Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

1 article on this Page

CYNNADLEDD FAWR ULSTER.

News
Cite
Share

CYNNADLEDD FAWR ULSTER. AREITHIAU NERTHOL A PHEN- DERFYNIADAU GRYMUS DROS UNDEB Y DEYRNAS. CYFARFODYDD BRWDFRYDIG. Dydd Gwener diweddaf gwnaeth Protes- taniaid Iwerddon roddi ger bron y byd, mewn modd egniol a phenderfynol, eu gwrthwynebiad i Ymreolaeth. Yr oedd pabell wedi ei hadeiladu ar draul o £ 3000, ac eisteddleoedd i'r 13,000 dirprwywyr. Yr oedd o leiaf 20,000 yn bresennol, ac yr oedd yr olygfa y fath na welwyd ei chyffelyb erioed. Am ddeuddeg o'r gloch yn gywir cynnyg- iodd Mr. Robert Mac Geagh, Y.H., llywydd Cymdeithas Rhyddfrydwyr Undebol" Ulster fod y Due Abercorn i lywyddu y Gynnadledd. Syr William Miller, Derry, a eiliodd y cynnygiad, yr hwn a gariwyd yn unfrydol. Derbyniwyd y Due Abercorn ar ei waith yn cymmeryd y gadair gyda banllefau cym- meradwyol trachefn a thrachefn. Galwodd ar Arglwydd Esgob yr oil o Iwerddon i ddarllen gweddi. Yr Arglwydd Esgob a ddywedodd, Frodyr, gydag un galon ac un ysbryd gadewch i ni ofyn bendith Duw ar ein hymgais." Yna darllenodd ei ras y weddi ganlynol:—Hollalluog Dduw, Tad ein Harglwydd Iesu Grist, yr Hwn sydd yn cadw ei gyfammod a'i addewid bob amser, bywyd y rhai a redant attat, gobaith y rhai a ymddiriedant Ynot, ystyr yn drugarog weddiau dy weision sydd yn cydymgynghori yn Dy enw. Tywallt arnom Dy Ysbryd sanctaidd i gyfarwyddo ein ymgynghoriad er dyrchafiad Dy ogoniant, diogelwch yr Orsedd a chyfanrwydd y Llywodraeth. Dyroini benderfyniad cryf, gallu, cymhorth, a gwroldeb i'w dwyn i bwynt llwyddiannus, nid, 0 Dduw, yn ein nerth ein hunain, ond dan Dy arweiniad Di, fel y gallom, wedi ein harfogi a'th amddiffyn Di, gadw a sicrhau ein rhyddid gwladol a chrefyddol oddi wrth bob perygl. Una ni yn rhwymau cariad y naill i'r llall yng ngwyneb y perygl ey- ffredin. Triged gwirionedd a chyfiawnder, caredigrwydd brawdol a chariad, crefyddol- deb a duwioldeb yn ein plith, fel y byddo i gwrs y byd hwn a llwyddiant ein gwlad gael eu heddychol arwain a'th lywodraeth Di, fel y gallom yn llawen dy wasanaethu Di ym mhob duwiol esmwythyd, trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Amen. Yna galwodd y Cadeirydd ar y Parch. Dr. Brown. Cyn-lywydd y Gymmanfa Gy- ffredinol i ddarllen rhan o'r Ysgrythyr. Dywedodd Dr. Brown eu bod fel dynion teyrngarol ac yn ofni Duw, yn dymuno cyd- nabod Duw yn ei holl ffyrdd, a gofyn iddo gyfarwyddo ein camrau. Yn awr ni a ganwn Salm 46. Canwyd y pennillion can- lynol gan y dyrfa anferth, yn cael eu har- wain gan gor o wrywod, gyda dylanwad neillduol: — Gobaith a nerth in' yw Duw hael, Mae help i'w gael mewn cyfwng; Daear a mynydd aent i'r mor, Nid ofnaf f 'angor deilwng. Y mae yr Arglwydd gyda ni lor anifeirif luoedd; Y mae Duw lago yn ein plaid, Yn help wrth raid o'r nefoedd." Mr. R. H. Orr, un o'r ysgrifenyddion mygedol a awgrymodd fod gohebiaethau o gydymdeimlad wedi eu derbyn o bob rhan o'r wlad, ac hyd yn oed o America. Rhif- ant yn bresennol 110. Y Due o Devon a bellebrodd fel y canlyn :—" Dymunaf ddad- gan fy nghydymdeimlad gwresocaf ag Undebwyr Ulster yn yr ardystiaeth amserol a chryf y maent yn ei wneuthur." Hefyd danfonodd mil o efrydwyr Rhydychain bellebyr o gydymdeimlad. ARAITH Y CADEIRYDD. Derbyniwyd y Due o Abercorn gyda banllefau ar ei waith yn codi i anerch y gynnulleidfa. Dywedodd, Wyr Ulster, a all unrhyw un yn y neuadd yma nad yw ym meddu a'r galon o gareg, fod yn ddideimlad yng ngwyneb yr olygfa ardderchog sydd yn bresennol, golygfa ddiail yn hanes cyfarfod- ydd politicaidd y wlad hon ? Y mae yr arddangosiad yn fawreddog, helaeth yn ei faint, a difrifol yn ei natur. Ac y mae hefyd yn fwy pwysig oddi wrth y ffaith, nid eich bod yma y fath lu mawr eich hun- ain yn unig, ond fel cynnrychiolwyr yr ydych yn cynnrychioli cannoedd o filoedd o rai ereill sydd yn byw yn Ulster (cym). Y mae yn ddiangenrhaid i mi fynegu pa mor anrhydeddus yr ydwyf yn teimlo am gael fy nghaniatau i lywyddu yma heddyw, o blegid nid yn ami y ca dyn y fraint o lywyddu dros 10,000 o'i gydwladwyr, yn enwedig pan y maent yn perthyn i'r un cydgenedl a chydnabod, ac yn wreiddiol wedi hanu o'r un cyff ag ef ei hun. Yn wir, y mae yn rhaid i bob un sydd yn y neuadd deimlo mesur o gyffroad a balchder oddi wrth yr ymwybodolrwydd mai y cymhelliad a'n dygodd yma heddyw ydyw cariad at ein gwlad, ein teuluoedd, ein cartrefloedd, a'n crefydd, ac uwch law y cwbl, gan benderfyniad i fyw fel yr ydym wedi gwneuthur hyd yn hyn yn y wlad hon fel rhan cyfangwbl o ddeiliaid ei Mawrhydi (uchel cym.). A chyn yr af ym mlaen ym mhellach, carwn ddywedyd, er eiQbod wedi cyfarfod yn dyrfa luosog, fod ereill yn llai ffodus, ac yn analluog i fod yn bresennol, dynion o gyffelyb syniadau a theimladau a'r elddom ni, y rhai sydd yn ein gwylio gyda y dyddordeb dyfnaf. Yr ydwyf yn cyfeirio at y miloedd teyrngarwyr —Pabyddion a Phrotestaniaid—y rhai sydd yn byw yn nhair talaeth arall y wlad hon (cymeradwyaeth). Ni ddylech feddwl mai genych chwi yn Ulster y mae gorfaeliant teyrngarweh. Y mae y bobl hyn mor deyrngarol a chwithau. Nid ydynt, fe ddichon, yn byw dan amgylchiadau mor hapus. Y mae rhai yn byw yn y trefydd, ereill yn yr anialdir, lleoedd anghysbell, yn amgylchynedig gan eu gelynion; ond y mae yr un cariad yn ei gwythienau hwy a r eiddoch chwithau, ac y mae yr un cariad am ryddid yn treiddio eu bodolaeth. Yn awr, y mae yr arddangosiad hwn yn wrth- dystiad llidiog yn erbyn y wladlywiaeth sydd yn ein hymlid; er hyn oil, y mae y gwrthdystiad yn wirfoddol. Wrth hyn yr ydwyf yn meddwl nad ydyw y cyflunwaith angenrheidiol yn ganlyniad unrhyw orch- ymmyn wire pullers unrhyw blaid bolitic- aidd, ond y mae yn doriad allan gwirfoddol o deimladau aelodau plaid boliticaidd gref -y blaid fawr Undebol yn yr Iwerddon (cymeradwyaeth), gwarchanedig yn hir, ond yn y diwedd, wedi penderfynu gwneuthur ei hun yn adnabyddus i'r holl fyd gwareidd- iedig. Gwyr Ulster, yr ydym ar fin cyfwng politicaidd mawr yn ein hanes, ac y mae perygl mawr yn ein bygwth, ac yn crogi uwch ein pen. Y mae colli rhyddid gwladol a chrefyddol yn ein bygwth, os cerir allan wladweiniaeth ein gwrthwynebwyr. Ein gofal cyntaf raid fod yn awr-a gobeithio y bydd yr areithiau a ganlyn i'r amcan hwn -yw rhwystro etholyddiaeth Prydain rhag cael ei chamarwain ym mhellach perthynas i wyr teyrngarol Ulster, Protestaniaid a Phabyddion; ïe, hefyd wyr teyrngarol y tair talaeth arall o'r Iwerddon trwy haer- iadau a ddygir ym mlaen gan ddynion awyddus am awdurdod a dall i bob ystyr- iaeth arall, hyd yn oed llwyddiant dyfodol y deyrnas fawr hon. Ni chaiff unrhyw gorff o bobl ddyoddef mewn modd mwy na ni trwy unrhyw gyfnewidiadau politicaidd mawr. Y mae dedwyddweh y genedlaeth bresennol, a'r cenedlaethau sydd i ddyfod, yn ymddibynu ar y cyfnewidiadau hyn. 0 ganlyniad, y mae genym yn sicr hawl i gyhoeddi ein syniadau a'n teimladau ar y cwestiwn holl-bwysig a chwildroedig hwn. Yr ydym yn amcanu heddyw ddangos i'n cyfeillion Seisonig a Scotaidd, nad mewn rhith ond mewn gwirionedd y mae enw Ulster yn bod; fod y bobl sydd yn ei thrig- iannu er ys canrifoedd yn benderfynol o. fyw dan yr un deddfau, mwynhau yr un rhyddid a rhagorfreintiau ag a fwynheir gan ereill o breswylwyr Ynysoedd Prydain, ac nid i fod yn ddarostyngedig i driniaeth wahanol ar ddwylaw mwyafrif gelyniaethol (cymeradwyaeth). NID BYGYTHIAD OND RHYBUDD. Y mae wedi cael ei ddywedyd gan areith- wyr Gladstonaidd eilwaith ac eilwaith fod Arglwydd Salisbury (cym.), yn un o'i areith- iau diweddaraf, wedi cymhell pobl Ulster i godi mewn rhyfel cartrefol. Nid ydyw hyn ond lledrithio y geiriau a ddefnyddiodd. Ni ddywedodd ddim o'r fath beth. Y mae Ar- glwydd Salisbury wedi ei gynnysgaeddu a'r gynneddf neillduol sydd wedi ei chadw oddi wrth lawer o wladweinwyr ereill, gallu i weled i'r dyfodol pell, ac i wylied, fel pe oddi ar fryn uchel, symmudiad dygwyddiadau politicaidd pwysig, ac wedi chwe' blynedd o lywodr- aetbiad Ilwyddiannus y mae efe a Mr Balfour (cym.) yn gwybod ac yn deall yn dda duedd- fryd pobl y wlad hon; ac yn eu sefyllfa swyddogol fel Prif-weinidog ni wnaeth ond teimlo ei ddyledswydd i roddi gair o rybudd i'r Saeson, ac i ddywedyd wrthynt beth allasai ddygwydd yn y wlad hon dan ddygwyddol- debau neillduol. Nidd oedd na bygytbiad na dwrdiad mwy nag y mae y cyfarfod hwn heddyw yn dadgan dim bygythiad, er yn eglur gyhoeddi beth a all ddygwydd os gyrer pethau i'r fath gyfrwng a fyddo tu hwnt i derfynau llywodraeth (cym.). I'r gwrth- wyneb y mae y cyfarfod hwn yn dal allan ddebeulaw cymdeithas i'n brodyr yn y rhanau ereill o'r Iwerddon, oblegid os eyfeiriweh at y penderfyniad olaf a osodid o'ch blaen heddyw yn y cyfarfod hwn chwi welwch ein bod yn crefi ar ein eydwladwyr i Adael dymuniad a fydd yn gwahanu y Gwyddelod yn anobeithiol, ae i uno a ni dan y Llywodraeth Ymherodrol i ddadlygu adnoddau, ac i hyrwyddo budd- iannau goreu ein gwlad yn gyffredinol." Nid allasai dim fod yn fwy caruaidd na hyn, yn gofyn am heddweh a llonyddweh; ond os try y rhai yr appelir attynt glust-fyddar, ac os na bydd i lonyddwch gael ei adferyd, yna pwy all rwgnach os yn y blynyddau dyfodol y bydd y geiriau y rhybudd a draethodd Arglwydd Salis- bury gael eu cyfiawnhau a'i brophwydoliaethau eu sylweddoli (cymeradwyaeth) ? Y GWRTHWYNEBIAD I WLADWEINIAETH WYDDELIG MR GLADSTONE." Gwna ein gwrthwynebwyr yn ddiddadl ddy- wedyd, ac yn wir y mae y wasg Ryddfrydig eisoes wedi ymdrechu gwneuthur capital i'r perwyl, mai arddangosiad Oreinwyr ydyw hwn-un o'r cyfarfodydd arferol a gesglir yng nghyd mor hawdd yn Belfast. Bai bychan neu ychydig ddrwg pe felly y byddai yr achos, ond nid felly y mae, ac mi ddangosaf i chwi yn y fan paham nad ydyw felly. Ac yma dywedaf fod yr Oreinwyr wedi hollol gyfiawn- hau eu bodolaeth. Amcan eu cyfansoddiad ydyw rhyddid crefyddol yn yr Iwerddon, a chyhýd ag y byddo gan Oreiniaeth un gronyn o nerth wedi ei adael yn y wlad yma, cyhýd y cadarnheir egwyddorion rhydd y y grefydd Brotestanaidd (cymeradwyaeth). Ond y mae rhediad amgylchiadau wedi rhwystro hwn i fod yn gyfarfod Oreinwyr, ac os caniateir i mi adrodd hanesyn, dangosaf i chwi pa fodd y mae pob adran boliticaidd yn bresennol yn y cyfarfod hwn. Yr oedd cyfaill i mi yn ddiweddar yn awyddus am wybod syniadau politicaidd boneddwr o Ysgotland, yr hwn yn ddiweddar a gyrhaeddodd i'r wlad hon. Gwnaethpwyd cyfeiriad at Mr Glad- stone, "ae," meddai yr Ysgotyn, "mai dyn da ydoedd, ond wedi myned yn ddiweddar ar gyfeiliorn (cymeradwyaeth)." Y mae Mr Gladstone yn wir wedi myned ar gyfeiliorn yn ei wladweiniaeth Wyddelig. Ni fu gan ar- weinydd Rhyddfrydig erioed fwy o gyfeillion a cbyfeillion ymroddgar na fu gan Mr Gladstone yn y dyddiau gynt yng Ngogledd yr Iwerddon, ac yn eu plith gyfran helaeth iawn o'r gwein- idogion Presbyteraidd, boneddigion o'r deall- twriaeth, a'r gwrteithiad uchelaf—dynion hollol adnabyddus ag holl eisieu Ulster, y rhai oeddent yn deall yn drwyadl neillduolion y ddwy genedl sydd yn preswylio y dalaith hon. Yr oedd ganddo hefyd fel ei gynnorth- wywyr rif luosog o dirddeiliaid a thirfeddian- nwyr, crefftwyr a gweithwyr. Rhag-dybiodd yn ddiddadl y cawsai, yn ei fesur o Ymreol- aeth, gynnorthwy parhaol y dynion hyny yr oedd gymmaint yn eu dyled. Ond camsynied a wnaeth Mr Gladstone (eymeradwyaeth). Pa le yn awr y mae y canlynwyr hyny ? Y maent, gydag ychydig eithriadau, wedi ymuno a byddin yr Undebwyr Gwyddelig (cymeradwyaeth). Y maent yn achwyn ar ac yn ffieiddio gwladweiniaeth Mr Gladstone, oblegyd y maent yn gwybod yn dda y dwg y cyfryw felldith ar ben ein gwlad anwyl (cym- eradwyaeth). Y maent yma yn gynnulliedig yn y cyfarfod hwn heddyw. Y maent yn tystiolaethu naill ai trwy eu presennoldeb gweithredol neu trwy eu cynnrychiolwyr, eu bod, er yn edmygu enw y gwladweinydd mawr, eto pan mae y gwladweinydd hwnw yn dwyn i mewn wladweiniaeth a raid fyned dan syl- feini cymdeithas, a dwyn tryblith (chaos) a dinystr, He yn flaenorol yr oedd heddwch a llwyddiant, yn methu ei ddilyn ym mhellach. A ydyw dealltwriaeth eywreinrwydd a llafur- waith caled Ulster i gael ei anwybyddu er mwyn hyrwyddo damcaniaeth wyllt ac am- mhosibl ? Y mae tystiolaeth presennoldeb y Rhyddfrydwyr Undebol yma heddyw yn ddigon o brawf o'n penderfyniad i fod yn ddinasyddion yn gyntaf, ac yna yn wleidied- yddion (cymeradwyaeth), ac yr wyf gan hyny yn gofyn i chwi os oes diffyg o ran mor fawr o'r Rhyddfrydwyr Gwyddelig wedi cymmeryd lie ar y fath ganlyniadau bywydol; a all hyn ddim gwneuthur argraff ar gorff mawr yr etholaeth Seisonig ac Ysgotig, a gwneuthur iddynt feddwl mai pan y byddo cynllun Ym- herodrol mawr yn cael ei wrthod yn hollol a thrwyadl gan gorff y dosbarth o feddylwyr caled-dynion durfin at y rhai y cymhwysir y cyfryw nad all y fath gynllun ddwyn ffrwyth, nad all y blaguryn byth flodeuo, ond a raid syrthio yn ddarnau, wedi ei impio yn unig ar ymenydd ei gynlluniwr mympwyol (cymer- adwyaeth). Y mae y perygl eyffredinol wedi dwyn yng nghyd bobl wedi anghofio eu gwahaniaethau blaenorol, wedi eu huno gan un amcan eyffredin, ac yn benderfynol o ym- ladd ysgwydd yn ysgwydd dan faner yr Undeb (cymeradwyaeth). BRAD WEDI EI GYNLLUNIO YN Y TYWYLLWCH. Y mae y gynnulleidfa fawr hon yn danfon at en cydwladwyr yn Lloegr ac Ysgotland un waedd ddifrifol o ymbiliad a rhybudd. Ym- biliad, ar iddynt beidio ein gwnenthur yn aberthau i weithred ddigyffelyb o frad; rhy- budd, na wna y fath weithred ddwyn heddwch i'r Iwerddon, ond anghydfod, gwarth, a dinystr (cym.). Yr hyn sydd yn ein llanw gan ddigofaint ydyw fod y brad hwn o Ymreolaeth Gartrefol wedi ei ddeor yn y tywyllwch; ni saif ymchwiliad manwl, oblegid pe byddai iddo gael ei brofi, darganfyddid nad ydyw ond twyll iselwael (cym.), twyll ar etholaeth anammheus Lloegr, twyll ar y Blaid Genedl- aethol dyn er yn yr Iwerddon, y rhai trwy gefnogi Mr. Gladstone a obeithiant gael hawl- iau y rhai a gyfenwir Y Bobl Wyddelig wedi eu sylweddoli. Yn awr, fe ddywedodd Mr. Gladstone yn ei araeth y dydd o'r blaen yn y Neuadd Goffadwriaethol yn Llundain, wrth ei wrandawyr, y rhai a rifent oddentu 2000 neu 3000 o bersonau, fod y pwnc Gwyddelig yn cuddio ac amdoi pob peth" ac ychwanegodd, nad ellir clirio y llinell nes y byddo hwn wedi ei gario, ac fod i'r deddfwriaeth sydd eisieu ar bobl Lloegr i aros mewn gorddysgwyliad. Ond wedi dywedyd hyn, nid anturiodd i roddi hyd yn oed amlunelliad o wladlywiaeth yr Ymreolaeth Gartrefol y mae yn amcanu ddwyn i fewn. Y mae yn wir iddo mewn cyssylltiad a'r Iwerddon gyfeirio at chwiwgwn a ffyl- iaid" fel yn bodoli yn y wlad hono. Ni wnaethai yn naturiol gymhwyso y .term "chwiwgi" at un o'i ganlynwyr, ac ni feddyliai chwaeth fod un dyn yn "ffwl" am fod yn bleidiwr iddo ef. 0 ganlyniad tybiaf fod yr ansoddeiriau boneddigaidd—chwiwgwn a ffyliaid-i'w cymhwyso at y rhai oeddynt gynt yn bleidwyr iddo, ac at y rhai sydd fel y cyfeiriais yn barod yn Rhyddfrydwyr Undebol cynnulliedig yn yr adeilad hwn. Ond hyd yn oed iddynt hwy methodd egluro dirgeledig- aethau y mesur rhagfwriadedig hwn, neu gyffwrdd a'r darnau peryglus oeddynt naill ai wedi eu gosod i fewn neu eu tynu allan yn ei fil diweddar. Ond yr oedd Syr W. Harcourt, fidus Achates Mr. Gladstone yn fwy hyf ac yn fwy gonest mewn araeth ddiweddar a dradd- ododd. Dywedodd mewn atebiad i ofyniadau taerion oddi wrth ei wrandawyr, awyddus am wybodaeth ar y pwnc, mai ei wladlywiaeth ef o Ymreolaeth Gartrefol ydoedd "rhoddi i'r Iwerddon reolaeth ei hamgylchiadau lleol yn y modd a'r telerau gorchymmynedig gan y senedd, gyda sicrwydd am gyfanrwydd y deyrnas a llesiant cyffredinol y llywodraeth." Pe llefarwn am awr" ychwanegai, "Nid allwn fynegu i chwi ragor na hyn yna." Felly y mae Mr. Gladstone yn gwrthod dad- guddio egwyddorion ei gynllun ef o Ymreol- aeth Gartrefol, ond y mae Syr W. Harcourt yn myned ychydig ym mhellach, ac yr ydwyf yn gofyn i chwi, ai ni fyddai yn weithred o degwch ar ran Syr W. Harcourt pan yn defnyddio y geiriau "gyda sicrwydd am gyfanrwydd y deyrnas" i ychwanegu y geir- iau ac amddiffyniad y lleiafrif" (cymeradwy- aeth). CAREG GLO Y CWESTIWN." A dyma, wyr Ulster, ydyw careg glo y cwestiwn pwysig hwn ? Sicrwydd am am- ddiffyniad y Ileiafrif-y chwi y lleiafrif cyn- nuliedig yma heddyw, "chwiwgwn a ffyliaid yr Iwerddon—y sicrwydd hwnw nad ellir byth ei roddi dan unrhyw fesur o Ymreolaeth Gartrefol. Y mae yn anweithiadwy, y mae yn anarferadwy, y mae yn annichonadwy. Dyma un o'ch rhesymau dros gyfarfod yma heddyw, am eich bod yn hollol ddeall, gyda Senedd yn College Green, nas gellir rhoddi sicrwydd yn y fath fodd, ac i wneuthur y Ileiafrif yn rhydd ac annibynol fel ag ydynt yn bresennol. Ni wel gwladwriaethwyr Seisonig dall hyn. Chwi, wyr Ulster, gyda gwelediad llawer pellach, a welwch chwi hyn sydd gudd- iedig oddi wrth eich brodyr Seisonig ? Y mae amddiffyniad y Ileiafrif yn anweithadwy, yn anniebonadwy, yn annoeth. Yn awr, pe yn y dyddiau a aethant heibio, tra yn pender- fynu y ewestiwn dwyreiniol, y cynnygid gosod gwlad gynnyddol ac heddychol o dan awdur- dod derfysglyd, anghynnyddol ac anghyfiawn, Mr. Gladstone a fuasai y cyntaf i'w ham- ddiffyn, a'r cyntaf i'w cynhyrfu i daflu ymaith eu iau, a'r cyntaf i alw eu cymmydogion i'w cynnorthwyo (cymeradwyaeth). Ond yn yr achos presennol, yn troi o'r Dwyrain i'r Gor- Ilewin, y mae y twymdra ddwyreiniol yn dyfod yn oerllyd dan ddylanwad gwladyddiaeth leol, a phan y mae Mr. Gladstone ei bun yn gwneuthur awgrymiad cyffelyb yn achos dinas- wyr Prydeinig, pwy sydd a'r cyffelyb hawl i ryddid ac efe ? Y mae yn proffesu bod yn ddychrynedig, os na bydd ymostyngiad union- gyrchol, ac y mae yn bwyllog synied y possib- ilrwydd o ddefnyddio galluoedd y Goron i ddarostwng pobl Gogledd yr Iwerddon dan draed mwyafrif tra-arglwyddaidd a gorfol- eddol (cymeradwyaeth). Y mae yn eglur na wna unrhyw bobl ymostwng dan yr am- gylchiadau a enwais, oddi eithr eu gorfodi drwy drais. Dim ond trais a gorfodaeth rheolaidd a geidw i lawr bobl Ulster, a byddai i'r orfodaeth hon gael ei gweinyddu gan Seison ar Wyddelod o'r un cnawd a gwaed a hwy en hunain, dynion yn y dyddiau o'r blaen a fuont yn ymladd dros Loegr a hawliau Lloegr. Y mae pob dyn sydd yn pleidleisio dros Ymreolaeth Gartrefol, yn pleidleisio dros orfodaeth dragwyddol ar rai o'r dinaswyr goreu a mwyaf teyrngarol y deyrnas (cymer- adwyaetb). CYMMERIAD GWYR ULSTER. Yn awr yr wyf yn meddwl fod un pwynt nad yw pobl Lloegr yn ei ddeall yn glir am bobl Ulster, ac mewn canlyniad y mae cam- synied yn bod parthed i'w cymmeriad. Nid ydyw yn canlyn, am nad yw pobl Ulster bob amser yn cynhyrfu ac yn mynychu cyfarfod- ydd politicaidd ac yn halogi y Sabbath, nad ydynt yn bobl ddifrifol. Y maent yn ddif- rifol yn eu harferion, ac uwch law yr oil y maent yn bobl ddiwyd, ac ni raid i ddyeithr- iaid ond yn unig ymweled a Gogledd yr Iwerddon, ac & chanolbarthau pwysig gweithgarwch masnachol, i gael profion o'u. diwydrwydd (cymeradwyaeth). Diwyd- rwydd ydyw eu hamcan blaenaf, nid cy- ffroad. Ond os ydyw cynhyrfiad yn angen- rheidiol i amddiffyn eu llafur weithiau, yn fuan y ceir allan fod yr amddiffyniad hwnw ger llaw, a chydag amddiffyniad daw gweith- rediad (cymeradwyaeth). Nid ydwyf yn myned i'ch blino yn bresennol gydag un- rhyw gyfrif o'r hyn a allai canlyniadau Ymreolaeth Gartrefol fod yn y parth yma o'r Iwerddon, os gwthir hi ar y bobl, mewn cyssylltiad a'r trethi ac achosion perthynol. Mi a adawaf hyny i siaradwyr ereill, gallu- ocach na mi, sydd i'm canlyn. Y mae yr amser yn myned rhagddo, ac y mae amryw i siarad. Ac eto unwaith cyn eistedd i lawr gofynaf i chwi beth yw pwysigrwydd y cynnulliad mawr hwn, cynnulliad yn ei holl amgylchiadau, sydd heb ei gyffelyb yn hanes yr Iwerddon, nac o bosibl yn eiddo yr un wlad ? Gwyr y Gogledd, fe all y rhai a'ch adwaenant ateb, ond gadewch i'r rhai sydd yn ateb eich adnabod yn gyntaf (cymmerad- wyaeth). Y mae y dirprwywyr sydd o'ch amgylch, a rhai a lanwant y neuadd hon, yn cynnrychioli pob cylch, pob dosbarth, pob credo Brotestanaidd yn Ulster (cymer- adwyaeth). Y mae rhai o honoch yn dyfod oddi wrth dirfeddiannwyr y Dalaeth, ond yr ydych yn dyfod hefyd oddi wrth y tir- ddeiliaid, diwydrwydd diflino y rhai sydd wedi cyfoethogi y tir, ac yr ydych yn dyfod hefyd oddi wrth y Ilafurwyr. gan ba rai y cesglir ffrwythau y ddaiar, ac oddi wrth y crefftwyr. Y mae yn eich plith, ac o'r tu ol i chwi, gadbeniaid ein llafur-weithiau, y mae genych hefyd y Ilafurwyr yn rhengoedd llafur, y rhai a dreuliant eu bywyd wrth y llong, y peiriant, y gwydd, dwylaw y rhai sydd yn defnyddio y morthwyl, a medr y rhai sydd y cyfarwyddo y wennol. Yr ydych wedi eich danfon yma gan aelodau yr Eglwys a fu unwaith yn sefydledig; gan y dynion sydd wedi glynu wrth y ffydd Bres- byteraidd a gymmunwyd iddynt gan ein hynafiaid o Scotland; gan ddisgynyddion y Puritaniaid Seisonig, y rhai yn eu gwlad eu hunain a ddyoddefasant er mwyn cydwybod; gan feibion y rhai a roddasant i Wesley ei gynnulleidfaoedd cyntaf, credo y rhai a adwaenir wrth ei enw anrhydeddus. Yr ydych wedi cael eich desgrifio gan feirniaid gelynol fel cenedl yspeiliedig a phesgedig, yn rhyfygus hawlio rhagorfreintiau uwchlaw eich eydwladwyr. Yr ydych wedi eich gwatwar fel Uwfrddynion. Mae eich rhag- olygon wedi eu gwatwarwenu fel twrw gwag. Mae yr ateb i'w gwatwareg i'w gael yn eich hanes gorphenol ac yn sefyllfa bresennol eich talaeth. Cyn i Ulster gael ei phoblogi gan ymsefydlwyr o Loegr a Scotland yr oedd y rhan dlotaf a mwyaf terfysglyd o'r Iwerddon. Yr oedd yn gyn- nwysedig, y rhan fwyaf, o ddiffaeth-diroedd a choedwigoedd, lie yr oedd penaethiaid di- lywodraeth, tra yn ymdrechu llywodraethu deiliaid mwy dilywodraeth na hwy eu hun- ain, yn byw mewn ymrysonau parhaus. Ai llwfrdra a thwrw a'u galluogodd, y gan- rif gyntaf o'u trigiad yma, i ddal at yr eiddynt ym mysg poblogaeth elynol, heb unrhyw gymhorth, ond eiddo eich breichiau cryfion ? (cymeradwyaeth). Ai y rhai hyn oeddynt eich arfau tua diwedd y dyddiau tywyll a drwg, pan y cynnaliasoch i fyny achos eich cred a'ch rhyddid ? Ond mi a ewyllysiwn eich cyfeirio at well safon na gwarchae neu frwydr. Mi a fynwn i chwi gael eich barnu drwy fuddugoliaethau an- rhydeddus heddweh. Y mae eich yni wedi gwneuthur y tir diffaeth. yn fras a ffrwyth- lawn. Y mae eich trefydd yn fyw gan am- ryw lafur weithfaoedd. (cymeradwyaeth). Y mae eich porthladdoedd yn anfon llongau, llwythedig gan nwyddau, i bob gwlad. Y mae eich llong adeiladwyr yn ychwanegu, bob blwyddyn, at longau masnachol y byd. (cymeradwyaeth). Y mae y rhai hyn yn bethau, nad allant gael eu eyflawnu, ond gan bobl gryfion a hunan bwysedig, a dyma y bobl sydd yn cyhoeddi heddyw nad ydyw eu llwyddiant a'u rhyddid i gael eu peryglu gan biawfiadau pyrbwyll gwladweinwyr pleidiol. Y mae cyfnod pwysig o'ch blaen ond fel yr ydych yn edrych ar y gorphenol gyda balchedd, y gellwch edrych ar y dyfodol heb unrhyw ddychryn. Gellwch roddi rhyw ymddiried, yr wyf yn meddwl, yn ein cym- ydogion Scotig, y rhai a allant olrhain ynom ni rai o'u nodweddion eu hunain. Gellwch obeithio na wna Lloegr adael y Gwyddelod, y rhai a wnaethant gymmaint er ychwanegu, dim er drygu, mawredd a gogoniant yr Ym- erodraeth. Ond uchlaw yr oil bydded gen- ych ymddiried ynoch eich hunain. Y mae amryw bynciau yn y rhai yr ydych yn gwa- haniaethu, yr ydwyf yn gweled o'm blaen Dori cyndyn a Radical pybyr yn sefyll ochr yn ochr. Yr ydych wedi ymladd o'r blaen, efallai yr ymleddwch eto mewn ymdrechfeydd politicaidd. Ond ar y cwestiwn byw, llosg- edig hwn, yr ydych oil yn un. (eymeradwy- aeth). Yr ydych yn ymladd am gartref, am rhyddid, am bob peth sydd yn gwneyd bywyd yn anwyl i chwi, ac yn gwneuthur bywyd yn werth ei gael. (cymeradwyaeth). Yr ydych yn ddyledus am y breintiau yr ydych yn eu mwynhau i benderfyniad eich tadau. (cymeradwyaeth). Yr ydych yu benderfynol o'u trosglwyddo i'ch plant heb eu gwanychu na'u diraddio. Gwyr y Gogledd, dywedaf unwaith eto, ni fynwn ni Ymreolaeth Gar- trefol. (cymeradwyaeth uchel a pharhaol). Y PENDERFYNIAD CYNTAF. Syr W. Q. Ewart, yr hwn a dderbyniwyd gyda brwdfrydedd, a gynnygiodd y pender- fyniad cyntaf fel y canlyn:—Fod y gyn- nadledd hon, cynnwysedig o 11,879 o gyn- nrychiolwyr, yn cynnrychioli yr Undebwyr o bob cred, dosbarth, a phlaid trwy Ulster, etholedig mewn cyfarfodydd cyhoeddus a gynnaliwyd ym mhob rhan etholyddol o'r dalaeth, drwy hyn yn ddifrifol benderfynu a dadgan :—Ein bod yn mynegu teyrngar- weh cyssegredig Undebwyr Ulster i Goron a Chyfansoddiad y Deyrnas Unedig; ein bod yn ardystio ar gyhoedd ein penderfyn- iad diysgog i gadw yn ddigyfnewid ein safle bresennol fel rhan gyfanol o'r Deyrnas Unedig, ac yn gwrthdystio yn y modd mwyaf diammhwys yn erbyn pasiad unrhyw fesur a wna ein hamddifadu o'n hetifedd- iaeth yn y Senedd Ymherodrol dan amddi- ffyniad pa un y mae ein bruddiannau wedi eu rhoddi allan a'n cartrefleoedd a'n hawl- iau eu dyogelu; ein bod yn coffiiu ein penderfyniad na wnelom ddim a Senedd neillduol fyddo dan lywodraeth dynion sydd gyfrifol am gamwedd a thrais y Cyngrhrair Tirol, anonestrwydd y Plan of Cam/paign a chreulonderau y boycottio, amryw o ba rai a ddangosasant eu hunain yn offerynau parod y blaid offeiriadol; ein bod yn dadgan ein hargyhoeddiad i bobi Prydain Fawr, y gwna unrhyw ymgais i sefydlu y fath Sen- edd yn yr Iwerddon yn anocheladwy ddi- weddu mewn anhrefn, creulandeb a thy- wallt gwaed y fath na wybuwyd yn y ganrif ¡ hon, a mynegu ein penderfyniad i ymattal rhag cymmeryd rhan yn etholiad neu weith- rediadau y cyfryw Senedd, awdurdod pa un, os byth y sefydlir hi, a fyddwn dan orfod i'w wrthod; ein bod yn gwrthdystio yn erbyn i'r ewestiwn pwysig hwn, yr hwn sydd yn cynnwys ein bywydau, ein heiddo, ein hawliau gwladol, gael ei drin fel am- gylchiad ochrog yn unig yn yr ymdrechfa etholiadol sydd yn agosau; ein bod yn ap- pelio at y rhai hyny o'n eydwladwyr sydd wedi bod hyd yma yn ffafr Senedd wahanol i roddi i fyny gais a wna yn anobeithiol ranu y Gwyddelod, ac uno a ni dan y Llywodraeth Ymherodrol i ddadblygu ein hadnoddau ac hyrwyddo buddiannau goreu ein gwlad yn gyffredinol." Dywedodd, Ein teyrngarwch i'r Orsedd, ein dymuniad am heddwch a chynnydd, ein cariad at ryddid gwladol a chrefyddol, ydyw y rhesymau am ein cyfarfod yma heddyw. AMCAN Y GYNNADLEDD. Mae y gynnadledd hon o 10,000 o gyn- nrychiolwyr teyrngarol Ulster wedi cyfarfod gydag un amcan yn unig, sef peri i lais y dalaeth lwyddiannus ac heddychol hon gael ei glywed trwy yr holl deyrnas, ac i fynegu i'n cyd-deyrngarwyr, etholwyr Lloegr ac Ysgotland, na wna sefydliad Senedd yn Nublin ond dinystrio yr heddweh a'r dyogel- weh a fwynheir yn awr trwy holl Iwerddon, ac y gwna gam dirfawr a'r bobl, unig fai y rhai ydyw eu teyrngarwch i Prydain Fawr au balchder o gael bod yn gyfranog o'i mawredd. Wrth gynnal y gynnadledd hon nid oes ynom feddwl gwan ac anwireddus, i ddefnyddio iaith fygythiol neu herfeiddiol, nac unrhyw deimlad o ddigofaint tuag at ein cydwladwyr, y Pabyddion (clywch, clywch). Nid ydym yn chwennych unrhyw uwchafiaeth; nid ydym yn gofyn am ddim i ni ein hunain ar wahan iddynt hwy; yn unig yr ydym yn gofyn am i'r gallu Ymher- odrol, heb ei wanychu, gael aros, fel y gallu llywodraethol uchaf yr oil o'r Deyrnas Gyfunol (cymeradwyaeth). Yr ydym yn diystyru y ffroenwawdiau a'r gwaradwyddau o annelir yn awr at deyrngarwch Ulster gan wladweinwyr o safle uchel o'i gymharu a'i hysbryd ganrif yn ol. Y mae yr Iwer- ddon er ys amser bellach wedi cael y cyf- iawnder a'r rhagorfreintiau a wedid iddi y pryd hwnw, a phobl yr amseroedd hyny, pe buasent gyda ni yn awr, a fuasai y blaenaf yn cymmeryd y rhan yr ydym ni yn ei chymmeryd heddyw (clywch, clywch). Nid oes gan yr Iwerddon yn awr gamweddau i'w symmud, a phe byddai pobl Lloegr ond ymweled a'r Iwerddon, fel y maent yn ym- weled ag Ysgotland, caent weled mor wir ydyw y geiriau hyn, a pheidient sylwi ar gamddarluniadau y celgenadon Seisonig hyny sydd yn dyfod trosodd yn lies cyff- road, terfysg, ac anlywodraeth (cymeradwy- aeth). SEFYLLFA ULSTER. Oddi ar yr Undeb, y mae Ulster wedi sym- mud ym mlaen gyda y fath gamrau diysgog, na flaenorir gan unrhyw ran arall o'r Deyrnas Gyfunol, ac yr ydym yn hawlio cael ein cyn- nrychioli yn gyflawn yn y Senedd Ymherodrol, i amddiffyniad yr hon yr ydym yn ddyledus am ein llwyddiant. Paham y dylem gael ein gyru o honi (clywch, clywch)? Ni wnaeth aelodau teyrngarol Ulster erioed rwystro, erioed wastraffu amser, ond a roddasant was- anaeth ffyddlawn a goleuedig er hyrwyddo deddfwriaeth lesol i'r holl deyrnas, a than amddiffyniad y senedd hono y mae ein heiddo wedi eu gosod allan, a'n llafur weithfaoedd eu sefydlu a'u hymgeleddu. Nid ydyw hwn yn achlysur i ailadrodd ffigyrau i brofi ein llwyddiant, a pha faint sydd genym i golli trwy unrhyw gyfnewidiad yn ffurf ein llywodr- aeth a ddygai oddi amgylch anymddiried ac ansefydlogrwydd. Dangosodd Mr. Sinclair, ychydig fisoedd yn ol, pa fodd y gwnaeth ond cysgod Ymreolaeth Gartrefol 1886 ddar- ostwng gwerth stocks y banciau a'r Rheil- ffyrdd saith miliwn o bunnau yn yr Iwerddon, a byddai i bob llafurwaith gael ei andwyo yn gyffelyb (clywch, clywch). Gallai Mr. Glad- stone ddywedyd y byddai i hyn oil adferu, ac y byddai cyfalaf eto yn dyfod i mewn, fel y gwnaeth yn y gorphenol, ond pa fodd yr ad- ferai os byddai yr Iwerddon mewn sefyllfa o derfysg parhaus, neu pe y byddai yn wybyddus gan y byd fod Ulster yn cael ei chadw rhag ailwirio ei theyrngarweh, yn unig gan yr holl allu a allasai Lloegr ac Ysgotland ddefnyddio. Y mae parhad ein llafur-weithfaoedd a gwas- anaeth ein pobl yn ymddibynu ar i'n credid cyffredinol a masnachol gael ei gadw yn ei safle uchel presennol. Y maent yn ymddi- bynu y byddai y cyfalaf casgledig yn ddiogel oddi wrth ymosodiad, ac y byddai i'r cyfalaf oddi allan barhau i redeg i fewn i fuddsoddiad trwy ryddbad oddi wrth drethiad lleol afres- ymol, yr hyn yn ddiddadl a fyddai unig gyrchle Llywodraeth wastraffus ac anweith- adwy (cymeradwyaeth). A ydyw yn achos rhyfeddod fod ein pobl yn wyneb etholiad cyffredinol yn cael eu cynbyrfu i siarad cyn ei bod yn rhy ddiweddar, ac amddiffyn eu hunain oddi wrth y cyhuddiad o beidio un amser wneuthur mynegiad eglur a diammheuol o'u golygiadan ar y cyfnewidiad a gynnygir ? Yr ydym wedi ennill ein safle trwy gyfryngau syml sydd yng nghyrhaedd pawb, nid trwy ffafrau hinsawdd neu frasder tir, nid trwy ffafraeth neu gymhorth neillduol oddi wrth unrhyw Lywodraeth, ond trwy ddiwydrwydd eyffredinol a dyfalbarhad, trwy farchnadaeth anrhydeddus a chadwad cyfundebau, trwy ddefnyddio ein holl amser, fel na byddai lie wedi ei adael i epil sicr diogi—y eyffroa- dur a phregethwr anfoddlonrwydd a therfysg (clywch, clywch, a chymerad- wyaeth). Yn sicr llais y rhan heddychol a diwyd o unrhyw wlad lie y mae gwahan- iaeth yn bodoli, a ddylasid gael ei wrandaw gan wladweinydd yn ei ymwneyd a chyfnewid- iad chyfansoddiadol. Y mae pobl Lloegr ac Ysgotland yn bobl ddiwyd ac ufudd i'r gyf- raith—fel ninnan mewn cymmeriad, teyrngar- weh, a chariad at ryddid. A allent hwy am foment ddioddef y cynnygiad fod y gallu deddfwriaethol a gweinyddiadol, yr hwn gyda sicrwydd hollol a ddefnyddid i ymyraeth a'u rhyddid meddwl a gweithred, rhyddid y wasg, eu masnach, addysg eu plant, en hargyhoedd- iadau a'u ymarferiadau crefyddol, gael, trwy drais, ac yn erbyn eu hewyllys ei drosglwyddo i gorff llywodraethol, tri o bob pedwar o'r cyfryw i'w dewis o ddynion gwrthwynebol iddynt mewn teimladau a bnddiannau ? Yr Aelodau Cenedlaethol, y rhai sydd yn awr yn arwain Mr. Gladstone, a fuasai prif aelodau senedd Dublin. Byddai tynged Ulster wrth draed y bobl a gynnrychiolent hwy, ac os ydyw cof ein cyd-deyrngarwyr yn Lloegr a Ysgotland mor fyr, nis gallwn ni yn Ulster anghofio y gweithredoodd anfad o greulonder ar wyr a gwragedd, yn erbyn y cyfryw ni wnaeth yr aelodau hyn erioed yngan yr un gwrthdyst- iad, y mynych ac anolrheinadwy lofrudd.. iaethau, teyrnasiad anonestrwydd a gormes yr hwn a ymledai fel pla, gan gadw yr holl siroedd mewn stad o drueni a braw, hyd onid yn y diwedd, nad allasai pobl Lloegr ei ddioddef ym mhellach, ac adferwyd trefh trwy ddefnydd- iad o'r gallu ymherodrol hwnw sydd raid ei wadn i ni er mwyn boddloni pleidwyr Gwydd- elig presennol Mr. Gladstone. Nid ydyw ein penderfyniadau yn myned yn rhy bell pan y dywedant y bydd awdurdod senedd, mwyafrif yr hon fydd yn gyfansoddedig o aelodau fel y rhai hyn, i'n gyru ni i'w wrthod. Y mae y Llywodraeth bresennol wedi profi y gellir dwyn yr Iwerddon o sefyllfa o aflywodraeth i sefyllfa o lonyddwch heb Senedd Ymherodr- aeth Gartrefol. Yr ydym yn bysbysu pobl Lloegr nad oes mwy o ymyraeth a phobl a ufuddhant y gyfraith yn yr Iwerddon, nag sydd yn siroedd Lancaster a York heddyw (clywch, clywch). Trwy gyfiawnder a sefydl- ogrwyd y mae y gyfraith yn cael ei pharchu, ymwybyddiaeth o ddiogelwch yn cael ei deimlo gan bob dosbarth, ac nid oes yn awr unrhyw ddyn mewn carchar yn yr oil o'r Iwerddon, dan ddarpariaeth unrhyw ddeddf, ond deddf gyffredinol yr holl deymas (cymeradwyaeth). Bydd raid, ym mhen ychydig ddyddiau, i'r wlad benderfynu pa un o'r ddwy wladlywiaeth tuag at yr Iwerddon, a fabwysiada-gwlad- lywiaeth y Llywodraeth Undebol i ganiatau i'r Iwerddon yr hyn y mae wedi ei ganiatau i Loegr ac Ysgotland, pob rheolaeth dros ei hamgylchiadau Ileol, ag y gall pobl resymol ei ddymuno; ynte, wladlywiaeth Mr. Gladstone, i roddi i rhai, a eilw efe yn bobl yr Iwerddon, ei gynllun annadguddiedig, i'w galluogi i ffurfio cyfreithiau, a'u hargymhell trwy eu gweinyddiaeth eu hun. Hwn ydyw y cwest- iwn gwirioneddol a fydd gan yr etholwyr i'w benderfynu, ac nis gellir ei drafod fel cwestiwn naill-ochrog, neu eu gadw o'r golwg gan gwestiynau llai yn yr etholiad cyffredinol (clywch, clywch). Yr ydym yn gwybod am allu anferth y senedd; ond nerth ein safle ni ydyw y wybodaeth, er efallai y gall fod hawl neu allu cyfansoddiadol i alw yn ol Gyf- raith yr Undeb a'n tori ymaith yn hollol oddi wrth y Deyrnas Gyfunol, nad oes y fath hawl neu allu i'n gorfodi i drosglwyddo ein teyrn- garweh i unrhyw awdurdod arall ond yr hon yr ydym yn foddlongar ac yn hapus ufuddhau iddi (cymeradwyaeth). CANLYNIADAU YMRHOLAETH GARTREFOL. Yr ydym yn credu fod Prydain Fawr yn llawn mor argyhoeddedig a ninnau, y rhaid i'r Undeb a'r Iwerddon gael ei gadw, ac mai ei ddiddymuniad a fyddai y cam marwol cyntaf tuag at ddadgyfaniad mwy. Y mae genym hawl i siarad oddi ar wybodaeth, nad allant hwy feddu, ac i'w rhybuddio hwy, os o dan wladweinyddiaeth gamarweiniol y sefydlant Senedd Wyddelig, yr hon a foddlona blaid yr Ymreolaeth Gartrefol, ac os llwyddant mewn ddefnyddio byddinoedd y frenhines i guro i'r llawr bobl yr unig dalaeth deyrngarol yn yr Iwerddon, bydd rhaid iddynt wynebu cam pellach anocheladwy o adael i'r Iwerddon fyned yn hollol. Gallai peth gwaeth ddygwydd i Ulster na'r fath dynged, ond ymdrechwn yn erbyn y fath gwrs tra y byddo unrhyw allu yn ein meddiant i'w wneyd (cymeradwyaeth). Gall y deyrnas hon tra y byddo yn unedig mewn calon a gweithred gwrdd holl beryglon goresgyniad gartref, eiddigedd neu deimlad gelynol oddi gartref; ond pa orfoledd mwy a all fod i blaid neu genedl a fyddo yn ewyllysio gweled mawredd Lloegr yn cael ei darostwng, na dyfais i ddadnno ei phobl deyrngarol ? Nid adawai geirian Arglwydd Burleigh byth ein meddwl, sef "Nis gall Lloegr byth gael ei dinystrio ond gan Senedd." GORMES OFFEIRIADOL. Dywedais nad ydym yn coleddu teimlad digofus tuag at ein cydwladwyr Pabaidd, ac yr ydym yn hawlio yr un rhyddid crefyddol iddynt hwy ag yr ydym yn hawlio i ni ein hunain (clywch). Y mae dosbarth helaeth o honynt hwy yn cyfranogi gyda ni o wir seili- edig ofn yr ormes offeiriadol, yr hon yn ddiau a ganlynai sefydliad Llywodraeth o Ymreol- aeth. Y mae Mr. Morley wedi gofyn, Pa beth sydd ar y bobl yma yn Ulster ei ofn ? A ydyw efe yn gwybod, ac a wyr y Saeson, fel yr ydym ni yn gwybod yma, yr hawliau sydd yn cael eu gwneuthur gan y gallu offeiriadol yna 1 Nid ydyw yn gosod terfynau ar ei bawl i gyfarwyddo a llywodraethu holl faterion, bydol a chrefyddol yn gyffelyb, ael- odau yr Eglwys. Nid ydyw yn goddef un- rhyw hawl i farn bersonol, oblegid y glwys- beniaeth yn unig a all benderfynu pa beth sydd er llesad yr Eglwys. Ar yr unig bwnc hwn o ormes offeiriadol gadewch i mi ddarllen i chwi ychydig eiriau o eiddo awdurdod pwysig sydd yn fyw:—" Y mae awdurdod offeiriadol a phob awdurdod bleidiol wedi cael ei dad- blygu, a'i dadblygu, a'i dadblygu, tra y mae yr holl ryddid meithrinedig yna wedi cael ei ddifrodi a'i fygythio, ei gabanu a'i gaeth- iwo, ei deneuo a'i newynu, trwy bangau a rhuthrau llwyddiant a methiant dros amser, ond gyda Ilwyddiant ar y cyfan mor bender- fynol ym mlaen tuag at ei amcan, a'r hyn y mae rhai penboethiaid yn feddwl a welant yn symmudiadau dynoliaeth yn gyffredin." "Sicrhau hawliau ydoedd ac ydyw amcan gwareiddiad Cristionogol; eu dinystrio a chadarnhau gwaith anwrthynadwy ac ar- glwyddaidd, gallu hollol ganolog ydyw amcan y weinyddiaeth Babaidd. Rhy fawr a rhy hir mewn amseroedd ereill yw y duedd hon ynddi; ond y mae yr hyn oedd ei phechod parod i'w hamgylchu wedi dyfod yn awr, mor bell ag y gall dyn ei wneuthur, ei rheol ddiledrith a diattal o weithrediad a deddf bywyd ydyw." Y geiriau hyn ydymt eiriau Mr. Gladstone, a dylasent ar y pwnc hwn fod yn ateb digonol i Mr. Morley (clywch, clywch). Yr ydwyf yn gadael y pwnc hwn, ac ni wnaf gadw eich amser ond am ychydig ym mhellach. Fe'n cyhuddir o fod yn gynnadledd o bleidgarwyr a phen- boethiaid ("na"). Nid oes wir, modd bynag, yn y cyhuddiad. Mae y rhif mwyaf o'r rhai a gymmerasant y rhan flaenaf yn ei chychwyniad a'i threfniadan yn ddynion fel fy hun, cynnygydd y penderfyniadau yma, a Mr. Sinclair, yr hwn sydd yn fy nghanlyn, na fu erioed yn gyssylltiedig ag unrhyw fudiad eithafol pleidiol. Dywedir wrthym yn wawdlyd fod cyfarfodydd mawr- ion wedi eu cynnal, rhyw ugain mlynedd yn ol, a geiriau cryfion wedi eu defnyddio, gan lawer o bobl yn Ulster, ac i'r teimlad ddiweddu yn y fan, ac mai felly y bydd eto; ond y mae y mudiad hwn o eiddo y bobl yn hollol wahanol (clywch, clvweh). Yr oodd y teimlad y pryd hwnw yn gyfyngedig i un enwad, ac yr oedd y pwnc yn un o ddyddor- deb enwadol. Yn awr, holl deyrngarwyr Ulster sydd wedi eu hasio yng nghyd gan berygl cyffredin, yr hyn sydd wedi achosi i bob gwahaniaeth credo a phlaid gael ei anghofio. Y mae Rhyddfrydwyr pybyr a Cheidwadwyr cedyrn yma ochr yn ochr; Esgobyddion a Phresbyteriaid, Methodist-