Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

8 articles on this Page

Advertising

Y GWR RHYFEDDOL BRYAN.

Y PECHOD GWREIDDIOL.

[No title]

ADGOFION AM WAEN GYNFI, ARFON,…

News
Cite
Share

ADGOFION AM WAEN GYNFI, ARFON, G. C. Gan Humphrey Griffith, Utica, N. Y. in. Cyn symud i son am yr hen gymer- iadau, trown am ychydig at anedd-dai yr ardal. Yr oedd yr hen bobl gyda golwg ar adeiladu eu tai, fel gyda phob peth arall, yn amcanu at y buddiol a'r clyd, tra mae yr oes hon yn ymestyn mwy at y difyr a'r prydferth, canys anaml y ceir hen dai ar le amlwg, ond bob amser bron wrth odrau bryn, neu yn nghysgod craig. Ni fyddai eu tai byth yn uchel nac yn fawrion iawn, ac ar y cyfan, byddai eu drysau, neu yn hytrach, eu drws a'i ffenestr, canys un drws ac un ffenestr fyddai ganddynt, cyn Ileied bron ag a fyddai modd eu gwneyd, er cadw yr oerni draw. Un corn fyddai ar y rhan fwyaf o honynt, oblegid ni fyddai ganddynt ond un tan, ac un simnai ac nid ai yr hen bobl byth i'r drafferth i wneyd corn heb ei eisieu, er ymgyraedd at hardd- wch, fel y gwneir yn ami yn ein hoes ni. • Gwnaent eu tai bob amser bron a'u talceni i'r allt, ac ychydig yn y ddaear; anaml y gwelir hen dy' a'i wyneb i ddrycin y de, ond fynychaf i'r gorllewin, ac felly aberthent des a sir- ioldeb yr haf, er mwyn enill cludwch y gauaf. Simneuau mawrion a wneid i'r hen dai y rhai a gynwysent ddau bentan mawr, fel y gallasai dau neu dri eistedd ar bob un o honynt. Uwch ben y tan y crogai cadwyn ddu aflun- aidd i ddal taclau coginiaeth, ac yr oedd gwir angen am dani, canys tan mawn a choed oedd y pryd hwnw, yr hwn a fyddai, nid mewn tan alch (grate) fel yn awr, ond y rhan fyn- ychaf yn un pentwr tanllyd ar gareg yr aelwyd, a phawb ar ddechreunos gauaf yn gwneyd y goreu o hono. Yn nechreu y ganrif ddiweddaf, nid oedd ond golwg anhygyrch, llwydaidd a gwyllt 'i'w gael ar wyneb Gwaen Gynfl, yr oedd ei ffyrdd a'i chaeau gleision, eto megys heb ei geni, a dim ond gwylltineb natur i'w weled o amgylch ogylch. Ond fodd bynag, yr oedd yn- ddi mor foreu a hyn, yn ol tystiolaeth unfrydol yr hen bobl, bedwar o dai, ar y rhai y cawn sylwi ychydig yn awr bob yn un. Dechreuwn gyda'r hen dy, sef Clwt- ybont. Ni wyddys yn sicr pa bryd yn yr eilfed ganrif ar bymtheg, na chan bwy yr adeiladwyd yr hen dy hwn, ond bernir, fodd bynag, iddo gael ei adeil- adu gan dad y diweddar Mr. Williams, canwyllwr o Gaernarfon, ond gan bwy bynag a pha bryd bynag ei hadeilad- wyd, ymddengys ei fod yn rhy hen i'r boneddigion ei feddianu fel y gwnaeth- ant gydag amryw fan ffermydd mwy diweddar yn y gymydogaeth. Sylwn yn nesaf ar Cae Rhedyn. Ni wyddys chwaith pa bryd na chan bwy yr adeiladwyd y ty hwn. Cofir am un o'r enw Owen Pyrs yn byw yno, ond bernir gan amryw fod Cae Rhedyn yn llawer rhy hen i fod wedi ei adeiladu ganddo ef, ac heblaw hyny sonir am ryw hen ogrwr a fu byw ynddo o flaen Owain Pyrs, yr hwn, meddir, oedd wedi ei feddianu. ond bu i rai o'r Ibon- eddigion chwareu y ffon ddwy big ag ef, a hyny yn y modd hwn. Yr oedd rhai o'r ffermwvr o Waen Wineu yn lladd ei gwn; nid oedd wiw iddo gael ci na byddai rhywun yn sicr o'i ladd yn fuan. Yn ngwyneb hyn, aeth yr hen ogrwr i lawr i'r Vaynol i ddweyd ei gwyn wrth y boneddigion, y rhai a ddywedasant wrtho, os talai efe ych- ydig o ardreth iddynt hwy, yr hyn nid oedd ond rhyw naw ceiniog neu swllt yn y flwyddyn, yr edrychent hwy na chai neb aflonyddu arno ef na'i gwn. Ac felly fu, boddlonodd yr hen wr yn ei ddiniweidrwydd i'w talu, ac fel hyn' y trawsfeddianwyd Cae Rhedyn fel llawer o leoedd, eraill. Ty Newydd a adeiladwyd yn 1765 gan William Roberts, gwehydd o Fan gor, yr hwn a ddaeth i fyny o Fangor I chwilio am le i godi ty chaib a rhaw a'i ordd ar ei ysgwydd. Rhodd- odd ei arfau i lawr unwaith ar ryw glwt glas yn agos i'r Bwlch uchaf, ar feddwl codi ty arno, ond gwelodd y fan hono yn lie rhy uchel, a chododd ei arfau a daeth i lawr ac adeiladodd y Ty Newydd. Cae Uchaf. Ni wyddys pa bryd, na chan bwy, yr adeiladwyd y ty hwn. Yr oedd yn perthyn gynt i aeriaeth Pentir. Gallaf ddweyd hefyd fod y lie hwn yn bur anwyl genyf o herwydd fod Griffith Williams a brynodd y lie, yn daid i fy nhad, a'r diweddar Wm. Griffith, Caeau Uchaf, yn daid iddo o du ei fam, sef tad i'r diweddar Han- nah Griffith, y Gerlan, a Mrs. Jones, Post Office, Ebenezer, sef mam Mrs. Wm. ApMadoc, Chicago. Minffordd, hen dy Dafydd Ellis, a, adeiladwyd yr un flwyddyn, 1802, gan Dafydd Ellis, tad y diweddar Ellis Daf- ydd, Ebenezer. Mae yr hen dy hwnw wedi ei chwalu cyn cof neb sydd yn fyw yn awr a'i enw wedi myned i ebargofiant er's llawer dydd. Hafod Oleu a adeiladawyd yn 1806 gan Morgan, Cae Coch, taid i'r di- weddar Elias John Morgan. Tanyfoel a adeiladwyd yn 1806 gan Pyrs Sion Emwnt, gwr Margaret Abram, yr hon oedd yn chwaer i Rowland Abram, Brynteg. Dywedir i ymrafael ddy- gwydd rhwng R. Abram a'i chwaer a'i frawd yn nghyfraith, ac i R. Abram yn y ffrwgwd droi y ddau allan o Bryn- teg, ac o'r adeg hono hyd oni adeilad- wyd Tanyfoel, bu Pyrs a'i wralg yn byw yn ogof Cae Rhedyn. Y mae amryw o dai eraill pwysig yn yr ardal, on,d gadawn ar hyn yn awr. (I'w Barhau).

YN SWN Y PLANT.

I YR ORGRAFF.

A DDYLAI EGLWYS CRIST NODDI…