Hide Articles List

11 articles on this Page

THE CARMARTHEN BOROUGHS.

THE GINGERBREAD OUTRAGE.

WEST CARMARTHEN.

THE ELECTIONS.':

SOCIETY AND PERSONAL.

DWYREINBARTH CAERFYRDDIN.

News
Cite
Share

DWYREINBARTH CAERFYRDDIN. Dydd Mawrth nesaf gelwir ar ethoivvyr dwyreinbarth swydd Gaerfyrddin i ddewis eu eynnrychiolydd seneddol. Mac dau ymgeisydd ar y maes, sef y Cadben Thomas Davies fel Ithyddfrydwr Undebol, a Mr Abel Thomas y cyfreithiwr, fel canlynwr i Mr Gladstone. Mae yr olaf wedi cynnrychioli yr etholaeth am tua dwy flynedd, ond yn ein byw ni wyddom pa beth a wnaeth dros y sir na'r etholaeth hon yn ystod ei dymhor. Gwnaeth ef fel canlynwr i Gladstone wrthwynebu yr holl fesurau gwerthfawr a basiwyd gan y Weinyddiaeth Undebol. Hwyrach ei fod yn gwneyd hyny fwy fel Gladstonwr nac fel un yn deall beth oedd oreu i ddwyreinbarth Caerfyrddin. Gwrthwynebodd mesur y cyfran-diroedd (yt. allotments), a mesur y man-dir-ddaliadau sydd newydd ci argraffu ar ddeddf-lyfr ein gwlad Yn unol a'u hegwyddorion a'u gwlad. lywiaeth urdda&ol mae yr Undebwyr wedi gweithio yn galed a llwyddiaunus o blaid amaethyddiaeth, a hyny yn ngwyneb rhwystrau mawrion a dafiwyd yn eu ffurdd gau yr Ysgarwyr. Gwnaeth yr olaf eu goreu yn erbyn Mesur y Tir- Ddaliadau Bychain pa un yr oedd mawr angen am dano. Amcan y mesur olaf hwn o oiddo yr Undebwyr ydyw cynnorthwyo amaethwyr bychain a gweithwyr amaethyddol i ddyfud yn berchen ar eu tir eu hunain drwy help y Llywodraeth. Gwneir hyn fel y canlyn (1.) Nid ydyw maint y tyddin neu y fferm i fod dan un erw na thros 50 erw, neu o werth blynyddol dros £50, (2). At brynu y cyfryw, gwna y Llywodraeth roddi benthyg deng miliwn o bunau i'r Cynghorau Sirol er ou galluogi i gario allan ddarpariaethau y mesur. Bydd i'r personau hyny a ewyllysiant brynu wneyd eu cais i'r Cynghorau Sirol. (3) Nid yw yn ofynol i'r prynwr i dalu and un rhan o bump o werth y fferm. Goddefir un rhan o bedair o'r gwerth i fod yn dal sefydlog ar y tir i'w ad- ( brynu unrhyw adeg gytleus i'r prynwr. Bydd y Cyngor Sirol yn talu y gweddill yr hyn a wna y prynwr eto dalu yn nol i'r Cynghor mewn instalments ysgafn, wedi eu lledu dros naw mlyn- edd a deugainpan y bydd y prynwr yn berchen ar ei fferm ei hun. Y cynllun hwn o eiddo yr Undeb- wyr ydyw y cam ymarferol cyntaf a wnaed gan Weinyddiaeth Brydeinig er rhoddi rhan a dydd- ordeb personol i weithwyr amaethyddol yn y tir y maent yn wrteithio. Yr unpeth ellir dweyd am ymdrechion yr Undebwyr dros y inwnwyr a thros y morwyr. Tystiolaeth Mr Burt, cynrychiolydd y mwnwyr, dros ddeddfwriaeth Undebol i'r gweithwyr tanddaiarol ydyw, ei bod yr un fwyaf daionus a basiwyd yn ffafr y mwnwyr gan un Senedd Brydeinig erioed." Yr un peth ddywed Mr Samuel PlimsoU dros y morwyr, er ei fod ei hun yn Gladstonwr mawr. Ond yr unig bwnc a wahana y Cadben Davies a Mr Abel Thomas ydyw Ymreolaeth. Ar bob cwestiwn arall y maent ar yr un llwyfan. Mae Mr Davies dros roddi i'r Iwerddon gymmaint o lywodraeth leol ag a roddir i Loegr a Chymru, ond dim rhagor. Y mae eisoes wedi dangos a phrofi yn eglur y peryglon a ganlynent Ymreolaeth i'r Iwerddon, a chredwn fod ei areithiau hyawdl a medrus wedi dwyn argraff ddwn ar feddyliau ei wrandawyr, a fydd yn eu 1 lywodraethu ar cldydd y poll, sef dydd Mawrth nesaf. Gofyn i bawb sydd dros gadw undeb undeb y Dsyrnas, a thrwy hyny amgeleddu ao amddiffyn bywydau a budd- iannau y Protestaniaid yn yr Iwerddon bleidleisio drosto ef yn yr etholiad presennol. Os bydd i ni ddechreu tori i fyny y deyrnas drwy sefydlu senedd annibynol yn Dublin ni wyddis pa le y dybenir. Aiff ein trefedigaethau un ar ol y Hall allan o'n dwylaw a ni fycldwn heb yr un marchnad i ffrwyth llafur ein miloedd weithwyr ym mhob dosbarth o ddiwyddrwydd. 0* dychwelir Mr Gladsfone i awdurdod Ymreolaeth i'r Iwerddon fydd ei holl hobby ac ni bydd modd i Brydain Fawr gael yr un o'r mesurru gwerth- fawr mae yr Undebwyr yn awyddus am basio yn y senedd nesaf os y dychwelir hwynt. Mae yn ddyledswydd ar bob Ymneillduwyr a phob Eglwyswyr ar wahan i bob ystyriaeth arall bleidleisio dros y Cadben Thomas Davies yn nwyreinbarth Caerfyrddin o herwydd fod Protestaniaid Iwerddon, yn rhifo agos i ddwy filiwn o fywydau, yn apelio attynt i wneyd hyny. llyderwn na wna Protestanaidd Caerfyrddin gilio oddiwrth eu brodyr yn yr Iwerddon a thrwy hyny eu trosglwyddo i lywodraeth eu gelynion penaf y Pabyddion. Os ydym dros hyrwyddo gwir achos Cristionogaeth, achos gwir undeb y Deyrnas, a chydymdeimlo a chynnorthwyo ein brodyr yn yr Iwerddon ein dyledswydd ydyw pleidleisio dros yr Ymgeiswyr Undebol ym mhob man bydded iddynt fod yn Ryddfryctwyr neu Geidwadwyr.

ANALYSIS OF ELECTION RETURNS.

[No title]

WEST CARMARTHENSHIRE.

THE GENERAL ELECTION.

---_-------i IGENERAL ELECTION.…