Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

9 articles on this Page

Y SAFLE WLEIDYDDOL.

TREF, GWLAD, A THRAMOR.

News
Cite
Share

TREF, GWLAD, A THRAMOR. Nid ydys yn gwybod pa un a yw y wlad wedi rhoddi digon o ystyriaeth i'r egwyddor y dadleuir drosti gan y Llywodraeth ar hyn o bryd, sef rhoddi iawn i'r tafarawyr hyny yr attafaelir eu heiddo gan y wladwriaeth. Nid ydys yn gweled dim yn anghyfiawn neu anfoesol mewn egwyddor felly. Ymddengys fod Mr.Gladstone yn siarad yn gryf yn ei herbyn, ond byddai yn burion peth iddo gcfio hanes ei dad. Pan ryddhawyd ei chaethien gan y wlad hon, derbyniodd tad Mr. Gladstone ddeg mil a In thrigain o bunnau o iawn yn herwydd y golled a gawsai pan ryddhawyd y caethion yn Jamaica. Credid y pryd hwnw, a chrcdir hyd eto, fod hyny yn gyfiawnder a Mr. Gladstone y pryd hwnw, ac nid ydys yn gweled nad yw achos y tafarmvr y pryd hwn i'w ystyried yn llwyr yn yr un goleu a bod y petisiynau hyny a yrwyd yn erbyn y peth drwy ddwylaw Mr. Dillwyn a Mr. Warming- ton, Mr. Randell, Mr. Lloyd Morgan, a Mr. Alfred Thomas, ac ereill, a'r rhai a gawsant eu dechreuad mewn scl ddmviol a sych, yn hollol ddiahv am danynt, a u bod ddim yn arngen na phapyr wast. o Nid oes terfyn ar y syhv a'r anrhydedd a ddeibynia arwr y Cyfandir Du (Mr Stanley), ac y mae ei wlad enedigol wedi ei meddiannu a'r un brwdgarwch ag a deimlir yn Lloegr. Mae Caerdydd ac Abertawe yn cynnyg en 0 dinasfraint iddo. Cymmer ei briodas le ar y 12fel o'r mis nesaf yin Myn; chlog Westminster. Mae wedi mynegu ei ddy- W(, niuniad i weled Esgob Llanelwy yno. Yn yr 0 y esgobaeth hono y ganwyd ef a'i amcan yn ddiau yw rhoddi anrhydedd i'r Ifen Wlad. Yr wythnos ddiweddaf, yn Croydon, dedfrydwyd Sipsiwn o'r enw Mary Draper i bedwar mis o garchar am dderbyn arian oddi wrth ddynes o'r enw Mrs. Collins, un yn byw mewn aragylchiadau cIa, ac yn 43 ml wydd oed, am ddweyd ffortiwn yr olaf. Cafodd y ddynes gyhuddedig 3p. oddi wrth z,Y t, Collins i'w goscd ar olwyn Ffawd; ac 8p. ar ol hyny, am nad oedd y tair punt yn ddigon dylanwadol i beri i'r olwyn droi o gylch. Addawodd Draper hefyd ysgrifenu at ei phlaned, er gwneyd daioni i gorff ac enaid Mrs. Collins. # Dywcdir fod llawer o arian ffugiol wedi nen ar ddyfod drosodd o Germani i'r wlad hou. Efelychir yr arian a doddwyd yn y wlad lion ym mlwyddyn Jubili y Frenines mor gywrain, fel nas gall y llygad mwyaf cyfarwydd a darganfod y twyll. Yn wir, heria yr arian ffugiol brawf ymarferol arnynt. Dywedir y cedwir gwyliadwriaeth fanwl ar y porthladd- oedd er mwyn dal unrhyw gyfrwys-ddynion a ddichon ddyfod i mewn.

DARGANFYDDIADAU HYNAFIAETHOL…

C Y N N A D LED D F F E R…

HEN DEULUOEDD CYMUU.

BRECHFA.

ST. ANNES, CWMFFRWD.

Y PEIRIANT GWAU.

AT EIN GOHEBWYR.