Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
6 articles on this Page
Advertising
m 3Drpcb. A WELSH WEEKLY ESTABLISHED 1851. taeued Every Thursday Morning. THOMAS J. GRIFFITHS, Proprietor, UTICA, N. Y. IMPORTANT TO ADVERTISERS.-The attention of business men In general Is cabled to Y DRYCH as a superior adver- tising medium, being read by thousands -ri-o cannot be reached by any other pub- lication. It has a large circulation, with "nMherø in every State and Territory of tile Union, in Great Britain and the British Dependencies. It is the recognized National Organ of the Welsh People.
PTAK GWYN YN ATEB HENAF-IAETH.
PTAK GWYN YN ATEB HENAF- IAETH. Gan Plas Gwyn. I Rhag i'r Parch. W. J. Davies, Templeton, la., feddwl am fynyd fod Plas Gwyn yn ei ddiystyru, dymunwn gyflwyno yr ychydig sylwadau a gan- lyn idde fel atebiad i'w ysgrif synwyr- ol yn "Nrych" Mawrth 18. Yr oedd yn dda genyf sylwi fod Mr. Davies yn 'llawer mwynach Calfin na'r Dr. Wil- liam*, ae felly yr wyf yn teimlo fel ei gydnabod am el gyfaddeliad o allu Plas Gwyn. Nid yw y Dr. hyd yma wedi galilu gwneyd byny, eithr cyfeiria at bob peth a ysgrifenwyd gan Plas Gwyn fel yn hollol ddiwerth, direswm ac anffyddol. Y mae yn rhy lawn o anffaeledigrwydd a rhagfarn i addef y gall unrhyw ddyn wahaniaethu oddi- wrtho ef ac eto fod yn synwyrol. Gwel- af fod Mr. Davies o anian wahanol. Pe v dvgwyddai i Mr. Davies ddod heibio, byddwn yn barod i'w letya, a chyfar- wyddwn Mrs. Plas Gwyn i ddangos y parch uchaf iddo; ond tueddwn i edrych ar y Dr. fel ysbiwr, oblegid dy- wedai dro yn ol ei fod yn dda i P. G. na wyr dynion pwy yw! Ofnwn, pe y lletywn ef, y rhoddai halen yn fy nhe neu gyflawni rhyw gythrymwaith cyffelyb. Un nos Sul yn ddiweddar, clywais bregeth gan un o weinidogion mwyaf hynod ein dinas, a'i destyn oedd Math. 3:10, "Ac yr awr hon hefyd y mae y fwyell wedi ei gosod ar wreiddyn y prenau," &c., a synwn at fel y triniai ei bwnc gan dramwy ar hyd yr un no-red a Plas Gwyn, yn ei erthygl ar "Allu Dyn ac Anallu Duw." Dywedai mai dyna yr oil wna Duw yw gosod y fwyell, sef rhoddi y cyfleusdra i ddyn ymosod ar ddrwg a'i dori i lawr fel y torlr prenau neu y dadwreiddir chwyn pechod yn y byd. Mae Duw fel pe yn dweyd "Dyma y fwyell wedi ei gosod, yn awr dy waith di, 0, ddyn, yw ei defnyddio, ac, ebe efe dyma ddwy fll o flvnyddau yn agos wedi pasio oddiar y llefarwyd y geiriau, a'r fwyell eto heb ei defnyddio, ebe y pregethwr, ac ebe efe, bydd y prenau yn sefyll am ddwy fil arftll, oddigerth i ti, ddyn, ei defnyddio. Nid yw Duw yn myned i'w defnyddio." Pan yn rhodio yn araf ac ystyriol tuag adref, gofynwn i mi fy hun "Pa beth, tybed, ddywedai Dr. Williams, Storm Lake, a'r Parch. W. J. Davies, Templeton, la., pe yn gwrando sylwad- au plasgwynaidd o'r fath? Nis gallent ddweyd dim yn amgen: rliaid i bob dyn synwyrol ddyfod i'r un golygiad, sef na wna ac nas gall Duw yn ol ei drefn o weitbio drwy ddyn, ymgymervd a gwelthio hebddo; yr hyn ni wnaeth ac nl wna. Mae dyn yn fod godidog; mae yn fod annibynol ac felly yn gyfrifol: nid yw wedi ei rwymo i fod yn bechad- ur gan ryw drefn dyngedol neu ar- faeth, eithr y mae Duw yn dysgwyl wrtho i gwblhau ei greadigaeth. Y mae taeru drwy yr oesau fod dyn yn llwyr lygredig a hollol ddiymad- ferth yn effeithio i ddiffrwytho dyn a'i wneyd yn ddiymgais, gan ddysgwyl wrth Dduw, pan mai y ffaith yw frd Duw yn dysgwyl wrtho ef. Mae Duw yn alluog drwy ddyn; cymerer Blli Sunday, er engraifft. Gall Duw wneyd llawer drwy gvmorth dyn ymdrecbgar. Y mae yn eithaf gwir yr hyn a ddy- fynai Mr. Davies, "Hebof fi ni ellwch chwi wneuthur dim," a gellid ychwan- eeu ar ran dyn "Hebof flnau nis gall CriClt wneuthur dim." Mewn gwledydd psganaidd, lie nad oes cenadwr, ni wna Crlqt fldim; a lie y mae y ddau yn cyd- weithio gallant wneyd llawer. Cry- bwylla byn i ni y gyffelvbiaeth sydd rhwng gras a gwefr. Gallai y gwefr ddweyd wrth yr ystrydgeir "Hebof fi, nis gellwch chwi symud ddim," a gall- ai y ceir ateb hefyd, "Ac hebom nin- au, nis gallet tithau wneyd dim." Arosai y gwefr wrth ddyfais dyn i'w wneyd yn ddefnyduiol. Felly y mae dyn yn gyd-greawdwr a Duw, ac y mae gan Dduw fwy o feddwl o hono nag I oedd gan yr hen Galfiniaeth, fel yr un a goleddir gan Dr. Williams. Y mae un ystyriaeth yn rhwystr i'r Dr. a'r Parch. W. J. Davies amgyffred gwerth a nerth sylwadau Plas Gwyn, sef eu henaint. Cwyna y ddau fod y peniad mor newydd a dyeithr, ac mor groes i arfer hen bobl o feddwl. Y mae pethau newydd yn synu a dyrysu hen feddylwyr wedi hen ymgynefino a meddyliau a daliadau o fath arall. Quintilian a ddwed fod newydd-deb yn hurtio rhai hen bobl wedi heneiddio ac ymgaledu yn eu golygiadau (nonnulli stupent novitate), ac anhawdd iawn yw ganddynt ei letya, ac, yn ddiau, dyna brofiad y Dr. a Mr. Davies. Y maent yn rhy hen i weled gwerth mewn gwirionedd newydd. Ar fyr, ymddengys fy erthygl ar y "Pechod Gwreiddiol," ac yr wyf am i Dr. Williams a Mr. W. J. Davies sylwl yn fanwl ar yr hyn a draethir, oblegid bydd ynddi ryw bethau newydd. Y mae yn gynyrch llawer o efrydiaeth ofalus, ac nid oes dim ynddi sydd yn beryglus i ffydd dyn ystyriol. Y mae yn ymdrech i ryddhau dyn o gaethiwed hen draddodiadau. Dylynir hi gan fy erthygl ar yr Arfaeth, yr hon hefyd fydd yn addysgu athrawiaeth a wna yr Arfaeth, nid yn fwgan, eithr yn ber- ffaith gyson a rheswm a synwyr cyff- redin, yr hyn nid oedd yr Arfaeth yn ol Calfin o lawer o ffordd.
Y DIWEDDAR D. R. JONES, CAM-I…
Y DIWEDDAR D. R. JONES, CAM- I BRIA, WIS. Gan y Parch. J. R. Jones. Columbus, I Wis. ( II. I Cyfeiriodd y Parch. J. O. Parry at hanes y plant yn dechreu chwalu o'r hen gartref: gan ddechreu gyda phriodas yr unig ferch, Miss Mary A. Jones, yr hyn a gymerodd le yn Me- hefin, 1848. Yn 1852, cychwynodd Mr. E. O. Jones ei daith i California, y bu yn adrodd ei hanes mor ddoniol a dyddorol trwy y "Drych" flynyddoedd yn ol. Heb fod yn bell o'r un adeg aeth Mr. David R. Jones i Racine, lie y dringodd yn wr o nod a medr fel saer yn fuan. Ar ol cyfnod o bedair blyn- edd, neu fwy, dychwelodd yn ol i Cam- bria i ddylyn yr un alwedigaeth yno. Yr oedd yr adeg hono yn un a llawer o fywyd a gweithgarwch llenyddol ar Welsh Prairie, ac yn Cambria yn ddl-- weddarach. Cynelid math o gyfarfod- ydd cystadleuol yno, yn ngauaf 1856 ac 1S57: ac'yn nglyn a'r rhai hyny y de- chreuodd y wlad adwaen rhagoriaeth fnrddonol ein gwron. Testyn barddon- ol y Gylchwyl yn Mawrth, 1857, oedd yr ystorm. Cofiaf yn dda mai fy mrawd, G. O. Jones, oedd yn beirniadu. Allan o bump neu chweoh o gyfansodd- iadau ar y testyn, eiddo D. R. Jones, oedd yr oreu, ac yn bryddest fach ra- gorol iawn. Cyhoeddwyd hi yn y "Cenhadwr" am y flwyddyn hono. Dyna, mi gredaf, y blaenffrwyth o'i weithiau i gael eu cyhoeddi trwy y wasg. Cyhoeddwyd pedwar neu bump o fan ddarnau a gyfansoddodd yn 1858 yn y gyfrol o'i weithiau "Yr Ymchwil am y Goleuni." Yn y rhestr hon gellir nodi "Hen Wlad fy Nhadau," "Ffarwel i Hen Wlad fy Nhadau," "Ffarwel," a'r I "Hen Gareg Lwyd." Y flwyddyn ddy- lynol, y cyfansoddodd y gan swynol "Bedd fy Nhad," sydd yn llawn proflon o'i edmygedd o'r un a ddodwyd ynddo. Goddefer i mi ddifynu engraifft o'r gan hon: Hoff genyf fedd fy nhad, O'i amgylch ef y trig edmygol fri, A'i gwna'n anwylaf fan y byd i mi; Er na fedd farmor drud fel beddau'r llan, Fe wisga'i symledd ef anfarwol swyn, Mae oesol su yr awel yno'n fwyn, A'i thyner gwyn, hi noda'r unig fan, Gan sibrwd "Bedd fy Nhad." Perthyn y gan "Fy mwthyn gwyn" i'r un cyfnod. Erbyn hyny, yr oedd gan- ddo ei gartref, oedd mor lawn o heul- wen a'r un yn Cambria; a phriod ei r,"mves oedd unig ferch fy hen gym- ydogion Thomas a Margaret Williams. Bryn Dyffryn, yn wraig o ragoriaeth. 0 du ei mam yt oedd wedi hanu o gan- 01 tylwyth Dolwyddelen. Yr oedd ei mam yn chwaer i'r enwog Dr. J. Ll. Williams, Cambria, a'r bardd ffraeth- bert, Edward Williams, Buck Hill. Ni aheir yn y gyfrol ond dwy neu dair o ganeuon blynyddoedd dylynol iddo. Yn Hydref, y flwyddyn 1865, cyfododd cwmwl tywyll i awyrgylch y teulu yn marwolaeth yr unig fachgen, "Richard bach," fel yr arferai son am dano; o ganol swyn ei febyd, pan o gylch dwy flwydd ned. Yr oedd y bychan wedi gwneyd lie mor fawr iddo ei hun yn serch y tad fel y fam, fel y gadawodd ei farwolaeth gysgod pruddaidd a hir- aethus dros ei ysbryd mwy. Yn union ar ol dydd ei angladd, fe gyfansoddodd y tad gyfres o benillion tyner a phruddglwyfus i "Richard Bach." Y mae y penill cyntaf fel y canlyn, yn engraifft o'r oil: "Fy Richard bach anwyl, fy mebyn bach lion 0 tyr'd yn ol eilwaith, ar rwygo mae'm bron; Mae f'anedd yn unig, a phob gwedd yn brudd Er pan y'm gadewaist—a nos heb un dydd Fydd gweddill fy mywyd; tydi oedd fy haul; Fy machgen bach anwyl, Yr wyf yn dy ddysgwyl O! tyr'd yn ol eilwaith, gad i mi dy gael." RyVr fis neu ddau yn ddiweddarach cyfansoddodd gan arall feithach mewn cyfeiriad at ei farwolaeth o dan y pen- awd, "Y Llwyn o tan fy ffenestr," mor lawn o dynerwch prudd a hiraethus ag oedd y flaenaf. Yn Mebefin y flwyddyn ddylynol, ys- grifenodd y trydydd darn, oedd yn profi nad oedd amser wrth dreiglo yn gwella ei glwyfau. Dyma un penill yn eng- raifft o nodwedd y darn: "I beth byddaf byw ar ol marw fy ngobaith? Pa ddyben yw treulio hir einioes ddi- hedd? Pa gysur yw gwenau a wisgant siriol- deb, Uwch gwedd wyw fy Richard, ar nod- au ei fedd?" Er iddo gael magu tair o ferched tyner a siriol ar ei aelwyd, arosodd y clwyf o golli ei unig fachgen yn hir ddolur iddo. Yn y cyfnod y cyfeirir ato. byddai yn cario yn mlaen wasanaeth ei grefft, gan mwyaf, mewn gweithdy yn agos i'r Depot, ac yr oedd y lie yn gyrchfan llu o gyfeillion. Byddai yn gwneyd darnau o ddodrefn i deulu- oedd, ac yn gwneyd eirch i'r holl gym- ydogaeth, yn waith Haw i gyd; a hyny o'r coed caledion drutaf a phrydferth- af. Nid oedd y tal a ofynai am ei lafur chwaith yn chwarter yr hyn a delir i gwmniau mawrion heddyw. Tachwedd 28, 1870, bu farw ei briod ar ol wyth- nosau o waeledd nychlyd. Nid oedd ef wedi bod yn Cambria, ond y galwyd ef cyn ei marwolaeth. Erbyn yr adeg bonn yr oedd wedi ymgymeryd a nha-rotoi ei hun fel archadeiladydd (architect), a Ilwyddodd i gyraedd gradd dda yn yr alwedigaeth hono. Bu yn aros am ddeuddeng mlynedd neu fwy yn Madison, yn cynllunio a gofalu am rai o'r adeiladau penaf a godwyd ar y pryd. Yn ystod ei arosiad yno, ikiododd yr ail waith gyda Miss Annie Roberts, o Sun Prairie;, yr hon a adawyd ar ei ol yn weddw, ac a gymer- odd y gofal llawnaf o hono yn nhymor ei waeledd. Dros chwarter canrif yn ol gadaw- odd Madison ac ymryddhaodd i fesur oddiwrth gyfrifoldeb y sw/dd; oddi eithr mewn cylch heb fod yn bell o gar- tref. Bu yn Ilawn ei haelfrydedd a'i garedigrwydd i wneyd y gwaith yn nglyn ag addoldai Cymreig cyfagos. am yr agosaf peth i ddim, at gyfarfod ei dreuliau. Yr oedd caredigrwydd a haelfrydedd J'n- llinellau amlwg yn nddurno el gymeriad. Bu ar ymweliad a Chymru yn gynarol wedi gadael Madison, a mynodd nid yn unig ym- wered a ohartref ei enedigaeth, ond a'r mwyafrif yn y plwyf hefyd. Hyfryd- I weh o'r mwyaf oedd gwrando arno yn adrodd banes ei ymchwiliadau. Cyf- ¡ ansoddodd fwy na mwy o farddoniaeth i yn ystod cyfnod o bymtheg neu ddeu- I naw a deugain o fywyd llenyddol, a cbyhoeddodd lu mawr o ddarnau trwy 1 y "Drych," y "Cyfaill," a chyhoeddiad- au eraill. Yn ystod y flwyddyn 1867. cyfansoddodd gerdd faith o dan y pen- nwd "Tomi Bach." Cynwysai ryw 1400 llinell, neu ychwaneg, yn darlun- io cynllwyn arianydd crefyddol tywvll- odrus, yn dinystrio amgylchiadau rhieni Tomi Bach, i'w fantais halog ei 1-iin, gan eu dwyn i gyfvngder a barodfl i'r fam farw o doriad calon. Pan aeth ei ddinystrydd i ymosod yn sarhaus ar gymeriad tad Tomi; ar ol ysbeilio yr oil a. feddai, fe droes ato gan ei daro, y bu farw. Dienvddiwyd y tad, a gadawyd y bachgen heb neb i dosturio wrtho. Wedi treulio rhan flaenaf y nos wrth fedd ei fam yn llefain, daeth hen wraig dlawd oedd yn byw gerliaw y fynwent, ac arweiniodd ef i'w bwthyn tlawd. Helyntion y bachgen yn ymladd a thlodi, ac a dirmyg cyd- nabod uchelfrydig o hono, nes i'w ein- ioes ddiffodd yn anamsorol, a geid yn rhanau olaf y gerdd. ( laf yn fyw iawn am y diweddar Dr, ,(/. Ll. Wil- liams oedd yn ddarllen t, bron heb ei ail, yn rhoi darlleniad r -hoea.dus o'r gerdd, ac ni welais ond cnydig o gyf-  l yr oedd y arfodydd yn fy oes, pryd yr oedd y gynulleldfa oll o dan de tiladau cym- y&g mwy angerddol. Ryw flwyddyn neu dviwy yn ddi- weddarach, cyfansoddodd gerdd dyner ac wylofus arall, a alwai yn "Ellen Wyn," hono fel bron yr oil o'i weith- iau, yn diweddu yn nghanol nos ddu trallod. Bymtheg neu ddeunaw mlyn- edd yn qdiweddarach, cyfansoddodd gerdd "Morfudd yr Haf< yr hon a welir yn "Yr Ymchwil am y Goleuni;" yn cynwys dros dair mil o linellau. Dylyna helyntion bywyd Morfudd o'i phlentyndod hyd ei marwolaeth drall- odus, ar ol colli ei Blodvnn. Y mae y golygfeydd a ddarlunir ynddi yn cael eu portreadu yn nghylr.voedd Castell Dolwyddelan; a Tanycastell; lleoedd oedd mor gynefin i'r awfvr yn nydd- iau plentyndod. Hoffaswn ddifynu yn helaeth o brydferthion y gerdd, ond ni haniata gofod ond i brin grybwyll ychydig. Dyrqa ei gyfciriad at Mor- fudd yn nhymor tyner ei mebyd: Cynyddodd Morfudd, aeth yn dlos, A'l boch yn wridog fel y rhos, A'i gwallt du, Ilaes, fel mantell nos, Yn disgyn dros ei hysgwyddau. Medd am dani mewn darlun diweddar- ach: Ar lwyn o grug gorphwysai'i boch, Ni fu gyfuniad tlysaoh, Gwyrdd byw y grug a'u blodau cain, Y foch a'i gwrid prydferthach; Yr ael a'r rudd, fel bwa a lili dlos, Ac uwch yr 4)11 ei wallt l'• fe? y nos. Fel y canlyn y dywed am dymor mwyn- haol ei chymdeithas a Llywelyn Puw, ¡ fu yn cyd-dyfu a hi, ac y dysgodd y na.ill a'r Hall gydgaru. A bellach treigla'r dyddiau Yn ddifyr a diwall, Cyfnosau fel breuddwydion Yn toddi naill i'r llall: Gobeithion fel enfysau Yn lliwio'u hawyr dlos, A gemau serch yn britbo Cymylau man eu nos. Rhaid ymatal, a symio'i fyny gyda dweyd fod y gerdd hon fel y mwyafrif o'i brif weithiau, a gobeithion siriolaf oes, Myfanwy, Llywelyn, a Gruffydd o'r Castell, yn diffodd yn siomedig yn y diwedd. (I'wBarhaut.
COLTJMBUSr 0. I
COLTJMBUSr 0. I Gan Thomas Roderick. J EbriH Sfed, 1915.Mae Mrs. I Hannah Morgan a Miss Ethel Davies, 6 05 Edward St., wedi bod yn wael iawn dan grip, ond da genym wybod ei bod yn graddol wella. Mae Mr. a Mrs. Goodwin Bebb, 1350 Eastwood Ave., wedi cael testyn llaw- enydd am fod merch fechan wedi gwneyd ei hymddangosiad yn ei cartref ua dwy wythnos yn ol. Fe gynaliwyd gwasanaeth neillduol, a gweinyddwyd y cyrsundeb yn eglwys y M. C. nos Wener y Groglith ac yr oedd y capel yn orlawn; fe gafwyd gwasanaeth i'w hir gofio. Y Parch. E. Edwin Jones oedd yn gweinyddu. Bu Mrs. W. Williams, 962 E. Long Qt., a'i chwaer Gwennie Alban, 144 N. Monroe Ave., a Mary Evans, 434 E. Gay St., ar ymweliad a St. Petersburgh 1..st. Augustine a manau eraill o Florida. Maent yn teimlo yn llawer iawn gwell ar ol bod yno. Mr. a Mrs. L. D. Davies, 1247 E. Long St., sydd wedi troi ar wella ar ol Kod vn wael iawn am rai wythnosau. Mr. L. D. Davies a'r Parch. E. Edwin Tones yn myned i Cyfarfod Dosbarth i Venedocia, O. Sul y Pasc fe berfformiodd y Junior Choir, dan arweiniad K. W. Roberts, s-antata "O'r Bedd i'r Orseddfainc" yn hynod o dda; yr oedd pawb yn mwyn- hau eu clywed. Gwnaeth yr unawdwyr eu rhan gyda brwdfrydedd. Yn yr invyr, cawsom "Song Service" gan yj "Dr hynaf dan arweiniad R. W. Ro- Virts. Fe wnaeth yr alawyr brofi tu- bvv-nt i ameuaeth eu bod yn feistri ar -1: gwaith. Yn Mnlyn- wele eu hen- wau: Ann Jones. Susie Jones. Mrs. Jas. Snyder, Ethel Davies, Elizabeth Breese. TV. W. Williams, Margaret O. Lloyd, Susie Jones a S. Jones. Traddododd y r»8rcb. E. Edwin Jones anerchiad byr. 0fw,"d felly ddiwrnod o fawl i Dduw er cof am adgyfodiad lesu Grist o'r bedd. Drwg yw gorfod hysbysu fod y brawd W. J. Bebb (hynaf) 1424 East- wood Ave.. wedi ei daro yn glaf, ac —irir, cvrtb'o vn vr ardd tu cefn i'r ty. Newydd ddychwelyd yr oedd o Mag- netic Spring's, lie yr aeth ef a Miss Bebh am dymor. I
GOLWG- ARALL AR Y RHYFEL.…
GOLWG- ARALL AR Y RHYFEL. I Gan Pennant-twrch. f Yn gymaint ag i Caerwyni fy an- rhydeddu drwy ysgrifenu dwy erthygl mewn atebiad i fy meirniadaeth ar ei ysgrif flaenorol, teimlaf y dylwn beidio ei anwybyddu. Y mae ganddo ddull pur ymerodrol o ymdrin a'i feirniaid. "Unochrog bethau," "bodau dinod," "efydd-glychau,"&c., y'u cyfenwir gan- ido. Lied awgryma hefyd ei fod ef yn ddyn pur bwysig mewn cymdeithas. Sylwer, ei fod ef yn derbyn tri papyr dyddiol, pedwar ar ddeg o wythnosol- ion a thua haner dwsin o fisolion, a eha amser, medd efe, i siarad a miloedd o'i gydgenedl o fis i fis. Y mae gobaith o Gaerwyni pe y dysgai feddwl yn weddol gyson, a phe y peidiai ag estyn y gwir mor ddiofal. Pa wedd y gall Caerwyni siarad a miloedd o bobl o fis i fis, a "gwybod sut y teimlant a beth a f-eddyliant," tybed? Credaf mai oyffelyb ydyw i'r hogyn hwnw redodd i'r tyiat ei fam gan ddweyd fod yna filoedd o gathod yn ymladd yn yr ardd, ond erbyn gwasgu arno am fanylion, nis gallai enwi ond ein cath ni, a chath Ty'nybryniau. Cydnebydd y tro hwn "fod i Brydain bethau ardderchog," ond "nad yw yn anffaeledig." Gwir bob gair, ond dywed yn mhellach "mai tyner yw y dywediad mai lladrones fwyaf gwaed- lyd y byd yw Prydain." Eglur yw nad ellir dysgwyl cysondeb na chywirdeb ganddo. Er cymaint ddarllena Caer- wyni, nid ydyw wedi deall eto, meddai, fod y wasg Americanaidd bron yn un- fryd yn erbyn Germani, ond y mae'r Germaniaid yn gwybod hyny yn dda, a llawer o honynt yn cwyno yn enbyd o'r herwydd. Tybed fod Caerwyni yn graffach yn y mater yna na Gol. y Fatherland, a phapyrau Germanaidd eraill, pa rai a gwynant yn erbyn ag- wedd y wasg Americanaidd. Dywed Caerwyni "dim ond un gwr o ddysg hyd eto sydd wedi ymgeisio at osod rhai ffeithiau ger bron y byd," ac yna lied- gyfieithia yn drwstan ran o waith yr Eidalwr Ferrero. Pa sut y gwyr Caer- wyni mai "un gwr o ddysg" sydd wedi gwneyd hyny? Nid ydyw holl ddys- geidiaeth y byd yn gynwysedig yn y cylchgronau a dderbynia ef. Fel mater o ffaith, nid ydyw gosodiadau a briod- olir i Ferrero gan Caerwyni namyn yr hyn ddarllenir drcsodd a throsodd dra- chefn er dechreu y rhyfel. Hoffwn ofyn i Caerwyni, os ydyw Prydain ganoedd o flynyddau ar ol Germani, beth oedd y rheswm fod Ilongau a baner Prydain yn mhedwar van y byd cyn bod son am yr Ymer- odraeth Germanaidd bresenol. Yn wir, v mae Caerwyni mor ddibris gyda Teithnvi ag ydyw gyda geiriau. Hoff- wn weled un o ddarllenwyr y "Drych" vn ceisio gramadegu y frawddeg hon o eiddo Caerwyni. "Am hyny, Prydain yn ymddigio. suro, chwyddo ynddi ei hun, ac yn colli ei gafael ar bethau am nad yw yn gallu' cadw ei hun mewn gafael." Cofia ddarllenydd Trwyn y "Drych," os byth y dygwydd i ti golli dy afael mewn unrhyw beth, vr achos o hyny fydd na chedwaist dy bun mewn gafael, ac os na fyddi megys Prydain wedi ymchwyddo cyn colli dy nfael. diau y byddi mewn perygl o ^bwvddo ar ol cael codwm. Gofyna Caerwyni i'w feirniaid "feddianu eu hunain mewn tangnef- edd, fel y gwelont lachawdwriaeth yr ArgTwydd." Credwn fod yr Arglwydd vn belpu yr hwn ag sydd yn helpu ei bun. Beth pe bu'asai y Prydeinwyr yn rHog-ddysgwyl wrth yr Arglwydd, heb yrfyddino yn erbyn y Kaiser? Breuddwydiwr anymarferol ydyw Caerwyni, yn methu vmddibatru oddi- wrth hen syniadau paganaidd am Dduw a'i lywodraeth. Tybia Caerwyni fod y Germaniaid wedi gwneyd cam- crymeriad wrth geisio cyraedd Paris yn gyntaf, ac y dylasent fynd ar eu hun- ion i Lundain. Nid yw wedi dweyd pa ffordd yr elent yno. Y mae eu llvnges yn Ilecliu o'r golwg er dechreu rhyfel gan y gwyddant mai dinystr sicr fydd- ai iddynt anjturio brwydr gyda llynges- oedd Prydain a Ffrainc. Rhoddai y Kaiser y "groes haiarn" i Caerwyni pe amlygai iddo y ffordd i gyraedd Llun- dain. Ca Caerwyni bleser mawr wrth eon am orthrwm Lloegr ganrifoedd yn ol, a sonia am y Cymro a'r Ysgotyn a'r Gwyddel yn gaethion i'r Sais. Onid vdyw y pedair cenedl yn mwynhau yr un breintiau a'u gilydd yn Mhrydain, o leiaf byddant pan ddaw Ymreolaeth i'r Iwerddon i rym. Nid wyf yn Sais addolwr, ond nid ydyw y Saeson bre- swyliant Loegr yn awr yn fwy cyfrifol am bechodau eu tadau nag ydyw eu cefndryd yn America. Nid Sais-addol- wyr yn ddiau ydyw dynion megys O. M. Edwards, Syr Henry Jones, D. Lloyd George, a chanoedd eraill o flaen- Ion y genedl yn Nghymru. sydd a'u holl egni yn galw gwyr i'r gad. Y mae Cymru yn unol ar y mater, tra y mae Caerwyni yn gofyn arwydd, ac yn dyheu am ferthyrdod dros Gymro, Cymru a Chymraeg. Ceir amryw megys Caerwyni yn frwdfrydig iawn dros rywbeth ddygwyddodd oesau yn ol, ond yn hollol ddall i ddyiedswyddau eu hoes eu hunain. Bradycha Caerwyni ei anwybodaeth gyda mater Manilla Bay. Nid oedd Prydain yn cashau y wlad hon, gwyr y mwyaf elfenol ei wybodaeth fod teim- ladau da cyd-rhwng y ddwy wlad er cyn hyny. Hefyd, ar ol hyny yr am- lygwyd teimladau drvg cyd-rhwng Germani a Phrydain. Eto, dywed fod ar Brydain ofn y wlad hon. Dywedai dau o lyngeswyr blaenaf y wlad hon yn ddiweddar y gallai yr U. D. am- ddiffyn ei hun ar y mor yn erbyn un- rhyw lynges yn y byd ac eithrio un (Prydain), ond wrth gwrs, nid oes berygl i'r ddwy wlad fynd I ryfel. Fe dalai i Caerwyni dalu sylw i ffeithiau syml, cyn son am athroniaeth. Hefyd y mae y modd pendant a dibetrus y Denderfynir pethau gan Caerwyni yn bur ddifyr. Dywed mai Blaine a Hay, oeddynt y ddau diplomat galluocaf a welodd y byd, ac mai Grey ydyw'r trydydd. Er nad oes a wnelo hyn a phwnc y ddadl, dengys ddull mympwy- ol Caerwyni o ddadgan ei farn. Pa fodd y gwyr ef fod y ddau a enwodd yn alluocach na Bismark neu Gladstone ¡ er engraifft. Ni chawsant gystal cyfle i ddangos eu galluoedd efallai. Rhy- ( fedd fod y gwr sydd yn galw am ffeith- ian yn dysgwyl i ni gredu ei haeriad- ¡ au ef heb unrhyw brawf heblaw ei air ( penarglwyddiaethol ef. Gallaswn dy- bio mai'r bradwr Syr Roger Casement i ydyw oracl Caerwyni. Gwell genyf fi I d<Io!*byn syniadau John Redmond r.T y pwnc. Y mae yn ddyn gysegrodd ei oes er mwyn ei wlad a'i genedl, ac. ni throdd yn fradwr yn nydd yr ystorm, Ychydig lawn yw nifer y Gwyddelod a gylch-arweinir gan y bradwr Casement, ¡ ac ychydig lawn ydyw nifer y bradwyr yn mysg Cymry, Ysgotiaid, a Saeson yn yr argyfwng hwn. Yn ol Caerwyni 'nid oes Gymro yn America na Chymru o dan rwymau i Brydain.' O ffolineb, onide! Nid ydym I orlan rwymau i lenyddiaeth gyfoethog I y Saeson nac i'w duwinyddion, eu gwyddonwvr, eu hathronwyr a'u I beirdd. tybed? Druan o Caerwyn.i I ddall, onide. Gresyn na fuasai wedi ei I eni a'i fagu mewn gwlad fel China, ef- ¡ a'lai y buasai yn gallu gwerthfawrogi I rhyddid diwylliant a gwareiddiad Pry- ) deinig. Ofnaf fod Caerwyni yn an- î feddygadwy, ac er i ni "ei bwyo mewn I mortar gyda phestl yn mhlith gwen- lith," eto nid ymedy efe a'i ffolineb.
I BYDD HEDDWCH.. I
I BYDD HEDDWCH.. I Gan y Parch. T. Aber Williams, Staff- j r ord Springs, Coun. I f (Parhad). Ii Mae y gred mewn milwroliaeth yn gwbl gyfeiliornus, yn farbaraidd, a yn echrydus o greulawn. Rhaid i'r genedl a greda y fath ddysgeidiaeth heddyw fedi o ffrwyth ei hynfydrwydd. Yn I nerth y grediniaeth hon y gwna y gen- edl Ellmynaidd frwydro brwydr ar yr \1 holl fyd; os nad yn ymarferol, felly yn sicr yn yr ysbryd. Dyma a ddywed yn ¡ ol un o'i phlant: "Y mae y fyddin yn arwydd o fawredd uchel, yn angen- rhald i ddibynu arni; ysgol boblog yd- yw er meithrin gallu dynol, a'r dynion hyny na wnant gredu hyn, nid ydynt amgen na phersonau annghyfrifol. Man gwan diwylliant y Sais yw nad oes ganddo wasanaeth milwrol cyff- redinol. Y mae nerth y wladwriaeth yn gorwedd mewn byddin reolaidd o'i phobl, a hono yn cael ei pherffeithio yn barhaus. Parhad gwleidyddiaeth an- orchfygol yw rhyfel, y cleddyf sydd ac a raid fod yr unig ganolwr. Mae mawredd moesol rhyfel yn yr agwedd- au b y-ny, a hyny yn unig, pa rai y gwna edrychwvr arwynebol eu des- grifio fel bwystfilaidd ac annynol. Gel- wir ar ddynion i orchfygu pob teimlad cymeriad er mwyn eu gwlad, ac i ladd pobl na welsant o'r blaen ac na wnaethant unrhyw niwed iddynt, a pha rai hefyd a ystyriant o bosibl fel t gelynicn urddasol. Pethau fel hyn ar yr olwg gyntaf a wnant ymddangos yn echrydus a gwrthwynebus. Eto, hyn a rodda i ryfel ei mawredd a'i hurddas moesol. Una dynion mewn cariad brawdol. Pe y gwnelid i ffwrdd a rhy- fel buasid yn crebachu y natur ddynol. Nis gall rhyddid fodoli heb allu milwr- ol, nis gall y wladwriaeth hono a ddadblyga ei galluoedd meddyliel yn fwy na'i rhai corfforol hi ond methu a suddo i ddystryw. Dim ond cenedlood41 nerthol sydd a gwir hanes. Yn awr profedigaeth, rhinweddau milwrol feddant y fantais derfynol. Dyga rhy- fel i oleuni yr oil a gasgla cenedl mewn dirgelwch. Nid yw rhyfel ym fwy na chorfforiad nerthol o wleidydd- iaeth. Rhodda byddin i un y teimlad o anrhydedd plaid (dyna a via yn Germani). Nid yw rhyfela ond corfforiad nerth- ol o wladlywiaeth dramor, y gwaed- doll a osodir gan faich milwroliaeth yw y fwyaf a all cenedl gael ei galw i'w ddwyn. Y wladwriaeth yw yr bOlD. a saif dros allu, yn y ffurf o lawn- reoleiddiad trefniant milwrol. Y fyddin yw yr hon a wna amddiffyn ein heddwch gwladol. Rhaid edrych ar yr bawl i gario arfau fel braint y din-esydd rhydd, ac fe erys am byth yn fraint urddasol iddo. Y mae pob meddyliwr gonest wedi cydnabod y ffaith fwy neu lai, hyny yw, "na wnaeth y Duw a greodd haiarn ddim ewyllysio i ddynion fod yn gaethion," ac y mae yn ddyledswydd ar i bob trefniant politicaidd rhesymol i gadw y drychfeddwl hwn mewn parch." Geiriau y diweddar awdwr, dysgawd- wr, a'r enwog arweinydd Treitschke ydyw y rhai hyn, ac a ddyfynwyd o'i draethawd ar ryfel, a hyn a ddywedir wrthym a gyfansodda, ac y sydd hefyd wrth wraidd holl athroniaeth yr Ell- myn gyda golwg ar ryfela. Effeithiau y ddysgeidiaeth hon a welwn yn amlwg heddyw yn ol dull a'r modd y gwna y genedl Ellmynaidd gario yn mlaen yr ymgyrch farbaraidd ar gyfandir Ewrop. Milwroliaeth yw eu nod uch- elaf, ac yn hyn y mae eu hymffrost. Nis gallwn ni fel pobl sydd wedi ein geni a'n magu yn awyrgylch iach a rhydd gwerinlywodraeth, lai na gwrth- vvyLebu a gwrth-ddywedyd bron bob brawddeg a gosodiad a ddyfynwyd, geiriau dyn ydynt sydd wedi meddwi ar filwroliaeth, ac athroniaeth meddwl ynfytyn ac anwar ydynt. Cydunwn ya lion gydag un o feibion enwog ein gwlad fabwysiedig, a dywedwn, "ni rodda arfogaeth wir sicrwydd dros heddwch. ni wna arfogaeth ffurfio dyo- gelwch cenedlaethol, nid yw arfog- aeth yn warchodfa i wir ryddid ac iawnder, ni wna deddf cvdwladwr- iaethol a threfn ddibynu ar arfog- aeth." Mae hyn oil wedi syrthio fel castell mewn awyr, ac wedi dwyn cy- wilydd a gwarth na welwyd ei debyg o'r blaen drwy y rhyfel presenol ya Ewrop. Meddai yr un gwr: "Celwydd ydoedd, ac y mae'r celwydd yn cael ei saethu yn ddarnau gerbron ein llygaid. Dylai hyd yn nod y deillion fod yn alluog i weled nad yw arfogaeth yn unrhyw sicrwydd dros heddwch. Nid yw cyllid milwrol a llyngesol yn un- rhyw yswiriant, ond yn hytrach, olew ffrwydrol ydyw. Ni buasai yr ystad waradwyddus bresenol yn Ewrop byth wedi dygwydd pe na buasai am y fath olew tanllyd. Nid yw byddinoedd en- bydus a nerthol yn foddion effeithiol i sefydlu heddwch ac iawnder. Yn ngo- leuni goresgyniad Belgium diflana y syniad mewn niwl caddugawl a thru- eni anfad. Frwyth arfogaeth yw an- nhrefn o'r fath waethaf, gwna ddyn yn anifail; gwna arfcgaeth chwydd- fawr sefyll yn llwybr iawnder a pher- ygla ryddid dyndliaeth. Mae y syniad y gellir ymddiried mewn centdloedd i gadw eu geiriau a'u bod yn fwy sicr o weithio yn ffafr yr amcan uwchaf yn mhlaid dynoliaeth ac ar yr un pryd, wario y rhan fwyaf o'u cyllid ar arfau i ladd dynion, megys ysbryd a ddiflana mewn awyr. Os y gwna cenedloedd ymwisgo fel lladron byddant yn fuan yn sicr o ymddwyn fel lladron. Nid yw dynion yn debyg o ymorphwys ar reswm pan y mae wrth eu penelin ben- twr o ddur ar ba un y gallant bwyso. Hyn ydyw gwir lais America—gwlad rhyddid, iawnder a chwareu teg, dyma sydd raid fod arosol lais gwerin- lywodraeth, teg-ymddygiad, ethol- fraint-deg ac ewyllys-dda. Mae Ewrop heddyw yn sibrwd gwers holl-bwysig a mwyaf difrifol i'r wlad hon, a hyny yn nymchweliad cyfundrefn unben- I aethol a milwriaethol. "Am genedl- aethau," meddai yr un gwr, "yr ydym yn ceisio dynwaredu Ewrop. Y mae I drychfeddwl Washington a sefydlwyr eraill ein cenedl yn cyflym ddiflanu i ffwrdd. Nid i ychydig mae Germani wedi dod yn rhagddelw, yr ydym wedi mabwysiadu llawer o ddefodau yr hen fyd. Gofyniad syml yw: A ddylem ni dcTI- t arfogi? A ddylem ni roddi terfyn ar adeiladu Ilongau rhyfel, y Ilongau tan-