Hide Articles List

9 articles on this Page

Y RHYFEL.

News
Cite
Share

Y RHYFEL. Gan Gohebydd Arbenig o Gymru. Y Cvnerair a Dal vn Bersonol Gvfrifol. Un o obeithion mawr ond disail y Caiser er cychwyn y Rhyfel a fu, ac o bosibl eto-yw, y medr efe greu an- nghydfod rhwng y CyngreiriaidâPry- dain, Pfrainc a Rwsia. Nid oes neb a wyr yn well nag ef mai "mewn undeb mae nerth," ac y byddai ei siawns ef i orchfygu ei elynion yn llawer mwy nag ydyw pe y llwyddai i'w gwahanu modd y gallai ef eu cyfarfod bob yn un ag un a phob un ar ei ben ei hun. Hyn oedd wrth wraidd y son o bryd i bryd am wneuthur heddwch a'r naill neu'r llall o'r gwledydd Cyngreiriedig ar wahan oddiwrth y lleill. Dywed gweinidog Tramor Rwsia fod Awstria wedi ceisio amodau heddwch gsn Rwsia ar ei phen ei hun, ac iddi hith- au wrthod. Ceisiwyd gwneyd hedd- wch rhwng Germani a Ffrainc-ond gwrthododd yr olaf. Ar ddechreu y Rhyfel cytunodd y tair gwlad a'u gil- vdd na wnai yr un o honvnt heddwch a'r gelyn ond mewn cydymgyngoriad a chvdweithrediad a'u gilydd. Mae Itali yn awr wedi ymuno a'r Cyngrair ac wedi gwneyd cyffelyb gy tun deb a'r tair gwlad. Mae mwy yn hyn nag a ymddengys ar y wyneb. Nid yn unig mae'r Cyngreirwyr yn, ac i. ymladd ySgwydd yn vsgwvdd, ond mae'r naill i gynorthwyo'r Hall yn mhob modd dichona dwv. Dvry Prydain gynorth- i yw ei llynges a'i chyfoeth anferth: dvry Rwsia ei milivnau o wyr arfog: abertha Ffrainc ei threfi a'i nhentrefi. ei dinasoedd gwych a'i gwlad fras. Ond golvga hefyd y bvdd yr heddwch y cytunir arno ar derfyn y rhyfel yn un a fo a fyno a buddianau pob cenedl yn Ewrop. Dyna un rheswm mawr paham yr ymunodd Itali a'r Cyngreir- wyr. p nhaham y dysgwvlir gwledydd eraill eto i wneyd. Atebion i Ofyniadau. Blwydd-dal i Filwyr Clwyfedig.â Yn ddiweddar, rhoddwyd manylion am y blwydd-dal a ganiateir i weddwon ac amddifaid milwyr a gollant eu bywyd yn y rhyfel presenol. Cy- hoedda'r Llywodraeth fanylion am y symiau a delir i forwyr a milwyr a analluogir, drwy glwyfau neu ddrwg a rail a geir yn y Rhyfel, yn hollol neu mewn rhan, i ddylyn eu gwaith. Ca milwr cyffredin a analluogir yn hollol, 25s. yr wythnos. Ca "non-commis- sioned officers" o 27s. i 31s., yn ol eu gradd. Os bydd yr analluogrwycld mewn rhan yn unig, a'r dyn yn medru gweithio rhyw gymaint, ca'r cyfryw dal ag a wna i fyny gyda'r cyflog y tybir y dylai fedru enill y symiau a nodwyd uchod. Caniateir hefyd 2s. 6c. yr wythnos ar gyfer pob plen- tyn a anwyd cyn iddo gael ei analluogi tan y byddo'r plentvn yn 16 mlwydd oed. Glowyr Cymru a Gwyliau'r Sul- gwyn.âApeliodd y llywodraeth yn daer at lowyr y deyrnas i beidio cf- meryd ond un diwrnod (y Llun) yn unig o wyliau'r Sulgwyn gan fod cy- maint o angen glo. Apeliodd arwein- wyr y dynion eu hunain yr un mor daer atynt. Troi clust fyddar a wnaeth llawer at yr apel. Mewn ped- war pwll glo .perthynol i gwmni'r Cambria, 4,700 o ddynion ddaeth at eu gwaith foreu Mawrth allan o 8,514 a ddysgwylid. Yn nosbarth Tredegar dim ond un gweithiwr o bob tri a ddaeth. Ni weithiwyd o gwbl yn nos- barth y Blaena, lie y mae 2,0,00 o ddynion. Cyfartaledd bycttan ddaeth at eu gwaith yn Nyffryn Aberdar. Rhyw un o bob tri a ddaeth yn rhai o byllau Merthyr a Dowlais. Yn awr pan mae swydd newydd wedi cael et chreu i Mr. Lloyd George, ac y bydd y cyfrifoldeb am gyflenwi pob cyfarpar rhyfel yn gorphwys ar ei ysgwyddau ef, gellir 'bod yn sicr y ceidw efe lygad manwl ar ol pob esgeuslwr o hyn allan. Cost y Rhyfel.-Dengys adroddiad- au swyddogol y llywodraeth fod Pry- dain yn unig wedi gwario yn mis Ebrill eleni ar gyfartaledd 14,000.000 o bob wythnos, neu ar gyfartaledd ddwy filiwn o bunau'r dydd bob dydd o'r mis, ar y rhyfel. Mewn geiriau eraill, costia'r rhyfel yn awr fwy piewn wythnos nag a delir o flwydd- dal i hen bobl mewn blwyddvn. Dyma reswm sy'n apeJio at bob un yn y deyr- nas i wneyd ei oreu i gario'r rhyfel yn mlaen yn egniol er mwyn enill buddu- goliaeth Iwyr a buan. Dvdd Prawf Rwsia. Dydd prawf Rwsia yw, a phan yn ysgrifenu'r Ilinellau hyn nis gellir dweyd gyda sicrwydd ai enill ychydig ai colli llawer a wnaeth neu a wna Germani. Sylwer fy mod yn dweyd enill "ychydig" neu golli "llawer." Amlwg yw eisoes na fedr Germani enill llawer yn Galicia. Geill ladd, a chlwyfo, a charcharu y Rwsiaid wrth yr ugain mil, ac hyd yn nod wrth y can mil, ac eto peidio enill llawer. Hyd yn nod ar draul ailadrodd yr hyn a ddywedais mewn ysgrifau blaenorol, rhaid i mi eto adgoffa'r darllenydd beth oedd amcan mawr Germani yn yr ymosodiad ofnadwy a wnaeth ar hyd mis Mai yn Galicia. Pe y llwyddasai yn yr amcan hwnw buasai wedi enill llawer iawn. Os syrthio yn fyr o gyr- aecld yr amcan hwnw yn llawn a wna, ni waeth mewn ystyr pa faint a enilla o frwydrau lleol yn Galicia, methiant a fydd yr ymdrech, a bydd pob enill llai na'r amcan mawr yn golled iddo. Pan gychwynodd y rhyfelgyrch yn Galicia yn nechreu Mai hyderai trwy Iwyr orchfygu Rwsia y cadwai Itali rhag ymuno a Phrydain. Mae eisoes wedi methu yn yr amcan hwnw. Hy- derai y medrai ddychrvnu Rwmania rhag ymuno a Phrydain i'w erbyn; ymddengys heddyw yn fwy na thebyg mai methu a wna yn hyn eto ac yr ymuna Rwmania a ni cyn diwedd y mis presenol. Mae pob lie i gredu ar hyn o bryd na Iwydda i orchfygu'r Archdduc mor Ilwyr fel ag i analluogi Rwsia i daro ergydion trvmion mar- wol ar fyddin Mackensen pan gilia liono yn ol.

Advertising

Family Notices

Advertising

SLATIffGTON. PA. I

I DAWN. MO.

Advertising

Family Notices

Advertising