Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

9 articles on this Page

NEWYDDION CYMRU. -I-

Advertising

I LAKE CRYSTAL. MINN.

News
Cite
Share

I LAKE CRYSTAL. MINN. Gan William Abercaseg. Lake Crystal, Ebrill 26, 1916.— Gyda gofid y cofnodwn farwolaeth ein cyfaill hoff, Owen M. Roberts, yr hyn gy;merddd le nos Sadwrn, y 15.fed cyf., wedi bod yn dyoddef am wythnosau o dan y caner. Ni bu yn iberffaith iach er's dwy flynedd, ond ni thybiai neb ei fod mor wael hyd o fewn ychydig wythnosau cyn ei farwolaeth. Gan- wyd ein cyfaill yn Pipersville, Wis., Tach. 27, 1852, yr hynaf o blant John W. a Mary Roberts. Yn 1866, symud- odd y teulu ar ffarm yn agos i Water- town, Wis., lie y ibu ein cyfaill hyd Mawrth 22, 1875, pan yr ymbriododd a Mary Ann Pritcbard. O'r undeb hwn ganwyd iddynt ddau o blant, sef Mrs. G. H. Humphrey, Mcintosh, S. D.; a John P. Roberts, Fort Atchinson, Wis. Wedi ipriodi sefydlod,d ar ffarm yn ardal Ixonia. Cyfarfu a gofiid blin, Chwef. 19, 1881. yn marwolaeth ei an- wyl briod; colled nas gwyr neb ond y profiadol beth ydyw. Bu yn y lie hwn am 28 o flynyddau yn amaethu. Hyd. 8, 1884. priododd yr ail waith gyda Miss Annie Owens, Remsen, yr hon sydd yn ch.waer i briod y diweddar Barc;h. D. M. Jones, Remsen. Bu yn hynocl ofalus o hono ac yn ei gystudd olaf bu hi a Mrs. Humphrey y ferch a'i frawd Thomas C. Roberts a Richard H. Williams yn orofalus am dano ddydd a nos. Cafodd bob caredig- rwydd allai y rhai uchod a'r meddyg ei roddi iddo. Gedy i alaru ar ei ol briod, dau o iblant, dau frawd a chwaer, a dau haner brodyr. Yr oedd ein brawd er's wythnosau yn gwybod ei fod yn myned i'n gadael, er hyny yr oedd yn hynod hyderus am y dyfodol. Gofynodd yr ysgrifenydd iddo y tro diweddaf y bum yn ei weled pa fodd yr oedd arno o ran ei feddwl, dywedodd "Mae y graig yma." dyna gymaint allai ddweyd yr oedd wedi myned mor wan. Yr oedd o dymer siriol, ac yn hynod am ei garedigrwydd a'i gymwynas. Er pan symudodd i'r Ile hwn yn Hydref, 1912, bu yn hynod ffyddlawn i holl ddyled- swyddau ei broffes grefyddol, yr hyn a allsi hwn efe a'i gwnaeth. a'i wneyd a'i holl egni. Colled i eglwys yw colli ffvdrlloniaid pan mae cynifer yn an- ffvddlon yn y blynyddoedd hyn. Chwith iawn yw gweled el le yn wag vn y ca-nel, ond gartref y teimlir y chwithdod a'r hiraeth yn ei ofid dyfnaf a mwyaf parhaol. Cyflwvnwh Mrs. Roberts i ofal Barnwr y gweddwon. Gall Efe ofaJu am ei blant yn mhob iimgylchiad, a hefycl y plant i'r un gofal tadol a graslawn. Cynaliwyd y gwasanaeth angladdol rldyctd LIun canlynol i'w farwolaeth, a °rwasanaethwyd gan y Parch. E. W, Griffiths. Cambria, Minn.; John D. Jones, W. E. Evans, a D. Edwards. Aed a'i weddillion i'w daearu i Ixonia, Wis., lie y gwasanaethwyd gan y Parch. H. W. Owens a O. O. Jones.

GWYL Y PASC YN WILKES-BARRE,…

Advertising

Y DDRAMA "GWENLLIAN."I

[No title]

Advertising

NEW YORK A VERMONTI