Hide Articles List

9 articles on this Page

BERTHA PRICHARD YN MARW YN…

Advertising

RHAGORIAETHAU ARIAN PAPYR.

! EDNYFED LEWIS. Y TENORYDD.

IY DDIWEDBAJfc MRS. MARY ANN…

CYFAE.F0B BCSBARTH BWYREIN-IOL…

T TY AR Y TYWOD

EISTEBBFOT FFAR Y BYD A'R…

YN SWN Y PLANT.

News
Cite
Share

fur o wahaniaeth yn eu hysgar. Ond, nis gellir chwareu heb arweinydd. Ac y mae hwnw, yn y cylchoedd bychain hyn, yn sicr o ddod i'r amlwg. Medda ryw ddawn nad ydyw gan y gweddill; rhywbeth sydd yn ei wneyd yn boblog- aidd. Gwrandewir ar ei eiriau, a rhoddir ufudd-dod i'w orchymynion. "Y plentyn yw tad y dyn." Darllener hanes arweinyddion, hen a diweddar, a gwelir eu bod yn rhoddi awgrym o'r peth oedd ynddynt yn mhlith eu cyf- oedion pan yn blant. Yr oedd y "gamp" ynddynt o'r deohreuad. Hwy oedd yn enill y blaen mewn rhedeg, ymryson, a direidi diniwed boreu oes. Ac mor boblogaidd oeddynt yn y cylch bachgenaidd hwnw! Dichon fod rhyw nifer yn eiddigeddu, ac yn cenfigenu; ond yr oeddynt yn y lleiafrif, ac yn cael eu hadnabod gan y Ileill. Y mae yr "arweinydd," fel rheol, wedi ei eni felly. Ac y mae hyny yn dod i'r golwg yn myd y chwareu, a'r dysgu, yn ngwanwyn cynar bywyd. Dichon fod eifhriadau. Gwelir tyst- iolaeth i'r perwyl yma mewn ambell fywgraffiad. Rhoddir pwyslais ar y ffaith nad oedd y "gwrthrych"âneu "ein harwr"âyn debyg i blant yn gyffredin. Yr oedd rhyw elfen neill- duedig yn ei nodweddu. Pan fyddai plant yr ysgol yn chwareu, byddai ef mewn rhyw gongl ddystaw yn darllen ei lyfr. Felly wir! Prawf o athrylith yn ei blagur; v meddwl yn dechreu ymweithioâdydd y pethau bychain. Y mae plant felly wedi bod, a dichon iddynt dyfu yn ddynion dysgedig, ac enwog, mewn rhyw linell o efrydiaeth. Ond ni ddaethant yn arweinwyr y bobr. Gallwn gymeryd ein llw, o'r braidd, fod pob arweinydd gwirionerld- ol wedi bod yn enwog am "chwareu" pan yn fachgen. Ac y mae afiaeth bywyd yn aros ynddynt o hyd. Dy- ddorol ydyw hanes ein milwyr ar y Cyfandir yn chwareu'r bel droed y tu cefn i'r gwarchffosydd. Dyna'r bech- gyn fydd wrthi, dranoeth, yn cyflawni gwrhydri yn y llinell dan-y firing line. Nwyf bywyd sydd yn troi yn ddewr der, ac yn ddyfalbarhad. Oni ddywed- wyd mai ar gae chwareu ysgol Eton yr enillwyd brwydr Waterloo? Yr oedd y bechgyn wedi ymarfer a phethau oedd yn dadblygu eu cyrff ac yn gloe- wi eu meddyliau; ac wedi dysgu "cy- meryd a rhoi" yn ddidramwydd. Dyna un peth y mae'r plant yn ei ddysgu wrth chwareu-peth pwysig iawn. Pan fo un wedi bod yn drwstan, fe chwardda y lleill yn iachus. Hwyrach y tyr efe i grio. Dyna fel y gwnaeth un o'r plant sydd dros y clawdd i mi, ychydig fynydau yn ol. Yr oedd wedi methu gwneyd rhyw gamp fawr (!), a dechreuodd grio. Ond ychydig o gydymdeimlad a gafodd gan y lleill. "Yr hen beth gwirion!" ebai nifer o leisiau iach. "Tyrd i'r fan yma, a thria eto." Cyngor campus, ac y mae plentyn yn ddigon ystwyth i'w dderbyn. Ac wedi "Treio eto" daw heulwen i'w lygad, a phobpeth i'w le. Dyna sydd yn an- dwyo defnyddioldeb llawer o ddynion da, mewn gwahanol gylchoedd. Nid ydynt wedi dysgu "cymeryd a rhoi:" nid oes dim humour yn eu meddyliau. Os collant "gynygiad" mewn pwyll- gorâdyna'r byd ar ben. Y maent am daflu pob peth i fyny ar unwaith. Ed- rychant yn gibog a sarug, ac nis gellir eu cael i wneyd dim. Bendith i am- bell un o'r brodyr, sydd yn tram- gwyddo o herwydd tipyn o feirniad- aeth ddiweniaith fuasai cael eu gosod I yn mhlith y plant, a chlywed y dded- fryd a basiwyd ar y bachgen oedd wedi "pwdu" ar ganol chwareuâ"Yr hen beth gwirion!" Y mae difrifwch yn elfen werthfawr ac nid oes fawr o rym mewn bywyd oni fydd difrifwch yn ei waelodion. Ond gall dyn gymeryd pethau yn rhy ddifrifol yn eu perthynas ag ef ei hun. A phan wneir hyny, tebyg y daw siom- iant, a gall hwnw droi yn chwerwder yn ei ysbryd ef ei hun. Dysgwylia i eraill gyfranogi o'i ddifrifwch ef; meddwl yn fawr o'i eiriau, ac o'i weithredoedd. Nid ydyw hyny yn dy- gwydd. Darllenais am dduwinydd, ac eeboniwr, ryw dro, wedi bod yn tra- ddodi cyfres o bregethau ar lyfr y Dat- guddiad. Elai o'r addoldy un noson ânoson dywyll iawn. Clywodd ddau ddyn yn siarad a'u gilyddâ "Mae hi'n dywyll ofnatsan," ebai un. "Ydl," meddai'r llall, "yn dywyll fel y fagddu. Ond dydi hi ddim mor dywyll a phregeth y dyn ene ar y Dat- guddiad! Clybu y pregethwr y sylw, ac ni lefarodd mwy ar weledigaethau loan y Difeinydd. Gresyn'oedd hyny! Nid oedd sylw y dyn yn haeddu ystyriaeth o gwbl. Dichon nas gwyddai efe ddim am lyfr y Datguddiad, ac eithrio y "pedwar anifail," ac un o honynt yn; debyg i lo! Yr oedd y duwintdd yn cymeryd pethau yn rhy ddifrifol, a buasai ychydig ronynau o humour yn gwrthweithio y feirniadaeth ddam- weiniol hono yn y tywyllwch. Dyna brofedigaeth ami i awdwr- boed fardd neu lenor. Y mae yn syn- led yn rhy ddifrifol am bwysigrwydd ei waith. Nis gall oddef beirniadaeth heb ddigio, a thybied fod y beirniad yn coledd rhyw deimladau annghared- ig tuag ato ef. Y mae "adolygiad" anffafriol wedi gyru ambell frawd i ddyfnderoedd y pruddglwyf. Teimla fod cestyll ei obeithlon wedi eu chwalu i'r llawr. Ysgrifena at ei gyf- eillion i fynegi ei dristwch, ac apelia am eu cydyradeimlad. Gwell fuasai iddo daflu ei hun i fyd chwareu y plant, ac yna cawsai yr un cyngor ag a roddwyd i'r bachgen y soniais am danoâ"Yr hen beth gwirion! Tyrd at y gamp, a threia eto." Gwn am awdwr cryn nifer o lyfrau gweddol boblogaidd; ac, un boreu, derbyniodd bamphledyn rhwysgfawr, mewn iaith ac ymadrodd, yn rhoddi rhestr o'r llyfrau sydd yn werth eu darllen, yn yr iaith Gymraeg, yn y cyfnod presenol. Nid oedd dim a ys- grifenodd efe ar y rhestr. A ddigiodd y dyn? Dim o'r fath. Gwelodd ochr ddigrifol y drafodaeth. Cofiodd mai "Mathew oedd yn eistedd wrth y doll- fa" hono, ac yr oedd hyny yn esbonio pob peth! Y mae'r plant wedi fy ffeindio. Daethant i ben y clawdd i edrych ar- naf. "Be ydach chi yn ei wneyd?" ebai unâyr "arweinydd," mae'n debyg. "Ysgrifenu," meddwn. "Ysgrifenu ar holide?" A dyna bwff o chwerthin-ha! ha! Aethant ymaith felly, a chlywais y sylw o'r pellderâ "Gwirion, ynte! 'Sgrifenu ar holiriel Ha! Ha! "-O'r "Faner."