Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

12 articles on this Page

NODIADAU YR WYTHNOS.

News
Cite
Share

NODIADAU YR WYTHNOS. GELYNIAETH AT YR EGLWYS. Pan mae Cristionogion yn ymosod ar naill y llall, mae yr anffyddiwr, yr annuw, yn crechwenu, ac yn dangos a'i fys, mewn gwawd a dirmyg, yr ymrysonau sydd yn cymmerydlle. Yng Nghymru grefyddol, mae y Sectau yn casiiu eu gilydd; nia gall aelod o un sect ymgyfathrachu ag aelod o Beet arall ond maent fel Herod a Philat, yn gyfeillion, yn ymuno ac yn ymgyplysu yng nghyd, y ac ymuno a'u gilydd i ymosod ar yr Eglwys— Eglwys Crist a'i Apostolion, Eglwys y Seintiau a'r Merthyron-yr Eglwys a ddaliodd lamp yr Efengyl o'r oes apostolaidd i lawr hyd ein dyddiau ni, yn yr hon y cafodd yr Efengyl ei phregethu yn ei phurdeb cyn i gwmwl caddugawl Pabydd- iaeth ordoi ein gwlad, ac am gannoedd o flynydd- oedd cyn i'r ymrwygiadau a'r ymraniadau gym- meryd lie cyn i gapeli yr Ymneillduwyr ddyrchafu eu penau, a chyn i'r bobl fyned i Dan a Bethel i sugno llysfam afiach. Bu yr Eglwys yn heppian ac yn ddifywyd un amser, ond dyhunodd at ei gwaith ac mae diwygiad mawr wedi eym- meryd lie yn yr Eglwys, fel y rhagfynegodd y Parch. Daniel Rowland ar ei wely angeu, pan oedd ef yn swn ffrydiau yr Iorddonen. Mae yr offeiriaid diwaith wedi diflanu o Gvmru. a'u lie nid edwyn mo honynt mwy. Mae yr Egíwys yn estyn cortynau ei phebyll ym mhobman, mewn tref a gwlad. Pan oedd yr Eglwys yn y pant, nid oedd ymosodiadau yn cael eu gwneyd arni; ond gwelodd ei gelynion ei hod yn llwyddo, yn ad- ennill y tir a gollodd gan mlynedd yn ol. Cydfwriadodd yr enwadau a'r anffyddwyr yn ei herbyn ac wedi lladd yr offeiriadon, cefnogir lladron ac ysbeilwyr i'w hymddifadu o'i hiawn- derau, a gwneir ymosodiadau bryntaf a mwyaf anghristiouogol arni gan bersonau mewn diwyg cenadon hedd taenir yr anwireddau mwyaf dybryd a disail am dani. Darllenais mewn papyr newydd gwrth-eglwysig araith un Doctor Thomas, un o enwogion ac un o ddysgedigion Independia 11 y Fawr (nid ym yn gwybod ym mha athrofa, pa un ai yn Rhydychain, Caergrawnt, Bala, Aberhonddu, neu un o golegau America y cafodd y boneddwr dysgedig ei raddio ac nid yw o bwys i'r cyhoedd, canys y Doctoriaid Americanaidd sydd yn llanw Cymru). Dygodd Dr. Thomas yn y papyr a ddarllenodd gyhuddiadau chwerwon yn erbyn yr Eglwys. Nid oedd un sail i'r cyhuddiadau a wnawd ar antur. Ystyrir yr Eglwys," meddai, "yn wastadyn sefydliad aecularaidd." Mae hwn yn haeriad gwyr ereill llawn cymmaint, os nid llawer mwy, am yr Eglwys yng Nghymru na wyr Dr. Thomas. Ai Egl wys secularaidd roddodd ei Feibl i'r Oymro yn iaith ei fam ? Ai Egl wys secularaidd ddarfu gyfranu addysg grefyddol i'r plant? Gyda phob dyledus barch i'r Doctor, yr ym yn gwadu yr haeriad uchod, ac nid oedd y genedl Gymreig yn edrych ar yr Eglwys fel sefydliad secularaidd oddi gerth am ambell i ben- boethyn na all weled dim ond trwy spectol liwiedig y blaid neu y sect y perthyna iddi. Yn nesaf, dywedodd Dr. Thomas nad oedd neb yn myned i'r Eglwys ond yr ysgwier a'i ymddibyn- wyr. Dangosodd Dr. Thomas ei anwybodaeth o sefyllfa yr Eglwys yng Nghymru pan wnaeth ef y fath haeriad hollol groes i'r gwirionedd, ac yn gamarweiniol. Nid ysweiniaid a'u gweithwyr sydd yn cyfansoddi y cynnulleidfaoedd mawrion sydd yn addoli yn Eglwysi Caerdydd, Abertawe, a'r gweithfeydd. Mae yr haeriad olaf yn hen, ac wedi ateb y pwrpas lawer gwaith. Haerodd y diweddar Mr Henry Richard yr un peth lawerodd o weithiau, pan oedd ef yn gollwng ei fagnelau at y clochdy ac mae yr un haeriad fel ystor fasnach gan y Libertiniaid. Her iddynt i brofi nad oes neb yn myned i'r Eglwysi ond yr ysweiniaid a'r rhai sy danynt." Dywedodd yr un boneddwr nad oedd yr offeiriaid byth yn cael eu hystyried yn ddynion duwiol! Nid yw yr haeriad hwn yn wir fod y fath syniad yn cael ei goleddu am yr offeiriaid Cymreig. Gall fod offeiriaid an- nuwiol, a gall fod Annibynwyr annuwiol i'w cael. Rhyfyg ofnadwy mewn un dyn meidrol i gym- meryd arno i fod yn farnydd ar gyfiyrau pob] ereill. Y mae yr haeriad olaf yn arogli yn drwm o phariseaeth, yr hon oedd, "Nesadraw cyfiawn- ach ydwyf li na thydi." Edrychwch ar y ddau ddarlun. Yn Hull, yng nghymmanfa Eglwysig, cyflwynodd Undeb Gweinidogion yr Ymneilldu- wyr anerchiad i'r gynnadledd, yr hwn oedd yn anadlu teimladau gwir Gristionogol. Yr oeddynt yn llefaru yn barchus am yr Eglwys, a thalasant warogaeth uchel i ddysgeidiaeth a galluoedd yr offeiriaid. Cyflwynwyd anerchiad oddi wrth y Wesleyaid gan y Parchedigion Joseph Pasnett a W. Spiers. Dywedasant na allent anghofio eu tarddiad eglwysyddol, yr hwn a adawodd ei nod ar holl hanes y Wesleyaid. Pan yn credu iddyut gael eu tywys i'w sefyllfa bresennol gan law Rhagluniaeth ddwyfol, ac nis gallent feiddio encilio yn ol, eto yr oeddent yn mynwesu teim- ladau catholig at bawb sydd yn caru Crist yn ddiffuant, ac ymuno yn yr ymosodiad ar an- ffyddiaeth a bydolrwydd, y rhai sydd yn ym- ddwyn mor drahiius mewn cymdeithas yn ddi- weddar, oddi wrth pa un y mae y fath beryglon i'n crefydd sancteiddlan yn codi. Eu dymuniad diffuant oedd adgyfnerthu y cadwyn-dorchau oedd yn eu huno a'u gilydd yn yr ymdrech fawr ym mha un mae yr eglwysi Cristionogol yn cym- meryd rhan. RADICALIAID CAERDYDD A'R MAEROLIAETH. Nid oedd un o'r Radicaliaid Caerdydd yn foddlawn i fod yn faer y dref am y flwyddyn nepaf, am y bydd amryw gymdeithasau yn cynnal eu cyfarfodydd yng Nghaerdydd ac o ganlyniad, bydd yn rhaid i'r maer nesaf ddangos llettygarwch i'r ymwelwyr. Nid oedd un o honynt yn barod i wario eu harian ac yn yr argyfwng, pender- fynwyd gofyn i Ardalydd Bute, prif angor Caerdydd mewn caledi. Nid oes ond ychydig wythnosau er pan oedd Radicaliaid Caerdydd yn wiban yn irad am fod y cynghor trefol yn gwariu J6700 i addurno y dref ar yr achlysur o ymweliad Dug Clarence; ond nid oes un o honynt yn anfoddlawn i Ardalydd Bute, Ceidwadwr, i wario £ 7,000 er budd y fwrdeisdref. Nid yw y Radical- iaid yn haelionus ar ddim ond ar eu gwleidydd- iaeth orphwyllog, benrydd a dinystriol, o herwydd nid yw gwleidyddiaeth yn costi dim iddynt. Mae digon o Radicaliaid yng Nghaerdydd yn gyfoetliog. Pa le yr oedd Mr. Alfred Thomas, A.S., a Syr E. J. Reed, yr aelod seneddol ? Nid oedd un o honynt yn barod i ddattod llini- ynau eu cydau arian. Rhydfrydedd blaen-tafod yw y cwbl. Y DIWEDDAR "GLANFFRWD." Yn ychwanegol at y cofnodiad o'r bardd melus- ber hwn a ymddangosodd yn ein rhifyn diweddaf, cynnysgaeddwyd ni gan ein gohebydd a'r manylion canlynol mewn perthynas iddo. Brodor oedd Glanffrwd o blwyf Llanwonno, Morganwg, o'r hwn blwyf yrysgrifenodd ac y cyhoeddodd efe hanes dyddorol tua dwy flynedd yn ol. Fel llawer ereill yng Nghymru a gyrhaeddasant en- wogrwydd, bu orfod iddo yntau weithio ei ffordd i fyny yn erbyn lluaws o anfanteision ac an- hawsderau. Ym mlynyddau cyntaf ei oes efe a weithiai gyda'i dad fel torwr coed, ond cyn hod o hono yn ugain oed, ymgymmerodd a chadw ysgol ddyddiol yn Aberdar, a dechreuodd bregethu gyda'r Methodistiaid Calfinaidd ond efe a adawodd y corff hwnw ac ymunodd a'r Eglwys. Treuliodd beth amser yng ngholeg duwinyddol St. Aidan, Birkenhead, yn ymbarotoi ar gyfer y weinidogabth eglwysig, a thra yn y sefydliad hwnw, sef yn y flwyddyn 1874, efe a ennillodd gadair y Gordefigion, Lerpwl, am y bryddest oreu ar Bethlehem." Ar ol ei ordeinio, bu yn gwasanaethu mewn amryw leoedd fel curad, a thua wyth mlynedd yn ol, dyrchafwyd ef i fod yn ficer ym mhrif Eglwys Llanelwy. Yn ystod yr amser hwn cyrhaeddodd enwogrwydd mawr fel bardd a lienor, ac fel arweinydd eisteddfodol. Ar ol marwolaeth Mynyddog, dichon na ddaeth neb mor boblogaidd ag ef yn y cvmmeriad olaf. a I gwasanaethodd yn y rhan fwyaf o'r prif cistedd- fodau diweddar. Fel cystadleuydd eisteddfodol, ennillodd ond odid fwy o wobrau na'r un o'i gyd-feirdd yn ystod yr amser byr y bu ar y maes hwnw. Yn 1876, efe a ennillodd y brif wohr yn Eisteddfod Treherbert am gyfansoddiad ar y testy,, 11 Coiicwest Palestirit." Yn 188(5, llwydd- odd i ennill y gadair yn Eisteddfod Llanwrtyd, ar y testyn Y Dyfodol." Y flwyddyn 1887, fodd bynag, ydoedd bl y Myn euraidd ei fuddugol- iaethau, gan iddo ennill ynddi o gwbl dros 80p. Yn Eisteddfod Porthmadog y flwyddyn hono dyfarmvyd iddo 20p. a thlws aur am bryddest ar "Y Frenines Victoria," a'r un mis eilwaith ennillodd 40p. a thlws aur yn Eisteddfod lllndain, am ei bryddest ar "Yr Iaith Gymraeo- Ysgnfenodd gryn lawer i'r Gmnnen ar wahanol bynciau, ond nid ydym yn deall iddo gyfoethogi nemawr ar lenyddiaeth eglwysig ei wlad. Tuag ugain mlynedd yn ol, ysgrifenodd gyfres o lythyrau i'r Fellten ar "Hanesiaeth CWIlI Rhondda." Bn am ryw gymmaillt. o amser yn gwasanaethu fel dirprwywr dros y gangen I Gymreig o'r Feibl Gymdeithas, a darfu i'w hyawdl- edd yn dadleu achos y gymdeithas hono ennill iddo lawer o boblogrwydd fel areithydd cy- hoeddus. Fel mae yn hysbys, cymmerodd ei far- wolaeth le nos lau, Hydref 2ail, ym mhreswylfod ei frawd ym Mhontypridd, ei ardal enedigol, Ile y symmudasid ef o Lerpwl, ar ol bod o hono o dan driniaeth feddygol yn y lie hwnw. Ei afiechyd ydoedd parlysiad yr ymenydd. Cawsai ymosodiad tosto honoyn Aberhonddu y flwyddyn ddiweddaf, sef ar y Sul o flaen dyddiau yr Eisteddfod, a chydag anhawsder y gallodd fyned trwy y gwasanaeth arbenig a gynnelid yn hen Eglwys y Priory yn y dref hono. Y mae ei briod, yr hon a adewir yn weddw a thri o blant i alaru ar ei ol, yn gantores o radd uehel, ac adnabyddid hi gynt dai-i yr eiiw "Llinos y De." Mwy na lluaws ereill o feibion yr awen, ni fu llwybr Glanffrwd, druan, trwy fyd y gorthrymderau, yn un' o'r rhai mwyaf esmwyth a mwsoglyd, a chyfeiriwyd ato ami saeth oddi ar fwa yr athrodwr ond gan nad beth oedd ei golliadau (a phwy sydd yn lan oddi wrthynt?), dymunem gladdu y cyfan gyda'r hyn sydd farwol o hono, ac ar yr un pryd nis gallwn anghofio ei dalentau ysblenydd a'r gwasanaeth a wnaeth i achos llenyddiaeth ei wlad. Heddwch i'w lwch HELYNT TIPPERARY. Nid llawer sydd, fe ddichon, wedi talu sylw i'r achos o'r helynt yn Tipperary. Deuddeg mis yn ol yr oedd y Tipperary boys a'r lie yn dawel, heddychol, a llwyddiannus. Yr oedd y prif- dirfeddiannwr, ac un o'r rhai goreu, yn cael ei ardrethoedd heb un anghydfod. Yr oedd ei ddeiliaid yn llwyddiannus ac hapus. Nid oedd un cwmwl du rhwng y meistr tir a'i ddeiliaid. Ni feiddiodd gelynion mwyaf chwerw Mr Smith- Barry yn y cynghrair ei gyhuddo o fod yn feistr tir drwg. Gwyr y rhai sydd yn adnabyddus a Mr Barry yn breifat yn ddigon da ei fod yn un o'r dynion mwyaf calon-dyner ac haelionus yn y byd. Nid oes dim ychwaith yn ei fywyd cyhoeddus allan o le. Dyma oedd sefyllfa Tipperary flwyddyn yn ol. Nid oes yno heddyw ond dinystr ac anghyfannedd-dra, ac yn ymylu ar rhyfel cartrefol. Deiliaid wedi cael eu handwyo, tai ac ystrydoedd wedi cael eu gadael yn weigion, creulondeb cythreulig a dychrynfeydd ym mhob man, ac ymosodiadau a llofruddiaethau yn cael eu rhwystro gan bresennoldeb ugeiniau o heddgeid- waid a milwyr, a gorfodwyd y deiliaid i fyw ar flaen y cledd efo eu meistr, onid c boycottir hwy yn greulawn, a'u bywydau mewn perygl parhaus. Y fath yw sefyllfa Tipperary heddyw. Beth yw yr achos ? Mae yn rhaid i'r trigolion ddiolch i'r cynghrair sydd yn cael eu harwain gan William O'Brien a John Dillon, cnafiaid aflonydd, cyn- hyrfwyr proffesedig sydd yn byw argynhyrfiadau, y rhai sydd yn llusgo ar eu hoi ysbrydion aflan boycotyddiaeth a'r plan y rhyfelgyrch, y rhai "Y sydd wedi disgyn fel yr haint ddinystriol ar ardal oedd yn llwyddiannus. Mewn cyfres o areithiau ffaglyddol, ceisiodd Dillon ac O'Brien herio y gyfraith, ac adnewyddu sel pobl Tipperary oedd wedi diffodd o blaid y cynghrair, a gorfodi y rhai oedd yn sefyll allan yn erbyn boycotyddiaeth. Nid oedd eu hareithiau yn herio y gyfraith, yn ymosodiadau gwarthus ar bob trefn a chyfraith. Am hyny, penderfynodd y Llywodraeth Wyddelig eu herlyn am fygwth y bobl. Yn unol a'r gyf- raith, cawsant eu gwysio i sefyll eu prawf yn Tipperary Medi 19, a chymmerodd y drychlenoedd mwyaf gwaradwyddusyn y llys-dy a welwyd mewn un llys barn erioed o'r blaen. Yr achos fod y cynhwrf hwnw yn tynu cymmaint o sylw oedd, bod Mr John Morley yno, ac mae ef a'r ysgarwyr a'r rhwygwyr yn gwneyd coffyl brethyn o'r dygwyddiad i niweidio y Weinvddiaeth. Mae Tipperary wedi bod yn enwog am gynhyrfiadau, ac yr oedd y Parneliaid yn meddwl cael row dda mewn lie o'r fath. Y prif actwr yn y drama yno oedd William O'Brien, y stympiwr mobyddiaeth goreu yn y byd. Darfu iddynt gael Sais ar eu bach yno, fel y sylwyd genym yr wythnos ddi- weddaf—dim llai gwr na Mr John Morley, cyn- ysgritenydd yr Iwerddon, Gladstoniad, a chyn- aelod o'r Cyfrin-Gynghor yr oedd presennoldeb John Morley yn y roiv yn gaffaeliad mawr i ar- weinwyr y mob; y bechgyn a ftynau o ddrain duon yn barod i hollti penglogau yr heddgeidwaid pan allent. Rhoddodd y Tipperary boys groes- awiad cynhes i Morley. Yr oeddent yn bloeddio nerth esgyrn eu penau "Morley am byth." Gallesid meddwl y buasai cyn-aelod o'r cyfrin ol gynghor yn ymgommio bod yn arweinydd i'r fath haid ond yr oedd ef yn ei elfen yn Tipperary. Nid oedd y llys-dy yn Tipperary ddim ond lie bychan, dim ond 50 troedfedd wrth 30. Gorfu i'r heddgeidwaid gadw y drysan yng nghau er cadw yr howling mob o'r tu allan rhag iddynt lanw y llys. Gwrthododd yr heddlu roddi ffordd gorchymmynodd yr arweinwyr i'r mob ymosod ar y pyrth ufuddhaodd yr olaf, a gwrthwynebodd yr heddlu taflwyd ceryg, a rhoddwyd cwpwl o ergydion. Cafodd dau o'r mob eu clwyfo ar eu penau gan ffyn yr heddgeidwaid ond nichawsant ond eu haeddiant. Nid oedd yr ergydion dim ond rhai ysgafn er hyny, gwnawd merthyron o honynt ond nid oedd dim gair gan y philosoph- ydd Morley i'w ddweyd am yr hyn a ddyoddefodd yr heddgeidwaid. Gallasem feddwl mai dyled- swydd dyn o safon Mr John Morley oedd am- ddiffyn yr heddgeidwaid yn lie bod yn faich iddynt. Yr oedd ymddygiad y diffynwyr a'u cwnsleriaid tuag at y pen-swyddogion yn fwy tebyg i ellyll na dynion yn eu hiawn bwyll; ni chymmerodd dim mwy gwarthus le mewn llys barn mewn un gwlad sydd wedi ei gwareiddio. Ni feiddiai un o honynt ymddwyn yn y fath fodd yn Ffrainc. Germani neu America. Beth wnelai y Parneliaid pe byddai y gallu ganddynt ? Ni fyddai bywydau barnwyr na phen-swyddogion yn ddiogel, ac ni chelai un Protestant yn yr Iwerddon un siawns am chwareu teg dan y fath ddynion ag O'Brien, Dillon, Healy, a Harrington. Nid oes dim yn eisieu ond y gallu ac mae y Gladstoniaid a'u holl egni am roddi y gallu hwn yn nwylaw y Parneliaid. Y nefoedd a waredo yr Iwerddon rhag y fath adwyth ADDOLI Y SEISON. Dyma yw testyn erthygl a ymddangosodd yn y Geninen ddiweddaf, ac wedi cael ei hysgrifenu gan un sydd wedi cael ei raddio yn Rhydychain. Mae erthyglau yn arfer bod yn dda, ond mae hon yn eithriad ni fyddai y fath erthygl a'r un ym yn cyfeirio ati yn un adlewyrehiad i un wedi cael ei godi yn athrofa bol y clawdd. Baich ei gan yw fod y Cymry yn addoli y Seison, ac mae yr enghreifftiau a rydd ef o Sais-addoliad yn blentynaidd. Un peth yw darparu bathing macMucs mewn ymdroch-leoedd i'r Seison. Mae Cymru Fydd" a'i lleniadau yn addoli y G wyddelod-Mike Davitt ac ereill o'r un brethyn. Pa faint o wahaniaeth sydd rhwng Sais-addoliad a Gwyddel-addoliad ? Dim. Mae Gwyddel-addoliad wedi myned yn ffieiddbeth, drygsawrus, ac atgas i ffroenau y cenedloedd. Mae y Seison sydd yn cyfanneddti yng Nghymru yn gwneyd lies mawr trwy ddefnydio eu harian i ddadblvffu masnach ond ni chlywodd neb son i'r Parneliaid wneyd dim o'r fath beth eto hwy yw duwiau Cymru Fydd." MENYWOD BARFOO. Yn ol y Gwalia, am yr wythnos bresennol, deallwn mai un o'r merched barfog hynotaf ydyw Mrs Mayers, yr hon sydd yn 26 mlwydd oed, ac yn Americaniad o enedigaeth. Y mae yn fenyw hynod o ran ei harddweh, ac yn un oleu iawn o bryd a gwedd ond y mae ganddi farf gyflawn, a hono yn un hollol ddu. Y peth hynod yn ei chylch ydyw fod ei gwyneb fel eiddo plentyn hyd at ryw chwe' blynedd yn ol, pryd y gwnaeth y farf sydd ganddi yn awr ei hymddangosiad. Y fenyw farfog nesaf o hynodrwydd ydyw Susie Conard, 34 mlwydd oed. Y mae ganddi hi farf drom yn tynu ar y coch, tra y mae hi ei hun yn pwyso 300 pwys. Cafodd ei geni yn agos i Philadelphia, ac y mae yn cael ei harddangos o ran ei barf a'i maintioli. DAIARCRYNFA DDYCHRYNLLYD. Ar y 21fed cynfisol, ymwelwyda dinas Granada, Nicaraugua, gyda daiargrynfiiau, yr hyn a ddin- ystriodd ddinas o 15,000 o eneidiau, mwy neu lai. Yn gyntaf clywid swn fel swil taran gref yn y pellder, yn dyfod allan o'r dan-chwydda (vol- cano), yr hwn a ysgydwodd y ddaiar yn ysgafn, ond nid yn ddinystriol, er hyny dychrynwyd y trigolion i raddau. Boreu Llun, cafwyd ysgyd- ? wad aruthrol o gref, yr hon a ddinystriodd bron I' bob ty yn y ddinas, ac effeithiodd hefyd ar ddinas- oedd ereill yn y pellder o 60 a 70 o filltiroedd-- Manaqna, liivas, Masaya, a lleoedd ereill. Nid oes nemawr adeilad yn y ddinas grybwylledig nad oes niweidiau tryinion arnynt. Gadawodd y tri- golion y ddinas am eu bywydau, mewn pob dull a oes niweidiau trymion arnynt. Gadawodd y tri- golion y ddinas am eu bywydau, mown pob dull a modd—yn y tren, mewn cerbydau, a lluoedd yn dianc ar draed. Y rhai na allent ddianc a adawyd mewn modd torcalonus ar yr heolydd, a thu allan i'r ddinas, a chysgent yn finteioedd yn yr awyr agored mewn lie diogel rlJag cael eu lladd a'u clwyfo (ran waliau syrthiedig. O'r 15,000 trigol- 1011 credir nad oes yn aros yn y ddinas ddim mwy na 3,000, y gweddill wedi cael eu cludo ymaith ar y tren, y rhan fwyaf o honynt. Llenwid yr orsaf yn barhiius gan wyr, gwragedd a phlant, yng nghyd a. chleifion a chlwyfedigion o bob math, y rhai a garient gymmaint a allant o'u dodrefnau gyda hwynt. Gwnaeth swyddogion y llywodraeth bob peth yn eu gallu er diogelu y trueiniaid a'u cartrefleoedd, ac anfonwyd dau gant o tilwyr o Manaqua er amddiffyn eiddo a chartrefleoedd rhag lladron ac ysbeilwyr. Yn fuan ar ol y gyflafan bu i'r consul newydd-appwyntiedig Americanaidd, Mr Wrn. Newell, wylio iawnderau amryw o'r Unol Dalaethau oodd yno mewn coleg fel athrawesau. Ni hysbysir fod neb wedi eu Iladd, oud clwyfwyd amryw. MR. STANLEY A THREF CAERDYDD. Y mae Mr. H. M. Stanley wedi anfon llythyr at ysgrifenydd trefol Caerdydd, yn ei hysbysu o'i anallu i dalu ymweliad a'r dref yn ol ei addewid. Dywed nad oes ganddo ond ychydig ddyddiau i barotoi ar gyfer ei daith hirfaith yn America a chan fod ganddo amryw ymrwymiadau pwysig i'w cyfarfod, hysbysa mai ofer fyddai iddo deithio i Gaerdydd, ac aros yno am ychydig oriau. Gan hyny, dymunai. ar iddynt ei ryddhau oddi wrth yr ymrwymiad. Addawodd yteithydd enwogybyddai iddo ymweled a, Chaerdydd cyn ei fynediad i'r America, i'r amcan o dderbyn rhyddid y fwrdeis- dref. Yr oedd yr awdurdodau wedi gwneuthur trefniadau helaeth ar gyfer hyn, ac wedi ceisio cist werthfawr i gadw y memrwn a gyflwynid iddo. Y mae y bobl yn teimlo gryn siomedigaeth. DYGWYDDIAD DYCHRYNLLYD MEWS CAPEL. Yng nghapel Wesleyaidd y Central Hall, Manceinion, cymmerodd amgylchiad dychrynllyd iawn le. Hwn ydoedd cyfarfod cyntaf i gynghor (council) newydd-etholedig y gylchdaith, yn cael ei llywyddu gan y Parch. Marshall Randies. Yr oedd y Parch. James Chalmers, M.A., wrthi yn traddodi cyfarchiad ar anghenion Trefnyddiaeth yn y gylchdaith. Wedi siarad am ddeng mynyd neu chwarter awr, dywedodd y gwr parchedig Yr wyf yn meddwl fy mod wedi dweyd digon," pan yn ddisymwth yr ymddangosai mewn lIewy" Y" gan syrthio ym mlaen. Daliwyd ef gan foneddwr a eisteddai yn ei ymyl, yr hwn a'i gosododd ar y sedd, tra y gwnaeth Dr Wilson (yr hwn a ddyg- wyddai fod yn bresennol) yr oil a ellid iddo. Ym mhen ychydig fynydau, modd bynag, trengodd y boneddwr anffodus heb yngan yr un gair pellach. Efe ydoedd arolygydd cylchdaith Victoria, Cheetham Hill. Yr oedd wedi treulio 22 mlynedd o'i fywyd gweinidogaethol yng nghylchdaith Manceinion, a llafuriodd yn llwyddiannus hefyd yn y Gogledd, yn Llundain, yn Birmingham, yn Southport, a lleoedd ereill. Bu yn y weinidog- aeth am 38 o flynyddoedd. TROSEDDWR NODEDIG HANESYN CYFFROUS. Yr oedd Reuben Burrows yn droseddwr mor nodedig nes yr oedd gwobr o 7,500 o ddoleri yn cael eu cynnyg am ei ddal. Heb law amryw o lofruddiaethau ac ysbeiliadau o natur gyffredin a briodolid iddo, yr oedd wedi ysbeilio naw o wahanol drens, ac nid oedd ganddo ond un i'w gynnorthwyo i gyflawnu y dyhirwch hwn. Pen- derfynodd pedwar o ddynion gwrolddewr erlyn ar ei ol; ac wedi olrhain ei gamrau ar draws dwy dalaeth am amryw ddyddiau, llwyddasant i'w leoli yn ddyogel yn swyddfa'r sirydd yn Linden, Alabama, lie y gadawaank ef wedi ei ddiarfogi a'i lyffetheirio, ac yng ngofal dan wyliwr, y rhai a gyfarwyddwyd i gadw eu llawddrylliau yn barod i danio, tra y cymmerai y dalwyr orffwysdra noson cyn cychwyn am y wobr addawedig am ddal y dyhiryn. Cyn toriad y dydd dranoeth dywedai Burrows ei fod yn newynog. Atebodd ei wylwyr nad oedd modd cael dim bwyd yr amser hwnw. Dywedodd Burrows fod cacenau yn ei walet, y rhai a estynwyd iddo. Dechreuodd Burrows fwyta y teisenau, pan yn sydyn, wrth syllu ar y carcharor, y cafodd y gwylwyr eu hunain yn edrych i ffroenau dau lawddryll a ddelid ganddo, ac yr oedd y carcharor yn ergydiwr diwyro. 0 dan arswyd bygythion Burrows, bu raid i nn o'r gwylwyr ufuddhau i'w orchymmyn o dynn y Uyfl'etheiriau a'u dodi am ygwyliwr arall, gan ei adael yn gloedig a di-gymhorth. Wedi i Burrows gael ei hunyn rhydd, gorchymmynodd i'r gwyliwr arall gerdded o flaen ei bistol i eh wilto am ei ddalwyr (captors). Yn cael ei gamarwain gan lais cyfarwydd y gwyliwr, yr hwn a siaradai ar orchymmyn Burrows, cerddodd un o'r dalwyr i'r heol; a phan welodd ei hun yn cael ei wynebu gan Burrows, dechreuodd y ddan danio ar eu gilydd mor gyflym fyth ag y gallent dynu y ly 11 cocyn. Y canlyniad fu, i'r outlaw hynotaf yn yr Unol Dalaethau syrthio wedi ei ridylln A bwledi, ac ofnir fod ei wrthwynebydd gwrol wedi ei archolli yn angeuol. TRWYDDED I GADW Ty. Deallwn fod cyfraith newydd tra hynod ar gael ei phasio yn un o wledydd y cyfandir (Norway). Amcan y cyfryw fesurydyw rhwystro mereh ieuanc i briodi nes ei bod wedi llwyr ddysgu y modd i nyddu, gwau a pliobi. Bydd yn ofynol iddi fyned dan arholiad yn hyn, ac os y dengys ei gwybodaeth yn foddhaol caiff drwydclecl i'w galluogi i briodi pan y daw o hyd cydmhar. Wrth ddechreu caru bydd yn galed ar y gwr ifanc i ofyn i'w gariad-ferch a oes trwydded ganddi yn ei galluogi i briodi a chadw ty. Pa faint, tybed, o ferched ienainc Cymry a fyddent yn addas i briodi pe byddai i gyfraith gyffelyb ddyfod mown grym yn ein plith ni.

Y DIWEDDAR MRS BOOTH.

[No title]

PWNC YR EGLWYS SEFYDLEDIG:…

[No title]

!CEINEWYDD.

CYNGHERDD FAWREDDOG FELINDRE,…

AGORIAD EGLWYS GENADOL MYDROILYN.

[No title]

CROESAWIAD I ROSAMOND UNA,

DYCHYMMYG.

AT EIN GOHEBWYR.