Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
9 articles on this Page
Advertising
1851 Y DRYCH 1915 Newyddiadur Cenedlaethol Cyhoeddedig Bob Dydd Iau Pris y Talaethau Unedig$2.00 Pris i Canada a Chymru, tal yn mlaen llaw yn ddieithriad_$2.50 CTVDESE^I COUNCIL HYSBYSIADAU am Brisiau Rhes- iymol. Anfoner am ein Telerau. ANFONER ARIAN mewn Post Office Order, Registered Letter, neu mewn Draft ar New York, taladwy i'r perchenog THOMAS J. GRIFFITHS, Drych Office, Utica, N. Y. AT EIN GOHEBWYR Er arbed traff erth i'r clerc yn y Swyddfa cyfeirier pob gohebiaeth a phob taliadau i'r "Drych" a'r "Cambrian" a'r rhai hyny yn unig) i Thomas J. Griffiths, Utica, N. Y. Dealled ein derbynwyr yn yr Hen Wlad nad yw Postal Orders yn werth dim i ni yma. Dim ond Post Office Orders sy'n dderbyniol yr ochr hon. Eglwys, Annibynol Gymreig NEW YORK CITY. 206-208 EAST 11th ST. Rhwng 3rd a 2nd Ave. Taith 5 mynyd o 14th St. Subway a'r 14th St. L. Sta- tions. Rhed y 3rd Ave. Surface Car heibio 11th St. Y Sabboth nesaf, pregethir am 3 y prydnawn a 7 yr hwyr gan y PARCH. HUGH ROBERTS. B. A.. Ynvsvbwl. D. C.
[No title]
Ymddibyna rhai dysgawdwyr, er cyfiawnhau y Germaniaid a'u moli, ar eu bod o'r un cyff a'r Seison. Yr oedd Cain o'r un cyff teulu ag Abel; a Judas o'r un cyff cenedl a'r Gwaredwr! Mewn cyhoeddiad Cymraeg parchus, yn proffesu meddu yr orgraff oreu, gwelsom "p'sawl" am "pa sawl;" a dysgwyliwn cyn bo hir weled "'sawl." Dyeithrwch arall oedd "f'hen." Beth ddaw o'n hiaith? Y dydd o'r blaen gwelsom llun difyr iawn, sef cystadleuaeth dau seindorf bres, eiddo yr Arlywydd Wilson, a German band W. J. Bryan; a William chwareuai y cor mawr, "Bryan's own trumpet," fel y dywedid. Druan o hono ef a'i gorn Germanaldd. Bydd German bands yn bethau adgas yn y wlad hon ar fyr, a hyny drwy ym- bleidiaeth William. Rhyfedd fel y dewisa efe y llwybrau ceimion bob tro! Y mae dyn yn farw i gamwedd a phechod am nad yw yn feddianol ar feddwl byw. Graddau o farweidd-dra yw anystyriaeth. Y mae gormod o son am bechod yn y byd a rhy fach am annghyflawnder. Achosir llawer o bechod a chamwedd gan drefn annheg ac afler cymdeithas, a pharheir hon gan ddynion parchus a Christionogol. Ond i ni newid a gwellau amgylch- oedd pobl, daw dyn yn fwy parchus. Pwy all ymgadw yn lan pan yn ym- droi rhwng pentanau a chrochanau bryntlon bywyd? Y mae y Germaniaid eisoes yn by- gwth gwladlvwiaeth ein Gweriniaeth. a sicrha G. S. Vfereck, un o German- laid mwyaf ffyrnig New York, a gol- ygydd y cyhoeddiad Germanaidd, "Fatherland," fod yr Arlywydd Wil- son wedi colli 1,070,120 o bleidleisiau Germanaidd eisoes. Bwriad y Ger- maniaid yw cael W. J. Bryan i redeg am Arlywydd ar y tocyn Germanaidd yn yr etholiad nesaf, o dan aden y Kaiser. Bydd gormod o flag y German ar Bryan i neb ei lyncu ond German. Cri W. J. Bryan y dyddiau hyn yw "breathing spell," fel rhag arweiniad i heddwch. Oni chafwyd blynyddau lawer o "breathing spell" ac eto bwrw iddi wnaeth y Kaiser? Paham na ai Bryan I Berlin i gael y Germanlaid i gymeryd y ddogn gyntaf o'i gynllun? Ychydig o "breathing spell" roes Ger- man! i Belgium, a llai fyth t'r Lusl- tania. Mae "breathing spell" B. mor goeg a'i "arian rhydd" er's talwm. Mae y Cymry yn raddol yn gadael yr hen ffyrdd. Dechreuir ameu aw- duraeth Gelrladur Charles: ac nid yw hyn ond agor y llif-ddor, oblegid y mae awduron Cymreig yn nodedig fel benthycwyr neu droseddwyr ar dy- ddynod llenyddol y Seison a'r German- laid hefyd yn ddiweddar. Wedi chwil- iad, ceir mai rhai go anwreiddiol yw y llenorion Cymreig. Y mae yn eu plith ambell i un go wreiddiol, ond go an- mharchus yw y rhai hyny. Siomedigaeth fawr yw y "war babies" yn Mhrydain, a dyledswydd y llywodraeth neu rywrai yw chwilio am y cythrymiaid a roisant anadl i'r fath chwedl ar y cyntaf. Y mae chwiliad wedi ei wneyd mewn 62 0 drefi, ar "war babies" heb ymddangos eto. Y mae y wasg yn gelwyddog ac enllibus; nid oes dau am hyny. Nid byddin yr hen oruchwyliaeth yw byddin fawr newydd Prydain, ond byddin a i ym- ladd dros Dduw a gwareiddiad. En- llibwyr Prydain heddyw yw pobl Iwfr y wlad;. yn palu celwyddau gartref, yn lie cymeryd eu lie ar y llinell danio! Merched y Bleidlais yn yr Hen Wlad yw cefnogwyr penaf y llywodr- aeth, er iddynt ei hysgwyd yn ddrwg yn ddiweddar. Casha y merched Ger-, mani a'i Khaiser yn waeth na phech- od, am mai un o ddirmygwyr penaf y ferch yw y Kaiser; ac ychydig o barch sydd gan y German i hawliau merch- ed. Dywedai Annie Kenney mai y benywod a'i cai hi waethaf pe y glan- iai yr Hwniaid yn Mhrydain. Gall- ent ganu "Bydd myrdd o ryf^ddodau" uwch bedd pob math o ryddid, ac yn arbenig hawliau y merched;! A yw W. J. Bryan yn broffwyd, neu ai hudlewyrn yw i arwain ei ganlyn- wyr ar grwydr? Nid oes llawer o am- ser oddiar pan y rhoes "arian rhydd" ar ei faner gan dynu y Iluoedd gwir- ion ar ei 01. Dyma B. eto a "Heddwch Hyd yr Eithaf" ar ei faner, a'r oil a'i dylyna yw 300,000 o gyn-filwyr Ger- manaidd yn barod i fyned i ryfel o du B. Americaniaid a'i dylynai er's tal- wm; ond erbyn hyn y mae ei shiboleth wedi ei arwain dros y cyfBniau i Ger- mani. Beth ddaw o B. cyn y diwedd? Un o ddiffygion amlwg W. J. Bryan, Ysgrifenydd Heddwch America, yw na wel ond un ochr i drafferth. Ni fedr ddychymygu dim ond ar un ochr i'w ben. Os yw am heddwch, nid y ffordd i'w gael yw atal gwledydd i beidio ar- fogi eu hunain, eithr myned i Berlin i siarad a'r Kaiser a'i gael i atal ei fydd- in anwaraidd. Yr heddwch a geisia B. yw yr heddwch a gynygir gan y Kai- ser. Y mae am heddwch rhwng y gwledydd a Germani, ond ni ynganodd eto pa fodd i gael heddwch rhwng Ger- mani a'r gwledydd. Nid yw wedi cry- bwyll eto mai Germani gychwynodd y rhyfel, ac ni chondemniodd y Kaiser hyd yma? Y mae B. am heddwch Germanaidd. Dyna y cyfan o honi! Cynllun da fabwysiadodd y llywodr- aeth yn Llundain yn ddiweddar, sef dewis nifer o flaenwyr llafur a'u ban- fon yn fintai i'r llinell danio yn Ngogledd Ffrainc a Belgium iddynt gael gweled eu hunain y bechgyn dewrion yn y ffosydd yn ymladd dros freintiau eu gwlad, a dywedir iddynt ddychwelyd wedi eu llenwi ag edmyg- edd o'r bechgyn, ac yn llawn aiddgar- wch am fyned ati i anog pob dyn a dynes drwy, y wlad i barotoi tan a hrwmstan i'r milwyr, "Seeing is be- lieving," ebe yr hen air. Credodd Thomas wedi gweled. Cynllun gwell eto fyddai myned a rhai canoedd o da- farnwyr y wlad yno a'i gadael yno i Syr John French eu rhoi ar waith mwy cymorthol i'w gwlad nag estyn diod. Bwriedir gwneyd y Pedwerydd y tro nesaf sydd ar ddod yn Americanization Day—dydd Americaneiddio pobl a phob peth yn fwy nag erioed. Y mae y rhyfel yn Ewrop, ac ymddygiad y Germaniaid ar yr ochr hon wedi ei gwneyd yn ddyledswydd i bwysleisio yn fwy nag erioed ar egwyddorion rhyddid. Amcan y Pedwerydd y tro nesaf fydd chwynu pob plaid an- Americanaidd allan o'r ysbryd Ameri- canaidd, gan roddi hadau gwladgar- wch yn y lie yr oedd y chwynyn. Ceis- ia y Germaniaid droi America yn Ger- manaidd ac yn gefnogwyr i'r Kaiser: y cyfeiliornad penaf allai ddyfod i America. Y mae llawer o chwyn Ger- manaidd ar hyd a lied y wlad, y tyn- wyd sylw ato yn ddiweddar gan y cythrwfl dros y mor. Tynwyd sylw at Seisneg Nodyn yr Arlywydd Wilson i Germani, o her- wydd el fod yn ysgolaig, ac yn ysgol- aig yn benaf hyd nes ei ethol yn Llyw- odraethwr New Jersey, ac wedi hyny yn Arlywydd. Un peth y tynir sylw ato yw v defnyddia lywodraeth v Tal- aethau yn y rhif unigol a'r llywodr- aeth Germanaidd yn y Iluosog; a chy- feiria at y llywodraeth Germanaidd yn y rhif unigol unwaith o leiaf. Pe buasai y "Drych" wedi cael y gorch- wyl, buasai y Nodyn wedi taro y Kaiser a'i lywodraeth yn fwy amlwg a phendant, ac ni fuasai "it" na "its" ynddo yn un man. Credwn fod moes- wladyddiaeth yn rhy aml-eiriog a choeg i fod yn effeithiol. Sylw difyr a welsom mewn papyr Eglwysig o Gymru oedd yn nglyn a siomedigaeth yr awdwr. Yr oedd wedi dysgwyl y byddai i Ddadgysylltiad gau i lawr yr holl eglwysi yn Nghymru, cau y mynwentydd, taflu yr offeiriaid o'u tai; atal defnyddio y Llyfr Gweddi Cyffredin, a rhoi taw tragwyddol ar yr hen Amen. Ond ben boreu gwelodd fwg yn esgyn o simdde y person, ac aeth i fewn i gael ymgom fach ag ef. Yr oedd wedi dychymygu y bydd- ai yn rhaid i'r personiaid chwilio am borfeydd eraill. Bydd y clychau yn canu fel gynt oddigerth i'r clochydd fyned yn rhy ddiog 1 dynu wrth y rhaff, neu fyned ar streic! Nid yw y Dadgysylltiad mor ddrwg ac yr ym- ddangosai. Yr oil a ofynir gan yr Eg- lwys ar 01, hyn yw porthi ei phraidd ar ei thraul ei hun yn lie ar ranch y llywodraeth, tra y mae yr enwadau er- aill yn talu rhent. Crychyn a barodd dipyn o anny- munoldeb, a gwaew a achosodd flinder i gwmni yr heol-gerbydau yn Utica oedd y barcut-gerbyd a elwir yn "jit- ney." Disgynai dan drwyn yr heol- gerbyd gan gipio ei ysglyfaeth ymaith, a dywedir i'r cwmni golli cryn lawer o arian am wythnos neu ddwy. Ar rai adegau byddai y jitney yn fwy cyfleus a hylaw, ond gan na chludai ei deith- iwr yn rhatach, nid oedd yn gaffaeliad. Y merched neidiai iddo amlaf, a hoff- ent hwy y jitney am yr ymddangosai fel private carriage, ac y mae y 'genod yn hoff o ymddangos yn fwy o fonedd- igesau nag ydynt, mewn gwirionedd. Daeth y jitney i fyny fel cicaion Jonah, a gwywodd yn ddisymwth. I Mewn wythnos (fel tasai) y ibu, ac mewn wythnos y darfu; yn debyg i wmbarel Jonah gynt. Dywedir i ryw ddylanwadau chwythu ar y mudiad brau, a'i ladd. Miloedd a wneir o ddeddfau yn ein gwlad bob blwyddyn, a chyfyd y go- fyniad yn naturiol, Pwy fydd yn gwy- bod y gyfraith ar fyr? Neb. Pan ddygir achos dyrys o flaen ynad neu farnwr, bydd yn rhaid iddo afael ar gyfrol (neu lyfrolau) o 100,000 o dudalepau, a chael 10 mlynedd i ys- bio i fewn i'r pwnc cyn dyfarnu, a bydd yr erlynydd a'r cyhuddedig fe- allai eu dau yn eu beddau, a'r under- l taker wedi ei dalu yn hir, cyn y bydd yr ynad a'r barnwr yn barod. Y mae un peth yn siwr, sef fod amldra deddf- au yn profi anonestrwydd pobl v wlad y ceir y fath beth ynddi. Mae hane'r dwsin o ddeddfau yn ddigonol rhwng pobl onest a'u gilydd. Ie, ond beth wneir o'r 100,000 o ddeddfau? Phon- er am yr ysbwriel-ddyn, a dadlwyther y cyfan ar domen gwrthodiad, ac eled pobl i fyw yn barchus a gonest heb ddeddf. Dyna fydd y canlyniad. Daw yr United States Steel Trust allan o'r Uchaflys heb grychyn na brycheuyn ar ei gymeriad, a bydd yn gymorth a symbyliad mawr iddynt barhau gyda'r gwaith da o bentyru golud a gorthrymu llafur. Cywilydd yw i Uchaflys na thelid rhyw gymaint o sylw i berthynas llafur a'r Glym- blaid. Pwnc mawr y dd,adl o flaen y Llys oedd, a oedd dull y Glymblaid yn rhwystr i glymblaid neu gwmni arall ddwyn eu trafodaeth hwy yn mlaen. Dyna y pwynt mawr a phenaf yn neddf Sherman, sef atal "rhwystriad cystadleuaeth ac ataliad gyrfa trafod- aeth." Y pwnc penaf dan ystyriaeth, gallem feddwl oedd, a oedd y "volume neu y bigness of business" yn rhwystr ac yn anhwylusdod i "volume a big- ness" busnes rhyw gwmni arall. Hoff- em weled y sylw a oedd y "volume" a'r bigness of business" yn gam a llafur. Ond ni sonir am hyny o gwbl, er na fyddai y "volume" na'r "bigness" oni- bae am lafur. Gresyn na chrybwyllid mewn rhyw fodd y gallai y "volume" a'r "bigness of business" dalu yn well i lafur. Y ffaith yw nad yw ein ddeddfwrfeydd na'n llysoedd yn talu nemawr sylw i lafur, oddieithr fod llafur yn aflonyddu a bygwth, a sylw cloff a dysbeidiol ga hefyd y pryd hwnw. Dyna hanes ymddygiad golud at lafur erioed ac erioed, a dyna fydd hyd nes y daw llafur yn ddigon cryf, doeth a phenderfynol 1 sefyll i fyny a dweyd "Dim ychwaneg o'r anmharch hwn ar lafur!" Y drwg mwyaf yn nglyn a'n gwar- eiddiad yw nad yw yn gwareiddio. Y peth amlycaf yn nglyn a'n gwareidd- iad yw y ca dynion fwy o waith, mwy o ddillad, mwy o fwyd o ryw fath, mwy o gwrw a mwy o gyfleusterau pechu, a mwy o addysg I ddosbarth o bobl gael uwchafiaeth ar eraill, ond ni welir nemawr ddim gwelliant yn' egwyddor ddyngarol dyn at ddyn. Yn y peth yna, y mae ein gwareiddlad yn mhell ar ol. Dengys y rhyfel yn Ewrop fod y dosbarth rheolus yn fwy milain na'r werin bobl. Dengys ein miliwnyddion a'n goludogion mai cribddeilwyr ar raddfa eang ydynt, a phrofa budrbarthau ein dinasoedd, a myrddiynau y gweithfau mai caethion yw mwyafrif y bobl\ Prif ddyben lla- fur a dlwydrwydd yw gwneyd miliwn- yddion a goludogion o'r ychydlg. De- chreu gwareiddiad fydd yshrydoleidd- iad y werin i amgyffred mai mewn caethiwed y trigant ac i ymuno a'u gilydd yn gyffredinol ac i ddianc o gaethiwed o'u goddeflad eu hunain. Ac ni ddaw hyn o waredlgaeth fyth ond drwy eu hymdrech hwy eu hun- ain. Dysgwyliant i Dduw, neu ras, neu ffawd, neu ddamwain eu gwaredu, ond ymddibyna arnynt hwy eu hunain, ac y mae y moddion yn eu dwylaw, sef y bleidlais; a'r oil sydd ganddynt wneyd yw pleidleisio1 drostynt eu hunain yn lie dros eraill. CAMWEDD YR O. N. I Un o ddyelthr gampau yr O. N. yw rhoi geiriau dan driniaeth greulon; amddifadu rhai o'u cynffonau, eraill o'u rhanau mewnol ac o'u man gymal- au. Dylid ysgrifenu gair yn el ffurf gyflawn, fel na byddo yn rhaid ei newid neu ychwanegu ato ei ran am- ddifadedig; "cyntaf," er engraifft. Paham yr ysgrifena yr Orgraffwyr Newyddion y gair yn "cynta'? Pan yn ysgrifenu cyntafanedig, rhaid dy- chweyd yr "f" i'w lie. Ond paham na adewir iddi yn "cyntaf?" Eto "cymryd;" paham yr ysgrifenir "cymryd," ac eto pan y "cymeradwy- ir," nis ysgrifenir ef yn "cymradwy- ir." Felly pa ham na'i gadewir yn gyflawn yn mhob ffurf arno? A'r un modd paham y diaelodir if "h" yn y gair "cenedl," ac y'i derbyn- ir yn ol eto heb lythyr na phroffes o I ffydd, yn "cenhedloedd?" A'r un modd gyda'r sillgolli-a hyny yn )bla. Gwelsom "p'odd" yn y "Traethodydd" am "pa fodd." Hawlia geiriau eu hysgrifenu yn gyflawn, oddigerth dan law bei-rdd yn eu saer- nio i lenwi bylchau; eto mewn rhydd- iaith, ni ddylid tori ymaith eu penau, eu gyddfau, a'u cynffonau fel y gwna y beirdd. Y mae digon o le mewn rhyddiaith. Gwelsom a ganlyn yn Ngholofn Gymraeg y Parch. D. Tecwyn Evans, mewn cyhoeddiad Cymraeg. "Nid yw'r acen yn disgyn ar yr ail sillaf yn 'anghenog,' eithr disgyn yn gyfarfaI ar y ddwy sillaf gyntaf." Os yw yn disgyn ar y ddwy sillaf gyntaf, rhaid ei bod yn disgyn ar yr ail hefyd! Y mae yn ddysg newydd fod dwy acen mewn gair o dair sill; a gwaeth fyth eto, nad oes acen ar yr ail, eithr un acen rhwng y ddwy sill gyntaf! Pethau fel hyn yn Nghymru a elwir yn ddysgeidiaeth, a cheir dysgawdwyr yn Nghymru yn dylyn arweinwyr na wyddant beth y maent yn ddweyd! Dymunwn rybuddio y Cymry i beid- io dylyn pob dysgeidiaeth, eithr profi yr ysbrydion. Y mae dysgawdwyr Germani wedi myned yn ffyliaid, ac y mae perygl i ninau, y beirdd' a'r llen- orion, fyned yr un ffordd, oddieithr i ni wneyd defnydd o'n synwyr cyffred- in. CYMDEITHAS NEWYDD. Dro yn ol, ymdarawodd i feddwl nifer o Gymry Utica i gychwyn a sef- ydlu math o gymdeithas wladyddol Gymreig, gan fwriadu ar y cyntaf ei gwneyd yn gymdeithas i gymorthi yr elfen Gymreig, gweithio Cymry o deil- yngdod yn yr ardal i sylw gwladydd- wyr y ddinas a'r amgylchoedd, a'u cynorthwyo i swyddau a safleoedd; ond ar ol iddynt gyfarfod a'u gilydd amryw weithiau, cawsant weledigaeth newydd a rhagorach, ac addfedodd y meddwl i rywbeth llawer mwy an- rhydeddus, ac y mae y cynllun a'r nod a benderfynwyd arnynt ar ol ystyr- iaeth fanwl a gofalus yn anrhydedd i ben a chalon y pwyllgor y rhoddwyd y gwaith iddynt. Y mae y cyffro yn nglyn a'r rhyfel presenol wedi gwneyd mudiadau cen- edlig o fewn y Weriniaeth American- aidd yn anmhoblogaidd ac yn adgas. Y mae y gysylltnod (hyphen) wedi syrthio i anfri, ac y mae wedi myned i olygu gwrth-Americaniaeth; a gwel- odd y cyfeillion y perygl hwn, a bu yn foddion i gyfeirio eu camrau i lwvhr gwreiddiol y Weriniaeth. Nid gwlad yw y Talaethau i fagu planig- ion cenedlig, eithr tyfu Pren mawr i gysgodi holl bobloedd y byd, ac i or- esgyn hen ormesion a hen arferion. Nid gwlad yw i Germaneiddio na Chymreigeiddio mudiadau, eithr i Americaneiddio yr holl gyfundrefn wladol fel ag i fod o fud-d ac o fendith i bawb. Felly cafodd y pwyllgor y weledig- aeth iawn, sef sefydlu cymdeithas ber- ffaith Americanaidd, annihleidiol, yn cydnabod yr un blaid, ond anrhydedd a gonestrwydd, ac i gefnogi y cynllun o reoli ein dinas er lies y dinasyddion, gan anwybyddu pob plaid boliticaidd a ofala yn fwy am ei buddion ei hun a theyrngarwch ei haelodau, nag am lwyddiant y ddinas. Yn y "Drych" diweddaf, ymddang- osodd y dadganiad a barotowyd gan y pwyllgor, ac y mae yn darllen fel par- had o, neu atodiad at y Dadganiad, Mawr ar gychwyniad y Weriniaeth. Deil y dadganiad gyffelyb berthynas a'r ddinas ac a'r dref ag a ddaliai y Dadganiad Mawr hwnw a'r Werin- iaeth oedd ar hwylio allan. Testynau amlwg y Dadganiad hwnw oedd uwchafiaeth y bobl ar y Brenin, a'u cydraddoldeb a'u gilydd; a thes- tynau y dadganiad lleol hwn yw uwch- aflaeth y dinasyddion ar y Boss, ac annibyniaeth y dinasyddion a rhydd- had eu buddianau o afaelion y pleid- iau a'u Boesls. Ceir y Boss yn euog o'r drygau ag a ddygid gan Ddadganiad Jefferson yn erbyn y Brenin Slor; a gwnaeth y dystiolaeth yn achos Barnes v. Roose- velt hyn yn amlwg iawn. Y ffaith gyntaf a nodid yn y Dadganiad hwnw yn erbyn y Brenin oedd, "He has re- fused his assent to laws, the most wholesome and necessary for the pub- lic good." Cymer y Boss Ie y Brenin ar lawer o linellau. Teimlai y pwyll- gor fod cymaint o angen am ymwared oddiwrth y Boss ac oddiwrth y Brenin gynt; a dyben y dadganiad hwn o eiddo y pwyllgor yw dadleu dros rydd- had y dinasyddion oddiwrth draws- reolaeth y Boss a'i ddylynwyr. "Ni waeth," ebe y dadganiad hwn, "pa blaid fo mewn gallu, ffyna yr un drygau. Bu y pleidiau yn rheoli dinas Utica am 40 mlynedd, a byddai yn an- hawdd," ebe y dadganiad, "i ddweyd pa un roes y rheolaeth oreu neu waethaf. Yr un yw nod y ddwy blaid, set sicrhau iddynt eu hunain y swydd- au a'r ysglyfaeth. Ar hyd y blynydd- au, y maent wedi ffwlian y bobl!" Yn seiliedig ar yr ystyriaethau uch- od, cymeradwya y pwyllgor, drefnu cymdeithas i gyraedd rhyddhad y ddinas o afaelion y pleidiau, ac i gael ei henwi yn "Utica Good Government Association." Addawa y pwyllgor barhau gyda'r gwaith hwn o berffeith- io y trefniant, a chyhoeddir adroddiad diweddarach eto.
[No title]
Nid yw Gwybodaeth yn eiddo i'w gadw ond i'w gyfranu. Dyma berl sydd yn gostwng ei bris ei hunan wrth ei guddio, ac yn gostwng pris y cudd- iwr wrth gwrs. Pe buasai y mwyafrif yn credu gwirionedd plaen fel yna, ibuasai gwaith Arolygwr mewn llawer Ysgol Sul yn waith llawer mwy dy- munol; ond nid dyna'r hanes gwaeth- a'r gwir.
[No title]
MRS. StAiMTHEIL DAVTES. diweddar o'r Grand Hotel. Fairfield. Florida, yr hon y bernir iddigaeI ei symud i sefyd- liad yn Jacksonville, Florida. Goheber a J. R., "Drych," Utica, N. Y.
I NODION PERSONOL I
I NODION PERSONOL I Cyfeiriad y Parch. E. Thomas, New Cambria, Mo., am ryw hyd fydd y Rev. E. Thomas, Macon, Mo. Dyma fel y can Cadle i fis Mehefin: Mesur swyn mis rhosynau—eleni Lanwyd i'w ymylau; Dihalog bor deiliawg bau- Cenad gwar cnydiog erwau. Owens-Schoen.-Mehefin 24, 1915, gan y Parch. Joseph Roberts yn nghar- tref y briodasferch, yn Woodside, L. I., New York, Mr. William Henry Owens a Miss Anna Dorotha Schoen. Caw- sant briodas barchus ac anrhydeddus. Ymwelodd W. O. a Thomas W. Thomas, Norfolk, Va., llechdowyr, ag Arvonia. Nid oedd William wedi bod yma er's 37 mlynedd, a Thomas er's 26 mlynedd. Daethant yma y tro hwn i gladdu ei hewythr, David O. Thomas, Norfolk, Va. Y mae Tom yn darllen llawer ar y "Drych."—E. E. J. Yn addoldy Cymreig Minneapolis, Minn., Mehefin 16, 1915, gan y Parch. J. T. Evans, priodwyd Mr. Leroy S. Crane, Windom, Minn., a Miss Mary S. Jones, merch Mr. a Mrs. Wm. M. Jones. Ar ol y gwasanaeth caed gwledd yn nghartref rhieni y briodferch. Der- byniodd y par ieuanc lawer o roddion ac yn eu plith Feibl hardd gan yr eg- lwys. Fenton-Lewis.-Mehefin 23, 1915, yn nghapel Bethel (A.) ar E. 'Centre St., Mahanoy City, Pa., gan y Parch. J. Myrddin Jones, unwyd Dr. Ivor D. Fenton a Miss M. Theresa Lewis mewn glan briodas. Mae Dr. a Mrs. Fenton yn uchel eu parch ac yn anwyl iawn gan bobl ieuainc y dref. Ar ei ffordd i Plainfield, N. Y., aros- odd y Parch. H. R. Hughes, gweinidog eglwys A. Plymouth, Pa., dros y nos yn Utica. Cyn cychwyn i fyny, trodd i fewn i'r .Swyddfa, yn ol ei arfer pan yn y cylch, a liawen genym weled golwg raenus arno. Y mae H. R. H- yn un o'r cyfeillion y bydd yn dda genym ei weled yn troi i fewn. Daeth boneddwr tra adnabyddus yn Nghymru drosodd i Granville, N. Y., yn ddiweddar, sef Mr. O. J. Owen o Ffestiniog, brawd i'r Parch. D. 0' Brien Owen, Caernarfon, a Mr. W. M. Owen, New York. Bwriada gychwyn diwydfa newydd yn Middle Granville drwy gyfrwng cynllun o'i eiddo i droi ysbwriel y chwarelau yn llechi toi! Beth nesaf, a beth a ddywed y chwar- elwyr am hyn? Yr ydym eto am alw sylw nifer fechan o'n gohebwyr (nid yr O. N. na'r hen 0.), eithr yr orgraff nadredd- og-yn ysgrifenu llythyren neu ddwy neu dair, ac yna y gair yn troi yn neidr i ni ddychymygu ei derfyniad. Y mae cymaint o hamdden gan bob un o'n gohebwyr ag sydd genym ni. Ar- fered pawb orphen eu geiriau yn barchus. Alberta Parson, Price, merch dalent- og y Parson, athrawes yn y Western College, Oxford, 0., a dderbyniodd al- wad i Ferry Hall School, Lake For- est, ger Chicago, Ill., ond bwr- iada ymadael ag yno eto, ac ymsefydlu yn New York, a bydd ei studio yn 2 West 29th St. Un o ddysgyblion Ossip Gabrilowitseb. yw Alberta, ac yn codi i sylw yn y byd cerddorol. Yn Sonora, Meh. 13, bu farw R. E. Owens, o Sstfi Francisco, ac yn aelod o Crockett Lodge, 329 1. 0. O. F., hefyd Carquinz Ledge o F. & A. M., No. 337. Brodor ydoedd yr ymadawedig o Lanfairynghornwy, sir Fon, a mab i Richard a Mary Owens, Hendre Fawr, o'r lie uchod. Bachgen tawel a charedig oedd, ac a berchid gan bawb gorphenodd ei yrfa yn ddyn ieuanc wyth ar hugain oed a thri mis. Cyd- ymdeimlir yn fawr a'i rieni; hefyd a'i ewyrth, R. L. Owens, San Francisco. Siaredir yn uchel am ddoniau Par- son Price fel athraw cerddorol, gan y cymeradwyir dysgyblion i fyned ato o bob parth o'r Talaethau. Yn ddiwedd- ar, daeth Nana Sigourney a Diane Oste, dwy soprano, o Tennessee, a Gladys Hanson o Georgia ato. Gwnaeth Miss Hanson ei hymddangos- iad yn llwyddianus yn y chwareu Groegaidd yn Mhrifysgol Cornell, Ithaca, N. Y., yn ddiweddar. Mai 16, cynaliwyd cyngerdd cyf- archiadol i'r gweinidog, y Parch. E. J. Lewis, yn eglwys Bresbyteraidd Jack- son, 0. Canwycl Aberystwyth Dr. Parry, yna aed drwy gantawd, "Holy City" A. R. Gaul gyda chor o 35. Cy- t'eilid gan Jessie Hanna ar yr organ, a Jean Jones ar y piano; Dan M. Mor- gan yn arwain. Yr oedd yr adeilad yn orlawn, a llawer yn methu myned i fewn. Brodor yw Mr. Lewis o Lan- fabon, Morganwg. Un o blant Cefn- coedycymer yw ei dad, a'i fam o Gelli- gaer. Bydd Mr. Lewis yn treulio ei wyliau yn Big Rock, Ill., yn ystod Gorphenaf. Yr wythnos ddiweddaf, graddiodd Edwin Evans Jones, Philadelphia, gydag anrhydedd yn Princeton Uni- versity. Mab ydyw Edwin i'r Parch. Richard T. Jones, D. D., a'i briod. Enw morwynol Mrs. Jones oedd Jennie Evans, merch i'r diwecfHar Wil- liam Evans, Rome, N. Y., a chwaer i'r diweddar Dr. Edwin Evans, y Barn- ydd Isaac Evans, a'r Anrhydeddus Da- vid G. Evans. Mae yr ail fab, Rich- ard T. (Jr.), wedi myned trwy yr ar- holiadau yn llwyddianus, a bydd yn myned i Princeton yn yr hydref. Cyfarchiad Gwyngyll yn mhriodas Mr. Leroy S. Crane, Windom, Minn., a Miss Mary S. Jones, merch Mr. a Mrs. William M. Jones, Minneapolis.: On the river of time waits grief and song; A thousand little crafts are moving along; And yonder, I see a beautiful sight, Two small canoes are paddling their might. Nearer and nearer they come down the stream; Closer and closer come Sugar and Cream; Both in a sudden abandoned the strife. Finally decided to quit such a life; For two hearts united in one small canoe On the river of time is far better than two. To our old friend Mayme and her faithful Leroy, Their lives may be circled by endless joy. Yr wythnos ddiweddaf galwodd fy hen gyfaill a'm cyn-weinidog, y Parch. L. Ton Evans a'i briod a'u bachgen bychan, Arthur Judson, i'm gweled, a llawenydd mawr oedd cael cydgwrdd. Cawsom adgyfnerthiad ysbryd wrth fyned dros hanes y blynyddau dreul- iasom gyda'n gilydd yn Edwardsville, tra yn ymladd ochr yn ochr yn erbyn y ddiod feddwol, a drygau eraill. Caw- som rai prydiau ein taro i lawr, ond hefyd cawsom fuddugoliaethau ysgub- ol, ac mae y dyldnwad yn aros hyd heddyw. Mae Mr. Evans o hyd yn dy- heu am efengyleiddio Ynys Haiti, lie y treuliodd rai blynyddau gan aberthu bron hyd at waed, er mwyn y truein- iaid yno, ond methodd gael y gefnog- aeth ddyladwy gan y rhai ddylasent gefnogi ei ymdrech. Ar ei daith i bregethu i eglwys y B. yn Lansford, Pa., yr oedd y gwr parchedig y tro hwn, a He y dysgwyliai bregethu ddau Sabboth.—Glan Cleddy. Scranton, Pa., Meh. 23ain.-Yr wythnos ddiweddaf dychwelodd Miss Mary C. Nicholas, merch eich goheb- ydd Wm. J. Nicholas a'i briod, gartref o Palma Soriano, Cuba, lie mae yn athrawes genadol o dan nawdd y W. H. M. B., Chicago, 111. Mae y chwaer ieuanc hon wedi treulio tair blynedd yn Cuba, yn gwneyd gwaith cenadol gyda llwyddiant sylweddol. Beth bynag, o herwydd y gwres eithafol, ofna y bydd rhaid iddi aros yn y Tal- aethau am flwyddyn neu ddwy rhag anmharu ei hiechyd. Ei chyfeiriad tra gartref fydd 1711 N. Sumner Avenue, Scranton, Pa.—Goh. Tamaqua, Pa.—Bu farw Cymro ad- nabyddus yn y parth hwn o'r dalaeth foreu Mercher, Mehefin 16. sef Dafydd Jones, efe yn 66 mlwydd o oedran. Cafodd fordaith arw ar gefnfor byw- yd, ond yr oedd ei gwmpawd at y nod. Ei elyn dinystriol oedd y cancer. Gwnai ei gartref gyda ei ferch, lie y cafodd. 'bob ymgeledd oddiar ei Haw. Hen arolygydd Glofa Rhif 11 ydoedd Mr..Tones, a'i hen gartref ydoedd Coaldale. Yr oedd hefyd yn aelod o hen eglwys Gymreig Ash ton, a gwas- anaethodd fel ysgrifenydd yr eglwys am beth amser ,a'i ddiweddar dad oedd o'i flaen. Yr oedd ei briod wedi ei flaenori er's peth amser; un o'r Gwilymiaid oedd. Gadawa Mr. Jones bedwar o feibion a dwy o ferched mewn galar ar ei ol: hefyd un chwaer. sef Mrs. Lewis Hughes, priod Bardd yr Eingion. Claddwyd ef yn mynwent yr Odyddion, pan y daeth torf fawr yn nghyd i dalu y gymwynes olaf i'w weddillion marwol. Pregethwyd ar vr achlysur gan y Parch. Theophilus Davies, Plains.—Yr wythnos o'r blaen. claddwyd Fred Tngram, o'r lie hwn yn mynwent yr Odvddion. Gen- edigol ydoedd o Brvnmawr. sir Fvn- wy. D. C. Yr oedd Fred yn gryn dip- yn o fardd: fe gyfansoddodd lawer yn yr iaith Raesneg, ac yn ei ddvdd yr opdrl yn ddvn o alluoedd cryflon.- Gwilym Ddu. Canton, Ohio.-Caniatewch i mi ychydig ofod yn y "Drych" er mwyn hysbysu Cymry cylchoedd y dalaeth I hon, Talaeth Ohio, fod gwyl flynyddol Cymry Canton i'w cnynal ar y lOfed o Gorphenaf y mis nesaf ger Niger's Lake, fel arferol. Mae y dydd yn byr- hau yn niwedd mis Awst, fel y gwydd- och, ac wrth gyfarfod a'u gilydd yn mis Gorphenaf gallwn dreulio a.wr yn fwy gyda'u gilydd. Cyfarfyddodd llawer o hen ffryndiau yn yr wyl ddi- weddaf a'r pren almon wedi blodeuo a'r farf fel sidan gwyn heb weld eu gilydd am yn agos i ddeugain mlyn- edd. Y fath lawenvdd oedd yn y cyf- arfyddiad yn ol yr hanes! Bydd digon o ice cream a coffee yn rhad i'r Cvmrv. Mae croesaw i bawb a rtdel ar ddvdd yr wyl. Bydd digon o ddifvrwoh i bob oed yn v prydnawn.—T. Clarke. 0 Fwlch v Gwynt i Ddinas v "Drvch." Wn i ddim pa mor drist n digalon oedd Adda ac Efa pan yn gadael Eden am y tro olaf am byth, ond mentraf ddweyd nad oeddynt yn teimlo mor anhawdd i adael yr ardd ag oedd i Mair a minau adael Bwlch y Gwynt. Nid oedd gan Adda ac Efa neb i ganu ffarwel a hwy; na, nid oeddynt hwy yn gwybod beth oedd siglo dwylaw a chyfeillion caredig, ac nid oedd ond yn unig y creaduriaid i'w gadael, a'r oil o honynt fel pe yn gwybod fod y ddau wedi gwneyd rhywbeth o le, ac fel yr Ellmyniaid, yn barotach i gorn- io a llarpio y ddau am iddynt ddigio eu Creawdwr. Fel arall yn hollol y bu gyda ni, ein dau; cawsom y croesaw a'r caredigrwydd mwyaf am'dair blyn- edd o amser, fel mai nid gwaith hawdd oedd siglo dwylaw o bosibl am y tro olaf a chyfeillion hoff yn Wind Gap a Bangor. Hyfryd o beth ydyw cael cyfeillion da a. charedig, yn enwedig yn y dyddiau drwg hyn; dyddiau yn Hawn o ryfela. Yr wyf trwy hyn o linellau yn diolch i Mr. John R. Hughes a'i fam, am eu caredigrwydd mawr a ni, o dan eu cronglwyd hwy y cvsgais y noson gyntaf a'r' olaf yn Wind Gap. Cofion goreu atynt hwy a'r eglwys He y bum yn aelod o honi; ie, eglwys ac y teimlais "ysbryd y peth byw" yn ymwneyd a hi lawer tro. Yr wyf eto yn dymuno pob daioiii ar ran pawb yna.—John M. Roberts (loan Euron), Utica, N. Y. « I
[No title]
Hysbysir marwolaeth Mr. Donald Cameron, yn Glanymor, Beaumaris, yn 78 mIwydd oed. Bu'n cadw busnes dilladau yn Mangor am lawer o flyn- yddau. Bu'n henadur y Cyngor Din- esig, ac efe oedd Maer v ddinas yn 1893-4, pan fu y diweddar Frenin Edward a'r Frenines Alexandra, fel Tywysog a Thywysoges Cymru, yn aros yn Mharc Penrhyn ar achlysur Eisteddfod Genedlaethol Caernarfon. Cyflwynodd yr Henadur Cameron an- erchiad y ddinas iddynt. Claddwyd yn mynwent Glanadda.
Advertising
DRUID APARTMENTS. 1190 Turk St., San Francisco. Calif. Furnished Rooms by the day, week, or month. MISS H. G. JONES, Proprietress. Easy distance from the Civic Auditor- ium. Phone West 4440. COROLA HOTEL. LOS ANGELES. CALIF. A fine rooming house, specially fitted for tourists who visit the Pacific Coast. A fine home for young men who visit Los Angeles. Free bus to the hotel. Y CYMRO GWLADGAROL. C. C. JENKINS, Prop. 1308 S. Hill St. Phone, Home 60733
PARCH. WALTER JONES. M. A.…
PARCH. WALTER JONES. M. A. (GWALLTER). JACKSON. 0. Llwvddiant Gwallter. Mae yn hyfrydwch genym gyflwyno i ddarllenwyr y "Drych" y darlun olaf o un sydd a'i enw mor ami ar ei glawr, sef y gweinidog ieuanc llwyddianus, a'r lienor nid anenwog, y Parch. Walter Jones, M. A. (Gwallter). Llon- gyfarchwn ef ar ei Iwyddiant yn enill y radd o M. A. o'r Ohio University, Athens, Ohio. Yn ystod y chwe mis diweddaf aeth i Athens ddwy a thair gwaith yr wythnos, lie y llafuriodd "mewn amser ac allan o amser." Heb- Parch. Walter Jones. M. A. law myned drwy gwrs y Coleg yn ys- tod yr amser uchod, cyfansoddodd ddwy bregeth ar gyfer y Sabboth, yn ogystal a gofalu v am gyfarfodydd yr wythnos—ateb y gwrthddadleuon or- graffyddol, a physgota yn yr afon Scioto a llyn Alma gyda'i gyfaill Daf- ydd Hywel a'r ysgrifenydd. Y meus- ydd y llafuriodd ynddynt yn Athens ydoedd Physiology a Sociology. Caf- odd y radd uchaf yn bosibl mewn Physiology, y marciau Ilawn. Ysgrif- enodd hefyd ddau draethawd mewn perthynas i'r ddau bwnc, a deallwn y cyhoeddir yr un mewn Physiology at wasanaeth darllenfa y Brifysgol. Ni orphwys Gwallter nes esgyn pen yr ys- gol a chael ei Ph. D. Pob llwyddiant a'i dylyno, ac o eigion ein calon dy- wedwn: "Uwch, uwch yr el Nes drlngo i gadair angel." -E. O. Roberts.
Y DIWEDDAR JOSEPH J. DAVIES.…
Y DIWEDDAR JOSEPH J. DAVIES. WEST EXETER. N. Y. Mae llaw oer angeu wedi ei hestyn i gymeryd ymaith un o Gymry parch- us yr ardaloedd hyn, ac y mae cylch eang o berthynasau a chyfeillion yn galaru ei golli o'n mysg. Cyfeirio yr ydym at farwolaeth y brawd hoffus ac adnabyddus Joseph J. Davies, yr hyn gymerodd le ddydd Mercher diweddaf, Mehefin 23, yn ei gartref ger West Exeter, N. Y. Cystuddiwyd ef yn galed yn ystod y ddwy flynedd ddi- weddaf, ac yn araf araf tynai tua glan yr afon, hyd nes y gwelai ei deulu nad oedd ond byr amser nes y croesai hi. Collodd yr ardal gymeriad crwn, pur, crefyddol a duwiol, un o'r stamp nad yn fynych y llenwir y gwagle a adaw- ant ar eu hoi mewn cymdeithas, a galara ardal gyfan gyda'r teulu ar ol Mr. Davies. Ganwyd yr ymadawedig yn Oriskany Falls, Ebrill J 7, 1858, ond pan yn ddwy flwydd oed symudodd ei rieni, ac yntau gyda hwy, i Plainfield, N. Y. Yn ddiweddarach, daeth i breewylio i ymyl West Exeter, lie v treuliodd y deuddeng mlynedd diweddaf o'i fywyd. Yn 1896, unwyd ef mewn glan briodas a Miss Bulia Rose, o West Exeter, a ganwyd iddynt un malt, Rexford J. Davies, o'r briodas. Pan yn ieuanc, ymunodd Mr. Davies a'r eglwys Feth- odistaidd Gymreig yn Plainfleld, ond ar ei symudiad i West Exeter, ym- aelododd yn eglwys yr M. E., lie yr oedd ei briod yn aelod ffyddlawn a gweithgar. Bu yntau yn ddyfal was,- anaethu yr Arglwydd yn, yr eglwys, a llanwai y swydd o ymddiriedolwr a goruchwyliwr adeg ei farwolaeth. Heblaw ei briod a'i fab a nodir uchod y mae yn aros mewn galar ddau frawd a dwy chwaer, sef R. H. Davies, o Waterville, a Caleb E. Davies, Sum- mit Place, Utica; Mrs. John S. Wil- liams, o Rome, a Mrs. O. W. Roberts, Minneapolis, Minn., ac amryw neiant. Cymerodd ei angladd le y dydd Sad- wrn canlynol, y gwasanaeth yn y car- tref am 11 y boreu, pryd y gwasan- aethwyd gan y Parchn. Cole a Dodge, y, cyntaf yn weinidog presenol yr eg- lwys a'r olaf yn gyn-weinidog. Can- wyd gan bedwarawd yn cynwys John Adams, Wm. Adams, Esther Adams a Ruth Davies amryw ddarnau pwrpas- ol. Yr archgludwvr oeddynt: Evan Mason,, Thomas Adams, Unadilla Forks; Evan Hughes, Plainfield. a David Evans, Waterville. Daearwvd ei weddillion yn mynwent Unadilla Forks, y ddau weinidog enwyd yn gwasanaethu. Tawel fo hun y cyfaill.