Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
8 articles on this Page
Y DIWEDDAR BARCH. ELLIS EDWARDS,…
Y DIWEDDAR BARCH. ELLIS ED- WARDS, D. D., BALA. Gan y Parch. T. M. Jones (Gwenallt), j Gronant, Gogledd Cymru. Yr haf y flwyddyn 1900, cefais y fraint a'r pleser o dalu ymweliad a'r America, a phreswj-liwn yn Colwyn Bay y pryd hwnw, ond er's oddeutu ped- air blynedd bellach yr wyf yn byw yn ardal fechan Gronant, gerllaw Pres- tatyn. Nid wyf eto wedi annghofio y caredigrwydd a dderbyniais gan fy nghydgenedl yn ystod yr ymweliad hwnw, ac yn fynych byddaf yn ail fyned dros fy nhaith mewn adgof a myfyrdod. Chwith genyf feddwl fod llu o gyfeillion anwyl a gyfarfyddais yma a thraw yr adeg hono yn y dystaw fedd erbyn hyn, megys-y Parchn. Hugh Davies, E. C. Evans (Remsen), John Owen Jones (Slatington), Hugh Hughes (Bangor), Richard F. Jones, Dr. Davies (Osh- fcosh), Trogwy Evans, Daniel Thomas, John W. Roberts a John T. Lewis (Powell), Owen R. Morris, W. Machno Jones, R. Yaughan Griffiths, W. A. Jones (Coedmawr), Griffith Jones (Dodgeville) a'i frawd, Mr. William Jones (Earneveld), Thomas R. Jones, John R. Johns, John K. Roberts (Spain) a'i frawd, Mr. Thomas D. Roberts (Ran- dolph), Mri. John C. Roberts (golygydd v "Drych"), T. Solomon Griffiths, Lewis T. Roberts, Thomas Lloyd Williams, Gwilym Bryrl, R. W. Hughes (Menai- fardd), James B. Lewis, a llu eraill nas gallaf gofio eu henwau, ac nas gwn yn iawn a ydynt ar dir y rhai byw-yn weinidogion a lleygwyr, ac er nad oes ond prin bymtheg mlynedd er hyny, rhyfedd meddwl cynifer o hen gyfeill- ion anwyl sydd wedi tewi am byth yn yr anscu. Un genedlaeth yn myned, a chenedlaeth. arall yn dyfod, a dyna hanes ein byd o'r dechreuad. Gwn fod lluaws eto yn aros o'r cyfeillion y der- byniais eu caredrgrwvdd, a dymunaf gael fy nghofio atynt yn y modd mwyaf caredig. Yr un peth ellir ddweyd am Gymru hefyd cwympwyd colofnau amlwg lawn yma er's pymtheng mlynedd, ac oferedd fyddai ceisio eu henwi mewn ysgrif fer fel hon. Yn ystod yr wyth- nosau diweddaf collasom nifer o ddyn- ion rhagorol—yr Athraw Edward An- wyl, Aberystwyth (un o ddynion gwerthfawrocaf ein cenedl), Dr. Spin- ther James (hanesydd gwych), Emlyn Tones, Treforris: Syr Marchant Wil- fiams, Mr. D. P. Williams (un o feibion Arfon, ac un a gyflawnodd waith mawr gydag Addysg yn y sir hono). a choll- odd Lerpwl ddau _Gymro anhawdd gwneyd hebddynt—Mri. John Morris a William Thomas. Pa ddyben dechreu enwi? Anhawdd cadw cyfrif o gyflawn- iadau Angeii. Modd bynag, un arall a gymerwyd ymaith yn ddi^eddar ydoedd yr un y ceir ei enw uwchben yr ysgrif hon, Dr. Ellis Edwards, mab hynaf y diweddar Hybarch Roger Edwards, Wyddgrug. Ceir dau o blant Roger Edwards yn aros eto yn ein plith-Lady Lewis (priod Syr Henry Lewis. Bangor), a Dr. David Edwards, Wyddgrug. Bu Richard -bachgen athrylithgar—farw flynydd- au lawer yn ol. Ellis Edwards oedd yr hynaf o honynt, a bu ef farw Chwefror 2il diweddaf, yn 70 mlwydd oed. Cladd- wyd ef yn mynwent Llanycil, ger y I Bala. Rhyfeddai rhai na chladdwyd ef gyda'i rieni yn y Wyddgrug, ond nid an- naturiol o gwbl i hyn gymeryd lleyn Llanycil, heblaw ei fod yn gyfleus yn yrayl y Bala (lie y treuliodd y rhan fwyaf o'i oes, a'r lie y bu farw), ac yn orphwysfan i luaws o ddynion tra adna- bvddus, ceir yma hefyd nifer luosog o deulu a pherthynpsau Ell's Edwards. Yn y Bala y ganwyd ei dad. 1.—Fel dyn. Prin y mae angen rhoddi desgrifiad o hone i luaws o ddar- llenwyr y "Drrch" gan iddynt ei weled pan oeddynt. ar ymweliad a Chymru, ond er mwyn y rhai nas gwelsant ef, gellir dweyd ei fod yn meddu ymddang- osiad personol enillgar iawn, gwyneb prydferth yn meddu ar lawer o swyn, pryd tywyll, taldra canolog, cerddwr cyflym ac ysgafn ei lam, ac yn wastad yn gwisgo ei wydrau. Fel yr heneidd- iai ymdebygai i'w dad. Am nodweddion ei gymeriad, gellir dweyd ar unwaith ei fod yn foneddwr. Heblaw bed yn efryd- ydd yn y Bala dan ei addysg am bedair blynedd (ac y mae rhai o'm cyd-efryd- wyr yn yr America heddyw, a gallant gadarnhau yr hyn wyf yn ddweyd), cef- ais yr anrhydedd o ysgrifenu Cofiant i'w hybarch dad, ac felly cefais gryn fantais i'w adnabod, a dyna fy nhystiol- aeth—yr oedd Mr. Ellis Edwards yn foneddwr Cristionogol, dyn unplyg, unol a'i air, doeth, ac nid yn unig yr oedd yn hoffus yn ngolwg pobl y Bala a'r wlad, ond yn ffefryn to ar ol to o efrydwyr. Yr oedd rhyw bethau ynddo ag oeddynt yn tynu ato-tynid rhai o bob oed a chylch, plant a hen bobl, gweithwyr cyffredin ac athrawon Coleg- au, &c. Yr oedd mor dryloew, mor sym1. mor gywir, nes tynu rhai ato, ac heb ddim ynddo i'w taflu yn ol drachefn yn mhellach. 2.Fel pregethwr. Rhaid cofio ei fotf dan anfaritais gyda. phregethu, gan fod ei amser a'i lafur yn rhedeg i gyfeiriad arall gyda gv/aith yr Athrofa. Ond yr oedd llawer o elfenau pregethwr pobl- osraidd ynddo. Meddai ar allu i dynu sylw ei gynulleidfa. Nis gallesid peidlo gwrandnw arno. Yn y pwlpud Evddai rhywbeth yn darawiadol yn ei olwg— dwvs ei wedd, urddasol a thawel, a rhywbeth allan o'r ffordd gyffredin yn ei dduil yn sefyll a'i edrychiad, dyfnder ac arafwch ei oslpf gydag ambell air a tra,wddeg, ac weirhiau, pan wedi ei gyffroi, camai yn ol ac yn mlaen, yr ochr hon a'r ochr acw, gan gyhooddi a gwaeddi, fel Cadfridog yn gorchymyn ei filwvr. Amrywiai gryn lawer yn ei oedfeuon, a gellir dweyd yn ddiddadl y byddai ar adegau yn effeithiol iawn. Pwv yn well am ddechreu gwasanaeth gyda defosiwn a pharchedigaeth? Byddni vn fwy effeithiol pan yn traethu vn rhydd w. phan yn rhwym gyda'! bapyr. Er mor rhagorol ydoedd ei Gvnsror ar yr Ordeiriad yn Nsrhvmdeith- asfa Treffynon (1913). diau y buasai yn well pe yn rhydd oddiwrth ei bapyr- yn fwv errymus ac ysgubol. RTfiaid cofio y pregethai yn y ddwv iaith, ac ystyrid ef yn un o'r preeet.hwyr Seisnig mwyaf derbvniol yn y Cvfundeb (gyda Itaw, bu vn fiizail ar eglwys Seisnig- yn Nhroes- •oswallt am rai blvnvddoedd-ei ofal- aeth srvntaf a'i unig ofalaeth fueeiliol). a gallai gvnrvchioli ei gyfundeb a'i eenedl ar unrhvw lwyfan-Cvmrei neu Seisniz-ar faterion gwleidyddol a chrefvddol rvdag anrhvdedd. 3.—Fel Athraw. Nid wyf am fanylu arno fel dyn dysgedig a chyflawn; ac am ei allu yn nglyn a cherddoriaeth a changenau eraill, ac nid amcan hyn o ysgrif yw galw sylw at ei waith amryw- iol, eithr yn syml talu teyrnged fechan o barch i'w goffadwriaeth, a dewisaf wneyd hyny yn y "Drych" am y rhe- swm fod llu o hen gyfeillion ac edmyg- wyr iddo ar yr ochr yna i'r Werydd. Pan benodwyd ef yn athraw i'r Bala- dros ddeugain mlynedd yn ol-bu cryn feirniadu a chondemnio, gan yr ofnai rhai fod ei ddiffyg clyw yn ei annghym- wyso i'r safle hono. Rhaid cydnabod fod y diffyg hwn yn peri pryder ar y pryd, ond y gwir yw fod Dr. Ellis Ed- wards, er yr anfantais, wedi profi ei hunan yn athraw tra llwyddianuS. Rhaid ei fod yn ddyn o benderfyniad, yn meddu ewyllys gref, i allu gorfyw yr anfantais hon. Heblaw bod yn eithr- iadol o gryf mewn llenyddiaeth Lladin a Seisnig, ac athroniaeth, &c., meddai ar lawer o swyn a gwreiddioldeb yn ei ddull yn cyfranu addysg, ac anfynych y ceid athraw allai daflu mwy o ysbryd- iaeth i efrydwyr. Yr oedd yn llawn o gydymdeimlad a'r dynion ieuainc, a dy- wedir iddo gynorthwyo ami un mewn ystyr arianol os gwyddai fod prinder. Talai sylw i'w efrydwyr fel yr oeddynt yn bersonau unigol-yr oedd ganddo syniad am safle pob un, am ei argy- hoeddiadau, am nerth a gwendid yr unigol, llawer mwy felly nag a dybid ar y pryd. Nid ymwneyd a'r efrydwyr fel eyfan-gorff byddai ef, ond yr oedd yn graff a sytwgar iawn, a gallai ddos- barthu ac elfenu pob efrydydd wrtho ei hun, ac anfynych y gwnelai gamgymer- iad. Hefyd yr oedd yn hynod am bar- hau i gymeryd dyddordeb yn yr efryd- wyr ar ol gadael yr Athrofa: nid ffar- welio a hwy am byth y foment ga3aw- "nt y Coleg, ond dylynai hwy i Athro- feydd eraill, neu i'w cartrefi, neu i'w meusydd llafur, ac i'w teuluoedd, ac os cyfarfyddai a hwynt mewn blvnyddoedd ar yr heol, neu y rheilffordd, neu rywle arall, tynai ei het a moes-vmgrymai iddynt fel pe byddent foneddigion penaf y wlad, ac ysgydwai law mewn dull nas Erallai neb arall wneyd, ac yna dechreu- ai holi am eu hynt, am eu meusydd llafur. am v wraig a'r plant, am y llyfr- au, am v bregeth, &c., nes y teimlid yn well am wythnosau wedi cael chwarter awr o'i gymdeithas. Bellach, huned yn dawel hyd foreu yr Adgyfodiad. a hawdd credu yr edrycha pf vn hardd a lion y boreu rhyfedd hwnw. Yn awr, wele y tri athraw oedd vn y Bala pan oeddwn yno-Dr. Lewis Edwards, Dr. Hugh Williams, a Dr. Ellis Edwards—tri o ddynion rhagorol, wedi eu galw ymaith, a lluaws o'r Xen ryd-efrvdwyr anwyl, a diau na bydd hen dref gysegndig v Bala byth yr un vn hollol i lawer o honom eto.
CINCINNATI, O.II
CINCINNATI, O. Gan W. Lloyd Hughes. I Y dydd o'r blaen, bu farw y Cymro dyddap- Thomas Owen, Red Bank, ger y ddinas hon. Yr oedd Mr. Owen yn ngwasanaeth y Pennsylvania Railroad am yr ysbaid o bymtheg mlynedd ar hugain. Genedigol oedd Thomas Owen o Tafolwern, Llanbrynmair, a gada- wodd i alaru ar ei ol dair merch, ac un yn Nghymru, gweinyddwyd yn y y ac ar lan y bedd gan Dr. M. O. Evans. Heddwch i'w lweh. Da oedd i ni ddeall fod Mr. John Evans, Covington, wedi gwella. Tra yn wael cafodd lythyr o'r hen gartref, Dinas Mawddwy, yn ei hysbysu am far- wolaeth ei frawd. Tebyg nad oes neb yn mysg y llu anferth o ddarllenwyr y "Drych" yn darllen mwy o'r clodwiw bapyr. Llawer a aberthai ar bob tywydd gwlaw neu hindda i gael y nieser o glywed ei weinidog, Dr. M. O. Evans, yn pregethu yn Gymraeg ar foreu Sul. Un arall o'r hen Gymry a fu dan afaelion llymion y grip oedd y Bardd Adda Jones, a cheisia hysbysu ei gy- feillion trwy y "Drych" ei fod yn rrvvella yn raddol. Tra yn wael cafodd bleser mawr yn darllen "Hynodion Hen Bregethwyr Cymru," yn nghyda Hanes Bywyd "Siencyn Penhydd." Arfaetha Adda fod yn un o'r beirdd ar y Maen Llog yn yr Eisteddfod fawr yn San Francisco; hefyd bydd ei gyfaill Mor- ris Evans. Bellevue, Ky., yn myned gydag Adda gan fod Morris hefyd yn dipyn o fardd ar y mesurau caeth. Genedigol yw Morris Evans o Llidiard- au yn agos i'r Bala. Os am hynafiaeth- wr ar ben ei hun Morr-s Evans yw hwnw, a'r unig amser y bydd ar ben ei ddigon ydyw pan y caiff hamdden ac Owen Jones yn eistedd ar yr hen gadair freichiau yn darllen y "Drych." Genedi- gol yw Owen Jones o "Old Conway" y lie y sonid gymaint am dano. Mr. David Griffiths (Dewi Ap Iago). Gweithio yn ddiarbed wnaeth yntau yn ngwyl fawr "Martha Washington." Un o hynodion Maesteg, D. C., yw Mr. Griffiths, ac y mae wedi arfer gwneyd ei oreu yn y cysylltiadau hyn er's dros haner cant o flynyddoedd yn hen gapel y Coleg ac eto yr un fath yn y capel newydd. Charley Evans oedd y diweddaf i gael ei hebrwng i'r gladdfa fawr yn Spring Grove; angeu heb drefn oedd hi yn ei hanes ef yn sicr, gan iddo gael ei dori i lawr yn anterth ei nerth tua haner cant oed, gan adael ei alaru ar ei ol fab a merch yn nghyd a'r fam. Torcalonus i'r eithaf oedd eu gweled ar ddydd yr Arslwydd yn wylo drcs yr un ag yr oedd yn eu caru mor fawr. Mab oed, Charley Evans i Mr. Evans, stair builder, ac un sydd yn hoff iawn o'r "Drych." Yr oedd Charley yn dal swydd dda yn y Custom House.
GOF YN EISIEU. I
GOF YN EISIEU. Lie da i of da, mewn ardal wledig, yn ymyl capel Cymraeg M. C. ac yn ymvl yssrol ddvddiol. Am bob manylion pell- ach, anfoner at D. G. Jones, Emerson, Iowa. Route 1.
Advertising
> YN AWR YN BAROD. Cantata "The Commandments" By Peter Edwards, Mus. Bac. Welsh & English Words Price 75c. nett. Conductors of Choral Societies send ing names of Choirs and addresses on or before Christmas, will receive a free copy. Postage, 10 c. Selling Agents: U. S. A., R. Morri- Williams, Box 256, Utica, N. Y; Wales: Stanlev Jones. Arcade. Newport, Mon.
MARWOLAETH MR. JOHN E.I HUGHES,…
MARWOLAETH MR. JOHN E. I HUGHES, PASSAIC, N. J. I Gan Gohebydd. Drwg genym gofnodi yr wythnos hon am farwolaeth y brawd caredig uchod. Gwyddom y bydd i laweroedd deimlo yn ofidus pan glywant am hyny. Mab oedd yr ymadawedig i'r diweddar Barchedig Edward J. Hughes, West Bangor, Pa. Ganwyd Mr. Hughes yn y lie uchod yn y flwyddyn 1853,. Symud- odd ei rieni i St. Clair, Pa., pan oedd gwrthrych yr ysgr)! lion yn lied ieuanc, ac oddi yno aethant drachefn i Wilkes- Barre, Pa., lie y cymerodd ei dad ofal bugeiliol o eglwys gyntaf y Methodist- iaid Calfinaidd yn y ddinas uchod. Pan yn ddeuddeg mlwydd oed, aeth i New York, lie y cafodd le i wasanaethu mewn vstordy, ac o dipyn i beth, cafodd ei godi o'r naill sefyllfa i'r llall, fel y daliai sefyllfa lied enillgar. Yr oedd yn ddyn ieuanc lied boblogaidd, ac yn cael ei hoffi yn fawr yn y cylch cym- deithasol gan bawb a'i' hadwaenai. Meddai ar dalent gerddorol uchel, ac ymhyfrydai yn mhob math o gerddor- iaeth uwchraddol. Ac yn wir, cofiaf am un yn sylwi y byddai llawer un yn manteisio ar ei ysbryd caredig ac ar ei !ogell hefyd. Nid oedd yntau mwy na llawer eraill, heb fod yn agored i dem- tasiynau fel sydd yn amgylchu pobl ieuainc mewn dinas fawr. Yn y cyf- wng hwn ar ei fywyd, cawn ef yn ym- briodi a gweddw ieuanc, merch i Mr. Llewelyn. Bu i'r cysylltiad hwn droi yn wir fendithiol iddo, canys yr oedd ei wraig yn ddynes wir grefyddol. Yr oedd ei ffydd hi mor gref, fel y credai y y gallai enill ei gwr yn ol i'w le yn yr eglwys. Yn yr adeg yna, tuag wyth mlynedd ar hugain yn ol, daeth yr efen- gylydd enwog Mr. Chapman i Passaic; ac o dan ei weinidbgaeth ef cafodd droedigaeth fu yn wir fendithiol iddo ef a'i deulu. Daeth yn aelod y pryd hyny yn y First Methodist Episcopal Church yn Passaic. 0 hyny allan, bu yn weith- gar iawn yn mhob cylch perthTnol i'r eglwys. Yr oedd yn aelod ffyddlon yn yr Ysgol Sul. Efe fyddai yn darparu gwersi yr Ysgol Sul ar y board am rai blynvddau; ac ni wyddom am neb allai wneyd y gwaith mor ddestlus ag ef. Yr oedd hefvd yn aelod o'r official board perthynol i'r eglwys. Yr oedd yn aelod hefyd o gor yr eglwys, yr hwn o dan ar- weiniad Mr. Flower sydd yn gredit i'r eglwys. Felly, gwelwch fod amser ein brawd yn cael ei gymeryd 'i fyny yn llwyr gyda phethau crefyddol; ac nid oedd dim yn ormod ganddo i'w wneyd yn y cyfeiriad hwnw, tra y parodd ei nerth i'w gynal. Nid ydyin yn gwybod am un teulu yn fwy hapus na theulu bychan y brawd hwn. Ond daeth profedigaethau i gwrdd a'r teulu blynyddau diwedd- af hyn. Cymerwyd Howard, ei fab, yn glaf tua phymtheg mis yn ol gan y dar- fodedigaeth, ac anfonwyd ef i Saranac Lake. Bu ei fam yno gydag ef am yn agos i flwyddyn, heb iddo dderbyn dim gwellhad, pryd y gorfu iddi ei ddwyn adref, beD fawr obaith am adferiad. Bu hyn yn ergyd trwm i'w dad; canys yr oedd y ddau wedi ymglymu yn ei serch y naill at y Hall, fel yr oedd yn an- hawdd iddo ei ddal pe heb fod yn y sefyllfa yr oedd ynddo. Er fod Mr. Hughes wedi myned y tu allan i'r cylch Cymreig pan aeth i fyw i Passaic, eto cadwai ei ddyddordeb Yjl mhob peth Cymreig; canys yr oedd yn ddarllenwr cyson o'r "Drych," a mynai glywed pob pregethwr o nod a ddelai drosodd o Gymru. Pan glywodd yn ddi- weddar am y Jubili haner-can-mlwyddol sydd i'w chynal yn eglwys y Methodist- iaid Calfinaidd yn Wilkes-Barre yn mis Mai nesaf, dywedai y carai yn fawr pe gallai fod yno yn ystod y cyfarfodydd hyny, ond nid hyny oedd trefn Rhaglun- iaeth. Bu farw y 25ain o Fawrth, a chladdwyd ef y Sul canlynol yn myh- went Cedar Lawn. Gwasanaethwyd gan y gweinidog, y Parchedig Mr. Turner yn y ty, a gwnaeth sylwadau pwrpasol iawn ar y geiriau hyny- "Bendigedig yw y rhai hyny sydd yn marw yn yr Arglwydd." Ni chenid yn y ty, o herwydd sefyllfa isel y mab fel y sylwyd eisoes, er fod rhaglen arbenig wedi ei darparu gan y cor. Cynaflwyd y gwasanaeth hwnw yn yr addoldy per- thynol i'r eglwys. Yr elorgludwyr oedd- ynt bedwar nai iddo, sef Arthur, Llew- elyn, a Stanley S. Williams, ac Edward J. Hughes, o Wilkes-Barre, Pa. Daeth tyrfa luosog yn nghyd ddydd yr an- gladd. Chwith iawn genym am ei golli. Go- beithio y caiff ei weddw nerth i ddal o dtin y brofedigaeth chwerw; canys y mae wedi myned drwy amryw brofedig- aethau chwerwon y blynyddau diwedd- af hyn. Collodd chwaer, ac wedi hyny fam oedranus, Mrs. Llewelyn. Rhodded Duw nerth iddi i ddal o dan y brofedig- aeth. Yr oedd bywyd ein diweddar frawd yn fywya llawn o waith. Da fyddai pe byddai ein pobl ieuainc yn ei efelychu yn hyny. Heddwch i'w lwch.
Advertising
[, ('. _'4'j'.d ;i'tij ..=1r.j .u íiIN' CALIFORNIA 1 EXPOSITIONS I $90.90 j Round Trip via Choice of Routes going or returning An your questfons rladly answore& j I Call at any of oar oinces or address General Aiant, NtwYwfc Central LinM, Albany, N.Y.
SPOKANE, WASH.
SPOKANE, WASH. Marwolaeth y lienor a'r bardd, Mr- John J. Davies (Manodfab). Gan Gwilym Ddu o Went. Bu farw Mawrth 9fed ar ol cystudd tua mis o amser, ac yn unol a chais Dr. G. W. Roberts, awd ag ef i St. Luke Hospital, ac wedi bod yno am tua wyth- nos, nid oedd yn hoffi bod yno, ei gaeth- iwo i drefn y sefydliad, felly daeth adref, ac wedi dod gartref, cafodd am- ser caled. Y boreu uchod aeth Mr. R. T. Roberts, cymydog drws nesaf, ato i ymweled ag ef, a phan ar fedr siarad ag ef, bu farw ar amrantiad. Yr oedd John yn un hynod gyfeillgar a phawb o bob cenedl yn ei gyfarch pan yn cerdded heolydd Spokane. Carai gydwybod ddi- rwystr yn ei rodiad cyffredin. Bu gyda ni yn ffyddlon yn yr Ysgol Sabbothol am flynyddau, a phan awd oddi amgylch i gasglu at brynu lot at godi y capel new- ydd, cyfranodd 100 doler, eto rywsut nid oedd yn dylyn yr achos Cymreig, ond yn myned gyda'r wraig at yr Am- ericaniaid. Treuliais llawer o oriau di- fyr yn ei gwmni, ac yr oedd yn hoff o adrodd llawer o ddarnau oedd wedi ei dysgu i'w adrodd mewn cyfarfodydd llenyddol. Yr oedd yn hoff o adrodd en- glynion; un a adroddai am Huw Llwyd yr hwn oedd wedi bod yn Ffrainc am gryn amser, ac wedi bod yn filwr ac yn fardd da. Dyma englyn o'i waith wedi teithio amryw wledydd: Yn Ffrainc yfais yn ffraeth-win lliw- Yn Lloegr cawl odiaeth; (gar Yn Holland 'menyn helaeth, Yn Nghymru, llymru a llaeth. Dipyn o beth ydyw cael dau o'r un chwaeth; fel hyny, fe allai fy mod yn teimlo mwy wrth ei golli na neb arall. Lied brin ydyw y llenorion yma at beth ydynt mewn lleoedd eraill lie yr wyf wedi bod yn aros trwy America ar fy nhaith. Adroddodd englyn arall i mi o waith Eben Fardd, pan ar ymwel- iad a chwarelau Ffestiniog, ac wrth swn adsain y chwarel: 0 ben y fan a dybia un fod-y mellt Yn hollti holl waelod, A therfysg heb byth ddarfod, 0 ryw fan dwfn ar fin dod. Adroddai englyn arall o waith Arch- ddiacon Prys, yr hwn fu yn Rheithor Ffestiniog, ar gladdedigaeth Huw Llwyd gwnaeth englyn iddo: Pen campau doniau a dynwyd—o'n tir Maentwrog ysbeiliwyd; Ni chleddir ac ni chladdwyd Fyth i'w llawr mo fath Huw Llwyd. Ganwyd Manodfab 59 o flynyddau yn 01 yn Ffestiniog, mewn lie y cymerodd ei ffugenw Manodfab oddiwrtho. Deall- wyf fod yno Manod Mawr a Manod Bach. Claddwyd ef Sul, 14, ac oedwyd ei gladdu nes i'w nith gyraedd yma o Los Angeles, Calif. Pregethwyd yn eg- lwys yr Undertaker, Mr. Turnbull, gan weinidog yr M. E. Church, Dr. Short, "Yr wyf fi yn myned i barotoi lie 1 chwi" yn bwrpasol. Ar y diwedd rhodd- odd y Parch. D. K. Roberts benill Cym- raeg allan, "Yn y dyfroedd mawr a'r tonau." Canwyd fel arfer gan barti hefyd. Daeth tyrfa o Gymry yn nghyd ac Americaniaid. Claddwyd yn Green Wood Cemetery, pryd y gwasanaethwyd gan D. K. Roberts yn deimladwy. Gwel- ais y Parch. Jonathan Edwards yn y dorf. Claddwyd brawd i Manodfab flynydd- au yn ol yn y Big Bend, ac y mae brawd a nai iddo yn byw yn Racine, Wisconsin, lie y bu John flynyddau pan ddaeth i'r wlad. Bu tua dwy flynedd yn Utah cyn dod yma. Yn ol y deallwyf fod gan y wraig sydd yn galaru ar ei ol fodd i'w chadw yn gysurus. Nid oes dim plant. Fe welodd yr Arglwydd yn dda ei gymeryd o'i gystudd caled, a'i farwolaeth dra annysgwyliadwy a wnaeth y symudiad i mi yn drallod gan i mi colli cyfaill da. Tywyllion yw troion rhagluniaeth, I ni yn y fuchedd sy'n awr; Ond cofiwn oruchel lywodraeth, Rheolwr y nefoedd a'r llawr; Dysgwyliwn am ras a chysuron, Mae'r holl addewidion yn wir; Daw dydd i ddadguddio dirgelion Yr amser presenol cyn hir.
Advertising
W. Rhys-Herbert's Most Important ilusical Compositions Sacred Cantatas Bethany-For soli and chorus of mixed voices. Book by Wm. ApMadoc $1.00 In Solfa .50 The Nazarene-For soli and chorus of mixed voices. Book by Wm.' Ap- Madoc$1.00 Bethlehem-For soli and chorus of mixed voices. Book by Wm. Ap Madoc$1.00 OPERETTAS For Amateur Organisations. For Adult Voices. Sylvia In two acts. For mixed voices$1.00 A Nautical Knot-In two acts. For mixed voices $1.00 Bulbul In two acts. For mixed voices $1.00 The Bo'sn's Bride-In two acts. For mixed voices$1.00 Captain Van der Hum-In two acts. For male voices $1.00 The Wild Rose-In two acts. For ladies voices .75 For Juvenile Voices In a Flower Garden—In two acts..75 Eisteddfodau Committees and direc- tors of Choral and other societies will be accommodated with sample copies of choruses, etc., for purpose of making up program. Request our complete catalog of Part-Songs for Juvenile, Male, Ladies' and Mixed Voices. J. Fischer & Bri., New York 7 8,10 and I! Bibis House, (Aster Place Sole agents for Stainer &. Bell (Lon- don) and Year Book Press (London) editions. Cynyg Rhagorol Gan Gwmni Te y Brenin. Ffordd Esmwyth i Gynorthwyo i Anfon Dilladau, Menygt &c., i'r Milwyr Cymreig. Y mae yn awr yn bosibl cynorthwyo mewn ffordd hollol ddi-gost i chwi i an- fon dilladau cynes, menyg a hosanau ag y mae milwyr Cymreig mewn angen am danynt. > Hyd rybudd, pellach, yr ydym yn bar- od i roi 10c. ar ibbb doler a dderbynir oddiwrth archebion gyda'r Parcel Post am De y Brenin a'r Brookdale Ceylon tue-gat brynu y nwyddau angenrheidiol. Drwy brynu eich te yma yr ydych hefyd yn cynorthwyo i leddfu gofid rhyw filwr Cymreig. Gan fod y pris yr un ag a delid yn flaenorol, ni ohyst ddim i chwi i gy- northwyo yn yr 8.0hos teilwng hwn. Uner mewn cwmwd ueillduol ac anfon- er am ciiwfr' pwys, a gellir felly brynu par o socks gwlan i filwr. An 55c. y pwys anfonir dau bwys neu ychwaneg o De y Brenin neu Bro-okdale Ceylon, i bellder o fil o filldiroedd. Os dros fil, mae y pris yn 60c. y pwys. An- fener Money Orders. Ni wnawn lanw archehion o leoedd lie mae dosbarthwyr i'r Te; pryner gan- ddynt hwy. G. T. MATTHEWS & CO. 93 Water St., NEW YORK CITY, N. Y. INTERNATIONAL EXPOSITION EISTEDDFOD SAN FRANCISCO 1915 MUSICAL ADJUDICATORS ERNEST R. KROEGER, Esquire, St. Louis, Mo. E. D. LLOYD, Esquire (R.A.M., Lon- don), South Bend, Ind. H Ehl RY HOUSELEY, Esquire, Denver, Colo. DAVID DAVIS, Esquire, Cincinnati, Ohio. REDFERN MASON, Esquire, San Fran- cisco, Cal. In all of the choral competitions, each jury shall be composed of five members. OFFICIAL PRELIMINARY PROGRAM Subjects, Prizes, Adjudicators, Condi- tions, etc., now ready. Send for it, enclosing 2-cent stamp for postage. Address, W. SOLOMON JONES, Gen. Secretary 1915 Eisteddfod, Exposition Building, San Francisco, Cal. Persons residing in the Eastern States may procure copies from R. MORRIS WILLIAMS, Box 25C, Utica, N. Y. LIVERPOOL. J* H* Lewis & Co, PASSENGER AID RAILROAD AGTS. 21 Water St., Liverpooi liydd Mr. Lewljs yn cyfarfcd r ilong yn y Landing Stage, ond eaed tJ'l; 7B mlaen Ha.w. Rhodda gynerttn' gyda baggage, ac a.rb6dir haEmJ. 1 vk-v,: ayr drwy en hebrwng i'r oisilf, ?', ?. ?etjKr nwyddau a baggag6, &c p. ? awyddau, dodrefc, a p?&ra<-?' o :)" iiiath i bob rhan o'r byd. Codir Toeynau pob dos-b^th (lid, 2i, a 3ydd) gyda'r prif hnellau o anri-^v jorthladd. Tocynau Mor A tlheilUcidd 1 ben y daith Pob cv&urc a ckyngor yn rhad. Mae Mr. I..ewis yn eaedlgol o Bl*,«a& L?fct<tiniog a.c yn Gyanro pur, U y1. Lerpwl or's 2ft miyn&dd. Line and Halftone euts For all Printing purposes. Let urs get you up a design for the heading of yotir ousiness stationery. Pen dl aketch fiaratehed fret of charge. Don't you want a cut of yourself ? Write for prices and samples, Thomas J. Griffiths, frftlNTBR AMD PVGljmm Hotel and Liberty Stress UTICA, N. Y. FARMS FOR SALE. Now is the time to select Improved Farms in Manitoba, Saskatchewan and Alberta. We have large listings. 320 acres in the Welsh Colony at snap price, only four miles from Bangor, Sask.; 120 acres cultivated. All en- quiries will receive prompt attention. MORSE &. JONES, 201 McGreevy Block, Winnipeg, Can. MISSING RELATIVES. DANIEL WARREN, native of Culm- stock, Devonshire, England, his wife Dorothy Meredith, native of Wales. When last heard from them by letter 1852 from Merspurt, Pennsylvania, U. S. A. At that time they had one child, a boy eight months old, named Benjamin. If Benjamin is now alive or anyone connected with Daniel Warren family on his side or his wife family Meredith, Daniel Warren's niece would be glad of any information from them. Formerly Pursey, now Mrs. Gilbert, 7 Minian Street, Treherbert, Glamorganshire, Wales, G. B. Musical Eisteddfod To be Held at The Slate Belt Park, Bangor, Pen Argyl, Pa., June 1st, 1915 UNDER THE AUSPICES OF THE SLATE BELT ELECTRIC STREET RAILWAY CO. ADJUDICATOR-PROF. E. D. LLOYD, (Medallist R. A. M., London, Eng.), South Bend. Ind. PROGRAMME. Male Chorus (not less than 20 or more than 25 voices) "The Spartan Heroes," by Dr. D. Prctheroe. Prize $75. 2. Glee Mixed Voices (not less than 35 or more than 40 voices) "Now By Day's Retiring Langs," by Henry R. Bishop. Prize $75. 3. Church Choir (not less than 18 or over 25 voices)- (A) "0 God The Rock of Ages," ar- ranged by F. M. S. King.) (B) "All Thy Works," by H. W. Porter. Lorenz Pub. Prize: $35. 4. Mixed Octet -"My Bonnie Lass She Smileth," by G. B. Nevins, Ditson, Ed. Prize: $20. 5-Male Octet—"Come Ye Discon- solate," by Peter Edwards, Mus. Bac. Welsh or English words. Peter Ed- wards, Pub. Hamil, S. D. Prize, $20.. G.-Mixed Quartet—"Into the Woods My Master Went," by Dr. D. Protheroe. Ganbel Hinged Music Co., Pub. Chicago, Ill. Prize: $15. 7. Male Quartet "When the Corn i3 Waving," by Dudley Buck. Ditson, Ed. Prize: $15. 8. Trio. (Soprano, Tenor and Bass) —"God be Merciful," by Dr. Joseph Parry, D. C. Evans, Ed. Prize: $12. 9. Duet. (Tenor and Bass) "Ex- celsior" by Balfe. Prize: $10. 10. Duet. (Soprano and Alto)_"I Waited for the Lord," Mendelssohn. Prize, $10. 11. Soprano Solo, 'Waiting," by Harrison Millard. Prize: $r.00. 12. Contralto Solo—"Lead Kindly Light;" by Dr. Lewis Watkins. Prize: $5. 13. Tenor Solo—"The Sailors Grave" by A. Sullivan. Ditson, Ed. Prize, $5. 14. Baritone Solo—"The Watcher" by A. Geibel, Prize, $5. 15. Challenge Solo to be selected by the competitor. Prize, $5. 16. Children's Solo (Under 16 years of age) —"Dreamland," by Dox Cruger, Cruger Ed. 1st Prize, $2; 2nd Prize, $1. 17. Recitation, (Adults.) "The Old Man Goes to Town," by J. G. Swinner- ton. Prize, $5. 18. Recitation for Children Under 16 years of age. "Joe" by Alice Rob- bins. 1st Prize, $2; 2nd Prize, $1. INSTRUMENTAL. 19. Band-Selection, "Nebuchad- nezzar," by Verdi. Carl Fischer, Ed. Prize: $100. 20. Orchestra Selection—"Prince Royal Overture," by Geo. D. Bernard. C. L* Barnhouse, Pub. Not less than lo. pieces or more than 15. Prize $25. 21. Cornet Solo, with Piano Acco., —"Concert Polka Acquarelle," by T. V. Short. H. W. White, Pub. Prize, $5. 22. Clarionet Solo, with Piano Acc., —"Regreto d'Amor Romanco," by W. W. Bright. Solo for Bb Clarinet, C. Fischer, Edition. Prize, $5. 23. Violin Solo, with Piano Acc. "Cavatina," Grade C-2, by J. Raff, C. Fischer, Ed. Prize: $5. 24. Piano Solo—"Valse Entrainar- ete," by Wachs, for competition under 16 years of age. Ditson, Ed. Prize. $5. RCLES AND CONDITIONS. 1. The names of competitors on all numbers must be in the hands of the secretary on or before May 20, 1915. 2. Competitors may send original or non-de-plume name. 3. All competitors have the privi- lege of furnishing their own accom- panist or avail themselves of the of- ficial accompanist. 4. Preliminaries will be held on quartettes, duetts, solos, recitations and instrumental solos if necessary. 5. Merit only will be considered in Amateur Bands only will be allowed there be no competition on Band num held. This rule also applies to the G awarding prizes. Adjudicators are au- thorized to divide or withhold the same. 6. Decisions of adjudicators in all cases shall be final. 7. No person shall be allowed to compete on more than one of the solos excepting No. 15. 8. Any grievance occurring, the same must be reduced to writing and handed to the secretary. 9. All music can be had at Chris- tine's Music store, Broadway, Bangor. to compete in this competition. Should ber, one half of the Prize will be with- lee for Mixed Voices and Male Chorus. WM. R. DAVIE S (Gwilym Glan Coowy), Sec., 239 N. 7th St., Bangor, Pa. War News and War Pictures! War News' and War Pictures! V.SEE THE "CAMBRIAN" The Illustrated Welsh-American Magazine. Exclusive Welsh News of the War not to be found in other Mag- §I azines or Periodicals. Pictures from the FiringLine; the Best published in America. What is going on in Wales during the War. Write today for a sample copy. ISSUED EVERY TWO WEEKS. Price 5 cents a copy, or $1.00 a year. To Subscribers of the "Drych," 50 cents. Thos. J. Griffiths, "Drych" and "Cambrian" UTICA, N. Y.