Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
16 articles on this Page
Advertising
t.r;a.h" :& 4. 'Io"l' OI¿D l\110THER 8 OWL says: I Washing-day now is a very I different affair to what it I 1 used to be. I t used to take | all day, and the worry and | flurry were really awful. I But with OMO everything 1 I is finished off in the morning, I and there's no trouble at all. I a Just ha!f-an-hour*s boiling in 14 [ I OMO and water and haif-an- I | hour's further soaking completes \\i) i g a the wash- k^u/u\ I I It's the modern lV M | washer for all vv ji I White things." OMO IS MADE BY I HUDSON'S—A NAME FAMOUS IN EVERY HOME. IT REPRE- SENTS ALL THE SKILL AND EXPERI- ENCE OF YEARS OF SOAP-MAKING, AND IS SOLD IN id. & 3d. riN PACKETS. O.S. 17
Y JOURNAL' YN GAN MLWYDD OED
Y JOURNAL' YN GAN MLWYDD OED Hysbysasoch yn eich rhifyn pa ddydd y byddai unrhyw fanylion am yr hen newyddiadur (adna- byddua i ni blant Sir Gaer) yn ddyddorol. Wrth edrych dros hen lyfrau yn fy llyfrgell pa foreu, gwelais y cyfeiriadau canlynol at y CARMARTHEN JOURNAL. Mewn hen gyhoeddiad misol o'r enw "Tarian Rhyddid" am Chwefror, 1839, tudalen 31, yr ydym yn gweled yr ysgrifen ganlynol am "gyrt- iau" yr esgob, fel y geilw yr ysgrifenydd hwynt:— "Vylid ei chwalu yn fwy llwyr nag y chwalwyd y Monachod yn amser Harri yr Wythfed. Pan y mae y fath ymdrech i roddi puteindai a lladron-dai i Jawr, ni ddylid anghofio cyrtiau yr eagob. Sylwed darllenwyr y 'Darian' mai person oedd barnwr y Ilys esgobol, yn mha un y dedfrydwyd John James a David Jones. Y person hwnw yn olygydd y CARMARTHEN JOURNAL, a'r papyr hwnw yn mhlith y I rhai mwyaf Toriaidd yn y deyrnas." Dyna farn "Tarian Rhyddid" am y JOURNAL yn 1839, ac y mae yr ysgrifen wr yn raeol. Yn yr hen amser yr oedd yr hen amaethwyr yn y wlad yn gosod eu meibion a'u merched i ddarllen y CARMARTHEN JOURNAL bob yn ail, er mwyn dysgu Seisneg. Yr oedd y syniad mai o Gaerfyrddin y delai y Seisneg puraf, gwell na Seisneg Lloegr o lawer. Yr oedd cewri yn yr iaith yn Nghaerfyrddin yn yr amser hwnw hefyd. Mewn ysgrif gan y diweddar Kilsby Jcnes, "Ei ad- -gofion pan yn hogyn am YEgol Neuadd-lwyd," mewn hen rifyn o'r "Adolygydd," os wyf yn cofio yn gywir, y mae cyfeiriad at y CARMARTHEN JOURNAL. Yr oedd prydnawn dydd Iau yn cael ei dreulio i ddarllen Seisneg, a'r papyr oedd gan yr hen Ddoctor Phillips iddynt i ddarlien yn ddieithriad oedd y JOURNAL yn athrofa y Neuadd-lwyd. Cofiaf am hen fiermwr Cymroaidd flynyddau yn ol yn dweyd wrthyf :Y JOURNAL," meddai, "yw fy mhapyt i, ond dyna sydd yn nafu'r JOAL (fel y galwai ef y newyddiadur). Seisneg yw ef fwyaf; ond chwareu teg iddynt, y mae ganddynt un ddalen Gymreig yn awr, ao y mae hono yn 'rhonden' o ddalen hefyd, yn llawn newyddion gwerthfawr bob wythnoa."— T. R. D.
DEWI HEFIN
DEWI HEFIN Yn y Cnap Sych, yn Mhlwyf Llanwenog, y gwel- odd Dewi Hefin oleuni dydd gyntaf, a hyny ar y 4ydd dydd o Fehefin, 1828. Yr oedd felly yn nesu at ei bedwar ugain ac un pan dynodd ei anadl olaf, ar y 9fed o Fawrth, 19C9, yn y Glaslwyn, yn mhen- tref y Cribyn, Llanfihangel Ystrad. Cyn bod Dewi uwchlaw dwyflwydd oed cawn i'w rieni symud i fyw o'r Cnap Sych i Ben Lon, yn agos i'r Cribyn: ac yma y treuliodd y bachgen flynyddau bore ei oes. 0 du ei fam hanai o Lwydiaid Llanwenog, y rhai a ffurfient gangen o Lwydiaid enwog Castell Hywel, a olrheinir yn ol i'r ddeuddegfed ganrif. Yr oedd mwy nag nn o'r Llwydiaid yma yn feirdd o nod yn eu dydd. Cyfeirir gan Rhys Jones, yn ei "Grwth Dyffryn Clettwr" at ddau o honynt:- If an IJwyd a fu'n Jledu Aur yn goeth i'r Awen gu A ganodd yn mro Gwenog Werdd, fawl, a'i gerdd fel v gog. Eto— Auraiddwych fardd a roddwyd I fedd llawr oedd Dafydd Llwyd. Dyma'r cyff yr hanai Dewi Hefin o hono; ac yr oedd Pen Lon, ei gartref, bron wrth borth y Maes New- ydd, preewylfod y prif-fardd enwog Daniel Ddu o Geredigion. Yr oedd Daniel Ddu yn wr o hamdden, yn dda arno am bethau'r byd, yn ysgolhaig gwych, wedi bod trwy Rydychen,—yn Gymrawd o Goleg Iesu; ac, er yn offeiriad o ran dygiad i fyny. eto heb erioed gymeryd urddau. Yr oedd ganddo, felly, bob mantais i ddilyn gogwydd ei dueddiadau at Lenydd- iaeth a physgota. Dywedir fod Dewi ieuanc yn dipyn o ffefryn gvda'r cymydog enwog hwn; a hawdd, dan amgylchiadau mor naturiol, oedd iddo gymeryd ar ol ei hynafiaid a chofleidio'r Awen. Nis gwyddom pa mor gynar y dechreuodd fydru; on.d sicr yw ei fod yn feistr ar reolau cerdd dafod yn bur ieuanc. Yr oedd yn ddeunaw mhvydd oed pan fu farw Daniel Ddu, ac wedi anadlu yn helaeth o awyr "Gwinllan y Bardd." Hefyd, yr oedd y son clodfawr am Reuben Brydydd y Coed, bardd ieuanc talentog arall o ardal y Cribyn a doresid i lawr rai blynyddau cyn hyn, yn sicr o fod yn symbyliad cryf i fachgenyn darllengar fel David Thomas i droi ei fcddwl at farddoniaeth a chan. Yn y ganrif ddiweddaf byddai gweinidogion yr Efengyl (yr Undodiaid, gan mwyaf) yn cadw ysgol yn gystal a phregethu; a phan yr oedd gwrthrych y nodiadau byn wedi d'od i oedran i gychwvn ei yrfa mewn ysgol yr oedd y Parch. Rees Davies yn weinidog yn Nghapel y Groes a Rhydygwin, ac yn cadw yegol yn y Cribyn: ac i ysgol Rees Davies y danfonwyd David Thomas yn bur fore yn ei fywyd. Yma cafodd yn gydvsgolor y Parch. Thomas Thomas, M.A., gweinidog Pant y Defaid a Chapel y Groes mewn blynyddau diweddarach: a bu'r cvfeill- garwch a ffurfiwyd rhyngddynt pan yn fechgyn ysgol v Cribyn yn un a barhaodd hyd eu tranc. Ni chaf- odd Dewi Hefin ddim o'r perh elwir (a gamelwir yn ami, vsywaeth) yn addysg uwchraddol: dim ond yr addysg dda drwvadl, ac effeithiol. a gyfrenid gan y Parch. Rees Davies yn mhentref y Cribyn. Heb- law hyn, ni bu mewn dim ysgol ond am amser byr, a hyny o dan un Evan Lewis, a ddaeth ar ol hyny yn weinidog gyda'r Undodiaid yn Morganwg. Ond yr oedd ysgol y Parch. Rees Davies, yr hon a ystyrid gyda'r oreu yn y sir, wedi rhoddi y fath gychwyniad da i'r bachgen ieuanc fel trwy ddyfal barhau mewn hunan-ddiwylliant y daeth David Thomas ei hun yn fuan i ragori fel ysgolhaig, yn neillduol mewn Rhifyddiaeth a Llaw-ysgrifen.- ("Granellian," yng "Ngheainen Gwyl Dewi," cy- hoeddiad cenedlaethol, Caernarfon.)
. NODION 0 ABE RGWILI
NODION 0 ABE RGWILI Chwefror a'n gadawodd, ac a aeth ymaith i'w le ei hun, ond bydd ei argraff yn weladwy ac mewn cof am genedlaethau i ddyfod, am y digwyddiadau a gymerodd le ar dir, mor, a'r ffurfafen. Y mae wedi ysgrifenu oofiant iddo ei hun ar galon lawer i fam, ar enw llawer i blentyn yn y llwch yn ngwaelod y mor, ar lygad y seryddwr, ac ar feddwl y doeth a'r deallus. Bydd y gair "Chwefror" lwv yn ysgrifen- edig ar faen lawer i fedd. Gobenydd o ofid ydoedd-i lu Wyth waedd a'r ugainfloedd, A'r don a ddeor adwedd Fwyn' Naf, gwel is y nefoedd, YR EISTEDDFOD GADEIRIOL a gynhaliwyd yn yr. ysgol ddyddiol, trwy ganiatad y Parch. T. Thomas, y ficer, ar y 3ydd o'r mis hwn, dan nawdd Pabell y Reohabiaid, a'r elw i fyned at sefydliad y gymdeithaa yn y He. Trodd yr hin allan yn ddymunol o'u tu, a thyrfaoedd lawer a ddaethant o bell ac agos. Y mae i'r gymdeithas hon amcan da, eef sicrhau sobrwydd yn y do ieuainc bresenol; ac o ganlyniad y bydd i'r oes nesaf i fod o ddefnydd neillduol er llanw gwahanol gylchoedd mewn gwasan- aeth, ac y mae y Parch, u. Williams yn haeddu canmoliaeth uchel am ei waith rhagorol ynglyn a'i sefydliad yma. Llywyddwyd gan Mr. Rees Davies, Caerfyrddin, ao arweiniwyd gan Mr. J. Lloyd, Y.H., Penybank. Ymaflodd Mr. T. Evans, Tanerdy, yn yr vsirrifbin ac aeth trwv ei waith vn ardderchoz. ac yn gofalu am y god yr oedd Mr. T. Jones, Rose Villa. Cyfeilyddwyd gan Miss M-n- Matthews, R.A.M., Dare Villa. Y beirniaid oeddvnt: Amryw- iaeth, y Parch. D. Penry Davies, Caerfyrdin, a'r gerddoriaeth, Mr. John Burry Pliillips, M.C.W., Burry Port; gwniadwaith. Mrs. Davies, Parkside. Gwobrwywyd y rhai canlynol:-Ain y "cushion cover," 1, Miss Davies, Catherine-street; yn ail, Miss Thomas, Red Cow, y ddwy o Gaerfyrddin; 3, Miss Maria Evans, Tanyrallt Cottage, Abergwili; ad- roddiad, dan 10 oed, Salm 23, Tommy Jones, Bryn- myrddin Cottage; eto, dan 12 oed, Salm 121, 1, Miss Maggie Williams Voelcwan; eto, dan 16 oed, "Pwysau Deigryn," 1 Miss Williams (Voelcwan), 2. Miss. Morris, Tabernacle-terrace; eto, i fechgyn dan 16 oed, "Y Bont ar Dan," 1, J. Davies, St. David's House, Abergwili; 2, Emrys Thomas. Parcwm-road, Caerfyrddin. Traethawd, D. Davies Crossing. Aber- gwili, "Lie Dirwest mewn Crefydd." AdroddIad agored, gwobr, cadair hardd, Miss Francis. Ystalv- fera. Solo dan 12 oed, "Arglwydd, dyma Fi," 1. Tom Pliillips, Llythyrdy, Felinwen; 2. Miss Davies, Tanyrallr, Nantgaredig; eto. i fercli dan 15 oed, "YQ Mreichiau fy Ngwaredwr," 1, Miss Davies, Tanyrallt; 2, Maggie Clarke, Caerlyrdum: eto, i fechgyn dan 15 oed, 1 Brinley Jones, Fountain Hall- terrace 2, Benjamin Jones, Cwmau Cottage, Aber- gwili; contralto, Miss H. J. Jones, Fountain Hall- tevrace, Caerfyrddin; soprano, "Darlun fy Main," Miss Evans, Bodarddu, Abergwili; baritone, "'Llew- elyn eto'n fyw," cyd-fuddugol, J. R. Jones a T. Davies, Sawmill-terrace, Caerfyrddin: bass, "Ar lan yr Iorddonen." Mr. J. Rees Jones, v. ross Hands; tenor, "Yr Hen Gerddor Mr. W. Morris, Bridge- street, Caerfyrddin; deuawd agored, 1, Mr. 1. Jeremy Rees a W. Morris, Caerfyrddi- pedwarawd, "Uygad y Dydd," Mr. W. Thomas. Glangwili Farm wythawd, "Sleep, gentle Lady," Mr. J. Evans, Bod- arddu, Abergwili; champion solo, Henry illianis (Ehodydd), Cross Hands; cor plant, "Hail, hail, merry, merry Christmas," 1, Abergwili, arweinydd, Mr. W. Thomas, Glangwili Farm. Parti meibion. "Ymdeithgan y Gorchfygwyr"; cafodd y gwahanol gorau y marciau canlynol: Llangendeirne, 42; Peny- groes, 50: Caerfyrddin, 47; felly gwelir mai Peny- groes oedd v laf, Mr: Sydney Morris. Y brif ddarn, "Nant a'r Blodeuyn," dau gor. sef Caerfyrddin, dan arwoiniad J. Lewis, ac Abergwili, dan arweiniad Mr. James Evans, a'r olaf gafodd y wobr. LLAXFIHANGEL-CWCHC\VILI. Cynhaliwyd cvngherdd fawreddog yn y lie uchod nos Wener, y 4ydd o'r mis yma, am 6.30 yn yr Itwyr. Llywyddwyd gan y Parch. T. Thomas, y ficer. -\1KV- gwili. Yr oedd hefyd yn bresenol y Parch. D. J. Evans, eurad. Aethpwyd drwy raglen faith o wa- hariol gyflawniadau mewn caniadau a chwareuon cerdd. Yr oedd yn un o'r goreuon a welwyd erioed yn y lie dangoswyd gofal a chywreinrwydd neillduol o'r dechreu i'r diwedd, yr hyn a roddodd anrhydedd nid bychan ar Miss Davies, y pen ysgol feistres, a dylai yr ardal fod yn barchus neillduol o honi am y fath aberth a wnaeth er ceisio dyrchafu lie di-nod i enwogrwydd. Aeth yr ysgolheigion uchaf dnlY eu gwaith yn ardderchog, sef "Three Daughtv Mpn," a "Hail," yn flasus dros ben. Yr oedd Mr. Lewis Jones, Plaspant, fel arferol, yn g-osod poh peth allan yn drefnus a rheolaidd; mewn gwirionedJ efe oedd asgwrn cefn y gwaith. Yr oedd y gwyryfon ar y llwyfan yn ddyddorol a deniadol iawn wrth osod allan mewn cyflawniad y prydnawnfwrdd te. Cyflawnwyd coeg chwareu, Dr Cro- akeno," yn rhagorol gan y boneddigion: Mri. J. Thomas, Rhydlydan; Hugh Rees, Cjvmynys; Brinley Davies, Werndrefi, a Mr. Gwesyn, y Godor. Cafwyd unawd gan Miss Mary Jones a Mr. Tom Harris, Penllwynau, a deuawd eto gan Miss Davies, Werndrefi; Miss Jones, Cwm- howell; Misses R. a L. Howells, Werndrefi Cottage; T. Jeremy, Careglys, a T. Harris, Penllwynau; trio gan Misses Howells a'u brawd. Cafwyd chwareu- gan, "Old Woman in a Shoe," a chyflawnodd pob un ei waith mor a'rddercliog, o'r lleiaf un i fyny at y frenhines, nes yr oedd yn anmhosibl i dynu y goreu allan o honynt. Cydnabyddwyd mewn modd arferol ddiolchgarwch gwresocaf i'r llywydd, Miss Davies, a Mr. Lewis Jones, a phawb ereill oedd wedi cymeryd rhan yn y gwaith. DYFFBYXOG.
. AT EIN GOHEBWYR
AT EIN GOHEBWYR EISTEDDFOD PONTYXYSWEN.— Danfonwyd i ni yr wythnos ddiweddaf hanes yr eisteddfod uchod. Yr oedd yr ysgrifenydd wedi ysgrifenu yr hanes a "lead pencil," a drwg genym ei hysbysu ein bod, yn nghyd a'r cyssodwyr, wedi methu yn lan a gwneyd allan ei vsgrifen. Da chwi, ohebwyr, ysgrifenwch eich llithiau yn eglur a dealladwy gydag inc. Nid yw ein cyssodwyr yn "hollwybodol," ac hefyd nad oes ganddynt "lygaid cathod." Yr y'm wedi oeisio y gymhwynas yma droion o weithiau cyn hyn. Drwg genym osod hanee yr uchod i'r fasged.-Y GOL. Drwg genym nas gallwn gyhoeddi yr wythnos yma y pennillion ar "Gwyl Dewi Sant." Cant ym- ddangos yn ein nesaf.
» !LLITH 0 LANAUR TEIFI
» LLITH 0 LANAUR TEIFI (Gan John J. Evans, Aberbanc). Tueddwn i ymfalchio cryn lawer yn ein newydd- iadur—Y JOURNAL—wrth feddwl am dano wedi d'od i derfyn canrif gyntaf ei fodolaeth, a'i dymun- iadau ydynt ar iddo weled llawer canrif arall o wasanaeth buddiol i siroedd Myrddin, Penfro, a Cheredigion. Mae un peth yn well ynddo yn awr na chan mlynedd yn ol; y mae wedi dyfod yn fwy o Gymro, a chwedl Watcyn Wyn mai mwy o fyn'd ynddo na feddylid ar y dechreu. Yn 1810, blwyddyn gyntaf y JOURNAL, nid oedd yr "Haul" wedi codi o LanymddyfFi, na'r Diwygiwr wedi d'od o Lanelli, a'r dull yr oedd newyddion yn cerdded o ardal i ardal oedd yn straeon a chaneuon yr hen feledwr gwledig. Sior III. oedd ar yr orsedd, ac oddiar hyny hyd yn awr mae pedwar arall wedi bod ar yr orsedd; felly mae y JOURNAL wedi bodoli dan bump teyrn. Yn 1810 yr oedd poblogaeth Lloegr a Chymru yn 9.944,851, a phris y gwenith y chwar- ter oedd 25 12s. Yn y flwyddyn yma y bu farw "Llwyd o Caio a, Twm o'r Nant." Ond i ddyfod yn nes gartref, gadewch i ni loffa peth o hanesion lleol. Rheithor Penboir oedd yr hyglodus Arch- ddiacon Beynon, un o hen gymwynaswyr mwyaf brwdfrydig Hen a chan yn Sir Gaerfyrddin. Enw ei gurad yma oedd John Williams, yr hwn hefyd oedd yn ficer Llandyfriog a rheithor Llanfair-tref- helygen. Yr oedd ei frawd yn offeiriad, ac yn byw yn Rhydhalen. Clywais y diweddar Dr. Rees, Bro- Rant, yn adrodd llawer stori ddifyr am dano. Yr oedd yn byw yn Llandyfriog, ac yn dyfod i bre- gethu i Penboir prydnawn y Sul. Yr oedd ganddo hen gaseg goch, am yr hon yr arferai ddweyd ei bod wedi cario'r Efengyl am ugain mlynedd. Yr oedd Dr. Rees a Ilanciau ereill un prydnawn Sul yn tynu cnau ar y coed, yn agos i'r Cross Road, a phwy ddaeth heibio yn sydyn ar ei daith i enboir ond Williams y ffeirad, ac wedi eu dal yr oedd y llanciau mewn ofn a phrydcr mawr. Fel hyn yn ofni ei chael yn ofnadwy, gallwch ddychmygu eu llawenydd pan waeddodd arnynt, 'ai, ati boys, am goreu i dynu y mwyaf-erbyn y deuaf yn ol o Penboir." Nid oedd un capel yn mhlwyf Penboir yr adeg yma. Enwau offeiriaid Llangeler oeddynt y Parch. Francis Simpson, B.D. (rheithor), a'r ficer cedd un David Morgan. Un o weinidogion Saron yr amser yma oedd y PrrJohn Bowen, mab y Parch. Owen Bowen, offeiriad Llangeler. Gweinidog Penrhiw oedd yr enwog Dafis Castell- hywel, a'i gyd-lafurwr David Griffiths o Lechryd. Y flwyddyn cyn hyny yr oedd hen gapel Drefach wedi ei adeiladu, ac yn yr un amser yr oedd eglwys Penboir wedi ei hadeiladu o'r newydd, a'r mur oddeutu'r fynwent. Yn y flwyddyn yma yr aeth John Phyllip Davies, mab i offeiriad Bangor Teifi, yn weinidog yn Sir Flint, ac efe oedd y Bedyddiwi cyntaf yno. Rhaid nad oedd manteision addysgawl yn uchel iawn yn yr ardaloedd yr adeg yma, ond er hyny yr oedd yr offeiriaid a'r boneddigion yn gwneyd eu goreu dros y tlodion. Gofalid am Llan gynllo gan y Parch. John Jones, yr hwn oedd yn ewythr i'r Parch. John Pryce Jones, noer cyntaf Castellnewydd-Emlyn. Rheithor Llanfair oedd un Thomas Pryce, yr hwn a gadwai Ysgol Ramarlpi" yn Nghaerfyrddin lie y derbyniodd y Parch. Enoch James, Llandyssul, mab y Llain, ei addysg. Oes cymeriadau gwreiddiol ydoedd yr adeg hyny, a thebyg fod eu cwmpeini yn ddyddorol iawn. Nid oedd son am y tren yn yr ardaloedd, a thebyg iawn fod Bwci Coed-y-Waen ac ysbrydion ardaloedd a phlwyfi yn eu nerth uchelaf. Nid oedd llythyr- gludydd i dd'od a neges i'ch drysau yn brydion. Flwyddyn ar ol 1810 fel hyn, yr oedd Uythyr wedi ei gyfeirio o Portsmouth: "Miss Elizabeth Jones, Velindre Jenkin. to be left At. Horeb. ijlandvssul. near Lampeter. Aberystwyth." Os byddai tlodion o blwyfi ereill yn byw mewn plwyf, telid dynion am eu symud yn ol i'r plwyf y pertnynent iddo, a cheir ami i gofnodion o'r cyfryw yn nghyfrifon yr hen festriau. Telid hpfyd am ladd llwynogod yn y plwyfi. Yn amser rhyfel yr oedd y plwyfi yn ami yn dewis dynion i fyned i'r fyddin a darparid cynorth- wy ar gyfer y sawl a ddibynai arnynt. Sonid am un llanc "lysti" yn chwedl y wlad, o'r enw Dafydd Jones, o blwvf Llangynllo, wedi ei N- y n i'r fyddin, a'i fod yn un o drefydd Lloegr. Yn y lie yma yr oedd rhyw Sais, yr hwn a ystyrid yn fath o fwli herfeiddiol, a'i ddifyrwch oedd trin pob Cymro oedd yno yn ddiraddiol. Dyn tawel a di- gyffro oedd y Dafydd Jones yma ac yr oedd yn y tafarn wedi galw am gwrw i'w yfed. Gyda fod ei lestr ar y bwrdd, dyina'r bwli yma yn ei feddianu a'i yfed ei hunan. Gwnaeth hyny yr ail dro, ac edrychodd y Cymro yn syn arno, a phan yr oedd yn myned i wneyd hyny am y trydydd tro, dyma waed y Cymro o Langynllo yn berwi, ac allan a'r ddau i benderfynu'r pwnc. neddodd yr hen Gardi ddigon o bwysau or Aberteifi i'r Sais, nes y dysgodd wers fuddiol i roddi llonydd i'r Cymry ar ol hyn. Gelid ysgrifenu a dweyd llawer am adeg 1810, a chan obeithio bydd y nodion brysiog o ryw ddyddordeb, a chyda dymuniadau goreu i'r newyddiadur wele ni yn distewi. CAN MLWYDDIANT "Y JOURNAL." Cenhad dan gauad ceiniog—am wyth nos Y bywiog canmlwyddog, Ei for fron fwyd a fag log I'w ddrych wr a'i berchenog.. Abergwili. DYFFRYNOG.
Advertising
I Wherever there is a case of enfeebled digestion, whether from advancing age, illness, or general debility, there is a case for Benger's Food. When the stomach becomes weakened, the digestion of I ordinary food becomes only partial, and at'times is painful; I little of the food is assimilated, and the body is consequently insufficiently- nourished. This is where Benger's Food | helps. It contains in itself the natural digestive principles, and is quite different from any other food obtainable. All doctors know and approve of its composition, and prescribe it freely. Benger's Food is sold in tins by Chemists, etc., everywhere.
ESGERDAWE
ESGERDAWE MARWOLAETH.—Gyda chalonau yn orlawn o ddyfr- oedd chwerw, a theimladau wedi eu dryllio gan alar ac hiraeth, y cofnodwn farwolaeth y gwr ieuanc addawol, Mr. Evan Williams, mab Mr. a Mrs. Wil- liams, yr hyn a gymerodd le dydd Sul, Chwcfror 13eg. Er fod rhew-wynt y gauaf du wedi cael ei hyrddio o flaen cawodau maethlon y gwan- wyn, a'r ddrychin wedi cilio rhag awelon balmaidd y tymor blagur, y dyddiau yn gwawrio i roddi adfyw- iant i natur, gan adnewyddu tannau yr adar a rhoddi calon gysurlawn i'r oenig bychan i ymbrancio ar y bryn ger ei gartref, er hyny nid oedd ynddynt yr un mwyuiant i Evan, eithr yn hytrach ennynodd fwy o serch ynddo am gyrhaedd y wlad ddarparedig, ac ehedodd ei ysbryd at ei Grewr a'i Geidwad i drigo tu fewn i byrth y Jerusalem nefol ar y dydd uchod, pan yn bump-ar-hugain oed. Blin iawn genym weled bechgyn ieuainc yn cael eu cipio ymaith pan yn mlodau eu dyddiau, ac yn syrthio i'r bedd yn anterth eu nerth, yr adeg y mae eu gwaith yn dechreu ymagor o'u blaen, a phan y teimlwn yn sicr mai hwy fedr gyflawni y gwaith angeurheidiol oreu. Er mor dwfn ydyw'r golled, eto ymhvfryd- wn wrth edrych yn ol dros eu gyrfa ddaearol, a gweled nad ydynt wedi bod yn segur, ond yn hytrach yn gloewi eu cleddyfau i ymladd dros gyfiawnderau a llwyddiant eu gwlad. Un o'r cymer- iadau prydferth yna oedd yr ymadawedig. Syrth- iodd yn aberth i'r ddarfodedigaeth pan yn rhoddi cam i'r meusydd aeddfed; ond pan yn dechreu y gwaith yr oedd wedi darparu ar ei gyfer, cipiwyd ef gan "frenin y dychryniadau" i drigo mewn g->-■' lie nad oes angeu o fewn ei gororau. Er yrfa, llawenhawn wrth feddwl na fu ei lafur yn uier, ond fod y ffrwyth i aeddfedu ar ol iddo ef ymadael. Bu yr ymadawedig am flynyddau yn fasnachydd yn Nghaerdydd, lie yr eniilodd barch ac edmygedd pawb a i hadwaenai. Ymroddodd yno i foddhau ei gyfeill- ion, a disgwylient ddyfodol disglaer iddo; ond nid felly; gwywodd fel blodeuyn cyn fod ei haul wedi esgyn i eithafbwynt ei fvwvd, gan daflu cwmwl du dros feddvliati pawb a'i hadwaenai. Tra yn Nghaer- clydd, ymdrechodd i sicrhau llwyddiant ei gyd-genedl. Mae llawer o fechgyn Cymru, pan yn rhuthro i drefydd mawrion ein gwlad, yn llwyr anghoiio eu cenedl, ac yn ymdroi mewn cwmpeini Seisnigaidd; ond nid felly yr ymadawedig. Taflodd ran fawr o'i feibiant er hyrwyddo llwyddiant y Gymraeg yn ninas Cymru, ac nid diffrwyth ei ymdrech; ond nid yn hir y cafodd y pleser o gei.sio dyrchafu ei iaith cyn i'w iechyd fethu, ac ar ol hir gystudd syrthiodd i gynarol fedd ar y dydd uchod. Dydd Iau canlynol ymgasglodd tvrfa fawr i dalu eu teyrnged olaf iddo, ae i ddangos en parch a'u serch tuag ato, ac heb- ryngwyd ei weddillion marwol i'w rhoddi i orphwys yn mynwent E-igeirdawe. Gwasanaethwyd gan y gweinidog. y Parch. D. Mvddfai Thomas, yr hwn. mewn ereiriau pwrpasol. a ddangosodd disgleirdeb ei gymeriad. Cydymdmmlir yn fawr a'r teulu galarus wrth golli cymeriad mor brydferth. Yr oedd yr ymadawedig vn fachsren siriol a dvddanus, a phan yn ef gystuddiau gwelid srwen ar ei ruddiau gweJw, yr hon a ad!ewyrchai deiinladau ei calon. Mewn trallodion a chyetuddiau y datguddir cymeriadau oreu, pan v mae cvfeillion yn methu gweini yr un cysur i Icddfu eu pcenau; pryd hynv y cawn wybod pa fath gymeriad y maent wedi bod yn adeiladu tu ol i gyssrodlen eu bvwyd. Teimlai Evan yn hapus vn ns'hanol ei gystuddiau a srwrthwynebau y dvfodol tywyll gyda chalon wrol a ff.vdd gref yn yr Hwn a wasanaethodd drwy ei fywyd bvr. Ymhyfrydai yn ngwaith yr eglwys, ac ymegniodd i rodio v ffordd yn unionsyth, a theimlwn yn sicr ei fod wedi llwyddo, oblegid wrth edrych dros ei yrfa, canfyddwn ei bod yn un uniawn, ac yntau wedi hau hadau fyddant yn blaguro yn fuan fel i'w hadgofio ei fod "er wedi marw yn llefaru eto." Cymerai y dyddordeb mwyaf yn y gwaith. a mynychai y capel nes iddo fethu myned neppell o'i gartref. Ond weithian, mae y cyfaill earedig, y brawd siriol a'r Cristion disglaer, wedi distewi, ac yn huno mewn cwsg tragwyddol. Mae prydferthwch ei wyneb. pleser ei ymddiddan- ion a'i feddyJiau uniawn, wedi eu colli pan syrthiodd i'w fedd, a. ninau yn hiraethu ar ol y fath gymeriad dilychwyn, yr hwn a garem mor fawr. Cwsg, gyfaill anwyl, yn dawel yn erw dy eglwys enedigol; bydd dy weddillion yn fuan wedi malurio, ond erys adgofion am danat a'th gymeriad yn berlau byw tra yr erys pawb a'th adwaenant. Ofer yw i ni wvlo. am danat a thithau wedi dianc uwch gorth- rymderau v bvd. ac eto vmhvfrvdwn wrth edrvch vn mlaen am yr amser y cawn gwrdd eto mewn gloewach nen, lie na fydd ymadael yn ein hanes. Gwag yw'r aelwyd yn Bryn'rysgol Heb dy gwmni, gyfaill gwiw; Hiraeth dreiddia i'n calonau, Tithau'n huno'n erw Duw; Ond os wylo 'rydym weitnian Uwch dy fedd yn drist ein bron, Ar orielau aur y nefoedd Cawn gyfarfod eto'n lion. "Dolaufab."
HENLLAN
HENLLAN Nos Woner diweddaf, yn Ysgoldy Aberbanc, o dan lvwydiaeth ddeheuig y Parch. W. J. Evans, rheithor Llanfair-orllwyu, cafwyd cyfarfod cy- hoeddus o drethdalwyr plwyti Bangor. Henllan, a Llanfair. Yr oedd y cyfarfod wedi ei alw gan y ddau gynghorwr ^iosbarih presienol y rlialribartli yma, gyda'r amcau ddau-ddyblyg o dalu diolch- garwoh i'r tretlidaiw^r am yr ymddiriedaeth roddasant ynddynt am y tail- blynedd diweddaf, ac i roddi cyfrjf manwl o'u goruchwyliaeth. Mri John Jones, Berltan, a Mr. Evan Davies, Bla-encwm, ydyw y ddau gyntaf yn yr ardal i gymeryd y cam dymunol yma o ddangos i'r cyhoedd pa fodd y maent yn ceisio gwneyd eu rhan dros yr etholwyi. Wedi ychydig eiriau pwrpasol gan y cacieirydd, gwnaeth Mr. John Jones, Berllan, anerch y cy- farfod, ac yn ystod ei araethi aeth yn fanwl iawn i fewnl i weinyddiad cyfraith y tlodion. Rhoddodd gyfartaledd gwahanol undebau Cymru, a dangos- odd ar y cyfan fod cyfartaledd treuliau Undeb Castellnewydd-Emlyn yn dda iawn o ffafrioi. Mynegodd hefyd am Gynghor Dosbarth Llandyssul mai hwn oedd y cryfaf yn yr ndeb. Pan aeth Mr. Davies ac yntau yn aelodau o'r Cynghor dair blynedd yn ol, yr oedd y diaul o reoleiddio y Cynghor yn bedair ceiniog a. dimai y bunt, on- eleni yr oedd wedi dyfod i lawr i bedair ceiniog. Er eu bod wedi gostwng y dreth, nid oeddynt wedi gwneyd hyny ar gefn esgeuluso dim, a'r farn oedd fod y flyrdd mewn cystal cyflwr ag erioed. Wedi myned dros y gwahanol dreuliau, cyfeiriodd at y diweddar reidweinydd, Mr. James Rees, fel swyddog yr oedd pawb yn ei garu. y Guardians a'r tlodion, a chredai eu bod wedi llwyddo i guel olyn- ydd teilwng iddo yn mherson Mr. Elias ivees, Pen- gallt. Fel aelod o Bwyllgor y Tretiiianr, aeth yn fanwl dros hanes eu gwaith, gan gyfeirio yn eglurhaol iawn at yr an ha wsderau oedd ganddynt i gael cynllun tog, a chredai ef fod eisieu new id peth o'r drefn er cael ymaith unrhvw anghyfar- taledd a fodolai. Tra ya trin Pwyllgor y 'l' (House Committee) mynegodd fod, gan liwn waith caled iawn, a bod Mr. Evan Davies yn aelod ohono, ac wedi gwnoyd ei wairh mor ffyddlawn a gonest a neb o'r aclodau. Wedi myned dros dreuliau a derbyniadau y gwahanol blwyti. terfynodd Mr. Jones trwy ddiolch yn wresog am eu iiymddmed- aeth yn y tair blynedd, ac yr oedd wedi gwneyd yn gydwybodol onest ar eu rhan. Terfynodd drwy ddweyd, "Os ydych yn fy ngalw allan eto, yr wyf yn foddlon i'ch gwasanaethu goreu gallaf, ac efallai yn well nag o'r blaenm gan mai prentis oeddwn mewn ffordd." Dangosodd y cynulliad rhagorol eu cymeradwyaeth yn f rwdf i-ydig o'r sylwadau. Dilynodd Mr. Davies, Blaencwift, gydag araeth dderbyniol iawn, yn ystod pa un y diolchodd yn wresog iddynt am roi ymddiriedaeth ynddynt. Mynegodd ei fod wcdi derbyn tri gorchymyn gan yr etholwyr dair blynedd yn ol: (1) Gwneyd ei oreu i gael gwell "valuation' i gOdl'l' dreth; (2) bod yn drugarog i'r tlawd; a (3) ceisio peidio codi cyflogau swyddogion heb alvv'r etholwyr yn nghyd. V) oeddynt wedi gwneyd eu goreu ar y cv.estiwn cyntaf yn mhob ffordd. Meddai, 'ilwyddasom i godi tlodion y plwyfi i lefel y rhai y plwyfi ereill." Dangosodd nad oedd son am enwad na plilaid' ganddynt pan yn vmwneyd a thlodion yr undeb, ac yr oedd yn un eitluiadol o Gi-isticn(,gol. N'stoct y tail' blynedd yr oedd pethau wedi gwella yn faw yn y tlot-tv, a hyny heb yr un geiniog yn rhagor gost. Ystyriaf fy mod wedi cadw y trydvdd anod o beidio codi cyflogau y Mvyddogion yn Uytln refiol. Gofynodd un swyddog am godiad yn ei gyflog. ond cynygiodd ef, ac eiliodd' Mr. Jones, nad oedd- ynt i gauiatau dim codiad, a dyna. fu'r canlvniad. Yr oedd eu gwaith yn y cyfeiriad yma wedi bod yn foddion i rwystro ereill i wneyd cyffelvb gais. Aeth dros hanes cwestiwh y dvvfr, gan gymeyrd rngraifft o'r hyn wnawd yn Llandyssui. Cynygiodd ef fod i sw^d.dogiou oeddynt wedi ymyraeth a'r cv.-of.tiwn yma i gael eu newid am fod mor hael ar bwrs y wlad. Terfynodd drwy ddiolch yn garedig iddynt oil, ac at y ffaith mai eisieu dynion oeddynt yn gwybod beth yw "dwyn y geiniog dan gwyuaw" oedd i'w cymyehioli rliai i siarad ciweni cyfiawnder. Yr oedd ef wedi gwnovd e; ("(-U drostynt. Gofynwyd cwestiwnau gan y Parch. 1). Jones, Gwernllwyn: Mr. David Jones, Llwyn- c-elyn, a 3Ir. J. Rees. PenJoDP, a rhoddodd y ddau attebion eymhwys a boddhaol. Siaradodd y Parch. W. J. Evans yn bwrpasol iawn am y gair da oedd wedi glywcd i Mri. John Jones ac Evan Davies fel aelodau o'r Cynghor. ac yr oedd ef am iddynt fel etholwyr godi uwchlaw plaid ac enwad i edrych nrnvnt fel aelodau, yn meddu cymhwysderau ar- benig at y gwaith. Cynygiwyd diolchsarweii i'r ddau frawd gan Mr. Josnah L«ewjs, Parke, yr hwn a ystyriai nad oedd eisiel1 gwell dau i'w gwas- anaethu. Eiliodd Mr. Rees. Penlon a dangosodd v cvriulliad gvmeradwyaeth orbenig i'r sylwadau- Wedi talu dioleh i'r Cadeirydd, terfynwyd-y cyfa):-
Advertising
25,000 Sixpenny Sample Packets of CHOCOLATE FREE for fresh Purchasers of Suchard's "Ibis" Cocoa, Knowing that Suchard's IBIS Cocoa need only be tried once to be used always, the manufacturers have decided to present, gratis and post free. a sixpenny packet of one of their well-known Chocolates (" Velma," "Milka," or Milnut ") to every fresh purchaser of a i-lb. tin of "Ibis" 4 Cocoa. This offer is made solely for the purpose of introducing to anyone not yet acquainted with Suchard's Specialities, a Cocoa and a Chocolate of superlative excellence. How to obtain the Free Gift. First purchase a quarter-pound tin of Suchard's Cocoa (" Ibis Brand) from :our grocer. It will cost you 8id. Inside the round tin (just at the top) will be found a paper disc, which is here repro- duced. This disc you should attach to the form at the foot of this announcement, which, after being filled up, should be sent to Messrs. Suchard, 33, King WiUiam Street, I C1I-CUAP London, F..C. ( uU O 11 MA | A disc from i-lb. ..VTRAOE HAttr.y.. if or i-lb. tin will do JJ equally well. .In return you will receive a full sixpennv packet Facsimile of disc to be q{ QnQ 0 t sent with form. c I IV „n Sucliard s well- tnown makes of Chocolate-" Velma," Milka,' or "Milnut." You are Given the Choice,- but whichever you decide to have would, in the ordinary way, cost you sixpence. The manufacturers firmly believe that the majority of those who thus try ) Suchard's Cocoa and Chocolate will be- come regular purchasers of these Speciali- ties, obtaining future supplies, of course, I through the regular channels of trade. ——————'——"—————-———————— Suchard's Cocoa (" IBIS "Brand). There are many good cocoas, but none that can compare with Suchard's (" Ibis Brand). Suchard's is altogether more pala- table, digestible, and nourishing than any other cocoa made. It represents the very highest quality yet attained in cocoas-you need only try it to prove that this is so. Nor can there be any doubt about its economy for family use-a breakfast cup full, at full strength, only costs a farthing. Suchard's "Velma" Chocolate.. Certainly the greatest achievement in Chocolate yet. In Velma one gets the real chocolate flavour. It tastes of nothing but Chocolate. Until yolt have tried Velma" you cannot really know how delicious Chocolate—real Chocolate—can be. Suchard's "Milka" Chocolate. Combining ¡''3 purest Chocolate with genuine Swiss Milk, Milka possesses all the good points of other Milk Chocolates, but it has this special advantage, it does not cloy in the palate. Suchard's "Milnut" Chocolate. A Chocolate with a most delicious hazel- nut flavour. This speciality has only recently been on the market, but has already achieved a striking success. It is a char- acteristic Suchard sweet-toothsome, nutritious, and absolutely pure. Form for Free 6d. Packet of Chocolate. To Messrs. SUCHARD; 33, King William Street, London, B.C. Sirs,—Having purchased a tin of -r. Suchard's Cocoa, please send in jfj accordance with your offer, one 6d. v/ » packet of Suchard's "Velma," (A vM /■ Ifffl II "Milka," or "Milnut" Chocolate. I i*|/ *•/|f fmj jj attach disc taken from the tin, which J^ v Mf 11 entitles me to this packet. /< Name Address Cross out the brand not chosen. -====M iM THE JOURNAL, 1^0^ V n Carmarthen, n W A In Maroh 11, 1910. • X ONLY ONE GIFT PACKET SENT TO SAME ADDRESS.
Advertising
f HTARCHER4C»lM GOLDENRETURNSI i ( j J^^a ft5:p I STEnED facsimile of One-Ounce Packet. I j Archer's Golden Returns The Perfection of Pipe Tobacco. COOL, SWEET AND FRAGRAXT. I
CAIO
CAIO -IIARWOLABTH.-Mae gcnym y gorchwyl pruddaidd o gofnodi marwolaeth Mr. John Jones, Garth, Cwm- pedol, yr hyn a gymerodd le ar y 18fed cynfisol. Llun canlynol ymgasglodd tyrfa luosog i dalu y gymwynas olaf i'r ymadawedig. Cyn cychwyn o'r ty darllenodd a gweddiodd y Parch. D. Jones, Noddfa, Llanbedr (yn absenoldeb y gweinidog. y Parch. J. E. Thomas, yr hwn sydd wedi ei oddi- j weddyd gan gystudd blin. Ond ymlawenhawn am arwyddion o adferiad). Yna aethpwyd yn dorf fawr tua Bethel, Caio, lie bu y brawd yn aelod ffyddlon am flynyddau lawer, ac hefyd yn ddiacon. Gwasan- aethwyd ar lan y bedd eto gan Mr. Jones, ac yn y capel cafwyd pregeth alluog a dylanwadol ganddo ar y geirau, "Gwerthfawr yn ngolwg yr Arglwydd yw marwolaeth ei Baint Ef." Bu y brawd John Jones yn ffyddlon, haeJfrydig, a gweithgar gyda'r achos yn Bethel. Mae y rhinweddau hyn fel blodau yn perarogli yn wastadol heb wywo. ac yn gwasgar eu harogl yn bersawrus yn nghoffadwriaeth y rhai sydd yn ac wedi cael y fraint o'u meddu. Mae fi'yddlon- deb crefyddol yn un o brif hanfodion gwir grefydd. Xid wyf yn honi fod y brawd heb ei feiau, a phwy sydd hebddynt, ond yr oedd ei sel, ei weithgarwch. a'i ffyddlondeb crefyddol i'w edmvgu yn fawr. Gadawodd weddw i alaru ei cholled ar ei ol. Barn- wr y gweddwon fyddo yn dirion o honi ac a'i di- ddano, ae a lanwo y bwlch sydd yn y rhengau yn Befhel drwy ymadawiad ein brawd. Heddwch i'w lwcli hyd foreu'r codi.—"Cyfaili."
ABERCRAVE
ABERCRAVE Nos Lun cyn y diweddaf, cynhaliodd Mr. Moore- Gwyn gylariod cyhoeddus, eT rhoddi ciyfrif o'i oruohwyliaeth fel cynrychiolydd ar y, Cynghor Sirol am y tair blynedd diweddaf, a chyfarfod rhagorol gafodd hefyd. Y cadeirydd ydoedd Mr. M. W. Morgan, Bryntawe, yr hwn a wnaeth ei waith yn benigamp. Gwnaeth gyfeiriadau hapus at waith da lr. Gwyn ar y Cynghor, a chafwyd araeth dda iawn ganddo. Rhoddodd Mr. Gwyn araeth ardderchog, a chrynodeb o'r gwaith a wnaed yn ystod y rair blynedd. Rhoddodd y cadeirydd gyfle i osod cwestiynau i'r ymgeisydd,. ond nid oedd gan un dyn un i'w rhoddi. Cynygiodd y Parch. J. Williams bleidlais o ddiolchgarwch i Mr. Gwyn am ei waith a'i araeth yr hyn a wnaeth, yn ol ei arfer, mewn araeth hapus a tharawiadol iawn. Eiliwyd gan Mr. Rees Davies, Gelly, a chariwyd y penderfyniad gyda brwdfrydedd. Cynygiodd Mr. C. F. Gilbertson ddiolohgarwch i'r cadeirydd, a gwnaeth gyfeiriadau tyner at weithgarwch Mr. a Mrs. Morgan gyda phob peth da, yn neillduol yr hyn a berthyn i'r Eglwys er pa.n ddaeth i'r gymydogaeth saith blynedd yn ol. Eiiiwyd ef gan y Parch. D. Hughes. Addewais pa ddydd i roddi ychydig o hanes cyfar- < fiydd cyntaf y Parch. J .G. Hughes yn y lie. Gawsom gyfarfodydd hwylus a hynod lwyddianus ar hyd y dydd. Gwasanaeth Seisnig yn y boreu, a'r Eglwye yn Hawn, a chor cryf a chanu da. Yr oedd yn dda iawn genym weled yno Mrs. Moore-Gwyn, o'r Dyffryn. Bwriadai Mr. Moore-Gwyn fod yn breftenol, ond methodd oherwydd afiechyd. Cawsom bregeth, fel y dywed un wrth fyned allan, "worth listening to." Yn yr hwyr eto, yn y gwasanaeth Gymreig, yr oedd yr Eglwys yn llawn, a gwedd lewyrchus ar bob peth. Dechreuodd Mr. Hughes ei waith yn addawol iawn, a gobeithiwn, gan ein bod wedi oael y fath symbyliad, y cawn Eglwys newydd ar fyr. (èrnhaliwyd ysgol gan ar ddiwedd y gwasan- aeth. a dywedodd Mr. Hughes ychydig eiriau, a goboithiai y byddai i'r cor fod yn ffyddlon, gan fod rhan helaeth yn ymddibynu arnynt hwy am lwydd- iant yr Eglwys, gan fod canu da yn tynu pobl i'r Eglwys. la", cais wedi ei wneyd gan y Seison i gael gwas- anaethau Cymreig a Seisneg yn olynol, ao nid fel yn bresenol, Seisneg yn y boreor a Chymreig yn yr hwyr. Credwn y daw hyn i ben. Yr oedd yn dda iawn genym weled bod Mr. Hughes wedi cael tysteb, sef "gold watch," gan Eglwys Seisneg St. George's, Abertawe, a'i fod eto i gael tysteb arall gwerthfawr gan yr Eglwys Gym- reig. Llwydiant iddo.Un o'r Eglwys." [Daerh yr uchod i law yn rhy ddiweddar i ymddangoa yn ein rhifyn diweddaf.]
[No title]
As a Safe, Permanent, and Warranted Cure for Pimples, Scrofula, Scurvy, Bad Legs, Skin and Blood Disease and Sores of all kinds, we can, with confidence. recommend CLARKE'S WORLD- FAMED BLOOD MIXTURE. Of Chemists every- where.
Advertising
The Best Horse Powder in the World.' Nid oes prawf fel prawf profiad. ISylwch beth ddywed eich cyd-ddvnion :— "To improve the condition of Imy horses, 1 have had nothing equal to DAMES' HOUSE CONDITION POWDER. It is the best Horse Powder in the world." llhyfeddech weled y fath bryfed a ddaeth CJddi wrth y gaseg ar ol eich Powdwr. Nid syndod bod ei chythn: wedi gwella cymaint, fel mae braidd yn amhosibl credu mai yr un creadur yw." Mewn Svpvnau Is. yr un. DAVIES' POULTRY & GAME POWDER Y mae pa,wb sydd wedi rhoi "ynnyg i hwn yn datgan ei werth. Fe wnaeth un boxed attal'y c'lefyd ar y"ffowis yn llwyr. Yr wyf yn recommendio'. ef i bawb." Every year T used to lose young turkeys a,nd chickens from the Gape, &c. Last year I tried your Powder, and it is a remarkable fact, I did not lose a single fowl. Other results noticed-eggs more plentiful and fowls healthier." fioxes mawrion, 2s. yr un. DAVIES' COWS CLEANSING DRENCH. (TRWYTM (iLA^HAoL 1 WAPtTHEG.) Nid rhywbeth i'w gwresogi fel "sweet-drench yw hwn, ond y drwyth arbenig i roddi i wartheg ar ol d'od a Jloi, i gludo allan pob peth gwenwynllyd ac aflan, ac i ddwyn north ac iiichyd ar ei ol. Mewn Sypynau 0c. yr un. Danfonir unrhyw o'r uchod trwy'r post am dair ceiniog yn ychwaneg. Xae oediweh nnvvach, a pheidi weh boddloni ar rywbeth yn debyg. Unig Ddarparwr— THOMAS DAVIES, M.P.S,
HENLLAN
fod, a siaradai y mwyafrif yn ganmol- adwy am eu gwaith ar y Cynghor a'u hysbryd boneddigaidd yn rhoi cyfrif o'r oil iddynt mor oleu a di-dderbyn wyneb. Wedi siarad a llawer, credwn fod yr amser wedi myned heibio i brynu etholwyr ydynt yn pwyso a meddwl pethau i newid dau aelod ydynt wedi gwneyd mor rhagorol yn y tair blynedd gyntaf, pan y gwyddom y bydd eu profiad, eu gallu, a'u dylanwad gymaint yn fwy yny tair blynedd nesaf. Nid oes angen ar un llafurwr i fyned i'r drafferth o bwrcasu rhaw newydd, pan mae yr hen rhaw yn "gweithio mor ardderchog, ac ychydig iawn ydwyf yn wybod a fyddai mor ffol a gwneyd hyny. Yn sicr mae y ddau aelod presenol yn ddynion o bwyll, meddwl, profiad, a chydwybod onest. j