Hide Articles List

9 articles on this Page

Y SAFLE WLEIDYDDOL.

TREF, GWLAD, A THRAMOR.

DARGANFYDDIADAU HYNAFIAETHOL…

News
Cite
Share

DARGANFYDDIADAU HYNAFIAETH- OL YNG NGHYMRU. 0 bryd i bryd, y mae rhyw ffeithiau neu wrthddrychau pwysig yn cael eu dadheneiddio yn rhyw fangre neu gilydd o Gymru ag sydd 0 o'r dyddordeb mwyaf i bawb ag sydd yn 0 teimlo y gradd lleiaf o gariad tuag at hanes eu gwlad. Ai ni ddylai y cyfryw gael eu cof- restru yn briodol, a'r gwrtliddrychau eu sicrhau tuag at gyfoethogi amgueddfeydd ein C) Z5 1113 colegau, er budd ein holafiaid 1 Nid oes nemawr i fis yn myned heibio na fo rhyw ddarganfyddiad cywrain yn cael ei groniclo yn y papyrau. Beth sydd wedy'n yn d'od o'r cyfryw, nis gwyddir, canys y mae y cwbI yn myned i dir anghof. Yr wythnos cynydiweddaf, adroddir mewn amryw newyddiaduron Seisonig am y caffaeliad olaf o'r fath, yr hwn a ddygwyddodd yn sir Feiiionydd. Yr ydym yn barnu na fyddai ychydig linellau mewn cyssylltiad a'r gwrtliddrychau a gafwyd yno yn annerbyniol i'n darllenwyr Cymreig. Ymddengys fod dau ddyn yn n ZIY croesi trosgefn bryn ger trigfan Mr. Pritchard Morg an, yn agos i Dolgellau, pan ganfyddodd Morgan, yn agos i Dolgellau, pan ganfyddodd un o honynt yr hyn a ymddangosai yn debyg i I? ddysgl, yn gorwedd mewn agen yn y graig. 17, t, n 0 Ar ol cryn drafferth, tynasant ef yn rhydd, ac aethant ag ef adref. Ar ol ei grafu a'i olchi, canfyddwyd mai aur oedd y defnydd. Dangoswyd ef i Mr. Pritchard Morgan 0 ZD cywreinrwydd yr hwn a berodd iddo yntau wneyd ymchwiliad manylach yn y lie, ac fe ddaeth o hyd i gawg o'r un defnydd yn y ddaiar. Yr oedd yn amiwg fod y ddau wrtli- ddl-ych yn perthyn i'w gilydd; ac mai cwpan y gwin a dysgl y bara perthynol i weinyddiad y Sacrament oeddynt. Y maent o law- wneuthuriad mwyaf gwych a chywrain, ac yn pwyso 48 wns o aur, cynimysgedig ag ychydig arian. Y mae y ddysgl yn gylchgrwn ei llun, ac yn dwyn yr arysgrif, "In nomine Patris et Filii et Spiritus Sanctus" (yn enw'r Tad, a'r Mab, a'r Ysbryd Glân), gyda llun Crist, a'i ddeheulaw yn ddyrchafedigây trydydd a'r pedwerydd bys yn gauedig. Mesura y cawg droedfedd o uchder a chwech modfedd yn groes i'r geneu. Y mae y fon-golofn i hwn hefyd wedi cael ei gerfio a'i forthwylio yn wych a destlus dros ben, ac oddi tanodd yn dwyn y geiriau, Nicolus me fecit de Here- fordis" (Nicolas o Henffordd a'm gwnaeth). Cyfiwynwyd y llestri i ddynion cynnefin penigamp yn Llundain, y rhai a amlygant fod y gwrtliddrychau o ddirfawr werth mewn ystyr hynafiaethol, yn annibynol ar eu gwerth cynhenid arianol, ac eu bod yn dyddio yn ol i'r 12fed ganrif. Saif adfeilion yr hen Fynach- log enwog y Fanner Abbey ger llaw y lie y cafwyd y lIestri; ac nid oes ammbeuaeth nd eiddo y frawdoliaeth fynachaidd hono oeddynt, ac iddynt, er gochelyd trachwant ysbeilwyr diegwyddor Harri'r 8fed yn yr 16fed ganrif, guddio y fath wrthddrychau cyssegredig yn y In lie y deuwyd o hyd iddynt. Sefydlwyd y Fyhachlog yn y flwyddyn 1,200 gan y Cisterciaidd. Ei gwerth blynyddol pan yr ysbeiliwyd y mynachlogydd gan Harri oedd n Z5 158 15s. 4c., yn cyfateb i Y,1,469 3s. 4c. yr oes bresennol. Y mae archwiliad pellach yn angenrheidiol o fewn ac oddi allan i'r adfeilion. Z, Saif muriau yr hen adeilad i uchder mawr hyd y dydd heddyw; a dangosa y ffencstr ddwyreiniol yng nghangell yr Eghvys, a'r drws eang gorllewinol, fawredd a gwychder y sefydliad pan yn ei flodau yn yr oesoedd gynt. Yn awr fe dyf coed talfrig trwchus o fewn y cynteddau. Y mae rhesi o goed praff yn aros o, yn rheolaidd ar bob ochr i'r rhodfa hir tuag at yr Abadty, ac yn cyflwyno yr olygfa fwyaf dymunol ac arluniawl i'r ardal ar fangre lonydd. Tyf hefyd goed ffrwythau a Uysieuau o bob math i bellder o gylch y Fynachlog ac ymddengys i'r sefyllfan gael ei dewis mewn n ZD congl rhamantus, a chyda doethineb a chyni- hwysder neillduol. Diammheu i lawer o drysor gael ei guddio zn Z5 yn yr amser cynhyrfus hwnw (Harri'r Sfed) gan y mynachod, pan ddeallwyd ganddynt fod yr ysglyfiaethwyr ger llaw; a phe y gwneyd ymchwiliadau priodol a manwl o fewn ac allan yr amryw weddillion mynachaidd yng Nghymru, y deuid o hyd i lawer o lestri ac ysgrifau mwyaf gwerthfawr a phwysig. Y mae yn dda genym ddeall fod Mr. Stephen W. Williams wedi au-ymgymmeryd a'r archwiliadau yn Ystrad Fflur, Ceredigionâ y Fynachlog, lie y cafodd amryw o dywysogion Cymru, yng nghyd a beirdd ac ysgrifenwyr zn n L,3 enwogâDafydd ab Gwilym yn eu plithâeu dodi i orphwys. Y mac llawer o'r hen adeilad gorwych hwn wedi cael ei ddadguddio, a n 13 beddau y mynachod wedi eu dwyn i'r amlwg yn y ddwy ttynedd ddiweddaf. Y mae tradd- odiad fod y coflyfrau a'r llestri cyssegredig, n ZD) yng nghyd ag aneirif wrthddrychau gwerth- fawr, yn guddiedig mewn ogof ar ochr bryn tu n ZD n cefn i'r ffermdy, a gobeithir y dechreuir yn fuan archwilio y cwmpasoedd. Y mae yn drueni gadael un gareg lieb ei throi tra y parhao tebygolrwydd a gobaith am lwyddiant yn yr ymchwil. Perthyn i'r Cisterciaid oedd y Fynachlog hon hefyd ac fe'i sefydlwyd yn y flwyddyn 107G gan Rhys ab Tewdwr, yn y lie a elwir yn awr yr hen Fonachlog. Ail- adeiladwyd hi yn y flwyddyn 1164, gan Rhys ab Gruffydd, yn y lie pres, anol. Meddai a,- diriogaethau helaeth, o verth blynyddol o Y,122 6s. 8c. pryd yr ysbeiliwyd hi, yr hyn yn awr a gyrhacddai t3,058 Is. 8c. Y mae yr t). I olion sydd eisoes wedi cael en dWYll i'r golwg yn dangos fod yr Eglwys yr nn fwyaf yn y wlad. Yn y mynachlogydd mawrion hyn y meithrinid addysg, gwareiddiad, a diwyll- iant o bob math yn yr oesoedd aethant heibio. Yr oeddynt hefyd yn noddfeydd i'r claf a'r angenog ar bob amgylchiad. Nid oedd angen am dlotdai a threth-tlodi, na that am addysg y pryd hyny, canys yr oedd drysau yn agored i bawb yn ddiwahaniaeth, ar un mantais i'r tlottaf ag i'r cyfoethoccaf i gyrhaedd y sefyll- faoedd uwchaf yn yr Eglwys ac yn y wladwr- iaeth yn y celfyddydau ac mewn amaethydd- iaeth. Ond ysbeiliwyd y cyfoeth, gwasgarwyd a llofruddiwyd y preswylwyr, a dinystriwyd yr adeiladau o Harri hyd Croipwel, a rhoddwyd y meddiannan ymaith i'w dyhirwyr. Yr ydys yn awr yn dyheu am ysbtilio yr Elwys o'r ychydig weddill a adawyd iddi o'i heiddo cyntefig, a hyny, bid siwr, dywedir, er ei lies. Ond rhagor ar hyn y tro nesaf. Byddai ychydig hanes am ryw ddarganfydd- Z5 Z3 iadau yng nglyn a gwahanol Fynaehlogydd y n Z5 0 Dywysogaeth yn werthfawr iawn i lawer o 0 ddarllenwyr y JOURNAL, megys Cwmhir, Maes- yfed, Abelanda, Caerfyrddin, Llanllear, Aber- teifi, ifec.

C Y N N A D LED D F F E R…

HEN DEULUOEDD CYMUU.

BRECHFA.

ST. ANNES, CWMFFRWD.

Y PEIRIANT GWAU.

AT EIN GOHEBWYR.