Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

9 articles on this Page

TREF, GWLAD, A THRAMOR.

News
Cite
Share

TREF, GWLAD, A THRAMOR. O'r Statistical Abstract, yng nghyd ag araith C, Z5 n Mr Goschen ar gyflwyniad ei Budget diweddaf z5y i'r wlad, yr ydym yn cymmeryd adroddiad cymhariaethol o gyfanswm y trethi ym- herodrol a osodwyd ac a ddiddymwyd gan lywodraeth Mr Gladstone, a chan y llywod- raeth Undebol dan Arglwydd Salisbury. A ganlyn ydyw ffrwyth llafur ac ymdrech y blaid Rhyddfrydol Trethi a leihawyd neu Trethi a godwyd nea a ddileuwyd. a osodwyd o'r newydd. 188 1 £ 8,444,000 LII,540,000 1882 2,655,000. 1,003,000 1883 11,000. 2,952,000 1884 3,445,000 1885 220,000. 2,002,000 1886 8,000. 4,114,000 Cyfanswm. £ 14,585,000 L21,61 1,000 Felly gwelir fod Mr Gladstone a'i lywodraeth yn gyfrifol am ychwanegiad o dros saith miliwn o bunnau at drethi ein gwlad yn ystod tymmor ei swydd. Canlyniadau ymdrechion cyllidol y llywodraeth bresennol yn yr un cyfeiriad ydynt:— Trethi a leihawyd nou Trethi a godwyd neu a a ddileuwyd. osodwyd o'rnewydd. 188 7 £ 124,791 1888 .2,515,694. 120,000 1889 .3,075,676. 560,000 1890 2,450,000 Cyfanswm. £ 8,166,161 L686,000 yr hyn a ddengys leihad glan o saith miliwn a hanner o bunnau mewn ysbaid o bedair blynedd, heb gyfrif anrheg o dair miliwn a hanner tuag at ysgafnhau trethi lleol dan weinyddiad Deddf Llywodraeth Leol. Llefara y ffeithiau hyn yn uwch na geiriau. # Mae llawer iawn o anwybodaeth ac o gamdybiad yn bodoli yng nghylch natur a chyfanswm y gwahanol grants a wnaed allan o drysorfa ein gwlad tuag at achosion Ymneill- duaeth yn Lloegr a Chymru. Gwna rhai pobl haeru na dderbyniwyd gan Ymneillduaeth yr un geiniog erioed oddi wrth y llywodraeth at t5 Z5 gynnal ei hachos. Byddai yn llawn mor ddoeth iddynt wadu na chododd yr haul erioed. Beth ydyw y gwirionedd am hyn? Yr ydym yn cael allan eu bod wedi curo wrth ddor y llywodraeth bron mor gynnar ag eu ganwyd-yn y flwyddyn 1722. O'r flwyddyn 1722 hyd y flwyddyn 1775, derbyniwyd ganddynt ddim llai na £ 88,400; o 1775 hyd 1804, L49,300 o 1804 hyd 1834, £ 49,229 o 1834 hyd 1845, E20,418 ac o 1850 hyd 1855, L9,313, yr hyn a wna gyfanswm o £ 216,660. Dyma ffeithiau nas gellir eu gwirdroi na'u gwrthbrofi. Maent yn dystiol- aetli bywiol a gt'ymus heddyw o rwymedigaeth Independia Fawr, y Bedyddwyr, &c., i'r llywodraeth am gynnorthwy mor haelionus yn amddifad o'r hwn yn eu babandod, ef allai, ni buasent ar gael heddyw. Gresyn na fuasai i'r llywodraeth ymddwyn mor haelionus tuag at yr hen fam Eglwys. Torodd allan derfysg ofnadwy yn Buenos Ayres ddydd Sadwrn diweddaf, drwy i ran o'r gwarchodlu wrthryfela yn erbyn yr awdur- dodau. Ymladdwyd yn heolydd y ddinas, Uaddwyd llawer a chlwyfwyd mwy. Diangodd llywydd y ddinas am ei einioes. Yn ol yr hysbysiadau diweddaf, deallwn fod y terfysg yn lledaenu, a bod y dinasyddion yn rhestru dan faner y terfysgwyr yn erbyn y llywodraeth. Rhyddbawyd rhai carcharorion, ac yn eu plith un cadflaenor (general), yr hwn sydd yn awr yn arwain y terfysgwyr. Yr ydym amryw weithiau wedi ceisio dwyn sylw ein darllenwyr at y cynnydd a wna yr Eglwys ym mhlith ein cydwladwyr yn y Brif- ddinas. Da y gwyddom fod ein hawdurdodau eglwysig wedi esgeuluso yr Eglwys Gymraeg yn Llundain mewn modd cywilyddus mewn amser a aeth beibio, a bod y maes wedi ei adael bron yn Ilwyr yn nwylaw Ymneilldu- wyr. Ond erbyn heddyw yr ydys wedi cael tro ar fyd, a'n hawdurdodau wedi dihuno at eu gwaith, a'r Eglwys mewn canlyniad yn ennill tir. Yr oedd y Sul diweddaf yn ddi- wrnod i'w hir gofio gan Gymry Llundain, o herwydd y pryd hwnw agorwyd Eglwys new- ydd iddynt ym mhlwyf Sant Mair, yn Pad- dington. Cynnaliwyd dau wasanaeth Cym- raeg ar yr achlysur, y naill y borau a'r Hall y prydnawn, yn y rhai y pregethwyd gan y Gwir Barchedig John Lloyd, Esgob Abertawe. Cyfeiriodd ei arglwyddiaeth at y duedd gref at 0 n gerddoriaeth sydd yng ngbalon y Cymro, a'i fod yn un sydd yn llawn o deimlad dwfn. Dywedodd hefyd mai un o nodweddion ei wasanaeth crefyddol oedd yr ysbryd a'r de- fosiwn a gerddai drwyddo. Credai fod cyf- Z5 y newidiad yn dod dros feddwl y bobl o barthed i bregethu, ac mai nid pregethu yn unig oedd 0 t3 n prif bwnc yr Ymneillduwyr yn awr, ac y dy- munent gael gwapanaeth cyffelyb i eiddo yr Eglwys. Da oedd gan ein eydwladwyr yn Llundain weled yr Esgob Lloyd yn y cnawd, a rhoddes ei bresennoldeb, ar yr achlysur dyddorol o agor Eglwys Gymraeg, foddhad 0 Z5 rnawr i'r cannoedd a ddaethent yng nghyd. # # 0 Dywedir fod dros 200 o wyr y gyfraith yn z,Y y senedd. Ymddengys y nifer hwn yn afres- ymol ym mliob ystyr. Mae yn burion peth i swydd a gwaith a buddiannau cyfreithwyr, fel t5 y eiddo pob dosbarth arall yn y wladwriaeth, gael eu hyrwyddo a'u gwylio yn senedd y wlad ond yn enw pob rheswm, pa eisieu byddin o ddau cant sydd at hyny ? O'r nifer hwn, y mae cynnifer a thri ar ddeg yn cyn- nrychioli Cymru-un i bob sir ar gyfartaledd ac os nad yw y nifer hwn yn ddigon, anhawdd gwybod beth sydd. Dyma restr o'r aelodau Cymreig sydd yn gyfreithwyr :—Penfro, Mr. William Davies Aberteifi, Mr B. Rowlands Gorllewinbarth Caerfyrddin, Mr. Lloyd Mor- gan Rhanbarth Gower, Mr. D. Randell; Canolbarth Morganwg, Mr. S. T. Evans; Deheubarth Morganwg, Mr. A. J. Williams Merthyr, Mr. Pritchard Morgan Gorllewin- barth Mynwy, Mr. C. M. Warmington Caer- narfon, Mr. J. Bryn Roberts; Fflint, Mr. J. Roberts Dinbych, Mr. G. T. Kenyon; Dwy- reinbarth Dinbych, Mr. G. Osborne Morgan Bwrdeistrefi Caernarfon, Mr. Lloyd George. Dyna eto Dwyreinbarth Caerfyrddin (yr hwn sydd yn awr yn wag), y mae y ceugwd llad- icalaidd wedi dewis Mr. Abel Thomas (cy- freithiwr) fel eu hymgeisydd am y sedd. Mae yn bryd i'r wlad ddihuno, neu hi a gaiff ei hysu yu fyw gan wyr y cwils. Y GWAIR A CHWRW. Yn yr amser hwn o'r flwyddyn, pan y mae pob cymmydogaeth yn ddiwyd gyda'r gwair, nid annyddorol, ef allai, gan ein darllenwyr a fydd cael gair neu ddau mewn ffordd o sylw- adau ar ein dull ni yng Nghymru o dori gwair. Yr ydym o'r farn fod gormod o gost yn cael ei dreulio yng nglyn ag ef, a bod genym amryw o arferion afreidiol ag y byddai yn well i ni fod hebddynt. Dyna y cwrw a roddir wrth ei ladd, ac yn neillduol wrth gael y gwair i mewn; mae hwnw yn hollol ddiangenrhaid. Niw yw y corff yn derbyn dim lies oddi wrtho. Mae ein meddygon wedi profi tu hwnt i bob am- mheuaeth nad yw y corff yn derbyn y gronyn lleiaf o nerth a chryfder o ddiodydd alcohol- aidd. Nid gyda'r amcan o gryfhau y corff yr yfir hwy hefyd; yr ydym yn llwyr argyhoedd- edig o hyny, ond yn unig i borthi blys a boddhau y dychymmyg. Nid oes eisieu eu help ar y ceffyl i gyflawnu unrhyw waith caled, a pha ham ar y dyn a fyddo yn cyflawnu unrhyw orchwyl allan o'r ffordd gyffredin ? Mae yn wir yr eir yng nghyd a lladd gwair mewn llawer o fanau yn gynnar yn y boreu, ac y parheir wrth y gwaith yn fynych ym mhell i'r diwrnod, ond a ydyw hyny yr un rheswm dros y cwrw a yfir ar yr achlysur? Os er mwyn tori sycbed yr yfir ef, oni ddywed ein profiad wrthym fod amryw bethau yn well tuag at hyny ? Wei, os yfir cwrw at dori syched, pa ham y rhaid yfed cymmaint yn fynych ag y gwneir? Yr ydym wedi sylwi fwy nag unwaith y flwyddyn hon, heb fyned yn nes yn ol, ar ddynion yn fwy na hanner meddw cyn gorphen eu diwrnod. Yn sicr nid oes eisieu yfed nes banner meddwi cyn tori syched. Mae un peth yn dra hynod yng nglyn a'r gwair. Z5 Z!5 Y mddengys ei fod yn fwy tueddol i gynnyrchu syched wrth ei ladd ac wrth ei fwrw i mewn nag wrth ei gyweirio, o herwydd pan yn cael ei fydylu a'i drin, a'i gardenu ychydig, os dim cwrw a roddir fel rheol, ond dewch ati pan y byddo yn cael ei fwrw i mewn. Dyna He mae rali, yn enwedig yn yr ydlan. Potio ei cbalon hi a wneir yno drwy y prydnawn. Nid ydys yn gwybod pa reswm sydd gan rai dynion dros gyfyngu eu cwrw ym mron yn llwyr i'r ydlan. Mae rhai a llawn cymmaint o syched arnynt yn y cae a'r rhai a giint ffafr well yn ymyl y ty yn yr ydlan. Mae hyn yn dangos mai arferiad ddialw am i co dani ydyw'r cyfan, ac nad oes yr un rheswm dros ei pharhad. Mae yr arferiad y cyfeiriwn ati yn effeithio yn niweidiol mewn rhagor nag un ffordd. Pan y mae y wlad yn cryf ogwyddo, fel y mae, at gymmedroldeb a sobrwydd, hi a arferir yn amser y cynauaf gwair i ymgyfarwyddo a meddwdod. Dygir 5 Ily Z3 ieuenctyd a meddwdod wyneb yn wyneb, ac o'r ymgydnabyddiaeth a gant y pryd hwn, fe dyf, ef allai, berthynas agos rhyngddynt weddill eu hoes. Ni a wyddom am rai, ac yn ddiau fe wyr ein darllenwyr am ereill, a allant olrhain dechreuad eu chwant at ddiodydd alcoholaidd at ryw gynauaf gwair neu "Y gilydd. Pwysig o beth ydyw hyn, a dylai y rhai hyny sydd yn euog o roddi diod ar yr achlysur ei roddi at eu hystyriaeth ddifrifol, a threfnu rhyw ffordd tuag at ddileu yr arferiad. Gwyddom fod yr arferiad wedi gwreiddio ym mhell ac yn ddwfn, a'i bod yn anhawdd ei symmud o'n plith, a'i bod yn gofyn gwroldeb moesol mawr i osod yr wyneb yn ei herbyn. Er hyny, yr ydym yn teimlo yn ei herbyn. Er hyny, yr ydym yn teimlo ei bod yn wir angenrheidiol gwneyd hyny er mwyn lies y bobl, ac yn enwedig y do sydd yn codi. Un ffordd i'w dileu fyddai estyn ychydig o dal i bob un am ei waith yn hytrach na rhoddi cwrw iddo. Gwir ei bod yn arferiad mewn rhai cymmydogaethau i'r naill ffermwr neu'r naill gymmydog helpu y llall, ac y z,Y byddai y naill yn anfoddlawn derbyn tal neu arian gan y llall. Wel, nid oes raid derbyn cwrw, modd bynag, os na wneir derbyn arian. Credu yr ydym fod y mater o ddileu yr arferiad yn gorphwys yn benaf wrth ddrysau ein prif amaethwyr. Pe byddai iddynt hwy benderfynu rhyngddynt a'u gilydd i beidio rhoddi dim cwrw ar yr achlysur, buan y dilynid eu hoi gan amaethwyr llai, ac ereill drachefn na chadwant ond buwch neu ddwy. Yn wir yr ydym yn sylwi taw dosbarth y tair erw a buwch fel rheol sydd fwyaf euog, a'u bod yn arfer rhoddi cymmaint deirgwaith o gwrw yn ol yr erwydd a'r dosbarth sydd yn berchen trigain erw, a deg o c Z5 wartheg. Wrth wneyd y sylwadau hyn, ac wrth annog ein cyd-ddynion i ymarfer byw yn sobr ac ymwrthod a'r arferiad o roddi a chymmeryd cwrw ar amser cynauaf gwair, pell ydym o ewyllysio cyfyngu ar ryddid y bobl. Er hyny, mae yn rhaid gwneyd, tuag at gael y wlad i fyw mor sobr ag y dylai fod. Nid ydym am ddweyd dim ar y gwastraff dialw am dano a arferir ar yr achlysuron hyn. Mae llawer i'w ddweyd ar y ffordd hono, ond ni a adawn y mater yn awr, gan oLeithio y cymmer y rhai byny a garant les eu gwlad a'u cyd-ddynion y pwnc yn garedig at eu hystyriaeth.

MOESGARWCH A'R DOSBARTH GWEITHIOL.

BUGEILIAID Y MYNYDD DU.

LLANDYSSIL.

DREFACH, LLANGELER, A'R CYMMYDOGAETHAU.

PENCADER.

Y GWELY

[No title]

AT EIN GOHEBNVYR.