Hide Articles List

9 articles on this Page

Y SAFLE WLEIDYDDOL.

TREF, GWLAD, A THRAMOR.

DARGANFYDDIADAU HYNAFIAETHOL…

C Y N N A D LED D F F E R…

News
Cite
Share

C Y N N A D LED D F F E R M W Y R GLAN TEIFI. MomsâYr wyf yn gweled fod Mr Gladstone yn parhau i gloffi rhwng dan feddwl mewn perthynas i bwnc llosgedig y dyddâ Dadgyssylltiad yr Eglwys yng Nghymru. Dyma y pwnc y dylem ni, fel fFenmvyr Cymreig, ei bleidio tVn holl egni, er mwyn i ni gael gwared o'r degwm sydd yn ein llethu i'r llawr. Symmudodd Mr. Gladstone y baich oddi ar ffermwyr yr Iwerddon pa ham na wnaiff yr un peth i ffermwyr Cymru, sydd yn griddfan dan eu beichiau ] CadwganâYr wyf yn gweled dy fod di yn ymbalfalu yn dy anwybodaeth o barth i'r degwm. Pe dadgyssylltid yr Eglwys y fory, zn 0 y bydd yn rhaid i ni dalu y degwm. Nid yw yr amaethwyr Gwyddelig ddim gwell ar ol cael n dadgyssylltiad, ac ni fydd ffermwyr glanau ny Teifi a Thywi yn well. ,Ifo)-its-Wel, cefais fy nghamarwain, neu darfu i mi gain ddeall y "Doctor" y nos o'r blaen. Gwilym-Pob un o'r ddau, feddyliwn, canys nid yw y "Doctor" yn gwybod dim am y degwm na'i hanes, er ei fod yn myned ar draws y wlad i areithio. lfywel- Y mae un peth yn amlwg i bawb t, sydd a'u llygaid yn agored, fod Cymru wedi colli ei chymmeriad crefyddol gynt, a gellir priodoli hyn i wleidyddiaeth Radicalaidd sydd wedi trawsfeddiannu ein capeli a'n pulpudau. Mac yr hen hwyliau melus a'r awelon nefol- aidd wedi diflanu, ac mae y tan oedd ar allorau Cymru bron a diffodd. GntJydd-Nid yw hyn yn rhyfeddod, pan mai gwleidyddiaeth ac ysgraglywiaeth yn cael eu pregethu yn ein pulpudan yn lie Efengyl hedd, a dadgyssylltiad yn lie Crist a'i Groes. Agorwyd llifddorau i anfFyddiaetli ddyfod i mewn pan fabwysiadwyd Radicaliaeth yn lh> gwir, ysgraglywiacth yn lie tiydd ac addoliad 0 C, yn cael ei dalu i'r duwcyn Gladstone. Dyna'r streic ym mhlith y myfyrwyr yng Ngholeg Presbyteraidd Caerfyrddin ni feddyl- iwyd am y fath beth yn yr hen amseroedd. Pe byddai yr hen dduwiolionâmegys yr hen Ddavis, Castell Howel Dr. Lloyd, o Gaer- fyrddin; Hugh Jones, o Gapel Heol Awst, Caerfyrddin, ac ereillâgodi o'u beddau yr wythnos ddiweddaf, a gweled drysau y coleg yng nghau, a'r myfyrwyr yn rhodiana, fe agorent eu llygaid, a dy wedent fod Cymru yn dirywio yn hytrach na gwella. Da yw bod y myfyrwyr wedi gwneyd diheurawd (apology), onid e byddai'r Bwrdd yn Llundain yn sicr o gau i fyny y sefydliad. Y mae'r uchod yn profi yn eglur fod Cymru wedi colli ei chymmeriad crefyddol gynt. I forâYr wyf yn gwadu fod Cymru yn Z"3 gwaethygu ac yn ymlygru, ac wedi syrthio n 10 oddi wrth ei chariad cyntaf. Y mae Cymru mor grefyddol ag y bu erioed. Cadwgan-Os ydyw hyn yn wir, beth oedd y galarnadu a'r cwynfan a glywid yn Ystradgynlais yn y Gymmanfa Gwarterol yr ly wythnos ddiweddaf, mor fuan ar 01 yr ymffrost fawr yn Llynllefiad, fod cwarter miliwn o Fethodistiaid yng Nghymru ? Dywedodd un parchedig na fu y fath olwg sobr ar grefydd yng Nghymru er dyddiau Harri yr VIII. hyd yn awr, ac wrth gwrs y mae yn waeth nag oedd yn nheyrnasiad y merry monarch Siarls yr II. Ai dyma y ffrwythau mae Methodistiaeth yn ddwyn yng Nghymru ? Dywedodd y gvvr parchedig mai y chants, y cantatas, yr operas, a'r operatas sydd wedi achosi y dirywiad crefyddol ond ni ddywedodd air am yr halogedigaethau capelyddol a nodais, y ralis a'r spri crefyddol, y fteiriau crwyn," y darlithiau a'r cyrddau te, lie mae bechgyn a merched yu cael eu dwyn at eu gilydd i gusanll yn y "cylch," ac aros allan hyd ganol nos ar hyd yr heolydd. Cyrddau etholiadol mewn capeli, a'r celwyddau a draethir yn y cyfarfodydd hyny y bloeddio, y cliro traed a dwylaw, sydd wedi per, i'r Cymry golli eu hawch at bethau crefyddol, ac edrych ar yr adeiliadau a godwyd i addoli yr Arglwydd ddim gwell na neuaddau a n t3 ch wareudai i ddynion gael difyrweh, ac nid i'r chantio, y cantatas, yr operas, Ac. Detoi-Yr offeiriaid a'r Eglwyswyr sydd yn mynychu lleoedd o'r fath, ac nid ein pregeth- wyr ni. W lIywel- Yn araf deg, Dewi. Yr wythnos ddiweddaf cymmerodd opera "Blod well ac Arianwedd" le yng Nghaerdydd mewn chwareudy, a chlywais fod yno luaws o bregethwyr. Nid oedd dim allan o le iddynt fyncd yno i glywed yr operas. Map. y Methodistiaid Y11 arfer hidlo gwybedyn a llyncu camel. Cafodd un o'u pregethwyr ei rwystro am antser i bregethu am fyned i'r circus, ond maent yn foddlawn i droi y capel i fod yn chwareudy. LlywarchâYr wyf yn ofni ein bod ni fel enwadau yn myned yn fwy rhagfarnllyd bob dydd. Rhoddodd Mr. David Pugh, A.S., awrlais i dref Llandeilo-fawr, ar y telerau fod y dref i dalu am ei reoleiddio a'i gadw mewn trefn. Pasiodcl yr auditor, Mr Edward Jones, y cyfrifon; ac am hyny, dangosodd ychydig o'r Radicaliaid yr ewin fforchog, ac appel- iasant at y Bwrdd Lleol yn erbyn talll yr avian oedd wedi myned am gadw yr awrlais mewn trefn, ond cawsant eu siomi. Yr oedd yr ymddygiad yn orwael. I TurinâYr achos en bod yn gwrthwyuebu talu yr arian oedd, fod yr awrlais wedi cacl ei osod yn y clochdy ac mai i'r Eghvys y cafodd ei roddi. Gwilym- Cafodd y clock ei roddi i'r dref, ac nid i'r Eglwys. Nid oedd yr achwyniad yn erbyn talu ond ceffyl biethyn iddynt llochi yn ei gysgod i saethu at yr Eglwys. Mae y Radicaliaid yn debyg iawn i'r wyber hono yn y chwedl, pan oedd yn methu cael dim arall i'w frathu, brathodd ddurlif (file) oedd ger llaw. Y mae Radicaliaid Llandeilo yr un fath. CadwganâPan mae y Radicaliaid yn methu cael Ceidwadwyr ac Eglwyswyr i'w colynu, colynant en cyfeillion goreu. Mr. David Pugh oeddynt yn golynu ychydig amser yn ol a'r wythnos ddiweddaf Mr. D. H. Thomas, A.S. dros Merthyr Tydtil oedd yn cael ei frathu, am iddo feiddio pleidleisio yn erbyn cynnyg Mr. Stephenson o barth i'r degwm ond am- ddiffynodd yr aelod anrhydeddus dros Ferthyr ei hun i bwrpas. GwilymâY mae Radicaliaeth ein dyddiau ni yn rhy ddirmygedig i'w dirmygu, ac mor ansefydlog a dwfr, ac iiior wammal a cheiliog y gwynt. Clodfori, cegfoli, canmol, a gor- ganmol personau heddyw, a lluchio llaid yr 3 wythnos nesaf atynt. Y mae Radicaliaeth yn ddrwg o'r bon i'r brig. ifoi--Nid yw Radicaliaeth banner mor ddrwg a Thoriaeth ormesgar. CadwganâMae Radicaliaeth yn ddrwg, am ei bod yn gwrthod ufuddhau i'r awdurdodau goruchel; yn dysgu dynion i anufuddhau. Y mae yn ddrwg am ei bod yn cablu urddas. Y mae Ceidwadaeth ar y llaw arall yn dysgu dynion i ufuddhau i'r awdurdodau goruchel, i barchu urddas, i anrhydeddu y brenin neu y frenines. Y mae Radicaliaeth yn beryglus i gymdeithas, am ei bod yn ceisio troi pob peth a'uwyneb i waered symmudhen ffiniau, dad- ymchwetyd hen sefydliadau gogoneddus cin y 11) gwlad, a thori undeb y deyrnas gyfunol a'i rlianu, er mwyn rhyngu bodd y Gwyddelod aflonydd a gwaedwyllt. Y mae y Ceidwadwyr a'r Undebwyr yn penderfynu, deued a ddel, i gadw yr undeb hwn yn gyfan, er gwaetbaf ymosodiadau y Gwyddelod a'u cynghreiriaid Cymreig. Iwan-Nid wyf yn gallu gweled y dylem ni fel ffermwyr Cymreig bleidio y Toriaid nid ydynt wedi gwneyd un ymgais i ysgafnhau ein beichiau. Ilywel-Y Ceidwadwyr yw cyfeillion goreu y ffermwyr, ac nid Mr. Gladstone a'i ganlyn- wyr, sydd yn wastad yn ddigon hael efo eu haddewidion ond nid ydynt mor barod i'w cyflawnu. Dangos i mi un mesur da a fl 0 buddiol i'r ffertLiwyr a basiodd Mr. Gladstone yr holl amser y bu ef mewn swydd. .Ifoi-lts-Did(lyiiiu y doll ar y brag, a rhyddid i'r ffermwyr i ladd cwningod. (iwilym-Nid oes un ffermwr, o Deiti i Lyfnant, wedi cael un budd oddi wrth y mesnr hwnw nid ydynt yn gwneyd brag nid oes cwningod i'w cael i flino y ffermwyr. Clywais y diweddar Mr. Sartoris yn dywedyd yn amser etholiad 1868, "Os byddai idclyut roddi mwyafrif i Mr. Gladstone, er iddo gael myned yn ol i'w swydd, cawsai y trethi Ileol gostwng ;âond yn fuan, ychwanegwydtreth ar geffylau ffermwyr oedd yn ennill eu rhenti wrth gario glo, calch, nen goed. Cafodd y ffenwwyr a'r gweithwyr fwy oddi ar ddwylaw y Ceidwadwyr na chawsant erioed gan y Rhyddfrydwyr, er cymmaint eu brolio mai hwy yw unig gyfeiHion y gweithwyr." lioait-Pwy roddodd bleidleisiau i'r gweith- wyr yn y trefydd ac yn y siroedd ond Mr. Gladstone a'i blaid. GruffyddâIarll Beaconsfield roddodd bleid- leisiau i etholwyr y trefydd, ac am hyny, dywedwyd iddo neidio i'r tywyllwch a gwnaeth y Ceidwadwyr gymmaint a wnaeth y Radicaliaid i basio mesur y pleidleisiau sirol. Ni chafwyd y fath fudgets erioed gan y Radicaliaid a gafwyd gan Mr. Goschen. lIywel-Mac llawer gormod wedi cael ei wneyd o Mr. Gladstone, a gormod o sebon meddai wedi cael ei wastratlu arno. Ym- drcchodd, ac mae ef yn ymdrechu yn barhaus, i ddinysttio ei wlad. IforâYr oedd llawer yn gobeithio fod anghydfod wedi tori allan ym mhlith y Ceid- wadwyr, a bod gobaith i'r Weinyddiaeth gael ei thori i fyny. CadwganâNid oes un ammheuaeth na hofFai y Gladstoniaid weled hyny yn cymmeryd lie; ond ni chymmer hyny le yn fuan. Gobeithiaf y bydd i'r Undebwyr wneyd eu rhagbarotoiadau mewn pryd, deued yr Etholiad CyttVedinol pan y del. Nid oes dim at gadw y powdwr yn sych. Nid oedd mwyafrif Mr. Bowen Rowlands yn sir Aberteifi ond naw, a deunaw yng Nghaernarfon, ar ol i Mr. George fod ar y maes fel ymgeisydd am ddwy fiynedd. Cofied yr Undebwyr mai yr aderyn boreuaf sydd yn pigo y genwair i fyny. MorusâNi lwyddanfc yn eu hymdrechion i dattu yr aelodau Gladstonaidd allan. Ifyioel-Paid bloeddio, Morus. Y mae llawer llithriad rhwng y cwpan a'r wefus.

HEN DEULUOEDD CYMUU.

BRECHFA.

ST. ANNES, CWMFFRWD.

Y PEIRIANT GWAU.

AT EIN GOHEBWYR.