Hide Articles List

8 articles on this Page

Advertising

Y GWR RHYFEDDOL BRYAN.

Y PECHOD GWREIDDIOL.

News
Cite
Share

Y PECHOD GWREIDDIOL. Gan Plas Gwyn. Ni chawn y gair "chwyn" yn y Beibl, a gresyn hefyd. Dyma y peth tebycaf yn y byd llysieuol i bechod yn y byd dynol. Ceir cyfeiriad yn Efen- gyl Matthew at chwyn a elwir yn "efryn," yr hwn a saif yn y ddameg ddyddorol am bechod, yn ddiau. Y mae y ddameg hon yn awgrymiadol iawn i'r meddwl craffus.. Sonia am ddyn yn hau had da yn ei faes, a thra yr oedd y dynion yn cysgu (y gweis- ion, yn debyg), daeth y gelyn ac a hauodd efrau yn mhlith y gwenith, ac a aeth ymaith, ac wedi i'r eginyn dyfu a dwyn ffrwyth, yna yr ymddangosodd yr efrau hefyd." Chwyn yw pechod yn y byd; a chyfarfyddir a ni gan, un anhawsder ar y cychwyn, set nas gall- wn goelio mai y gelyn hauodd chwyn yn mhlith llysiau y maes. Hwn yw y peth mwyaf amlwg ac arglwyddiaethus o holl gynyrchion y maes a'r mwyaf niweidiol i fywyd llys- iau a choed budcfiol. Nis gallwn an- turio ychwaith gynal fod y Creawdwr yn cysgu pan yr hauwyd y chwynyn cyntaf, os y bu cyntaf yn ei hanes. Fodd bynag, y mae chwyn yn ffaith nas gellir ei wadu, ac y mae ei anfudd- ioldeb mor amlwg a'i fodolaeth. Felly nid pechod yn y cylch dynol yw yr unig flin bwnc anesboniadwy, eithr gellir gosod ochr yn ochr ag ef "chwyn" yn y byd llysieuol. Ai tebyg y gellid ei ystyried yn rhyw fath o gysgod o bechod; rhyw fath o rag- awgrym o ddyfodiad ei debyg yn y byd moesol ac ysbrydol, yr hyn ag yw y chwyn yn y byd llysieuol? Ai ni ellid dweyd fel Paul mat "chwyn gan hyny oedd ein hathraw ni at bechod;" er na wnaeth y byd meddylgar fwy o sylw o chwyn fel athraw nag a wnaeth y genedl o'r ddeddf. Yn y byd llysieuol, ceir cryn lawer o ddrygau, neu o ymddygiadau yn dra chyffelyb i ddrwg a phechod yn mhlith dynion. Ceir chwyn a llysiau a choed- ydd yn troseddu ar hawliau eu gilydd; yn trawsfeddianu lie a heulwen eu gilydd; porfa yn trengu wrth draed coed cysgodfawr o herwydd diffyg goleu a gwres; coed a dyryslwyni yn tagu a mygu llysiau a choed Ilal gorth- rymus a haerllug, fel a geir yn mhlith dynion; coed yn eu hymdrech gyndyn a pharhaus i ffynu yn nychu a dyfetha eu cydgoed gwanach, a'r naill bren yn gwenwyno pren arall! Ceir ami 1 chwynyn llydan fel padell yn mygu y man lysiau neu y borfa o dani, ac nid yn unig yn mygu bywyd o dani, eithr yn hadu yn enbydus i gludo el fywyd gorthrymus 1 feusydd eraill. Ceidw ddyn yn effro i'w cadw allan o blith llysiau buddiol. Y mae chwyn y-n anocheladwy ac anorchfygol (fel pechod). Yn myned heibio i lecyn gwyrdd cymydog newydd ei drin, ebe fi, "Y mae genych chwithau chwyn eisoes." "Oes," ebe efe; "yr oedd yr had yn llawn chwyn." Nis gellir beio yr hadwr na'r hauwr ychwaith. Y mae cant a mil o chwedlau dy- ddorol am berthynas coed a llysiau a'r moesol, y meddyliol a'r ysbrydol; ac i ba beth y dylid priodoli hyn? Rhaid fod rhyw gysylltiad cyfrin rhwng bywyd a bywyd ar hyd ei yrfa a'i ym- ddadblygiad drwy y byd llysieuol a'r anifeilaidd i fyny at ddyn. Nid oes ac ni fu y fath beth a phren y bywyd a sarff neu ddraig yn ei wylio, fel ag a geir yn yr hen chwedlau. Dywedir am "y pren yn nghanol yr ardd" ei fod "yn bren dymunol i beri deall," a dyna paham y dywedir i Efa gymeryd o'i ffrwyth; nid am ei bod am bechu, ond am ei bod am wybod mwy nag a wydd- ai. Gellid tybio wrth yr hanes yn Genesis fod rhyw elfen beryglus yn y pren; fod adnodd neu achlygur pechod ynddo; a lledawgrymir fod rhyw raf- fias o bechod, fod rhyw wreiddyn o ys- bryd camwedd yn y byd llysieuol! Pa ham y cysylltir y syniad o wybodaeth a phren o gwbl? Dyna ofyniad yn llawn ac yn feichiog o athrawiaeth a duwinyddiaeth. Y mae hen chwedl Siberiaidd yn dadgan i Dduw greu pren mawr digainc, ac iddo beri i naw cangen dyfu allan o hono, ac o'r naw cangen hyn y deilliodd naw cyn-dad naw prif genedl y byd. Gwelir wrth y ddameg hon y cysylltai y cynfeddwl y bywyd dynol a'r bywyd llysieuol, ac ni ymddangosai fod dim annaturiol ac annghydweddus o gwbl yn hyny. Credai y cynfeddwl fod Bywyd yn un drwy y, cyfan. Yn ddiweddarach yr aeth athronwyr a duwinyddion i dori bywyd yn gyfranau, o herwydd colli yr amgyffrediad o gyfriniaeth bywyd. Gan fod fy narllenwyr yn Gymry, nid allan o le fydd adrodd tipyn o chwedl y geninen, ar yr hon yr ym- borthodd y Cymry am lawer o oesau, a byddai gwell graen ar eu plant hedd- yw, pe y rhoddent fwy o honi a llai o gandi iddynt. Ond y peth cyntaf a awgrymir gan y geninen yw ei bod yn wers mewn ymddadblygiad (evolu- tion). "Each successive layer stands for evolution." Er fod ein cenedl ni o herwydd ei hanwybodaeth yn elynol i athrawiaeth ymddadblygiad, saif y geninen i fyny yn gadarn dros Darwin. Y mae yn ymresymiad cryf dros yr athrawiaeth. G-ellid dweyd llawer am berthynas y geninen a bywyd. Yn yr hen chwedlau, saif am ostyngeidd- rwydd a diffuantrwydd, ac yr oedd Charles Darwin, tad a thadmaeth yr athrawiaeth, yn hynod am rinweddau y geninen. Yn y ddadl fawr haner canrif yn ol, efe o bawb gadwodd ei ysbryd mewn tangnefedd gostyngeidd- rwydd pan oedd y byd duwinyddol yn ei fflangellu, ei gernodio, a thynu blew ei gernau! Ni edrychwn fyth ar gen- inen, ac ni chlywn ei henwi nag y cyfyd yr addfwyn C. D. i fyny ger bron y meddwl; ac ni chlywn son am C. D. na chofiwn ei hen athrawiaeth fawr genihaidd! Dywed hen chwedl hefyd mai y geninen roed yn deyrnwialen gyda'r goron o ddrain i'r Iesu o wawd, ac yn eu hanwybodaeth. Mor gyfaddasâ teyrnwialen o ostyngeiddrwydd! Dy- wed hen chwedl hefyd fofl bwyta cenin yn gwneyd y bwytawr yn ostyngedig. Awgryma hyn eto y berthynas gyfrin sydd rhwng llysiau fel ymborth i'r cylla rhag nwydau drwg, set achlysur- on ac achosion pechod a chamwedd. Y mae gostyngeiddrwydd fel paris green i bob math o nwydau, chwantau a blysiau. Brigau ar bren gostyngeidd- rwydd yw yr holl wynfydau a roddir yn nechreu y Bregeth ar y Mynydd. Tebyg erbyn hyn, yr ystyria y dar- llenydd arwynebol fy mod yn mhell oddiwrth y testyn, sef y Pechod Gwreiddiol, ond nodwn un ffaith i goffa iddo mai yr amcan yw dangos cysylltiad a pherthynas pethau o bob math a'i gilydd. Nid rhywbeth awyr- ol, dychymygol, uwch-anianol yw pechod, eithr rhyybeth a'i wreiddyn yn natur, ac y mae llawer o fan a bras bechodau yn codi hyd yn nod o afiech- yd corfforol, o walldreuliad, o waed- wenwyniad, ac o anmhariad y gyfun- drefn ieuol, ac yn arbenig, o ysigiad neu lygriad yr ymenydd. Y mae pech- od yn anmhariad ac anhwylder am- rywiol, ac y mae yn etifeddiaeth a ddaw i lawr, nid yn unig o flaenafiaid dynol, ond olrheinir ef yn ei wreiddiau cyfrin i natur yn gyffredinol. Yn ein ysgrif nesaf, symudwn yn mlaen yn uwch eto yn ein holrheiniad o haniad y drwg.

[No title]

ADGOFION AM WAEN GYNFI, ARFON,…

YN SWN Y PLANT.

I YR ORGRAFF.

A DDYLAI EGLWYS CRIST NODDI…