Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
10 articles on this Page
MARWOLAETHAU.I
MARWOLAETHAU. I Y Goeledd. I Bagillt.—Meh. 7, Thomas Griffith, 2 Sea View Terr., yn 68 oed. Bala.—Meh. 3, Robert Williams, gynt o'r Felin Newydd, yn 67 oed.—Meh. 5, Mrs. Morris, priod y Parch. D. Morris, Porthcawl, yn 62 oed. Bangor.—Meh. 9, yn Bryn Derfel, Elizabeth, priod H. R. Jones, yn 51 oed. Bethesda.—Yn ddiweddar, John Wil- liams, 'Rynys. Bettwsycoed.—Yn ddiweddar, Major Ashley, Y. H., Hafodanedd, yn 5;6 oed. Caernarfon.—Meh. 4, Cyngorydd Robt. Williams, Dinorwig St., yn 57 oed. -.Meh. 9, John Evans, nailer, Ed- ward St., yn 85 oed.—Meh. 7, Mrs. Margaret Griffith, Shop Mount, yn 83 oed.—Meh. 10, Mrs. Margaret Griffith, 49 Hendre St., yn 81 oed.- Meh. 12, John S. Morgan, Eleanor St., yn 73 oed. Coedllai.-Mai 26, Alfred Gunning, Stryt Cae Rhedyn, yn 20 oed.—Mrs. Mary Lewis, Tai Newydd, yn 79 oed. Corwen.—Yn ddiweddar, Alfred Parry, Draper, yn 40 oed. Dolgellau.—Meh. 8, Mrs. Dinah Lloyd, gweddw Lewis Lloyd, Upperfield St., yn 85 oed.—Wm. Jones, Clywedog, yn 68 oed.—Mrs. Jane Williams, gweddw E. Ylltyr Williams, llyfr- werthwr, Meirion House, yn 83 oed. —Wm. Jones, Clywedog, Brithdir, yn 68 oed. Ebenezer.—Mehefin 4, Richard Owen Jones, Hendre Wen, yn 90 oed. Edeyrn.—Yn ddiweddar, Mrs. J. Ro- berts, Pwllclai, yn 93 oed. Ffestiniog.—Yn ddiweddar, Richard Jones (gof), 1 Cromwell St., yn 66 oed.—Cadwaladr Roberts (Pencerdd Moelwyn), arweinydd cor meibion y Moelwyn. Gwalchmai. Mai 27, Elizabeth Evans, Bryn Arvon (gynt i Bryntir- ion) yn 86 oed. Helygen.—Meh. 2, Mrs. Jones, priod Ll. P. Jones, prifathraw Ysgol Due Westminster, yn 44 oed. Lerpwl.—Yn ddiweddar, Maggie, priod iSteven J. Jones, 6 Fronhill St., yn 37 oed. Llanaelhaiarn.—Yn ddiweddar, Robert Evans, porthmon, yn 77 oed. Llanbedr.—Yn ddiweddar, Miss Sarah Stevens, Maesgarnedd, yn 27 oed. Llan:beris.- Yn ddiweddar, Robert Rolant, Snowdon St., yn 80 oed. Llandegfan.- Yn ddiweddar, Wm. Jones, mab Mrs. Jones, Penmon, yn 35 oed. Llangristiolus.- Yn ddiweddar, Thos. Thomas, Cefn, yn 75 oed. Llanllyfni.—(Meh. 5, William Griffith, Dolifan.—Mr. Roberts (Y Felin gynt), Rhedyw Terr., yn 54 oed. Marian Glas.—Yn ddiweddar, Robert Hughes (Marian Mon), Ty'nlon, yn 78 oed. Penmaenmawr.-Meh. fi, Mrs. Ed- wards, priod W. O. Edwards, llyth- yr-gludydd, 13 Chapel St., yn 34 o"d.-Mehenn 6, Edward Davies, Llwyn Celyn, Capelulo, yn 84 oed. —Meh. 3, Parch. Horace W. Barnes a,thraw yn ngholee: Bedford), mab Mrs. Barnes. Evella.-Mehefin 7, IMiss Elizabeth A. Clayton, ?, Brook- side, yn 38 oed. Port h,,r ad oc.-Yn ddiweddar, Mrs. Jone. gweddw Griffith H..Tones, ppirianydd. East Ave.. yn 65 oed. Pwllheli.—'Meh. 9. David, mab D. R. Jones, Crugeran Farm, yn 56 oed. —'Meh. 13, Mrs. Jones, gweddw y Parch. John Jones. F. R. G. S (Abercin) .-Mrs. Jane Jones, priod Henry Jones, 3 Heol Fawr, yn 57 oed. Rhosg?dfan.—Meh. 4, Dafydd Griffith. Hafod Ruffvdd, yn 63 oed. Rhvl.—Meh. 8. vn Llwyn Celyn. Queer's Walk, Marv Eleanor, nriod v Parch. T. J. Wheldon, B. A., yn 68 oed. Trawsfynydd.-Meh. 1. yn Senghen- ydd. John Wm. Jones (gvnt o Fron- galed), vn 43 oed.—Meh. 1. Nell, merch Mrs. Jane Davies, gynt o Tvnypiistill. yn 10 oed. Waenfawr—Meh. 11. Tommv P. Wil- liams, Weirglodd Goch, yn 23 oed. -0- Y DelieiOir I Barry.—Meh. 6, Queen St., Elizabeth, priod Wm. Morgan, merch Mrs. Warburton, 'Radyr, yn 29 oed. Barry Island.—Meh. 8, yn Alltyryn, OaJpt. Evan Jones, gynt Casnewydd, yn 63 oed. Caerdyd,d.-Meh. 3, Monthermer Rd., Athaliah, priod Morgan Davies, yn 68 oed. Cadoxton.—Meh. 6, Barry Road, Wil- liam, priod Mary Evans, yn 57 oed. Church Village.—Yn ddiweddar, Mary (Dyffrya Bach), gweddw Edward Thomas. Dillwyn.—Meh. 4, yn y Sanitarium, Penyrheol, merch y Parch. D. Stan- ley Morgan a'i briod, Ffynon Daf. Ebbw Vale.—Meh. 2, Market St., John Evans (JMessrs. J. Hepworth & Son) a phriod Jane Evan. Lanfarian.—Meh. 5, Rwlch-dal-Owen, Jane Ellis, yn 82 oed. Llanharri.—Mai 31, Evan Morgan, Tynewydd. Llanrhystyd.—Meh. 4, Perth, Pen- rhiw, Margretta Jones, yn 47 oed. Lisworney.—Meh. 7, yn Penylan, Wm. Lewis, yn 64 oed. Llundain.—Meh. 3, John David Davies, gynt Llanilar, yn 55 oed. Llwynpia.-Meh. 4, Andrew Powell, Sherwood. Maesteg.—Meh. 5, Talbot St., Maggie, priod John Prichard, yn 47 oed. Merthyr.—Mai 30, Awelfryn, Pen- darren, Thos. Matthews.—Yn Hol- ford, Cefn, Wm. Lewis, Caerfyrddin, yn 84 oed. Milford Haven.-Mai 31, Cleddau Villa, John Llywelyn Davies, yn 73 oed. Penarth.—Meh. 5, Redlands Road, Elizabeth, priod Edward Johnson Lewis, yn 79 oed. Pengam.—Meh. 7, Britannia Terrace, Emrys, mab John a Jane Williams (Brithdir), yn 19 oed. Porthcawl.—Meh. 6, priod y Parch. D. Morris. Ogmore Vale.—Meh. 2, High St., John Jones, cigydd, yn 61 oed. Skiwen.—Meh. 3, yn Anneddfa, y Parch. J. S. Hopkins (B.). Talyllyn.—Mai 31, yn Tygwyn, Mar- garet, gweddw Joseph Price. Trealaw.—Meh. 5, yn Cartref, Tudor, mab Mr. a Mrs. John, diweddar efrydydd meddygol yn Nghaerdydd. Treorci.—Meh. 5. yn Bronllwvn, Wm. Phillips, grocer. Vardre Isaf.-M.eh. 2, Jane, gweddw Anthony Williams, Trewern. Y Werddon.—Meh. 6, yn Buncrana, Donegal, A. Fraser Evans, mab Mrs. Evans, Thornleigh, Dinas Powis. Ystradmynach.—Meh. 7, Beech Tree Hotel, Gwenllian Olwen, merch Mr. a Mrs. T. O. Price, yn 14 oed. 0 s-0
I NODION 0 NEW CASTLE. PA.…
I NODION 0 NEW CASTLE. PA. I Gan Brython. I Nos Tau. Mehefin y lOfed, cynaliwyd cyfarfod y graddio yn ystafell hardd ysgol uwchraddol y ddinas. Yr oedd y mynediad i mewn drwy docynau, ond am wyth o'r gloch agorid y drysau i bawb yn ddiwahan, ac yr oedd yno rai canoedd fel fy hunan yn dysgwyl yn ffyddiog am gael y drysau wedi eu hagor, a mynediad helaeth i mewn. Yr oedd rhyw gant ond tri o ddys- I gyblion yn derbyn tystysgrif eu bod wedi eu pwyso yn' nghlorianau gwy- bodaeth a dysgeidiaeth yr ysgol, ac wedi eu cael yn ddigonol, ac wedi boddloni yr awdurdodau. Fe garwn roi yma enwau yr oil o honynt, ond ymataliaf gan yn unig roddi enwau y Cymry: Evelyn Adeline Phillips, merch Mr. a Mrs. William Phillips, South Jefferson St., yn ferch rinwedd- ol a da, yn alod ac yn athrawes yn Ysgol Sabbothol yr Immanuel. Daeth ei rhieni i'r wlad hon o Dreforris, ond y mae hi wedi ei geni yn y wlad hon. Miss Harriet Lillian Harris, merch Mr. a Mrs. William E. Harris, Hamil- ton St.; wedi arfer byw yn ninas Pittsburgh flynyddau yn ol. Mae hi yn ferch yn llawn talent, a dysgu yn beth rhwydd yn ei hanes hï; ei thadcu ydyw Brenin y Te yn New Castle, Mr. W. H. Harris, Long Ave.; hen dder- byniwr o'r "Drych." Miss Mary M. Owens, merch Mr. a Mrs. John Owens; mae Mr. Owens yn arweinydd y canu yn yr eglwys gyntaf o'r enwad Bedyddiedig yn y ddinas hon. Mae hi fel ei thad yn enwog mewn canu, ac mewn gwybodaeth. Daeth ei thad allan i'r wl,ad hon o'r hen blwyf, sef plwy'f Llangynwyd, ac o dref Maesteg. Annie Mae Williams, merch Mr. a Mrs. Evan Williams, Blakeley Ave.; ei rhieni o Clydach, Cwm Abertawe. Mae hi yn eneth wybodus iawn, ac yn lied hdff o ganu, a'r teulu i gyd o'r fam i lawr at y plant yn gantorion. Wm. Samuel Lewis, mab Mr. a Mrs. Paul Lewis, Phillips St., ei rieni o Cwm- bwrla, Abertawe.! Wm. Samuel eto yn fachgen gwybodus a da. Arthur Charles. Hoskins; Mr. a Mrs. Herbert Hoskins ydynt enwau ai rieni, a daeth- ant allan i'r wlad hon o Cwmbwrla, D. C. Mae y bachgen wedi ei eni yn y wlad hon, yn ysgolaig campus, yn gwyibod y ffordd i drin y gwahanol gwestiynau mewn gwybodaeth. Clar- ence Earl Powell, mab talentog Mr. a Mrs. Benjamin Powell, Edison Ave. Daeth ei dad allan i'r wlad hon flyn- yddau maith yn ol o Dredegar. Mae y bachgen yn un o'r ysgolheigion goreu yn ninas New Castle, wedi enill y flaenoriaeth ar ei gyd-ysgolheigion am dair blynedd o'r bron. Yr oedd ei araeth ar ddinas New Castle yn ar- dderchog, wedi eu gosod i fyny yn daclus ac yn gryno iawn. Dyna enwau saith o blant y Cymry a ddaeth allan mor llwyddianus yn y dosbarth gradd- io eleni. Duw yn rhwydd iddynt hwy ac aelodau eraill y dosbarth. Dydd Iau, Mehefln 10, fe ymadaw- odd Mr. a Mrs. Griffith Davies, South Mercer St., a'n dinas a'u gwynebau ar New York i gymeryd y llong oddi yno i'r Hen Wlad. Bwriadant dreulio yr haf yn Ngwalia Wen, a Threalaw fydd man eu harosfa, oblegid yno y mae tad Mr. Davies yn trigianu, ac yn lied dlawd ei iechyd ar hyn o bryd. Yr wythnos o'r blaen derbyniodd y brawd John Evans, ysgrifenydd eg- lwys Immanuel lythyr oddiwrth y Parch. Clifford S. Joshua o'r Hen Wlad yn hysbysu fod yr holl deulu yn iach a chysurus, ond eu bod yn lied hryderus, gan fed y brodyr i gyd wedi ymadael am faes y rhyfel. Y dydd o'r blaen yn swyddfa John Evans, llywydd y Cash Buyers Co., fe gyfarfyddais a'r cyfaill anwyl Harry Davies, Pittsburgh, Pa., yn edrych dim gwaeth na newydd o ran iechyd a meddwl, yn rhoddi hanes rhagorol am Gymry twymgalon Pittsburgh. Y ddau Ifor ffyddlon Owen Jones a Wm. Hughes wedi gwella yn weddol eto; Jones y Bane a Tom Lewis yn para yn anrhydedd i'r Cymry; R. H. Davies a T. Owen Charles yn dal i lewyrchu yn y byd llenyddol o hyd, ac eraill o'r Cymry yr un fath; yr arch-esgob, y Parch. R. C. Morgan, yn para yn gawr o bregethwr o hyd. Tr oedd Mr. Davies yma mewn cyeylltiad a'r Co- lumbia Singing School. Masnach yn para yn lied araf o hyd. Yr unig felinau sydd yn gwelth- io yn gyson ydyw y rhai alcan.
Advertising
Maes Llafur Y sgolion Sabbothol y T. C. 1915-1916. BHODD MAM DWY-IEITHOG. Anfoner eich archebion yn avtr. I ddod allan ar fyrder. Esboniad Newydd y Parch. Hugh Williams, Amlwch, ar II. Corinthiaid Pris 75c. (Gweler adolygiad y Parch. D. Morgan Richards). Llawlyfr ar Wyrthiau Crist, i rai dan 21 oed, Parch. E. O. Davies, B. Sc., Llandudno. Pris 30c. Gwerslyfr ar Wyrthiau Crist, i rai dan 16 oed, Parch. E. O. Davies. Pris 5c. yr un neu 50c. y dwsin. Gwerslyfrau'r Safonau (Ceridwen Peris). Safon 1, 35c.; Safon II., 50c.; Safon III., 65c. Rhodd Mam (John Parry, Caer), 35c. y dwsin. Eto (Saes. neg), 35c. y dwsin. Hyfforddwr (Cymraeg neu Saesneg), 75c. y dwsin. LLYFRAU NEWYDDION ERAILL. Cristionogaeth a Chymdeithas (J. H. Howard), 85c.; Barddoniaeth Moelwyn (Llyfr IV.), 50c.; The Stairbuilder's Guide (Morris Williams), $1.50. CERDDORIAETH DDIWEDDAR. Songs of Wales (Brinley Richards), Amlen, $1.00; Llian, $2.00; Gems of. Welsh Melody (Owain Alaw), $2.50. Unawdau, Deuawdau, Triawdau, Ped. warawdau, Anthemau, Darnau CorauMeibion, Corau Merched a Choraw Plant. Y Dewisiad Goreu yn y Tal-aethau. Cyfeirier archebion I R. Morris Williams, Box 256, Utica, N. Y
NODION 0 NEW YORK. I
NODION 0 NEW YORK. I Mehefin 27ain.—Er coffadwriaeth am y diweddar Gabriel Lloyd, trefn- wyd y penderfyniadau canlynol gan Gyfrinfa "Glyndwr" o Urdd y Gwir Iforaidd. Yn gymaint a bod ein Tad yn ei ddoethineb wedi cymeryd ein brawd Gabriel Lloyd ato ei hun, penderfyn- wyd: Yn gyntaf-Ein bod trwy symudiad ymaith y brawd Lloyd wedi colli un o'r rhai mwyaf selog yn y winllan Ifor- aidd, prif offeryn yn sefydliad ein Cyfrinfa, Tad Iforiaeth yn Efrog New- ydd, yn ffyddlon bob amser, gan bar- hau felly hyd y diwedd. Yr oedd ei frwdfrydedd tanbaid dros les y Gyfrin- fa a lledaeniad yr Urdd, yn trydanu ei- feddwl, nes arllwyso cawodydd maeth- Ion oedd yn symibylu y brodyr i fwy o weithgarwch. Yn ail—Bydd ein colled yn fawr yn y cyfwng alaethus hwn. Yr ydym yn cydalaru yn hiraethlawn a'i anwyliaid adewir ar ol, tra efe wedi myned i ymuno a'r rhai a aethant yn mlaen. Bydded iddynt hwy a ninau edrych i fyny am y cymorth, ac i fyw fel y gallwn edrych yn mlaen gyda gobaith cryf am gyd,gyfarfyddiad tu draw i'r lien. Trydydd-Ein bod yn galarwisgo ein breinlen am ddeg diwrnod ar hugain er cof am dano, yn taena y penderfyniadau hyn am dudalenau ein cof-lvfr, yn deisyf i'r "Drych" eu cv- hoeddi, ac yn estyn adyssrrif o honvnt i'w dpiilu.-William R. Jones. Uwch- Ivwvdd; John O. Jones. Ts-lvwydd; William H, Williams. Caplan; Polert R. Williams, ysgrif cofnodol; Pwyll- gor. N Yn nghyfarfod rheolaidd y Gyfrinfa, a gynaliwyd nos Fercher diweddaf, etholwyd y swyddogion canlynol i'w gwasanaethu am y chwe mis nesaf: Cyn-lywydd, E. Colwynian Evans; Uwch-lywydd, William R. Jones; ys- grif cofnodol, Robert R. Williams; goruchwyliwr, Charlie Jones; arwein- ydd, Tom Jones; gwyliedydd mewnol, John Owen; gwyliedydd allanol, John Williams. Mae golwg addawol ar y Gyfrinfa ar hyn o bryd, ac ni raid i neb o'r Cymry sydd o fewn cylch yr oedran priodol ofni ymuno, o herwydd mae hi mewn safle dda mewn ystyr arianol a rhifedi aelodau.—Colwyn- ian.
NEWYDDION CYMRU. I
NEWYDDION CYMRU. I Gadawodd y diweddar Mr. Thomas I Jones, Pownall, Plas Derwen, Mostyn, I eiddo gwerth 6,199p. —Y mae gwaith copr y Wyddfa, fu 1 gauedig am beth amser, wedi cael ei ail gychwyn, ac y mae yno nifer lied dda yn gweithio. -Bu etholiad yn Aberaman i ddew- is Cyngorwr Sirol yn lle'r diweddar W. Jones. Wele'r canlyniad: G. D. Budge (Agent), 1,309; J. T. Norman (Llafur), 491. I -Y mae y Parch. Joseph Henry wedi ymneillduo o fod yn weinidog, eglwys Annibynol Severn Road, Caer- dydd, a chyflwynwyd tysteb iddo. —Yn llys ynadon Pwllheli, yr wythnos o'r 'blaen, gwysiwyd cynifer a 117 o ffermwyr am gadw cwn heb drwydded. Gyda'r eithriad o chwech ¡ cafodd yr oil eu dirwyo. —Deallwn fod y 'Parch. Idwal Jones, Llwynpia, wedi derbyn gwa- hoddiad i fugeilio eglwys Bethania, Rhosllanerchrugog. —Mae Coleg y De yn gofyn am geis- iarlau am y penodiadau canlynol: Ath- raw mewn Athoniaeth,. cyflog 429'p. y fiwyddyn; Athraw mewn Addysg I (merch), cyflog 350p: ac is-ddarlith- ydd yn adran athrawon yr ysgolion elfenol ac ail-raddol. -Yr wythnos o'r blaen yn Llun- dain, bu farw Mr. John Lloyd, broclor o Aberhonddu, gwr a gyraeddodd i enwogrwydd ac a enillodd safle o ddy- lanwad mawr yn y Brifddinas. Yr oedd yn fardd, hanesydd, a threfnydd, a thrwy ei lafur ef yn benaf y llwydd- wyd i ddwyn amgylchiadau dinesig Llundain dan ofal cyngor sir. -Yn yr achos am yr annghydwel- ediad a Mr. D. Jenkins, Mus. Bac., parthed meddiant copyright yn nglyn a nifer o donau, dywedai y Parch. John Morgan Jones (Caerdydd) yn y Gymanfa Gyffredinol yn Llundain, fod I y pwyllgor fu yn ystyried yr achos gyda Mr. Jenkins wedi myned yn gyf- arfod crefyddol rhwng eu dwylaw. Yr oedd Mr. Jenkins wedi gwneyd gwaith dirfawr, ac wedi rhoddi blynyddoedd o wasanaeth i'r Cyfundeb, ac yr oedd yn anwyl ac yn barchus gan y genedl. Yr oedd pob peth wedi darfod, a'r achos mewn dadl wedi ei setlo. —Sibrydir fod Mr. Ellis J. Griffith, yr Aelod Seneddol dros Fon, ar fedr tori ei gysvlltiadau gwleidyddol a'r sir. Colled fawr fydd hon, am y cyd- nabyddir gallu, dysg ac athrylith y cvfreithiwr enwog yn mhell ac yn agos. Enwir olynwy iddo yntau cyn iddo gadarnhau y sibrvdon. Dyma ddau, Mr. Hy. Rees Davies, Treborth, ac wyr i'r diweddar Barch. Henry Rees, Lerpwl, a iMr. Arthu- Venmore, mab Mr. James Venmore, Lerpwl; ei dad yn Ustus He" owen ar lan y Ferswy, a chvn r"hpl-F!irvH Mon. Daw y Cadfridog Owen Thomas i mewn yn dryd-Od, ond hwvr^ch mai efe fydd allan gyntaf. —Wedi maith ddihoeni bu farw y cy- meriad adnabyddus Mr. John Williams, 'Rynys. Yn myd y chwarelwyr ych- ydig iawn oedd yn fwy adnabyddus na'r Hen John (fel y carai gael ei enw). Yh ystod streics y Penrhyn, trafaelodd lawer ar hyd a lied y wlad i areithio a darlithio ar eu helyntoedd; a galw mawr y prydiau hyny oedd am ei wasanaeth; yr oedd mor ddoniol ddigri' ac eto, ar brydiau byddai yn dra difrifol. Un o golofnau yr achos yn Hermon ydoedd, ac yn holwr plant dihafal, —I Gymru mae dyddordeb anbenig yn y ffaith fod Mr. Lloyd George a Mr. McKenna, fel aelodau Cymreig, yn cael lie yn y Weinyddiaeth. Llawen- ychir fod Mr. Brace, y cynrychiolydd llafur poblogaidd o'r De, wedi ei wneyd yn Is-ysgrifenydd Bwrdd Mas- nach, a Mr. Herbert Lewis yn symud i fod yn Is-ysgrifenydd y Bwrdd Addysg. 'Bydd y penodiad diweddaf yn bwysig i Gymru, canys hen bartner iddo—Mr. A. T. Davies—sy'n llywio'r Adran Gymreig; a chyda'r L!afurwr Mr. Hen- derson, credir y daw y Bwrdd Addysg yn gryf a gweithgar ryfeddol. —Y mae pwyllgor yr Eisteddfod Genedlaethol sydd i'w chynal yn Man- gor, yr wythnos gyntaf yn Awst, wedi -penderfynu faint bynag fydd yr elw i'w drosglwyddo drosodd i Drysorfa Rhyfel Tywysog Cymru. Y mae y llywyddu yn y gwahanol gyfarfodydd: Arglwydd Mostyn, Mr. D. Lloyd George, Mr. J. Herbert Lewis, A. S.; Mr. W. Llewelyn Williams, K. C., A. S.; Mr. John Hinds, A. S.: Mr. E. T. John, A. S.: Syr John Pritchard- Jones: Mr. D. Lleufer Thomas; a Mr. R. J. Williams, ,Maer Bangor. Y mae rhif yr ymgeiswyr yn yr adran gerdd- orol yn addawol dros ben. Yn y gwa- hanol gystadleuon corawl y mae y nifer canlynol wedi dadgan eu parod- rwydd i gystadlu: Y brif gystadleu- aeth gorawl, 6: yr ail gystadleuaeth gorawl, 6: corau meibion, 6: corau merched, 9; corau plant, 9: seindyrf, 7.
Advertising
 NORTH DAKOTA Li?p T/ROEDD AR WERTH YN RHAD. LLOG DA AR ARIAN. Nid oes dalaeth sy'n cynyddu gyflymed a NORTH DAKOTA ond ar hyn o bryd, y mae'r tir yn rhad, ac ond i'r Cymro gymeryd mantais ar y cyfleusdra, gall fod yn annibynol mewn byr amser. Cynygia D. T OWENS, Bismark, N. Dakota, dir rhagorol yn Nghanolbarth y dalaeth am brisiau neillduol o resymol: Tiro dan driniaeth o $30 i $60 yr acer. Heb ei drin $12 i $30 yr acer. Cyfrifir y tir hwn gyda'r goreu yn y dalaeth. QEFYDUAD GYMREIG Os y dymunir, gellid neillduo i'r Cymry yn unig ran helaeth o dir < rhagorol er cael safydliad Cymreig, lie hefyd y gellir cael pob darpar- iaeth addysgol a chrefyddol yn ol dymuniad y sefydlwyr. Mae hwn yn gyfte rhagorol i Gymry awyddus i fynod ar y tir. ARIAN AR MORTGAGE ('.w,,thr.ddir Cym,-y y Talaethau i ohebu a ni yn nghylch arian sydd ganddynt i'w rhoi ar log. Gofellr genym am y sicrwydd goreu. Er pan y sefydlwyd y busnes, mae miloedd wedi ei fuddsoddi genym heb golled erioed. Bydd y Parch. John R. Hughes, Bismarck, N. Dakota, yn barod i ateb unrhyw ymholiadau yn nghylch y ffirm hon. Anfoner am fanylion, pamphledi, &c., at D. T. OWEN & CO., REAL ESTATE DEALERS wi BISMARCK. NORTH DAKOTA <
IYMWELIAD A ROME. N. Y.
YMWELIAD A ROME. N. Y. Gan William Oliver, New York Mills. Ar brydnawn Sul, Mehefin 6, cefais y fraint o dalu ymweliad a'r dref uch- od, lie y cynelid Cymanfa Ysgolion Sabbothol y M. C., swydd Oneida, ac er ein bod wedi cael adroddiad cyflawn a manwl yn ngholofnau y "Drych" o'r gweithrediadau, goddefwch i minau ddweyd gair neu ddau yn mhellach o berthynas iddi. Da iawn oedd genyf gael bod yn bresenol yn nghyfarfod yr hwyr. Nid yn anil y byddaf yn cael cyfle i dalu ymweliad a'r dref daclus a glanwedd hon, lie y triga nifer lied dda o Gymry, pa rai sydd yn ymgynull i addoli mewn dau addoldy Cymreig, sef yr Annibynwyr a'r Methodistiaid Calfinaidd. Gallaf ddweyd cymaint a hyn, fy mod wedi cael croesaw cynes bob tro y bum yno. Y cyntaf i mi gwrdd ar yr heol oedd y bardd awenber Melynfardd, diwedd- ar o Granville, N. Y., yr hwn sydd yn dal swydd yn nglyn ag un, os nad dau o brif ariandai y dref. Mae golwg raenus arno, yr hyn sydd yn p!-of! fod y dref a'r gwaith yn dygyn:od yn rha- gorol ag ef. Da iawn oedd genyf ei glywed yn dweyd fod fy hen gyfaill a diweddar gydweithiwr Ellis Roberts (Penmachno), gynt o Granville, wedi cael adferiad iechyd, o'r anhwyldeb oedd yn ei flino, a'i fod wedi cael gwaith ysgafn i'w gyflawni. Drwg genyf na chefais gyfle i'w weled. Cyraeddasom i'r capel yn brydlon, yr hwn a lanwyd yn fuan gan gynull- iad golygus a pharod i waith er fod yr hin wresog ar y pryd yn peri tipyn o anfantais. Golvgfa oedd yn taro dyn ar unwaith, ar ol myned i mewn, oedd gweled yr esgynlawr, ar yr hwn yr oedd casgliad helaeth ac amrywiol o flodau tlysion a phersawrus natur ar un llaw, ac ar y llaw arall nifer dda o flodau Ysgolion Sabbothol Cymreig y M. C. yn swydd Oneida, a'r oil mewn cydymgais a'u v#Ivdd i ddadgan mawl eu Crewr, ac 0., mor dlysion oeddynt yn canu hen emynau mewn Cymraeg glan gloew. Gwelid yn argTaffedig ar eu gwynebau glan, ddireidi a dini- weidrwydd 'plentynaidd, a dyma'r geir- iau a redai trwy fy meddwl yn y fan, "Oddieithr eich troi a'ch gwneuthur fel plant bychain, nid ewch chwi ddim i mewn i deyrnas Dduw." Golyga hyny waith mawr i ras Duw yn hanes y rhan fwyaf o honom sydd wedi cyr- aedd oedran gwyr. Mewn perthynas i'r canu, teimlo yr oeddym ei fod yn rhagorol drwyddo draw, yn arbenig felly yr anthem "Jerusalem, fy nghar- tref gwiw," yr hon a ddatganwyd ddwy waith ar gais y Parch. D. M. Richards, Moriah. Cwyno tipyn yr oedd rhai o'r cyf- eillion, nad oedd y llafur yn nglyn a'r arholiadau gystal ag arfer yn y blyn- yddau o'r blaen. Gwnaeth y Parch. D. M. Richards sylw difrifol wrth gyfeir- io at y mater yma, sef fod yr esgeulus- dra i'w briodoli i'r ffaith ofidus, fod y plant a'r bobl ieuanc wedi ymgolli megys wrth redeg ar ol y moving pic- tures a'r baseball a chwareuon tebyg, ac mae pawb yn barod i gydsynio a'r gwr parchus. Mae hyn yn wir am y wlad yn gyffredinol, ac mae yr un mor wir am wledydd eraill. Golyga hyny fod rhyw ddirywiad cyffredinol wedi cymeryd lie yn y byd crefyddol, ac o ganlyniad wedi annghofio Duw, ac ym- roi i eilunaddoliaeth fel cenedl Israel gynt yn Sinai pan y gwnaethant yn absenoldeb Moses, lo tawdd, ac y dy- wedir am danynt, "eu bod wedi eistedd i fwyta ac i yfed, ac a godasant i fyny i chwareu." Yr oedd y genedl wedi gweled pethau ofnadwy yn ddiweddar. "A mynydd 'Sinai oedd i gyd yn mygu, o herwydd disgyn o'r Arglwydd arno mewn tan, a'i fwg a ddyrchafodd fel mwg ffwrn, a'r holl fynydd a grynodd yn ddirfawr." Ond er hyny, buan yr 9nnghofiasant Duw; a dychrynfeydd Sinai ac y syrthiasant i'r pechod o ddi- faterweh ac eilunaddoliaeth, am ba achos, Duw a ddigiodd wrthynt. Yr ydym ninau heddyw yn byw mewn cyfnod yn hanes y byd pan y mae peth- au ofnadwy yn cymeryd lie, "rhyfel- oedd a son am ryfeloedd a daeargryn- faau mewn manau." Duw yn llefaru frwy bethau ofnadwy, ond er hyny mae eilunaddoliaeth yn uchel ei ben yn ein mysg, er nad yn y ffurf o lo aur, ond mewn lluaws o agweddau eraill, a Sabboth Duw yn sathrfa dan draed, a'r piloedd yn codi i fyny i chwareu hyd yn nod ar y dydd sydd wedi ei neillduo i wasanaethu Duw. Yn ddiddadl nid amseT-oedd i chwareu ydyw yr amser- oedd hyn.
Advertising
YMOFYNIAD AM LEWIS E. LEWIS.-Cychwynodd o Gymru 26 mlynedd yn ol; y gair di- eddaf a gafwyd oddiwrtho oedd ddeng mlynedd yn ol. Clywsom iddo fod yn gweithio gydag un A. Tuttle, yn Fair Haven, Vt., ond iddo ymadael oddi yno i Quincy, Mass. Byddai gair o'i hanes yn derbyniol gan C., Swyddfa'r "Drych." Utica, N. Y. SURROGATE'S COURT: ONEIDA COUNTY. In the Matter of the Estate of Margaret Hughes,. Deceased. In pursuance of an Order of Hon. M. H. Sexton, Surrogate of the County of Oneida, notice is hereby given, accord- ing to law, to all persons having claims against Margaret Hughes, late of the Village of Prospect, in said County, de- ceased, that they are required to exhibit the same, with vouchers thereof, to the subscriber, John Davies, at his place of transacting business, as Executer, etc, of said deceased, at 26 Faxton Street, in the Oity of Utica, N. Y., on or before the 5th day ot July, 1915. Dated, Utica, N. Y., Dec. 22nd, 1914. JOHN DAVHEJS, Lee & Dowling, Executor Attye. for Executor. Cenadaeth y Thado-Kookie ASSAM, INDIA. (The Thado-Kookie Pioneer Mission) AN-ENWADOL ac EFENGYLAIDD. Sefydlwyd yn 1910 mewn ufudd-dod i apel hynod daer ddaeth oddiwrth un o'r Penaethiaid Brodorol yn Nhalaeth Manipur, India. "Byddai yn gywilydd arnom beidio ufuddhau i'r apeliadau hyn ddaethant o waelod calon y pagan." Erfyniwn yn daer iawn am weddias pobl yr Arglwydd perthynol i bob enwad. "0, frodyr, gweddiwch drosom." Gellir cael unrhyw fanylion pellach, yn nghyd a Blychau Cenadol, &c., ond ymofyn a'r Ysgrifenydd Mygedol. Ysgrifenydd-Rev. D. Lloyd Jones, B. A., Aber, Carnarvonshire, G. B. Trysorydd Mygedol-Arnold Davies, Esq., Bank of Liverpool, Ltd., Wrexham, G. B. Gellir gwneyd archebion yn daladwy i unrhyw un o'r Swyddogion uchod.
Y TTWEBBAR OWEN R. WILLIAMS.…
Y TTWEBBAR OWEN R. WILLIAMS. PLA INFIELD. N. Y. Trwm yw'r meddwl a phrudd yw'r ysbrvd am y gorfodir ni i groniclo rnarwolaeth a chladdedigaeth y cym- ydog, y cyfaill, priod, tad a Christion lanwodd yr holl gylchoedd yn deilwng, am ei fod yn Gristion, sef Owen R. Williams. Bu farw brydnawn Iau, Mehefin y 17eg, wedi cyraedd ei bed- war ugain mlwydd oed er dydd Mawrth y 15fed, 1915. Un o blant Caergybi, Mon, ydoedd. Enw ei dad oedd Richard Owen, ac enw ei fam Catherine Owen. Mae irldo frawd, Richard Williams, a chwaer Ann Williams yn byw yn Nsrbaergvbi yn bresenol. Saer coed oedd wrth ei alwedigaeth, a daeth i'r wlad hon yn wr priod a theulu; ei wraig. Mrs. Elizabeth Williams, a dau r' blant, vn y flwyddvn 1870. Treul- iodd y triugain mlvnedd diweddaf rhwng Plainfield ac Utica. Ymsefyd- lodd yma mewn tyddyn bychan tua deg mlynedd yn ol. iBu yn briod am dros bymtheg a deugain o flvnyddoedd. Ganwyd idd- ynt bump o blant, dwy ferch, Mrs. Gerard, sydd yn Scotland, Lloegr, a Mrs. Williams, New York, a thri o fechgyn, Dr. Owen Williams, South Dakota; Richard Williams yn Sioux City, la.; John Williams yn gwneyd ei gartref yn Utica, 701 Rutger St., ond yn treulio ei amser gan mwyaf yn New York. Yr oedd Owen Williams yn ddyn o alluoedd uwch na'r cyffredin, a hyny trwy hunanddiwylliant. Yr oedd yn llenor da, yn fardd o radd uchel, yn ddarllenwr di^vyd, yn ysgrifenwr manwl. Cof gan luaws ddarllen ei ys- grifau yn y "Drych" hanes ei daith o Utica i sir Fon tua deuddeg mlynedd yn ol. Gosododd ei argraffiadau mewn ystyr grefyddol ar dudalenau y "Cyfaill." fel yr oedd yn gweled sir Fon wedi rhyw driugain mlynedd o absenoldeb. Yr oedd yn gydnabyddus a syniadau hen a diweddar duwinydd- ion ei oes. Rhoddes sylw manwl i sy- mudiadau gwleidyddol y Weriniaeth, a hefyd symudiadau gwladol a chref- yddol gwlad ei enedigaeth. » Methodus o'r Methodistiad ydcedd mewn athrawiaeth. Cyflwynodd ei hun yn gorff a meddwl i waith cref- ydd; gwyr Methodistiaid Utica hyny. Cadwodd gysondeb buchedd a phroffes mewn perffaith gynganedd, profodd ei fod yn fwy o Gristion nag o Fethodus, prawf o hyny ydoedd iddo ymgyflwyno i wasanaethu crefydd yn Plain-field mewn eglwys Annibynol. Pe buasai yn fab i'r diweddar John Thomas, Lerpwl, nis gallasai fod yn fwy ffydd- Ion i Annibyniaeth. Llanwodd gylch- oedd pwysig yn yr eglwys. Bu yn drysorydd yr ymddiriediolwyr am flynyddoedd. Colled fawr i'r eglwys yn Plainfield, a'r gymydogaeth fydd ar ei ol. Dvoddefodd ei gystudd yn dawel, teimlai fel pe yn meddu sicr- wvdd nad oedd hwrw arfau i fod. Yn mlaen yr oedd am fvned. Peth hawdd oedd gweled ddydd ei an glad d fod tywysog a gwr mawr yn Israel wedi syrthio. Cvnaliwvd gwas- anaeth yn y ty brydnawn Sadwrn. Gweinyddwyd ar yr achlysur gan y Parch. Abram Jones, gweinidog. Gos- odwyd ei gorff i orwedd yn mynwent gyhoeddus Unadilla Forks, lie mae torf o hen gymydogion yn cydorwedd. Mae cydymdeimlad yr ardal a Mrs. Williams wedi colli cydmar bywyd yn I yr oedran teg o bedwar ugain mlwydd oed, ac at y plant. Nid peth cyffredin yn hanes teulu o faintioli teulu Mr. Owen ac Elizabeth Williams ydyw cael byw am bedair blynedd ar ddeg a deugain heb i weinidogaeth angeu fod I yn ei darnio; y tad, yr henafgwr, oedd y cyntaf i gael ei osod yn nhy ei hir I gartref. Gorphwvsed mewn hedd hyd foreu mawr y codi. "Dyn a'i lond o ffyddlondeb-ei galon Giliai rhag geudet) Dyn oedd na niweidiai neb, A dyn gonest un gwyneb."
Advertising
25c yr Wythnos Os cynilir 25c. yr wythnos heb goll am 20 mlynedd, a 4% o log ar log, a roddir gan y bane hwn, byddai y swm yn $403.00 BANC CYNIL0 PITTS- BURG 1 Sefydlwyd 1862. 1 4th tvenve and Smithfield St., I Pittsburgh, Pa. I B'Ie yr Ydych yn Mynd yr Haf Hwn? I'r Ffair yn San Francisco, i'r mynyddoedd, ynte i lan y mor ? Bydd i chwi yn ddiau gloi y drws cyn cychwyn, cloi yr holl ffenestri, ac hefyd yswirio yr eiddo rhag lladrad, ond beth falia y burglar am hyn i gyd. Y mae mwy o gynlluniau dieflig i dori i'ch ty yn eiddo y burglar nag a dybiasoch erioed. Gellwch gael y goreu ar y bwrglar drwy ddod a'ch gwerthfawrogion i'r dyogelflychau cryfion sydd yn y CITIZEN'S Trust Company. Ni raid i chwi ond talu drostynt tra byddant yma—ac ni fydd y gost ond bechan. Paham na yswiriwch rhag poen a thrafferth. CITIZEN'S Trust Company SENECA SQUARE, UTICA, N. Y. TE-Y-BRENIN (King, of Teas) and BROOKDALE CEYLON. GENU- INE OLD COUNTRY Teas. DE- LICIOUS. ECONOMICAL. Sold by Grocers and Tea Dealers everywhere at 55 cents a pound in one-pound and one-half-pound lead packages only. For 55c per pound we will deliver, FREE, two pounds or more of either TE-Y-BRENIN or BROOKDALE CEYLON within 1,000 miles, but over 1,000 miles the price is 60c per pound. We fill no orders, however, where grocers sell our teas. Please buy from them. AGENTS WANTED G. T. MATTHEWS & CO. SOLE IMPORTERS. 93 WATER STREET, NEW YORK I Long Island and I New England s furnish a happy summertime E —a salt water vacation. 5j Come to the beaches 5t and play. The change, the g surf, the ocean breeze q will do you good and re- | create you for the work- is a-days to come. = Through cars to New = York and Bostori, the 9ateways to Long Island æ andNewEnglandresorts. = Low Summer E Excursion Fares 5 For information about tickets, time = of trains and LOW EXCURSION S FARES, and frequent 15 day excur- 5 sions to Boston at one way fare plus Si$3.00 forround trip, call at New Yerk E Central Station, Utica, N. Y. E Te l ep h ones: Bail 2681-2682 Li N E S m innHimnHimiHiniiinmiiiinnnnniii