Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
12 articles on this Page
GWASTRAFFU NERTH.
GWASTRAFFU NERTH. Wrtli edrych o'n hamgylch, ni a ganfyddwn amrywiol wrthddrychau yn gweithio, ac un o'r n zn pethau cyntaf a dyna ein sylw yng nglyn a bwynt yw y gwastraff amlwg ar nerth a ddangosant. O'r anirywiol wrtliddrycliau hyn, ni a nod wn ychydig enghreifftiau. Wrtli fwrw golwg ar sefyllfa Cyniru o barthed i'w haddysg elfenol, ni a ganfyddwn lawer o wastraff- ar nerth a gallu. Cyn Deddf Addysg 1870, darparesid cynllun rhagorol o Addysg elfenol yn yr Ysgolion Cenedlaethol. Yn herwydd amryw resymau, nad oes yn awr eisieu eu crybwyll. Nid oedd y cynllun liwnw, er yn gweitbio yn rhagorol cyn belled ag yr elai, yn un digon eang ac yn gyfatebol i angenrheidiau y wlad. Felly fe ddaeth Deddf Addysg 1870 i mewn i'w attodi neu ei gynnorthwyo lie yr oedd yn fyr a diffygiol. Ond yn fuan gyda ffurfiad Byrddau Y solion, ni a welwn gnwd o ysgolion newyddion yn cael eu hadeiladu, a hyny mewn manau lie y ceid ysgolion rhagorol yn barod. With reswm ni chyfodir yr ysgoldai hyny heb arian, a golygai hyny drethu y boblogaeth. Os nad oedd llawer o'r ysgoldai newyddion yn angen- rheidiol (ac nid oes ammheuaeth nad oedd llawer o honynt felly), yr oedd rhan helaeth o'r dreth a osodwyd ar ysgwyddau y werin yn ddiangenrhaid hefyd. Beth oedd hyn ond b gwastraff ar nerth a gall u ? Pe defnyddid yr arian a erys yn farw mewn dwsinau o adeiladau felly at amcanion ereill a dueddent at ddyrchafu y wlad, yn foesol a chymdei- thasol, buasai yn llawer doethach ar ran cyn- nrychiolwyr neu yraddiriedolwyr y bobl. Ymffrostia Cymru yn y lluosogrwydd o gapeli sydd ynddi, a phwyntia atynt fel profion o sefyllfa uchel crefydd a moesoldeb o'i mewn. Ond a ydynt felly mewn gwirionedd ? Wrth olrhain hanes nifer mawr iawn o gapeli Cymru (ac nid oes eisieu myned ym mhell i iawn yn ol cyn dod o hyd i'w dechreuad), ni a welwn eu bod wedi eu cychwyn mewn ang- hydfod ac ymbleidio. Yn awr, ni a hoffetn glywed barn gwyr callaf Ymneillduaeth ar ymbleidio. A yw ymbleidio yn dda neu yn ddrwg 1 Os yw yn dda, pa ham y condernnir ef fel peth cnawdol gan yr apostol 1 Os yw yn ddrwg, onid oedd yn ychwanegu drwg at ddrwg drwy fytholi ymbleidio mewn calch a cheryg a choed, fel y gwnaed drwy adeiladl1 capeli yn ein plith ? Ac onid oedd y synagogau hyny yn wastraff mawr ar nerth y gwahanol enwadau, ym mhlith y rhai y cyfodai ym- bleidiau, ac yr adeiledid ar eu cyfer 1 A chan fod yr enwadau hyny yn ffuifio rhan o boblogaeth Cymru, yr oeddent mewn rhan yn tylodi ein cenedl, a ni a ddyoddefwn oddi wrth hyny hyd eto. Yn wir, a chymmeryd golwg eangach ar y mater, ymddengys holl 0 n z, gyfundrefn Ymneillduaeth, o'i chychwyniad, yn wastraff ar nerth y genedl. Heb law yr arian a dalwyd ac a delir tuag at adeiladau, pa ryw filoedd lawer yn flynyddol a delir tuag cfynnal i fyny boll beirianwaith y gyfundrefn Ymneillduol, mewn ffordd o gyftogau a chasgliadau aneirif, wrth y rhai y raae yn rhaid i enwadaeth. Pa faint cyfoethocach, mewn dysg a diwylliant, a moesoldcb a gwir ddefosiwn, a fuasai Cymru yn awr pe glynasai oil wrth ei hen drefn ardderchog o addoli Duw? Nid oes ynom ammheuaeth na buasai hyny yn help mawr i gyfeirio ineddwl a galluoedd y genedl at ganglienau lluosog y celfyddydau a'r gwyddonau, yn lie eu cyfyngu at rigymu, canu, a phregethu. Yr 6 In 0 ydym yn llwyr gredu fod tylodi celfyddydol a gwyddonol Cymru yn bcnaf i'w Hymneill- duaeth, ac y bydd iddi eto gyda'i ymddeffroad sydd yn cymmeryd lie ynddi yn awr, golli ei gafael ar Ymneillduaeth. Ni a gredwn y cyfeddyf pob un a edrycha yn is i lawr nag ar wyneb y genedl, fod Y mneilldnaeth wedi bod yn foddion i beri iddi wastraffu llawer iawn o'i nerth. Ofnwn nad yw Cymru wedi dysgu bod yn ddoeth hyd eto, ac y bydd iddi, yn ei balchder a'i brwdianwch uwch ben y Ddeddf a roddes iddi fesur o Lywodraetb Leol, wastraffu llawer o'i nerth. Yr ydym yn barod wedi eu gweled yn ymhel a materion na freuddwydiwyd crioed am danynt yn y ddeddf hono. Nid yw y ddeddf hono wedi ei chwblhau yn hollol hyd eto. Nid yw yr Is-gynghorau neu Gynghorau Lleol, a fwriada sefydlu, wedi dyfod yri fl-aitli eto. Ni synem weled mwy o wastraffu nerth uwch ben, ac yng nglyn a'r rhai hyny, nag a wnawd yng nglyn a'r Cynghorau Sirol dro byr yn ol. Dyna ddeddf arall-Deddf Addysg Canolraddol-ag y mae y Cymru yn debyg o wastraffu llawer o'i nerth uwch ei phen. 0 Yr ydym yn gweled ysbryd ammhwyll ac annoethineb yn nodweddu llawer cymmydogaeth ar hyn o bryd, nes peri i ni dybied y gall Deddf, a'i hamcanion yn dda, esgor ar ganlyniadau a fyddant yn y pen draw yn fwy o niwaid nag o les. Un wers fawr sydd eisieu ei dysgu arnom fel cenedl a chyfrifcm y dyn hwn w ag a'n cynnorthwyai i'w dysgu, yn wladgarwr. Pwy a ddaw allan ac addysg i ni ymattal toddi wrth wastraffu ein nerth ?
MOESGARWCH A'R DOSBARTH GWEITHIOL.
MOESGARWCH A'R DOSBARTH GWEITHIOL. Pan fydd amgylchiadau yn gorfodi y tY 6 rrweithiwr sydd yn perchen moesgarwch i sefyll o llaen ei well, y mae yn gallu ymddwyn yn hollol gartrefol nid oes dyryswch yn ei eiriau nac attal dweyd ar ei dafod. Y mae ei foesgarweh yn rhoddi math o fantoliad gallu iddo nid yw yn syrthio i lwfrdra hurtaidd ar y naill law, nac yn dueddol o fyned yn rhy haerllug ar y llall. Y mae y man lie dylasai fod. Y mae ei foesgarwch yn rhoddi esgusawd digonol dros ei esgidiau cryfion a'i wisg gref. A iff yn ei ol a pharch y boneddwr ganddo. Y mae yn edrych ar ei weithiwr yn y goleu o wr boneddig, yr hyn mewn gwir- ionedd ydyw, ond fod ei ymddangosiad yn owahaniaethu yehydig oddi wrtli y dosbarth I b a gyfrfir gcnym felly yn gyffredin. Rhaid i ni «-ael « weled y gweithiwr sydd heb ddysgu moesau o flaen yr un gwr boneddig eto. Gesyd ei ddillad goreu am dano, ond y mae yn cerdded mor avnrosgo ynddynt a Dafydd yng ngwisg Saul gynt. Y mae rhywbeth o'i fewn yn dywedyd am don agwedd falch. Dyna fe wrth ddrws palas ei feistr. Y mae. yn cerdded dros y trotlnvy fel pe damsangai ar wyau. Y mae yn awr yng ngolwg ei feistr. Y mae yn ceisio ei gyfarch fel dyn yn myned i wneyd rhyw orchwyl a'r llaw chwith heb ei harfer. Y mae yn teimlo ei draed yn ymollwng oddi tano. Y mae yn ceisio sefyll o llaen y boneddwr fel dyn a'r bendro arno. O'r diwedd caiff" ddrws agored i ddyfod allan, a theimla gymmaint o gywilydd ac euogrwydd n Z7, n a phe bai yn troi allan dros drothwy y carchar. Beth yw y rheswm o'r cmnaturioldeb oedd yn ymddygiad y dyn yna yng ngolwg ei n 1:5 n feistr ? Y mae'r atel.iad i'w gael yn y gair moesgarwch. Yr oedd yn meddiaut y gweith- iwr cyntaf, ond yr oedd yr ail mewn diffyg o hono. Pa un o'r ddau a gaifI y sylw a'r parch III wyaf gan y rneistr ? Nid yr olaf, boed a fyno. Yr oedd yn ddolur llygaid i'w feistr idd ei weled ef, ac yr oedd yn dal golwg ar ei feistr n Z3 yn ddrain yn ei groen yntau. Yr oedd y meistr yn tybied ei fod yn gweled diwydrwydd, a flyddlondeb, a didwylledd, a llu o rinweddau cyffelyb yn gorphwys dan foesgarwch y 0 0 gweithiwr cyntaf, tra yr oedd yn barod i gredu 5 Z-1 fod cymmainto afreoleidd-dra yng nghymmer- iad yr ail ag oedd o glogyrneiddiwch yn ei ymarferion. Y meistr braidd sydd a'i law gyntaf yn cyffwrdd a'i het wrth basio y gweithiwr cyntaf ar y ffordd. Peth cyffredin iawn eu gweled yn tori mater a'u gilydd pan y cyfarfyddant a'u gilydd. Os bydd rhyw sefyllfa wedi myned yn wag o dan awdurdod y meistr, pwy sydd dehycaf i gael llanw'r lie ? neu os bydd rhyw ffafr ganddo i'w hestyn, pwy-ai nid y gweithiwr cyntaf yna, fel coron ar ben ei foesgarwch, sydd debycaf o'i ohael? Yr ydym yn adwaen amryw sydd wedi dyfod yn y blaen yn rhagorol, a hyny yn unig am fod eu moesgarwch wedi rhoddi llythyr o Z3 y gymmeradwyaeth drostynt i sylw eu huwch- radd. Y mae llawer o barch, a hwnw yn berffaith ddyledus hefyd, yn cael ei roddi i (laleitt, ond peidier a synu fod moesgarwch yn cario mwy o effaith a dylanwad ar feddyliau yr uwchradd o barthed i'r isradd na thalent. O'r hyn lleiaf, y mae cymmaint a hyn ynddi— wedi y cwyd y pen talentog uwch law y dorf gyffredin y gellir ei weled ef-wedi y deuir i'w weled ef, y mae y byd yn. plygu o'i flaen, ac yn ei addoli; ond pan fydd hwna yn symmud o fan i fan, nid yw'r llygad mor graft" fel y gall weled drwy y wisg o gnawd yna sydd yn cuddio yr enaid galluog sydd y tu fewn. Ar ambell dro-wrth ganu, neu areitbio neu bregethu, neu ysgrifenu, neu farddoni, y gall talent ddangos ei hun, tra y mae moesgarwch n Z5 yn siglo gyda'r tafod wrth siarad, yn symmud C, gyda'r droed wrth gerdded, yn vsgwyd gyda'r llaw, ac hyd yn oed bydd yn eiou yn yr un gadair a'i plierchenog. Y mae yn y golwg yn Wiistad. Y mae yn dwyn ei hun i sylw ym IlIhob cymdeithas. Y mae yn sicr o dynu sylw—a'r sylw hwnw yn cenedlu parch ac anrhydedd. Y mae yn wir fod digon o eng- hreifftiau genym o rai yn codi i sylw, ac yn cael derbyniad i gymdeithas eu huwchradd o herwydd eu talentau dysglaer. Dyna'r bardd Albanaidd Burns er enghraifffc — yr oedd diysau parlyrau pendefigion uchelaf yr Alban yn agor o led y pen i'w dderbyn, ond ni chlywsom erioed fod Burns yn amddifad o foesgarweh er hyny. Ym mhlith hwrli-bwrli y teithio gyda'r tren, ac hwyrach nad oes gwell cyfleusdra yn ein hoes ni i weled eymdeithas yn ei gwahanol agweddion nag wrth fyned o fan i fan gyda'r gerbydres. Y mae pob dosbarth yn ymgymmysgn ynia. Nid peth anghyffredin yw gweled golygfa fel hon yn cymmeryd lie. Dyna ddyn o safle bur ucliel mewn cymdeithas yn teithio, ac er mwyn boddloni ei hun, cymmer ei sedd yn y trydydd class. Wedi iddo fyned i mewn, dyna haid o ddynion yn rhuthro ar ei ol fel haid o ddefaid ar ol eu gilydd trwy fwlch mewn clawdd. Y mae eu gwisg a'u gwedd yn dywedyd beth ydynt. Y mae eu lleferydd yn eu cyhuddo beth ydyw eu gwaitli, a chyda llaw beth ydynt o ran moesau. Dyna hen wraig gymhercyn yn sefyll wrth y drws, a basged pur lsvythog ar ei braich. Ychydig o amser sydd ganddi cyn y bydd i'r ch wisl roddi amnaid i'r ceffyl tân" fyned i'w ffordd. Y mae pob sedd bron yn llawn yn yr boll gerbydau. Y mae'r hen wraig a'r basged yn I I, 0 methu gwybod i ba le i droi ei gwyneb. Y mae'r dynion difoesgar yna yn cauad y drws yn ei herbyn. Rhaid i'r hen wraig, wrth bob tebyg, fod ar ol. Na, dyna un yn agor C5 t5 y drws ac yn helpu yr hen wraig i ddyfod i fewn, ac ymdrecha ei gwneyd yn gysurus yn y tren, yr hwn sydd mor anghysurus o dyn a phump mewn gwely. Y mae moesgarwch y dyn yna wedi tynu lien goch o gywilydd dros wynebau ei gydweithwyr. Y mae'r hen wraig yn pentyru ei bendithion arno, ac y mae wedi tynu sylw'r gwr boneddig sydd yn eistedd yn ymyl y drws nesaf draw, yr hwn a fu yn gwylio yr oil. Bob yn ychydig, y mae'r ddau yn tori i fewn i ymddyddan a'u gilydd. Y mae moesgarwch y gweithiwr yn taflu ei 0 Z5 ddillad gwaith o'r golwg, ac y mae'r boneddwr yn deall a theimlo ei fod yn eistedd yng ugh wrani dyn moesgar. Y mae yn myned allan a'r parch dyfnaf tuag ato yn ei galon. Fe wyddom am un engliraiflt lie bu moesgar- wch yn foddion i agor drws swydd anrhydeddus i weithi wr wrth siarad ac eistedd yng nghwmni boneddwr yn y tren y mae hwnw heddyw yn wr boneddig o gyfoeth, a pharch a C, Z5 dylanwad. Y mae ei foesgarweh yn chwareu 0 rhan lied helaeth dros y dyn, os bydd yn fyr mewn pethau ereill. Os na fedr redeg drwy Z5 gyssylltiadau dyryslyd hanesiaeth os na fydd yn gwybod am holl gilfacliau a glanau y moroedd os na fedr ddeall y mesurau call a 1161 a wthir trwy y sened(I os na all dreiddio i lawr i ddyfnderoedd tywyll athroniaeth ac os na fedr alw y ser wrth eu henwau, y mae ei uwchradd er hyny yn edrych yn barchus arno, ac y maent yn ei hoffi fel cynllun o weithiwr moesgar, yr hwn sydd yn esampl deilwng i'w efelychu gan ei gydweithwyr. (l'w bar halt.)
CANOLBARTH CEREDIGION.
CANOLBARTH CEREDIGION. Sinradwch yn Gyrnraeg, Gohcbwch yn (iynito-eg; Beth bynag fo'ch yn wnouthur, Gwnewch bobpeth yn Gymrncjj." Wei, waeth i mi roddi llith fer yn Gymracg y tro hwn, a dichon y bydd hyny yn amryw- iaeth dderbyniol gan rai o'ch darllenwyr. A welodcl dyn erioed y fath annibyndod a phlcntyneiddi weh ag y mae PLWVF LLAXBKDH wedi cael ei arwain iddo gydag ethol casglwr t, y n n tretbi ? "Pan golla'r call, mae'r coll ym mhell," sydd ddywediad eitliaf cywir. Nid angen dynion call, dynion mawr, hunan- bwysig, na dynion hollwybodus oedd ar Lan- bedr, ond eisieu tipyn o dawelwch a synwyr cyffredin. Mewn llawer amgylchiad saif M.A. am Meistri annhrefn" yn gystal ag am I master of arts," yn enwedig yr art o ddwyn allan etholiad yn llwyddiannus. Clywaf fod y chwareu i gael ei ail-ddechreu eto. Bydd y festri hon i barhau cyhyd ag na bydd ymgeisydd neillduol i gael ei ethol. Nid yw Llanbedr yn iach heb gynhwrf etholiad. 0 ddiffyg achlysur arall, synwn i ddim clywed fod yn y dref etholiad i bendcrfynu pwy fydd i lanw swydd ein cyfaill Tom Owen pan y symmudir ef i'r happy hunting ground. 0 ran hyny, gwyddom fod yn y dref hanner dwsin ar brentisiaeth i'r swydd bono yn barod. Ceir eu gweled yn myned drwy eu drill ar gornel shop Dafydd Rees," ac yn colli" dwr awydd o'u dannedd wrth weled Tom mor wridgoch yn myncd heibio yn niwydrwydd ei 0 jackalyddiaeth. Mae trethdalwyr Llanbedr yn weddol dawel yn yr annhrefn, o herwydd heb "gasglwr trethi ni fydd eisieu talwr tretbi." Bum yn Nhalsarn yr wythnos ddiweddaf, a chefais y pentref bychan, glanwedd hwn mor gall a thawel ag arferol. Hub llaw ychydig o newyddion lleol, cefais ddefnydd dau neu dri o nodicn yno. Mae athraw newydd wedi ei gyflogi i YSGOL TREFILAX, a mawr y gobeithio a wna y pentref, yr hwn sydd lawn o blant, y bydd y dyn newydd yn un medrus, ymrous, a galluog. Mae ganddynt achos i obeithio hyny. Mae y managers wedi dangos eu bod yn llawn mor awyddus a neb am ddyn i'w boddloni. Nid oes yn y sir athraw yn cael cynnyg cymmaint o gytiog per head am ddysgn plant ag ysgolfeistr newydd Trefilan. Dylai rhieni y plwyf gofio nas gall y managers na'r ysgolfeistr lwyddo yr ysgol 0 Z3 heb gael y plant i'r ysgol yn gysson. Nis gall plentyn anghysson lai na bod yn ddianrhydedd iddo ef ei hun, i'w rieni, ac i'r ysgol. Dywed- wch wrth un o rieni y plwyf hwn fod rhyw un arall wedi magu gwell ebolion, lloi, nen foch nag ef, y mae yn sicr o gael ei gythruddo, a hyny yn gytiawn, canys y mae y plwyf yn rhagorol am hyn ond dywedwch witho fod rhywun arall yn rhoddi gwell ysgol i'w blant, ni fydd y cyffro na'r achos o hyny gymmaint. ,,y Cofiecl rhieni y plwyf y dywediad fod yr hwn a esgeulusa addysg ei blentyn yn fwy na han- ner ei lofrudd, am ei fod yn mogi yr banner oreu o hono. I ysgol Trefilan yr eithum gyntaf erioed. 0 ysgol Trefilan y cymmerais y cam mwyaf liapus a gymmerais erioed, a dymunaf o'm calon weled ysgol Trefilan yn adennill ei llewyrch a'i defnyddioldeb i'r plwyf. # Mae llawer o fy nghyfoedion, fel fi fy hun, yn cofio pan oeddym yn ysgol Mr. Hees yn Felinfach, am lencyn bychan, bywiog, a chrwn yn ein plith, a adwaenem fel Davy bach yr Union." Bu am flynyddau allan o'm cof, ond yr wythnos hon rhuthra ei hun a'i ddelw i'm cof fel o'r newydd -ei wyneb crwn, ei wddf byr, a'i lygaid lion a direidus, ac amryw o'i gampau diniwaid a chwarëus-oll yn danbaid ar len y cof. Mae "Davy," nen Mr. Evans erbyn hyn, er ys blynyddau yn yr India boeth a pliell, yn arwain bywyd cyfrifol peiriannydd ar un o reilflyrdd y wlad, ac yn llwyddiannus iawn mewn aur ac iechyd. Yr hyn a'i dygodd i'm sylw yn awr yw y rhodd hynod a gwerth- fawr a ddaeth oddi wrtho, yr wythnos ddi- weddaf, i'w chwaer, Mrs. Evans, Hed Lion, Talsarn. Mae y rhodd yn cynnwys penau a clirwyn rhyw ugain neu ychwaneg o wylltfilod gwiysgwmydd India, ac wedi en gwneyd i fyny yn gelfydd a chadwrus hynod. Yn yr AMGUEDDFA FECHAN hon y mae wild hoars, jungle dogs, black bucks, blue bulls, deer, chinkaras, samburs, panthers, a'r tigers yn cael eu cynnrychioli hyd at fywyd, ac yn ddatguddiad nerthol o beryglon a chym- deithion bywyd yng ngwylltwigoedd India. n In 6 Mae peint o ddiod gartref Mrs. Evans yn gosod llawer o wroldeb mewn dyn, ond nervous fydd y goreu o honom bellach o flaen cyrn Z5 canghenawg, llygaid mellteuaidd, a dannedd picellog yr andrasiaid hyn ar y mur. Nis gallwn lai na dymuno i'n cyfaill, Mr. Evans, 0 gael nodded Rhagluniaeth yn y wlad sydd yn n Z,5 gartref i'r fath greaduriaid, a brysied y dydd pan y daw allan o beryglon y wlad adre eto i t, Ddyffryn Aeron, i adrodd wrthym ychwaneg o ryfeddodau y parth hwnw o'r byd. O 1 Pan yn dod adref yn benisel nos badwrn drwy ddolydd Llanllur, pigais i fyny bapyr auction, ac ar ei gefn cefais fod darnau o bennillion wedi eu hysgrifenu mewn Haw grynedig ond yn lied eglur. Yr oedd darn o'r I papyr wedi ei dori ymaith, ond llwyddais i ddarllen pedwar o honynt. Er nad yn gaboledig iawn, y maent yn dra nerthol, gan nad pa mor ddesgrifiadol ydynt, o destyn y prydydd. Wele hWYllt- Fel seraph aiff i'r capel, Ac yno'r mwyaf uchel Daw ma's i ladd fy nghysur i, Yr hen gelwyddgi c 1. Z5 el Ei weddi a'i anwiredd Wna floeddio mewn hyawdledd, Cymmysga'r ddau, tra'n honibyw, Wrth allor Duw'r gwirionedd. 0 Hau celwydd brwnt o gwmpas Yw gwaith y scrwbbyn diras; Rhag syrthio'n farw yn y fan, 0 cofied Ananias. Fe gred fod tanllyd boenau n I'r drwg tu draw i angan Rhy fach fydd dyfroedd byd a'u lies I oeri gwres ei enau. Diolch mai nid dyn, ie, llawer llai prydydd wedi ei ffromi, sydd a'r ddedfryd olaf yn ei law, neu buasai yn bybyr boeth ar lawer o honom eto, rhaid cyfaddef, mai creadur ffiaidd mewn cymmydogaeth yw Pharisead enllibus o grefyddwr cegagored. Wrtli dd'od adref drwy Dalsarn, gehvais fel arfer yn shop y cryddion" ar fy hen gyfeillion yno i gael ymgom am y byd a'i bethau. Yr oedd y bechgyn yn llawn "holi ac ateb fel arfer, ond teimlwn fod Mr Jones, y meistr, yn fwy trwlII a dystaw nag" arfer. Gwyddwn fod Mr Jones yn hoff o bennillion, ac er ei gael i'w hwyl," adroddais y pennill- ion uchod wrth y boys; ond os do, ni welais y fath hwyl a gefais gan y meistr. Nid wyf yn sicr iddo regu, ac nid yw yn arfer gwneyd hyny, ond cefais restr o fytheiriau nerthol am rigymwyr diog, segur, a bwngleraidd yn esgor ar linellau llipa anhysain a dienaid," nes i mi deimlo yn falch nad oeddwn yn brydydd na mab i brydydd. Gelwais fy nghyfaill, "Ap Gruffydd" allan, a gofynais iddo beth oedd ar ei feistr, yr hwn oedd yn arfer bod mor dawel a boneddigaidd. Eglurodd A. G. i mi fod ei feistr wedi anfon bill i'w gymmydog Aeroniau am esgidiau, ac iddo dderbyn yn lie arian, 0 y ddau bennill canlynol :— Am leder heb danneru, Am edau heb ei nyddu, Am gadw tra,ed fy mhlant yn ddarn, Cais crydd Talsarn ei dalu. Am 'sgidiau wedi braenu Na ddaliant sych na gwlychu, z, Os na cha'n gynt—ar ddydd y farn, Caiff crydd Talsaru ei dalu. Hwyliais adre yn ddystaw, gan fyfyrio faint yn rhwyddach yw erchi a derbyn pethau, na thalu am danynt. Beiwn y rhigymwr o'r Felin am golli ei natur uwch ben "bil y crydd," yn enwedig pan gofiwn y ddwy linell hono o'i eiddo i'r un gwr, sef mai Pleser a balchder y byd Ydyw gwisgo ei odidog csgid. # # Nis gallaf gael gan fy llaw i ysgrifenu dim C, ZD yn ddifrifol mwyach, ac felly waeth i mi derfynu fy llith a phennill neu ddau yn ycliwaneg. Y mae yn arfer gan gymmydog i mi sydd yn cael ei flino gan wningod, i wahodd nifer o'i gyfeillion ato dair neu bedair gwaith z,Y yn y gauaf i gael Z5 Z!5 DIWRXOD 0 SAETIIU, a mawr y swn a gedwir ar y dyddiau hyny- Yr oeddwn yn bresennol un o'r dyddiau hyn y gauaf diweddaf, ac ni wnes fwynhau fy hun yn well erioed. Y mae ein gwyr mawr yn mwynhau eu shooting parties, a chyhoeddir ar eich tudalenau yn fynych rif y creaduriaid a saethir, ond ni fwynheir mewn un preserve well difyrwch na chyda'r cwningod yn eithin Blaenplyf. Yr oedd prydydd yr ardal yn un o'n parti, a thaniai ef bennill ar ol bob ergyd. Y cyntaf i saethu a wnaeth i'r pry' fuanu, a'i dynged oedd- Gvvastraffu plwm a phylor, A'r game ddim un yn rhagor Waeth dyna ergyd aeth yn void Ar William Lloyd Treffynnon. Cyhuddid uno'r saethwyr o ollwng ei ergyd yr 0 ZD un pryd a'r nesaf ato, ac yna hawlio y pry lladdedig. Gosododd y pennill hwn stop ar lIyny. Mae gwr Cilerwisg yn o gall, 'Run pryd a'r llall mae'n saethu Ond dyna arfer hwn erioed Yw 'sbeilio clod ei gwmni. Pan gafodd un "lwyden" ei rholian yn dra deheuig, cafodd y saethwr yn wobr. Wei dyna ergyd deter, 'Daeth un o'r shots yn ofer, 'Does neb ffordd fel gwr Coedparc Am daro'i fare bob amser. Fel hyn y bu drwy y dydd, yn Hawn swn saethu, adrodd pennillion a chwerthin. Buasai y pennillion oil yn hanes manwl o waith y dydd, ond gwasanaethed yr ucliod fel esampl o honynt. llawdd fuasai llanw colofn bob wythnos am flynyddau o'ch newyddiadura phennillion o'r fath, na fu ac na fydd yn 0 gyhoeddedig byth. TUICHRUG.
E R COF,
E R COF Am y diweddar Jlrs. Rachel Jones, gwraig Mr Edward Jones, Oof, Cenarth. Hen bcntref Cenarth anwyl, Barddonol yw dy wedd Dy greigiau uwch dy ffrydiau croch I ramant sydd yn sedd. Ac ar dy ddoldir llatbraidd Fe diig pryd for! h well mwyn; A'r ddau wrtli yingytuno'th wnant Yn ddarlun llawn o swyn. Uwch ben y darlun yma— Gogoniant, llawer plwy'- Cawd Rachel yn edinygu'nsyn &in ngain nilwydd a tuvvy Ac er pan aeth o'r golwg I ardderchocach bro, Tywyllu wnaeth y darlun hardd A'i swyn a aeth ar ffo. Pan lynodd hi wrth Genarth, Gan adael ei Threfach, Mor loew oedd ei llygad glas, A'i gwen uior lion ac iach Goleuni a llawenydd A geid o'i cbwmpas fyth Sirioli cylch ei hardal wnai O'i dedwydd, dawel nyth. Dylanwad cref ewyllys, Dylanwad calon fawr— Ewyllys merch a chalon gwraig Arferai hi yn awr- Dylanwad doddai bobpeth O'i deutu 'n un ag ef Dylanwad dwys fel eiddo'r wawr A ddaw i goethi'r nef! Ar Edward yr effeithiodd Fel gordd ar haiarn poeth Er dydd eu hundeb tyfu wnaeth Yn dyner, gewr, a doeth; A phlentyn ar ol plentyn, Wrth ddod o'i ben bach, crwn I'r golwg, roddai brawf ei fod Dan y dylanwad hwn. 'Fu gwraig erioed yng Nghenarth A safai'n uwch na hi: I'w theulu'r oedd yn gyflawn fam, I'w g wr yn goron boi: Hir, hir y pery effaith Ei phriodasol oes; I ffrydiau hen nodweddion dwfn Cyfeiriad liewydd roes. Fe yfai ddwfr o'i phydew Ei hun, a symmud wnai Mewn annibynol gylch a threfn, Hi ni ddeailai rhai Ffieiddiai y bychandra Crebyehlyd sy'n y byd- Byw, a rhoi lie i oreill fyw, A garai hi o hyd. Ni fynai'r gleber ddiball Sydd byth yn ysgwyd gen, Gan annog brathiad yn y cefn Ac yu yr wyneb wen ;— Na, os y rboddai ergyd, Fe ddoi o galon bur; Ni fn'n rhoi min ar eiriau neb Erioed onestach dur. Oedd ddewr yn nerth ei dyddiau Fe'i gwelai'n myn'd i'r hedd; A llai na dynol f'asai lieb Fod sobrwydd ar ei gwedd Ofuadwy oedd rhag--deimlo Llinynau dynol serch Yn ddrylliau draw Both fedrai dd >i Ond tyner galon merch ? Gwag ydyw'r aelwyd mwyach Siriolodd hi eybyd; Gwag ydyw Cenarth ar ei hoi; I Edward gwag yw'r byd Ei lygad sy'n cyfeirio Yn ddiarwybod draw; Gan wrandaw, o'r tu ol i'w glust Yn fynych rhydd ei law Ond ha, er dysgwyl llawer A gwrandaw oriau niaitli, Nis cenfydd, er anwyled oedd, Hi'n dod yn ol o'i thaith: Ei llais a'i gosgedd wylia'n Y plant sydd ar ei liol; A'i gof dyn ddelw'r un a fu Mor gynlics yn ei gol! E.
ABERGORLECH.
ABERGORLECH. Yr wythnos bony mae genym y gorchwyl galarus o gofnodi marwolacth a chl.vhledi- gaeth hen frodor tra enwog o'r lie hwn, sef Mr Stephen Griffiths, o Esgairgrynddu. Bu farw nos Sadwrn yr wythnos ddiweddaf, a chladdwyd ef y Mercher canlynol yng ngladdfa capel Abergorlech. Yr oedd yn 71 mhvydd oed. Aduabyddid ef o Dy Ddewi i Gaerdydd fel un o'r prif cattle dealers am dros hanner canrif. Perchid ef hefyd yn fawr gan bawb a'i hadwaenai. Yn ei artref drwy ei oes, bu yn ymdrechgar dros ben gyda phob symmudiad da. Bu yn llafurus iawn mewn cyssylltiad a sefydlu Ysgol Frytanaidd yn y lie, yr hon, pan ddaeth yr amser, a dros- glwyddwyd i'r Bwrdd gyda phob parodrwydd. Ymdrechgar iawn y bu efe hefyd gyda'r achos goreu—bob amser ac ar bob amgylchiad yr oedd efe yn barod i roddi ei ysgwydd wrth yr olwyn. Er nad oedd yn gerddor, yr oedd yn ganwi hynod o dda, yn leisiwr natnriol a soniarus canai yn hwylus hyd ei fedd. Gweddw ydoedd er yn agos i wyth mlynedd. Gadawodd saith o ferched a rhyw ddeg ar hugain o wyrion i alaru ar ei ol. Chwech o'r merched ydynt wedi ymsefydlu eu hunain yn gysurus mewn gwahanol ardaloedd ac y mae yr icuengaf, yr hon sydd yn ddwy ar hugain oed, ac hyd yn hyn heb briodi, gartref yn Esgairgrynddu—nythle dedwydd n Z:5 ei hanwyl dad ymadawedig. Heddwch i'w lwch hyd foreu yr udganiad yw ein dymuniad o galon. Hefyd dylasem gofnodi mae y boneddigion a wasanaethasant yn yr angladd oeddynt y Parchedigion Mr Richards o Grugybar, a Thomas o Gapel Isaac. Ai nid tarawiadol ar gofadael yr hen bartriarch fuasai yr engiyn a ganlyn 1— Hil Griffiths hael a traffiiit,-draw i oesau 0 draserch hwy deimlant; Yn foddus pan ganfyddant Hyn o son am yr hen sant.—
|LLANEGWAD.
LLANEGWAD. YR HIN.-Tywydd pur anffafriol y mac wedi bod i'r cynlmuaf hyd yn hyn er hyny, y mae llawer o weiriau wedi eu cael heb fod nemawr yn waeth. Os parha'r tywydd teg yma hyd ddiwedd yr wythnos, bydd y rhan fwyat o fwyd yr anifeiliaid yn y dyffryn yma yn ddiogel. Credwn y bydd y cynhauaf llafur yn fwy diweddar eleni nag ydyw wedi bod er ys blynyddau. Y DEGWM.—Nid oes fawr son am ryfel y degwm gyda ni yn y gwastadedd yma. JMae pawb yn ddiwaban-Eglwyswyr ac Anghyd- ffurfwyr, yn talu yn ddirwgnach. Y mae si ar led fod yna un neu ddau ar yr uchel-dir yn methu ymddwyn yn foneddigaidd nac yn onest iawn. Dywedir nad ydynt wedi talu dim er ys bhvyddyn nen ddwy. Tybed fod preswylwyr y dyffryn yn fwy gwarciddiedig na phobl y mynydd ? Os deliwch sylw, y rhai sydd yn byw ar uchel-fanau fel rheol ydyw y gwrth-ddegynwyr. Y mae hyn yn ddyledus i rad(lau pell i ddiffyg addysg. MARWOLAETIIAU.—Bu farw genetli fechan Mr a Mrs Humphreys, Llanegwad, yrwTytlinos ddiweddaf, a chladdwyd gweddillion yr un fach ym mynwent Eglwys Llanfynydd. Gwasan- aethwyd yn y ty, o herwydd absennoldeb ein Ficer, gan y Patch. J. Evans, curad Abergwili. Hefyd, nos Wener a boreu Sadwrn, bn farw dwy fcrch fechan (efyllion) Mr a Mrs. Davies, Cothi House, Pontargothi. Claddwyd y rhai bychain dydd Mawrth yng nghladdfa. Siloam. Mac biraeth mawr ar ol yr anwyliaid bychaiji. Y "CARMARTHEN JOURNAL."—Mae y papyr yn boblogaidd yn y parthau hyn, a pha fwyaJ y daw yn adnabyddus, mwyaf i gyd y derbynir ac yr edmygir ef. Dymunwn pob Ilwyddianfc iddo.
DREFACH, LLANGELEll.
DREFACH, LLANGELEll. Dydd Sadwrn diweddaf ydoedd y diwrnod appwyntiedig i Ysgcl Sul capel y Bedyddwyr y lie iiclio(I i gael eu gwledd flynyddol. Gor- ymdeithasent trwy'r pentrefi yn llu banerog, ac yn ysgrifenedig arnynt wahanol arwydd- eirian a i-liaiiati o adnodau. Cafwyd diwrnod wrth fodd pawb.
EMYNAU YR EGLWYS.
EMYNAU YR EGLWYS. At Olygydd Y JOURNAL. SYR,—Yn rhifyn Gorphenaf 23med o'ch newyddiadur dyddorol, y mae eich gohebydd, Gwrda," yn gofyn pwy ydyw awdwr yr emyn adnabyddus sydd yn dechreu a'r llinell— "Fe welir Seion fel y wawr." Drwg genyf nas gallaf ateb y gofyniad i'm boddlonrwydd fy bun ac os oes rhyw .ohebydd a fedr roi esboniad llawnach, teimlaf finnau yn dra diolchgar. Mor bell ag yr wyf wedi cael allan, y mae yr emyn dan sylw yn cynnwys tri phennill, ac y mae i'r tri phennill ddau awdwr— un yn anadnabyddus, a'r llall ydoedd y Parch. John Williams, mab "per emynydd Cymru," sef yr anfarwol Williams o Bantycelyn. Bu farw y Parch. John Williams Meheiin 5med, 1828, yn 74 mlwydd oed, a chladdwyd ef ym mynwent Llanfair-ar-y-bryn. Y "0 gofyniad nesaf ydyw, Pa rai yw y pennillion a briodolir i'r Parch. J. Willitiiis ? Nis gallaf ateb y gofyniad. Yr wyf yn lled-dybio, modd bynag, mai y ddau bennill olaf sydd i'w priodo'i iddo ef Pwy fedr roddi esboniad pellach 1—Yr eiddoch, &c., GLAN-V-NANT. Caerfyrddin, Awst 3, 1890. TREGROES, LLANDYSSIL. At Olygydd Y JOURNAL. SYR,—Yn ystod yr wythnosau diweddaf hyn, y man trigolion y pentref ucliod wedi cael eu cynhyrfu yn ddirfawr, o blegid ym- weliad rhyw berson ag amryw o'r gerddi yr ardal, ac wedi cario o honynt lawer o ffrwythau gwcrthfawr, y rhai y bwriadent eu perehenogion ymddangos yn yr arddangosfa ar y 13fed cytisol. A chan fod eich papyr clodwiw yn cael derbyniad helaeth yn yr ardal, gobeithio caniatewch i mi ychydig o'ch gofod er mwyn rhoddi cyhoeddusrwydd i hyn, 0 y ac er rhoddi rllybudcl i bawb fod ar eu gwyliadwriaeth. Gobeithio y (IcLili- o hyd i'r drwgweithredwrr yn fuan, ac y derbynia etc gyllawn gosp.— Yr eiddoch, etc., UN 0'11 COLLEDWYU.
Advertising
Cafodd Mr. Abel Thomas ei nominato hedd- yw (dydd Iau) fcl ymgeisydd dros Ddwyrein- barth Caerfyrddin.
Y PARCII. J. WYNDHAM LEWIS,…
Y PARCII. J. WYNDHAM LEWIS, CAERFYRDDIN, A'R EGLWYS. At Olygydd Y JOURNAL. SYR,—Tynodd eich nodyn yr wythnos ddi- weddaf ar brophwydoliaeth wyntog y gwr parchedig ucliod fy sylw, a phenderfynais gael copi o'r Faner, fel y gallwn weled y bro- phwydoliaeth dioswyf fy hun. Y penawd sydd gan y parchedig wrth ben ei lythyr at olygwyr y newyddiadur dan sylw yw, Yr Eglwys Sefydledig, o safle Ymneill- duwr o ediych ami," a rhaid i mi addef na ddarllenais erioed am brophwydoliaeth mor eiddil a syml. Nid oes dim newydd yn y brophwydoliaeth," am ein bod wedi ei darllen ac wedi ei chlywed ugeiniau o weithiau o'r bJaen. Hen hugan yw wedi ei brwsio a'i glanhau. Y mae yn wir nad yw y parchedig dan sylw wedi arfer geiriau celyd am yr Eglwys na'r offeiriaid, am nad ein hamcan," meddai, "yw dweyd dim fyddo a thuedd ynddo i roi y tramgwydJ lleiaf i'n cyfeillion Eglwysig, na dim y gellir ei ystyried yn Z3 tfl angharedig am yr Eglwys." Yng ngwyneb hyn, dywedwn nad oes ditn yn fwy adgas i Z5 gymdeithas na sebon ac nid rhyfedd ein bod ni, y Cymry, gan rai, yn cael ein Z5 1 hystyried yn tueddu at "too much of the Paddy." Cyfeiria y gwr parchedig at anysgrythyr- oldeb y cyssylltiad sydd rhwng crefydd yr Arglwydd lesu a'r llywodraeth wladol, ac eto ni ddyfyna un adnod na phennod er profi ei bwnc; ac haera na bu gan yr Eglwys afael gref yng Nghymru." Os nad oes gan yr Eglwys afael gref yng Nghymru y dyddiau hyn, nid ym yn gwybod beth yw gafael gref." 6 Beth ynte yw yr holl adeiladu ac adgyweirio Eglwysi y dyddiau hyn and" gafael gref 7" Onid yw yr Eglwysi newyddion yn Rhondda Z5 Valley, Abertawe, Llanelli, tfce., yn brawf eglur fod "gafael gref" gan yr Eglwys yng 1-1 in c Z5 Nghymru, a bod y Cymry yn dechreu casiiii Ymneillduaeth ? Nid ydym yn gwadu nad yw rhif canlynwyr y sectau gyda'u gilydd yn fwy lluosog nag yw'r Eglwyswyr yng Nghymru ar hyn o bryd, ond myned yn llai y maent. Duw ei Hun yw Pen yr Eglwys, ac nid ysgraglach diegwyddor a Sosialaidd; a hyn yw y rheswm penaf am ei llwyddiant. 0 barth fod clerigwyr Cymru a Lloegr yn derbyn eu holl gyfarwyddiadau gyda golwg ar wasanaeth eu Heglwys hwy oddi wrth senedd y wlad," onid yw Shon Gorff yr un fath, a'u Cyffes Ffydd ac "Hyfforddwr" Charles 1 Y mae yn eglur yma nad yw y gwr parchedig uchod ddim wedi astudio hanesyddiaeth eglwysig, a chynghorwnef i ddarllen gweithiau Selden ac Arglwydd Selborne, a gwel yma nad o Eglwys Rhufain y cafodd sylfaenwyr ac aniddifiynwyr cyutaf Eglwys Loegr eu magu. A ydyw Mr Lewis yn awgrymu nad yr un yw Eglwys Loegr y dydd heddyw a'r Eglwys foreuol a blanwyd yn y wlad hon yn y ganrif gyntaf 1 Os yw y gwr parchedig am haeru hyny, dymunwn ddwcyd wrtho ei fod yn cyfeiliorni yn druenus canys yr un Eglwys sydd wedi parhau yn ddidor yn y wlad hon o'i phlaniad cyntaf yn y tir hyd yn bresennol. Gwir i'r Eglwys gael ei llygru i raddau o'r drydedd ganrif ar ddeg hyd yr unfed ar bymtheg gan gyfeibornadau Rhufeinig ond C, Z5 ymlocwodd yr Eglwys wedi hyny, a'r un Eglwys ydyw eto—ie, yr un ydyw trwy yr I oesau. Her i Mr Lewis neu un Ymneillduwr arall i brofi i'r g wrth wyneb. Nid yw son am sylfaenwyr ac %iiiddiffynwyr cyntaf Eglwys n Loegr ond ffolineb disynwyr. Ond hwyrach fod yr ysgrifenydd parchedig, fel y rhan amlaf o'i frodyr, yn rhy ddall i weled y gwirionedd eglur a syml yma, sef y cyssylltiad anwahan- edig rhwng Eglwys Loegr a'r Eglwys foreuol! n 1-1 113 ZD Z5 Ond, fe allai," meddai, "mai yr orfodaeth i gynnal yr Eglwys, a'r moddion a arferir at hyny, sydd wedi chwerwi a suro dynion goreu a mwyaf diragfarn a chymmedrol ein gwlad fwyaf tuag at yr Eglwys Sefydledig y blyn- n el yddoodd diweddaf hyn." Dim o'r fath beth ond cenfigen at lwyddiant a chynnydd yr Eglwys, a respectability yr offeiriaid. Yn hyn y mac gwraidd y drwg, ac y mae Mr Lewis yn gwybod hyn yn eithaf da. Pwy sydd, hoftem wybod, yn cael eu gorfodi i gynnal yr Eglwys? Y mae yr Eglwys wedi ei gwaddoli n C5 gan yr hen deidau, ac nid yw'r Ymneillduwyr yn cyfranu ceiniog goch at ei chynnal. Lol 0 Z, botes yw cyfeirio at y bazaars, y cyfarfodydd to, a degymau gorfodol at gynnal crefydd ond ni ddywed y gwr parchedig air am y cyngherddau, ac yn enwedig ar nos Wener y Groglith lie y mac caneuon mas weddol a n digrif yn cael eu cario ym mlaen, hyd yn Z5 oed mewn capeli ac ysgoldai. Beth oedd yr eisteddfod a gynnaliwyd dydd Llun diweddaf yn Cydweli ond at gynnal crefydd Shon Gorff i fyny ? Lleiaf ddyweda sectyddiaeth am wirfoddolrwydd er cynnal crefydd, y goreu, am fod yr envelope system sydd yn y capeli y dyddiau hyn yn warth i Gristionogaeth. Pa bryd y ceir llith gan y Parch. J. Wyndham Lewis ar angbyssonderau a gwendidau y gyf- undrefn Ymneillduol ? Pa bryd y ceir pennod ar y gorthrymu a'r dirwasgu a wneir ar aelodau gweinion y cynnulleidfaosdd mewn cyssylltiad a'r envelope system, Ac. ? A pha faint mwy gorthrymus, careni wybod, yw y gyfundrefn yna na chyfundrefn y degwm 1 Os yw y naill yn orthrymus, rhaid fod y llall felly hefyd. Nis gallwn lai na rhyfeddu am (Idyn o safle Mr. Lewis yn ysgrifenu mor naillochrog ar n C5 bwnc mor bwysig. Yn sicr, nis gallaf lai na dyfod i'r penderfyniad nad yw y gwr parch- edig wedi pwyso a mesur ei eiriau, ei ymad- roddion, a'i honiadau megys ag y dylai. Hawyr anwyl y fath fyd ydym yn byw ynddo Onid yw yn rhyfcdd gweled dynion sydd wedi eu magu ar fronau tyner, llaethog yr Eglwys, yn cyfodi wcdyn i'w ammharchu, ei difrio, 'ie, a'i melltithio hefyd Rhyfedd Rhyfedd — Yr eiddoch, &c., EGLWYSWR. Caerfyrddin, Awst lydd, 1890.
[No title]
Ychydig ddyddiau yn ol, cyssegrwyd Eg- c t5 lwys newydd (Sant Pedr) yn Pentre Ystrad, Rhondda Valley, gan Esgob Llandaf. Adeil- adwyd yr Eglwys, ar ei thraul ei hun, gan Mrs. Llewellyn, o Baglan Hall, ac y mae wedi costio iddi 120,000. Y mae yr adeilad new- ydd mewn man canolog, a gellir ei weled am fill tirOedc I o bellder. Y mae yr Eglwys yn y parthau hyn o'r wlad yn cynnyddu yn rhyfedd
|AT EIN GOIIEBWYR.
| AT EIN GOIIEBWYR. | I law, Pwnc yr Eglwys Sefydledig caiff ymddangos yn ein nesaf.