Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

9 articles on this Page

NODION 0 OSHXOSH, WIS. I

I CRONF A LLOYD GEOImE.

Advertising

IADOLYGIAD Y WASG.

I BUDDTJC-CT, EISTEDDFOD PITTSBURGH.…

COLUMBUS. 0.

News
Cite
Share

COLUMBUS. 0. Gan Thomas Roderick. Mehefin 26, 1915.—Cynaliwyd cyf- arfod croesawol i'r Parch, a Mrs. E. L. Roberts nos Fawrth, Meh. 15, yn nghapel A. Wash. Ave., pryd y daeth yn nghyd lond y capel o bobl i roddi derbyniad iddynt. Yr oedd y capel wedi ei addurno a blodau o bob lliw. Fe wnaeth y brawd Edward Jones alw y cyfarfod i drefn, ac yna galwodd ar y Parch. Mr. Warren, o eglwys A. 4th Ave. i gymeryd gofal y cyfarfod. Gal- wodd yntau ar y Parchn. E. Edwin Jones ac E. L. Roberts i gydeistedd ag ef ar v llwyfan. Cafwyd anerchiad ganddo ar ddyledswyddau y gweinidog a'r eglwys v naill tuag at y llall. Dy- vredodd fod yr Apostoi Paul wedi dy- wedyd wrth yr eglwys yr anfonodd efe Timotheus i'w bugeilio, "Gwelwch ei fod gyda chwi, ond nid mewn ofn." Gwnewch yn fawr o'ch gweinidog. Nid oes raid i chwi ei borthi a chicken bob amser; deliwch ei freichiau i fyny mewn gweddi. Yna cafwyd can gan un o brif gantorion y ddinas, Jack Richards, a bu raid iddo ail ganu. Yna gahvyd ar y' Parch. E. Edwin Jones o eglwys y M. C. i groesawu y Parch, a Mrs. E. L. Roberts, yr hyn a wnaeth ar ran eglwys y M. C. Dywed- odd y gwyddai y byddai i Mr. Roberts wneyd ei oreu fel cenad Duw i gy- hoeddi yr efengyl yn ei phurdeb idd- ynt. Yr oedd yn falch ei fod wedi ei alw i weinidogaethu i'r eglwys hon, am fod yma faes llafur mawr. Yr oedd yn dda ganddo fod yn gydlafurwr ag ef yn mysg Cymry y ddinas. Mae gan yr eglwys hawl i'w farnu os ydym yn ei garu, a dim os nad ydyw. Der- byniwch ef i'ch cartrefi. gwnewch ag ef megys un o'r teulu. Yna galwyd ar Parch. Johnson, gweinidog eglwys A. y Mayflower, i ddywedyd gair. Yr oedd yn ewyllysio ei lwyddiant yn ei faes newydd. Yna cafwyd can gan Miss Chapman. Mewn atebiad, y Parch. E. L. Roberts a ddywedodd ar ei ran ei hun a Mrs. Roberts ei fod vn falch iddo gael ei alw i eglwys Wash. Ave., ac nid i'r eghvvs yn unig, ond at Gymry y ddinas hefyd; ac yn ysbryd ei Feistryr oedd am vmgymervd a'r gwaith a gwneyd ei oreu yn v gwaith. A phan yr oedd ar derfynu, fe wnaeth y brawd John D. Evans fyned i fyny i'r llwyfan a rhoddi yn llaw y Parch. Warren envelope yn cynwys check i'w gyflwyno i Mr. Roberts, yr hyn a wnaeth. Wrth ei dderbyn, sylwai y daeth i'w gof yr hyn a ddywedodd Mrs. Roberts ychydig fisoedd yn ol. Meddai, "O! this is so sudden," a dyna yn unig a allai yntau ddywedyd am y check, "This is so sudden." Yna go- fynodd Mr. Warren i bawb ddyfod i lawr i'r ffrynt a siglo llaw; a'r gwein- idog newydd a'i briod ieuanc; Mr. a Mrs. John D. Evans yn cyfiwyno y bobl iddynt. I derfynu, digonwyd pawb a hufen rhew a theisenau, Cymdeithas Gynorthwyol y Gwragedd wedi dar- paru yr arlwy. Yr oedd y cyfarfod yn un rhagorol. Fe gynaliwyd cyfarfod y plant yn nghapel A. Washington Ave., nos giil, Meh. 13, y Parch. E. L. Roberts, gweinidog, yn llywyddu. Cafwyd am- ryw o adroddiadau a chaneuon gan y plant a chan gan y brawd J. P. Jones. Fe wnaeth Mr. Roberts roddi sermon- ette i'r plant yn dangos fod eu profiad hwy, er yn ieuainc, yn llawer iawn I' mwy pur na phrofiadau rhai llawer hynach na hwy. Yr oedd hyn yn galondid mawr i'r plant ei glywed yn eu canmawl. Fe gynaliwyd Cyfarfod y Plant Sul, Meh. 13eg, yn nghapel y M. C. Llyw- ydd, Mr. Edwin Thomas. Cyfeilyddes ar v berdoneg, Miss Davies, 'a thri o fechgyn ieuainc yn chwareu ar y crwth; Miss Elizabeth Breese yn ar- wain cor y plant. Yr oedd yn bleser edrych arni yn curo yr amser. Yr oedd hi yn feistres ar ei gwaith, ac yr oedd y canu yn ardderchog. Ar ol galw y cyfarfod i drefn gan y llywydd, cafwyd can gan y cor, yna fe wnaeth dosbarth o 10 o ferched adrodd yr 115 Salm, a chafwyd adroddiad gan Beatrice Thomas, wyres y diweddar Barch. Wm. R. Evans. Fe wnaeth tua 24 gymeryd rhan mewn adroddiadau a chanu. Yr oedd y capel wedi ei adclurno a blodau, ac yr oedd yn 11awn o bob!. Fe fu y Parch. E. Edwin Jones a'r brawd L. L. Davies yn v Gymanfa yn Cleveland, 0., a chafwyd cymanfa ra- gorol yno yn ol y dystiolaeth. Mae y personau canlynol wedi graddio o'r High School: Morgan Wil- liams, a'i chwaer Edith, plant Mr. a Mrs. T. E. Williams: Everett Lewis, mab Mr. a Mrs. Wm. Lewis. Kellogg Ave.: Irene Owens, merch Mrs. Han- nah Owens, N. Monroe Ave.; Eleanor Hughes, merch y ddiweddar Mrs. Hughes. E. Spring St.; Dorothy Evans, merch Mr. a Mrs. Thos. Evans, 1835 20th St.: Maybell Walters, merch Mr. a Mrs. Evan Walters, E. Long St. Yn graddio o'r O. S. U.: Gwilym Evans, mab Thomas Evans, y Teiliwr; Miss Jennie Owens, merch Mrs. Elmer Owens; Miss Helen ac Elizabeth Pugh, merched John Pugh, y City Librarian. Hefyd Miss Mae Davies, merch Mr. a Mrs. Dan Davies, East Long St., yn graddio o'r High School.

Advertising

PYTIAU 0 PITTSBURGH. PA.

ODDIAR LANAITR TAWELFOR. I