Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

9 articles on this Page

Y SAFLE WLEIDYDDOL.

TREF, GWLAD, A THRAMOR.

DARGANFYDDIADAU HYNAFIAETHOL…

C Y N N A D LED D F F E R…

HEN DEULUOEDD CYMUU.

BRECHFA.

News
Cite
Share

BRECHFA. Trwy garedigrwydd a haelioni Mrs. Price, y foneddiges o Bryncothi, treuliwyd L'un- gwyn llawcn a hyfryd yn y lie hwn eleni. y n ysgoldy y Bwrdd yn y prydnawn, bu y foneddiges hon mor garedig a rhoddi gwledd o dt, a chyflawnder o'r danteithion goreu y 0 perthynol i hyny, i holl Eglwyswyr Brechfa, Abergorlech, a Llanfihangel-rhosycorn. Daeth cannoedd o bob oedran yng nghyd, a chadwyd 1 0 y seddau yn llawnion am dros dair awr. I Y m mhlith y boneddigesau a gynnorthwyent n Mrs. Price wrth y byrddau, gwelsom Mrs. a'r blisses Jones, o'r Foel Mrs. Jones, y Rheithordy Mrs. Da vies, Glancapelmair; Mrs. Daviep, Caerfyrddin; a Mrs. Davies, Plough, Felingwm. Yn yr lnvyr, yn yr un adeilad, cafwyd cyngherdd ardderchog mynediad i iiiewn yn rliad. Llywyddwyd yn d leheuig dros ben gan Mr. Price, Bryncothi; a chymmerwyd y rhanau blaenllaw o'r gwaith gan bartion o Brechfa, Rhosycorn, ac Aber- gorlech. Yr oedd lr, W. Phillips, o'r Felinwen, yn ei hwyliau arferol, a Mr. Harry, Ystradwrallt, mor ddifyr ag erioed. Hefyd, teihvng yw dweyd fod Miss Jones, Foel; Mrs. Jones, Rheithordy, a Miss Phillips, White Mill, wedi cann yn ganmoladwy iawn. Cafwyd can hefyd, wedi ei chyfansoddi ar gyfer yr achlysur, gan Mr. D. Rhydderch, 3 0 Abergorlech, yr hwn a fu iiior garediced a chaniatau i ni gopi o'r pennillion. Rhoddwn hwynt yma :— Cydunwn bawb yn unfryd I gann teilwng glod I'r wledd a gawsom heddyw- Ei gwell ni chawd erioed Cyflawnder o ddanteithion, Sirioldeb fel yr haul, Pob un uwcli ben ei ddigon, A gweddill sydd i'w gael. CYDGAX— Dyrchefwn ninnau glod, Tra Brechfa byth yn bod, I lady hael Bryncothi, Y goreu ini 'rioed. Canmolir pawb a phobpcth Daionus ym mhob mau, Ar frigwyn donau'r moroedd, Ac hefyd ar y lan Canmoled sawl ganmolo (A rhued nertit ei en), Y Portngue ei winoedd, A'r Frenchman ei chamjmgne. Dyrchefwn ninnau glod, &c. Udgenir clodydd beunydd Ar hyd aIled y wlad, Am yni mawr y morwyr A dewrder maes y gad Udganed sawl udgano (Boddlongar ydym ni) I Wellington aruchel, A Nelson mawr ei fri. Dyrchefwn ninnau glod, Arc. 0 Unasai y gynnulleidfa yn y gydgan yn hynod o nerthol ac effeithiol. Gal wyd droion, a dysgwyliwyd llawer, ar Mr. a Miss Evans o'r Union Hall, ond ni wnacth yr un o honynt ymddangosiad ar y llwyfan. Siaradwyd yn fyr a phwrpasol ar destyn y dydd, sef Mrs. Price a'r wledd, gan Mr. J. Jones, ysgolfeistr, Abergorlech, a Mr. S. Jones, Rheithordy, a chafwyd araith benigamp ar "Gynnildeb pobl ieuainc" gan y Parch. Mr. Hughes, Rhosycorn. Ar ol banllefau drosodd a throsodd o gymmeradwyaeth i deulu hael Bryncothi, a'r diolchiadau arferol, terfynwyd y cyfarfod pleserus drwy ganu "Hen Wiad fy Nhadau" a "Duw Gadwo'r Frenines." Ein gweddi yw, am i ragor o deuluoedd o allll a theimlad teulu Bryncothi fritho ein eymmydogaethau.—CRAK^ y DAHEX.

ST. ANNES, CWMFFRWD.

Y PEIRIANT GWAU.

AT EIN GOHEBWYR.