Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

8 articles on this Page

Advertising

Y GWR RHYFEDDOL BRYAN.

News
Cite
Share

Y GWR RHYFEDDOL BRYAN. Gan Ieuan Fardd. Nifer fechan iawn sydd yn y wlad, os oes o gwbl, yn meddu barn gliriach a meddwl mwy galluog, na'r henafgwr Lyman Abbott, golygydd yr "Outlook." Ei eideio ef ar Bryan, yn y cyfwng pre#enol. yw y goreu o bob peth wyf wedi weled ar y pwnc. Ymddangos- odd yn y "Outlook" am yr 16 eg cyfis- ol. Ac er mwyn miloedd darllenwyr y I>r y nad ydynt yn gweled y cy- hoedd T, lwnw, yr wyf am roddi rhydd- ? uthiad o'r sylwadau yma: "Tr- ymddiswyddiad Mr. Bryan y mae y wlad wedi osgoi un perygl mawr. Nid rhwygiad a Germani oedd y perygl a'n bygythiai. Yr oedd perygl mwy na hwnw. Nid perygl o faglu y wlad mewn rhyfel oedd. Yr oedd yna berygl mwy- hyd yn nod, na hwnw. Y perygl sydd wedi ei osgoi yw y perygl i'n gwlad fod yn anffyddlawn i'w chymeriad, i'w thraddodiadau, ac i'w delfrydau. Y perygl oedd i America osod hedd- wch uwchlaw cyfraith, rhyddid, a chyfiawnder. Yr oedd dynion yn y trefedigaethau oeddynt am ymgydamodi (compromise) a George III., y rhai a ofalent fwy am heddwch nag a wnaent am ryddid y bobl. Dynion da oedd llawer o hon- ynt; nid y cyfryw, fodd bynag, ond Washington a'r dynion a safent o'i blaid ydym yn anrhydeddu pan yn dathlu Independence Day. Yr oedd dynion yn yr Unol Dalaethau yn 1861, yn adeg y cyfwng anorfod hwnw, a fynent ymgydamodi a'r gallu caeth- wasol, a'r rhai a feddylieirt fwy am heddwch nag am undeb s,ylfaenedig ar ryddid dynol. Yr oedd amryw o'r rhai hyn yn ddynion da; ond nid y cyfryw, eithr Lincoln a'i bleidwyr, ydym yn anrhydeddu pan yn dathlu Memorial Day. Y mae heddyw annghydfod Ilawn mor fawr ac mor annghymod- lawn ag eiddo 1776 a 1861. Amnghyd- fod ydyw sydd rhwng ysbryd deddf yn mhlith y galluoedd a'r angenrhaid na wyr yr un ddeddf. Yr un hen ym- gyrch am ryddid ydyw mewn ffurf newydd. Ar yr adeg arswydus hon, saif Mr. Bryan nid am ryddid yn nghyntaf, ond am heddwch; nid am fuddugollaeth deddf a chyfraith yn nghyntaf, ond am heddwch; nid am gyfiawnder yn nghyntaf, ond am hedd- wch. Yn ei lythyr ymddiswyddiad dy- wed yn rhydd mai yr achos agosaf at ei salon ydyw "ataliad rhyfel." Fel Hawer o'r rhai hyny a wrthwynebas- ant Washington, a'r rhai a wnaethant felly a Lincoln, y mae Mr. Bryan yn ddyn da; ond saif yn yr un man a saf- ent bwy- Yn yr amser hwn o an- nghydfod anorfod saif ef am gytundeb anmhosibl. Trwy dderbyn ymddiswyddiad Mr. Bryan y mae yr Arlywydd Wilson wedi gwneyd y peth dewraf yn ei yrfa. Nid oes petrusder am ddiffuantrwydd ei fynegiant o serch cyfeillgarol at Mr. Bryan a'i ddatganiad eu bod, hyd yn bresenol, wedi cytuno yn effeithiol. Mae y ffaith ei fod wedi tori'r cyswllt a'r fath gynorthwywr ar yr adeg bre- senol yn brawf fod yr Arlywydd Wil- son wedi cymeryd safle ddi-droi-yn-ol yn erbyn heddwch am unrhyw bris a'i fod dros roddi achosion dynollaeth, cyflawnder, a rhyddid, uwchlaw y fath heddwch. Ni ddylai fod unrhyw ym- raniad yn y meddwl a'r teimlad Am- ericanaidd yn nglyn a'r achos hwn. Bydd llawer o Americanwyr yn gwa- haniaethu oddiwrth yr Arlywydd mewn cysylltiad a'r dull a'r modd; mae hyny yn anocheladwy. Ond yn y mater hwn o egwyddor dylai pobl America fod yn un a'r Arlywydd Wil- son, a chredwn y byddant. Y mae y ffaith i'r Arlywydd dder- byn ymddiswyddiad Mr. Bryan yn weithred o'r pwys mwyaf. Golyga nad oes yr un ameuaeth mwyach am fwr- iad y wlad i sefyll dros e1 hiawnderau ei hun ac eiddo dynoliaeth. Y mae presenoldeb Mr. Bryan yn y Cabinet wedi bod yn rhwystr gerwin ar y pwynt hwn. Bydd ei ymadawiad i fywyd annghyhoedd yn galluogi y Wenyddiaeth i fod yn rhydd i gyn- rychioli cymeriad gwirioneddol Am- erica.

Y PECHOD GWREIDDIOL.

[No title]

ADGOFION AM WAEN GYNFI, ARFON,…

YN SWN Y PLANT.

I YR ORGRAFF.

A DDYLAI EGLWYS CRIST NODDI…