Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

12 articles on this Page

SABBATH YN NGHAPEL CYNONFARDD.

News
Cite
Share

SABBATH YN NGHAPEL CYNON- FARDD. Gan Morfryn. Yr wyf wedi hiraethu llawer am ham- dden i wrando ar y bardd-bregethwr Cynonfardd. Foreu dydd Sul y Pasg di- weddaf yn nghwmni y Parch. J. Jenkins aethym i gapel yr Annibynwyr yn Ed- wardsville, un o addoldai prydferthaf, eangaf a mwyaf cyfleus dyffryn pryd- ferth y Wyoming. Cyraeddasom yr addoldy erbyn oddeutu haner awr wedi naw a chlywn swn can bendigedig un o emynau anwyl. Cymru a deallais fod cwrdd gweddi yn cael ei gynal yn yr ystafell o dan y capel, aethym i mewn a synais weled yno oddeutu triugain o ddynion wedi bod yno er's wyth o'r gloch y borl-lu yn gweddio am fendith Duw ar waith y dydd, yn wir buasai llawer o bregeth- wyr yn falch o gael cynulleidfa o faint hon yn un o oedfaon neillduol yr eg- lwys. Dywedais ynwyf fy hun fod yn anmhosibl i ddyn beidio pregethu yn dda a chael hwyl wrth fyned i bwlpud ei eglwys o ganol y fath awyrgylch. Yr wyf yn cofio clywed y diweddar barch- edig P. S. Henson, Chicago, yn dweyd unwaith "One morning I went to church feeling utterly unprepared to face the duties of the day, but as I passed the room in which the men of the Church held their prayer meeting, I heard ten or twelve praying for their pastor, then I put on new courage and had one of the most successful days of my pastor- ate." Gwyddwn am allu Cynonfardd ac na chawn fy siomi mewn ystyr, ond cod- odd fy nysgwyliad o dan y cyfryw am- gylchiadau, pobl Dduw yn ystormio'r nefoedd a'u gweddiau, yn tynu yn y rhaffau ys dywedai yr hen bobl ac yn hollti'r cymylau nes cael cawodydd ben- dithfawr i lawr, a sicrhai hyn hwyl i'r pregethwr. Pwy yn y wlad nad yw yn adnabod Cynonfardd, mae ei enw yn adnabvddus o New York i San Fran- cisco, ac yn Ne a Gogledd Cymru, an- hawdd yw myned i unman na chyfar- fyddwn a rhywun sydd yn adnabod Cynonfardd, wedi darllen am dano, "neu wedi gweled ei berson ryw dro neu gilydd. Dyn cenedl yw Cynonfardd, llanwa ei le ar lwyfan yr Eisteddfod, yn y pwlpud, mewn angladd neu briod- as, mewn cyngerdd, mewn cwrcui gwleidyddol, Cymraeg neu Seisnig. Mae y ffaith ei fod wedi bod yn wein- idog parchus mewn nerth a bri am yn agos i ddeugain mlynedd ar un o eg- lwysi mwyaf parchus y wlad a chred- wyf yr eglwys Gymreig fwyaf yn y wlad, mae hyn yn myned yn mhell i brofi fod ei adnoddau bron yn ddihys- bvdd. Cofier nad wyf am foment yn aw- grymu fod Cynonfardd yn hen, oblegid yr oedd yn ieuengach na'r cyffredin pan yn ymsefydlu yn Edwardsville, a phe yn gweled ei berson a chlywed ei lais, gallem feddwl nad yw yn awr ond yn dechreu gwawrddydd ei fywyd. Mae mor ysgafn ar ei droed, iacnus ei edrvchiad, yn gryf ei lais, digrifol ei ym- ddyddanion, mor nerthol yn ei bwlpud ac mor benderfynol i fyw byth ag erioed, ac fe fydd byw byth. Y mae dyn i fyw yn ei ddylanwad pan y bydd ei gorff yn pydru yn y bedd, a dyma un o'r prawfion sydd genym dros gredu na fydd dydd barn hyd derfyn amser am y bydd dyn yn parhau i wneyd drwg neu dda hyd hyny, ac y mae dyn i fod yn gyfrifol "am yr hyn oil a wnaeth efe." Am bum mynyd i ddeg, dyma ni yn ein lie yn barod i wrando ar wr Duw yn pregethu gair y bywyd, am ddeg o'r gloch rhoddodd yr emyn cyntaf allan i ganu: Fe adgyfododd Iesu Yn ogoneddus iawn, Caed boreu teg a hyfryd 'Rol stormus ddu brydnawn. Arweinydd caniadaeth y cysegr yw Oliver Rhyddferch. Dyn mwynaidd, tawel, gostyngedig, sicr yn ei feddwl a meistr ar ei waith yw Oliver, un o ar- wyr yr Eisteddfod. Llafuria yn galed i godi canu i fri yn neillduol canu mawl i Dduw, a llwydda yn ei amcan, ac yn sicr nid dyn yn curo'r awyr yw Rhydd- erch, canys myn sylw a thelir parch mawr iddo fel dyn yn llanw ei swydd. Gwledd i chwaeth uchel oedd gwrando ar gor y plant yn oedfa'r hwyr o dan arweiniad Rhydderch, ond gan y bydd rhywun arall yn son am hyn ni fanylaf. Testyn Cynonfardd oedd, "Yr Ar- glwydd a gyfododd yn wir ac a ym- ddangosodd i Simon." Cwestiwn mawr yr adgyfodiad yn cael ei benderfynu heb unrhyw ameuaeth. Ymresymai yn fanwl a gofalus, brawddegai yn bwys- leisiol, codai i hwyl yn ysbryd ei bwnc fel dyn perffaith gyfarwydd a'r mater oedd ganddo dan sylw ac fel dyn yn cael llwyr foddhad yn y ffaith fwyaf a berthyn i Gristionogaeth. Yr oedd ei esboniad ar y phoenix yn un o'r pethau mwyaf tarawiadol, nerthol a dylanwad- ol a glywais erioed, ysgydwai y gynull- eidfa fawr a gwelwyd fod y bregeth yn cael effaith rhyfeddol ar y gwrandawyr. Yr oedd trefn yr oedfa bron yn ber- ffaith, y canu yn neillduol o dda, y pre- gethwr ar ei uchelfanu, a minau yn cael gwledd wrth fodd fy nghalon, a sicr fod Duw yn cael gogoniant. Rhodded Duw flvnyddau lawer eto i fy mrawd a'm cyfaill hoff i fyw i wasanaethu ei Ar- glwydd, ei genedl a'r wlad. Diolch i'r Parch. J. Jenkins, am fy ngwahodd, diolch am ei gymdeithas. Dyn da yw Mr. Jenkins, aelod parchus yn yr eglwys Gynulleidfaol ar yr hon y gweinidogaetha Dr. Edwards. Mae Mr. Jenkins yn bregethwr rhagorol, dylal rhyw eglwys gymeryd mantais arno gan ei fod yn weinidog llwyddianus ac o gymeriad rhagorol. Gyda'r dymunlad- au goreu am lwyddiant gwaith yr Ar- glwydd.

Advertising

SCRANTON, PA.I

Advertising

Family Notices

Advertising

Family Notices

NODION 0 CHICAGO, ILLS.I

Advertising

NODION 0 NEW CASTLE, PA.

IBRISTOL, MINN.

Advertising