 UNDERTAKER I E "Official Undertaker E E to the E = Cambrian Benevolent, = = Society = r of Chicago" = i 912 W. Madisan St., Chicago = Telephone Monroe 393 æ iHiiiiitiiitintiiiiiiiiiiiiiiiiiifiitoiiiiiiiuim DAVID J. JONES Successor To WILLJAM W. JONES. SA RR;E-QU I NCY-WESTERN nONUriENTO SHOP-1506 MILLER ST, UTICA, N. Y. Golwir ar goas unrhy-w un I ddangoo jynllunlau a samtplau.
CYMANFA CAMBRIA. WIS. I
CYMANFA CAMBRIA. WIS. I Gan E. W. Evans (Eryr Tegid), I Wyocena, Wis. Dwywaith erioed y bum yn Cambria, Wis. Y tro cyntaf ydoedd yn lonawr, y flwyddyn hon. pan oedd yr eira yn dystewi',m cerddediad ar balmantau'r dref, a'r ail dro ydoedd ar ddyddiau'r Gymanfa gynaliwyd yno yn ddiwedd- ar, pan oedd y dref dawel a'r bryniau tlws o'i hamgylch i'w gweled ar eu goreu yn eu mentyll gwyrdd. Y tro hwn yr oedd swn fy nhraed yn taro yn erbyn y palmant yn dychryn y robyn goch oedd yn pigo'i bryfyn o flaen yr aneddleoedd clyd, a thrwy hyny yn denu fy sylw i edrych ar y llwyni prydferth oedd o'n blaen, ac yn peri i mi ddrachtio yn helaeth ac awchus o berarogl y rhosynau oedd yn lliwio ffrynt pob ty. Yr oedd yno gryn wahaniaeth y tro hwn. Nid oedd aderyn i'w ganfod yn unman y tro cyntaf, oddigerth ambell i aderyn y to haner newynog, ond ar ddyddiau'r Gymanfa canai'r adar bach yn llu Hon ar bob brigyn a llWyn o'm deutu, a theimlwn wrth eu clywed fod eu can bert yn nefoleiddio'm hysbryd a'm henaid. Mae rhywrai o'm cyfeillion wedi gofyn i mi gyhoeddi yn y "Drych" dipyn o'm hargraffiadau o'r Gymanfa, a drwg genyf i mi orfod gwrthod. Nid wyf yn deilwng i wneyd. Gadawaf waith pwysig fel yna i rywrai gallu- ocach ac i rai addfetach eu barn a'u profiad na myfi. Ond yr wyf am ddy- wedyd un peth, a'i ddweyd mor groew ac -mar onest ag y medr calon lawn o ddiolch wneyd, a dyma fo: Chafodd neb ddim lie i gwyno ar garedigrwydd pobl Cambria ddyddiau'r wyl. Dy- gwyddodd fy nghoelbren ddisgyn yn nghartref Mrs. Margaret Hughes a'i mherch, Miss Jennie L. Hughes, a bydd yr adgof am eu croeso hwy a'u teulu, a chroeso brodyr Miss Hughes, sef Hugh ac Ellis Hughes, yn sicr o fod y rhai mwyaf dedwydd a fedd fy mynwes. Yn eu cartref hwy y cyfar- fyddais a'm hen gyfaill, y Parch. H. K. Jones, B. A., Milwaukee, ac yr oedd gweled y wen siriol ar ei wyneb glandeg gystal i mi a gwrando preg-I eth, oblegid yr oedd yn y wen gymaint efengyl ag sydd mewn llawer pregeth. Tybed y geilw Mr. Jones hynyna yn "athroniaeth?" Yr ymgom fwyaf pryderus i Mr. Jones a minau ydoedd hono yn nghylch gwaeledd y Parch. John Da- vies, Racine. Y mae Mr. Davies, fel y gwyddys, wedi lbod yn gorwedd yn beryglus wael yn un o glafdai Mil- waukee, ac er fy mod wedi'm hysbysu yn gyson o'r clafdy o'i gyflwr, yr oedd yn dda genyf gyfarfod Mr. Jones am ei fod wedi ymweled droion a Mr. Davies. Llawenydd genyf ddeall ei fod yn gwella. Brawd anwyl arall gyfarfyddais yn nghartref Miss Jennie Hughes oedd y Parch. Edward Roberts, Oshkosh. Un o blant y Bala ydyw Mr. Roberts, a chefais ymgom fach felus—rhy fyr o lawer-yn nghylch yr hen ardal. Yr wyf wedi son am ein cyfarfyddiad mewn newyddiadur arall yn Nghym- ru, felly ni wnaf y tro hwn ond dweyd hanesyn tarawiadol am y diw- eddar Barch. Ddafydd Rolant, Llid- iardau, ger y Bala, hen bregethwr duwiol ac adnabyddus yn ei ddydd. Efe fedyddiodd y Parch. Edward Rob- erts, ac ymddengys mai plentyn go eiddil oedd Mr. Roberts. Wrth sylwi hyn dywedodd rhywun wrth Dafydd Rolant na fyddai y plentyn fyw yn hir iawn, o herwydd ei fod mor freg- us, mor eiddil, ac mor wan. "Tewch son," meddai yr hen bregethwr, "bydd y bachgen hwn fyw i gladdu llawer o honom ni," ac er na wireddwyd, yn llythvrenol, eiriau yr hen batriarch yn Nghymru, o herwydd ymfudiad Mr. Roberts i'r America, dichon fod Mr. Roberts wedi gwasanaethu mewn llawer angladd, oblegid y mae hyny yn rhan o waith gweinidog yr efengyl. Cyfarfyddais a'r frawd, hefyd, y Parch. Ellis Roberts, Wild Rose, yntau wedi ei eni yn y Bala, ac wedi ei fed- yddio gan un arall o hen bTegethwyr enwog a duwiol Cymru Fu, sef y Parch. Robert Thomas, Llidiardiau. Byr iawn fu'r sgwrs rhyngddo yntau a minau, o herwydd prinder amser, ond yr wyf yn dysgwyl adnewyddu'r cyfeillgarwch a'r ymgom pan gyfar- fyddwn eto. Y nesaf i ni gyfarfod ydoedd gwr y clywais ac y darllenais lawer am dano -un o feirdd tyneraf a rhagoraf ein cenedl yr ochr hon i'r dwr, a'r gWr anwyl hwnw ydoedd y Parch. J. R. Jones (Bardd yr Hendref), Columbus, Wis. Yr oeddwn wedi cyfarfod a'i frawd, y Parch. 0. 0. Jones, West Alis, ychydig cyn hyny. Dyma'r tro cyntaf i mi weled a chlywed Bardd yr Hendref, a hoffwn pe byddai amgylch- iadau yn caniatau i mi dreulio mwy o amser yn ei gwmni yntau. Efallai y caf etc. Chefais i ddim ond cipolwg ar y Parch. John C. Jones, D. D., Chicago, ond gwesgais ei law, a gwn fod ei galon yncuro yn gyflymach, fel un fy hunan, bob tro y gwelwn ein gilydd, ac yr ydym wedi dygwydd cyfarfod yn bur ami yn ddiweddar. Bydd yn dda genyf bob amser weled y Parch. John E. Jones, Chicago, a chefais yr anrhyd- edd o ysgwyd llaw a chalon gydag yn- tau, hefyd. Yr oedd yno eraill y caraswn son am danynt, ond efallai y daw rhywbeth am danynt hwythau cyn hir. Cafwyd cymanfa lewyrchus a phregethau grymus.
Advertising
— The Only Guide You Need for Safe-Tea K, 14 6 of The Old Country Tea, which delights all. AT ALL GROCERS AND TEA DEALERS, 55c A LB., in i/2 and 1-lb. Canisters only For 55c per pound we will de- liver, FREE, two pounds or more of either Te y Brenin or Brookdale Ceylon within 1,000 miles, but over 1,000 miles the price is 60c per pound. We fill no orders, however, where grocers sell our teas. Please buy from them. AGENTS WANTED 6. i. MATTHEWS & (D. Sole Importers 93 WATER ST., NEW YORK Llyfrau a Cherddoriaeth. "Cysondeb y Ffydd," Person yr Ysbryd a'i Waith, Cyf. IV., Dr. Cynddylan Jones, $1.25. Pregethau Dr. Owen Thomas, 95c. Rhys Lewis (Daniel Owen), English, 75c. Spurrels Welsh-English Dictionary (Bodvan Anwyl), $1.10. Richards Welsh-English, English-Welsh Dictionary in one volume, $1.00. "Perorydd yr Ysgol Sul" (J. T. Rees), H. N., 85c. Solffa, 50c. Rhodd Mam, dwyieithog, 50c. y dwsin. Rhodd Mam (J. Parry, Caer), Cym- raeg neu Saesneg, 35c. y dwsin. Hyfforddwr (T. Charles), Cymraeg neu Saesneg, 75c. y dwsin. Holwyddoreg (J. O. Jones, Bala), Cymraeg neu Saesneg, 65c. y dwsin. Llyfr yr Athraw, 40c. y dwsin. Llyfrau Elfenol (Ceridwen Peris), Llyfr I., 35c.; Llyfr II., 50c.; Llyfr III., 65c. y dwsin. Testament Daearyddol, Roan Gilt edge, 75c. Testament Bach Cyfeiriadol, 30c. Esboniadau a Gwerslyfrau y Cyfundeb ar law. Yr oil o'r Caneuon Cymreig ar werth yma am y prisiau iselaf. Songs of Wales, H. N., Llian, $2.00; Amlen, $1.00. Telir sylw prydlon i bob archeb gyda'r mail. W. GAERWENYDD THOMAS, 2 Clarke Place, Utica, N. Y. CUNARD MAIL Mewn Bodolaeth er's 49 Mynedd. Yr Efeilliaid (Screw Steamers). MAURETANIA 31,937 Tunell Quadruple Screw Turbine Steamers. AQUITANIA, yr agerlong Brydeinic fwyaf. LACONIA, 18,150 Tunell. CARMANIA, triple screw turbine, 19,530 tunell. CARONIA, twin screw, 19,630 tunell FRANCONIA, 18,142 tunell. Yn Mhlith Agerlongau Mwyaf, Cyflymaf ac Ardderchocaf y Byd. Yn morio DDYDDIAU MERCHER a SADWRN rhwng New York, Boston a Liverpool. SALOON ODIDOG AIL GABAN A STEERAGE DIGURO I DEITHWYR AR BOB AGERLONG. ORDUNA, JULY S, 5 P. M. Piers 54-56, foot 14th St., North Rive, New York. THE CUNARD S. S. CO., Ltd., 24 State St., New York. AGENTS YN UTICA, N. Y.—A. M. Rob- erts, 58 Howard Ave.; J. H. MacGarrity, Mann Building. POULTNEY-W. H. Rowland. NEW YORK MILLS-Griff Williams. GRANVILLE—Rees G. Williams. MILWAUKEE, WIS.—J. Elias Jones, 86S Shepard Ave. SLATINGTON, PA.—Daniel G. Pierce. Line and Halftone guts IMMMW.lW,.H.V.lMWl.Y.l For all printing purposes. Let us get you up a design for the heading of your business stationery. Pen- cil sketch furnished free of charge Don't you wan't a cut of your- self Write for prices and samples jm&a M'MM''Wl'Wl'¡Y.lIM'! Thomas J. Griffiths Printer and Publisher Hotel and Liberty Streets UTICA, N. Y. 1859 1916 FERRIS & CO. GENERAL INSURANCE SERVICE 166 Genesee Street. Room 2 Phone 1186-J WILLIAM D. FERRIS LOS ANGELES. CALIF. Flower Apartments (Cartref y Cymry). 318 South Flower St. Rhad, Cyfleus, Cysurus. Crown Hill Yellow Car to 3rd and Flower St. MRS. LILY DAVIES. ProD. Phone Broadway 5290. mOCH SVAN8, 386 West St., NEW YORK OFFICE. PALACE HOTEL Agent Cymreig Hynaf y White Star, Cunard a'r American lines yn New York. Bydd yn cyfarfod pawb a bryn- ant eu tocynau gydag ef ac yn eu gosod ar yr agerlongau. Cyfeirier ato fel uchod. R. D. 2841 West Adams St CHICAGO, ILL. Agent y "Drych" a'r "Cambrian." Agent yr holl gwmniau agerlongawl I ac o'r Hen Wlad. I deithwyr a bryn- ant docynau ganddo cyfarfyddir hwynt yn y stations ar eu ffordd i Gymru. Eglwys Habron, Chica III Adams St., congl Francisco Ave. Cenadwr: GWILYM E. JONES, 2942 Wilcox St. Ond anfon ato, cyferfydd ein cenadwi Gymry dyeitlir ar eu dyfodiad I'r ddlMc neu eu Aynediad trwotid. Telephone, Garfield 11"
ADOLYGIAD Y WASG.
ADOLYGIAD Y WASG. Yn fuan wedi agor "Dysgedydd y Plant," daethom at ysgrif ymarferol "Y Ferch a Gwaith Ty," gan ryw Fartha. Mae gwir angen y dyddiau ,hyn am ofalu am hawliau y ty. Mae cadw ty, a'i gadw yn lan yn un o'r celfau cain. Yr oeddem yn synu tipyn weled pregeth yn "Trysorfa y Plant" gan un mewn gwisg ghaki. Gellwch ddweyd a fynoch, ond nis gellwch wahanu Cristionogaeth a hun- an-amddiffyniad gwareiddiad. Byddai gadael y byd yn ddiamddiffyn y pechod penaf. Yn yr "Ymofynydd" cawn yr ysgrif- au a ganlyn: Ymson y Myfyriwr; Gair o For y Canoldir; Pechod, &c.; Cym- deithasfa Undodaidd Deheudir Cymru; eto, De-Ddwyrain Cymru; Marwgofion, Manion a Hanesion. Watcyn Wyn yw testyn "Ymson y Myfyriwr;" un o'r ,bechgyn mwyaf difyr oedd Watcyn. Mae y Parch. Penar Griffiths wedi rhoi ei hanes yn ddyddorol yn ei gofiant gyhoeddwyd yn ddiweddar. Mae yn y "Lladmerydd" 'bethau dy- ddorol yn y ibyd crefyddol a duwinydd- ol: Nodiadau Amrywiol; Adenedigaeth a'i Berthynas a Gair Duw; Yr Ysgol Sabbothol; Galw yr Iesu i Mewn; Ty&t- iolaeth gelynion i werth y Beibl; y Pechod Gwareiddiol; Barddoniaeth y Beibl; Gwersi Undeb yr Ysgolion Sab- bothol; Ton—Eirwen. Ceir a ganlyn yn yr "Adenedigaeth": "Dywedir i ryw flaenor ddadgan ei syndod at fawredd Islwyn, fel bardd a phregethwr, wrth Mr. Mathews, Ewenni. "Dyna ddyn bach mawr ydyw'r Islwyn yna." "Ie, yr 'ych ch'i yn iawn 'ch gwala, ond pwy ddiolch iddo fod yn fawr? fel yna y ganed e' welwch ch'i," meddai y gwr mawr arall o'r Ewenni." Mae amrywiaeth yn y "Gymraes;" pethau iperthynol i'r bywyd ymarferol hwn, ac yn eu plith "Ffeithiau Pwy- sig." Cenadwri yr Angel; 0 Gell Modryb Nel; Llythyr Jane Grey; y ddiweddar iMrs. M. Hughes, Amlwch; Beth fydd Effaith y Rhyfel ar Gymer- iadau ein Hieuenctyd? Ystori: Meri Ann y Foty. Tudalen gwerth ei ddar- llen yw "Materion Cyffredinol." Yr ydym yn rhy dueddol i anwybyddu ein bywyd beunyddiol. Cynwysa y "Cyfaill" yr ysgrifau hyn: Y Diweddar T. Solomon Griffiths, Utica, N. Y., gyda darlun; A ydyw'r Arglwydd yn ein Plith?; Min y Ffordd, &c.; Lloffion Adgof; Sylwadau ar Ddy- gwyddiadau y Mis; Canu Mawl; Maes Llafur yr Ysgolion Sabbothol; Notes on Christian Endeavor Topics; Cyfun- debol; y Rhai a Hunasant; Nodiadau Cyffredinol, &c. Dyma ddywedir yn y Nodiadau: "Y rheswm a rydd offeir- iedyn am fodolaeth y rhyfel gwaedlyd yn Ewrop, mewn ysgrif o'r eiddo yn y "Living Church," yw mai barn Duw ydyw ar Brydain am ddadgysylitu yr Eglwys oddiwrth y wladwriaeth yn Nghymru. Cawn yn "Llusern" y Nodiadau ar- ferol; Yr Echwynwr Ganol Nos; Beibl a Gweddi; Nodiadau ar Efengyl loan; Llythyr Robert Roberts, Clynnog, at Charles o'r Bala. Ceir yr ysgrifau canlynol yn y "Drysorfa:" Gogoniant Crist; y Ro- bertiaid; Traddodiadau yr Hynafiaid; Adgofion am Rai o Weinidogion Arfon; Efengyl loan; Cymdeithasfa Garth, Maesteg; Eto Rhuthyn; O'r Niwl; Y Ddau Gwm a'r Ddau Ddiwygiad; Nod- iadau y Mis; Fod yn rhaid gweddio yn wastad; Cenadol; y Cronicl Cenadol; Adolygiad y Wasg, &c., yn nglyn a phwnc rhyddid a chydwybod dywed y Gol. fel hyn: "Yn Mhrydain y mae y pwyslais wedi bod ar hyd y blynydd- oedd ar ryddid a hawliau yr unigol, a hawliau y Wladwriaeth, i raddau, wedi cael eu hannghofio. Ac nid oedd hyny yn ffafriol iawn i ddadblygiad y gwlad- garwch sydd yn cael mynegiad gwych yn ngeiriau Kipling: 'Who dies if England live!' Agorir y "Dysgedydd" ar ddarlun o'r Parch. James Charles, Dinbych, Cadeir- ydd yr Undeb Cymreig—1915-16, a dy- lynir gydag ysgrif arno; Dyn Duw; Yr Ewyllys; Yr Eglwys Rydd Unedig (gan amryw); Offrymau'r Encilion; Oddiar y Twr; Uniad yr Enwadau; Congl yr Ysgol Sabbothol; Adolygiadau; Cyfar- fodydd Chwarterol, &c. Gresyn a gwir- ion o beth fod neb yn Lloegr neu Gymru yn cyfrif D. Lloyd George yn fradwr. Os yw, dylem fyned yn frad- wyr oil. Pobl dda ydynt! Fel hyn y sylwa y Gol.: "Ac onid yw'r ymgyf- lwyniad llwyr a di-arbed hwnw i foa orchwyl bynag a fo ganddo mewn llaw ar y pryd, syd,d yn brif nodwedd ei gymeriad trwy ei oes, gyda'i ddiffyg amynedd a mesurau hanerog, cloff a phetrus, yn ddigon o esboniad ar y cwrs a gymer, heb briodoli iddo ddich- ellion ystrywgar a hunangeisiol? Cawn yn yr "Eurgrawn" gofiant Mr. a Mrs. John iroberts, Pandy, Llanbrynmair, gy,da darluniau; ac yna Maddeuant; y Diweddar Barch. Wm. Morgan; Adgofion; Gwladgarwch; Eti- feddiaeth y Zoroastriaid; Eisteddfod yr "Eurgrawn;" Tri Darlun o Bregeth- wyr Cylchdaith Coedpoeth yn 1865; Gwr Pen y Bryn; 0 Gell y iGolygydd, &c. Cyffyrdda y Gol. a phwnc y gwrthwynebwr cydwybodol yn ei "Gell," a dywed mai anhawdd yw gwahaniaethu y gwrthwynebwr cyd- wybodol oddiwrth y rhagrithiwr, ac eto y diystyrir hawliau y gydwybod mewn rhai engreifftiau. Yn y feirn- iadaeth ar y "Darn Cymraeg" dywed y beirniad (Tecwyn Evans) fel hyn am y cystadleuwyr: "'Ni wyr llawer o hon- ynt fod eisieu prif lythyren ar ol 'full spot,' ac nad oes angen llythyr-en felly ar ol comma! Ni wyddant y gwahan- iaeth rhwng Cymru a Cymry!" Ond beth am yr Ysgol Sul lie y magwyd yr anllythyrenogiaid hyn? Synwn hefyd na roisai y beirniad "wahanod" yn lie "comma," a "diweddnod" am "full stop." Mae eyflwr Cymru yn orgraff- yddol yn druenus! Y mae yn "Cymru" yr amrywiaeth arferol, ac y mae yn hyfrydwch teith- io drwy y tudalenau gyda'u harogl am- rywiol. Ni flinir ni gan yr un swn a'r un peth. Cychwynir gyda Nerth Add- fwynder, a dylynir ag Addysg yn Nghymru ar ol y Rhyfel; Mai; Castell y Bere; Barddoniaeth Cywair; Ambell i Hen Beth; Tomos John; Llythyr Seneca at ei Fam; Lien Gwerin Ffair Rhos; Blodau'r Gynganedd; Cronicl y Misoedd; Rhwng Rhyfeloedd; Llyth- yrau at y Golygydd; At Ohebwyr. Ych- ydig o galonogiad rydd y Gol. i'r beirdd. Elbe Cynddelw am y beirdd "Ni chant dal yn y byd hwn, nac yn y byd arall, am wn i." Credwn mai y bardd ddylai gael tal yn y nesaf, gan na cha ddim yma. Mae yn y rhifyn hefyd ddarnau barddonol dyddorol. Ymafaela yr ysgrif gyntaf yn y "Beirniad" a ;phwnc trwm, sef y Rhy- fel a Hollalluogrwydd Duw," ac y mae yn werth ei darllen a'i 'hefrydu. Nid Ilawer o ddim newydd ddywedir ar y dirgelwch oesoesol o hollalluogrwydd Duw ac annibendod amgylchiadau y byd, a'r unig beth a wna y darllenydd wedi myned drwyddi yw rhoi ochen- aid. Dylynir gan "Y Chwyldroad Cymdeithasol yn Nghymru yn Nghyf- nod y Tuduriaid," yr hwn bwnc a wna i ni, annghafia y ddyrysbleth rhag- arweiniol. Yna rhoir tro am yr hen fardd helbulus a fu farw yn alltud wedi gwastraffu ei ddoniau i raddau uchel yn ofer, Goronwy Owen; eto ca sylw mawr gan ei gydwladwyr. "A EIlir Dysgyblu'r Meddwl" sydd ysgrif athronyddol, a gellid tybio y gellid at- eb yn gadarnhaol mewn mynyd, ond a yr awdwr i athronyddu y gofyniad yn ddyddorol; Adolygiadau, &c. Ysgrif ryfedd o ddyddorol i Gymro crefyddol yw "Y Llawlyfr Moliant Newydd" (y Bedyddwyr), yr hwn a feirniadir yn Ilym iawn. Mae yr ysgrif yn gollfarn- iad enbydus ar Olygyddion y Llyfr. Y maent yn ddiesgus. Rhaid eu bod hwy, yr argraffydd a darllenwyr y prawfleni yn cysgu, pan aeth y gwaith drwodd. Ni fyddai tymor yn y ben- ydfa allan o le iddynt fel cosb. Ond gallwn ddysgwyl aflerwch o'r fath yn ein hiaith, os y deil ein dysgawdwyr i ymyryd a'r OFgraff a'u canlynwyr i'w dylyn yn anystyriol. Gresyn yw genym weled ein cyhoeddiadau parch- us yn Nghymru yn dylyn yr 0. iN. (ac heb ei dysgu) i bob aflerwch, fel def- aid yn dylyn hyrddod. "Yn mlaen, y'mlaen, ymlaen" yr elont, hyd nes y bo ein Llyfrau i gyd fel "Llawlyfr Moliant v B!" THE WELSH OUTLOOK is an In- teresting number: Notes of the Month; War and Education; Welsh University Reform; The Theater; A Rare Printing Press; A Battalion of Preachers; A Day iOut; Anthropo- morphism and Science, &c. In the "Battalion of Preachers" we find the following pungent remarks: "You need not interrupt by saying that the brotherhood of man, and the sister- hood of the churches have been preached by them. What I want to insist on is that there is a difference between preaching a theory and preaching a fact that has seared it- self on one's consciousness. None of these men would acknowledge to you that they did not regard the churches as sisters, and yet can you or anyone else say the ministers of the various denominations in rural Wales have regarded themselves as married to members of the same family?" Sis- terhood means little. Sisters and their husbands are often on bad terms.
Advertising
W-Rhys-Herbe,rtl.s Most Important riusical Compositions Sacred Cantatas Bethany—For soli and chorus of mixed voices. Book by Wm. ApMadoc$1.00 In Solfa .60 The Nazarene—For soli and chorus of mixed voices. Book by Wm. Ap- Madoc$1.00 Bethlehem-Far soli and chorus of mixed voices. Book by Wm. Ap Madoc $1.00 OPERETTAS For Amateur Organisations. For Adult Voices. Sylvia In two acts. For mixed voices $1.00 A Nautical Knot—In two acts. For mixed voices $1.00 Bulbul In two acts. For mixed voices $1.00 The Bo'sn's Bride-In two acts. FoT mixed voices$1.0<i Captain Van der Hum—In two act For male voices n .Of The Wild Rose-In two acts. For ladies voices .75 For juvenile Voicef, In a Flower Garden-In two acts..75 Eisteddfodau Committees and direc- tors of Choral and other societies will be accommodated with sample copies of choruses, etc., for purpose of makinp up program. Request our complete catalog of Part-Songs for Juvenile, Male, Ladies' and Mixed Voices. J. Fischer & Bro., New York 7. 8. 10 & 11 Bible House (Astor Place Sole agents for Stainer & Bell (Lon. don) and Year Book Press (London) editions. Y Brif Wobr, Arddangosfa y Panama-Pacific, San Francisco, 1915; Y Brif Wobr, Arddangosfa Panama-California, San Diego, 1915 0 Ran Bias ac Ansawdd mae Baker's Cocoa YN BERFFAITH Mae iddo flas danteithiol a lliw naturiol ffuen y cocoa; MM. tNMSj! parotoir yn y dull peirianyddol perffeithiaf; heb ddefnyddio isH nwyddau fferyllol, perarogledd na lliw celfyddydol. Y mae 'i' yn bur ac iachus, ac yn unol a gofynion deddfau y Bwydydd 1l Pur sydd yn y Dalaeth a'r Wlad. Rhybudd: Sicrhewch y cywir gyda'n trafnid-nod ar y Pecyn. WALTER BAKER & CO. LTD. Sefydlwyd 1780 DORCHESTER, MASSACHUSETTS.
Family Notices
I In F-Mw ftttfynsr Tal, yn ol £ 5 oemts am bob poi- air iWtwii am cjbooddi Bsrddoar iMtfe yn BgltotaCa 7 QenedSgMtiam a'r Marwoliethau- PRIODWYD DAVIES HARRIS. Mehefin yr 20fed, 1916, yn ei gartref, 516 N. 53Td St., Philadelphia, Pa., unwyd mewn priodas gan y Parch. R. E. Williams, Mr. David J. Davies a Miss Matthesta Harris—y ddau o Fangor, Pa. Eidd- unwn i'r par ieuanc fywyd hapus a gwasanaethgar, ac awyr ddigwmwl hyd derfyn y daith. OLIVER JONES. Mehefin 12, 1916, yn nhy eu cyfeillion, Mr. a Mrs. W. C. Roberts, 187 Strachan Avenue, Toronto, Canada, Mr. Richard Edward Oliver, .pregethwr ieuanc gyda'r M. C., gynt o Bethesda, G. C., a Miss Mar- garet Anna Jones, gynt o Ruthin, G. C., a gweinyddwyd ar yr achlysur gan y Parch. J. R. Evans. TELLER ROBERTS. Mehefin 22, 1916, yn nhy eu cyfeillion, Mr. a Mrs. Hugh Parry, 485 Indian Grove, Toronto, Canada, Private Harold
Family Notices
Augustus Teller, a Miss Annie Roberts, gynt o Garreg Lefn, G. C., a gweinydd- wyd ar yr achlysur gan y Parch. J. R. Evans.
CYFARFOD CHWARTEROL EGLWYSI…
CYFARFOD CHWARTEROL EG- LWYSI ANNIBYNOL CYMREIG GOGLEDD-DDWYRAIN PENNA. Cynaliwyd y diweddaf gyda'r eglwys yn Jermyn, Mehefin 10fed a'r lleg, 1916. Galwyd y Gynadledd i drefn am ddau o'r gloch ibrydnawn Sadwrn, gan y llywydd, y Parch. W. T. Holmes. Wedi canu emyn, arweiniwyd mewn gweddi gan y Parchn. David Jones a H. R. Hughes. Galwyd rhestr yr eg- lwysi a'u cynrychiolwyr: Nanticoke, y gweinidog; Plymouth, y gweinidog; Edwardsville, W. D. Morgan a'r gwein-i idog; Wilkes-Barre, Ail Eglwys, John D. Stephens a John R. Davies; Wilkes- Barre, Eglwys Gyntaf, D. E. Jones a'r gweinidog; Miner's Mills, y gweinidog; Pittston, John Evans, Isaac R. Ben- jamin a'r gweinidog; Taylor, David Harries, Albert D. Daniels a'r gwein- idog; Scranton, Hen Eglwys, D. R. Jones, William Anthony a'r gweinidog; Scranton, Tabernacl, John B. Jones, S. J. Phillips, Howell Powell, David Pierce a'r gweinidog; Scranton, Provi- dence, John Lloyd, Proff. Lewis a'r gweinidog; Olyphant, John Watkins, William Howells, Simon Hopkins &'r gweinidog; Jermyn, D. R. Morgan, John L. Jones, Enoch James; Forest City, Robert Jones a'r gweinidog; Spring Brook, y gweinidog; Ymwel- wyr, Parch. M. P. Jones, Nanticoke, a J. D. Thomas, Taylor. Darllenwyd a chadarnhawyd cofnod- ion y cyfarfod diweddaf. Enwyd y Parch. D. Jones i weithredu ar y Pwyllgor Trefniadol. Pasiwyd fod y cyfarfod nesaf i'w gynal yn Miner's Mills yn ol y daflen. Derbyniwyd y Parch. J. D. Thomas, yn awr o Taylor, yn aelod o'r Gynad- ledd ar sail llythyr cymeradwyaeth o Gyfarfod Chwarterol Ohio. Yr oedd Mr. Thomas yn weinidog yn Akron, 0., cyn dyfod o hono i Taylor. Cafwyd ymdrafodaeth faith ar y Cyfarfod Chwarterol diweddaf, pa un a dalodd y ffordd a'i peidio. Cwynai rhai fod rhy fach o Gymraeg ynddo. Credwyf, er hyny, mai llwyddiant yd- oedd. Penderfynwyd ein bod i gael Cyfarfod Undebol eto ryw dro yn y dyfadol; a dewiswyd y brodyr Dr. Edwards, Parch. D. Jones ac Inspector1 S. J. Phillips yn bwyllgor i gydweith- redu a phwyllgor o'r Wyoming Confer- ence er dwyn allan raglen foddhaol i'r cyfarfod undebol. Gan nad oedd y Pwyllgor er Ad-drefnu'r Rheolau a'r Cyfansoddiad wedi cael hamdden i gyfarfod, nid oedd adroddiad i'w gyf- lwyno gan y pwyllgor hwn. Cyflwynodd y Pwyllgor Trefniadol amryw achosion gerbron yn y ffurf o benderfyniadau, y rhai a dderbyniwyd gan y Gynadledd: "Ein bod yn dymuno gosod ar got ein cydymdeimlad llwyraf a'r gwahan- ol genedloedd yn Neheubarth Ewrop a rhanau o Asia yn ngwyneb y caledi a'r dyaddefaint fel canlyniad y rhyfel erchyll sydd yn cael ei dwyn yn mlaen yno; ac yn anog ein heglwysi i gyn- orthwyo xn arianol y gwahanol gym- deithasau sydd yn trefnu i leddfu dyo- ddefiadau y trueiniaid hyn." "Ein bod yn gofidio fod cynifer o genedloedd goleuedig a Christionogol mewn rhyfel gwaedlyd yn y cyfnod hwn o hanes y byd, a'n bod yn erfyn ar i'n hegl,wysi gydeiriol ar i'r Ar- glwydd, sydd yn llywodraethu yn mreniniaethau dynion, ddylanwadu mewn modd sydd ddoethaf yn ei olwg Ef i wasgar y rhai sydd ddoethaf yn ei olwg Ef i wasgar y rhai sydd dda ganddynt ryfel, i adfer heddweh yn mhlith teyrnasoedd y ddaear, i frysio yr ade.p^y byddo'r cleddyfau yn cael eu troi yn sychau a'r gwawyffyn yn blad- uriau, ac na byddo i'r bobl ddysgu rhy- fel mwyach." "Ein bod yn cydymdeimlo a'r Ar- meniaid sydd yn dyoddef erledigaeth greulawn, oblegid eu hymlyniad di- ysgog wrth grefydd bur y Testament Newydd, ac yn ymwrthod a themtas- iynau a osodir o'u blaen gan y Tyrc- iaid a'r Mahometaniaid; ac yn gwedd- io ar iddynt gael nerth i lynu wrth y ffydd a rodded unwaith i'r saint, ac, os bydd raid, rhodder iddynt ras i roddi eu bywyd dros eu ffydd. Erfyniwn ar i'n heglwysi gynorthwyo y genedl fech- an hon mewn modd sylweddol yn ei chyfyngderau mawrion." "Ein bod yn talu rhan y Gymanfa Gymreig am dafleni 'Schedule of Apportionment' Enwyd y Parch. M. P. Jones, Nanti- coke, i ddarllen papyr yn y Cyfarfod Chwarterol nesaf ar "Hawl yr Eglwys ar y Bobl Ieuainc, a hawl y Bobl Ieu- ainc ar yr Eglwys." Siaradodd y Parch. W. R. Edwards, Tabernacl, Scranton, ar y Gymanfa, yr hon sydd i'w chynal yno yn mis Medi. Rhoes wahoddiad cynes i'r brodyr oil ddod i'r Gymanfa. Diweddwyd y Gynadledd trwy ganu emyn, ac offrymwyd gweddi gan y Parch. Theophilus Davies. Y Moddion Cyh,oeddu,s.-Nos Sad- wrn, pregethwyd gan y Parchn. H. R. Hughes a Dr. T. C. Edwards. Boreu Sul, gan y Parchn. J. D. Thomas a David Jones. Nawn Sul, gan y Parchn. J. M. Pritchard a W. S. Jones. Nos Sul, gan y Parchn. I. T. Williams a W. R. Edwards. Croesawyd y Cyfar- fod Chwarterol yn gynes gan yr eglwys yn Jermyn. Cafwyd cynrychiolaeth dda, ac yr oedd min a mynd ar bob peth.—J. M. Pritchard .(Ysg. am y tro).
Advertising
EVAN WILLIAMS Great Welsh Tenor. Management, Wolfsohn Musical Bureau, 1 West 34th Street, New York City. GWALIA HOUSE 2909 Wilcox Street, CHICAGO, ILL. Gwesty Cymreig, Ystafelloedd cysuras Prisiau rhesymol. Cartref dymunol i fechgyn Cymru. Ychydig gamrau o gapel Hebron. R.T. WILLIAMS, Perchenog Phone Kedzie 1783. Pritchard's Stables and Yards Pine St.; i'r Gogledd o Lafayette St Oddeutu dau can troedfedd o hen ystablau y Mansion House. Lie i 200 o geffylau. Cyfleusderau Ardderchog. Wm. Pritchard, Perchenog. GWALIA MOUSE. 509 W. 23rd STREET, mw YORK CITY. ClAVBn WMLLkMB. Y Ty CymreLg agoeal i'r 0. ard, y White Star a'r Americ". Mnee. Gworthir tocynaa I bat Darth o'r byd aim y PriMao ItMJ Of odaV cnhuol gvmxmbm Yr wyf a phrofiad blyuyddes, se folly a mentals I sicrhatt y U. 9«0d gorea. Cyfarfyddaf • phawto ond cael gair yn nalatra r,)4IItY flan a drmmnol 1 yvnrri iryr. PrisiM rtmillnA
RYWLE YN CHICAGO! j
RYWLE YN CHICAGO! j John.—Wyt ti'n myn'd? William.—Myn'd i b'le? J.—I'r Picnic yn Northwestern Park. W.—Pryd? J.—Dydd Sadwrn, Gorphenaf yr Sfed. W.—Ffordd 'rwyt ti'n myn'd? J.—Gyda'r tren o orsaf y North- western. W.—Pryd ma'r tren yn cychwyn? J.—Mae un yn gadael am naw y boreu, a'r Hall am ddau y p'nawn. W.—Ydi o yn ddrud? J.—Nag ydi; dim ond haner dolar i bobol a chwarter i blant o bump i ddeuddeg. W.—Lie ca'i dickats? J.—Gin John Ernest Jones, 3014 Warren Ave., ne' rhywun o aelodau'r Gymdeithas. W.—Cymdeithas be'? J.—Ond Cymdeithas Elusengar y Cambrian sy' wedi helpu canoedd e's dros drigain mlynedd. W.—Oes 'na sports? J.—Sports, oes, races a neidio a lot o gampia erill. W.—Rwbath arall? J.—Oes, mae yna chance i bawb gael prize os bydd o yn aelod o'r Gymdeith- as. Ydi o ddim ond doler i ti a haner doler i dy wraig i fod yn aelod. Gei di w'bod y secrets am y prize pan ddoi di yno. W.—Fyddwn ni yno i gyd, y wraig a'r plant acw a fina, a mi ddweda'i wrth bawb. J.—Alright. So -long.