Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
22 articles on this Page
ARAITH MR. CHAMBERLAIN.
ARAITH MR. CHAMBERLAIN. Syrthiodd i ran Mr Chamberlain nos Lun diweddaf, fel y gwnaeth lawer gwaith o'r blaen, i swnio y nodyn cyntaf yn y rhyfel tafodau sydd yn arfer cael ei gario ym mlaen yn ystod gwyliau y Senedd. Eleni y mae y pleidiau gwrthwynebol wedi dangos brys anarferol i agor y rhyfel. Cyn braidd i Araith y Frenines orphen swnio yn ein clustiau dyma lais Mr Chamberlain i'w glywed, ac y mae eraill yn blaenllymu eu tafodau ar gyfer y frwydr. Dydd Iau yr wythnos hon yr oedd Arglwydd Cross yn siarad yn Sheffield, a heddyw (Gwener) mae Arglwydd Randolph Churchill yn dweyd rhywbeth newydd a hynod yn y Drefnewydd, ac yfory bydd Arglwydd Hartington yn siarad wrth ei gymmydogion a'i gyfeillion yn Ilkley. Yn yr araith hon o'i eiddo yn Birmingham cvffyrddodd Mr Chamberlain a thri phwnc o bwys, un o bonynt yn fater lleol, mae yn wir, er hyny o ddyddordeb mawr—trefniant y Rhyddfrydwyr Undebol yn Birmingham-a'l' ddau arall yn fwy cynnwysfawr, sef y gwaith a wnaethpwyd yn y senedd yn ystod y senedd- dymmhor diweddaf, a gwleidlywiaeth y Rhyddfrydwyr Undebol mewn cyssylltiad a'r Werddon. Gan ein bod wedi cyhoeddi erthygl yn ein rhifyn diweddaf ar waith yr Eisteddiad Seneddol, cyfyngwn ein sylwadau y tro hwn at ddau ben olaf araith Blaenor yr Undebwyr yn Birmingham. Cieda Mr Chamberlain fod y II wyddiant sydd wedi dilyn ymdrechion y Weinyddiaeth bresennol yn y Werddon yn perthyn i'r Blaid Undebol yn gyffredinol. Geill canlynwyr Mr Gladstone, neu Mr Labouchere neu ryw flaenor gwrthbleidiol arall ammheu fel y mynont fod y tawelwch sydd ei gynnyrchu gan ddim a wnaed neu ni wnaed gan y Weinyddiaeth sydd mewn swydd ar hyn o bryd. Ond nis gallant ac nid ydynt yn ammheu fod Ilawer o gyfnewid- iad er gwell i'w weled yng nghyflwr Gwerddon. Maentumient yn y cychwyn taw myned o ddrwg i waeth a wnai pethau o dan deyrnasiad 's eyfraith a threfn," ac yn awr teimlant yn siomedig iawn am nad yw eu prophwydoliaeth wedi troi allan yn gywir. Tuhwnt i bob ie a nage y mae Gwerddon Mr Balfour yn an- feidrol fwy tawel a heddychol na Gwerddon Syr George Trevelyan, ac y mae y Weinydd- iaeth yn penderfynu talu digon a dim gormod o sylw i faterion Gwyddelig weddill yr am-er y byddant mewn gallu. Fel y dywedodd Mr Chamberlain yn eithaf gwir mae Ymreolaeth, am ryw amser o leiaf, wedi cilio i'r tu cefn. Mae y wlad yn falch i gael rhywbeth arall yn ei le. Nid yw Gwerddon wedi bod yn gym- maint o graig rhwystr yn ddiweddar ag y hu 9 n unwaith. Nid yw wedi llyncu amser y senedd i'r fath raddau fel ag i beri i'r Parliament angbofio ei ddyledswydd at Loegr, Ysgotland, a Chymru. Mae effaith gwaith y Weinydd- iaeth yn gwrthod gofynion y Parnelliaid wedi troi allan yn groes i'r hyn y credid unwaith y buasai. Mae y Llywodraeth Undebol wedi mynegu ei hamcanion yug nglyn a dreniau a rheilffyrdd ysgeifn, mae hyd yn nod wedi myned mor bell ac awgrymu gwelliantau ym mheirianwaith addysg uwchraddol, hyd yn nod y 0 pe wrth gario ei chynllun i weithrediad y bydd rhaid iddi, i ryw fesur, waddoli y grefydd Babaidd, ond y mae wedi tynu'r llinell yn bendant gydag Ymreolaeth. Nid yw wedi siglo modfedd o'r man y safai gyntaf ar y 0 pwnc hwn. Mae annhrefn ac anghyfraith, gwleidyddol neu beidio, wedi ei osod i lawr gyda llaw gref a diysgog cyn gynted ag y dangosent eu hunain. Mae cyfiawnder diwyro wedi ei fesur i bawb fel eu gilydd. Nid oes wahaniaeth pa un ai aelod seneddol diwylliedig neu wladwr syml o rosydd Donegal a fyddai y pechadur. Er cymmaint Radical yw Mr Chamberlain nis gall attal rhoddi y clod dyledus i Weinyddiaeth Geidwadol am reoli Gwerddon gyda llwyddiant anarferol o fawr.
MR BALFOUR A GWAITH Y SENEDD
MR BALFOUR A GWAITH Y SENEDD Ymdrecha y Wasg Radicalaidd ym mhob dull a modd bardduo Prif Ysgrifenydd y Werddon, a lleihau ei ddylanwad ar feddwl yr etholwyr. Ond ymdrechu yn ofer a wnant. Yn ystod y ohwe mis diweddaf efe a fu y ffigwr mwyaf amiwg yn Nhy y Cyffredin. .Mae wedi dwyn pwys a gwres y frwydr seneddol ym mhob peth mewn perthynas a phwnc y Werddon. Dydd ar ol dydd yn swyddfa y Werddon, a nos ar ol nos yn y Senedd bu raid iddo ymladd ag "anifeiliaid" gwrthwynebol, a'u hymladd yn llwyddiannus hefyd. Nid oedd geiriau yn rhy gas, nac ym- adrodd yn rhy ddrwg i'w defnyddio gan yr aelodau Gwyddelig am y Prifysgaifenydd, ond y mae wedi gwrthsefyll pob ymosodiad, a throi yn ol bob gwrthwynebydd, gydtlg arfau Hymion a dinystriol rhesymeg a ffeithiau. Cymmerer yr engraifft ddiweddaf oil o allu dadleuol Mr Balfour yn yr ymdrafodaeth a gawd yn y senedd ar achos y carcharorion gwleidyddol yn y Werddon. Nid yn unig rhoddes atebiad llawn i'w wrthwynebwyr, ond yn ei dro ym- osododd ef arnynt hwy, gan ddystewi ei tan a speicio eu gynau. Profwyd fod y driniaeth a ga carcharorion yn y Werddon yn dynerach na'r un sydd mewn arferiad yn y wlad hon; ond ni welwyd erioed un siaradwr Gwyddelig yn codi i fyny yn ei le i ddadleu o blaid car- charorion Seisnig. Ymdrecha aelodau Par- nellaidd yn awr ddangos eu hunain fel dyn- garwyr, ond pan oedd eu cyrph hwy eu hunain mewn perygl am dori cyfraith y dechreuasant ddadlen dros leddfu dysgyblaeth y carcharau yn y Werddon a chael moethusach bwyd. Oafodd y gwladgarwyr eofn hyn eu hunain rhwng y ddeucorn yma-yr oeddent wedi herio Mr Balfour a Deddf y Troseddau; dat- ganasant y torent y cyfreithiau a llenwi y carcharau. 0 ganlyniad rhaid oedd iddynt gyflawni eu bygythion neu gael eu cyhoeddi M llyfrgwn, yr hyn mewn gwirionedd ydynt. Daeth Llywodraeth Arglwydd Salisbury i swydd ym mis Awst, 1886. Mae tair blynedd gan hyny wedi myned heibio er pan y daethant yn gyfrifol am drefnu materion y genedl. Yn ystod yr amser hwn fe hawlir dros y Weinydd- iaeth eu bod wedi cario ym mlaen Lywodraeth y wlad yng ngwyneb y gwrthwynebiad mwyaf annheg gyda llwyddiant mawr. Maent wedi cadw yr heddwch a'r byd maent wedi arfer yn ogystal a phregethu cynnildeb, ac y maent wedi dwyn allan fesurau diog'el a llesol i'r wlad. Mae Mr Gladstone yn dweyd iddynt gael eu profi" i'r eithaf, ond yng ngwyneb I? Z3 pobpeth y mae dros 200 o gyfreithiau wedi ei gosod ganddynt ar ddeddf-lyfrau Prydain Fawr a'r Werddon, er y dywedid dair blynedd yn ol y buasai i'r Werddon gau i fyny y ffordd.
MR. GLADSTONE YN FFRAINC.
MR. GLADSTONE YN FFRAINC. Mae Mr a Mrs Gladstone ac aelodau eraill o'r teulu wedi myned drosodd i Ffrainc i dalu ymweliad a'r Arddangosfa, yr hon sydd yn attynfa i gymmaint o ddynion o wahanol wledydd y byd ar hyn o bryd. Pan ymadaw- odd y Cyn-prifweinidog a glenydd yr ynys hon ymddangosai mewn iechyd rhagorol. Cyr- haeddodd ef a'i gwmni i Paris nos Fawrth. Yr ydym yn gobeithio y bydd y bleserdaith o les dyblig iddo-yn gorphorol a meddyliol—ac y bydd yn foddion i dynu o'i ben yr hen ddrychfeddwl gwirionffol o Ymreolaeth i'r Wet-ddon, yr hwn ddrychfeddwl sydd welj hollti ei blaid ei hun yn ddarnau nas gellir, mae yn fwy na thebyg, eu hasio yng nghyd byth mwy.
DALA GWAHADDOD.
DALA GWAHADDOD. Nid yw y "creadtir bychan du yn sefyll yn ucbel yng ngolwg v ffermwr. Pan welir eu tommenydd fe gyfritir fel rheol fod y tir yn dir da, er hyny un o orchwylion cyntaf y ffermwr yw cael gwared arnynt. Maent yn niweidiol iawn i bob earth ffosydd, ac yn elynion marwol i'r abwydyn, am yr hwn yr ysgrifenodd Darwin mor dda, a'r hwn a gan- molir mor uchel ganddo fel gvmeuthurwr tir. Yn wir bwyd gwahaddod yn y cyffredin yw abwydod daiar, er y gwnatrychfilod eraill megys magiod, y rhai a syrthiant i'w llwybrau, y tro iddynt. Ni warafuna neb iddynt gymmeryd at y rhywogaeth yma o greaduriaid, ond y maent yn gwneyd hafog ofnadwy mewn cnydau. Fel rheol ceir hwy yn preswylio mewn tir dwfn a da. Myn rhai pobl gredu eu bod yn rhoi help i awyru y tir, yr hyn beth sydd mor anglienrheidiol i'w ffrwythlondeb. Yn ddi- ammheu maent yn agoryd y tir, eithr ni wnant hyny ond pan font mewn ymchwil am bryfettach, a phan y bont felly y maent yn gwneyd drwg i'r carthffosydd drwy droi y dwr allan o'i lwybr iawn. Fel rheol ceir hwy yn tyllu yn agos i'r wyneb ac y mae eu pridd yn rhwystr mawr ar ffordd cryman y medelwr a'r bladur. Heblaw hyny torant wreiddiau planhigion. Dylid er pobpeth eu hymlid a'u cadw i lawr ac, os yn bossibl, eu dyfetha yn llwyr. Y mae amryw ffyrdd i ladd gwahadden fel i ladd ci. Fe ddefnyddir carfaglau o wahanol fathau. Mae y wifren wedi bod mewn ar- feriad er ys yn agos i ddeg mlynedd ar htigain, ac y mae yn gwneyd ei gwaith yn rhagorol os 1-1 C, gosodir hi mewn man iawn yn y llwybr newydd a dyr y trychfilyn. Mewn rhai engreifftiau mae carfaglau wedi eu troi o'r neilldu, ac abwydod wedi eu gwenwyno yn cael eu def- nyddio yn eu lie. Dywed rhai eu bod yn well na'r carfagl tra y mae yn hawddach eu defnyddio. Ond os ceir llaw fedrus o waddottwr yn defnyddio y naill neu'r llall o'r moddion a arferir, nid yn hir y bydd y cae cyn cael eu waredu oddiwrth y wahadden. G WADDOTTWR.
LLYFRGELL Y FFERMWR.
LLYFRGELL Y FFERMWR. Dylai y fferruwr, fel pawb eraill a ddylynant eu gorchwylion, gael ei oriau hamddenol. Os yw yn ddiwyd ar hyd y dydd teimla angen rhywbeth i'w ddifyru yn yr hwyr. Nis gallwn ddychymygu am well moddion difyrweh i ddyn sydd yn treulio cymmaint o'i amser yn yr awyr agored ar hyd y dydd, nag ychydig o ddarllen ymarferol. Wrth ddarllen ymarferol y golygwn—dar- llen rhyw lyfrau o synwyr ac addysg ar amaethyddiaeth—neu ryw fath arall o lenydd- iaeth er mwyn amrywiaeth-y rbai fo a'u tuedd i'w lesoli drwy roddi iddo feddyliau a phrofiadau goreu dynion ydynt wedi gwneyd amaethyddiaeth yn bwnc myfyrdod am amser hir, ac wedi rhoddi ffurf i'w meddyliau mewn ysgrifen. Tybia rhai nad yw yn angenrheidiol i'r ffermwr feddu dim Ilyfrgell. Nid ydym yn cydweled o gwbl a'r dynion hyny. Gan nad pa un a ydyw ef yn ddarllengar a'i peidio fe ddylai roddi eyfletistra i'w deulu i wella eu meddyliau a mwynhau eu hunain, ac fe dder- bynia les mawr ei hunan drwy ddarllen llyfrau. Fel rheol nid yw ffermwyr Ceredigion a Chaerfyrddin yn darllen rhyw lawer. Tybia rhai yn ein mysg os bydd ffermwr yn ddarllen- gar ei fod yn esgeulus o'i waith a manylion ei fferm. Camsynied mawr yw hyny, fel y dengys llawer o engreifftiau. Yn wir o'r ochr arall y mae y perygl sef fod yr hwn nad yw yn darllen llawer yn esgeuluso ei waith. Mewn geiriau eraill nis gwyr pa fodd i wneyd ei waith yn iawn os na ddarllena ryw lyfrau i'w gyfarwyddo. Nid oes brinder llyfrau da yn trin ar amaethyddiaeth yn Gymraeg a Seisneg, rhai yn trin ar anifeiliaid, ar gnydau, ar acbles, ar natur, ansawdd, ac amrywiaeth y tir, a'r modd goreu i'w ddiwyllio yng nghyd a phobpeth arall a ddaw dan sylw y ffermwr drwy gylch y ihvyddyn. Nid oes nemawr i gangen yn fwy awgryvniadol i'r meddwl na ffermwriaeth. Mae amrywiaeth nodwedd y tir a swyddogaeth bywyd yn ei wahanol ffurfiau yn bynciau o'r dyddordeb mwyaf yn bossibl, ac y mae y pethau hyn yn anhebgorol i'w gwybod i'r ffermwr. Maent yn anwahanol gyssylltiedig a'i waith, ac y mae yr amser wedi dod pan y mae yn fwy gofynol nag erioed iddo ddeall tD amgylchiadau byth-newidiol ei alwedigaeth, ac er mwyn eu gwybod byddai darllen yn gynnorthwy mawr iddo. Heblaw hyny byddai yn help iddo anghofio gofalon a gofidiau y dydd y rhai yn fynych a gant argraff an- nymunol ar y meddwl a'r corph. Mae yn llai pwysig i ddarllen llawer na darllen ychydig i bwrpas, a deall yr hyn a ddarllenir, a defnyddio y wybodaeth a geir trwy darllen. Beth bynag a gymmerir mewn llaw ymdrecher ddarganfod meddwl a rhediad y llyfr, neu y misolyn, neu y papyr wythnosol. Nid oes un ffordd yn well i gael gafael ar ffeithiau a gwybodaeth y pryd na thrwy ymgynghori a newyddiaduron amaethyddol, Etc yr ydym i raddau mawr yn ceisio gwneyd y JOURNAL o ddefnydd i amaethwyr. Wrth reswm mae ein cylch yn Gymraeg yngyfynedig iawn, er hyny nid ydym un wythnos yn colli golwg ar y fferm a'r ffermwr. Os troant i'n colofnau Seisnig hwy a gant fwy at eu harch waeth, ac yr ydym yn gobeithio eu bod yn darllen a defnyddio yr hyn a ymdrechwn roddi o'u blaen. Yr ydym yn byw mewn oes ag y mae yn rhaid darllen a deall pethau. Annichon i neb yn awr ddyfod yn y blaen yn dda os na pydd ei feddwl yn gweithio yr un pryd a'i gorph gan nad pa ryw waith a fydd mewn llaw ganddo.
Y PLEIDIAU GWLEIDYDDOL.
Y PLEIDIAU GWLEIDYDDOL. Yr ydym yn clywed dynion yn barhaus yn galw y gwahanol bleidiau gwleidyddol wrth wahanol enwau Ceidwadwyr, Whigiaid, Radicaliaid, ac yn ddiweddar maegenym blaid Barnellaidd sef canlynwyr Mr Parnell. Ceir miloedd o bobl hwyrach yn hollol anwybodus o ystyr a tharddiad yr enwau uchod. Dywed un Yr wyf yn perthyn i'r blaid hon neu i'r blaid arall; yr wyf o blaid yr Eglwys a'r Wladwriaeth." Ac meddai y nesaf, Yr wyf i yn un o'r rhai sydd yn credu y dylai pofrdyn ofalu am dano ei hun a neb arall." A bloeddia un arall, Yr wyf fi yn erbyn yr Eglwys, yn erbyn y Frenines, gweriniaeth noeth i mi, ac i lawr a phob hen sefydliad. Nid oes un adhos myned yn ol ym mhell i'w olrhain ac nid oes dim anhawsdra i gael allan ei darddiad, ac nid yw Parnellyddiaeth ddim ond newyddbeth. Cymmerodd yr enw Ceidwadwyr le Orange- men yn 1833 pan oedd cymdeithasau yr Orangemen yn cael eu hangefnogi. Ystyrir 0 fod pob un sydd yn pleidio egwyddorion Ceid- wadol fel gwrthdystwyr yn erbyn yspeiliadau gwladol a chrefyddol, ac a geidw ein sefyd- liadau yn ddiogel l'hag chwyldroadau a chyf- newidiadau byrbwyll a pheryglus. Daeth yr enw i yiuarferiad yn 1836, ac yn 1840 øefyd- lwydyClwbCeidwadolcyntaf. Panycyhuddodd yr aelodau Gwyddelig Syr Robert Peel o fod yn Orangeman addefodd ei fod yn Geidwadwr. Oherwydd i Syr Robert Peel, Mr Gladstone, Syr James Graham, ac eraill gyfnewid eu golygiadau ar Ddeddfau yr Yd, &c., ymranodd y Clwb, ond parhaodd y ddwy blaid i alweu hunain yn Geidwadwyr. Yr oedd pleidwyr yr Arglwydd Lincoln, yr hwn oedd am gadw yr Undeb yn America yn gyfan, yn Geidwad- wyr. Defnyddiwyd yr enw cyntaf yn amser Siarls II. Galwyd yr ochr arall, pleidwyr y Llys, yn Doriaid. Yr oeddynt yn eu cyffelybu i'r yspeilwyr Pabyddol yn y Werddon. Ar y Daw arall Larna McFarlen a Thompson lDai I llysenwau oeddent a ddefnyddiwyd yn lie Cavalier a Roundhead. Defnyddiwyd yr enw Tori, meddai yr haneswyr hyn, yn 1678 fel anfri ar Dduc Caerefrog a'i gyfeillion am eu bod yn ymddybynu ar y Gwyddelod, yr hyn oedd yn arwyddocau bog trotter neu fel oedd y Gwyddelod yn ei alw torbhee. Ym mhen blwyddyn ar ol hyny talodd pleidwyr y Due y pwyth a rhoddasant yr enw Whig i'w gelynion yr hwn sydd air Ysgotaidd am laeth maidd sur." Nis gellir ymddybynu ar y naill mwy na'r llall o'r haneswyr hyn oblegyd eu bod yn bleidiol. Yn amser y ddadl fawr yn y Senedd ar Ddeddfau yr Yd galwyd y rhai oedd yn erbyn eu dilead yn Ddiffyn-noddwyr. Arglwydd George Bentinck oedd eu harweinydd yn 1846. Mae diffyn-noddiaeth yn America yn golygu diffyn-noddaeth i law-weithyddiaeth frodorol. Defnyddiwyd dau enw arall mewn cyssylltiad a gwleidyddiaeth—Rhyddfrydwr a Radical. Dechreuwyd defnyddio yr enw cyntaf tua'r un amser a'r gair Ceidwadwr, a'r olaf yn 1816. Yn eu plith yr oedd Syr Francis Burdott, Arglwydd Cochrane, William] Cobbett, a Syr Ubarles Dilke. Edrycha dynion yn ein hoes ni ar y geiriau Toriaeth a Cheidwadaeth fel geiriau cyfystyr; nid oeddent yn cael eu hystyried felly ar y dechreu. Nid oes dim gwahaniaeth heddyw rhwng Ceid- wadaeth Ardalydd Salisbury a Whigiaeth i Walpole. Yr oedd y Whigiaid yn pleidio rhyddfreiniaid pob dosparth, felly mae y Ceidwadwyr. Y diweddar Iarll Beaconsfield, roddodd yr etholfraint i'r gweithwyr yn y bwrdeisdrefi. Yr oedd mesur ymeangiad yr etholfraint yn y siroedd yn perthyn cymmaint i'r Ceidwadwyr ac i'r Rhyddfrydwyr yn ol tystiolaeth y Radicaliaid eu hnnain. Yr oedd y Whigiaid yn credu mewn diwygiadau seneddol felly y Ceidwadwyr. Cofiwch nid Whigiaeth yw Radicaliaeth, Gladstonyddiaeth I a Pharnellyddiaeth. Mae cymmaint o wahan. iaeth rhyngddynt a dydd a nos. Mae y Ceidwadwyr a'r Whigiaid sydd heb heb blygu eu gliniau o flaen delw Penarlag yn pleidio y cyssylltiad l'hwng yr Eglwys a'r Wladwriaeth ac am gadw undeb y Deyrnas Gyfunol yn gyfan pan mae Jacobyniaeth a Gwyddelydd- iaeth y Gladstoniaid, y Parnelliaid, ac aelodau Cymru Fydd am ddadyuichwelyd pob peth mewn Llan a Llys, dinystrio hen sefyd- liadau gegoneddus, symmud hen fliniau. Mae Ceidwadaeth yn credu mewn diwyg- iadau ond nid mewn dinystrio ac yspeilio meddiannau yr Eglwys a'i thiroedd. Mae vn credu mewn amddiffyn ein llesiant cartrefol ac oddicartref, a dal i fynu allu ac urddas y Wladwriaeth. Mae yn credu mewn rhyfel pan mae yn angenrheidiol ac nas gellir ei ochelyd. Nid yw yn barod i sefyll yn ddifater ac edrych ar y faner Brydeinig yn cael ei Ilusgo trwy y JIaid fel y gwnawd yn y Transvaal pan oedd Mr Gladstone yn Brif- weinidog. Nid yw yn arfer ymgyfathracb-u a chyfreithdorwyr a theyrnfradwyr fel y gwnawd yn Kilmainham. Creda y Gladstoniaid a'u cyngrheirwyr mewn tinceriaeth wleidyddol. Y mae rhyw Eglwys yn barhaus ag eisieu ei hollti; rhywbeth i'w gyfnewid mewn sefyd- liadau a chyfreithiau yn ddibaid. Dyledswydd Ceidwadwyr ac Undebwyr ydyw attal y Jehuiaid gwleidyddol o fewn terfynau pan maent yn gyru yn ynfyd ar ben dibyn peryglus. Dyledswydd arbenig y „J^Vasg Geidwadol ac Undebol ydyw paro yffcwyr- gylch wleidyddol o'r nwy peryglus sydd yn hofran o gwmpas ac yn bygwth gwenwyno y Cyfansoddiad Prydeinig a phob hen sefydliad.
AELODAU SENEDDOL CYMREIG A'U…
AELODAU SENEDDOL CYMREIG A'U PLEIDLEISIAU. Ymddengys oddiwrth restr o'r pleidleisiau a roddwyd yn y senedd yr Eisteddiad diweddaf mai y Meistriaid T. E. Ellis, L. L. Dillwyn, a D. Thomas a roddasant fwyaf, a Mr C. R. M. Talbot leiaf o bleidleisiau.
DEFFRO AR OL PAROTOI ANGLADD.
DEFFRO AR OL PAROTOI ANGLADD. Ar ol amryw ddyddiau o salwch dygn, rhoddodd y meddygon hysbysrwydd fod merch ieuanc o Elkart, Indiana, America, wedi marw. Yr oedd curiadau ei chalon a'i gwyth- enau yn ammhosibl i'w canfod: ei llygaid mor sefydlog a'r gwydr, a'i gen wedi syrthio. Prysurodd ei thad i le 35 millder oddiyno, archodd am dori bedd, a gwnaeth bob parotoad at yr angladd. Gyda chalon brudd nesaodd at ei gartref, pryd, er ei fawr lawenydd, yr hysbyswyd ef fod ei fercli wedi dihuno yn ei hamdo, ac yn gwella yn gyflym. Mae yr achos yn un dyrys iawn ac wedi creu cryn chwilfrydedd a siarad.
TYWYSOG A THYWYSOGE3 CYMRU.
TYWYSOG A THYWYSOGE3 CYMRU. Dywed yr Oswestry Observer y bwriada Tywysog a Thywysoges Cymru dalu ymweliad 0 Z5 a'r Dywysogaeth y flwyddyn nesaf a gweled 15 amryw leoedd yn ystod eu harosiad.
BABAN RHYFEDD.
BABAN RHYFEDD. Yn nhref fechan Warren, yn yr America, y mae baban rhyfedd, yr hwn sydd tuhwnt i allu meddygon i'w ddeall. Ganwyd ef ar y nawfed o Fehefin diweddaf, a phwysai 12 pwys pan y 'i ganwyd. Yr oedd i bob ym- ddangosiad yn eithaf iach, a'i aelodau a ffurf ei gorph yn gyflawn a pherffaith oddigerth fod ei amrantau a'i dalcen a chwydd ynddynt. Am ddenddydd ar ol ei eni criai y plentyn yn eubyd, ond ar yr unfed ar ddeg o Fehefin syrthiodd i gwsg trwm ac nid yw byth wedi dihuno, na chrio nac agor ei lygaid hyd eto. Y mae yn iach, ac yn tewhau bob dydd. Cymmera fwyd llwy yn rheolaidd bob dydd ac ymddengys yn hoff o'i gael. Ond y mae pob cynnyg i'w ddihuno wedi methu. Dywed y doctoriaid na welsant achos o'r fath erioed o'r blaen ac nid oes ganddynt unrhyw esponiad i'w roddi yn ei gylch.
LLANINA.
LLANINA. Y fath swyn sydd mewn cwpanaid o de da a thafell neu ddwy o'r deisen frau i fechgyn a merched ein hysgolion Sul. Ac nid yw yr hynafgwyr a'r hynafwragedd yn cashau dim o bonynt chwaith. A dyna, mae'n debyg, oedd teimlad yswain Llanina (Capt. Longcroft) a'i wraig serchog, wrth feddwl am roddi gwledd o de i ysgolion Sul Llanina a Llanarth ar y 29fed o'r mis diweddaf. Yr oedd yn ddiwrnod hyfryd, a huliwyd y wledd mewn cae yn ffinio a'r palasdy. 0 ganol dydd hyd bump o'r gloch gwelid pob math ar gerbydau yn dylifo at y lie yn dwyn pob oedran a rhyw ynddynt —a'r oil yn westeion i Capt. a Mrs Longcroft y rhai gyda gwen a gair sercbog a wnaent bawb i deimlo yn gartrefol ar unwaith. Eisteddodd oddeutl1 400 i lawr wrth y byrddau ac amlwg oedd i bawb wnyd cyfiawnder a'r danteithion. Wedi cyfranogi o'r te aetbpwyd i lawr at y traeth He yr ymddifyrwyd mewn chwareuon o amryw fathau, a Mrs Longcroft yn barod bob amser a'i chod fawr i gyfranu y gwobrwyon i'r ennillwyr. Pan oedd yr haul yn oleddu at y gorwel dechreuwyd meddwl am ymwasgaru, ond nid cyn rhoddi diolch dyladwy i'r boneddwr a'r foneddiges am eu caredigrwydd, a mynegu dymuniad i fwynhau diwrnod a gwledd o'r fath eto. Ym mhlith yr ymwelwyr oeut yno yr oedd Rheithor Llanllwchaiarn a Mrs Griffiths, Ficer Llan- dyssilio a Mrs Richards, Ficer Walton East, Mrs Jones a Miss Griffiths Ficerdy Llanarth, a Churad Llanarth a Mrs Thomas, a Churad Llanllwchaiarn.—MYDROILYX.
CYNWYL ELFED.
CYNWYL ELFED. GWEITHRED GYIVRAIN AR FUWCH.- Y I' oedd buwch werthfawi- genyf yr hon a ddysgwylid i ddyfod a 110 oddeutu Awst y cyntaf eleni. Gwelwyd fod rhywbeth allan o le arni yr wythnos ddiweddaf ym Mehefin ac ar y 4ydd o Orphenaf yr oedd yn amlwg ei bod ar fwrw ei llo, gan ei bod wedi bwrw ei brych dii diwrnod cyn hyny. Ceisiwyd cynnorthwy rueddygon anifeiliaid mwyaf inedrus yr ardal ond gwelwyd ei bod yn ammhossibl i ryddhau y fuwch mewn un modd. Clywodd Dr. J. Ellis Edwards o'r lie hwn am y peth ac yn garedig liawn a gynnygiodd ei wasanaeth a daeth i'w gweled boreu Gorphenaf y bummed. Ar ol archwiliad manwl o'i eiddo ef ei hun yng nghyd a Dr. Roberts, ei gynnorthwywr, 0 It, gwelsant taw ammhossibl oedd rhyddhau y fuwch yn y dull cyffredin a chan nad oedd ond un peth i'w wneyd er ceisio achub bywyd y fuwch penderfynasant ei fabwysiadu, sef gwneyd yr hyn a elwir gan feddygon yn Cajsarean operation, hyny yw, tynu y 110 allan trwy ei hochr. Clymwyd y creadur a gwnaed agoriad trwy'r croen a'r cnawd yn yr ochr ddeheu ac hefyd yn y cwd llo. Daliodd Dr. Roberts y coluddion mewn lliain, tra yr oedd Dr. Edwards wrth y gorchwyl o dynu y llo allan, dodwyd y coluddion yn ol a gwnïwyd yr archoll. Y mae yn beth rhyfedd i'w gofnodi fod y fuwch wedi gwella yn hollol ac yn tewhau yn flyn-i.J. T. EVANS, Plasnewydd, t,Y Cynwyl.
LLANDYBIE.
LLANDYBIE. Cic FARWOL.-Dydd Llun diweddaf bu farw dyn ieuanc o'r enw David Thomas, o'r lie hwn, glowr wrth ei alwedigaeth, yr hwn oedd wedi derbyn cic yn ei gylla gan geffyl ryw wytbnos yn flaenorol.
LLANWRIN.
LLANWRIN. Gyda gofid a galar yr ydym yn cofnodi y ddamwain angeuol a gyfarfuodd Mrs Silvan Evans, gwraig y Canon Silvan Evans, Rheithor Llanwrin, a'r Cymreigyddlenwog. Dygwydd- 11) C5 odd yr amgylchiad galarus nos Wener di- weddaf. Yr oedd Mrs Evans wedi bod ar ymweliad a Dolynog yn ystod y dydd, ac yn dychwelyd oddeutu hanner awr wedi saith yn yr hwyr. A th y ceffyl yn aflonydd, ac wrth geisio neidio allan o'r cerbyd syrthiodd Mrs Evans ar ei phen, a bu mewn cyflwr o anym- wybyddiaeth hyd y bu farw, yr hyn a gym- merodd le yn y Lion Hotel drannoeth. Yr oedd Mr Helby, Dolynog, yn y cerbyd befyd, a thaflwyd yntau ond ni chafodd nemawr niwaid. Yr oedd Mrs Bowen, o Lerpwl, merch yng nghyfraith i Mrs Evans, gyda'i mab ieuengaf yn y cerbyd yn ogystal, ond cadwasant hwy eu lleoedd yn y parth ol. Rhuthrodd yr anifail i lawr drwy Heol Maengwyn ac o'r diwedd bwrodd i fewn i'r Lion Hotel, gan gwympo o'r tu fewn i'r drws, ond diangodd mewn modd gwyrthiol yn ddi- anaf. Wedi cadw incwest ar y corph cludwyd ef i'r Rheithordy. Cludai cerbyd Ardalyddes Londonderry aelodau y teulu. Cydgerddai Mr Joseph Evans, Fronygog, yng nghyd ag Z5 a ZD amryw foneddigion eraill, a'r cynhebrwng i Lanwrin. Cyfarfu nifer mawr o blwyfolion hiraethus a'r gweddillion wrth y ty. Cydym- deimlwn yn fawr a'r Canon Evans, yr hwn sydd yn nyfnder ei hiraeth a'i enaid yn galaru ynddo. 0 fewn y ddwy flynedd ddiweddaf y mae wedi gorfod gweled claddu dau o'i feibion, y rhai oeddent ym mlodau eu dyddiau ac yn wyr enwog yn eu galwedigaeth, ill dau yn feddygon medrus, y naill yn Lerpwl a'r llall yn Fflint. Yn awr eto gwel roddi y dy- warchen ar fedd y goreu o wragedd a mamau, un a feddai galon fawr ac eang. Bydd y golled ar ei hoi yn y gymmydogaeth yn an- adferadwy. Dim ond un mab i'r ysgolor a adewir ar ol i'w gysuro yn ei hen ddyddiau.
DADL Y FFERMWYR.
DADL Y FFERMWYR. Gwilym- Y mae yn dda geayf gael cyfarfod a chwi nnwaith eto ni chawsom un pwt o ddadl nag araith er ys amryw fisoedd bellach. Pa fodd mae pethau yn myned ym mlaen yn y byd gwleidyddol ? Beth sydd yn dy flino di Ifor 1 Yr wyt yn edrych yn surllyd ac yn anfoddog ofnadwy heddyw. Ifor-Y mae yn ddigon i yru dyn o'i go' wrth weled pobl y Gogledd yn talu cymmaint o barch ac anrhydeddu y Frenines mor fawr yn lie ei hwtio fel yr awgrymodd Mr Gee. IIywel-Trodd cynghor Mr Gee allan fel cynghor Ahitophe], yn siomedigaeth chwerw iddo ef. Yn lie dyfod allan i hwtio ein Grasusaf Frenines trodd y Cymry allan i floeddio o lawenydd, "Duw gadwo y Frenines," a Bydded iddi gael hir oes i lywio ei theyrn- wialen a chiliodd cwn duon Dinbych o'r golwg. Yn lie melldithio y Frenines daeth tyrfaoedd allan i'w bendithio. Rhoddir coeg- ddysgrifiad o Mr Gee yn y papyrau yn ym- guddio yn ei fotasau a'i Fetner yn y llaid. Gwrthododd gweinidogion yr Ymneillduwyr blygu pan glywsant chwibanogl a dulshner Dinbych yn seinio. Dangosasjant eu bod yn meddu barn o'u eiddo eu hunain ac annibyn- iaeth, ac nad oeddent yn barod i rwymo eu hunain wrth olwynion cerbyd y Haner, a chymmeryd eu llusgo trwy gorsydd lleidiog annheyrngarweh, ddim mwy na teidiau. Morus- Yr oeddwn yn credu ein bod ni fel cenedl yn bleidiol i Weriniaeth ond cawsom ein siomi yn aruthrol yr wythnos a aetli heibio. Cadwgctn-Yr wyf yn gwadu fod y Cymry yn werinwyr. Diflana brwdfrydedd y rhai sydd yn arfer ymffrostio mewn gweriniaeth o flaen breninoliaeth feI niwl y boreu ar ben y Mynydd Du. Er i'r Cymry gael eu gorchfygu 0 Z5 gan Iorwerth Hirgoes, nid oes genedl wedi bod mor deyrngarol a hwynt. Dywedir yng ngwaith Huw Morris yr ymladdasai y Cymry dros y Goron pe buasai ar ben post llidiart, ac y mae yn dda genyf weled fod yr hen dan hcb ddiffodd ym mynwesau ein cydwladwyr. Dewi Mae y boneddigion yn ffafrio breninoliaeth am eu bod yn cael gwell eyfleu i ormesu dan freninoliaeth na than werin- iaeth. Nid oes dim diolch iddynt hwy. Gwilym-Yn amser y Gwrthryfel Mawr yr oedd y ffermwyr yn deyrngarwyr o'r bon i'r brig. Gi •uffydd—Pan aeth milwyr Cromwel i gymmeryd Morus Llwyd y Dyrnwr gwnaeth i hanner dwsin o honynt gusanu y llwch. Yng Nghymru yr ymladdwyd y frwydr olaf o blaid y brenin, yn Llan Sant Ffagan; cochodd eu gwaed yr afon Lai o'r lie uchod i'r mor. Dewi Mae John Jones, Observatory Cottage, un o ysgrifen wyr y Western Mail, yn bygwth dadleni bywyd y tirfeddiannwyr. Mae yn rhaid ei fod yn ddrwg. Gruffydd—Nid wyf yn credu fod un gyfrinach ganddo i ddadleni. Yr wyf yn dy- wedyd hyn gyda phob dyledus barch i "John Jones." Nid oes achos i dirfeddianwyr Cymru ofni un dynoethiad. Gwyr ef eu bod yu haelionus i'r Eglwys. Hwy fu yn foddion i addysgu y werin cyn bod un Bwrdd Ysgol i'w gael. Yn sir Gaerfyrddin, y tirfeddiannwyr oedd yn porthi y newynog, yn dilladu y noeth, ac addysgu yr anwybodus. Y mae yn ddrwg genyf fod boneddwr o'i alluoedd ef yn ymuno yn yr ymosodiad ar y boneddigion. Pan gyll y call fe goll ym mhell." If ox—Gwelais mewn papyr newydd fod yr Undeb yn gwanychu, ac yn ol pob anvyddion nis gall ddal ei dir yn hir. Hywel Breuddwyd gwrach wrth ei hewyllys. Nid oedd dim un arwydd i'w weled pan dorwyd y Senedd i fyny fod yr Undeb yn dangos arwyddion o wendid. Nid oes dim un ammheuaeth na charai y Gladstoniaid a'r Parnelliaid weled yr Undeb yn cael ei dori i fyny. Mae yr Undeb yn rhy gryf i'w ddad- ymchwelyd; yn lie gwanhau y mae yngiyfach nag oedd yn 1887. Dafydd- Y sgrifeodd gweinidog o For- ganwg at Mr Gladstone o barth i ddadgys- sylltiad yr Eglwys yng Nghymru, ac fe ddaw ei thro hi. Cadwgctn-Cafodd y pregethwr y cyfeiri di ato ei ddwyn i fyny yn ysgol yr Eglwys pan yn ieuanc. Yr wyf yn gwybod am lawer un sydd yn awr yn codi ei sodlau yn erbyn y clochdy a gafodd ei bortlii a'i ddilladu gan offeiriaid. Gall yr Eglwys ddywedyd yng ngeiriau y prophwyd, Megais a meithrinais feibion y rhai a wrthryfelasant i'm herbyn." Morus Dywedwyd yng Nghynadledd Ystalyfera yr wythnos ddiweddaf fod yn gywilydd fod y wlad yn gorfod gwaddoli merch Tywysog Cymru. Gwüym-Ni chostiodd ddim pibellaid o dybacco i lowyr Cwm Rhondda na gweithwyr Ystalyfera. Paham na fuasai Mabon yn codi ei lais yn erbyn gwastraffu arian y wladwriaeth i gyfieithu ac argraphu Deddf y Cyngborau Sirol er mwyn mwythfoddio ysgraglach Cymru Fydd? Ifor-Y mae y Ddeddf yn Gymraeg yn gaffaeliad mawr i'r Cyrnry. Gallant ddarllcu 0 yr Act yn eu hiaith eu hunain. Cadwgan-Aelodau y Cynghor Sirol yn analluog i ddarllen Saesoneg Deillion yn arwain deillion. Nid oedd hyn yn un anrhydedd i Gymru; ond y gwirionedd yw nid oedd neb yn gofyn am gael yr Act yn Gymraeg. Nid oes dim ugain copi Cymraeg wedi cael ei werthu yn y swyddfa seneddol hyd yn hyn Ifor—Beth yw eich barn am ein haelod seneddol newydd ni yr hwn a etholwyd yn lie Mr Powell 1 llywel-Nid oes gan neb ddim i'w ddyweyd yn erbyn yr aelod newydd dros y rhanbarth yn bersonol; ond nid yw efe fel cynnrychiol- ydd ffermwyr ddim gwell na phriddfaen ysgwar mewn twll crwn. Mae yn syndod na all siroedd Aberteifi, Caerfyrddiu, a Phentro gael cynnrychiolwyr allan o'r dosparth amaeth- yddol yn lie cyfreithwyr ond beth dal siarad pob un at ei archwaeth, chwedl y Gwyddel hwnw pan yn cusanu yr hwch. Y gwirionedd yw mae gwir angen am oleuo yr amaethwyr a'r llafurwyr yng Nghymru sydd yn awr fel deillion yn pino eu credoau wrth lewys eu cymmydogion call. Nos dawch, y mae yn bryd tori i fyny. Ifot-Nos dawch bydd y cyfarfod nesaf yn y Ty Coch. Dewch i glywed darlith John James, D.D., nos Iau nesaf yng Nghapel yr Hollt. Gadwgan—Cwac cwac Dylai pobl Llan- gorffen roddi ffust a golchffon yn lie gyru yr hwlcyn anwybodus a'i goler am ei war am draws y wlad.
YR HEDYDD.
YR HEDYDD. Yn chwim yr a trwy'r nef uii chben, Gan ysgafn hwyiio'n awyr nen. Fel bwled byw yn hollti'r gwynt Yw'r 'hedydd bach pan ar ei bynt. Esgyna'n syth o ben y bryn, Ymolcha yn y ewmwl gwyn Chwareua fry ar gauau'r nen, Gan chwiban uwch pob gwae a sen. Cbwareua ei adenydd aur, Yn nhyner wres yr buan claer; Esgyna fryd hyd enrborth gwawl, Ac eilia yno gan o fawl. /.J Pan ddaw yn ol oddiar ei daitb, Gan wanu trwy y wybren faith I ben y bryn is cangen werdd, Bydd swn y nefoedd yn ei gerdd. Y. V.
Y LLYGAD.
Y LLYGAD. Y Llygad sy'n berlyn byw-a lenwir Gan oleuni gloyw Aelod od i wel'd ydyw, Cynnil iawn ac auwyl yw. TYDAIN.
PALAS NANTEOS.
PALAS NANTEOS. Nanleos hoff, hen gartref y Poweliaid, Yng nghyd a'u bachau ydynt yn fendigaid, Ar fonwes Ceredigion am en rhinwedd, Eu pnr wladgarwch a'u didor baelfrydedd; Eu palas hwy nis gellir ei anghofio Am fod enwogrwydd yn goron-bleth arno, Ei gedyrn furiau, gyda'i onglaufcelfydd, Ei ystafelloedd euraidd ac ysblenydd A. feddant urddasoldeb sydd yn para Fel urddasoldeb un o gestyll Gwalia, Ei harddwch sydd yn colli drwy ei ddoraa Fd collai gwrid y wawr dros aur gymylau Pan bydd yr haul yn agor dornu'r dwyrain, Yng ngwisgoedd enraidd ei ogoniant mirain, Ei goed a'i geryg ydynt gyssegredig, A'i ymddangosiad sydd yn wir foneddig; Os yw yn ben, mae ynddo ryw dlysineb Sy'n cadw ei fodolaetb mewn newydd-deb, Fel pe bae rbyw guddiedig fywyd ynddo, Er cadw ei wneuthuriad heb heneiddio; Os yw y dwylaw fuant yn ei godi Yn ddiymadferth, mae eu celf a'u hyni 0' Yn aro3 yn y palas mewn eglurdeb, Fel drych o'u hynigais gynt am anfarwoldeb, Oblegid mae cadernid muriau palas Yn ffurfio rhan arbenig yn ei urddas- A gwir gadernid yw'r gogoniant ItwDw Sy'n aros ar y ddaear byth yn loew. O" Columbia." T. C. BENJAMIN.
BEDDARGRAFF
BEDDARGRAFF A ysgrifenwyd flynyddau yn ol i dair o ferched ieuainc o'r Cei Newydd ar gais eu mam. Nis gwn a ydyw i'w weled mewn monwent yno a'i peidio. I ddi-loes fedd Eliza, --Adelaide, A'r dlos Maggie Brenda Ddodwyd-adgof ddyweda- Wele dair anwyl a da. E.
Y CRYCHYDD.
Y CRYCHYDD. Un teneu, brych, yw'r cryebydd,-oer leisiwr Ar lasiad y wawr ddj4td Un hirgoes, garw, salw sydd Ar finion yr afonydd. Ar ei wib-daith ymaith ii,—a'i olwg Am chwilod i'w bwyta, Un yw a ddeil bysg yn dda, y A filain am ei fola. T. THOMAS (Gwenog.)
Y GO RON DDRAIN.
Y GO RON DDRAIN. Gwnaed i Eneinniog neu—Y Goron Ddrain. Gerwin ddrych cenfigen A gwawd byd yn gwaedu 'i ben o drywaniad pob draenen. WATCYN WYN.
Y TAD IGNATIUS A'R IAITH GYMRAEG.
Y TAD IGNATIUS A'R IAITH GYMRAEG. At Olygydd Y JOURNAL. SYR,—Yng nglyn a gweithrediadau'r Eis- teddfod ddiweddar yn Aberhonddu, traddod- odd y Tad Ignatius un o'r annerchiadau mwyaf bombastaidd a flfol a draddodwyd ei-ioed ar esgynlawr eisteddfodol, ac yr wyf yn gobeithio y bydd yn wers i'r pwyllgor o hyn allan i bwyso yn dda cyn derbyn cynnygiadau oddi- wrth neb. Nid oedd annerchiad y Tad yn anrhydcdd mewn unrhyw ffurf i'r Eisteddfod Genedlaethol. Cyn y medr unrhyw ddyn geryddu pechod ei frawd, y mae yn ofynol 5 iddo fod yn ]an ei hunan. Meddai y Tad Pe bawn i yn eich lie chwi (sef y rhieni) ni oddefaswn i blentyn i nu siarad gair o'r iaith Seisoneg. Dysgent hi fel iaith casglu arian." Y mae genyf gymmaint o barch i'r hen iaith a neb, ond nid wyf nior benboeth a'r Tad yn gwabardd plant i ddysgu Seisoneg. Hoft'wn yn fawr pe meddwn fwy gwybodaeth am y Seisoneg, am fod llenyddiaeth yr iaith hono mor ammrhisiadwy. A yw y Tad ei hunan wedi dysgu ychydig ar rammadeg y Gymraeg ? A yw wedi gwneuthur rhywbeth er cael orgraff unffurf iddi yulle ein bod mewn penbleth fel ag yr ydym, a phob hogyn difarf a'i fympwy ei hun yn sillebu yr hen iaith 1 A yw y Tad erioed wedi ysgrifenu traethawd neu bregeth yn Gymraeg? Nid digon yw rhoddi annerchiadau i'r teimlad," ond y mae yn ofynol i ni yn y dyddiau hyn i gael rhyw- beth sylweddol. Fel y dywedodd y Parch. Mr Rees, curad Eglwys Sant Dewi, boreu dydd Sul diweddaf, ein bod yn rhy barod i gredu pob hen ystoi-iau ac y dylem bwyso pobpeth yn y glorian. Clywir y dyddiau hyn gryn ymffrost am araith y Tad, a'i fod yn Gymro o'r Cymry; a'i fod yn dymuno pob llwyddiant i'r hen iaith barhau. Os yw, deued allan ynte a rhywbeth yn. Gymraeg fel y gwyddom ei fod yn caru ein cenedl ni. MYRDDINFAB. [Yr ydym yn mawr hoffi y Tad Ignatius ar lawer cyfrif; y mae ei zel, ei frwdfrydedd, ei hunan-ymwadiad, ei benderfyniad, ei ar- ferion ymattaliol (cyn belled ag y mae a fyno'r corph a'r mater) a'i ddyhewyd, yn deilwng o efelychiad. Ond wrth geisio bwrw un cythraul allan y mae perygl i un gwaeth nag ef fyned i mewn i'w le. Yr ydym o'r farn na thradd- odwyd annerchiad cuhch nag eiddo y Tad erioed oddiar lwyfan eisteddfod. Yn ddiau mae yn fendith nad yw yn cael ei "anrhydeddu" yn ami a'r "caniatad" y cyfeiriai atto yn ei araith. Y mae y Tad Ignatius er ys blynyddau wedi bod yn ceisio prynu" y Methodistiaid; ac yr oedd yn amlwg ei fod yn cadw llygad arnynt hwy yn Aberhonddu. Mae ei lygad er ei fod yn fynach," mor gyflym i weled ei fantais a'r neb y gwyddom am dano.—GOL.]