Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

r O'R TWR. '

News
Cite
Share

r O'R TWR. I Golygfa Waharddol. Gan Sylvetus. IV. Dyma ddiwinod hyfryd, clir k di- gwmwl, manteisiol i weled yn mhell o'r "Twr." Gwelwn oreuon ein gwlad wedi cael golwg glir ar ddyfodol y fasnach feddwol; dacw hi wedi ei chlwyfo! ac yn prysuro i dynu ei thraed i'r gwely i farw yn yr U. D.! Dyma'r hanes-ddaw o'n cylchgronau a'n newyddiaduron ac ychydig ydyw ei phleidwyr ar lwyfanau cyhoeddusrwydd, o herwydd mae'r wlad o'r Werydd i'r Tawelog yn brysur ddod i wybod mai masnach annheg ydyw. Byddai y diweddar J. R. o Lanbryn- mair, yn ymresymu yn gryf yn erbyn y fasnach hon pan oedd y pwnc o ddir- west yn dechreu dod i sylw yn Nghym- ru. Dangosai yr annhegwch gwrthun ydoedd i lywodraeth wladol roddi trwydded i werthu y ddiod feddwol, tra y ceid yr un llywodraeth yn cosbi dyn- ion am ei defnyddio a'i gwerthu—llyw- odraethau yn rhoddi achos i'r deiliaid ddod i gyffyrddiad a'r hyn oedd yn peri iddi .eu cosbi. Mwyaf a feddyliwn am ei sylw, daw mwy o ffolineb y llywodr- aethau i'r amlwg. Arferai yr hen Ddaf- ydd Dafis o Gowarch, ddweyd, "y gellir rhoddi hyny o ddaioni sydd yn yr hudol- es felen mewn plisgyn wy, ond ni ellwch stwffio ei drygioni i Gwm Cowarch," meddai. Rhyfeddwn ninau yn y mis- oedd hyn am y difrod ofnadwy wneir drwy y rhyfel ar fywydau ein cyd-ddyn- ion; saif y byd gwareiddiedig i edrych ar fywydau yn syrthio ar faes y gwaed, tra yr ydym wedi bod am flynyddau melthion megys rhai yn cysgu uwch mater y ddiod sydd wedi, ac yn lladd ei myrddiynau a'u gyru i feddau an- mharod. Gwelwn brif wledydd y byd yn deffro i wahardd ymarferiad o a gwerthiant y diodydd hyn. Dacw Rwsia fawr wedi eu cau o'i therfynau, Ffrainc i raddau pell felly, a Germani yn eu gwahardd o'r fyddin, a Japan yn dechreu ymysg- wyd. Ond yn lie mae Prydain? Sonir am Brydain feddw! Nid yw hi wedi bod fwy yn y camwedd na'i chymydog- esau. Ond ai tybed y bydd yn y dyfodol yn fwy felly? Gobeithiwn na fydd. Gwel- wn yr anwyl D. Lloyd George yn de- chreu codi cynwrf yn ngwersyll y fas- nach, bydd iddo dderbyn adgyfnerthion cryfion, a dyma gyfle i Brydain daro, a chredwn y daw yn erbyn y fasnach hon a llaw gref. Mae ein gwlad ninau wedi deffro o'i chwsg, a byddin sobrwydd yn myned gryfach, gryfach, bob mis. Gwelwn fod ddiweddaf. Neu ag arfer gair y tadau --Anffyddiaeth Germani. Mae effeithiau hyn i'w weled yn ym- ddygiadau y milwyr yn y rhyfel ofnad- wy hwn. Maent yn hollol ddibris o fywydau dynol. Yn y frwydr forawl yn ddiweddar, ger ynysoedd Falkland, cyf- arfu pump Hong ryfel Germani ag wyth o rai Prydain- Gorchymynodd y mor-

Advertising

YMOFYNIAD AGORED: "Y DUW-I…

RHAI 0 HEN GYMERIADAU PENMACHNO.

I Y DIWEDDAR D. R. JONES,…

Al ANFFYDDIAETH YW YR ACHOS…