Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

DADGORPHORIAD Y SENEDD.

News
Cite
Share

DADGORPHORIAD Y SENEDD. ADOLYGIAD A RHAGOLYGIAD. Y mae tri prawf eithaf cynnefin trwy ba rai y gellir gwybod pa un a fu Llywodraeth yn llwydd- iannus neu beidio, a'r profion hyn yr ydym yn awr yn bwriadu gymhwyso tuag at y Weinyddiaeth Undebol a ddaeth i swydd o dan Arglwydd Salisbury yn 1886. Y cyntaf yw prawf amser. yn ail yw prawf gwaith a'r trydydd yw prawf y gost neu draul mewn dynion i'r blaid mewn Iwydd. Gan roddi y peth mewn ffurf arall, y cwestiynau i w hatteb ydynt-Pa mor hir y bu y Llywodraeth yn alluog i gadw ei gafael yn y senedd a'r w!ad I Pa flisurau deddfol a ddygodd hi i weithrediad yn y cyfamser ? Ac mewn cryfder rhifyddol, pa fodd y mae y Weinyddiaeth yi cydmharu a r hyn oedd pan ddaeth i swydd I Y mae n ddigon hawdd i feirniaid pleidiol godi eu lief yn erbyn y Weinyddiaeth hon neu'r Hall, ac i'w chyhoeddi yn fethiant, yn unig end o herwydd nad yw yn boddloni y sawl, gorch yl pa rai ydyw ei gwneyd yn fethiant. Ond os yw "appêl at y wlad yn wirioneddol, yr hyn yr honir ei fod, sef appel at farn ammhleidgar yr etholwyr, y mae yn rhesymot i ni gymmeryd yn gaaiataol y bydd i'r etholwyr farnu y Llywud- raeth ar y dystiolaeth a gyflwynir gan eu cofrestr am y tymhor y buont mewn swydd. Yn awr, y mae y prawf cyntaf a nodwyd, sef PRAWF AMSER, neu y tymhor y buont yn gwasanaethn, yn amlwg o ochr y Weinyddiaeth Undebol. Daeih y senedd hon yng nghyd Awst 5e8, 1886. Gan gymmeryd hwn fel dydd ei geuedigaeth, byd" iddi gyrhaedd chwech oed ar y 5ed Awst, 1892, hyny yw. mewn amryw ddyddiau llai na phutii mis. Nid oes yr un rheswm i gredu y bydd i'r dadgorfforiad gymmeryd lie cyn y pryd hwnw. Gan nad oes neb yn dysgwyl y cymmer le cyn y Pasc, ni fydd bywyd o bum mlynedd ac wyth mix yn ddirmygus. Y mae yn rhaid caniatau fod gweinidog, yr hwn a fu yn alluog i gadw y senedd yng nghyd am chwech mlynedd neu agos, yn meddiannu ymddiried ei blaid i radd uchel, ac nid hyny yn unig, ond, fel y dangoswn rhag llaw, ymddiried y wlad hefyd. Fel enghraifft, er pan esgynodd y Frenines i'r orsedd, y mae un- ar-ddeg senedd newydd wedi hanfod, heb law yr un bresennol. 0 ba rai bu senedd Arglwydd Palmerston, yr hon a etholwyd yn 1859, fyw chwech mlynedd un mis a chwech diwrnod a bu senedd 1874 Arglwydd Beaconsfield fyw chwech mlynedd ac ugain diwrnod y drydydd o ran hyd oedd y senedd a ymgyfarfu yn 1841, yr hon a barhaodd bum mlynedd unarddeg mis a phedwar diwrnod. Ni fu senedd Mr Gladstone, 1880, fyw ond pum mlynedd chwech mis ac ugain diwrnod, neu bymtheg diwrnod yn fyr o fywyd yr un bresennol hyd yn awr. Yn nesaf, daw senedd 1868, gyda bywyd o bum mlynedd un mis ac un ar bymtheg diwrnod ac nid oes un yn ychwaneg o fewn y teyrnasiad wedi cyrhaedd pum mlynedd. Gan gymmeryd yr unarddeg senedd gyda'u gilydd, cyfartaledd eu hyd fu ychydig yn fyr o bedair blynedd a thri mis. Cymmeryd pethau felly, y mae y Senedd Undebol eisoes wedi gor-fyw cyfartaledd y rhai o fewn y teyrnasiad presennol, dros flwyddyn a phedwar mis pan na fu ond tair senedd allan o'r deuddeg fodoli yn hwy a gall hon eto o ran hyny gyrhaedd y trydydd lie. Yng ngwyneb y fligyrau hyn, ym- ddengys yr hyn a draethodd Syr W. Harcourt mewn joke yn Blackheath y noswaith o'r blaen yn ffolineb carnol. Pan y mae y boneddwr hwn yn cellwair yng nghylch y senedd yn toddi ymaith fel lwmp o siwgr mewn dysgl de," y mae yn gyfleus anghufio am y senedd ddiweddaf, yr hon y bu gydag ef i ymwneyd a hi, iddi doddi allan o fodolaeth mewn llai na chwech mis. Gan farnu felly oddi wrth y prawf cyntaf-amser-y mae y canlyniad yn eglur yn ffafr senedd Undebol 1886. PRAWF GWEITHREDOEDD. Yn awr, gadawer i ni fyned at yr ail brawf, sef prawf gweithredoedd, a pha fodd mae y cyfrif yn sefyll ? Ni fyddai o un dyben i ni roddi rhestr yn unig o'r deddfau a basiwyd o fewn y chwech mlynedd diweddaf. Yr oeddynt nid llai na thri- ugain ac un-ar-bymtheg yn y senedd ddiweddaf, a rhoddi cyfres rhwng 400 a 500 e fesurau fyddai ym mhell tu hwnt i'n gofod. Ymfoddlonwn ar enwi y mesurau mawrion aphwysig hyny drwy ba rai y bydd raid i'r Weinyddiaeth Undebol sydd mewn swydd fod yn foddlawn i gael eu barnu gan y wlad. Agorwyd eu senedd gyntaf yn Hydref, 1886, ond yr oedd yn rhy hwyr y pryd hwnw i ddyfeisio cynllun o ddeddfwriaeth. Yr oedd yn angenrheidiol, dywedodd Arglwydd Salisbury, i astudio yr jrchest o'u blaeu yn ofalus cyn amlygu eu gwladlywiaeth gyda manyirwydd. Etholwyd nigydasz un arch a chyfrifuldeb penodul, sef amddiffyn yr undeb,"meddai ''ac i r gorchym- myn hwnw y byddai i'r Llywt)draeth gyasegru eu hunain." Yn yr ail senedd, sef 1887, pasiwyd Gweithred y Marciau Masnachol, yr hon svdd wedi profi gymmaint o les nid yn unio- i'r def- nyddiwrcyffredinol,oud i'r cynnyrchwr Prydejuig, yr hwn a gafodd amdddiffyn yn erbyn cystadleu- aeth nwyfau israddol tramor, y rhai a ddarlunid yn dwyllodrus fel cynnyrchion Prydeinig Yn yr un senedd, cafodd Gweithred y Gweithiau Glo ei phasio, ac hefyd Gweithred y Cyfnewid- iadau (Truck Act), yng nghyd a Gweithred y Cymdeithasau Cyfeillgar, yr oil o'r buddioldeb mwyaf i'r dosbarth gweithiol; Deddf y Tir, yn estyn telerau gweithred Arglwydd Ashbourne yn yr Iwerddon Gweithred y Man-ddaliadau drwy ba un y mae 100.000 o lafurwyr wedi eu darparu a man dyddynod; a Gweithred y Drwg- weithredwyr enbydus, o dan ba un y mae yr Iwerddon wedi cael ei gwaredu o drosedditu mawrion a chyrhaedd sefyllfa o drefn gymdeith- asol a ffyniant i raddau na welwyd eu cyffelyb o fewn y ganrif hon. Y drydedd senedd, sef 1888 a gyssylltir dros byth ag enw Mr Ritchie, am ei ymgais lwyddiannus i sefydlu cynghorau etliol- edig a chynnrychiolawl dros siroedd Lloegr a Chymru. Pe ond y mesur hwn ei hun yn unig, byddai yn ddigon o gofadail bythol i un senedd! Gellir, beth by nag, ychwanegu ato Weithred LIya y Man-ddyledion gyda gwelliant cyfraith Atafaeliad am ardreth—y ddau o werth mawr i gyfran helaeth o'r cyhoedd. Y btdwaredd sessiwn oedd 1889, yn ystod yr hon yr estynwyd Llywodraeth Leol i siroedd Ysgotland y sefyd- lwyd Gweinidog Amaethyddiaeth pasiwyd gweithred i attal creulondeb at blant a elwir yn gyfiawn' Breintlen y Plant;" Deddf yn gorchymmyn rhoddi rhybudd yn achos clefydau heintua deddf yn darbod gofal a thriniaeth mwy dynol o'r gwallgofiaid ac yn ddiweddaf, dwy o ddeddfau addysg—un yn rhoddi addysg gan<>l- raddol i Gymru, a'r llall yn darbod cyfundrefn o Addysg Gelfyddydol i Loegr. Y mae hyn yn ein dwyn i'r burned sessiwn, un 1890, gyda'i darpar- iadau gwerthfawr er sicrhau gwell anneddau i'r dosbarth gweithiol cyfraith well yng nghylch methdalwyr; mesur er rhyddhau perchenogion stadoedd cloedig (entailed) ac un yn darbod blwydd-daliadau priodol i Heddgeidwaid, eu gweddwon a'u plant. Gan ddyfod i lawr i 1891 yr ydym yn gallu enwi Gweithred Tir yr Iwer- ddon Gweithiecl Addysg Rydd, a Gweithred y Degwm, pob un o bwysigrwydd anferthol, ac yn arddangos ymgais ddeddfwrol fawr a llwyddiannus. Gallwn ychwanegu y gyfraith mewn perthynas i'r ariandai cynnilo, o fuddioldeb mwyaf i'r dosbarthiadau gweithiol drwy amddiftyn a sicrhau eu cyfraniadau a gweithred y llaw-weithdai, nid yn unig er gwella sefyllfa ac amgylchiadau y gorchwylion o'u mewn, ond yn rhoddi amddiffyn y gyfraith i blant drwy estyn yr oed un flwyddyn ym mhellach. Yr ydym wedi gadael allan lawer o fesurau dim llai eu pwys, hyd y nod mewn rhestr ddetholedig; ac hefyd, ni ddywedasom ddim yng nghylch y cynnygiadau arianol a effeithiwyd o fewn y chwech mlynedd adiweddaf, nac hefyd mewn perthynas i faterion Ymherodrol tu allan i'r Deyrnas Gyfunol. Ni wnaethom ond cymhwyso yn fra.s i'r senedd bresennol y prawf o waith deddfwrol ac yn awr, yr ydym yn myned ym mlaen i gymhwyso y trydydd prawf, sef Y DRAUL I'R LLYWODRAETH MEWN CYNXOR- THWYWYR SENEDDOL. Pan etholwyd Ty y Cyffredin presennol, cryf- der y pleidiau oedd fel y canlyn :—Ceidwadwyr, 317; Rhyddfrydwyr Gladstonaidd, 193; Parnel- iaid, 85 ac Undebwyr Rhyddfrydol, 75. Gan roddi y Ceidwadwyr a'r Undebwyr Rhyddfrydol yng nghyd fel cefnogwyr Sweinyddiaeth Arglwydd Salisbury, a'r Rhyddfrydwyr Glad- stonaidd a'r Parneliaid fel eu gwrthwynebwyr cawn bleidlais y Llywodraeth yn Nhy y Cyffredin yn 392, a phteidlais wrthwynebol o 278, neu fwyafrif y Llywodraeth o 114. Pan gydgyfarfu y aenedd eleni, hawliodd y gwrthwynebwyr eu bod wedi sicrhau ennill un-ar-hugain o seddau; a gan roddi iddynt y fantais o unrhyw aminheuaeth bydded hyn i fod, gadawai hyn gyfansoddiad y pleidiau ar ol pum mlynedd a hanner o ymladd fel hyn Dros y Llywodraeth, 371; yn erbyn, 299 neu fwyafrif i'r Llywodraeth o 72. Dyna yr ydym yn credu yw yr agwedd waethaf ym mha un y gall y gwrthwynebwyr ddangos sefyllfa y Weinyddiaeth yn bresennol, Yn awr am gym- hariaeth. Yn y rhaniad, yr hwn a osododd Mr Gladstone mewn swydd Chwefror 6ed, 1886, yr oedd dros welliant Mr Jesse Collings yng nghylch Cyfraniadau (Allotments), 329 yn erbyn (hyny yw, dros y Llywodraeth Geidwadol pryd hwnw), 250, neu fwyafrif Gladstonaidd o 79. Ond yr oedd sefyllfa Mr Gladstone yn well na hyna. Yr oedd etholiad 1885 wedi rhoddi mwyafrif iddo (gan gynnwys y Parneliaid) o 168 uwch law y Ceidwadwyr. Gyda'r mwyafrif yna ymgymmer- odd Mr Gladstone a'i Weinyddiaetho Ymreol- aeth Gartrefol." Ar y 6ed o Mehefin, cymmer- odd y rhaniad gorbwysig ar ail ddarlleniad y mesur Ymreolaeth Gartrefol,' pan y pleidlesiwyd fal hyn :-Dros y Llywodraeth, 313; yn erbyn, 343. Mewn geiriau ereill, yn union mewn chwe mis, newidiodd Mr Gladstone ei fwyafrif ei hun o 168 i leiafrif o 30. Yn awr, beth am y mwyafrif 1. yn toddi fel siwgr yn y ddysgl de yn yr am- gylchiad yna ? Cymmorer enghraifft ym mhellach o r hyn eill ddygwydd i blaid Gweinyddiaeth, ac yn yr amgylchiad hwn mewn ffurf o doddiant mwy graddol. Cymmerodd Mr Gladstone swydd yn 1880, gyda mwyafrif o Ryddfrydwyr dros y Ceidwadwyr a'r Parneliaid yng nghyd o 56 neu ynte rhodder y Parneliaid at y Rhyddfrydwyr, fe gychwynodd Mr Gladstone ei Wt-inyddiaeth -yda'r mwyafrif mawro 178. Ar yr8fed Mehefin, 1885, pan y rhanwyd y Ty ar welliant Syr M. H. yng nghylch y Budget, y pleidleisiau oeddynt— dros y Llywodraeth, 252, yn arbyn, 262. Mewn pum mlynedd dyma'r mwyafrif mawr o 178 wedi 'toddi" i leiafrif o 10. Nid ydym yn dewis pwyso ar foeswera y ffigyrau hyn yn rhy drwm. Y ewbl y bwriedir iddynt amlygu yw fod Llywod- raeth, yr hon ar ol pum mlynedd a hanner o swydd a all reoli mwyafrif o 70 o bleidleisiau yn Nhy y Cyffredin, er gwaethaf rhai etholiadau gwrthwynebol yn y wlad, yn deilwng i ddal cymhanaeth ag un o ddwy Weinyddiaeth rag- fiaenol, yr hon mewn un achos ar ddiwedd pum mlynedd, ac yn y llall ar ol chwe mis, a gollodd ei gafael ar Dy y Cyffredin, achurwyd hi yn drwm drwy enciliad ei chynnurthwywyr ei hun tnewn enw. Gan fod y pethau hyn felly, a ellwn ni ddim hawlio ein haeddiant i ymddiried y wlad ar sail y tri phrawf a wnaethom gymhwyso i'r Llywodraeth Undebol sy'n awr mewn awdurdod ?

DARKEST WALES.

PENBRYN.

- ABERAYRON.