Hide Articles List

9 articles on this Page

Y SAFLE WLEIDYDDOL.

News
Cite
Share

Y SAFLE WLEIDYDDOL. Cynnaliwyd cyfarfad CeidwadoI tra phwysig dydd Iau wythnos i'r diweddaf yn Llundain, er nnvyn ystyried sefyllfa bresennol pethau yn y senedd a'r wlad. Yr oedd aelodau o'r ddau Dy yn wyddfodol. Y Prif-weinidog a'ti gwahoddasai, ac Nghlwb y Carlton y cyf- arfyddenfc. Wrth agor y cyfarfod, dywedodd Arglwydd Salisbury fod y Llywodraeth wcdi ei hystyried yn angenrheidiol i ymgynghori Ã'i chefnogwyr yng nghylch y gwaith seneddol yn Nhy y Cytfredin, gan fod cymmaint o wrthwynebiad yn cael ei arfet, i gario allan y program oedd gan y Llywodraeth. Nid oeddynt (y Ceidwadwyr) yn bwriadu rhoddi i fyny yr un o'r tri phrif Fesur a ddygasent i mown i'r Ty, ac ymddiriedent yn Ilwyr yng nghefnogaeth y blaid yn y senedd. Yr Z!1 n oeddynt wedi ystyried yn ddifrifol pa ryw ffordd a arferent i ddyfod allan o'r dyryswch. Yniwrthodasent a'r drychfeddwl o benodi diwrnod i roddi taw ar ymddadleuaeth yng nglyn ag unrhyw Fil, a deallai ei Arglwydd- iaeth fod llawer o aelodau y blaid yn anfoddlawn i gynnal eisteddiad yn yr hydref. Wrth ddyfod i benderfyniad yng nghylch y mater, cadwasent mewn cof yr opiniwn cryf oedd yn y Ty yn ffafr cynnygiad Syr George Trevelyan i dori i fyny y senedd yn gynnar yn yr haf a'i galw yng nghyd (tracliefti yn Z", n gynnarach yn y flwyddyn nag yr arferasid ,y 0 gwneyd yn flaenorol. Credent, gan hyny, mai y llwybr goreu yn bosibl a fyddai 0 ruabwysiadu cynnygiad y dadleuasid drosto gan y Twrne Cyffredinol ac ereill, i ail- yruwneycl a Mesurau yr ymdrinasid rhyvvfaint a hwy yn yr eisteddiad dilynol. Yr oedd hyn," meddai ei Arglwyddiaeth, yn llwybr gwir ddoeth i fyned YIIl mlaen a gwaith y Z!1 senedd. Nid oedd yn bosibl amddiffyn y dull presennol o gario pethau ym mlaen. Amcanai efe, gan hyny, gynnyg y fath gyfnewidiad yn '75 zD 0 rheolau y Ty ag a ganiataai iddo dori i fyny ar y laf o Awst. Gohirid unrhyw Fesur y pcnderfynid ei ddwyn drosodd, a'r hwn 11a chawsai ei basio hyd y pryd hwnw, drwy benderfyniad neillduol i'r perwyl hwnw o eiddo y Ty. Dygid y Bil i mewn drachefn yn yr eisteddiad nesaf, ac eid drwy y senedd ag ef, ond ni chaniateid dim ymddadleuaeth arno nes cyihaedd o hono ei fan agored. Hynyna oedd cynnygiad y Llywodraeth, ond da fyddai Z" gan ei Arglwyddiaeth glywed unrhyw aw- n grymiadau mewn ffordd o welliant oddi wrth aelodau y Blaid Geidwadol. Dadleuai Mr. Thomas Lowther yn erbyn y cynllun, gan y credai y byddai er niwed i'r Blaid Geidwadol. Gallai y Radicaliaid, pan ddelent i swydd, arfer cyfnewidiad o'r fath yna er niwaid mawr i'r Ceidwadwyr. Awgrymai efe tnai doeth fyddai i'r Ceidwadwyr aberthu rhan o'u program. Tybiai Syr John Mowbray taw doethach fyddai cael eisteddiad yn yr bydref, os oedd yn angenrheidiol pasio y tri pliiif Fesur eleni, a'r! hyn y cydolygai efe. Cydwelai Mr. J. M. Maclean a Mr. Lowther, a bod y Llywodraeth yn ddyledus iddi ei hun am yr anhawsderau a deimlai yn awr drwy ddwyn i mewn Fesur Trethiad Lleol mewn ndeg pan oedd ganddi ormod 0 waith eisoes. Maentumiai efe y dylent ystyried unrhyw gynllun chwyldroadol yn e,Y y rheolau y Ty nid yn gymmaint fel aelodau plaid ag fel rhai yn teimlo eiddigedd dros urddas y Ty a rhyddid barn a llafar. Ammheuai efe a gyrhaeddai cynnygiad y Llywodraeth ei amcan, gan nas gellid ei basio heb ymdrafodaeth arno, yr hyn a gymmerai fwy o'u hamser na phed elent ym mlaen gwaith yn dawel. Credai ef gyda Mr. Lowther y gallai y fath gynllun brofi yn ddinystriol ar ol hyny i'r Blaid Geidwadol. Rhoddes Syr Robert Lethbridge a'r Mil- wriad Kenyon gefnogaeth wresog i gynnyg- Z, n C, in iadau y Llywodraeth. Yr un niodd hefyd y gwnaeth Syr R. N. Fowler, ond ei fod yn fwy am adieus yng nghylch y mater. Mr. Hanbury ddywedodd mai gwell ganddo ef fyddai cael eisteddiad yn yr hydref na chyfnewid dim ar reolau gweithrediadau y Ty, a gogwyddai Syr W. Barttlet, h. McCartney a Mr. Lees i'r un cyfeiriad. Mr. W. H. Smith, yr hwn wrth godi ar ei draed, a gafodd dderbyniad gwresog, a ddy- wedodd mai ei opiniwn ef yn bersonol oedd fod cynnygiad y Llywodraeth yr un doethaf yn bosibl, a'r unig un oedd ganddi i'w fabwys- iadu, ac yr oedd Syr Edward Clarke o'r farn hono hefyd. Dywedodd Arglwydd Salisbury ar ddiwedd y cyfarfod y cai yr ymrywiol awgrymiadau a nodasid eu hystyried yn ddifrifol yn y Cabinet. Yna terfynwyd y gweithrediadau, er i amryw o aelodau aros ar ol i ymdrafod ym mhellach ar y mater. Mwy na thebyg nad cynnygiad y Llywodraeth a dderbynir gan y mwyafrif.

TREF, GWLAD, A THRAMOR.

DARGANFYDDIADAU HYNAFIAETHOL…

C Y N N A D LED D F F E R…

HEN DEULUOEDD CYMUU.

BRECHFA.

ST. ANNES, CWMFFRWD.

Y PEIRIANT GWAU.

AT EIN GOHEBWYR.