Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

9 articles on this Page

A GAFWYD YN EUOG.

News
Cite
Share

A GAFWYD YN EUOG. Y BARNWYR YN CONDEMNIO BRAD- WRIAETHAU Y PARNELIAID. Gosodwn yma dalfyriad o Adroddiad y Ddirprwyaeth Freninol. Mae yn debyg ei fod erbyn hyn wedi ei gyhoeddi mewn llawer iaith, a rhaid iddo barhau yn dystiolaeth safadwy o'r gwirionedd am y Werddon am y deg mlynedd di weddaf. n Mae y tri Barnwr a appwyntiwyd gan y Parliament o dan Ddeddf y Commissiwn Neill- duol, 1888, wedi mynegu fod y cyhuddiadau a ddygwyd gan y limes yn erbyn Mr. Parnell ac aelodau Seneddol Gwyddelig eraill, wedi eu profi yn yr achosion a ganlyn :— CYNLLUNIO YMWAHANIAD. Dywed yr Adroddiad (tudal 32) fod rhai aelodau Seneddol Parnelaidd, yng nghyd a Mr. Davitt, wedi sefydlu eu hunain ac ymuno yn nhrefniant Cynghrair y Tit- gyda'r amcan i'w ddefnyddio tuag at ddwyn i ben annibyn- iaeth diammodol y Werddon fel cenedl yn byw ar wahan. Ni a gredwn fod hyn wedi ei brofi yng nglyn a'r rhai canlynol ym mhlith y rhai a brofwyd :—Mr. Davitt, Mr. M. Harris, A.S., Mr. Dillon, A.S., Mr. W. O'Brien, A.S., Mr. W. Redmond, A.S., Mr. J. O'Connor, A.S., Mr. Joseph Condon, A.S., a Mr. J. J. O'Kelly, A.S. BRADWRIAETH DROSEDDAWL YNG NGLYN A GORFODI A DYCHRYNU. Yr Adroddiad a ddywed (tud. 54) :— Ein barn ni yw, fod arweinwyr Cynghrair y Tir, y rhai a ymunent a'u gilydd i arfer boicottiaeth, yn euogo fradwriaeth droseddawl un o amcanion yr hon (fel ag y mynegwyd yn yr ail gyhuddiad) oedd, drwy arfer cynllun o orfodi a bygwth, lledaenu cynnhwrf tirol yn erbyn talu rhenti amaethyddol gyda'r amcan o dylodi a gyru tirfeddiannwyr Gwerddon o'r wlad, y rhai a alwyd y gwarch- odlu Seisnig." Ni a.gredwn fod y cyhuddiad hwn wedi ei brofi yn erbyn y rhai a ganlyn :— t3 C. S. Parnell, A.S. Jeremiah D. Sheehan, A.S. John Dillon, A.S. James Leahy, A-S. Joseph G. Biggar, A.S. Edward Leamy, A.S. Thomas Sexton, A.S. John Barry, A.S. T. P. O'Connor, A.S. Dr. Tanner, A.S. M. Harris, A.S. Morris Healey, A.S. W. O'Brien, A.S. Thomas Quinn, A.S. T. D. Sullivan, A.S. Danl. Crilly, A.S. T. M. Healy, A.S. Henry Campbell, A.S. Tim Harrington, A.S. Patk. J. Foley, A.S. Ed Harrington, A.S. J. J. Clancy, A.S. A. O'Connor, A.S. J. F. K. O'Brien, A.S. Jos. E. Kenny, A.S. R. Lalor, A.S. W. Redmond, A.S. Thomas Mayne, A.S. J. E. Redmond. A.S. ,Tno. Deasey, A.S. Justin McCarthy, A.S. J. C. Flynn, A.S. J. O'Connor, A.S. Jeremiah Jordon, A.S. Th. Jos. Condon, A.S. W. J. Lane, A S J. J. O'Kelly, A.S. D. Sheehy, A.S. Andrew Cummins, A.S. Donald Sullivan. A.S. Jos. R. Cox, A.S. Garrett. M. Byrne A.S. Patrick O'Hea, A.S. Michael Davitt." LLEDAENU ANNOGAETHAU I GYFLAWNI TROSEDDAU. Dywed yr Adroddiad (tud. 119) Yr ydym yn cael fod y rhai a osodwyd ar eu prawf wedi lledaenu yr Irish World" a phapyrau eraill yn tueddu at annog pobl i godi terfysg a chyflawni troseddau." 0 Dynoda y geiriau y rhai a osodwyd ar eu prawf yma, y personau canlynol yn ogystal a'r rhai a enwir uchod J. Gilhooly, A.S. T. Finucane, A.S. ft fA S: a A. O'Keefe, A.S. A.S. Joseph Nolan, A.S. Michael McCartan, A.S. T. P. Gill A S Sir T. Esmonde Barg, AS. Patrick O'Brien, A.S. John Stack, A.S. P. J. O'Brien, A.S. Denis Kilbride, A.S. Matthew J. Kenny. A S Dr. J. F. Fox, A.S. J. D. Pyne, A.S. M. Conway, A.S. P. J. Power, A.S. L. P. Hayden, A.S. James Tuite, A.S, W. Abraham, A.S. ANNOGAETH BARHAUS I DDYCHRYNU. Dywed yr Adroddiad (tud. 119), fod yr aelodau Parnelaidd cyhuddedig ac ei-aill wedi rhoi annogaeth i ddychrynu, ac mai canlyniad yr annogaeth hono oedd i'r rhai a annogwyd fod yn euog o gyflawni troseddau a therfysg Y r ydym yn cael, o barthed i'r haeriad na wnaeth y rhai a brofwyd dditu i rwystro troseddau, ac na fynegasant ddim anghymmeradwyaeth wirioneddol, fod rhai o'r cyhuddedigion, (ac yn eu plith, Mr. Michael Davitt yn neillduol,) wedi dangos anghymmeradwyaeth yn erbyn troseddau a therfysg, ond, na wnaeth y cyhuddedigion ddweyd yn erbyn y drefti o ddychrynu a arweiniodd i gyflawni troseddau a therfysg, ond y glynasant wrthi gan ar yr un pryd wybod ei chanlyniadau." AMDDIFFVN A GWOBRWYO TROSEDDWYR. Dywed yr Adroddiad (tud. 120) Yr ydym yn cael bod y rhai a osodwyd ar eu prawf wedi amddiffyn personau y cyhuddid hwy o droseddau tirol, ac wedi cynnal eu teuluoedd. Yr ydym yn cael, o barthed i'r haeriad a wnaed yn erbyn y rhai a ddod wyd ar eu prawf, iddynt wneyd taliadau tuag at roddi iawn i bersonau a niweidiwyd yng nghyttawn- iad troseddau, eu bod wedi gwneyd taliadau o'r fath." £100,000 HEB GYFRIF AM DANYNT. 0 barthed i arian Cynghirair y Tir, achwyna y Dirprwywyr, nad oedd cyfrif priodol i'w gael. Yn y flwyddyn 1882, cydnabyddir detobymad y swm 0 L244,820, o'r hyn fe aeth Z148,000 at dreuliau cyffredinol." Dywed y Barnwyr (tud. 96) O'r swm Y,148,000 ifnyr!^ylllr ym mhlithy treuliau, cyfrifir am 'yn y tystiolaethau sydd o'n blaen °f 0 °8'00.0 gweddill fe aeth dros £ 70,000 Tlr<>1 ? Benywod- Ni 1-oddwyd fl cyfrif am draul yr arian a gyflwynwyd drosodd i Gyaghrair Tirol v iienywoa, neu am y gweddill o £ 108 000 Y mae genym hyspysrwydd oddiwrth Mr Davitt, am Lyfr a elwir Llyfr KeDs, ym meddiant Cynghrair Tirol y Benywod. Ni cliafodd y llyfr hwn, na r unrhyw lyf r arall a gedwid "an Gynghrair Tirol y Benywod, eiddwy,, gerbron. Yn y modd hwn ni a gawn dros £ 100,000 o arian y Cynghrair Tirol heb unrhyw fanylion am y niodd y cawsant eu treulio." Yn nhud- alen 119 dywedant:—" Nid yw wedi ei brofi fod y cyhuddedigion wedi talu arian er mwyn cymmhell pobl i gyflawni troseddau," Ond terfynant eu sylwadau o barthed i'r cyfrifon clyda'r cerydd Ilym canlynol (tud. 97):—" Ar y pwnc hwn gallwn wneyd sylw cyffredinol, nad ydym wedi derbyn oddiwrth Mr. Parnell a swyddogion y Cynghrair Tirol y cynnorthwy a deilyngem gael wrth chwilio i mewn i gyfrifon y Cynghrair Tirol, fel ag i ddeall pa fodd y treulid eu cyllid." CYDWEITHIO A'R DYNAMEITWYR. Dywed yr Adroddiad (tud. .120):- H 0 barthed i'r haeriad, i'r cyhuddedigion wahodd cynnorthwy a chydweithrediad, a derbyn tan- ysgrifiadau o arian oddiwrth gymmhellwyr adnabyddus i droseddau ac arferyd dynameit, ni a gawn fod y cyhuddedigion wedi gwahodd cynnorthwy a chydweithrediad a derbyn tanysgrifiadau o arian oddiwrth Patrick Ford, cymmhellydd adnabyddus i droseddau ac arferyd dynameit; ond nid yw wedi ei brofi am y cyhuddedigion neu unrhyw un ohonynt, mai y Clan-na-Gael a lywodraethai y Cynghrair, neu y casglai arian tuag at y Gronfa Seneddol. Mae t5 Z5 wedi ei brofi y gwahoddai y cyhuddedigion. ac y cawsant, gynnorthwy a chydweithrediad Plaid y Gallu Anianyddol yn America, yn cynnwys y Clan-na-Gael, a thuag at gael y cyfryw gynnorthwy, iddynt ymattal rhag ymwrthod a gwaith y Blaid hono neu ei gondemnio." 0 barthed i'r cyhuddiadau eraill yn erbyn Mr. Parnell ac Aelodau Seneddol Parnelaidd eraill, dywed y Barnwyr:—"Yr ydym yn cael nad oedd yr aelodau cyhuddedig eraill o'r Senedd gyda'u gilydd yn aelodau o blaid fradwrus, amcan yr hon oedd sefydlu llwyr annibyniaeth y Werddon." (tud. 119). Yr ydym yn cael fod y cyhuddiad, iddynt pan ar ryw adegau neillduol y tybient ei bod yn ddoeth i ddweyd yn erbyn troseddau, ac iddynt wneyd hyny a rhai troseddau neillduol yn gyhoeddus, arwain eu canlynwyr ar ol hyny i gredu nad didwyll oedd y cyfryw gondemn- iad-yn un sydd wedi ei brofi. Yr ydym yn llwyr ryddhau Mr. Parnell a chyhuddedigion eraill o'r cyhuddiad o ddiffyg didwylledd wrth ddweyd yn erbyn mwrdradau Pare Phcenix, ac yn cael fod y llythyr ffac- simile ar ba un y sylfaenwyd y cybuddiad cyn belled ag yr el yn erbyn Mr. Parnell, yn dwyllodrus." (tud. 119.) Yr ydym yn cael na ddarfu i'r cyhudd- edigion yn uniongyrchol gymmhell pobl i gyflawni troseddau oddieithr y gwaith o ddychrynu." (tud. 119.) Nid yw wedi ei brofi iddynt lawnodi tystysgrifau i droseddwyr adnabyddus, neu y cydgymmysgent a hwynt, neu iddynt dalu arian i rwyddhau diangfa troseddwyr rhag cyfiawnder." (tud. 120.) Y mae yn aros dri o gyhuddiadau pendant yn erbyn Mr. Parnell, sef (a.) "Y gwyddai Mr. Parnell yn amser trefniadau Kilmainham i Sheridan a Boy ton fod wedi bod yn trefnu cynnhwrf, ac felly y mynai eu defnyddio i ostegu cynnhwrf." Ni a gawn nad yw y cyhuddiad hwn wedi ei brofi." (b.) "Fod Mr. Parnell yn gyfarwydd a'r prif Annorchfygolion, ac iddo yn debygol dderbyn gwybodaeth drwyddynt beth oeddynt yn ei gylch, pan y rhyddhawyd ef dan am- modau yn Ebrill 1882, ac iddo ddeall mai gwaith eu dwylaw hwy oedd mwrdradau Pare Phoenix." "Yr ydym yn cael nad oes sail i'r cy- huddiad hwn. Yr ydym wedi mynegu yn barod nad oedd yr Anorchfygolion yn gangen o'r Cyngrhair Tirol. (c.) "I Mr. Parnell ar y 23ydd o Ionawr, 1883, drwy help arianol cyfamserol, alluogi F. Byrne i ddianc rhag cyfiawnder i Ffrainc." Yr ydym yn cael na roddes Mr. Parnell ddim arian i alluogi F. Byrne i ddianc rhag cyfiawnder." (tud. 120.) TROSEDD YN DILYN SODLAU Y CYNGHRAIR. 0 barthed i'r cyssylltiad agos rhwng gweithrediadau y Cynghrair Tirol a chynnydd troseddau yn y Werddon, dywed y Barnwyr ar ol rhoddi ystadegau llafurfawr, (tud. 83, 88, a 91) Annichon astudio y ffigyrau heb weled fod cyfodiad troseddau tirol yn gyd-ddigwyddol a gweithgarwch y Cynghrair Tirol, a lleihad troseddau tirol yn gyd- ddigwyddol a diffyg gweithgarweh ar ran y Cynghrair Tirol yr un mor amlwg a'u gilydd Y cwestiwn yw, pa un a ddarfu i waith arweinwyr cynnhwrf y Cynghrair Tirol gynnorthwyo i ychwanegu troseddau tirol rhwng 1879 ac 1882, ac ar y pen hwn ni a gawn fod ychwaneg- iad mewn troseddau tirol yn ystod y blynyddau hyny, ac er nad yn llwyr gyfrifadwy i'r cyn- hwrf yn ddyledus yn benaf i weithrediad y Cynghrair Tirol, ei sefydlwyr a'i arweinwyr. Yn ystod 1880,1881 ac 1882, nis cawn i'r Cynghrair, fel trefniant, gymmeryd unrhyw gam pa bynag, i gynnorthwyo dadlenu troseddau, neu iddo roddi unrhyw orchymmyn i'r perwyl hWIlW. i'w ganghenau Iluosog trwy yr holl wlad. I SYMIO I FYNY. Mae y Barnwyr yn cael yn eglur yr aelodau Parnelaidd uchod yn euog o'r rhan fwyaf o'r cyhuddiadau a ddygwyd yn eu herbyn gan y Times. Mae deugain a dau o honynt yn euog o fradwriaeth droseddawl i orfodi a dychrynu, a gyru allan y Gwarchodlu Seisnig. Mae saith o honynt yn euog o ymgeisio at lwyr wahaniad y Werddon. 0 Maent oil yn euog o gymmhell dychrynu, yr hyn sydd wedi achosi troseddau a chynhwrf, ac o wrthod yn wybyddus i ddweyd yn eu herbyn. Maent yn euog o amddiffyn a rhoi cyn- northwy arianol i droseddwyr. Maent yn euog o guddio treuliau eu Cynghreiriau—mae EIOO,000 yn bendant heb gyfrif am danynt. Maent yn euog o wahodd a derbyn cydweithrediad sc arian Dynameitwyr fel Patrick Ford, ac o ledaenu papyrau fel yr Irish World, y rhai a breg- ethent y dylid Ilosgi dinasoedd Soisnig a mwrdro deiliaid Prydeinig. ——

Y CYMRY FEL CELFYDDYD-WYR.

ADOLYGIAD.

Advertising

LLANDYSSIL.

"CALAN HEN."-LLANDYSSIL.

At Olygydd Y JOURNAL.

[No title]

CWYN YR AMDDIFAD.