Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

[No title]

SCHENECTADY. NEW YORK. I

rPORTLAND A SEATTLE. j

News
Cite
Share

PORTLAND A SEATTLE. Gan Glanogwen. Ar ein taith i Ffair y Byd, cymeras- j om long o Victoria, B. C., i Seattle, a chawsom gysylltiad gyda'r tren hwyr- ol i Portland. Treuliasom ddiwrnod Ilawn yno a thrwy gymorth y guide ar y car modur gwelsom agos holl ryfedd- odau y ddinas. Mae Portland yn lie dymunol iawn. Pan mae yr hin yn ffafriol, mae ei heolydd yn frith o ros- ynau; gelwir hi 'Dinas y rhosynau,' ac yn wir, mae yn deilwng o'r enw. Ceir yno arddangosfa rhosynau bob blwyddyn. Yn nghorph y dydd aethym yn nghymdeithas y brawd Joseph Jones, Vancouver, i ymweled a maelfa Roberts Bros. Gwelsom amryw o Gymry yn gwasanaethu yno, ac yn eu mysg y cyfaill siriol a'r tenorydd mwyn, E. Trevor Jones, a ddaeth yma amser yn ol o Vancouver, a chyn hyny o Lerpwl, ond yn enedigol o Gaergybi. Mae galwadau mynych am ei wasan- aeth yn myd y gan. Un arall a wel- ais oedd y tenor adnabyddus Maldwyn Evans, o Fangor, G. C., mae yntau yn bur brysur gyda'r canu, ac yn lleisiwr uwchraddol. Yno hefyd y mae Miss Lloyd, o Vancouver. Dywed ei bod yn mwynhau y Glanau ac yn cael iechyd rhagorol, ac yr oedd yr olwg a gawsom arni yn pery i ni feddwl fod ei thyst- iolaeth yn wir; ei bochau gwridgoch fel rhosynau y ddinas. Diolch yn fawr i Trevor Jones am ein hebrwng i'r orsaf. Gan fy mod wedi traethu yn flaen- orol am ein taith o Portland i Ffrisco, mae genyf air yn mhellach am y daith oddi yma i Seattle ac yn ol. Gan mai teithio y nos a wnaethom ni welsom ddim ond y gwely. Wedi cyraedd Seattle boreu Sul, a gorphwys dipyn, gelwais y Parch. J. Michael Hughes ar y telephone, a deallais ei fod yn treul- io yr haf tua saith milldir o'r ddinas. Yr oeddwn wedi meddwl llawer am gael ei weled, ond ofer fu fy nysgwyl- iad o herwydd prinder yr amser oedd genym. Dysgwyliaf alw eto yn Seattle pan ar ymweliad a Victoria tua mis Tachwedd. Mi alwais hefyd ar y byd adnabyddus Joseph E. Thomas, mas- nachwr mewn tiroedd. Yr oeddwn wedi darllen llawer am dano yn y "Drych" a gweled ei hysbysiad yn nglyn a mortgages ar diroedd, &c., ond feddyliais i erioed fy mod yn mynd i gyfarfod a dynoliaeth mor ardderchog ag a ganfyddais yn J. E. T. Yr oedd yntau tua saith milldir o'r ddinas pan alwasom arno ar y phone, ond nid hir y bu yn dod gyda ei otomobil i'n cyf- arfod yn yr hotel, ac yn ei gymdeithas yr oedd Mr. Hughes, brawd y Parch. J. M. Hughes. Da oedd genym gael ei gyfarfod, deallwn mai yn v Dwyrain mae Mr. Hughes yn cartrefu ac wedi dod i'r Glanau i dalu ymweliad a'i frawd. Er mor fvr fu ein harosiad cymer- odd y brawd Joseph E. Thomas gyf- leusdra i fyned a ni yn ei oto fel chwrli gwgan i binacl uchel, lie caw- som 'bird's eye view' ardderchog o'r ddinas. Mae y ddinas wedi cynyddu yn mhob cyfeiriad o'r mor, a'r brawd J. E. T. wedi bod yn un o'r rhai mwy- af blaenllaw yn nglyn a'i chynydd. Mae vn berchen llawer o dai a thir yn y ddinas, ac yn 'real estate man' o'i droed i'w goryn. Os byth y bydd i Gymrv dyeithr dalu ymweliad a Seattle, cofiwch alw gyda'r brawd sir- iol a chymwynasgar Joseph E. Thomas. Mae yn ddiareb am ei groeso. Wedi p-n-pied v ddinas o Tower Hill daeth a ni i'r eglwvs Gymreig. a cawsom was- -Pqpth ben(lige(liv. Pregeth ragorol can v Parch. Josiah Daniels, a chanu gyda'r goreu a glywais yn mysg Cym- ry y wlad yma. Ar ol treulio diwrnod difyr a mwynhau ein hunain, gadaw- «om yn y boreu gyda'r Hong am Vic- toria ac oddi yno i Vancouver, lie caw- --orn rvmdeithas ddvddan v Parch. P. Orpv Fvans a Mrs. Evans. Maent yn byw mewn lie dymunol iawn, ac yn hanus dros ben. Wedi canu yn iach i Mr. Jones yn Vancouver ac a Chymrv eraill cvmerais y tren am Montreal g"afl alw mewn ychvdig ddinasoedd ar v ffordd.'

I "Rhydd I Bob Meddwt el Fam…

WTLKES-BARRE, PA.I

Holiad. am G-vmrn

CASGLIAD Y CAN MIL. ! 1i